Finance and Establishment
17/02/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi
Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi
17.2.2025
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd) Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Alun Williams Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Brian Davies Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Jeff Smith Cyng. Umer Aslam Cyng. Owain Hughes (cyrraedd am 6:59pm)
Yn mynychu Cyng. Mark Strong Cyng.Mair Benjamin Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) Carol Thomas (Cyfieithydd) |
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair) Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Alun Williams Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Brian Davies Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Jeff Smith Cllr. Umer Aslam Cllr. Owain Hughes (arrived 6:59pm)
In attendance Cllr. Mark Strong Cllr. Mair Benjamin Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: · Dim
|
Apologies and Absences
Absent with apologies: · None |
|
3 | Datgan diddordebau:
Dim |
Declarations of interest:
None
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
· Cyfarfu Cyng. Maldwyn Pryse â Rhun ap Iorwerth AS ac Elin Jones AS yr wythnos diwethaf i drafod y Trethi Busnes uchel yn Great Darkgate St, Aberystwyth. Diolchodd Cyng.Talat Chaudhri i Cyng. Maldwyn Pryse am godi’r mater hwn.
|
Personal references:
· Cllr. Maldwyn Pryse met with Rhun ap Iorwerth MS and Elin Jones MS last week to discuss the high Business Rates in Great Darkgate St, Aberystwyth. Cllr. Talat Chaudhri thanked Cllr Maldwyn Pryse for raising this issue.
|
|
5 | Ystyried Cyfrifon Mis Ionawr
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon. |
Consider January Accounts
It was RECOMMENDED to approve the accounts.
|
|
6 | Awdurdodiad deuol ar gyfer taliadau ar-lein
Dim ond trwy wasanaeth Bankline NatWest y gellid sefydlu awdurdodiad deuol. Byddai angen sefydlu cyfrif ar y gwasanaeth hwn er mwyn gweithredu awdurdodiad deuol. Byddai goblygiadau cost i hyn, fodd bynnag byddai hyn yn dibynnu a oedd y Cyngor wedi’i gofrestru fel cyfrif Busnes neu Gymuned. I gael rhagor o wybodaeth gan NatWest. |
Dual online payment authorisation
Dual authorisation could only be set up through NatWest’s Bankline service. An account on this service would need to be set up for dual authorisation to be implemented. There would be a cost implication to this, however this would depend on whether the Council was registered as a Business or Community account. Further information to be sought from NatWest.
|
|
7 | Ychwanegu llofnodwyr awdurdodedig at fandad banc y Cyngor
PENDERFYNWYD, dan bŵer dirprwyedig 1 o’r Cynllun Dirprwyo, ychwanegu Cyng. Emlyn Jones a Dylan Lewis-Rowlands fel Maer a Dirprwy newydd, os caniateir hynny yn y Rheolau Sefydlog. Fel arall, gellir ychwanegu’r Cyng. Kerry Ferguson fel Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Cyllid. |
To add authorised signatories to the Council’s bank mandate
It was RESOLVED, under delegated power 1 of the Scheme of Delegation, to add Cllrs. Emlyn Jones and Dylan Lewis-Rowlands as the incoming Mayor and Deputy Mayor, if this was permitted by Standing Orders. If not, Cllr. Kerry Ferguson would be added as Deputy Chair of the Finance Committee.
|
|
8 | Byrddau a phortreadau’r Meiri
Angen costau ar gyfer ychwanegu enwau Meiri’r gorffennol yn ogystal â rhai newidiadau i sillafu anghywir.
Mae angen dyddiad ar gyfer holl Feiri’r gorffennol nad oes ganddynt bortread ar hyn o bryd i ddod i mewn i swyddfa Cyngor Tref Aberystwyth ar gyfer eisteddiad portreadau. |
Mayoral boards and portraits
Costs were required for adding the names of past Mayors as well as some amendments to incorrect spellings on the Mayoral inscription boards.
A date was needed for past Mayors who currently do not have a portrait to come into the Aberystwyth Town Council office for a portrait sitting.
|
|
9 | Cyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol tymhorol
ARGYMHELLWYD cymeradwyo gwariant amcangyfrifedig o £19,115 o gyllideb Glanhau Strydoedd 2025-26 i gyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol ychwanegol o fis Ebrill i fis Medi.
ARGYMHELLWYD ymhellach cymeradwyo gwariant o £2,940 i gyllideb Glanhau Strydoedd 2024-25 i gyflogi’r aelod hwn o staff o ddechrau mis Mawrth.
Awgrymwyd ymestyn y gyflogaeth hyd at ddiwedd mis Hydref, i’w drafod gan y Cyngor Llawn. |
Employment of a seasonal Environmental Assistant
It was RECOMMENDED to approve estimated expenditure of £19,115 from the 2025-26 Street Cleaning budget to employ an additional Environmental Assistant from April to September.
It was further RECOMMENDED to approve expenditure of £2,940 to from the 2024-25 Street Cleaning budget to employ this member of staff from the beginning of March.
It was suggested to extend the employment to the end of October, to be discussed by Full Council.
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council Agenda |
10 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
Dim | None |
Daeth y cyfarfod i ben am 19.01. The meeting was closed at 19.01.
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery
Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
12.2.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun, 17.2.2025 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday 17.2.2025 at 18:30.
AGENDA
|
||
1 | Yn bresennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
3 | Datgan Diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau Personol | Personal references |
5 | Ystyried cyfrifon mis Ionawr | Consider January accounts |
6 | Awdurdodiad deuol ar gyfer taliadau ar-lein | Dual online payment authorisation |
7 | Ychwanegu llofnodwyr awdurdodedig at fandad banc y Cyngor | To add authorised signatories to the Council’s bank mandate |
8 | Byrddau a phortreadau’r Meiri | Mayoral boards & portraits |
9 | Cyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol tymhorol | Employment of a seasonal Environmental Assistant |
10 | Gohebiaeth
|
Correspondence
|
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details