Full Council
01/06/2026 at 6:30 pm
Minutes:
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| Gadawodd Cyng. Emlyn Jones y gadair, a PENDERFYNWYD bod Cyng. Jeff Smith yn cadeirio’r cyfarfod. | Cllr. Emlyn Jones vacated the chair, and it was RESOLVED for Cllr. Jeff Smith to chair the meeting. | ||
| 33 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Emlyn Jones Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Julien Brun Cyng. Lucy Huws Cyng. Alun Williams Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Dani Thomas Cyng. Mark Strong Cyng. Glynis Somers Cyng. Nishant Chandolia Cyng. Felix Lorenze Cyng. Brian Davies
Yn mynychu: Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) Emrys Meredith (Aelod o’r cyhoedd) |
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Emlyn Jones Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Julien Brun Cllr. Lucy Huws Cllr. Alun Williams Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Dani Thomas Cllr. Mark Strong Cllr. Glynis Somers Cllr. Nishant Chandolia Cllr. Felix Lorenze Cllr. Brian Davies
In attendance: Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator) Emrys Meredith (Member of the public)
|
|
| 34 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Dim
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Mari Turner Cyng. Bryony Davies Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Carl Worrall
|
Apologies and absence:
Absent with apologies: None
Absent without apologies: Cllr. Mari Turner Cllr. Bryony Davies Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Carl Worrall
|
|
| 35 | Datganiadau o ddiddordeb ar faterion sy’n codi o’r agenda
38. Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mai: Cynghorydd Emlyn Jones ddatganodd fuddiant personol a rhagfarnol oherwydd bod taliad yn ddyledus i’w fusnes, Gwe Cambrian Web. |
Declarations of interest on matters arising from the agenda
38. To consider & approve May expenditure: Cllr. Emlyn Jones declared a personal and prejudicial interest due to a payment being due to his business, Gwe Cambrian Web.
|
|
| 36
|
Cyfeiriadau personol
· Estynnwyd llongyfarchiadau i’r Cynghorydd Sandra Isaac, Cyngor Cymuned Llanbadarn Fawr, ar ei phenodiad yn Gadeirydd. · Estynnwyd llongyfarchiadau ar y seremoni agoriadol a gynhaliwyd ddydd Mercher 27 Mai ar gyfer murlun pont Trefechan, gyda diolch i bawb a gyfrannodd at greu’r mural ac am eu gwaith yn cefnogi cydlynu’r prosiect yn y gymuned. · Nododd yr Aelodau ganmoliaeth a glywyd ynghylch y gwaith a chreadigrwydd y Cyngor Tref.
|
Personal references
· Congratulations were extended to Cllr. Sandra Isaac, Llanbadarn Fawr Community Council, on her appointment as Chair. · Congratulations were extended on the opening ceremony held on Wednesday 27 May of the Trefechan bridge mural, with thanks expressed to all involved for creating the mural and for their work in supporting community coordination of the project. · Members noted praise heard about the Town Council’s work and creativity.
|
|
| 37 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda
Cafodd y Cadeirydd groeso ffurfiol i’r aelod o’r cyhoedd a’i wahodd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda. Ni chodwyd unrhyw gwestiynau na sylwadau.
|
Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda
The Chair formally welcomed the member of the public and invited them to raise questions or make comments on the agenda. No questions or comments were raised. |
|
| PENDERFYNWYD i ddiwygio trefn y busnes er mwyn trafod eitem 38 yn syth ar ôl eitem 41.
|
It was RESOLVED to amend the order of business to discuss item 38 immediately after 41 | ||
| 39 | I ymateb i cynnig Cyngor Sir Ceredigion: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) Aberystwyth
Esboniwyd bod Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (PSPO) ar gyfer canol tref Aberystwyth i ddod i ben ar 19 Hydref 2026, a gofynnwyd i’r Cynghorwyr ystyried a oeddent yn dymuno ei ymestyn a darparu unrhyw dystiolaeth gefnogol.
Nodwyd fod y PSPO yn cael ei ddefnyddio fel arf gwerthfawr gan swyddogion heddlu lleol, a bod yr Heddlu o’r farn ei fod yn gwneud gorfodi’n haws.
Cyfeiriwyd at broblemau blaenorol yn Sgwâr Owain Glyndŵr, a nodwyd fod y PSPO wedi helpu i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal.
Mynegodd y Cynghorwyr gefnogaeth gref i barhad y PSPO, gan bwysleisio ei bwysigrwydd ar gyfer diogelwch y cyhoedd, busnesau lleol a thrigolion. Awgrymwyd y gellid adolygu a diwygio ffiniau’r Gorchymyn os oedd angen.
Nodwyd bod diffyg canfyddedig o dystiolaeth yn dystiolaeth ynddo’i hun o effeithiolrwydd y PSPO, gan awgrymu ei fod wedi arwain at ostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cynigiodd y Cyng. Julien Brun y dylai’r Cyngor Tref ymateb o blaid ymestyn y PSPO, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Talat Chaudhri, a PENDERFYNWYD cefnogi’r adnewyddu.
Nodwyd mai 15 Mehefin 2026 oedd y dyddiad cau ar gyfer ymatebion, ac anogwyd yr aelodau i anfon unrhyw dystiolaeth yn cefnogi’r adnewyddu cyn y dyddiad hwn.
|
To respond to Ceredigion County Council’s proposal: Aberystwyth Public Spaces Protection Order (PSPO) renewal
It was explained that the Public Space Protection Order (PSPO) for Aberystwyth town centre was due to expire on 19 October 2026, and Councillors were asked to consider whether they wished for it to be extended and to provide any supporting evidence.
It was noted that the PSPO was used as a valuable tool by local police officers, and that the Police found it made enforcement easier.
Reference was made to previous issues in Owain Glyndŵr Square, and it was noted that the PSPO had assisted in addressing anti-social behaviour in the area.
Councillors expressed strong support for the continuation of the PSPO, highlighting its importance for public safety, local businesses, and residents. It was suggested that the boundaries of the Order could be reviewed and amended if necessary.
It was noted that a perceived lack of evidence was itself evidence of the PSPO’s effectiveness, indicating that it had caused a reduction in anti-social behaviour.
Cllr Julien Brun proposed that the Town Council respond in favour of extending the PSPO, seconded by Cllr Talat Chaudhri, and it was RESOLVED to support the renewal.
It was noted that the closing date for responses was 15 June 2026, and members were encouraged to send any evidence supporting the renewal before this date. |
Clerc i ymateb/ Clerk to respond |
| 40
|
I ymateb i cynnig Cyngor Sir Ceredigion: Pen Uchaf Y Stryd Fawr – Parth Parcio Cyfyngedig
Cafwyd cynnig gan Gyngor Sir Ceredigion yn awgrymu creu Parth Parcio Cyfyngedig (RPZ) ar y Stryd Fawr Uchaf. Esboniwyd bod parcio ar y Stryd Fawr Uchaf wedi bod yn broblem barhaus sy’n effeithio ar fusnesau a gweithrediadau’r farchnad, yn enwedig pan fo cerbydau wedi’u parcio yn atal y farchnad rhag cael ei sefydlu’n briodol. Nodwyd hefyd fod cerbydau wedi’u parcio, ar adegau, yn cyfyngu ar fynediad i gerddwyr a beicwyr.
Mynegodd y Cynghorwyr gefnogaeth i gyfyngiad 24 awr, gyda rhywfaint o hyblygrwydd i gefnogi busnesau lleol. Amlinellwyd y Parth Parcio Cyfyngedig (RPZ) arfaethedig, gan gynnwys na fyddai angen llinellau melyn ac y byddai’n caniatáu llwytho tymor byr (hyd at 20 munud) rhwng 4:00pm a 10:00am. Gwnaed awgrymiadau i archwilio eithriadau neu drefniadau trwyddedu ar gyfer gweithwyr, yn ogystal â gosod bolardau posibl.
Cynigiodd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y dylai’r Cyngor Tref ymateb o blaid cyfyngiad 24 awr, gyda Chyngor Sir Ceredigion i ystyried eithriadau priodol ar gyfer busnesau lleol ac i archwilio mesurau ychwanegol fel bolardau. Eiliwyd hyn gan Cyng. Talat Chaudhri, a PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig. |
To respond to Ceredigion County Council’s proposal: Upper Great Darkgate Street – Restricted Parking Zone
A proposal had been received from Ceredigion County Council, suggesting the creation of a Restricted Parking Zone (RPZ) at Upper Great Darkgate Street. It was explained that parking on Upper Great Darkgate Street had been an ongoing issue affecting businesses and market operations, particularly where parked vehicles prevented proper market set-up. It was also noted that at times, parked vehicles restricted access for pedestrians and cyclists.
Councillors expressed support for a 24-hour restriction, with some flexibility to support local businesses. The proposed Restricted Parking Zone (RPZ) was outlined, including that it would not require yellow lines and would allow short-term loading (up to 20 minutes) between 4:00pm and 10:00am. Suggestions were made to explore exemptions or licensing arrangements for workers, as well as the possible installation of bollards.
Cllr Dylan Lewis-Rowlands proposed that the Town Council respond in favour of a 24-hour restriction, with Ceredigion County Council to consider appropriate exemptions for local businesses and to explore additional measures like bollards. This was seconded by Cllr Talat Chaudhri and it was RESOLVED to support the proposal.
|
|
| 41
|
Cynnig hyfforddiant Prifysgol Aberystwyth: Lewis Deep Democracy
Cafwyd cyfle gan Brifysgol Aberystwyth i Gynghorydd Tref fynychu hyfforddiant Lewis Deep Democracy.
Trafododd y Cynghorwyr y cyfle, gan nodi er ei fod yn ymrwymiad sylweddol o dri diwrnod, ei fod yn gwrs hyfforddi gwerthfawr. Awgrymwyd y dylai’r Cynghorydd a fyddai’n mynychu adrodd yn ôl i’r Cyngor yn dilyn yr hyfforddiant, naill ai drwy gyfarfod penodol neu adroddiad ysgrifenedig.
Codwyd pryderon ynghylch y gost ac a oedd yn cynrychioli gwerth am arian, er nodwyd nad oedd cyllideb hyfforddi’r Cyngor ar gyfer Cynghorwyr wedi cael ei defnyddio’n llawn yn y blynyddoedd diweddar.
Mynegodd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ddiddordeb mewn mynychu’r hyfforddiant.
Cynigiodd Cyng. Talat Chaudhri y dylai Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fynychu’r hyfforddiant, eiliwyd gan Cyng. Brian Davies, a PENDERFYNWYD cymeradwyo’r enwebiad, gyda’r gofyniad i adrodd yn ôl i’r Cyngor yn ysgrifenedig ac hefyd drwy sesiwn ymarferol i rannu’r hyn a ddysgwyd.
|
Aberystwyth University training offer: Lewis Deep Democracy
An opportunity had been received from Aberystwyth University for a Town Councillor to attend the Lewis Deep Democracy training.
Councillors discussed the opportunity, noting that whilst it was a significant three-day commitment, it was a valuable training course. It was suggested that the attending Councillor should report back to Council following the training, either through a dedicated meeting or written report.
Concerns were raised regarding the cost and whether it represented value for money, although it was noted that the Council’s training budget for Councillors had not been fully utilised in recent years.
Cllr Dylan Lewis-Rowlands expressed an interest in attending the training.
Cllr Talat Chaudhri proposed that Cllr Dylan Lewis-Rowlands attend the training, seconded by Cllr Brian Davies, and it was RESOLVED to approve the nomination, with the requirement to report back to Council both in writing and through a practical session to share learnings.
|
|
| 38 | I ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mai
Datganodd Cyng. Emlyn Jones fuddiant personol a rhagfarnol a gadawodd y cyfarfod drwy gydol yr eitem.
Codwyd ymholiad ynghylch taliad i Total Energies. Esboniwyd bod yr anfoneb wedi’i nodi gan fod y cyfeiriad a’r manylion banc yn wahanol i anfonebau blaenorol. Cynigiwyd, unwaith y byddai’r Clerc wedi cadarnhau bod yr anfoneb yn ddilys, y dylid dirprwyo awdurdod i’r Clerc i wneud y taliad. PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i’r Clerc yn unol â hynny.
Codwyd ymholiad pellach ynghylch y taliad am wagio’r biniau, a chwestiynwyd pam nad oedd y Cynorthwywyr Amgylcheddol yn gallu ymgymryd â’r gwaith hwn. Esboniwyd bod y Cynorthwywyr Amgylcheddol, yn ystod misoedd yr haf, oherwydd galw cynyddol am lanhau strydoedd, ddim yn gallu gwagio biniau. Maent yn ymgymryd â’r gwaith hwn yn ystod misoedd tawelach y gaeaf er mwyn lleihau costau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant mis Mai. |
To consider & approve May expenditure
Cllr Emlyn Jones declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of the item.
A query was raised regarding a payment to Total Energies. It was explained that the invoice had been highlighted as the address and bank details differed from previous invoices. It was proposed that, once the Clerk had confirmed the invoice to be genuine, authority be delegated to the Clerk to make the payment. It was RESOLVED to delegate authority to the Clerk accordingly.
A further query was raised regarding the payment for emptying the bins, and it was questioned why the Environmental Assistants were unable to undertake this work. It was explained that during the summer months, due to increased street cleaning demands, the Environmental Assistants were unable to empty bins. They undertake this work during the quieter winter months in order to reduce costs.
It was RESOLVED to approve the May expenditure.
|
Daeth y cyfarfod i ben am 19:15 The meeting was closed at 19:15
Agenda:
| 33 | Presennol | Present |
| 34 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies & absences |
| 35 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
| 36 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 37 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda | Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda |
| 38 | Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mai | To consider & approve May expenditure |
| 39 | I ymateb i cynnig Cyngor Sir Ceredigion: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC) Aberystwyth | To respond to Ceredigion County Council’s proposal: Aberystwyth Public Spaces Protection Order (PSPO) renewal |
| 40 | I ymateb i cynnig Cyngor Sir Ceredigion: Pen Uchaf Y Stryd Fawr – Parth Parcio Cyfyngedig | To respond to Ceredigion County Council’s proposal: Upper Great Darkgate Street – Restricted Parking Zone |
| 41 | Cynnig hyfforddiant Prifysgol Aberystwyth: Lewis Deep Democracy | Aberystwyth University training offer: Lewis Deep Democracy |