Full Council
28/09/2026 at 6:30 pm
Minutes:
Cofnodion Drafft Cyngor Llawn 28.10.2026 Full Council Draft Minutes
| 119 | Yn bresennol:
Cyng. Emlyn Jones (Cadeirydd) Cyng. Dani Thomas Cyng. Brian Davies Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Lucy Huws Cyng. Nishant Chandolia Cyng. Bryony Davies (135 i 157 yn unig) Cyng. Felix Lorenze Cyng. Alun Williams Cyng. Jeff Smith Cyng. Glynis Somers Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Cath Peasley Cyng. Saman Bashir
Yn mynychu: Cyng. Shelley Childs (Cyngor sir Ceredigion) (Eitemau 119 i 129 yn unig) Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) |
Present:
Cllr. Emlyn Jones (Chair) Cllr. Dani Thomas Cllr. Brian Davies Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Lucy Huws Cllr. Nishant Chandolia Cllr. Bryony Davies (135 to 157 only) Cllr. Felix Lorenze Cllr. Alun Williams Cllr. Jeff Smith Cllr. Glynis Somers Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Cath Peasley Cllr. Saman Bashir
In attendance: Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) (Items 119 to 129 only) Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) |
|
| 120 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol gydag ymddiheuriadau: · Cyng. Mari Tuner · Cyng. Carl Worrall
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Cyng. Mark Strong |
Apologies and absence
Absent with apologies: · Cllr. Mari Turner · Cllr. Carl Worrall
Absent without apologies: · Cllr. Mark Strong |
|
| 121 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
Datganwyd y diddordebau canlynol:
· 145 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Awst: Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant sy’n rhagfarnu oherwydd bod taliad yn ymwneud â thaith y Maer i Kronberg wedi’i gynnwys yn y gwariant. · 146 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Awst: Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gan fod y gwariant yn cynnwys taliad ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr. · 146 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Awst: Datganodd y Cyng. Jeff Smith fuddiant sy’n rhagfarnu yn yr eitem hon, gan fod y gwariant yn cynnwys taliad ar gyfer cydnabyddiaeth ariannol cynghorwyr. |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
The following interests were declared:
· 145 To consider & approve August expenditure: Cllr Emlyn Jones declared a prejudicial interest due to a payment relating to the Mayor’s trip to Kronberg being included in the expenditure. · 146 To consider and approve August expenditure: Cllr Emlyn Jones declared a prejudicial interest in this item, as the expenditure included a payment for councillor remuneration. · 146 To consider and approve August expenditure: Cllr Jeff Smith declared a prejudicial interest in this item, as the expenditure included a payment for councillor remuneration. |
|
| 122 | Cyfeiriadau Personol
· Estynnwyd dymuniadau gorau i Will am seibiant a gwyliau haeddiannol. · Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cyng. Carl Worrall yn dilyn ei driniaeth, gan ddymuno gwellhad buan iddo. · Estynnwyd llongyfarchiadau i Aberystwyth ar gynnal Rali YesCymru yn llwyddiannus, a nodwyd ei fod yn ddigwyddiad rhagorol i’r dref. |
Personal References
· Members extended their best wishes to Will for a well-deserved break and holiday. · Best wishes were extended to Cllr. Carl Worrall following his treatment, with members wishing him well in his recovery. · Congratulations were extended to Aberystwyth on successfully hosting the YesCymru Rally. Members noted that it had been an excellent event for the town and provided a fitting setting for a national event. |
|
| 123 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda
|
Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda
No members of the public were present. |
|
| 124 | Adroddiad ar weithgareddau’r Maer
Rhoddwyd adroddiad llafar, a nodwyd y canlynol:
· Adroddodd y Maer ei bod wedi bod yn gyfnod prysur dros yr haf, gyda nifer o ymrwymiadau a digwyddiadau. · Diolchodd y Maer i’r rhai a oedd wedi mynychu ymrwymiadau ar ei ran pan nad oedd yn gallu bod yn bresennol. · Estynnodd y Maer ei ddiolch i bawb a gyfrannodd at lwyddiant Gŵyl y Castell. · Nodwyd na ddarparwyd adroddiad ysgrifenedig y tro hwn. |
Mayoral activity report
A verbal report was given, and the following was noted:
· The Mayor reported that it had been a busy period over the summer, with a number of engagements and events taking place. · The Mayor expressed his thanks to those who had been able to step in and attend engagements on his behalf when he had been unable to attend, noting his appreciation for their support. · The Mayor extended his thanks to all those who had worked to make Gŵyl y Castell a successful event. · It was noted that no written report had been provided on this occasion. |
|
| 125 | Diweddariadau gan y Clerc
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y materion canlynol:
· Llongyfarchwyd y Clerc a’r staff ar gwblhau archwiliad 2025–26 yn llwyddiannus, a nodwyd ei fod yn gyflawniad i’w ddathlu. · Hysbyswyd yr aelodau fod y system Sage newydd yn gweithio’n dda. |
Updates from Clerk
A written report was circulated. The following matters were raised:
· Members congratulated the Clerk and staff on the successful completion of the 2025–26 audit and noted that this was an achievement to be celebrated. · Members were advised that the new Sage system was working well.
|
|
| 126
|
Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y materion canlynol:
· Estynnwyd diolch i Wendy am fynychu’r cyfarfod a rhoi diweddariad ar ei gwaith. · Estynnwyd diolch i bawb a fu’n rhan o’r ymweliad â Kronberg dros yr haf, a oedd yn nodi 30 mlynedd o’r bartneriaeth gefeillio. · Nodwyd bod y sesiwn Cwrdd â’ch Cyngor wedi rhoi cyfle i ddathlu a hyrwyddo statws Aberystwyth fel Dinas Lên UNESCO. · Estynnwyd diolch i’r holl bartneriaid a fu’n rhan o drefnu a chefnogi digwyddiadau dros yr haf, gan gynnwys y rhaglen adloniant ar y Promenâd. · Cafwyd sylwadau cadarnhaol am y band pres a’r gerddoriaeth werin a oedd yn rhan o’r rhaglen adloniant haf.
Codwyd cwestiwn ynghylch ystyried mwy o amrywiaeth o gerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth a fyddai’n apelio at bobl iau, wrth gynllunio rhaglen y tymor nesaf. Nododd y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau’r awgrym a chadarnhaodd y byddai’n cael ei ystyried wrth gynllunio digwyddiadau yn y dyfodol.
Estynnwyd diolch i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau a’r holl bartneriaid am eu gwaith a’u cefnogaeth. |
Updates from Events & Partnerships Officer
A written report was circulated and the following matters were raised:
· Thanks were extended to Wendy for attending the meeting and providing an update on her work. · Thanks were extended to all those involved in the visit to Kronberg over the summer, which marked 30 years of the twinning partnership. · Members noted the Meet your Council session had provided an opportunity to celebrate and promote Aberystwyth’s UNESCO City of Literature (Dinas Llên) designation. · Thanks were extended to all partners involved in organising and supporting events over the summer, including the programme of entertainment on the Promenade. · Members commented positively on the brass band and folk music included within the summer entertainment programme.
A question was raised as to whether a greater variety of music, particularly music appealing to younger people, could be considered when planning the programme for the next season. The Events & Partnerships Officer noted the suggestion and advised that it would be taken into consideration when planning future events.
Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer and all partners for their work and support.
|
|
| 127 | Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Ni chodwyd unrhyw faterion.
Estynnwyd diolch i’r Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau am ei gwaith parhaus.
|
Updates from Market & Events Co-ordinator
A written report was circulated. No matters were raised.
Thanks were extended to the Market & Events Co-ordinator for her continued work. |
|
| 128 | Adroddiadau ar LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sy’n ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG
Cyng. Endaf Edwards: · Cyrbau Isel Stryd Cae Glas: Rhoddwyd diweddariad ar ddarparu cyrbau isel ar Stryd Cae Glas. Roedd y mater yn cael ei ddilyn fel rhan o restr ehangach o welliannau hygyrchedd yn Ward Rheidol. Trefniadau Parcio’r Stryd Fawr: Gofynnwyd i’r aelodau fod yn amyneddgar tra’n aros am ddiweddariad ar y trefniadau parcio arfaethedig. Roedd ymgynghoriad ar y parth parcio cyfyngedig yn mynd rhagddo, a disgwylid cwblhau’r broses erbyn diwedd mis Mawrth. · Cyfyngiadau Traffig: Nodwyd y byddai unrhyw newidiadau i gyfyngiadau traffig a llinellau melyn yn dibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad. · Cais Cynllunio Aldi: Hysbyswyd yr aelodau fod Aldi wedi cyflwyno cais cynllunio, gyda’r cyfnod ymgynghori ar agor tan 9 Hydref.
Cyng. Shelley Childs: · Adolygiad Parcio Penparcau: Roedd adolygiad parcio ar wahân yn cael ei gynnal ar gyfer ardal Penparcau. Byddai ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid yn cael ei gynnal ynghylch llinellau melyn a chyfyngiadau parcio eraill. Nodwyd nad oedd adolygiad o’r fath wedi’i gynnal ers oddeutu wyth mlynedd. · Wythnos y Glas a Rheoli Traffig: Nodwyd pryderon ynghylch amseriad gwaith ffordd yn ystod Wythnos y Glas. Awgrymwyd y dylai’r sefydliadau perthnasol gyfarfod cyn digwyddiadau yn y dyfodol er mwyn gwella’r cydlynu a lleihau unrhyw darfu. · Gwastraff ac Ailgylchu: Rhoddwyd diweddariad ynghylch y cyfarfod arfaethedig ar wastraff ac ailgylchu. Eglurwyd y byddai cyfarfod gweithredol gyda’r Adran Briffyrdd yn cael ei gynnal yn gyntaf, ac yn dilyn hynny byddai cyflwyniad yn cael ei roi mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol yn y dyfodol er mwyn amlinellu’r sefyllfa ac ystyried pa welliannau y gellid eu gwneud. · Cofeb Ryfel Penparcau: Diolchwyd a llongyfarchwyd y Cyng. Carl Worrall am ei waith ar Gofeb Ryfel Penparcau, gan gynnwys sicrhau nawdd a chefnogaeth i’r prosiect. Byddai seremoni lansio ffurfiol yn cael ei threfnu, gyda rhagor o fanylion i ddilyn, a byddai’r Maer yn cael ei wahodd i fynychu. · Gwelliannau i Ganol y Dref: Hysbyswyd yr aelodau fod Cyngor Sir Ceredigion yn ceisio barn rhanddeiliaid lleol ar welliannau arfaethedig i ganol tref Aberystwyth. Byddai’r ymgynghoriad yn helpu i lywio gwelliannau yn y dyfodol i’r mannau cyhoeddus, hygyrchedd, tirlunio, symudiad a darpariaeth gymunedol. Nodwyd y byddai’r mater yn cael ei ystyried yn fanylach o dan eitem ddiweddarach ar yr agenda. · Beicio Cymru: Derbyniwyd adborth cadarnhaol gan Brif Weithredwr Beicio Cymru ynghylch y digwyddiad beicio diweddar, a ystyriwyd yn llwyddiant mawr. Roedd Beicio Cymru wedi mynegi diddordeb mewn dychwelyd i Aberystwyth y flwyddyn nesaf. Nodwyd mai eleni oedd blwyddyn olaf y contract tair blynedd presennol, ac y byddai unrhyw drefniadau yn y dyfodol yn dibynnu ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Cyng. Alun Williams: · Parc Natur Penglais: Byddai cyfarfod o’r grŵp yn cael ei gynnal ddydd Mercher 30 Medi am 7.00pm. · Gwersyllwyr: Roedd pryderon yn parhau ynghylch nifer o wersyllwyr yn y parc, ac roedd y Cyngor Sir yn aros am gyngor cyfreithiol i sicrhau bod y gorchymyn sifil priodol ar waith cyn y gellid cymryd camau pellach. · Cae Melyn a’r Rhaglen Ailwynebu: Adroddwyd bod Cae Melyn wedi’i ailwynebu’n ddiweddar ac, o ganlyniad, nad oedd unrhyw dyllau yn y ffordd bellach. Cadarnhawyd bod Y Porth Bach wedi’i gynnwys yn y rhaglen ailwynebu, gyda’r gwaith i’w wneud yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Gofynnodd yr aelodau hefyd a fyddai Stryd y Farchnad yn cael ei gynnwys yn y rhaglen. Cadarnhaodd y Cyng. Alun Williams nad oedd Market Street wedi’i gynnwys ar hyn o bryd. · Llinellau Melyn a Mannau Llwytho: Roedd y manylion ynghylch llinellau melyn yn cael eu cwblhau. Roedd ystyriaeth hefyd yn cael ei rhoi i bolisi a fyddai’n caniatáu i gerbydau ddefnyddio mannau llwytho at ddibenion busnes dilys, am hyd at awr a heb ddychwelyd o fewn awr. Nodwyd y posibilrwydd o gamddefnyddio’r mannau a’r goblygiadau o ran gorfodi. · Gŵyl y Cymunedau: Byddai Gŵyl y Cymunedau yn cael ei chynnal yn y Ganolfan Gelfyddydau ar 11 Hydref, gyda cherddoriaeth, dawns, bwyd a stondinau. Byddai’r digwyddiad yn rhad ac am ddim. · Glow Ride: Byddai Glow Ride yn cael ei gynnal ar 22 Hydref, gan ddechrau o’r harbwr a chefnogi beicio cynhwysol ar gyfer beicwyr anabl. Anogwyd yr aelodau a’r gymuned ehangach i gymryd rhan a chefnogi’r digwyddiad.
Codwyd cwestiwn ynghylch tyllau yn Ffordd Caradog, gan gynnwys ger cornel The Coopers Arms (Cwps), ac a oedd unrhyw waith ailwynebu wedi’i gynllunio. Cadarnhawyd nad oedd cynlluniau ar hyn o bryd i ailwynebu’r ffordd ac y dylid parhau i roi gwybod am dyllau drwy Clic.
Codwyd cwestiwn ynghylch effeithiolrwydd jet patching yn ystod misoedd y gaeaf. Nodwyd bod y dull yn llai effeithiol mewn tywydd oer, ac anogwyd yr aelodau i roi gwybod am unrhyw broblemau cyn gynted â phosibl fel y gellid gwneud y gwaith yn brydlon.
Estynnwyd diolch i’r holl aelodau am eu diweddariadau.
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr. Endaf Edwards: · Stryd Cae Glas Dropped Kerbs: An update was provided regarding dropped kerbs on Stryd Cae Glas, including provision on both sides of the entrance. The matter was being followed up as part of a wider list of locations within the Rheidol Ward where dropped kerbs or similar accessibility improvements had been identified. · Traffic Restrictions: It was noted that any changes to traffic restrictions and yellow lines would depend upon the outcome of the consultation and would form part of a wider review. The matter would ultimately be considered through the appropriate Ceredigion County Council Cabinet and Council processes. · Aldi Planning Application: Members were advised that Aldi had submitted a planning application, with the consultation period open until 9 October.
Cllr. Shelley Childs: · Penparcau Parking Review: A separate parking review was being undertaken for the Penparcau area. A formal consultation with stakeholders would take place regarding yellow lines and other parking restrictions. It was noted that a review of this nature had not taken place for approximately eight years. · Freshers’ Week and Traffic Management: Concerns were noted regarding the timing of roadworks during Freshers’ Week. It was suggested that relevant organisations meet in advance of future events to improve coordination and minimise disruption. · Waste and Recycling: An update was provided regarding the proposed meeting on waste and recycling. It was advised that an operational meeting with Highways would take place first, following which a presentation would be provided to a future General Management Committee meeting to outline the position and consider what improvements could be made. · Penparcau War Memorial: Cllr. Carl Worrall was thanked and congratulated for his work on the Penparcau War Memorial, including securing sponsorship and support for the project. A formal launch ceremony would be arranged, with further details to follow, and the Mayor would be invited to attend. · Town Centre Improvements: Members were advised that Ceredigion County Council was seeking the views of local stakeholders on proposed improvements to Aberystwyth town centre. The consultation would help inform future improvements to the public realm, accessibility, landscaping, movement and community provision. It was noted that the matter would be considered in further detail under a later item on the agenda. · Welsh Cycling: Positive feedback had been received from the CEO of Welsh Cycling regarding the recent cycling event, which had been considered a great success. Welsh Cycling had expressed an interest in returning to Aberystwyth next year. It was noted that this year marked the final year of the current three-year contract, and that any future arrangements would be subject to Welsh Government support.
Cllr. Alun Williams: · Parc Natur Penglais: A meeting of the group would be held on Wednesday 30 September at 7:00pm. · Campers: Concerns remained regarding a number of campers within the park, and the County Council was awaiting legal advice to ensure that the appropriate civil order was in place before further action could be taken. · Cae Melyn and Resurfacing Programme: It was reported that Cae Melyn had recently been resurfaced and there were therefore no longer any potholes. Y Porth Bach was confirmed as being included within the resurfacing programme, with works expected to be undertaken during the current financial year. Members also asked whether Stryd y Farchnad would be included in the resurfacing programme. Cllr Alun Williams confirmed that Stryd y Farchnad was not currently scheduled for resurfacing. · Yellow Lines and Loading Bays: Details relating to yellow lines were being finalised. Consideration was also being given to a policy allowing loading bays to be used by vehicles for legitimate business purposes, with restrictions of up to one hour and no return within one hour. Potential misuse and the implications for enforcement were noted. · Festival of Communities: The Festival of Communities would be held at the Arts Centre on 11 October, featuring music, dance, food and stalls. The event would be free to attend. · Glow Ride: A Glow Ride would take place on 22 October, starting from the harbour and supporting inclusive cycling for disabled cyclists. Members and the wider community were encouraged to take part and support the event.
A question was raised regarding potholes on Ffordd Caradog, including near the corner of The Coopers Arms (Cwps), and whether resurfacing works were planned. It was advised that there were currently no plans to resurface the road and that potholes should continue to be reported through Clic. A question was raised regarding the effectiveness of jet patching during the winter months. It was noted that the process was less effective in colder conditions, and members were encouraged to report any issues promptly so that works could be undertaken as soon as possible.
Thanks were extended to all members for their updates.
|
|
| 129 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 27 Gorffennaf 2026, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the meeting of the Full Council held on Monday 27 July 2026, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
| 130 | Materion yn codi o’r cofnodion
Codwyd y materion canlynol: · 115. Cwestiynau gan Gynghorwyr yn ymwneud YN UNIG â materion sydd o fewn cylch gwaith y Cyngor hwn: Trafodwyd y defnydd o’r ail bolyn y Cyngor. Cytunwyd y byddai ymateb ynghylch polisi’r Cyngor ar chwifio baneri yn cael ei ddosbarthu drwy e-bost. · 41. Cynnig hyfforddiant Prifysgol Aberystwyth: Lewis Deep Democracy: Cytunodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands i ddosbarthu adroddiad ysgrifenedig ar y cwrs a chynigiodd gynnal sesiwn bellach i gynghorwyr â diddordeb.
|
Matters arising from the minutes
The following matters were raised: 115. Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit: The use of the second flagpole was discussed. It was agreed that a response regarding the Council’s flag-flying policy would be circulated by email.
41. Aberystwyth University training offer: Lewis Deep Democracy: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands agreed to circulate a written report on the course and offered a further session for interested councillors. |
Swyddfa Office
Cyng. Cllr. Dylan Lewis- Rowlands |
| 131
|
Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 7 Medi 2026
|
To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 7 September 2026
The draft minutes were noted, and nothing was raised.
|
Cyhoeddi (Staff)
Publish (Staff) |
| 132 | I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig
Ystyriwyd y ceisiadau canlynol: · A260463: Swyddfa Bost Aberystwyth, 8-10 Y Stryd Fawr · A260459: Bryn y Graig, Ffordd Bryn-y-Môr · A260456: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mynedfa’r Llyfrgell Genedlaethol, Penglais · A260457: Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Mynedfa’r Llyfrgell Genedlaethol, Penglais · A260444: Clwb Pêl-droed Aberystwyth, Coedlan y Parc
Trafodwyd y ceisiadau a chyflwynwyd ymatebion fel y cofnodwyd. |
To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
The following applications had been considered: · A260463: Aberystwyth Post Office 8-10 Y Stryd Fawr · A260459: Bryn y Graig, Ffordd Bryn-y-Môr · A260456: National Library Of Wales, National Library Access, Penglais · A260457: National Library Of Wales, National Library Access, Penglais · A260444: Aberystwyth Football Club, Coedlan y Parc
The applications were discussed and responses submitted as minuted. |
|
| 133
|
Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio
|
To consider recommendations made by the Planning Committee
|
|
| 133.1 | Dim
|
None | |
| 134 | Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 14 Medi 2026
Nodwyd y cofnodion drafft, ac ni chodwyd unrhyw faterion.
|
To note the draft minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 14 September 2026
The draft minutes were noted, and nothing was raised. |
|
| 135 | I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig
Adroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi defnyddio ei bwerau dirprwyedig mewn perthynas â’r materion canlynol:
Gardd Rhiw Penglais: Cytunwyd i fwrw ymlaen â’r gwaith arfaethedig i’r ardd. Roedd yr aelodau’n fodlon â’r dyluniad, ac roedd y gwaith i ddechrau. Min y Ddol: Cytunwyd i gomisiynu gwaith ecolegol ym Min y Ddol, mewn cysylltiad â Chyngor Sir Ceredigion a’r Clwb Pêl-droed. Goleuadau Nadolig: Cytunwyd i ddyrannu £7,740 o’r gyllideb Nadolig ychwanegol, ynghyd â £3,000 pellach ar gyfer eitemau addurnol ychwanegol, gyda’r staff i weithredu’r cynigion. Nodwyd bod oddeutu £60 yn weddill yn y gyllideb, a gwahoddwyd yr aelodau i gyflwyno unrhyw awgrymiadau pellach. Parc Chwarae Plascrug: Gwnaed penderfyniad mewn perthynas â’r parc chwarae, gyda Chyngor Sir Ceredigion i ymgymryd â’r gwaith diogelwch angenrheidiol. |
To receive a report from the Chair of the General Management Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
The Chair reported that the Committee had exercised its delegated powers in relation to the following matters:
Rhiw Penglais Garden: It was agreed to proceed with the proposed works to the garden at Rhiw Penglais. Members were satisfied with the design, and works were due to commence. Min y Ddol: It was agreed to commission ecological work at Min y Ddol, in connection with Ceredigion County Council and the Football Club. Christmas Lights: It was agreed to allocate £7,740 from the additional Christmas budget. A further £3,000 was agreed for additional decorative items, with staff to implement the proposals. It was noted that approximately £60 remained within the budget, and members were invited to put forward any further suggestions. Plascrug Play Park: A decision was made in relation to the play park at Plascrug, with Ceredigion County Council to undertake the required safety works.
|
|
| 136
|
Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol | To consider recommendations made by the General Management Committee
|
|
| 136.1 | Ymchwilio i leoliadau cyfarfod amgen er mwyn lleihau costau
PENDERFYNWYD i ymchwilio i leoliadau eraill ar gyfer cynnal cyfarfodydd gyda’r nod o leihau costau. |
Investigate alternative meeting venues to reduce costs
It was RESOLVED to investigate alternative meeting venues with a view to reducing costs.
|
|
| 136.2 | Cymeradwyo geiriad diwygiedig y placiau
Estynnwyd diolch i’r staff am eu gwaith ar eiriad y placiau.
PENDERFYNNWYD cymeradwyo’r geiriad diwygiedig ar gyfer plac Lily Newton, gan gynnwys ychwanegu “Aberystwyth” ar ôl “Coleg Prifysgol Cymru”, yn amodol ar ddiwygio’r cyfieithiad Cymraeg yn unol â hynny.
|
Approve amended plaque wordings
Thanks were extended to staff for their work on the plaque wordings. It was RESOLVED to approve the amended wording for the Lily Newton plaque, including the addition of “Aberystwyth” following “University College of Wales”, subject to the Welsh translation being amended accordingly.
|
|
| 136.3 | Cymeradwyo gorwariant ar gyfer cynhyrchu placiau yn ystod 2026-27
Mynegodd yr aelodau eu siom nad oedd argymhelliad y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol i fwrw ymlaen â’r holl blaciau wedi’i adlewyrchu yn y rhagamcanion ariannol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Cyllid.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gorwariant o £1,590 ar gyfer dau blac ychwanegol i Olive Gale a Margaret Jones, gyda’r placiau sy’n weddill i gael eu datblygu ar gyfradd o ddau i dri y flwyddyn, yn amodol ar ystyriaeth flynyddol o’r gyllideb.
Pleidleisiodd y Cyng. Jeff Smith a Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn erbyn y cynnig. |
Approve over-expenditure for the production of plaques within 2026-27
Members expressed disappointment that the General Management Committee’s recommendation to proceed with all the plaques had not been reflected in the financial projections presented to the Finance Committee.
It was RESOLVED to approve the over-expenditure of £1,590 for two additional plaques for Olive Gale and Margaret Jones, with the remaining plaques to be progressed at a rate of two to three per year, subject to annual budgetary consideration.
Cllrs. Jeff Smith and Cllr. Dylan Lewis-Rowlands voted against the proposal. |
|
| 136.4 | Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol 2025–2026
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025–2026. |
Approve the Annual Report 2025–2026
It was RESOLVED to approve the Annual Report for 2025–2026. |
|
| 136.5 | Cefnogi prosiect Llwybr Meinciau Llyfrau Aberystwyth
PENDERFYNWYD cefnogi prosiect Llwybr Meinciau Llyfrau Aberystwyth. |
Support the Aberystwyth Book Bench Trail project
It was RESOLVED to support the Aberystwyth Book Bench Trail project. |
Swyddfa-
Drafftio llythyr i’r Maer i arwyddo Office Type a letter for the Mayor to sign
|
| 137 | Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 21 Medi 2026
Nodwyd y cofnodion drafft, ac ni chodwyd unrhyw faterion. |
To note the draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 21 September 2026
The draft minutes were noted, and nothing was raised.
|
Julien |
| 138 | I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig
Dim |
To receive a report from the Chair of the Finance Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
None
|
|
| 139 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid | To consider recommendations made by the Finance Committee
|
|
| 139.1 | Cymeradwyo gorwariant amcangyfrifedig o £2,000 ar bennawd cyllideb 5086 Ffioedd Ymgynghori
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gorwariant amcangyfrifedig o £2,000 o dan bennawd cyllideb 5086 Ffioedd Ymgynghori.
|
Approve estimated over-expenditure of £2,000 on the budget heading 5086 Consultancy fees
It was RESOLVED to approve the estimated over-expenditure of £2,000 on budget heading 5086 Consultancy Fees.
|
|
| 139.2 | Diwygio’r Gofrestr Risg i leihau tebygolrwydd y risg o dan y Cod Ymddygiad a’r ddarpariaeth Gymraeg
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r diwygiadau i’r gofrestr risg er mwyn lleihau tebygolrwydd y risg o dan y Cod Ymddygiad a’r ddarpariaeth Gymraeg.
Pleidleisiodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands a Cyng. Jeff Smith yn erbyn y cynnig. |
Amend the risk register to reduce the likelihood of risk under the Code of Conduct and Welsh Language provision
It was RESOLVED to approve the amendments to the risk register to reduce the likelihood of risk under the Code of Conduct and Welsh Language provision.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands and Cllr. Jeff Smith voted against the proposal.
|
|
| 139.3 | Dyrannu £20,000 o bennawd cyllideb 6030 Cyfalaf Parciau a Thiroedd tuag at arian cyfatebol ar gyfer grant Trawsnewid Trefi
Mynegwyd pryder nad oedd cyllideb Cyfalaf Parciau a Thiroedd wedi’i gwario ar welliannau ym Mhenparcau, ac y gallai ailddyrannu £20,000 o’r gyllideb hon leihau ymhellach yr arian a oedd ar gael ar gyfer gwaith yn yr ardal. Eglurwyd y byddai’r gwaith arfaethedig ym Mhenparcau yn cael ei gynnwys yng nghyllideb y flwyddyn ganlynol.
Cyflwynwyd cynnig amgen i ariannu’r cyfraniad o £20,000 o gronfeydd wrth gefn y Cyngor yn hytrach nag o gyllideb Cyfalaf Parciau a Thiroedd. Trafododd yr aelodau bolisi’r Cyngor ar gronfeydd wrth gefn ac ystyriwyd bod digon o arian wrth gefn ar gael at y diben hwn.
Yn ystod y drafodaeth, cododd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ei lais a defnyddio iaith amhriodol cyn gadael y cyfarfod. Dychwelodd y Cyng. Lewis-Rowlands i’r cyfarfod wedi hynny ac ymddiheurodd.
Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch polisi’r Cyngor ar gronfeydd wrth gefn a’r angen am raglen glir o wariant arfaethedig o gyllideb Cyfalaf Parciau a Thiroedd. Nodwyd hefyd na ddylid dehongli’r penderfyniad i ailddyrannu’r arian fel diffyg buddsoddiad ym Mhenparcau.
Gofynnwyd am bleidlais gofnodedig ar y cynnig amgen i ariannu’r cyfraniad o £20,000 o gronfeydd wrth gefn y Cyngor, yn amodol ar gadarnhad bod digon o arian ar gael yn y cronfeydd wrth gefn:
O blaid: Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Julien Brun Cyng. Jeff Smith Cyng. Saman Bashir Cyng. Dani Thomas Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Brian Davies Cyng. Cath Peasley Cyng. Bryony Davies
Yn erbyn: Cyng. Alun Williams Cyng. Glynis Somers
Ymatal: Cyng. Emlyn Jones Cyng. Lucy Huws Cyng. Felix Lorenze Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Nishant Chandolia
PENDERFYNWYD felly ddyrannu £20,000 o gronfeydd wrth gefn y Cyngor tuag at arian cyfatebol ar gyfer grant Trawsnewid Trefi, yn amodol ar gadarnhad bod digon o arian ar gael yn y cronfeydd wrth gefn. |
Allocate £20,000 from the budget heading 6030 Parks & grounds capital towards match funding of the Transforming Towns grant
Concern was expressed that the Parks & Grounds Capital budget had not been spent on improvements in Penparcau, and that reallocating £20,000 from this budget could further reduce the funding available for works in the area. It was explained that the proposed works in Penparcau would be included within the following year’s budget.
An alternative proposal was made that the £20,000 contribution be funded from the Council’s reserves rather than from the Parks & Grounds Capital budget. Members discussed the Council’s reserves policy and considered that sufficient reserves were available for this purpose.
During the discussion, Cllr. Dylan Lewis-Rowlands raised his voice and used inappropriate language before leaving the meeting. Cllr. Lewis-Rowlands subsequently returned to the meeting and apologised.
Further discussion took place regarding the Council’s reserves policy and the need for a clear programme of proposed expenditure from the Parks & Grounds Capital budget. It was also noted that reallocating the funding should not be interpreted as a lack of investment in Penparcau.
A recorded vote was requested on the alternative proposal to fund the £20,000 contribution from reserves subject to confirmation that sufficient funds were available within the reserves:
For: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Julien Brun Cllr. Jeff Smith Cllr. Saman Bashir Cllr. Dani Thomas Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Brian Davies Cllr. Cath Peasley Cllr. Bryony Davies
Against: Cllr. Alun Williams Cllr. Glynis Somers
Abstained: Cllr. Emlyn Jones Cllr. Lucy Huws Cllr. Felix Lorenze Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Nishant Chandolia
It was therefore RESOLVED to allocate £20,000 from the Council’s reserves towards match funding for the Transforming Towns grant, subject to confirmation that sufficient funds were available within the reserves.
|
|
| 139.4 | Dyrannu tanwariant a ragwelir ar amrywiaeth o benawdau cyllideb tuag at arian cyfatebol ar gyfer grant Trawsnewid Trefi
Eglurwyd bod angen £17,000 ychwanegol i dalu cyfraniad y Cyngor tuag at arian cyfatebol grant Trawsnewid Trefi. Nodwyd tanwariant posibl o’r penawdau cyllideb canlynol i’w ddyrannu:
6120 Glanhau Strydoedd: £5,000 6150 Addurniadau’r Dref: £2,000 5240 Yswiriant: £3,000 5230 Cyfrifyddu: £2,500 6400 Gefeillio: £2,500 5200 Costau Etholiad: £2,000
Codwyd pryder ynghylch defnyddio’r tanwariant disgwyliedig o’r gyllideb Glanhau Strydoedd, gan nodi pwysigrwydd sicrhau darpariaeth ddigonol ar gyfer glanhau strydoedd.
Yn dilyn trafodaeth, PENDERFYNWYD dyrannu’r tanwariant disgwyliedig a nodwyd uchod, sef cyfanswm o £17,000, tuag at arian cyfatebol grant Trawsnewid Trefi. |
Allocate anticipated underspend on a variety of budget headings towards match funding of the Transforming Towns grant
It was explained that a further £17,000 was required to meet the Council’s contribution towards the match funding of the Transforming Towns grant. Potential underspends from the following budget headings were identified for allocation:
6120 Street Cleaning: £5,000 6150 Town Decorations: £2,000 5240 Insurance: £3,000 5230 Accounting: £2,500 6400 Twinning: £2,500 5200 Election Costs: £2,000
Concern was raised regarding the proposed use of the anticipated underspend from the Street Cleaning budget, with members noting the importance of maintaining adequate provision for street cleaning.
Following discussion, it was RESOLVED to allocate the anticipated underspends identified above, totalling £17,000, towards match funding of the Transforming Towns grant.
|
|
| 139.5 | Bwrw ymlaen Gyda deilaog yn fras â’r cynnig o rodd breifat ar gyfer gwelliannau i Dir y Castell, gan ymchwilio i opsiynau dylunio a diolch ir
Ailadroddodd yr aelodau eu diolch am y cynnig hael o gyfraniad preifat tuag at welliannau i Dir y Castell.
Nodwyd bod Tir y Castell yn cael ei ddefnyddio ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ac nad oedd bwriad gan y Cyngor i ddatblygu’r ardal dan sylw fel gardd, er mwyn cadw digon o le ar gyfer digwyddiadau a defnyddiau eraill.
Ailadroddodd yr aelodau y dylai unrhyw gyfraniad fynd tuag at brosiect a bennir gan y Cyngor, yn hytrach na bod y cyfraniad yn pennu defnydd y safle yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD gwrthod yr argymhelliad i fwrw ymlaen â’r cynnig ac ysgrifennu at yr unigolyn i ddiolch iddo am ei gynnig hael, gan egluro y byddai’r cynnig yn amharu ar y defnydd o’r ardal dan sylw ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau eraill ac, am y rheswm hwn, na ellid derbyn y cynnig.
|
Broadly proceed with the offer of a private donation for enhancements to the castle grounds, investigating design options
Members reiterated their thanks for the generous offer of a private donation towards enhancements to the Castle Grounds. It was noted that the Castle Grounds were used for a range of events and activities and that the Council had not intended for the area concerned to be developed as a garden, in order to retain suitable space for events and other uses.
Members reiterated that any donation should contribute towards a project determined by the Council, rather than the donation determining the future use of the site.
It was RESOLVED to reject the recommendation to proceed with the offer and to write to the individual thanking him for his generous offer, explaining that the proposal would impede the use of the area in question for events and other activities and that, for this reason, the offer could not be accepted. |
|
| 140 | Cymeradwyo cyfrifon mis Ebrill
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfrifon mis Ebrill. |
To approve April accounts
It was RESOLVED to approve the April accounts. |
|
| 141 | Cymeradwyo cyfrifon mis Mai
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfrifon mis Mai. |
To approve May accounts
It was RESOLVED to approve the May accounts. |
|
| 142 | Cymeradwyo cyfrifon mis Mehefin
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfrifon mis Mehefin. |
To approve June accounts
It was RESOLVED to approve the June accounts.
|
|
| 143 | Cymeradwyo cyfrifon mis Gorffennaf
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfrifon mis Mehefin. |
To approve July accounts
It was RESOLVED to approve the July accounts. |
|
| 144 | Cymeradwyo cyfrifon mis Awst
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfrifon mis Awst.
Nodwyd ar wahân nad oedd taliadau dros £500 yn ymwneud â chyfrifon mis Awst wedi’u talu eto a bod angen eu hawdurdodi.
PENDERFYNWYD awdurdodi’r taliadau dros £500. |
To approve August accounts
It was RESOLVED to approve the August accounts.
It was noted separately that payments over £500 relating to the August accounts had not yet been paid and required authorisation.
It was RESOLVED to authorise the payments over £500.
|
Taliadau (Swyddfa) Payments (Office)
|
| 145 | Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Awst
Codwyd cwestiwn ynghylch y taliad am ddyfrio’r gwelyau blodau a’r planwyr. Dywedodd aelod a oedd yn byw ar Bromenâd y De nad oedd yn ymddangos bod y gwelyau a’r planwyr wedi cael eu dyfrio’n ddyddiol, fel sy’n ofynnol.
Trafododd yr aelodau’r angen am drefniant priodol i sicrhau bod gwaith dan gontract yn cael ei gyflawni yn ôl y disgwyl. Cytunwyd y byddai’r mater yn cael ei wirio gyda’r Rheolwr Asedau a Chyfleusterau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant mis Awst.
Ymatalodd y Cyng. Emlyn Jones rhag pleidleisio. |
To consider & approve August expenditure
A question was raised regarding the payment for watering the floral beds and planters. A member, who lived on the South Promenade, advised that they had observed that the beds and planters did not appear to have been watered daily, as required.
Members discussed the need for an appropriate mechanism to ensure that contracted works were being carried out as expected. It was agreed that the matter would be checked with the Assets & Facilities Manager .
It was RESOLVED to approve the August expenditure.
Cllr. Emlyn Jones abstained from the vote.
|
Rheolwr Asedau a Chyfleusterau i ymchwilio i’r mater Assets & Facilities Manager to look into it |
| 146 | Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Medi
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant mis Medi.
Ymatalodd y Cyng. Emlyn Jones a’r Cyng. Jeff Smith rhag pleidleisio.
|
To consider & approve September expenditure
It was RESOLVED to approve the September expenditure.
Cllr. Emlyn Jones and Cllr. Jeff Smith abstained from voting.
|
Taliadau (Swyddfa) Payments (Office) |
| 147 | Diweddariad Gweithgor Neuadd Gwenfrewi
Rhoddwyd diweddariad byr ar gyfarfod diweddar y Gweithgor. Roedd y materion a drafodwyd yn cynnwys cyfleoedd posibl am gyllid grant, lleoliadau eraill ar gyfer cyfarfodydd fel mesur dros dro i leihau costau, ac opsiynau ar gyfer parwydydd a mesurau i leihau sŵn.
Nododd yr aelodau bwysigrwydd dilyn y prosesau priodol wrth i’r prosiect fynd rhagddo, yn enwedig o ystyried maint y gwaith dan sylw.
Cynigiodd y Cyng. Cath Peasley ei harbenigedd a’i chymorth perthnasol, a chytunwyd y byddai’n cael ei chynnwys mewn trafodaethau yn y dyfodol.
Nodwyd y diweddariad, a chytunwyd y dylai’r Gweithgor barhau i ddatblygu’r prosiect. |
Neuadd Gwenfrewi working group update
A brief update was provided on the recent meeting of the Working Group. Matters discussed by the Working Group included potential grant funding opportunities, alternative meeting locations as a temporary means of reducing costs, and options for partitions and sound-dampening measures.
Members noted the importance of following appropriate processes as the project progressed, particularly given the scale of the work involved.
Cllr. Cath Peasley offered her relevant expertise and assistance, and it was agreed that she would be included in future discussions.
The update was noted, and it was agreed that the Working Group should continue to progress the project. |
|
| 148
|
Blodau gwely’r haf: rhodd cymunedol
Trafododd yr aelodau’r cynnig i roi blodau gwely’r haf i’r gymuned yn hytrach na chael gwared arnynt ar ddiwedd y tymor. Awgrymwyd y gellid gwahodd ysgolion lleol i gymryd rhan hefyd.
Nododd yr aelodau fod mentrau cymunedol tebyg wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol.
PENDERFYNWYD bwrw ymlaen â’r cynllun i roi’r blodau i’r gymuned.
|
Summer bedding flowers: community giveaway
Members discussed the proposal to offer the summer bedding flowers to the community rather than disposing of them at the end of the season. It was suggested that local schools could also be invited to participate.
Members noted that similar community initiatives had previously been successful.
It was RESOLVED to proceed with the community flower giveaway. |
|
| 149 | Cyngor Sir Ceredigion: Cynigion Gwelliannau Tref Balchder Bro
Trafododd yr aelodau’r cynigion a chytunwyd y dylent gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
Nodwyd y byddai’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau a’r Swyddog Gweinyddol yn mynychu’r cyfarfod rhanddeiliaid ar 30 Medi 2026 i gwrdd â’r tîm dylunio, cael rhagor o wybodaeth am y cynigion a chodi unrhyw gwestiynau ar ran y Cyngor.
PENDERFYNWYD cyfeirio’r cynigion at y Pwyllgor Cynllunio i’w hystyried a dirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol i gytuno ar ymateb a’i gyflwyno ar ran y Cyngor. |
Ceredigion County Council: Pride in Place Town Improvement proposals
Members discussed the proposals and agreed that they should be considered by the Planning Committee and General Management Committee.
It was noted that the Facilities & Assets Manager and Administration Officer would attend the stakeholder meeting on 30 September 2026 to meet the design team, obtain further information on the proposals and raise any questions on behalf of the Council.
It was RESOLVED to refer the proposals to the Planning Committee for consideration and to delegate authority to the General Management Committee to agree and submit a response on behalf of the Council. |
Agenda Cynllunio Planning Agenda Agenda Pwyllgor RhC GM Agenda
|
| 150 | Datblygiad newydd: ‘Maes yr Awen’, Penparcau
Trafododd yr aelodau’r enwau arfaethedig ar gyfer y datblygiad newydd a’r enwau hanesyddol sy’n gysylltiedig â’r caeau yn yr ardal.
Awgrymwyd ceisio rhagor o wybodaeth gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) a Chymdeithas Enwau Lleoedd Cymru ynghylch enwau hanesyddol y caeau.
Awgrymwyd Tan y Gaer fel enw posibl, gan adlewyrchu lleoliad y datblygiad islaw Pendinas.
Mynegodd yr aelodau eu diolch am gael eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ar yr enwau arfaethedig, a chroesawyd y cyfle i gydweithio a pharhau i gyfathrebu.
CYTUNWYD i gyfeirio’r mater at y Pwyllgor Cynllunio i’w ystyried ymhellach ac i ymateb. |
New development: ‘Maes yr Awen’, Penparcau
Members discussed the proposed naming of the new development and the historical names associated with the fields in the area.
It was suggested that further information be sought from the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales (RCAHMW) and the Welsh Place-Name Society regarding the historical field names.
Tan y Gaer was suggested as a possible name, reflecting the development’s location below Pendinas.
Members expressed their thanks for being consulted on the proposed names and welcomed the opportunity for partnership working and continued communication.
It was AGREED to refer the matter to the Planning Committee for further consideration and response. |
Swyddfa I gysylltu a gofyn Office to contact and investigate
Agenda Cynllunio Planning Agenda |
| 151 | Penodi aelodaeth Pwyllgorau’r aelodau cyfetholedig
Cynigiwyd penodi’r Cyng. Saman Bashir i’r Pwyllgor Cynllunio a’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r penodiadau. |
To appoint the Committees memberships of co-opted members
It was proposed that Cllr. Saman Bashir be appointed to the Planning Committee and the General Management Committee.
It was RESOLVED to approve the appointments.
|
|
| 152 | Cynrychiolaeth yr Awdurdod Llai ar Gorff Llywodraethol Ysgol Plascrug
PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Saman Bashir yn Gynrychiolydd Awdurdod Lleiafrifol ar Gorff Llywodraethol Ysgol Gynradd Plascrug. |
Minor Authority Representative on Plascrug Primary School Governing Body
It was RESOLVED to appoint Cllr. Saman Bashir as the Minor Authority Representative on Plascrug Primary School Governing Body. |
Hysbysu’r ysgol (Staff) Inform school (Staff)
|
| 153 | Cwestiynau gan Gynghorwyr sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG
Codwyd y cwestiynau canlynol: · Defnydd o’r Cyfryngau Cymdeithasol: Pwysleisiodd yr aelodau’r angen am ddull mwy strategol a chydlynol o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol, er mwyn rhoi gwell gwybodaeth i’r cyhoedd am waith a phenderfyniadau’r Cyngor. Dylai hyn gynnwys diweddariadau rheolaidd ar gynnydd prosiectau, gyda chydweithio rhwng cynghorwyr, Cadeiryddion Pwyllgorau a’r swyddfa.
|
Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit
The following questions were raised: · Use of Social Media: Members highlighted the need for a more strategic and coordinated approach to social media, to better inform the public about the Council’s work and decisions. This should include regular updates on the progress of projects, with coordination between councillors, Committee Chairs and the office. |
Swyddfa Office |
| 154
|
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff
Dim. |
WRITTEN reports from representatives on outside bodies
None.
|
|
| PENDERFYNWYD i atal Rheol Sefydlog 3(x) ac ymestyn y cyfarfod y tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3(x) and extend the meeting to beyond 21:00. | ||
| 155
|
Cynnig: Plac Coffa i’r Cyn R.S.M. Thomas Richard Fear (Cyng. Carl Worrall)
Yn absenoldeb y Cyng. Carl Worrall, cynigiwyd y cynnig gan y Cyng. Glynis Somers ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Saman Bashir.
Cefnogodd yr aelodau’r cynnig mewn egwyddor, yn amodol ar ymchwiliad pellach. Cytunwyd, pe bai angen cyllid gan y Cyngor Tref, y byddai’r plac yn cael ei ystyried ar ôl cwblhau’r rhaglen bresennol o blaciau i goffáu menywod. Byddai lleoliadau addas, cyfleoedd cyllido posibl ac ymgynghori â’r Lleng Brydeinig Frenhinol hefyd yn cael eu harchwilio.
PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig diwygiedig mewn egwyddor a chynnal ymchwiliad pellach fel yr amlinellwyd uchod. |
Motion: Commemorative Plaque for Ex R.S.M. Thomas Richard Fear (Cllr. Carl Worrall)
In the absence of Cllr. Carl Worrall, the motion was proposed by Cllr. Glynis Somers and seconded by Cllr. Saman Bashir.
Members supported the proposal in principle, subject to further investigation. It was agreed that, if Town Council funding was required, the plaque would be considered following completion of the existing programme of plaques commemorating women. Suitable locations, potential funding opportunities and consultation with the Royal British Legion would also be explored.
It was RESOLVED to support the amended motion in principle and undertake further investigation as outlined above.
|
|
| 156 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications | |
| 156.1 | A260525: Rummers Wine Bar Stryd y Bont
Nid oes gan y Cyngor DIM GWRTHWYNEBIAD i’r cais. |
A260525: Rummers Wine Bar Stryd y Bont
The Council has NO OBJECTION to the application.
|
Ymateb (Staff)
Respond (Staff) |
| 156.2 | A260555: Newlands Antaron Avenue
Nid oes gan y Cyngor DIM GWRTHWYNEBIAD i’r cais. |
A260555: Newlands Antaron Avenue
The Council has NO OBJECTION to the application. |
Ymateb (Staff)
Respond (Staff) |
| 157 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
| 157.1 | People’s Emergency Briefing: Derbyniwyd gwahoddiad i fynychu’r People’s Emergency Briefing yn Neuadd Goffa Penparcau ddydd Iau, 1 Hydref. Anogwyd yr aelodau i fynychu. | People’s Emergency Briefing: An invitation was received to attend the People’s Emergency Briefing at Neuadd Goffa Penparcau on Thursday, 1 October. Members were encouraged to attend. | |
| 157.2 | Murlun Mistar Urdd: Derbyniwyd gohebiaeth gan breswylydd ynghylch eiddew yn tyfu dros furlun Mistar Urdd ar ben y dref. Gofynnwyd a ellid torri’r eiddew yn ôl er mwyn ei atal rhag difrodi neu guddio’r murlun. | Mistar Urdd Mural: Correspondence was received from a resident regarding ivy growing over the Mistar Urdd mural at the top of town. The resident asked whether the ivy could be cut back to prevent damage to, or obstruction of, the mural. | Agenda Pwyllgor RhC
GM Agenda |
| 157.3 | Our Grandchildren’s Climate: Derbyniwyd gohebiaeth yn annog Cyngor Tref Aberystwyth i gefnogi ac ymuno â’r Fossil Fuel Treaty Initiative, sy’n galw am newid byd-eang oddi wrth danwydd ffosil a chamau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. | Our Grandchildren’s Climate: Correspondence was received urging Aberystwyth Town Council to support and join the Fossil Fuel Treaty Initiative, calling for a global transition away from fossil fuels and action to address the climate crisis. | Agenda Pwyllgor RhC
GM Agenda |
| 157.4 | Grŵp Aberystwyth Gwyrddach: Derbyniwyd gwahoddiad i ddigwyddiad ar y Trawsnewid Gwyrdd yng Ngheredigion yn Theatr Arad Goch ar 7 Tachwedd 2026. Anogwyd yr aelodau i fynychu. | Greener Aberystwyth Group: Invitation to an event on the Green Transition in Ceredigion at Theatr Arad Goch on 7 November 2026. Members were encouraged to attend. |
Daeth y cyfarfod i ben am: 21:14 The meeting was closed at: 21:14
Agenda:
Fe’ch gelwir i fynychu cyfarfod blynyddol y CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn adeilad Pantyfedwen, Stryd y Farchnad ar Nos Lun 28 Medi 2026 am 18:30.
You are summoned to attend the annual meeting of the FULL COUNCIL to be held remotely and at Pantyfedwen, Market Street on Monday, 28 September 2026 at 18:30.
Agenda
|
|
||
| 119 | Presennol | Present |
| 120 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies & absences |
| 121 | Datganiadau o ddiddordeb ar faterion sy’n codi o’r agenda | Declarations of interest on matters arising from the agenda |
| 122 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 123 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda | Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda |
| 124 | Adroddiad ar weithgareddau’r Maer | Mayoral activity report |
| 125 | Diweddariadau gan y Clerc | Updates from Clerk |
| 126 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau | Updates from Events & Partnerships Officer |
| 127 | Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau | Updates from Market & Events Co-ordinator |
| 128 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG | VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
| 129 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 27 Gorffennaf 2026, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the meeting of the Full Council held on Monday 27 July 2026, to confirm accuracy |
| 130 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
| 131 | Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 7 Medi 2026 | To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 7 September 2026 |
| 132 | I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig | To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers |
| 133 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio | To consider recommendations made by the Planning Committee |
| 133.1 | Dim | None |
| 134 | Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 14 Medi 2026 | To note the draft minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 14 September 2026 |
| 135 | I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig | To receive a report from the Chair of the General Management Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers |
| 136 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol | To consider recommendations made by the General Management Committee |
| 136.1 | Ymchwilio i leoliadau cyfarfod amgen er mwyn lleihau costau | Investigate alternative meeting venues to reduce costs |
| 136.2 | Cymeradwyo geiriad diwygiedig y placiau | Approve amended plaque wordings |
| 136.3 | Cymeradwyo gorwariant ar gyfer cynhyrchu placiau yn ystod 2026-27 | Approve over-expenditure for the production of plaques within 2026-27 |
| 136.4 | Cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol 2025–2026 | Approve the Annual Report 2025–2026 |
| 136.5 | Cefnogi prosiect Llwybr Meinciau Llyfrau Aberystwyth | Support the Aberystwyth Book Bench Trail project |
| 137 | Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 21 Medi 2026 | To note the draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 21 September 2026 |
| 138 | I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig | To receive a report from the Chair of the Finance Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers |
| 139 | Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau | To consider recommendations made by the Finance Committee |
| 139.1 | Cymeradwyo gorwariant amcangyfrifedig o £2,000 ar bennawd cyllideb 5086 Ffioedd Ymgynghori | Approve estimated over-expenditure of £2,000 on the budget heading 5086 Consultancy fees |
| 139.2 | Diwygio’r Gofrestr Risg i leihau tebygolrwydd y risg o dan y Cod Ymddygiad a’r ddarpariaeth Gymraeg | Amend the risk register to reduce the likelihood of risk under the Code of Conduct and Welsh Language provision |
| 139.3 | Dyrannu £20,000 o bennawd cyllideb 6030 Cyfalaf Parciau a Thiroedd tuag at arian cyfatebol ar gyfer grant Trawsnewid Trefi | Allocate £20,000 from the budget heading 6030 Parks & grounds capital towards match funding of the Transforming Towns grant |
| 139.4 | Dyrannu tanwariant a ragwelir ar amrywiaeth o benawdau cyllideb tuag at arian cyfatebol ar gyfer grant Trawsnewid Trefi | Allocate anticipated underspend on a variety of budget headings towards match funding of the Transforming Towns grant |
| 139.5 | Bwrw ymlaen yn fras â’r cynnig o rodd breifat ar gyfer gwelliannau i Dir y Castell, gan ymchwilio i opsiynau dylunio | Broadly proceed with the offer of a private donation for enhancements to the castle grounds, investigating design options |
| 140 | Cymeradwyo cyfrifon mis Ebrill | To approve April accounts |
| 141 | Cymeradwyo cyfrifon mis Mai | To approve May accounts |
| 142 | Cymeradwyo cyfrifon mis Mehefin | To approve June accounts |
| 143 | Cymeradwyo cyfrifon mis Gorffennaf | To approve July accounts |
| 144 | Cymeradwyo cyfrifon mis Awst | To approve August accounts |
| 145 | Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Awst | To consider & approve August expenditure |
| 146 | Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Medi | To consider & approve September expenditure |
| 147 | Diweddariad Gweithgor Neuadd Gwenfrewi | Neuadd Gwenfrewi working group update |
| 148 | Blodau gwely’r haf: rhodd cymunedol | Summer bedding flowers: community giveaway |
| 149 | Cyngor Sir Ceredigion: Cynigion Gwelliannau Tref Balchder Bro | Ceredigion County Council: Pride in Place Town Improvement proposals |
| 150 | Datblygiad newydd: ‘Maes yr Awen’, Penparcau | New development: ‘Maes yr Awen’, Penparcau |
| 151 | Penodi aelodaeth Pwyllgorau’r aelodau cyfetholedig | To appoint the Committees memberships of co-opted members |
| 152 | Cynrychiolaeth yr Awdurdod Llai ar Gorff Llywodraethol Ysgol Plascrug | Minor Authority Representative on Plascrug Primary School Governing Body |
| 153 | Cwestiynau gan Gynghorwyr sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG | Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit |
| 154 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol | WRITTEN reports from representatives on outside bodies |
| 155 | Cynnig: Plac Coffa i’r Cyn R.S.M. Thomas Richard Fear (Cyng. Carl Worrall) | Motion: Commemorative Plaque for Ex R.S.M. Thomas Richard Fear (Cllr. Carl Worrall) |
| 156 | Ceisiadau Cynllunio | Planning Applications |
| 156.1 | A260525: Rummers Wine Bar Stryd y Bont | A260525: Rummers Wine Bar Stryd y Bont |
| 156.2 | A260555: Newlands Antaron Avenue | A260555: Newlands Antaron Avenue |
| 157 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r cyfarfod trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the meeting by contacting the Town Council Office for details