Full Council
28/04/2025 at 6:30 pm
Minutes:
COFNODION / MINUTES
|
|||
383 | Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Emlyn Jones Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Glynis Somers Cyng. Bryony Davies Cyng. Jeff Smith Cyng. Brian Davies (Eitemau 383 i 417 yn unig) Cyng. Lucy Huws (Eitemau 383 i 417 yn unig) Cyng. Carl Worrall (Eitemau 383 i 417 yn unig) Cyng. Mair Benjamin (Eitemau 383 i 391 yn unig) Cyng. Umer Aslam (Eitemau 383 i 391 yn unig)
Yn mynychu: Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) (Eitemau 383 i 391 yn unig) Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Emlyn Jones Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Glynis Somers Cllr. Bryony Davies Cllr. Jeff Smith Cllr. Brian Davies (Items 383 to 417 only) Cllr. Lucy Huws (Items 383 to 417 only) Cllr. Carl Worrall (Items 383 to 417 only) Cllr. Mair Benjamin (Items 383 to 391 only) Cllr. Umer Aslam (Items 383 to 391 only)
In attendance: Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) (Items 383 to 391 only)
Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator)
|
|
384 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Mari Turner Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Alun Williams Cyng. Mark Strong
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Connor Edwards Cyng. Owain Hughes
|
Apologies and absence
Absent with apologies: Cllr. Mari Turner Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Alun Williams Cllr. Mark Strong
Absent without apologies: Cllr. Connor Edwards Cllr. Owain Hughes
|
|
385 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
• 414. Gwariant Ebrill: Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant yn y gwariant oherwydd bod ganddo anfonebau busnes heb eu talu. • 424.1 A250227: Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Cyflogwyd y Cyng. Jeff Smith gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
· 414. April expenditure: Cllr. Emlyn Jones declared an interest on the expenditure due to having outstanding business invoices. · 424.1 A250227: National Library of Wales: Cllr. Jeff Smith was employed by the National Library of Wales.
|
|
386 | Cyfeiriadau Personol
· Byddai cerdyn yn cael ei anfon at deulu y cyn-Gynghorydd Ceri Meehan a fu farw yn anffodus. · Cynhaliwyd munud o dawelwch i goffáu bywyd Ei Sancteiddrwydd y Pab Francis a fu farw yn anffodus. · Estynnwyd llongyfarchiadau i Glwb Rygbi Aberystwyth ar ddod yn Bencampwyr Adran 1 y Gorllewin a chael dyrchafiad i Bencampwriaeth y Gorllewin. Byddai llythyr o longyfarchiadau yn cael ei anfon. · Estynnwyd llongyfarchiadau i Lywydd Clwb Rotari Ardal Aberystwyth, Martin Tranter, ar gwblhau Marathon Llundain. · Estynnwyd llongyfarchiadau i Swyddog Gweinyddol y Cyngor, Catrin Morgan-Lewis, ar gwblhau Marathon Llundain. · Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands a oedd yn ymweld â Cuba fel rhan o’r Brigâd Undebau Llafur Ifanc Rhyngwladol. · • Nodwyd mai hwn fyddai cyfarfod olaf y Cyng. Maldwyn Pryse fel Maer ac estynnwyd llongyfarchiadau a diolch am ei flwyddyn yn y swydd. · Estynnwyd dymuniadau pen-blwydd i’r Cyng. Mair Benjamin. |
Personal References
· A card would be send to the family of former Cllr. Ceri Meehan who had sadly passed away. · A minute’s silence was held to commemorate the life of His Holiness Pope Francis who had sadly passed away. · Congratulations were extended to Aberystwyth Rugby Club on becoming Division 1 West Champions and being promoted to Championship West. A letter of congratulations would be sent. · Congratulations were extended to the President of Ardal Aberystwyth Rotary Club, Martin Tranter, on completing London Marathon · Congratulations were extended to the Council’s Administration Officer, Catrin Morgan-Lewis, on completing London Marathon. · Best wishes were extended to Cllr. Dylan Lewis-Rowlands who was visiting Cuba as part of the International Young Trade Unionists Brigade. · It was noted that this would be Cllr. Maldwyn Pryse’s last meeting as Mayor and congratulations and thanks were extended for his year in office. · Birthday wishes were extended to Cllr. Mair Benjamin.
|
|
PENDERFYNWYD diwygio’r drefn fusnes i drafod eitem 417 yn syth ar ôl eitem 386 | It was RESOLVED to amend the order of business to discuss item 417 immediately after item 386 | ||
417 | Ystyried a dyfarnu Grantiau Cymunedol
PENDERFYNWYD eithrio’r wasg a’r cyhoedd am gyfnod yr eitem hon oherwydd natur fasnachol sensitif y busnes i’w drafod.
Gadawodd y Cyng. Shelley Childs y cyfarfod am gyfnod yr eitem.
Roedd argymhelliad ar gyfer dyfarniad wedi’i dderbyn gan y Pwyllgor Cyllid. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r dyfarniadau a argymhellir gyda’r newidiadau canlynol: · 19. Cymdeithas Cymru-Llydaw: Gostyngiad o £1,000 i £500. · 24. Cadetiaid Awyr 561 Sgwadron yr Awyrlu Brenhinol: Cynyddodd y dyfarniad o £0 i £500
Cytunwyd y dylid penodi pob cais llwyddiannus yn Gynghorydd i oruchwylio’r prosiect; PENDERFYNWYD i’r Clerc a’r Maer benodi Cynghorydd i bob cais.
Gadawodd y Cyng. Brian Davies y cyfarfod. Gadawodd y Cyng. Carl Worrall y cyfarfod. Gadawodd y Cyng. Lucy Huws y cyfarfod. |
To consider and award Community Grants
It was RESOLVED to exclude the press & public for the duration of this item due to the commercially sensitive nature of the business to be discussed.
Cllr. Shelley Childs left the meeting for the duration of the item.
A recommendation for award had been received from the Finance Committee. It was RESOLVED to approve the recommended awards with the following changes: · 19. Cymdeithas Cymru-Llydaw: Award reduced from £1,000 to £500 · 24. 561 Squadron RAF Air Cadets: Award increased from £0 to £500
It was agreed that each successful application was to be appointed a Councillor to oversee the project; It was RESOLVED for the Clerk & Mayor to appoint a Councillor to each application.
Cllr. Brian Davies left the meeting Cllr. Carl Worrall left the meeting Cllr. Lucy Huws left the meeting
|
|
387 | Adroddiadau gweithgareddau’r Maer
Roedd adroddiad ysgrifenedig wedi’i gylchredeg ar e-bost
|
Mayoral activity report
A written report had been circulated on email.
|
|
388 | Diweddariad gan y Clerc
Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc: · Roedd rhwygwr chwyn mecanyddol newydd y Cyngor wedi’i gyflwyno a byddai’r gwaith ar chwynnu yn dechrau yn yr wythnosau nesaf. · Roedd cais yn cael ei gyflwyno i Gronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi am raglen o ddigwyddiadau i gynnwys adloniant bandstand yr haf, Gŵyl y Castell a gorymdaith Santes Dwynwen, fel y gwnaed y llynedd. · Roedd y cyd-ddewis ar gyfer y sedd wag ar gyfer Ward Penparcau yn dal i gael ei hysbysebu, gyda’r dyddiad cau ar 7 Mai 2025. · Roedd y Cyngor wedi dioddef twyll gan wefan sy’n honni ei bod yn darparu cofrestru trwydded cludwr gwastraff. Roedd y mater wedi cael ei godi gyda banc NatWest a chyhoeddwyd cronfa dros dro tra bod ymchwiliad ar y gweill. |
Updates from Clerk
A verbal update was provided by the Clerk: · The Council’s new mechanical weed ripper had been delivered and work on weeding would start in the coming weeks. · An application was being submitted to the Cynnal y Cardi Events Fund for a programme of events to include the summer bandstand entertainment, Gwyl y Castell and the Santes Dwynwen parade, as had been done last year. · The co-option for the vacant seat for Penparcau Ward was still being advertised, with a closing date of 7 May 2025. · The Council had been a victim of fraud by a website purporting to be providing waste carrier licence registration. The matter had been raised with NatWest bank and a temporary fund issued whilst an investigation was underway.
|
|
389
|
Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a ni chodwyd unrhyw gwestiynau.
Diolchwyd i’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei waith. |
Updates from Facilities & Assets Manager
A written report was circulated and no questions were raised.
Thanks were extended to the Facilities & Assets Manager for his work.
|
|
390 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartenriaethau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a ni chodwyd unrhyw gwestiynau.
Atgoffwyd yr aelodau am Fore Coffi’r Maer a gynhelir ddydd Sadwrn 3 Mai rhwng 10yb a 12yh i godi arian ar gyfer elusennau’r Maer.
Diolchwyd i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith.
|
Updates from Events & Partnerships Officer
A written report was circulated and no questions were raised.
Members were reminded of the Mayor’s Coffee Morning taking place on Saturday 3 May between 10am to 12pm to raise money for the Mayor’s charities.
Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for her work.
|
|
391 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng. Shelley Childs: · Trosglwyddiadau asedau: Roedd cyfarfod cabinet diweddar wedi trafod yr angen i fwrw ymlaen â’r trafodaethau ynghylch trosglwyddo toiledau cyhoeddus. Byddai cyfarfod yn cael ei drefnu gyda’r Swyddog Arweiniol Corfforaethol ar gyfer y gwasanaeth. · Parcio: roedd disgwyl adolygiad o barcio yn Aberystwyth yn y 5 mlynedd nesaf. · Pont droed Plascrug: Cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer pont droed newydd dros y trac rheilffordd yn ddiweddar fel rhan o fenter teithio llesol. Roedd trafodaethau hefyd ar y gweill rhwng Cyngor Sir Ceredigion a chymdeithas Rhieni-Athrawon Ysgol Plascrug ynglŷn â chynnig pont amgen.
Gadawodd y Cyng. Mair Benjamin y cyfarfod. Gadawodd y Cyng. Shelley Childs y cyfarfod. Gadawodd y Cyng. Umer Aslam y cyfarfod. |
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr. Shelley Childs: · Asset transfers: A recent cabinet meeting had discussed the need to progress discussions regarding transfer of public toilets. A meeting would be arranged with the Corporate Lead Officer for the service. · Parking: a review of parking in Aberystwyth was expected in the next 5 years.
· Plascrug Footbridge: Plans for a new footbridge over the railway track had recently been published as part of an active travel initiative. There were also discussions underway between Ceredigion County Council and Plascrug School Parent-Teacher association regarding an alternative bridge proposal.
Cllr. Mair Benjamin left the meeting. Cllr. Shelley Childs left the meeting. Cllr. Umer Aslam left the meeting.
|
|
392 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 24 Mawrth 2025 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 24 March 2025 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
393 | Materion yn codi o’r cofnodion:
375. Bardd y Dref 2025-26: Roedd y Prifardd Cadeirydd Dr Hywel Griffiths wedi cael cynnig a derbyniodd y swydd. Roedd y bardd presennol, Dr Eurig Salisbury, wedi ymddangos ar y newyddion yn ddiweddar yn siarad am eu gwaith cydweithredol ar y Cwpledi i’r Prom, sydd bellach wedi’u gosod mewn bandiau llechi ar hyd y promenâd. |
Matters arising from the Minutes:
375. Bardd y Dref 2025-26: Chaired bard Dr Hywel Griffiths had been offered and accepted the position. The current bard, Dr Eurig Salisbury, had recently featured on the news talking about their collaborative work on the Prom Couplets, which had now been installed in slate bandings along the promenade.
|
|
394 | Eithrio’r wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitemau 396 i 398 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod.
PENDERFYNWYD eithrio’r wasg a’r cyhoedd. |
To exclude the press & public for the duration of items 396 to 398 due to the confidential nature of the business to be discussed.
It was RESOLVED to exclude the press & public.
|
|
395 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 31 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Staffing Committee meeting held on Monday 31 March 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
396 | Cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio
Dim.
|
To approve recommendations made by the Staffing Committee
None. |
|
397 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Nodwyd bod angen cyfarfod pellach i orffen yr adolygiad o’r llawlyfr y staff. |
Matters arising from the minutes
It was noted that a further meeting was needed to finish the review of the staff handbook.
|
Trefnu cyfarfod
Arrange meeting |
398 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 7 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the meeting of the General Management Committee held on Monday 7 April 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
399 | Ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion canlynol:
· 6. Toiledau cyhoeddus: I bwyso am berchnogaeth rhydd-ddaliad. · 8. Gefeillio Kronberg: I beidio â gwneud sylwadau ar y mater. · 11. Tynnu’r ffôn talu: I ymateb i’r ymgynghoriad.
10. Geiriau plac: PENDERFYNWYD dirprwyo pŵer i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol i gymeradwyo’r geiriau terfynol, ar ôl iddynt gael eu hail-fformatio a’u hadolygu gan y cyfieithydd. |
To consider recommendations made by the General Management Committee
It was RESOLVED to approve the following recommendations:
· 6. Public toilets: To press for freehold ownership. · 8. Kronberg twinning: Not to comment on the matter. · 11. Removal of payphone: To respond to the consultation.
10. Plaque wordings: It was RESOLVED to delegate power to the General Management Committee to approve the final wordings, once they had been re-formatted and reviewed by the translator.
|
|
400 | Materion yn codi o’r cofnodion:
7. Difrod damweiniol: Roedd y mater wedi’i ddatrys heb yr angen i hawlio yswiriant. Roedd yr atgyweiriadau wedi’u cwblhau ac roedd y parti arall yn fodlon. |
Matters arising from the minutes
7. Accidental damage: The matter had been resolved without the need to claim on insurance. The repairs had been completed and the other party was satisfied.
|
|
401 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ddydd Mercher 9 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion, gyda chynnig y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ynghlwm fel atodiad. |
Minutes of the meeting of the Planning Committee held on Wednesday 9 April 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes, with Cllr. Dylan Lewis-Rowlands’ motion attached as an appendix.
|
|
402 | Ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio.
PENDERFYNWYD gohirio’r penderfyniad ar gynnig y Cynghorydd Dylan Lewis-Rowlands tan y cyfarfod nesaf. |
To consider recommendations made by the Planning Committee
It was RESOLVED to postpone decision on Cllr. Dylan Lewis-Rowlands’ motion until the next meeting.
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council Agenda |
403 | Materion sy’n codi o’r cofnodion
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
404 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 14 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 14 April 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
405 | Ystyried yr argymhellion a waned gan y Pwyllgor Cyllid
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion canlynol:
· 5. 11 Stryd y Popty: I ymateb i’r hawliad dadfeiliadau |
To consider recommendations made by the Finance Committee
It was RESOLVED to approve the following recommendations: · 5. 11 Baker Street: To respond to the schedule of dilapidations.
|
|
406 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
407 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ddydd Mawrth 22 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Finance Committee meeting held on Tuesday 22 April 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
408 | Cymeradwyo argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid
Dim |
To approve recommendations made by the Finance Committee
None
|
|
409 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
410 | Eithrio’r wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitemau 411 i 413 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod.
PENDERFYNWYD eithrio’r wasg a’r cyhoedd. |
To exclude the press & public for the duration of items 411 to 413 due to the confidential nature of the business to be discussed.
It was RESOLVED to exclude the press & public.
|
|
411 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd ddydd Mercher 23 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb.
Ni chynhaliwyd y cyfarfod, oherwydd nad oedd cworwm yn cael ei gyrraedd. Cyfarfod i’w aildrefnu. |
Minutes of the Staffing Committee meeting held on Wednesday 23 March 2025, to confirm accuracy
The meeting was not held, due to quoracy not being reached. Meeting to be rearranged.
|
Trefnu cyfarfod
Arrange meeting |
412 | Cymeradwyo argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Staffio.
N/A |
To approve recommendations made by the Staffing Committee
N/A.
|
|
413 | Materion yn codi o’r cofnodion:
N/A |
Matters arising from the minutes
N/A.
|
|
414 | Cymeradwyo gwariant mis Ebrill
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
Ymatalodd y Cyng. Emlyn Jones rhag pleidleisio. |
To approve April expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
Cllr. Emlyn Jones abstained from voting.
|
|
415 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
Dim |
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
None
|
|
416 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Roedd adroddiad gan y Cyng. Jeff Smith ar gyfarfod diweddar o’r Grŵp Aberystwyth Gwyrddach wedi cael ei gylchredeg.
|
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
A report by Cllr. Jeff Smith on a recent meeting of the Greener Aberystwyth Group had been circulated
|
|
418 | Gwariant cyfalaf parciau a thiroedd 2025-26
Roedd opsiynau ar gyfer uned chwarae newydd ar gyfer maes chwarae Plascrug wedi’u cylchredeg, gyda dyfynbrisiau lluosog wedi’u cael gan wahanol gyflenwyr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o £23,817 a dyfarnu’r gwaith i Lappsett i osod yr offer chwarae ‘Wranium’. |
Parks & grounds capital expenditure 2025-26
Options for a replacement play unit for Plascrug playground had been circulated, with multiple quotes obtained from different suppliers.
It was RESOLVED to approve expenditure of £23,817 and award the work to Lappsett to install the ‘Uranium’ play equipment.
|
|
419 | Glanhau strydoedd
Roedd rhestr o strydoedd a awgrymir ar gyfer golchi pŵer wedi cael ei gylchredeg, gan gynnwys rhai ar gyfer golchi’n llawn ac eraill ar gyfer golchi yn unig yn seiliedig ar angen.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhestr hon, gydag ychwanegu golchi llawn o Stryd y Bont o’r gyffordd Y Lôn Gefn hyd at Y Stryd Fawr.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o hyd at £5,800 ar gyfer y gwaith hwn, er mai dim ond un dyfynbris oedd wedi’i dderbyn hyd yma a byddai angen sawl dyfynbris yn unol â’r Rheoliadau Ariannol. |
Street washing
A list of suggested streets for power washing had been circulated, including some for full washing and others for only spot washing based on need.
It was RESOLVED to approve this list, with the addition of a full wash of Bridge Street from the junction with Grays Inn Road up to Great Darkgate Street.
It was RESOLVED to approve expenditure of up to £5,800 for this work, although only one quotation had been received so far and multiple would be needed in accordance with Financial Regulations.
|
|
420 | Ymgyrch i gynyddu balchder bro
PENDERFYNWYD creu gweithgor i drafod yr ymgyrch yn fwy o ddyfnder. Byddai’r Cynghorwyr canlynol yn aelodau o’r gweithgor, gyda lle i hyd at ddau aelod ychwanegol i’r rhai nad ydynt yn bresennol yn y cyfarfod hwn:
· Cyng. Maldwyn Pryse · Cyng. Emlyn Jones · Cyng. Bryony Davies · Cyng. Talat Chaudhri
Ystyriwyd deunyddiau ymgyrchu drafft ymhellach a byddai’r Cyng. Bryony Davies yn paratoi taflen symlach. PENDERFYNWYD dirprwyo pŵer i gymeradwyo’r deunyddiau ymgyrchu i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o £290.81 i ddosbarthu pecynnau drwy’r Post Brenhinol. |
Campaign to increase civic pride
It was RESOLVED to create a working group to discuss the campaign in greater depths. The following Councillors would be members of the working group, with space for up to an additional two members for those not present at this meeting: · Cllr. Maldwyn Pryse · Cllr. Emlyn Jones · Cllr. Bryony Davies · Cllr. Talat Chaudhri
Draft campaign materials were considered further and Cllr. Bryony Davies would prepare a simplified leaflet. It was RESOLVED to delegate power to approve the campaign materials to the General Management Committee.
It was RESOLVED to approve expenditure of £290.81 to distribute packs through Royal Mail.
|
|
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00. | ||
421 | Arwyddion Man Tyfu Plascrug
Roedd opsiynau i gywiro’r gwallau ar yr arwyddion wedi’u dosbarthu. PENDERFYNWYD bwrw ymlaen ag arwyddion troshaen alwminiwm wedi’u bondio, mewn glas ac aur Aberystwyth, gyda brandio’r Cyngor Tref wedi’i gynnwys lle byddai’r dyluniad yn caniatáu. |
Plascrug Growing Space signage
Options to rectify the errors on the signage had been distributed. It was RESOLVED to proceed with bonded aluminium overlay signs, in Aberystwyth blue & gold, with Town Council branding included where the design would allow.
|
|
422 | Adborth gweithgor Neuadd Gwenfrewi.
Roedd nodiadau o’r cyfarfod diwethaf wedi’u dosbarthu o’r blaen. Roedd angen cyfarfod pellach i drafod y prosiect yn fanwl. |
Neuadd Gwenfrewi working group feedback
Notes from the last meeting had been distributed prior. A further meeting was needed to discuss the project in detail.
|
Trefnu cyfarfod
Arrange meeting |
423 | Cais am gefeillio Aberystwyth Kronberg am gyllid
Roedd cais am gyllid wedi’i dderbyn gan y grŵp. PENDERFYNWYD creu strategaeth gefeillio ffurfiol cyn cytuno ar unrhyw wobr. I’w drafod gan y Pwyllgorau Rheolau Sefydlog a Pholisi a Rheoli Cyffredinol. |
Aberystwyth Kronberg Twinning request for funding
A funding request had been received from the group. It was RESOLVED to create a formal twinning strategy before agreeing on any award. To be discussed by the Standing Orders & Policy and General Management Committees.
|
Agendau Polisi a RhC
Policy & GM agendas |
424 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications | |
424.1 | A250227: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gadawodd y Cyng. Jeff Smith y cyfarfod am gyfnod yr eitem hon.
DIM GWRTHWYNEBIAD |
A250227: National Library of Wales
Cllr. Jeff Smith left the meeting for the duration of this item.
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
424.2 | A250216: Amgueddfa Ceredigion
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’r cais. |
A250216: Ceredigion Museum
The Town Council SUPPORTS the application.
|
Ymateb
Respond |
424.3 | A250193: Cae Pêl-droed Aberystwyth
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’r cais. |
A250193: Aberystwyth Football Ground
The Town Council SUPPORTS the application.
|
Ymateb
Respond |
424.4 | A250253: 30 Stryd y Dollborth
Nodwn nad oes unrhyw wybodaeth yn cael ei ddarparu ynglŷn â’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ffenestri a drysau ac ati. Nid oes gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD, ar yr amod bod deunyddiau adeiladu traddodiadol yn cael eu defnyddio, o ystyried lleoliad yr eiddo yn Ardal Gadwraeth Aberystwyth. Dylid gosod amod ar y preswylfeydd sy’n eu hatal rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi.
Hoffem nodi bod bagiau bin gwylanod ar gael gan y Cyngor Tref a fyddai o fudd i drigolion yr eiddo. |
A250253: 30 Northgate Street
We note that there is no information provided relating to the materials being used for windows and doors etc. The Town Council has NO OBJECTION, provided that traditional building materials are used, given the property’s location within the Aberystwyth Conservation Area. A condition should be places on the residences preventing them from being used as holiday accommodation or second homes.
We would like to note that seagull proof bin bags are available from the Town Council which would be of benefit to the residents of the property.
|
Ymateb
Respond |
425 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
425.1 | Arklow: Gohebiaeth gan Gynghorydd yn Arklow am ymweliad llong uchel o Arklow ag Aberystwyth ym mis Awst. | Arklow: Correspondence from a Councillor in Arklow about a visit to Aberystwyth of a tall ship from Arklow in August. | Agenda RhC
GM Agenda |
425.2 | Beicio Prydeinig: Cais i ddefnyddio Neuadd Gwenfrewi ar gyfer rheoli digwyddiadau a chanolfan gyfryngau ar gyfer y Pencampwriaethau Ffyrdd Cenedlaethol ym mis Mehefin. | British Cycling: Request to use Neuadd Gwenfrewi for event control and media centre for the National Road Championships in June. | |
425.3 | Gardd Uned Canser Leri: Gohebiaeth yn gofyn am gymorth Cyngor y Dref i drawsnewid gardd yr uned. | Leri Cancer Unit Garden: Correspondence requesting the Town Council’s assistance to transform the unit’s garden. | |
425.4 | Diwrnod VE: Gohebiaeth gan Gyngor Sir Ceredigion yn gofyn am unrhyw ddigwyddiadau coffa sy’n digwydd ar gyfer 80 mlynedd ers Diwrnod VE. | VE Day: Correspondence from Ceredigion County Council requesting information on any commemoration events taking place for the 80th anniversary of VE Day. |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:45 The meeting was closed at 21:45
Agenda:
383 | Presennol | Present |
384 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies & absences |
385 | Datganiadau o ddiddordeb ar faterion sy’n codi o’r agenda | Declarations of interest on matters arising from the agenda |
386 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
387 | Adroddiad ar weithgareddau’r Maer | Mayoral activity report |
388 | Diweddariadau gan y Clerc | Updates from Clerk |
389 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau | Updates from Facilities & Assets Manager |
390 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau | Updates from Events & Partnerships Officer |
391 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG | VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
392 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 24 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 24 March 2025, to confirm accuracy |
393 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
394 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitemau 395 i 397, oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod | To exclude the press & public for the duration of items 395 to 397, due to the confidential nature of the business to be discussed |
395 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd ar nos Lun 31 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Staffing Committee meeting held on Monday 31 March 2025, to confirm accuracy |
396 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Staffio | To consider recommendations made by the Staffing Committee |
397 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
398 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 7 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the General Management Committee held on Monday 7 April 2025, to confirm accuracy |
399 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
|
To consider recommendations made by the General Management Committee |
400 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
401 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 9 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Planning Committee meeting held on Wednesday 9 April 2025, to confirm accuracy |
402 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio
|
To consider recommendations made by the Planning Committee |
403 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
404 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 14 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 14 April 2025, to confirm accuracy |
405 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid | To consider recommendations made by the Finance Committee |
406 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
407 | Cofnodion o gyfarfod arbennig y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Fawrth 22 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the extraordinary Finance Committee meeting held on Tuesday 22 April 2025, to confirm accuracy |
408 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid | To consider recommendations made by the Finance Committee |
409 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
410 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitemau 411 i 413, oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod | To exclude the press & public for the duration of items 411 to 413, due to the confidential nature of the business to be discussed |
411 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd ar nos Lun 23 Ebrill 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Staffing Committee meeting held on Wednesday 23 April 2025, to confirm accuracy |
412 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Staffio | To consider recommendations made by the Staffing Committee |
413 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
414 | Cymeradwyo gwariant mis Ebrill | To approve April expenditure |
415 | Cwestiynau sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG | Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit |
416 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol | WRITTEN reports from representatives on outside bodies |
417 | Ystyried a dyfarnu Grantiau Cymunedol | To consider and award Community Grants |
418 | Gwariant cyfalaf parciau a thiroedd 2025-26 | Parks & grounds capital expenditure 2025-26 |
419 | Golchi strydoedd | Street washing |
420 | Ymgyrch i gynyddu balchder bro | Campaign to increase civic pride |
421 | Arwyddion Man Tyfu Plascrug | Plascrug Growing Space signage |
422 | Adborth gweithgor Neuadd Gwenfrewi | Neuadd Gwenfrewi working group feedback |
423 | Cais am gyllid Gefeillio Aberystwyth a Kronberg | Aberystwyth Kronberg Twinning request for funding |
424 | Ceisiadau Cynllunio | Planning Applications |
424.1 | A250227: Llyfrgell Genedlaethol Cymru | A250227: National Library of Wales |
424.2 | A250216: Amgueddfa Ceredigion | A250216: Ceredigion Museum |
424.3 | A250193: Maes Pêl Droed Aberystwyth | A250193: Aberystwyth Football Ground |
424.4 | A250253: 30 Stryd y Dollborth | A250253: 30 Stryd y Dollborth |
425 | Gohebiaeth | Correspondence |