Full Council - 23-10-2017
7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyngor Llawn / Full Council
23.10.2017
COFNODION / MINUTES
100
Yn bresennol:
Cyng. Endaf Edwards (Cadeirydd dros dro)
Cyng. Sara Hammel
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mari Turner
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Claudine Young
Cyng. Rhodri Francis
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
George Jones (cyfieithydd)
Caleb Spencer (Cambrian News)
Present:
Cllr. Endaf Edwards (acting Chair)
Cllr. Sara Hammel
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Alun Williams
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mari Turner
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Claudine Young
Cllr. Rhodri Francis
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
George Jones (translator)
Caleb Spencer (Cambrian News)
101
Ymddiheuriadau:
Cyng. Steve Davies
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Lucy Huws
Cyng. David Lees
Cyng. Brendan Somers
Apologies:
Steve Davies
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Lucy Huws
Cllr. David Lees
Cllr. Brendan Somers
102
Datgan Diddordeb:
Nodwyd o fewn yr eitem ar yr agenda
Declaration of interest:
Noted within the agenda item
103
Cyflwyniad: Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed Powys – Dafydd Llywelyn
Rhoddodd drosolwg o’r gwelliannau a wnaed i’r heddlu a’r gwaith partneriaeth cynyddol rhwng ardaloedd a gwasanaethau. Roedd y pynciau a godwyd yn ystod y sesiwn cwestiynau yn cynnwys:
Problem cyffuriau cynyddol: roedd hyn yn cael ei ystyried ar lefel Cymru gyfan. Byddai addysg i ddisgyblion trwy Swyddogion Cyswllt Ysgolion (11 ohonynt) yn parhau.
Llinell gyswllt Cymru: Roedd staff sy’n siarad Cymraeg wedi cael eu cyflogi ond roedd y gwasanaeth yn cael ei fonitro
PCSOs: ni fyddai elfen ariannu WG yn cynyddu yn unol â chwyddiant ond mae Dyfed Powys yn un o’r lluoedd sydd heb leihau nifer y PCSOs
Hyfforddiant cysylltiedig â therfysgaeth: roedd angen gwella hyn a chroesawodd y Comisiynydd adborth.
Yr heddlu ar gefn ceffylau: roedd yna gwnstabliaeth arbennig mewn ardaloedd gwledig iawn ond ni fyddai’n cael ei fabwysiadu fel prif rhan o’r heddlu.
CCTV: roedd y broses yn gymhleth oherwydd y tensiynau rhwng gwyliadwriaeth a rhyddid pobl. Fodd bynnag, byddai tendrau’n cael eu gwahodd mewn ychydig fisoedd a byddai cyfanswm o 14 o drefi yn elwa.
Presentation: Dyfed Powys Police and Crime Commissioner – Dafydd Llywelyn.
He provided an overview of improvements made to the force and the increased partnership working between areas and services. Topics raised during questions included:
Increasing drug problem: this was being looked at on an all Wales level. Education for pupils via School Liaison Officers (11 of them) would be ongoing.
Welsh contact line: Welsh speaking staff had been employed but the service was being monitored
PCSOs: WG funding element would not increase in line with inflation but Dyfed Powys are one of the forces who haven’t reduced the number of PCSOs
Terrorism related training: this needed improvement and the Commissioner welcomed feedback.
Mounted police: there were special mounted constabulary in very rural areas but it wouldn’t be adopted mainstream.
CCTV: the process was complex due to the tensions between surveillance and people’s freedoms. However tenders would be invited in a few months and a total of 14 towns would benefit.
104
Cyfeiriadau Personol: dim
Personal References: none
105
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Darparodd y Clerc adroddiad ar lafar yn absenoldeb y Maer.
Mayoral Activity Report:
The Clerk provided a verbal report in the Mayor’s absence.
106
Cofnodion o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd:
10.2017 (Cyfarfod Arbennig)
25 Medi 2017
i gadarnhau cywirdeb
newid i ‘ac ebost wedi ei ddarllen ar ran Bryony Davies’
ychwanegu ‘i egluro beth sy’n digwydd i’r Adran Gymraeg a ieithoedd Celtaidd’
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda’r newidiadau uchod
Minutes of Full Council held on:
10.2017 (Extraordinary Meeting)
25 September 2017
to confirm accuracy
76. amend to ‘and an email read on behalf of Bryony Davies’
add ‘to explain what is happening to the Welsh and Celtic languages department’
It was RESOLVED to approve the minutes with the above amendments
107
Materion yn codi o’r Cofnodion: dim
Matters arising from the Minutes: none
108
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 4 Medi 2017
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 2 October 2017
It was RESOLVED to approve the minutes
109
Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 9 Hydref 2017
Cywiriadau i enwau stryd yn y Gymraeg: Stryd y Dollborth; Rhes y Poplys; Coedlan 5; Coedlan 2; Rhes Caergrawnt
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda’r cywiriadau uchod
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 9 October 2017
Welsh street name corrections: Stryd y Dollborth; Rhes y Poplys; Coedlan 5; Coedlan 2; Rhes Caergrawnt
It was RESOLVED to approve the minutes with the above corrections
110
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 16 Hydref 2017
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion a’r argymhellion
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 16 October 2017
It was RESOLVED to approve the minutes and the recommendations.
111
Ceisiadau Cynllunio:
Datganodd y Cyng. Mark Strong a Endaf Edwards ddiddordeb fel aelodau o’r Pwyllgor Rheoli Datblygu ac ni chymerasant rhan yn y trafodaethau. Arhosodd y Cyng Edwards yn y Gadair.
A170922: Plas Morolwg – codi 8 fflat a gwaith cysylltiedig.
DIM GWRTHWYNEBIAD mewn egwyddor ond nodwyd yr amheuon canlynol ynghylch y dyluniad:
Dylai’r deunyddiau a ddefnyddir, a’r dyluniad, fod yn unol â’r lleoliad
nid yw to gwastad yn cyd-fynd â’r ardal ac mae’n debygol hefyd o achosi problemau cynnal a chadw yn y dyfodol – dylai’r to fod yn do brig
nid yw’r dyluniad yn manteisio ar yr agwedd. Mae ei ddrychiad blaen (lle mae ffenestri) yn wynebu Gogledd-Gogledd-Orllewin ond mae’r ochr sy’n wynebu’r De-orllewin yn waith bloc cadarn heb unrhyw ffenestri. Mae hyn hefyd yn berthnasol i’r ochrau balconi, sy’n atal trigolion rhag mwynhau’r agwedd sy’n wynebu’r De-orllewin.
Mae sicrhau ansawdd yn hanfodol gan fod yr adeilad ar safle agored
Planning Applications:
Cllrs Mark Strong and Endaf Edwards declared an interest as members of the Development Control Committee and they did not participate in discussions. Cllr Edwards remained in the Chair.
A170922: Plas Morolwg – erection of 8 apartments and associated works.
NO OBJECTION in principle but the following reservations regarding the design were noted:
the materials used and the design should be in keeping with the setting
a flat roof is not in keeping with the area and is also likely to cause future maintenance problems – the roof should be a pitched roof
the design does not take advantage of aspect. Its front elevation (where there are windows) faces NNW but the side facing SW is solid blockwork with no windows. This also applies to the balcony sides, which prevents residents from enjoying the SW facing aspect.
Quality assurance is crucial as the building is on an exposed site
112
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion o fewn cylch gorchwyl Cyngor Aberystwyth YN UNIG:
Byddai’r daflen gyswllt aelodau a ddosbarthwyd yn y cyfarfod yn cael ei chymryd yn ôl ar gyfer gwneud newidiadau cyn ei dosbarthu i gynghorwyr.
Questions relating ONLY to matters in Aberystwyth Council’s remit:
The member contact sheet distributed at the meeting would be recalled and changes made before distribution to councillors.
Diwygio y rhestr gyswllt
Edit the contact list
113
Cyllid – ystyried gwariant Hydref:
PENDERFYNWYD derbyn y gwariant
Finance – to consider expenditure for October
It was RESOLVED to accept the expenditure.
114
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â Chyngor Aberystwyth YN UNIG:
Mark Strong:
Bodlondeb: byddai’r Cyngor Sir yn cau Bodlondeb ym mis Mawrth 2018.
Materion parcio: Parcio ar balmantau yn Ffordd y Gogledd a cheir yn achosi rhwystrau yn Dan y Coed. Byddai’r materion hyn yn cael eu bwydo i’r ymgynghoriad parcio arfaethedig.
Alun Williams:
Prom: arwynebol oedd difrod y storm ddiweddar heb unrhyw ddifrod i’r Bandstand. Roedd y Cyngor Sir wedi gwneud gwaith clirio ardderchog
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to Aberystwyth Council:
Mark Strong:
Bodlondeb: the County Council would close Bodlondeb in March 2018.
Parking issues: Parking on pavements in North Road and cars causing obstructions in Dan y Coed. These issues would be fed into the forthcoming parking consultation.
Alun Williams:
Prom: recent storm damage was superficial with no damage to the Bandstand. The County Council had done an excellent clearance job
115
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:
Efeillio Kronberg: derbyniwyd llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor yn cynnig ymgeisio am arian o gronfa Bagiau Bywyd Tesco er mwyn gwella’r stribed o dir rhwng Parc Kronberg a’r orsaf heddlu.
Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yn y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
WRITTEN reports from representatives on outside bodies:
Kronberg Twinning: a letter had been received from the Committee Chair proposing a bid to the Tesco Bags for Life fund to improve the strip of land between Parc Kronberg and the police station.
This would be discussed further in the General Management Committee.
Eitem agenda RhC
GM agenda item
116
Ymgynghoriad: Arolwg 2018 o Etholaethau Seneddol yng Nghymru – Cynigion Diwygiedig (gorffen 11 Rhagfyr 2017)
Er gwerthfawrogi bod barn y Cyngor wedi cael ei ystyried, roedd aelodau’r bwrdd o’r farn nad oedd y newidiadau yn debygol o ddigwydd
Consultation: Review of Parliamentary Constituencies in Wales – Revised Proposals (ends 11 December 2017)
Whilst appreciating that the Council’s views had been taken on board members felt that the changes were unlikely to happen.
117
Gohebiaeth:
Correspondence:
117.1
Siarter Coed: roedd Aberystwyth yn cael coeden cyn bo hir.
PENDERFYNWYD ei phlannu mewn man gweladwy a chynnal dathliad
Tree Charter: Aberystwyth would receive a tree shortly.
It was RESOLVED to plant it in a visible place and hold a celebration
Trefnu plannu
Organise planting
117.2
Kronberg Park – diogelwch glan yr afon:
PENDERFYNWYD codi ffens addas nad oedd yn bosib ei dringo ar y cyd â phlannu fel ateb tymor-hwy. Byddai bwi achub yn rhy agored i fandaliaeth.
Kronberg Park – riverbank safety:
It was RESOLVED that an appropriate climb-proof fence be erected in conjunction with planting as a longer-term solution. A lifebuoy would be too prone to vandalism.
117.3
Pedestrianeiddio y Stryd Fawr: Eitem agenda Rheolaeth Cyffredinol
Pedestrianisation of Great Darkgate St: GM agenda item
Eitem agenda RhC
GM agenda item
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio / Planning Committee
6.11.2017
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd)
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Steve Davies
Cyng. David Lees
Cyng. Mari Turner
Yn mynychu:
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present:
Cllr. Lucy Huws (Chair)
Cllr. Sue Jones-Davies
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Steve Davies
Cllr. David Lees
Cllr. Mari Turner
In attendance:
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau:
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Claudine Young
Apologies:
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Claudine Young
3
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
5.1
A170959: Ty Lisburne. Amrywio amod 2 o ganiatad cynllunio A170150 – ychwanegu tair ffenest olau yn y to
DIM GWRTHWYNEBIAD yn gyffredinol, ond hoffai’r Cyngor gynnig y dylid defnyddio ffenestri pren er mwyn cydymffurfio gyda chanllawiau ardal gadwraeth
A170959: Lisburne House. Variation of condition 2 of planning permission A170150 – addition of three roof lights
Council generally has NO OBJECTION but would like to recommend that timber windows be used to conform to conservation area guidelines
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
5.2
A170964: Uned D Parc Masnach Ystwyth. Gosod llawr mesanin i’w ddefnyddio ar gyfer manwerthu a/neu gyfleuster gofal a thriniaeth anifeiliaid anwes, gosod 8 uned aerdymheru ac uned storio botel nwy.
DIM GWRTHWYNEBIAD ond dylid gwneud ymchwiliad i union natur y datblygiad ee a fydd gwasanaethau milfeddygol yn cael eu darparu.
A170964: Unit D Ystwyth Retail Park. Installation of mezzanine floor to be used for retail and/or a pet care and treatment facility, installation of 8 air conditioning units and a gas bottle storage unit
NO OBJECTION but an inquiry should be made as to the exact nature of the development eg will veterinary services be provided.
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
5.4
A170976: Ysbyty Bronglais. Trosi man storio allanol bresennol i gyfleuster llyfrgell offer arfaethedig
DIM GWRTHWYNEBIAD
A170976: Bronglais hospital. Conversion of existing external storage area to a proposed equipment library facility.
NO OBJECTION
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
5.5
A170984 Manorafon. Ffordd Penparcau. Estyniad arfaethedig deulawr ac unllawr i’r annedd.
DIM GWRTHWYNEBIAD
A170984 Manorafon. Penparcau Road. Proposed two storey and single storey extension to dwelling
NO OBJECTION
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
6
Pwyllgor Rheoli Datblygu. Cyflwynwyd yr adroddiadau er gwybodaeth.
Enoc Huws, 1 Garth-y-môr: Roedd hysbysiad gorfodi Cyngor Sir Ceredigion, a oedd yn gorchymynTai Ceredigion i adfer y drws pren a’r ffenestri blaenorol, wedi ei gadarnhau a gwrthodwyd apêl Tai Ceredigion.
ARGYMHELLWYD bod y newyddion da yn cael ei rannu gyda’r Cambrian News.
A160165: Llyfrgell Genedlaethol. Estyniad i’r maes parcio. Roedd hwn yn hen gais ond byddai’r Clerc yn cysylltu â’r Adran Gynllunio i gael rhagor o wybodaeth.
Development Control Committee. Reports presented for information.
Enoc Huws, 1 Prospect Place: Ceredigion County Council’s enforcement notice instructing Tai Ceredigion to reinstate the previous wooden door and windows had been upheld and Tai Ceredigion’s appeal rejected.
It was RECOMMENDED that the good news be shared with the Cambrian News
A160165: National Library. Extension of car park area. This was an old application but the Clerk would contact the Planning Department for more information.
Y Cadeirydd i gysylltu gyda’r Cambrian News
The Chair to contact the Cambrian News
Cysylltu gyda’r Adran Gynllunio
Contact the Planning Department
7
Gohebiaeth
Correspondence
7.1
Arwyddion Parc Kronberg: Cytunwyd y dylai’r arwyddion ddweud y dylid cadw cŵn ar dennyn.
Parc Kronberg signage: it was agreed that signs should say that dogs should be kept on a lead
7.2
Ymgynghoriad mannau gwyrdd tref a phentref (yn cau 2.2.2018): dylid edrych ar hyn yn fwy manwl
Town and Village green consultation (closes 2.2.2018): this should be looked at in greater detail
Danfon eto at gynghorwyr
Circulate to councillors again
7.3
Coeden Ffordd y Drindod: mae’r Cyngor Sir yn ceisio annog tyfiant ers y fandaliaeth.
Dylid holi eto ynglyn â’r goeden a dorrwyd yng Nghoedlan 2.
Trinity Road tree: the County Council were trying to encourage regrowth following an act of vandalism
Further inquiries should be made regarding the felled tree in 2nd Avenue
Cysylltu gyda’r Cyngor Sir eto
Contact CCC again
7.4
Adroddiad ymgynghoriad Cadw: er gwybodaeth
Cadw consultation report: for information
7.5
Torri rheolau cynllunio posib yn Ffordd y Gogledd: roedd waliau cerrig a rheiliau wedi’u tynnu.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Sir Ceredigion i holi pa gamau a gymerwyd.
Suspected breach of planning North Road: stone walls, railings and bollards had been removed.
The Committee agreed to contact Ceredigion County Council to see what action had been taken.
Cysylltu gyda’r Cyngor Sir
Contact CCC
7.6
Honiad fod rheolau cynllunio wedi ei torri: byddai’r Clerc yn ymateb i’r perchennog
North Road alleged breach of planning: the Clerk would respond to the homeowner
Ysgrifennu ebost
Send email
8
Cynigion (Cyng. Sue Jones Davies)
Motions (Cllr Sue Jones Davies)
8.1
Mae’r Cyngor Tref yn mabwysiadu polisi lle mae unrhyw unigolyn, cartref neu gwmni sydd wedi torri coeden ar eu heiddo, am ba reswm bynnag, yn cael ei annog i blannu dwy goeden frodorol yn ei lle yn y cyffiniau agos.
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu’r uchod ac yn paratoi templed llythyr i’w anfon o’r Cyngor a fyddai’n cynnwys yr angen i ofyn am gyngor wrth blannu coed newydd. Byddai cynghorwyr yn dilyn y llythyr gydag ymweliad
The Town Council adopts a policy whereby any individual, household or company that has cut down a tree on their property, for whatever reason, is encouraged to plant two native trees in its place in the immediate vicinity.
It was RECOMMENDED that Council adopts the above and prepares a template letter to be sent from Council which would include the need to seek advice in planting replacement trees. Councillors would follow up the letter with a visit.
8.2
Mae’r Cyngor Tref yn gofyn i’r Cyngor Sir fabwysiadu templed ailgylchu i’w ddefnyddio a’i harddangos gan yr holl landlordiaid yn eu heiddo yn esbonio polisi ailgylchu’r sir gyda’r amserlen ar gyfer y gwahanol fagiau a’u defnydd
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn mabwysiadu’r uchod ac yn trafod y mater gyda swyddogion CSC yn y cyfarfod GM nesaf.
The Town Council asks the County Council to adopt a recycling template to be used and displayed by all landlords in their properties explaining the recycling policy of the county with the timetable for the different bags and their uses
It was RECOMMENDED that Council adopts the above and discusses the issue with CCC officers in the next GM meeting.
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
11.2017
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Steve Davies
Cyng. Sara Hammel
Cyng. Michael Chappell (cofnodion)
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mari Turner
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Mair Benjamin
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Cyng David Lees
Cyng Brendan Somers
Cyng Endaf Edwards
Elizabeth Treasure (Is Ganghellor)
Ceredig Davies (Cynghorydd Sir)
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Steve Davies
Cllr. Sara Hammel
Cllr. Michael Chappell (minutes)
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mari Turner
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Mair Benjamin
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Cllr. David Lees
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Endaf Edwards
Elizabeth Treasure (Vice Chancellor, Visitor)
Ceredig Davies (County Councillor)
2
Ymddiheuriadau
Cyng Dylan Lewis
Apologies
Cllr. Dylan Lewis
3
Datgan Diddordeb: dim
Declaration of Interest: none
4
Cyfeiriadau personol:
Mynegodd y Cyngor ei ddiolchgarwch i holl waith Paul Arnold wrth iddo ymddeol.
Personal references:
Council expressed its gratitude for all of Paul Arnold’s work as he is due to retire.
5
Cynllun Strategol Prifysgol Aberystwyth: Elizabeth Treasure, Is-ganghellor
Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys:
darpariaeth ar gyfer astudiaethau iaith Cymraeg a Cheltaidd
Adeiladau rhestredig i’w gwerthu
Nifer ceir myfyrwyr
Pantycelyn
bygythiadau i swyddi yn adran sinema theatr a ffilm
arwyddion dwyieithog
myfyrwyr tramor a chyfleoedd
Aberystwyth Di-blastig ac ailgylchu
Gofynnodd yr Is-Ganghellor am fanylion y sefydliad sy’n achredu Aberystwyth fel Tref Di-blastig.
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn lobïo Llywodraeth Cymru i ehangu’r mathau o brentisiaethau y gall y Brifysgol eu cynnig.
Aberystwyth University Strategic Plan: Elizabeth Treasure, Vice Chancellor
Topics discussed included:
provision for Welsh and Celtic language studies
Listed properties for sale
Student car numbers
Pantycelyn
threats to jobs in theatre cinema and film
bilingual signage
International students and opportunities
Plastic Free Aberystwyth and recycling
The Vice Chancellor requested details for the organisation that accredits Aberystwyth as a Plastic Free Town.
It was RECOMMENDED that the Council lobbies the Welsh Government to expand the types of apprenticeships that the University can offer.
6
Ymgynghoriad casglu gwastraff canol dref – Paul Arnold, Pennaeth Gwasanaethau Technegol CSC
Mae’r Cyngor Sir yn ystyried trin ardal Gadwraeth Aberystwyth fel achos arbennig o ran casglu sbwriel.
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor Tref yn ymateb i’r ymgynghoriad.
Town centre refuse collection – Paul Arnold, Head of Technical Services, CCC
The County Council are considering treating the Aberystwyth Conservation area as a special case in regards to refuse collection.
It was RECOMMENDED that the Town Council responds to the consultation.
7
Ymgynghoriad Parc Ffordd y Gogledd
ARGYMHELLWYD
Bod y Cyngor yn bwrw iddi gyda chynllun ymgynghori Parc y Ffordd y Gogledd, gan ychwanegu ymweliadau drws i ddrws gan gynghorwyr.
Y dylid torri’r coed conifferaidd gan Glinig y Ffordd y Gogledd ynghyd â’r popl broblem.
Roedd Cyng. Strong yn gwrthwynebu torri’r goeden poplys a roedd Cyng. Hammel yn erbyn torri unrhyw goed.
North Road Park consultation
It was RECOMMENDED:
That Council proceed with the North Road Park consultation plan with the addition of door to door visits by councillors.
That the coniferous trees by the North Road Clinic be cut down along with the problem poplar.
Cllr. Strong was opposed to the felling of the poplar and Cllr. Hammel voted against felling any trees.
8
Parc Kronberg
Er gwybodaeth, mae’r Clerc wedi cychwyn trafodaethau gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynglŷn â chyflogi Llysgennad am chwe mis yn unol â chais y Loteri.
Dyddiad y digwyddiad Lansio yw 14eg o Ragfyr
Parc Kronberg
For information, the Clerk has initiated discussions with Carmarthenshire County Council regarding the employment of an Ambassador for six months as per the Lottery application.
The Date for the Launch event is 14 December
9
Gohebiaeth
Correspondence
9.1
Bydd y Cyngor yn ymateb i’r preswylydd sy’n dymuno i’r Stryd Fawr gael ei phedestrianeiddio. Ni ellir ei wneud tan i’r ffordd beidio fod yn gefnffordd
Council will respond to the resident wishing for Great Darkgate Street to be pedestrianised. It cannot be done until the road is de-trunked.
9.2
Bydd Fforwm Cymunedol Penparcau yn cwrdd â’r Cyngor i drafod y Cynllun Lleol.
Anfonir adolygiad i’r Cynllun Lleol i’r Pwyllgor Cynllunio
Penparcau Community Forum will meet with the Council to discuss the Local Plan.
Review into the Local Plan will be sent to Planning Committee
9.3
Gwybodaeth ar grantiau: Angen gwneud cais am grantiau meysydd chwarae erbyn mis Ionawr.
Grant information: Need to apply for playgrounds grants by January.
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
11.2017
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Dylan Lewis (Cadeirydd)
Cyng. Mark Strong
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Steve Davies
Cyng. David Lees
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alun Williams
Cyng. Talat Chaudhri
Yn mynychu:
Cyng. Michael Chappell (cofnodion)
Present
Cllr. Dylan Lewis (Chair)
Cllr. Mark Strong
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Steve Davies
Cllr. David Lees
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alun Williams
Cllr. Talat Chaudhri
In attendance:
Cllr. Michael Chappell (minutes)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Rhodri Francis
Apologies
Cllr. Brenda Haines
Cllr Rhodri Francis
3
Datgan buddiannau: Dim
Declarations of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol:
Mynegodd y Pwyllgor gydymdeimlad mawr i’r rhai sydd, oherwydd penderfyniad pwyllgor craffu Cyngor Sir Ceredigion heddiw, yn colli eu cartrefi yng Nghartref Gofal Bodlondeb.
Personal references:
The Committee expressed hearfelt sympathy to those who, due to the decision of Ceredigion County Council scruitiny committee today, are losing their homes at Bodlondeb Care Home.
5
Ystyried Cyfrifon Mis Hydref
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cyfrifon.
Consider Monthly Accounts for October
It was RECOMMENDED that Council approve the accounts.
6
Cyllideb ddrafft 2018-19
Trafodwyd y materion canlynol yn ymwneud â gwariant ac ARGYMHELLWYD:
Bod y Cyngor yn cysylltu â Sir Gâr ynghylch gwasanaethau cyflogaeth
Bod y Cyngor yn gofyn i’r Cyngor Sir am gostau’r arwyddion troed ac hysbysfyrddau
Bod y Cyngor yn cael eglurhad ynghylch gwahaniaethu rhwng grantiau a rhoddion yn y gyllideb.
Bod y Cyngor yn cysylltu â’r Cyngor Sir yn gofyn am eglurhad ynghylch yr hyn y mae’r dyraniad glanhau traeth yn ei dalu.
Dylai’r Cyngor Tref roi arian o’r neilltu ar gyfer torchod ar gyfer y gwasanaeth coffa ym Mhenparcau
Materion cyllidebol eraill i’w hystyried ymhellach:
Prynu llety
Treuliau’r Cynghorwyr
Gwisgoedd newydd a byrddau anrhydedd ac ati
Blodau
Gwelliannau i’r parciau
Cyllideb adloniant / digwyddiadau
Praesept
Nodwyd hefyd na ddylid cyfeirio at Swyddfa’r Heddlu ym Mhenparcau fel gorsaf
Draft budget 2018-19
The following matters involving expenditure were discussed and it was RECOMMENDED:
That Council contacts Sir Gar regarding employment services.
That the Council get the fingerpost and noticeboard costs from the County Council.
That the Council seek clarification on whether the budget should distinguish between grants and donations.
That the Council contact the County Council seeking clarification on what the beach cleaning allocation pays for.
Town Council should put money aside for wreaths for the memorial service in Penparcau.
Other budget issues to be considered further:
Purchase of accommodation
Councillor expenses
New robes and honour boards etc
Flowers
Park improvements
Entertainment/events budget
Precept
It was also noted that the Police Office in Penparcau should not be referred to as a station
7
Gohebiaeth
Dim
Correspondence
None