Full Council
26/06/2017 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyngor Llawn / Full Council
26.6.2017
COFNODION / MINUTES
30
Yn bresennol:
Cyng. Steve Davies
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Sara Hammel
Cyng. Michael Chappell
Cyng. David Lees
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Alun Williams
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mari Turner
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Lucy Huws
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
George Jones (cyfieithydd)
Chris Betteley (Cambrian News)
Present:
Cllr. Steve Davies
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Sara Hammel
Cllr. Michael Chappell
Cllr. David Lees
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Alun Williams
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mari Turner
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Lucy Huws
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
George Jones (translator)
Chris Betteley (Cambrian News)
31
Ymddiheuriadau:
Cyng. Claudine Young
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Mair Benjamin
Apologies:
Cllr. Claudine Young
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Mair Benjamin
32
Datgan Diddordeb:
Nodwyd o fewn yr eitem agenda
Declaration of interest:
Noted within the agenda item
33
Cyfeiriadau Personol:
Cynhaliwyd munud o dawelwch er cof am drigolion Tŵr Grenfell.
Roedd cynghorwyr wedi mynychu diwrnod agored y rhandiroedd ac wedi edmygu pa mor dda yr oeddent yn cael eu rheoli gan y Gymdeithas a Chlerc y Cyngor Tref.
Personal References:
A minute’s silence was held in memory of the inhabitants of Grenfell Tower.
Councillors had attended the allotment open day and were impressed with how well run they were by the Association and Town Council Clerk.
34
Cyflwyniad –Stephen Davies, Prif Arolygydd, a Robyn Mason, Uwch Arolygydd, a Comander Rhanbarth Ceredigion Heddlu Dyfed Powys.
Darparodd y ddau swyddog drosolwg o’r sefyllfa bresennol yn Aberystwyth. Roedd mwy o weithgarwch gwrthgymdeithasol. Roedd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (PSPO) yn cael ei adolygu ym mis Hydref. Roedd patrolau ar droed wedi cynyddu ond roedd angen atebion mewn partneriaeth gan gynnwys tai a chymorth. Byddai’r Comisiynydd yn trafod darpariaeth CCTV gyda’r Cyngor maes o law.
Rhai materion a godwyd gan gynghorwyr yn cynnwys:
Beicio ar balmentydd a’r achosion am hynny
Pwysigrwydd rhaglenni addysgol
Atyniad Aberystwyth fel cyrchfan
Yr ymateb Cymraeg annigonol i’r rhif 101. Byddai hyn yn cael ei adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Iaith a Safonau ym Mhencadlys yr Heddlu.
Os ydynt yn dychryn pobl gellir eu harestio, ond dim ond ateb tymor byr ydyw.
Presentation –Stephen Davies, Chief Inspector, and Robyn Mason, Superintendent and Ceredigion Divisional Commander, Dyfed Powys Police.
Both officers provided an overview of the current situation in Aberystwyth. There was increased anti-social activity. The Public Space Protection Order (PSPO) was due to be reviewed in October. Foot patrols had been increased but partnership solutions were needed including housing and support. The Commissioner would be discussing CCTV provision with the Council in due course.
Some issues raised by councillors included:
Cycling on pavements and the causes
The importance of educational programmes
Aberystwyth’s attraction as a destination
The inadequate Welsh language response to the 101 number. This would be reported back to the Language and Standards Committee in Police Headquarters.
If they intimidate people they can be arrested but it is only a short-term solution.
35
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Darparwyd adroddiad ar lafar – roedd y Maer wedi mynychu nifer o ddigwyddiadau.
Mayoral Activity Report:
Verbal report provided – the Mayor had attended various events.
(48)
Eitem Agenda 48: Cynnig ynghylch Bodlondeb.
Daethpwyd â’r drafodaeth ymlaen gan fod aelod o’r cyhoedd â diddordeb yn bresennol.
Gadawodd y Cyng Alun Williams yr ystafell oherwydd ei fod yn aelod o Gabinet Cyngor Sir. Nododd Cynghorwyr Endaf Edwards a Mark Strong eu rôl fel Cynghorwyr Sir a Rhodri Francis ei fod yn gweithio i’r Cyngor Sir (y tri wedi atal eu pleidlais).
PENDERFYNWYD bod y cynnig yn cael ei gymeradwyo gydag un newid:
‘… i edrych ar yr holl ddewisiadau posibl i achub Bodlondeb’ yn lle ‘… i achub Bodlondeb’
Agenda Item 48: Motion regarding Bodlondeb.
Discussion was brought forward as an interested member of the public was in attendance.
Cllr Alun Williams left the room because he was a member of the County Council Cabinet. Cllrs Endaf Edwards and Mark Strong noted their role as County Councillors and Rhodri Francis that he worked for the County Council (they abstained from voting).
It was RESOLVED that the motion be approved with one amendment:
‘… to look at all possible options to save Bodlondeb’ would replace ‘…to save Bodlondeb’
Danfon llythyr yn cynnwys y cynnig at y Cyngor Sir
Send letter including the motion to CCC
36
Cofnodion o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 30 Mai 2017 i gadarnhau cywirdeb:
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion
Minutes of Full Council held on Monday, 30 May 2017 to confirm accuracy:
It was RESOLVED to approve the minutes
37
Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim
Matters arising from the Minutes:
None
38
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 5 Mehefin 2017
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gydag un cywiriad:
7.6 Tan y Cae ac nid Dan Dre
Minutes of the Planning Committee held on Monday 5 June 2017
It was RESOLVED to approve the minutes with one correction to the Welsh for South Road in 7.6: Tan y Cae
39
Cofnodion Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun, 12 Mehefin 2017:
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gydag un cywiriad:
Eitem 3: dylid ychwanegu ieithoedd modern at sylwadau’r Cyngor
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 12 Mehefin 2017:
It was RESOLVED to approve the minutes with one correction:
Item 3: modern languages to be added to the Council’s comments
40
Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd nos Lun, 22 Mai 2017:
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion a’r argymhellion,
Minutes of the Finance and Establishments Committee held on Monday, 22 May 2017:
It was RESOLVED to approve the minutes.
41
Ceisiadau Cynllunio: dim
Planning Applications: none
42
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion o fewn cylch gorchwyl Cyngor Aberystwyth YN UNIG: Dim
Questions relating ONLY to matters in Aberystwyth Council’s remit: None
43
Cyllid – ystyried gwariant:
PENDERFYNWYD derbyn y gwariant
Finance – to consider expenditure:
It was RESOLVED to accept the expenditure
44
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â Chyngor Aberystwyth YN UNIG:
Adroddodd y Cyng. Alun Williams ar ymgynghoriad Hywel Dda ar wasanaethau clinigol cyffredinol. Dyddiad cau 15 Medi. Byddai’n anfon y ddolen at y Clerc i’w ddosbarthu.
PENDERFYNWYD trafod yr ymgynghoriad yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn.
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to Aberystwyth Council:
Alun Williams reported on the Hywel Dda consultation on general clinical services. 15 September deadline. He would send the link to the Clerk for distribution.
It was RESOLVED to discuss the consultation at the next Full Council meeting.
Eitem agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda item
45
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol:
Roedd y Cyng Dylan Lewis darparu adroddiad ysgrifenedig ar y Pwyllgor Cyswllt Rheilffordd.
Byddai gwasanaethau trên yn cael ei ychwanegu fel eitem agenda ar gyfer y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol nesaf.
WRITTEN reports from representatives on outside bodies:
Cllr Dylan Lewis had provided a written report on the Rail Liaison Committee.
Train services would be added as an agenda item for the next General Management Committee.
Eitem agenda RhC
GM agenda item
46
Derbyn Rheolau Sefydlog
Roedd y Pwyllgor Rheolau Sefydlog wedi cyfarfod ac wedi cynhyrchu rhestr ysgrifenedig o’r diwygiadau arfaethedig. PENDERFYNWYD gohirio ystyriaeth tan y Cyngor Llawn nesaf er mwyn rhoi digon o amser i gynghorwyr i ystyried y diwygiadau.
Dylid cadw fersiynau blaenorol y Rheoliadau fel record.
Approve Standing Orders
The Standing Orders Committee had met and produced a written list of proposed amendments. It was RESOLVED to postpone consideration until next Full Council so as to provide sufficient time for councillors to consider the amendments.
All previous versions of Standing Orders should be kept as a record
Eitem agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda item
47
Derbyn Rheoliadau Ariannol
PENDERFYNWYD gohirio ystyriaeth tan y Cyngor Llawn nesaf fel pwynt 46 uchod.
Approve Financial Regulations
It was RESOLVED to postpone consideration until next Full Council as for point 46 above.
Eitem agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda item
49
Sedd y Ward Ganol: sedd wag achlysurol oedd hon a roedd y Clerc yn aros am y dogfennau oddi wrth y Cyngor Sir
Central Ward seat: this was a casual vacancy and the Clerk was waiting for documents from CCC.
50
Gohebiaeth:
Correspondence:
50.1
Seremoni Graddio 18-21 Gorffennaf
Roedd y Clerc wedi cylchredeg amserlen ar gyfer datganiadau o ddiddordeb. Nodwyd cynrychiolwyr y Cyngor Tref fel a ganlyn:
Dydd Mawrth: Brenda Haines (am) a Mair Benjamin (am + pm)
Dydd Mercher: Brenda Haines (am) a Mair Benjamin (am + pm)
Dydd Iau: Mair Benjamin (am + pm)
Dydd Gwener: Mair Benjamin (am) Steve Davies a Charlie Kingsbury (pm)
Degree ceremonies 18-21 July
The Clerk had circulated a timetable for expressions of interest. The Town Council’s representatives were noted as follows:
Tuesday: Mair Benjamin (am+pm)
Wednesday: Brenda Haines (am) and Mair Benjamin (am+pm)
Thursday: Brenda Haines (am) and Mair Benjamin (am + pm)
Friday: Mair Benjamin (am) Steve Davies and Charlie Kingsbury (pm)
Ymateb i’r Brifysgol
Respond to the University
50.2
Cyfarfod yn y Brifysgol: ychwanegu fel eitem RhC
Meeting at the University: add as GM agenda item
Eitem agenda RhC
GM agenda item
50.3
Geithdai Llywodraeth Cymru ar reoli a gwaredu gwastraff ymbelydrol actifedd uwch
Welsh Government Workshops on higher activity radioactive waste management and disposal
Danfon y wybodaeth at gynghorwyr
Send details to councillors
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio / Planning Committee
3.7.2017
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd)
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Steve Davies
Cyng. David Lees
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Mari Turner
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Claudine Young
Yn mynychu:
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present:
Cllr. Lucy Huws (Chair)
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Steve Davies
Cllr. David Lees
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Mari Turner
Cllr. Sue Jones-Davies
Cllr. Claudine Young
In attendance:
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau:
Cyng. Talat Chaudhri
Apologies:
Cllr. Talat Chaudhri
3
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
5.1
A170417: Pier, Glan y Môr. Addasiadau mewnol.
DIM GWRTHWYNEBIAD yn gyffredinol ond mae gan y Cyngor bryderon ynghylch:
Sbwriel a grëwyd gan yr elfen cludfwyd
Storio gwastraff
Effaith ar adeilad rhestredig – bydd coginio sglodion yn gofyn am offer coginio gwahanol a darpariaeth gwyntyllu. Nid oes son am hyn yn y cais.
Byddai’r Cyngor yn hoffi argymell:
pecynnau bioddiraddadwy
ystyriaeth yn cael ei roi i aelodau o staff yn mynd ati i godi sbwriel yn y cyffiniau (fel McDonalds)
Rheolaethau Adeiladu i sicrhau bod yr holl reoliadau diogelwch yn cael eu bodloni.
A170417: Pier Pavilion, Marine Terrace. Internal alterations.
Council generally has NO OBJECTION but does have concerns regarding:
Litter created by the takeaway element
Waste storage
Impact on listed building – cooking chips requires different cooking equipment and ventilation provision. There is no mention of this in the application.
Council would like to recommend:
biodegradable packaging
consideration given to staff members actively picking up litter within the vicinity (like McDonalds)
Building Controls to ensure all safety regulations are met.
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
5.2
A170511: Clwb Pel Droed. Newid defnydd rhan o’r clwb i ganolfan prawf gyrru hyd at 10 mlynedd.
DIM GWRTHWYNEBIAD
A170511: Football Club. Change of use of part of the club to driving test centre for up to 10 years.
NO OBJECTION
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
5.3
A170557: Tŷ Eddleston. Peintio’r waliau allanol gyda Palladian 15 (Casgliad Hanesyddol Crown)
DIM GWRTHWYNEBIAD ond hoffai’r Cyngor gyfleu ei siom i dderbyn cais cynllunio ôl-weithredol.
A170557: Eddleston House. Painting the external walls with Palladian 15 (Crown Historic Collection)
Council has NO OBJECTION but would like to convey its disappointment at this retrospective planning application.
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
6
Pwyllgor Rheoli Datblygu
Development Control Committee
6.1
INV170068: Blaen siop Enoc Huws. Roedd y Cyngor yn siomedig fod Tai Ceredigion wedi apelio yn erbyn penderfyniad y Cyngor Sir y dylen nhw roi’r hen ffenest yn ol.
INV170068: Enoc Huws shop front. The Council was disappointed that Tai Ceredigion had appealed against the County Council’s decision that they reinstate the old-style window.
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
6.2
A170050: Store 21. Roedd y Cyngor yn siomedig bod y llawr mesanîn wedi cael ei gymeradwyo i ddarparu caffi arall eto yn Aberystwyth. Mae hyn yn cynrychioli gor ddatblygu llefydd bwyta a bydd busnesau annibynnol yn cael eu heffeithio
A170050: Store 21. The Council was disappointed that the mezzanine floor had been approved to provide yet another café in Aberystwyth. This represents an over development of food outlets and independent businesses would be affected.
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
7
Gohebiaeth
Correspondence
7.1
Grisiau a ramp yr hen barc sgrialu . Roedd y rhain yn awr mewn cyflwr gwael. Rhoddwyd ddau opsiwn i’r Pwyllgor i’w hystyried:
Ail-ddylunio ar gost o tua £32,000
Adnewyddu am gost o tua £10,000
Roedd angen mwy o wybodaeth ond roedd yn well gan y Pwllgor yr opsiwn rhatach, gyda mwy o fannau gwyrdd.
Old skatepark steps and ramp. These were now in a poor state. The Committee was given two options to consider:
Re-design at an approximate cost of £32,000
Renovation at an approximate cost of £10,000
More information was needed but the cheaper option, with more green space, was preferred.
7.2
Eglwys Santes Gwenfrewi: e-bost yn gofyn i’r Cyngor Tref sicrhau cynnal a chadw’r eglwys.
Byddai’r Pwyllgor Cynllunio yn ysgrifennu at y Cyngor Sir i ofyn iddynt edrych ar gyhoeddi Gorchymyn dadfeilio 215.
St Winefride’s Church: an email requesting the Town Council secure maintenance of the church.
The Planning Committee would write to the County Council to ask them to look at issuing a 215 Dilapidation Order.
Cysylltu gyda’r Cyngor Sir
Contact CCC
7.3
M&S (Rheolwr Gweledol): yn edrych ar gyfleon ar gyfer hysbysebu allanol.
Y Clerc i ofyn am fwy o wybodaeth
M&S (Visual Manager): investigating opportunities for external advertising.
The Clerk to ask for more information
Cysylltu gyda M&S
Contact M&S
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
7.2017
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Steve Davies
Cyng. Sara Hammel
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Claudine Young
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alex Mangold
Yn mynychu:
Cyng. David Lees
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Steve Davies
Cllr. Sara Hammel
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Claudine Young
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alex Mangold
In attendance:
Cllr. David Lees
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Mark Strong
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Mari Turner
Apologies
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Mark Strong
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Mari Turner
3
Datgan Diddordeb
Cyng. Talat Chaudhri ar gyfer eitem agenda 9 am mai ef oedd yn cyflwyno’r cynnig
Declaration of Interest:
Cllr Talat Chaudhri for agenda item 9 as he was presenting the motion.
4
Cyfeiriadau personol
Bu farw tad y Cyng Dylan Lewis a dylid danfon cerdyn cydymdeimlad ato.
Personal references
A sympathy card to be sent to Cllr Dylan Lewis whose father had passed away.
5
Coed – Morfa Mawr
Cyflwynwyd adroddiad ac argymhellion yr arolwg radar gwreiddiau a gomisiynwyd.
Roedd canghennau yn crogi dros y tai hefyd yn fater a oedd angen sylw brys.
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cysylltu gyda Chyngor Sir Ceredigion ynghylch tocio ac am gyngor ar y gwreiddiau.
Trees – Queen’s Road
The commissioned root radar survey report and recommendations was presented.
Branches overhanging properties was also an issue needing urgent attention.
It was RECOMMENDED that Council contact Ceredigion County Council regarding pruning and for advice on the roots.
Cysylltu gyda’r Cyngor Sir
Contact the County Council
6
Goleudadau Nadolig
Dylid trefnu is-grŵp mewn partneriaeth ag Aberystwyth ar y Blaen a oedd eisiau cyfrannu arian at y goleuadau.
Aelodau newydd: Cyng. Michael Chappell a Charlie Kingsbury
Christmas Lights
A sub-group to be convened in partnership with Advancing Aberystwyth, who wanted to contribute funding for the lights.
New members: Cllrs Michael Chappell and Charlie Kingsbury
Trefnu’r is-grŵp
Organise sub-group
7
Gwasanaethau Trenau
Gohiriwyd tan y cyfarfod nesaf
Rail Services
Deferred to next meeting
8
Cyfarfod yn y Brifysgol
Cytunwyd y byddai cynnal cyfarfod arbennig o’r Cyngor yn hwyrach ym mis Tachwedd, i drafod materion balchder dinesig yn y Brifysgol, yn syniad da. Yn ychwanegol at y Brifysgol ac Undeb y Prifysgolion, gellid gwahodd partneriaid allweddol, megis Cyngor Sir Ceredigion, Aberystwyth ar y Blaen a chynghorau cymuned cyfagos.
Meeting at the University
It was agreed that a special Council meeting to discuss civic pride issues and held at the University sometime in late November, had merit. In addition to the University and Students Union, key partners, such as Ceredigion County Council, Advancing Aberystwyth and neighbouring community councils could be invited.
9
Cynnig Is Bwyllgor Technoleg, Cyng Talat Chaudhri
Pasiodd y Cyng Talat Chaudri y gadair i Sara Hammel, Is-gadeirydd.
Awgrymwyd diwygiadau amrywiol ond yn y diwedd penderfynwyd symud ymlaen i’r eitem nesaf ar yr agenda.
Motion: Technology Sub-Committee, Cllr Talat Chaudhri
Cllr Talat Chaudri passed the chair to Sara Hammel, Vice Chair.
Various amendments were suggested but in the end it was decided to move on to the next agenda item.
10
Cynnig: Comisiynydd y Cyngor Tref, Cyng Talat Chaudhri
Wedi tynnu’n ôl
Motion: Town Council Commissioner, Cllr Talat Chaudhri
Withdrawn
11
Gohebiaeth
Correspondence
11.1
Pwyllgor yr Ŵyl Ddrama: yn gofyn cyngor ar y broses o osod plac ar hen gartref y bardd sef 33 Rhodfa’r Gogledd.
Y Clerc i roi gwybod iddynt am yr angen i’r plac i fod yn ddwyieithog, ac ar lechen, a dylid danfon y geiriau at y Cyngor yn gyntaf.
Drama Festival Committe: asking for advice on the process of placing a plaque to commemorate Prosser Rhys, the poet, on his old home ie 33 North Parade.
The Clerk to notify them that the plaque should be bilingual, made of slate, and the wording should be sent to the Council first.
Ymateb / Respond
11.2
Ymgynghoriad Bodlondeb: er gwybodaeth
Bodlondeb consultation: for information
11.3
Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor Sir: er gwybodaeth
CCC Annual Governance Statement: for information
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
7.2017
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Alun Williams (Cadeirydd yn absenoldeb y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd)
Cyng. David Lees
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Mark Strong
Cyng. Talat Chaudhri
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Alun Williams (Chair in the absence of Chair and Vice-Chair)
Cllr. David Lees
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Mark Strong
Cllr. Talat Chaudhri
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Steve Davies
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Brenda Haines
Apologies
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Steve Davies
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Brenda Haines
3
Datgan buddiannau: Gweler eitem 7 – Penderfyniad 47
Declarations of interest: See item 7 – Determination 47
4
Cyfeiriadau Personol: Dim
Personal references: None
5
Ystyried Cyfrifon Misol Ebrill, Mai a Mehefin
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cofnodion.
Consider Monthly Accounts for April, May and June
it was RECOMMENDED that Council approve the accounts.
6
Y diweddaraf ar Barc Kronberg
Roedd gofynion y Loteri yn cael eu diwallu, ond bod estyniad y Prydles yn cymryd mwy o amser na’r disgwyl. Byddai arian y Loteri yn cael ei ryddhau ar ôl derbyn y Les, ond yn y cyfamser roedd taliadau yn cael eu gwneud i’r contractwyr.
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn darparu y Maer a’r Cyng Alun Williams (fel y llofnodwyr cyfredol) gyda phwerau dirprwyedig i wneud y taliadau angenrheidiol yn ystod mis Awst.
Kronberg Park update
The Lottery’s requirements were being met but the Lease extension was taking longer than anticipated. Lottery funds would be released once this was in place but in the meantime payments were being made to the contractors.
It was RECOMMENDED that Council provide the Mayor and Cllr Alun Williams (as the current signatories) with delegated powers to make the necessary payments during August.
7
Newidiadau arfaethedig yn Nhâl aelodau o Gynghorau Cymuned a Thref.
Trafodwyd Penderfyniadau 44-51, gan Banel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cymru, ac ARGYMHELLODD y Pwyllgor, yn ogystal â Lwfans y Maer sy’n bodoli eisoes, bod y Cyngor yn mabwysiadu’r canlynol:
Penderfyniad 47: Lwfans Ddinesig i’r Dirprwy Faer. Cyngor i benderfynu ar y swm priodol, ond yn seiliedig ar y Dirprwy Faer yn ymgymryd â dyletswyddau’r Maer.
(Gwnaeth y Cyng. Talat Chaudhri ymatal rhag pleidleisio)
Penderfyniad 48: Costau Teithio 45c y filltir
Penderfyniad 49: Costau arhosiad dros nos i fyny at uchafswm o £95 (£200 yn Llundain)
Penderfyniad 51: Ad-dalu costau angenrheidiol ar gyfer gofalu am blant dibynnol ac oedolion (gan ofalwyr anffurfiol neu ffurfiol) ac ar gyfer cymorth personol hyd at uchafswm o £403 y mis. Rhaid i’r gofalwr gyflwyno derbynebau.
Cytunodd y Cyng. Talat Chaudri chwilio am benderfyniad hanesyddol y Cyngor Tref ar hyn.
Proposed changes in the Remuneration of members of Community and Town Councils.
Determinations 44–51, by the Independent Remuneration Panel for Wales, were considered and the Committee RECOMMENDED that, in addition to the existing Mayoral allowance, Council adopts the following:
Determination 47: Civic allowance to the Deputy Mayor for undertaking Mayoral duties. Council to decide on the appropriate amount in the September Finance Committee.
(Cllr. Talat Chaudhri abstained from voting)
Determination 48: travel costs at 45p per mile
Determination 49: Overnight stay costs of up to a maximum of £95 (£200 in London)
Determination 51: Reimbursement of necessary costs for the care of dependent children and adults (by informal or formal carers) and for personal assistance needs up to a maximum of £403 per month. The carer has to produce receipts.
Cllr Talat Chaudhri agreed to look for a historic Town Council decision on this issue.
8
Argymhelliad y Panel Staffio ar gyfer cymorth gyda’r cyfrifon:
Roedd y Panel Staffio wedi argymell 3 awr o gefnogaeth cyfrifeg y mis ar gyfer y Clerc oherwydd y llwyth gwaith cynyddol. Cysylltwyd gyda phump cwmni lleol ar gyfer y gwaith. Trafododd y Pwyllgor Cyllid y dyfynbrisiau a dderbyniwyd ac ARGYMHELLWYD y dylai’r Cyngor ddewis y rhataf am £30 yr awr a chyfanswm o £90 y mis.
Staffing Panel recommendation for accounting support:
The Staffing Panel had recommended 3 hours accounting support per month for the Clerk due to the increased workload. Five local companies were contacted regarding the work. The quotes received were discussed by the Finance Committee. It was RECOMMENDED that the Council should opt for the cheapest at £30 per hour and a total of £90 per month.
9
Gohebiaeth
Correspondence
9.1
Peninsula: Mae Peninsula yn darparu Gwasanaethau Cyflogaeth. ARGYMHELLWYD y dylai’r Cyngor adolygu y contract pum mlynedd ym mis Tachwedd er mwyn caniatáu amser ar gyfer rhybudd terfynu chwe mis pe bae angen.
Peninsula: Peninsula provides Employment Services. It was RECOMMENDED that the Council should review the five year contract in November to allow time for a six month termination notice if needed.
Nodi ar gyfer y Panel Staffio a Phwyllgor Cyllid Mis Tachwedd
Note for the November Staffing Panel and Finance Committee
9.2
Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r Cyngor Sir ar gyfer darparu blodau:
ARGYMHELLWYD y dylid llofnodi’r cytundeb ac y byddai blodau ar gyfer 2018-19 yn cael ei roi ar agenda y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol nesaf
Service Level Agreement with the County Council for town flowers:
It was RECOMMENDED that the agreement be signed and flowers for 2018-19 would be put on the next General Management Committe agenda.
Eitem agenda RhC
GM agenda item