Full Council
17/12/2018 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod Cyngor Llawn
Meeting of Full Council
17.12.2018
COFNODION / MINUTES
111
Yn bresennol:
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Alun Williams
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Mark Strong
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Mari Turner
Yn mynychu:
George Jones (cyfieithydd)
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Meinir Jenkins (Dirprwy glerc)
Present:
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Alun Williams
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Mark Strong
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Mari Turner
In attendance:
George Jones (translator)
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
112
Ymddiheuriadau:
Cyng. Steve Davies
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Claudine Young
Cyng. David Lees
Apologies:
Cllr. Steve Davies
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Claudine Young
Cllr. David Lees
113
Datgan Diddordeb:
Eitem agenda 104 (5): Arghymellion y Pwyllgor Cyllid:
Datganodd y Cyng. Endaf Edwards ddiddordeb cyffredinol fel aelod o Bwyllgor Rheoli Datblygu
Declaration of interest:
Agenda item 104 (5): Finance Committee Recommendations
Cllr. Endaf Edwards declared a general interest as a member of the Development Control Committee
Ychwanegu at y cofrestr
Add to the register
114
Cyfeiriadau Personol:
Estynnwyd croeso i Meinir Jenkins y Dirprwy Glerc newydd.
Dymunwyd gwellhad buan i’r Cyng Steve Davies.
Personal References:
A warm welcome was extended to Meinir Jenkins the newly appointed Deputy Clerk.
Warm wishes for a speedy recovery were extended to Cllr Steve Davies.
115
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Cyflwynwyd adroddiad ar lafar
Mayoral Activity Report:
A verbal report was presented
116
Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar Ddydd Llun26 Tachwedd 2018.
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda’r newidiadau canlynol:
98:
ardaloedd amgylcheddol bwysig megis Cors Caron
costau fesul km o’i cymharu gyda datblygiadau ffordd megis Blaenau’r Cymoedd a darn Casnewydd o’r M4
ysgrifennu at Network Rail, Theresa May a Prif Weinidog Cymru
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 26 November 2018.
It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendments:
98:
areas of environmental importance such as Tregaron Bog
costs per km as compared to road developments such as Heads of the Valleys and the Newport section of the M4
write to Network Rail, Theresa May and the First Minister
117
Materion yn codi o’r Cofnodion: Dim
Matters arising from the Minutes: None
118
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 3 Ragfyr 2018
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda chywiriad i’r cyfieithiad yn 8.1 (Coedlan y Parc)
Yn ail gyfarfod y Cynllun Ardal sefydlwyd Bwrdd Rheoli gyda’r Cyng Charlie Kingsbury fel Cydlynydd a’r Cyng Michael Chappell fel ymchwilydd. Roedd angen cynrychiolydd o’r Cyngor Tref a byddai’r Clerc yn cysylltu â phob cynghorydd i roi cyfle i bawb roi eu henwau ymlaen
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 3 December 2018
It was RESOLVED to approve the minutes with a correction to the translation in 8.1 (Park Avenue)
In the second Place Plan meeting a Management Board had been established with Cllr Charlie Kingsbury as Co-ordinator and Cllr Michael Chappell as researcher. A representative was needed from Town Council and the Clerk would conctact all councillors to give everyone the opportunity to put their names forward
Cysylltu gyda phob cynghorydd
Contact all councillors
119
Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 3 Ragfyr 2018
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newidiadau canlynol:
1 dileu ‘Commission for…’ yn y cofnod Saesneg
5. dileu’r paragraff ar gostau plannu
2 cywiro’r cyfieithiad (Y Stryd Fawr)
6 dylid defnyddio’r enw Gaeleg Eilginn yn y cofnod Cymraeg
Dylid edrych am fwy o wybodaeth ynghylch costau plannu coed stryd
Roedd cynghorwyr ward Bronglais wedi plannu bylbiau daffodil yn Poplar Row gyda chymorth gwirfoddolwyr.
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 3 December 2018
It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendments:
1 remove ‘Commission for…’ in the English minute
5. remove the paragraph on planting costs
2 correction to the translation (Great Darkgate St)
6 Use the Gaelic name for Elgin in the Welsh minute
Further information should be sought regarding street tree planting costs
Bronglais ward councillors had planted daffodil bulbs in Poplar Row with the help of volunteers.
120
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 19 Tachwedd 2018
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion..
PENDERFYNWYD cymeradwyo pob argymhelliad gan gynnwys y Gyllideb a’r Praesept ar gyfer 2019 – 2020
Finance & Establishments Committee held on Monday, 19 November 2018
It was RESOLVED to approve the minutes.
It was RESOLVED to approve all recommendations including the Budget and Precept for 2019 – 2020
121
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
121.1
A181132 : Caffi a Bwyty Cartref, 13-15 Stryd Y Pier
Er bod gan y Cyngor DDIM GWRTHWYNEBIAD yn gyffredinol, a gwerthfawrogir y bwriedir defnyddio deunyddiau naturiol ar gyfer y gwaith adnewyddu, mae’r Cyngor yn pryderu bod y ffenestri a gynigir ar gyfer y llawr cyntaf yn anghymwys ac nad ydynt yn cydweddu i weddill y stryd. Teimlir mai’r dewis gorau byddai newid y dair ffenestr presennol. Mae archifau’r Comisiwn Brenhinol yn adnodd defnyddiol.
A181132 : Home Cafe & Restaurant, 13-15 Pier Street
Whilst the Council generally has NO OBJECTION and welcomes the proposed use of natural materials for the refurbishment, the Council is concerned that the proposed first floor windows are out of character and not in keeping with the rest of the street. The preference would be for the existing three windows to be replaced. The Royal Commission archives are an useful resource.
Anfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to the County Council
121.2
A181139 : Broniarth Ffordd Y Gogledd
Mae’r Cyngor yn cefnogi’n gryf egwyddor ardal gadwraeth ac yn GWRTHWYNEBU’R cais hwn ar sail mai gwell fyddai gwneud gwaith cynnal a chadw er mwyn cadw’r cymeriad. Dylai’r Adran Gynllunio ddarparu tystiolaeth mai dymchwel yw’r unig opsiwn os caiff ei gymeradwyo.
A181139 : Broniarth North Road
The Council strongly supports the principle of a conservation area and OBJECTS to this application on the basis that maintenance is preferred in order to retain character. Evidence should be provided by the Planning Department that demolition is the only option if approved.
121.3
A181152: 16-18 Stryd Y Pier / 2-4 Stryd Newydd
DIM GWRTHWYNEBIAD
A181152:16-18 Pier Street / 2-4 New Street
NO OBJECTION
121.4
A181165: Safle hen Dy Tafarn Tollgate, Piercefield Lane, Penparcau
Mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU’r cais hwn ac mae ganddo’r pryderon canlynol:
O’r wybodaeth ar y ffurflen gais, ymddengys nad oedd ymgynghori cyhoeddus wedi digwydd. Os mai camgymeriad yw hyn, byddai’r Cyngor yn gwerthfawrogi gweld yr adroddiad o’r ymgynghori.
Nid oes unrhyw isadeiledd lleol i gefnogi datblygiad o’r maint hwn.
Diogelwch ar y ffyrdd
Diffyg parcio digonol
Mae’r Cyngor yn parhau i gytuno gyda’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod cyn-cynllunio:
Mae parcio eisoes yn fater o ofid sydd wedi ei gwaethygu yn ddiweddar gydag agor yr eglwys
Graddfa’r datblygiad mewn ardal fach
Y lle a ddarperir ar gyfer pob uned
Yr effaith ar yr iaith Gymraeg gan ei fod yn ddatblygiad sylweddol
Mynediad trwy ffordd gul
Diffyg gofod gwyrdd
Mwy o bwysau ar ysgolion
A fydd y ddarpariaeth yn cwrdd ag anghenion tai pobl leol?
A181165: Site of former Tollgate Inn Public House, Penparcau
Council OBJECTS to this application because of the following concerns:
From the information on the application form, there does not appear to have been public consultation. It this is an error Council would appreciate seeing the consultation report.
There is no local infrasturcture to support a development of this size.
Road safety
Lack of adequate parking
The Council still agrees with th efollowing comments which were submitted during the Pre-planning stage:
Parking is already an issue exasperated recently by the opening of the church
The scale of the development within a small area
The space provided for each unit
The impact on the Welsh language as it is a substantial development
Access via a narrow road
Lack of green space
Increased pressure on schools
Will the provision meet the housing needs of local people?
122
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion o fewn cylch gorchwyl Cyngor Aberystwyth YN UNIG:
Dim
Questions relating ONLY to matters in Aberystwyth Council’s remit:
None
123
Cyllid – ystyried gwariant Mis Rhagfyr
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant
Finance – to consider the December expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure
124
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â Chyngor Aberystwyth YN UNIG:
Cyng Mark Strong:
Roedd yr estyniad i barc Natur Penglais i’w drafod yn y grŵp datblygu 18.12.2018.
Cyng Alun Williams:
Bu seremoni goleuo’r Goeden Nadolig yn llwyddiant gyda nifer fawr o bobl yno
Cyflwynwyd hamper gan Gyngor Sir Ceredigion i Margaret Jones yn ddiweddar i nodi ei phen-blwydd yn 100 oed.
Gwahoddwyd yr aelodau i gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i roi gwybod iddynt am unrhyw un a oedd yn dathlu canmlwyddiant yn eu wardiau hwy.
PENDERFYNWYD anfon cerdyn pen-blwydd i drigolion yn dathlu canmlwyddiant yn Aberystwyth. Dylid hysbysebu’r fenter newydd hon ar y wefan ac yn EGO
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to Aberystwyth Council:
Cllr Mark Strong:
The extension to the Penglais Nature park was due to be discussed at the development group 18.12.2018.
Cllr Alun Williams:
The Christmas lights switch on ceremony was successful and well attended.
A hamper was presented by Ceredigion County Council to Margaret Jones recently to mark her 100th
Members were invited to contact Ceredigion County Council to notify them of anyone in their wards who were celebrating 100th birthdays.
It was RESOLVED to send a birthday card to centenarians in Aberystwyth. This new initiative should be advertised on the website and in EGO
125
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:
Dim
WRITTEN reports from representatives on outside bodies:
None
126
Gohebiaeth:
Correspondence:
126.1
Croesawu Myfyrwyr Meddygol i Aberystwyth (Cyng Sue Jones Davies):
PENDERFYNWYD gwahodd Myfyrwyr Meddygol i roi cyflwyniad anffurfiol yng nghyfarfod mis Ionawr gyda golwg ar ddarparu lluniaeth ysgafn cyn y cyfarfod.
Welcoming Student Doctors to Aberystwyth (Cllr Sue Jones Davies):
It was RESOLVED to invite Student Doctors to give an informal presentation in a January meeting with a view of providing light refreshments prior to the meeting.
Gwahodd
Invite
126.2
Ymgynghoriad: Strategaeth Toiledau Lleol
PENDERFYNWYD ei drafod yn y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
Consultation: Local Authority Toilet Strategy
It was RESOLVED to discuss this in General Management
Eitem agenda RhC
GM Agenda item
126.3
Ymgynghoriad: Comisiynydd Heddlu a Throseddu – Praesept 20019/2020.
PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnydd arfaethedig o £2 y mis i gynnal gwasanaethau ac i ysgrifennu llythyr o gefnogaeth
Consultation: Dyfed Powys Police and Crime Commissioner – 2019/2020 Precept
It was RESOLVED to support the proposed £2 increase per month to sustain services and to write a letter of support.
Ymateb
Respond
126.4
Ymgynghoriad: newidiadau arfaethedig i gyfyngiadau parcio
Rhoddwyd ystyriaeth i dri lleoliad:
Coedlan y Plas: yn Llanbadarn ond yn effeithio ar drigolion Aberystwyth. Wedi’i gymeradwyo
Cae Melyn: wedi’i gymeradwyo
Dan y Coed: wedi’i gymeradwyo
Consultation: proposed changes to parking restrictions
Consideration was given to three locations:
Plas Avenue – in Llanbadarn but impacting on Aberystwyth residents. Approved.
Cae Melyn – approved
Dan Y Coed – approved
Ymateb
Respond
126.5
Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru
Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi dyrannu cyllid o £3,500 i Gyngor Tref Aberystwyth. Diolchwyd i’r Clerc am ei gwaith.
Welsh Government All Wales Play Opportunity Grant
Ceredigion County Council had allocated funding of £3,500 to Aberystwyth Town Council. The Clerk was thanked for her work.
Darparu manylion i’r Cyngor Sir.
Provide detailed information to
CCC
126.6
Profiad Gwaith gyda Kronberg
Derbynwyd cais gan Ms Henny Gelhart am wythnos o brofiad gwaith yn swyddfa’r Cyngor Tref yn ystod Haf 2019.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais
Working exchange with Kronberg
A request was received from Ms Henny Gelhart for a week’s work experience in the Town Council office during the Summer 2019.
It was RESOLVED to approve the request
Ymateb
Respond
126.7
Cymorth Ariannol Cynllun Ardal
Roedd y Bwrdd Rheoli wedi penderfynu y gellid rheoli’r amodau ariannu ganddynt hwy – felly roeddent yn bwriadu derbyn y cyllid.
Place Plan Funding support
The Management Board had decided that the conditions of funding could be managed by them – they were therefore going to accept the funding.
Cyng Charlie Kingsbury i ymateb
Cllr Charlie Kingsbury to respond
126.8
Hysbysiad o Swydd Wâg Achlysurol: dyddiad cau ar gyfer ceisiadau etholiad 3.1.2019
Rhybudd i’w arddangos yn y Llyfrgell
Notice of Casual Vacancy: deadline for election requests 3.1.2019
Notice to be displayed in the Library
Hysbysiad yn y Llyfrgell
Notice in Library
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio / Planning Committee
07.01.2019
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd)
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Mari Turner
Cyng. Michael Chappel
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. M Benjamin
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present:
Cllr. Lucy Huws (Chair)
Cllr. Sue Jones-Davies
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Mari Turner
Cllr. Michael Chappell
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Cllr Charlie Kingsbury
Cllr. Mair Benjamin
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau:
Cyng Steve Davies
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Apologies:
Cllr.Steve Davies
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
3
Datgan Diddordeb:
Nodwyd o fewn yr eitem ar yr agenda
Declaration of interest:
Noted within the agenda item
4
Cyfeiriadau Personol:
Roedd Steve Davies yn parhau i fod yn yr ysbyty.
Personal references:
Steve Davies remains in hospital.
5
Ceisiadau Cynllunio: Dim
Planning Applications: None
6
Adroddiad Pwyllgor Rheoli Datblygu 12.12.2018
Cylchredwyd er gwybodaeth.
Development Control Committee report 12.12.2018
Circulated for information.
7
Cynllun Cynefin:
Adroddwyd fod materion yn symyd yn eu blaen. Dangoswyd diddordeb gan Cyng B Somers i ymuno â’r pwyllgor rheoli. Os nad oedd hyn bellach yn gyfleus cytunodd Cyng T Chaudhri fod yn gynrychiolydd y Cyngor
Cyfarfod nesaf o’r Bwrdd Rheoli i’w gynnal 21 Ionawr a chyfarfod cyhoeddus i’w gynnal yn Arad Goch 7 Chwefror. Gweler ar Facebook, Trydar ac yn EGO.
Place Plan:
Matters are progressing well. Cllr B Somers had previously expressed an interest in becoming a member of the management board, if not, Cllr T Chaudhri agreed to be the Council representative.
Next Management Board meeting to be held 21 January with a public Meeting in Arad Goch on 7 February. Publicised on Facebook, Twitter and in EGO.
8
Gohebiaeth
Correspondence:
8.1
Lansio Rhifyn 20 Polisi Cynllunio Cymru: Cylchredeg i’r aelodau
Launch of Edition 10 of Planning Policy Wales: circulate to members
Cylchredeg
Circulate
8.2
Hyfforddiant Cod Ymddygiad CCC – 11 Chwefror Ysgol Penweddig. Aelodau i gysylltu â Gwasanaethau Democrataidd
CCC Code of Conduct Training – 11 February Penweddig. Members to contact Democratic Services
Aelodau i gysylltu Members to contact
8.3
Hen Goleg – Y cyn-ymgynghoriad yn cau ar y 24 Ionawr. Cyng Alun Williams i gylchredeg yr ebost gwreiddiol.
Aelodau i gyfarfod am 6yh, cyn y cyfarfod Pwyllgor Rheoli nesaf 14.1.2019
Old College – Pre-planning consultation due to close 24 January. Cllr Alun Williams to re-circulate email.
Members to discuss at 6pm, prior to the next General Management Committee 14.1.2019
Cyfarfod
Meeting
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
1.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng Brendan Somers (Cadeirydd)
Cyng. Mari Turner
Cyng. Mark Strong
Cyng. Claudine Young
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Brenda Haines
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present
Cllr Brendan Somers (Chair)
Cllr. Mari Turner
Cllr. Mark Strong
Cllr. Claudine Young
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Brenda Haines
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Steve Davies
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. David Lees
Apologies
Cllr. Steve Davies
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. David Lees
3
Datgan Diddordeb:
Y Clerc – eitem 6 ar yr agenda
Declaration of Interest:
The Clerk – agenda item 6
4
Cyfeiriadau personol:
Roedd y Cyng Steve Davies adref o’r ysbyty ac yn gwella.
Estynwyd cyfarchion penblwydd i’r Clerc â’r Dirprwy Glerc
Personal references:
Cllr Steve Davies was home from hospital and recovering
Birthday greetings were extended to the Clerk and Deputy Clerk
5
Coed stryd 2017-18 a 2018-19:
Cyfarfod i’w drefnu gyda swyddogion Ceredigion i drafod lleoliadau addas a chostau
Street trees 2017-18 and 2018-19:
Meeting to be arranged with Ceredigion officers to discuss suitable locations and costs
Trefnu cyfarfod
Organise meeting
6
Parc Ffordd Y Gogledd
Datganodd y Clerc ddiddordeb a gadawodd y Siambr.
Yn dilyn trafodaeth hir ac ystyriaeth o adroddiad yr ymgynghoriad, y gohebiaeth a’r dogfennau ategol, fe wnaeth aelodau’r pwyllgor ARGYMHELL bod y coed poplys yn cael eu cwympo (yn ôl penderfyniad blaenorol y Cyngor Llawn) erbyn 8 Mawrth 2019 a bod y coed cypreswydd Monterey wedi’u rhoi naill ochr er mwyn i’r Cyngor Llawn eu trafod ymhellach fel rhan o’r cynllun ar gyfer y Parc.
Mae penderfyniad y Cyngor Llawn i dorri’r coed poplys dal yn sefyll.
Pleidlais wedi’i gofnodi:
Dros (5):
Cyng Mari Turner, Cyng Charlie Kingsbury,
Cyng Michael Chappell, Cyng Brenda Haines,
Cyng Sue Jones-Davies.
Yn erbyn (4):
Cyng M Strong, Cyng Lucy Huws, Cyng Dylan Lewis, Cyng Mair Benjamin.
Wedi ymatal:
Cyng Claudine Young
North Road Park :
The Clerk declared an interest and left the Chamber.
Following lengthy discussion and consideration of the consultation report, correspondence and supporting documents, the committee members RECOMMENDED that the poplars should be felled (as previously resolved by Full Council) by the 8 March 2019 and that the Monterey cypresses are set aside for Full Council to discuss further as part of the plan for the Park.
The Full Council resolution to fell the poplars still stands.
Recorded vote:
For (5):
Cllr Mari Turner, Cllr Charlie Kingsbury, Cllr Michael Chappell, Cllr Brenda Haines, Cllr Sue Jones-Davies.
Against (4):
Cllr M Strong, Cllr Lucy Huws, Cllr Dylan Lewis,
Cllr Mair Benjamin.
Abstained:
Cllr Claudine Young
Trefnu torri’r poplys
Organise the felling of the poplars
7
Cyfleusterau Cyhoeddus:
PENDERFYNWYD cychwyn trafodaeth gyda’r Cyngor Sir a gwahodd cynrychiolwyr i gyfarfod
Public Toilets:
It was RESOLVED to open dialogue with Ceredigion Council and to invite representatives to a meeting
Gwahodd y Cyngor Sir
Invite CCC
8
Gohebiaeth
Correspondence
8.1
Cofeb i bobl gyffredin a laddwyd adeg rhyfel: PENDERFYNWYD anfon llythyr o gefnogaeth
Memorial to civilians killed in war time: It was RESOLVED to send a letter of support
Anfon llythyr
Write letter
8.2
Goleuadau Nadolig: Roedd Aberystwyth ar y Blaen yn mynychu’r cyfarfod nesaf
Christmas Lights: Advancing Aberystwyth were attending the next meeting
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
1.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mark Strong
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Brendan Somers
Yn mynychu:
Cyng Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alun Williams
Cllr. Mark Strong
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Brendan Somers
In attendance:
Cllr Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. David Lees
Cyng. Mari Turner
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Alex Mangold
Apologies
Cllr. David Lees
Cllr. Mari Turner
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Alex Mangold
3
Datgan buddiannau: Dim
Declarations of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Cyflwyniad: Cyclefest
Nid oedd Shelley Childs yn medru bod yn bresennol felly nid oedd trafodaeth.
Presentation: Cyclefest
Shelley Childs was unable to attend so there was no discussion
6
Ystyried Cyfrifon Mis Rhagfyr
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cyfrifon
Consider Monthly Accounts for December
It was RECOMMENDED that Council approve the accounts.
7
Cyllideb 2019-20
Eisteddfod Ceredigion: Roedd angen ailystyried y cyllid o £24,000 dros dair blynedd a gytunwyd gan y Cyngor gan y byddai cyfrifon yr Eisteddfod yn cael eu cau ym mis Rhagfyr 2020.
ARGYMHELLWYD y dylid talu £20,000 dros ddwy flynedd gyda thaliad cyntaf o £8000 ac ail daliad o £12,000. Felly, ni fyddai’r gyllideb o £384,780 ar gyfer 2019-20 yn newid.
Budget 2019-20
Ceredigion Eisteddfod: The Council’s agreed funding of £24,000 over three years needed to be reconsidered as their accounts would be closed in December 2020.
It was RECOMMENDED that £20,000 should be paid over two years with a first payment of £8000 and a second payment of £12,000. The budget for 2019-20 would therefore remain unchanged at £384,780.
8
Praesept 2019-20
Diwygiwyd canran y cynnydd ar gyfer cyllideb 2019-20 i adlewyrchu’r cynnydd o £14.92 ar gyfer Band D (£104.17).
Precept 2019-20
The percentage increase for the 2019-20 budget was amended to reflect the increase of £14.92 for Band D (£104.17).
9
Archwiliad Flynyddol
Ffocws yr archwiliadau fydd:
2018-19: Rheolau Sefydlog a dirprwyo i bwyllgorau.
2019-20: taliadau
2020-21: cyflogaeth staff a Lles Cenedlaethau’r Dyfodol
Er bod y Rheolau Sefydlog wedi cael eu hadolygu’n drylwyr ddwy flynedd yn ôl, fe ddylai’r Pwyllgor gyfarfod i adolygu’r Rheolau Sefydlog eto
Annual Audit
The focus of the audit will be:
2018-19: Standing Orders and delegation to committees.
2019-20: payments
2020-21: employment of staff and Well-being of Future Generations
Whilst the Standing Orders had been reviewed thoroughly two years ago Committee should be convened to review the Standing Orders again
Trefnu cyfarfod
Organise meeting
10
Rhandiroedd
ARGYMHELLWYD bod y rhent o £46 (Fifth Avenue) a £43 (Caeffynnon) yn cael ei godi £1 ar gyfer 2019-20.
Allotments
It was RECOMMENDED that the rent of £46 (Fifth Avenue) and £43 (Caeffynnon) be increased by £1 for 2019-20.
Rhoi gwybod i’r tenantiaid
Notify tenants
11
Gohebiaeth
Correspondence
11.1
Cyfrifiadur i’r swyddfa:
ARGYMHELLWYD prynu’r cyfrifiadur, sgrîn a gyriant caled, fel yr argymhellwyd gan Gwe Cambrian, am gyfanswm o £754:
Sgrîn 24 “Acer – £90
Cyfrifiadur – £599
Gyriadwr caled – £65
Office computer:
It was RECOMMENDED that a computer, monitor and hard drive, as recommended by Gwe Cambrian, was purchased at a total cost of £754:
Monitor 24” Acer – £90
Computer – £599
Hard drive – £65
Trefnu
Organise
11.2
Gwasanaeth cyflogaeth – Cytundeb Lefel Gwasanaeth:
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn parhau i gontractio’r gwasanaeth hwn i Gyngor Sir Gâr am gost o £250 y flwyddyn a bod y Cytundeb Gwasanaeth yn cael ei arwyddo a’i ddychwelyd yn unol â hynny.
Pay roll – Service Level Agreement:
It was RECOMMENDED that the Council continues to outsource this service to Sir Gâr County Council at a cost of £250 per annum and that the Service Level Agreement be signed and returned accordingly.
Arwyddo a’i anfon yn ôl
Return and sign
11.3
Cardiau pleidleisio ar gyfer etholiad Ward y Gogledd:
ARGYMHELLWYD archebu cardiau pleidleisio. Byddent yn costio tua £800 i’w cynhyrchu a’u postio.
Polling cards for North Ward election:
It was RECOMMENDED that polling cards be ordered. They would cost in the region of £800 to produce and post
Ymateb i’r Cyngor Sir
Respond to CCC