Full Council
28/10/2019 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod Cyngor Llawn
Meeting of Full Council
28.10.2019
COFNODION / MINUTES
87
Yn bresennol:
Cyng. Mari Turner (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Dylan Wilson-Lewis
Cyng. Nia Edwards-Behi
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Steve Davies
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Mark Strong
Cyng. Alun Williams
Cyng. David Lees
Yn mynychu:
Carol Thomas(cyfieithydd)
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Alexandra Banfi (gohebydd y Cambrian News)
Present:
Cllr. Mari Turner (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Dylan Wilson-Lewis
Cllr. Nia Edwards-Behi
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Steve Davies
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Mark Strong
Cllr. Alun Williams
Cllr. David Lees
In attendance:
Carol Thomas (translator)
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
Alexandra Banfi (Cambrian News reporter)
88
Ymddiheuriadau:
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Claudine Young
Apologies:
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Claudine Young
89
Datgan Diddordeb:
Dim
Declaration of interest:
None
90
Cyfeiriadau Personol:
Estynnwyd dymuniadau gorau i’r Cynghorydd Alex Mangold ar enedigaeth ei fab
Atgoffwyd cynghorwyr o’r Gwasanaeth Dydd Sul Coffa Blynyddol yn y Neuadd Goffa, Penparcau am 3pm ddydd Sul 10.11.2019. Dylid gwisgo gwisg ddinesig
Personal References:
Best wishes were extended to Cllr Alex Mangold on the birth of his son
Councillors were reminded of the Annual Remembrance Sunday Service in the Neuadd Goffa, Penparcau at 3pm on Sunday 10.11.2019. Civic robes should be worn
91
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Cyflwynwyd adroddiad ar lafar.
Mayoral Activity Report:
A verbal report was presented.
92
Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 30 Medi i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 30September 2019 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes
93
Materion yn codi o’r Cofnodion:
71: Cyfarfodydd Gwrthryfel Difodiant gyda’r Cyngor Tref – nid oedd cyfarfod arall wedi’i drefnu eto
Matters arising from the Minutes:
71: Extinction Rebellion meetings with the Town Council – another meeting had not yet been arranged
94
Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun, 7 Hydref 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a phob argymhelliad.
Materion yn codi:
Eitem agenda 5:
Ffens: roedd y ffens wedi’i thynnu, streipen ddiogelwch felen wedi’i phaentio ar ymylon y palmant ac arwyddion diogelwch wedi’u harchebu.
Arwyddion: roedd cofnodion blaenorol (9.5.2016) yn nodi bod penderfyniad wedi’i basio i wahardd cŵn o’r labyrinth ond i’w cadw ar dennyn yn rhannau arall y parc. Byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf Rheolaeth Gyffredinol.
Ymgynghoriad: cymeradwywyd yr holiadur diwygiedig
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 7 October 2019
It was RESOLVED to approve the minutes and all recommendations
Matters arising:
Agenda item 5:
Fence: the fence had been removed, a yellow safety stripe painted on the kerb edges and safety signage ordered.
Signage: previous minutes (9.5.2016) noted that a resolution had been passed to ban dogs from the labyrinth but to be kept on leads elsewhere in the park. This would be discussed further at the next General Management meeting.
Consultation: the amended questionnaire was approved
Agenda RhC
GM agenda
95
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 14 Hydref 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gydag un cywiriad
1: ‘Ffordd y Môr’ ddylai fod yn y cofnod Cymraeg
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 14 October 2019
It was RESOLVED to approve the minutes with one correction:
1: the Welsh minute should read ‘Ffordd y Môr’
96
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 21 Hydref 2019
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a phob argymhelliad.
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 21 Hydref 2019
It was RESOLVED to approve the minutes and all recommendations.
Gweithredu’r argymhellion
Action resolutions
97
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
97.1
A190776: Irfon, Ffordd Llanbadarn Roedd angen mwy o wybodaeth cyn y gellid gwneud penderfyniad.
A190776: Irfon, Llanbadarn Road
More information was needed before a decision could be made.
Cysylltu â’r adran Gynllunio.
Contact Planning dept.
97.2
A190756: Gwesty’r Glengower
Dylid ail-anfon yr ymateb blaenorol.
A190756: Glengower Hotel
The previous response should be re-sent.
97.3
A190799/800: Gwesty’r Richmond
DIM GWRTHWYNEBIAD a hoffai’r Cyngor Tref ganmol ymdrechion Richmond i newid y ffenestri UPVC am ffenestri pren.
A190799/800: Richmond Hotel
The Town Council has NO OBJECTION and would like to compliment the Richmond’s efforts to replace UPVC with wooden windows.
97.4
A190826: Tir gerllaw Brynsiriol, Caeffynnon
I’w drafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cynllunio
A190826: Land adjacent to Bryn Siriol Fifth Avenue
To be discussed at the next Planning Committee meeting
Agenda Cynllunio
Planning agenda
98
Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor Hwn YN UNIG.
Holodd y Cynghorydd Mark Strong am leoliadau plannu coed. Trafodwyd yr holl safleoedd arfaethedig gyda’r Pennaeth Parciau a Gerddi. I’w drafod yn fanylach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit.
Cllr Mark Strong inquired about tree planting locations. All proposed sites had been discussed with the Head of Parks and Gardens. To be discussed in more detail at the next General Managment Committee meeting
Agenda RhC
GM agenda
99
Cyllid – ystyried gwariant mis Hydref
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant
Finance – to consider the October expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
100
Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng Alun Williams
Roedd wedi mynychu’r cyfarfod rheoli carbon cyntaf a drefnwyd gan Gyngor Ceredigion i archwilio gweithio ar y cyd â Chynghorau Tref. Roedd Cyngor Tref Llanbedr Pont Steffan wedi gweld y cyfarfod yn ddefnyddiol a’r gobaith oedd y byddai mwy o gyfarfodydd yn cael eu trefnu.
Cyng Mark Strong
Roedd wedi mynychu cyfarfod yn yr Orsaf Dân. Roedd ychydig o danau wedi digwydd mewn fflatiau ers yr haf ac roedd y Gwasanaeth Tân yn cynnig cyngor i denantiaid a landlordiaid. Roedd y Cyngor Tref yn ddiolchgar am y gwasanaeth hwn.
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr Alun Williams
He had attended the first carbon management meeting organised by Ceredigion Council to explore joint working with Town Councils. Lampeter Town Council had found the meeting useful and it was hoped that more meetings would be organised.
Cllr Mark Strong
He had attended a meeting in the Fire Station. A few fires had occurred in flats since the summer and the Fire Service were offering advice to tenants and landlords. The Town Council was grateful for this service.
101
Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol: Dim
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies None
102
Cynnig: Polisi dros feinciau (Cyng Michael Chappell)
PENDERFYNWYD derbyn y cynnig a fyddai’n sicrhau bod meinciau’r Cyngor yn cael eu cynnal yn rheolaidd a meinciau ychwanegol yn cael eu mabwysiadu neu eu prynu fel sy’n briodol.
Motion: Pro-bench policy (Cllr Michael Chappell)
It was RESOLVED to support the motion which would ensure regular maintenance of the Council’s benches and adoption or procurement of additional benches as appropriate.
103
Cynnig: Coridor Strategol Rheilffordd y Gorllewin (Cyng Dylan Wilson-Lewis)
Cefnogodd cynghorwyr ddatblygiad y rheilffordd Caerfyrddin i Aberystwyth ar sail datblygu’r economi, gwella cysylltedd, brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd a chynnal cysylltiadau teithio o’r Gogledd i’r De ar adegau llifogydd er enghraifft.
Dylai’r cynnig gael ei ddiwygio i gynnwys y canlynol: ‘Byddai adfer y llinellau hyn yn cysylltu Cymru o’r Gogledd i’r De yn gynaliadwy ac yn sicrhau gwytnwch yn ystod cyfnodau llifogydd (fel yr amlygwyd yn sgil cau’r llinell Amwythig – De Cymru rhwng Henffordd a Chasnewydd yn ddiweddar oherwydd llifogydd).’
PENDERFYNWYD cefnogi’r cynnig a oedd yn galw ar y Cyngor Tref i:
gysylltu ag awdurdodau lleol eraill, busnesau, sefydliadau addysg uwch a sefydliadau ledled y rhanbarth i gael eu cefnogaeth.
gefnogi’r ailarchwiliad o’r Gymhareb Cost Budd fel y’i cyhoeddwyd yn yr adroddiad dichonoldeb
hwyluso cyfarfod rhwng Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Traws Link Cymru
gefnogi Llywodraeth Cymru yn ei chyflwyniad i Adolygiad Williams o ddiwydiant rheilffyrdd Prydain
Byddai Traws Link Cymru yn darparu cefnogaeth i gyflawni’r nodau hyn
Motion: Strategic Western Railway Corridor (Cllr Dylan Wilson-Lewis).
Councillors supported development of the Carmarthen to Aberystwyth railway on the basis of developing the economy, improved connectivity, combating climate change and maintaining travel links from North to South during times of flooding for example.
The motion should be amended to include the following: ‘The reinstatement of these lines would sustainably connect Wales from North to South and ensure resilience during times of flooding (as highlighted by the recent closure of the Shrewsbury – South Wales line between Hereford and Newport due to flooding).’
It was RESOLVED to support the motion which called for the Town Council to:
contact other local authorities, businesses, higher education institutions and organisations across the region for their support.
Support the re-examination of the Benefit Cost Ratio as published in the feasibility report
Facilitate a meeting between the Future Generations Commissioner and Traws Link Cymru
Support Welsh Government in its submission to the Williams Review of the British railway industry
Traws Link Cymru would provide support to achieve these aims
Cysylltu gyda Taws Link Cymru
Liaise with Traws Link Cymru
104
Ymgynhoriad : Adolygu dosbarthiadau etholiadol, mannau a gorsafoedd pleidleisio
Mynegwyd safbwyntiau amrywiol (gan gynnwys cyflwyniad ysgrifenedig gan y Cyng Ceredig Davies) ynghylch adleoli’r orsaf bleidleisio yn neuadd y band arian i neuadd Byddin yr Iachawdwriaeth. Ymhlith y materion a nodwyd roedd mynediad diogel i gerddwyr a diffyg parcio. Teimlwyd nad oedd y naill leoliad na’r llall yn gyfleus ac y dylid ystyried lleoliadau eraill fel a ganlyn:
Ward Rheidol
Merched y Wawr
Mihangel Sant
Tŷ Harbwr
Wardiau Bronglais a Chanolog
Morlan
Neuadd y Buarth
Consultation: Review of polling districts, places and stations.
Various views were expressed (including a written submission from Cllr Ceredig Davies) regarding the relocation of the polling station at the silver band hall to the Salvation Army hall. Issues noted included safe access for pedestrians and lack of parking. It was felt that neither location were convenient and other locations should be considered as follows:
Rheidol Ward
Merched y Wawr
St Michael’s
Harbour House
Bronglais and Central Wards
Morlan
Buarth Hall
Anfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
105
Hysbysfyrddau ac arwyddion bys
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r hysbysfyrddau a’r arwyddion bys ond sicrhau bod y gwerth gorau wedi’i gyflawni o ran adnewyddu neu amnewid.
Finger posts and notice boards:
It was RESOLVED to adopt the notice boards and finger posts but ensure that best value was achieved in terms of renovation or replacement.
106
Gohebiaeth
Correspondence
106.1
Hysbyseb EGO:
Ystyriwyd amryw o opsiynau ond PENDERFYNWYD cynnal y contract cyfredol
Gofynnwyd am bleidlais wedi’i recordio:
Yn erbyn:
Michael Chappell
Ymatal:
Mark Strong
Talat Chaudhri
Charlie Kingsbury
Brenda Haines
Endaf Edwards
Ar gyfer:
pob cynghorydd arall a restrir uchod (87) heblaw am Cyng. Endaf Edwards a oedd wedi gadael y cyfarfod.
EGO advertorial:
Various options were considered but it was RESOLVED to maintain the current contract
A recorded vote was requested:
Against:
Michael Chappell
Abstentions:
Mark Strong
Talat Chaudhri
Charlie Kingsbury
Brenda Haines
Endaf Edwards
For:
all other councillors listed above (87) except for Cllr Endaf Edwards who had left the meeting.
Adnewyddu
Renew
106.2
Ymgyrch ynni cymunedol genedlaethol: galwad am gefnogaeth
I’w drafod yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn
National community energy campaign: a call for support
To be discussed at the next Full Council meeting
Agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda
106.3
Santes Gwefrewi: ni chafwyd ymateb i lythyr y Cyngor ynghylch esgeulustod a diogelwch yr eglwys a PHENDERFYNWYD ei ail-anfon.
St Winefride’s: no response had been received to the Council’s letter regarding the neglect and security of the church and it was RESOLVED to re-send it.
Ail anfon
Re-send
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio / Planning Committee
11.11.2019
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Michael Chappell (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Steve Davies
Cyng. Mari Turner
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Nia Edwards-Behi
Yn mynychu:
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alun Williams
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present:
Cllr. Michael Chappell (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Steve Davies
Cllr. Mari Turner
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr Nia Edwards-Behi
In attendance:
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alun Williams
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau:
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. David Lees
Apologies:
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. David Lees
3
Datgan Diddordeb: Dim
Declaration of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol:
Llongyfarchodd y Cynghorwyr Sue Jones Davies a Lucy Huws y plant a’r côr a gymerodd ran yng Ngwasanaeth Sul y Cofio
Personal references:
Cllrs Sue Jones Davies and Lucy Huws congratulated the children and choir who took part in the Remembrance Day Service
5
Ceisiadau Cynllunio
Planning Applications
5.1
A190826 – Tir Gerllaw Bryn Siriol, Fifth Avenue
DIM GWRTHWYNEBIAD – Mae ffenestri pren neu aluminiwm yn well ynghyd a Pholisi Cynllunio Cymru.
A190826- Land adjacent Bryn Siriol, Fifth Avenue
NO OBJECTION – Wood or aluminium windows are preferred in accordance with Planning Wales Policy
Cysylltu â’r adran Gynllunio.
Contact Planning dept.
5.2
A190835 – Y Ficerdy, Lon Piercefield
DIM GWRTHWYNEBIAD – Dylai’r estyniad fod yn unol ag arddull yr adeilad presennol i gadw carreg wedi’i gwisgo. Mae ffenestri pren neu alwminiwm yn well yn unol â Pholisi Cynllunio Cymru
A190835 – The Vicarage, Piercefield Lane
NO OBJECTION – Extension should be in keeping with the style of the existing building to retain dressed stone. Wood or aluminium windows are preferred in accordance with Planning Wales Policy
5.3
A190837/38 – Tŷ Belgrave, 24 Glan Y Môr
DIM GWRTHWYNEBIAD
A190837/38 – Tŷ Belgrave, 24 Marine Terrace
NO OBJECTION
5.4
A190839 – Siop Bara Poeth, 1 Lle Cambria
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn pryderu bod diffyg lle i fyw, yn awgrymu y dylai’r fflatiau fod yn 1 ystafell wely, a bod darpariaeth ar gyfer storio sbwriel
A190839 – Hot Bread Shop, 1 Cambrian Place
Aberystwyth Town Council are concerned that there is lack of livable space, suggest that the flats should be 1 bedroom, and provision be made for storage of refuse.
5.5
A190844 – Tir gerllaw Cnwc y Lili, Tan Y Cae
Mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi GWRTHWYNEBU’r cais cynllunio blaenorol i ddymchwel y wal, ar sail gwrthwynebiad lleol cryf, gor-ddatblygu a cholli parcio. Yn ychwanegol at y pryderon hyn, sy’n dal yn berthnasol, mae’r Cyngor Tref yn teimlo bod y wal yn nodwedd o ardal gadwraeth ac nid yw manylion llawn y datblygiad arfaethedig ehangach wedi’u cynnwys yn y cais.
A190844 – Land adjacent to Cnwc y Lili, South Road
The Council OBJECTED to the previous planning application to demolish the wall, on the basis of strong local objection, over development and loss of parking. In addition to these concerns, which are still applicable, ATC feels that the wall is a feature of a conservation area and full details of the proposed further development are not included in the application.
5.6
A190790- 11 Ffynnon Haearn
DIM GWRTHWYNEBIAD ond dylai’r arwyddion fod yn ddwyieithog
A190790 – 11 Chalybeate Street
NO OBJECTION – but signage should be bi-lingual.
6
Adroddiad Pwyllgor Rheoli Datblygu:
Nodwyd
Development Control Committee report:
Noted
7
Gohebiaeth:
Correspondence:
7.1
Ymgynhoriad Cynllunio Llywodraeth Cymru
Welsh Government Planning Consultation
Dirprwy Glerc I gylchredeg
Deputy Clerk to circulate
7.2
Archwilio / echdynnu tanwydd ffosil mewn dyfroedd Cymru
Derbyniwyd cais gan breswyliwr i gefnogi deiseb yn gwrthwynebu cynllun Morol Cenedlaethol Cymru
Fossil Fuel exploration/extraction in Welsh Waters
Resident request to support petition received opposing the Welsh National Marine plan
Dirprwy Glerc I gylchredeg
Deputy Clerk to circulate
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
11.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)
Cyng. Talat Chaudhri
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Alun Williams
Cyng. Mark Strong
Cyng. Mari Turner
Cyng. Nia Edwards-Behi
Cyng. David Lees
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Dylan Wilson-Lewis
Cyng. Steve Davies
Yn mynychu:
Cyng. Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)
Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Alun Williams
Cllr. Mark Strong
Cllr. Mari Turner
Cllr. Nia Edwards-Behi
Cllr David Lees
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Dylan Wilson-Lewis
Cllr. Steve Davies
In attendance:
Cllr. Mair Benjamin
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Brendan Somers
Apologies
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Brendan Somers
3
Datgan buddiannau: Dim
Declarations of interest: None
4
Cyfeiriadau Personol:
Mynegwyd tristwch ar farwolaeth Carl Williams, Cyn-Faer a chyn Glerc, a oedd wedi gwneud cymaint dros Aberystwyth a’r Cyngor Tref. Roedd ei angladd i’w gynnal yn yr Amlosgfa am 2pm 26.11.2019
Personal references:
Sadness was expressed at the death of Carl Williams, Past Mayor and a former Clerk, who had done so much for Aberystwyth and the Town Council. His funeral was to be held in the Crematorium at 2pm 26.11.2019
5
Menter Aberystwyth
Rhoddodd Hannah Bunting a Kerry Ferguson drosolwg o weithgareddau: Ffair yr Haf, Gwobrau Gorau Aber, troi’r Goleuadau Nadolig ymlaen a Gorymdaith Llusernau, a chynhadledd arfaethedig ar gyfer Busnesau Bach.
Yn ogystal â bod yn ddigwyddiad cymdeithasol bwriad y Ffair Haf oedd codi arian at achos da (codwyd £1450 yn 2019 ar gyfer yr Eisteddfod) a gofynnwyd i’r Cyngor am awgrymiadau o achosion da ar gyfer unrhyw arian a godir yn 2020.
Fe ofynnon nhw hefyd am stiwardiaid gwirfoddol ar gyfer gorymdaith y llusernau (4.15pm yn Mihangel Sant)
Dyrannwyd swm o £8000 i Menter Aberystwyth yn y gyllideb ac ARGYMHELLWYD talu’r swm llawn iddynt.
Menter Aberystwyth
Hannah Bunting and Kerry Ferguson provided an overview of activties: the Summer Fete, Aber First Awards, Christmas Lights Switch On and Lantern Parade, and a planned conference for Small Businesses.
In addition to a social event the Summer Fete aimed to raise funds for a good cause (£1450 raised in 2019 for the Eisteddfod) and they asked the Council to suggest good causes for any funds raised in 2020.
They also asked for volunteer stewards for the lantern parade (4.15pm at St Michael’s)
£8000 funding was allocated to Menter Aberystwyth in the budget and it was RECOMMENDED that the full amount be paid to them.
6
Ystyried cyfrifon mis Hydref
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
Cyflwynwyd cyfrifon Parc Kronberg hefyd a dylid trafod y £950 a dalwyd i gontractwr am blannu coed gyda Pharciau a Gerddi gan fod ychydig o goed wedi methu.
Dylai’r coed sy’n cymryd lle’r coed ynn fod yn rhywogaethau sy’n wydn yn enetig – fe ddylai hwn fod yn eitem ar agenda Rheolaeth Cyffredinol
Consider Monthly accounts for October
It was RECOMMENDED that the accounts be approved.
Parc Kronberg accounts were also presented and the £950 paid to a contractor for tree planting should be discussed with Parks and Gardens as a few trees had failed.
Ash tree replacements should be genetically resilient species – this should be added as a General Management agenda item
Trafod gyda’r Cyngor Sir
Discuss with CCC
Agenda RhC
GM agenda
7
Cyllideb Goleuadau Nadolig
Gan fod Aberystwyth ar y Blaen yn canolbwyntio eu harian ar weithgareddau y Nadolig hwn, ARGYMHELLWYD caniatau cynnydd amcangyfrifedig o £7000 i’r gyllideb goleuadau i fodloni disgwyliad y cyhoedd. Darparwyd rhestr gyda’r costau gwirioneddol ac amcangyfrifedig wedi’i heitemeiddio.
Dylid darparu cytundeb clir a dadansoddiad manwl o’r costau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Christmas Lights budget
As Advancing Aberystwyth were focusing their funds on activities this Christmas, allowing an estimated increase of £7000 to the lights budget was RECOMMENDED to meet public expectation. An itemised list of actual and estimated costs was provided.
A clear contract and a detailed breakdown of costs to be provided for next year.
8
Taflunydd swyddfa
Ni chafwyd ymateb gan y landlord eto ynglŷn â thaflunydd newydd.
Fel cam cyntaf dylid cysylltu â Gwasanaethau Gwybodaeth yn y Brifysgol i asesu dichonoldeb atgyweirio’r taflunydd presennol.
Os na fyddai modd ei atgyweirio, ARGYMHELLWYD y dylid prynu Opsiwn 1 o’r rhestr fer ar gyfer taflunydd newydd – am gost o £720 gan gynnwys TAW.
Office projector
There was no response from the landlord yet regarding a new projector.
Information Services at the University should be approached as a first step to assess the feasibility of repairing the current projector.
In the event that it was not repairable it was RECOMMENDED that Option 1 from the new projector shortlist be bought – at a cost of £720 including VAT.
Cysylltu gyda’r Brifysgol
Contact the University
9
Ffynnon Ddŵr
Roedd angen mwy o wybodaeth am gostau a lleoliadau addas a dylid ei chynnwys fel eitem ar yr agenda yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyllid. Lleoliadau a awgrymwyd: Bandstand, Cloc y Dref, Neuadd y Brenin
Water fountain
More information regarding costs and suitable locations was needed and it should be included as an agenda item in the next Finance Committee meeting. Suggested locations: Bandstand, Clock Tower, King’s Hall
Agenda Cyllid
Finance agenda
10
Stondin Eisteddfod Ceredigion
ARGYMHELLWYD gwariant o £1500 tuag at logi stondin yn Eisteddfod Tregaron.
Ceredigion Eisteddfod Stand
The Committee RECOMMENDED expenditure of £1500 towards hiring a stand at the Tregaron Eisteddfod.
Mwy o wybodaeth
More information
11
Cyllideb a Praesept 2020-21
Darparwyd cyllideb ddrafft 2020-21 ond cytunwyd cael trafodaeth fanylach yn y cyfarfod nesaf.
ARGYMHELLWYD y dylid ymgysylltu â’r cyhoedd am eu blaenoriaethau trwy Facebook yn ogystal â’r wefan. Cynigiodd y Cynghorwyr Talat Chaudhri a Nia Edwards-Behi gymorth.
2020-21 Budget and Precept
A draft 2020-21 budget was provided but it was agreed to have a more detailed discussion at the next meeting.
It was RECOMMENDED that engagement around the public’s priorities should be carried out via Facebook as well as the website. Cllrs Talat Chaudhri and Nia Edwards-Behi offered assistance.
Ymgysylltu
Engage
12
Hyfforddiant Cilca
ARGYMHELLWYD y dylai staff fynychu am gost o £340 + TAW yr un
Cilca Training
It was RECOMMENDED that staff should attend at a cost of £340 + VAT each
Trefnu
Organise
13
Gohebiaeth
Correspondence
Dim
None
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
11.2019
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Steve Davies
Cyng. Nia Edwards-Behi
Cyng. Lucy Huws
Cyng. David Lees
Cyng. Mark Strong
Cyng. Brendan Somers
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Meinir Jenkins (Dirprwy Glerc)
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Steve Davies
Cllr. Nia Edwards-Behi
Cllr. Lucy Huws
Cllr. David Lees
Cllr. Mark Strong
Cllr. Brendan Somers
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Meinir Jenkins (Deputy Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Mari Turner
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Dylan Wilson-Lewis
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. Claudine Young
Apologies
Cllr. Mari Turner
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Dylan Wilson-Lewis
Cllr. Sue Jones-Davies
Cllr. Claudine Young
3
Datgan Diddordeb:
Cae Brynhyfryd: Cyng. Mark Strong
Declaration of Interest:
Brynhyfryd Field: Cllr Mark Strong
4
Cyfeiriadau personol:
Estynnwyd llongyfarchiadau i Adran Dysgu Creadigol Canolfan y Celfyddydau am eu prosiect diweddar gyda’r sefydliad Dream and Dream – daeth griw o 10 o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig o Bangalore, India, i Aberystwyth am wythnos am brofiadau celfyddydol.
Personal references:
Congratulations were extended to the Arts Centre’s Creative Learning Department for their recent project with the Dream and Dream organisation – a group of 10 young people from disadvantaged backgrounds from Bangalore, India, came to Aberystwyth for a week for arts experiences.
5
Coed
Roedd y Dirprwy Glerc wedi llwyddo gwneud cais am wrychoedd coed gwyllt ar gyfer Parc Ffordd y Gogledd. Bydd y tir yn cael ei baratoi dros y Gaeaf i’w blannu ym mis Mawrth. Bydd angen codi ffensys hefyd er mwyn eu hamddiffyn. Mae’r Clerc yn gofalu am goeden y Siarter Coed y gellid ei hymgorffori hefyd. Dylid ystyried prynu dwy arall.
Mae’r Adran Parciau a Gerddi yn awgrymu archebu 2 onnen fynydd ar gyfer y Bumed Goedlan a Stryd Thespis a 3 ceiriosen ar gyfer y tu allan i’r rhandiroedd.
Mae gan yr Adran Parciau a Gerddi 2 Blanwydden Ddwyreiniol yn eu meithrinfa i’w plannu ger Ysgol Gymraeg a 2 goeden helyg ar gyfer cae chwarae Penparcau.
Trafodaeth bellach gyda Pharciau a Gerddi Ceredigion a Gwasanaethau Technegol mewn perthynas â choed stryd
Bydd Parciau a Gerddi yn edrych ar amnewid coed ar Boulevard St Brieuc yng Ngwanwyn 2020.
Clerc i ysgrifennu erthygl yn EGO (i gynnwys rhaglen plannu blodau)
ARGYMHELLWYD y dylid rhoi awdurdod dirprwyedig i’r Clerc / Dirprwy Glerc drefnu’r rhaglen blannu, i gylchredeg rhestr o goed ac adrodd ar gynnydd i’r cynghorwyr a’r Grŵp Gwrthryfel Difodiant.
Trees
Deputy Clerk was succesful in applying for wild wood hedging for North Road Park. The land will be prepared over the Winter for planting in March. Fencing will also need to be erected for protection. The Clerk is caring for the 3 year old Tree Charter tree that could also be incorporated. Consideration to be given to purchasing two more.
Parks and Gardens suggest ordering from them 2 Mountain Ash trees for 5th Avenue and Thespian Street and 3 flowering Cherries for outside the allotments.
Parks and Gardens have 2 Oriental Plains in their nursery for planting near Ysgol Gymraeg and 2 willows for Penparcau playing field.
Further negotiation with Ceredigion Parks and Gardens and Technical Services in relation to street trees
Parks and Gardens will look into replacing trees on Boulevard St Brieuc in Spring 2020.
Clerk to write article in EGO (to include flower planting programme)
It was RECOMMENDED that the Clerk/Deputy Clerk be given delegated authority to arrange the planting programme, to circulate list of trees and report progress to councillors and the Extinction Rebellion Group
Gweithredu
6
Blodau
Bydd 15,000 o fylbiau Cennin Pedr yn cael eu plannu mewn gwahanol leoliadau yn Aberystwyth.
Bydd MWTRA hefyd yn plannu 10,000 yn Nhrefechan ac ar hyd y Gefnffordd.
Ystyrir gwneud dau wely blodau yn un bob ochr i Sgwâr y Frenhines
Flowers
15,000 daffodil bulbs will be planted at various locations in Aberystwyth.
MWTRA will also plant 10,000 In Trefechan and along the Trunk Road.
Consideration be given to merging two borders into one on each side of Queens Square
7
Goleuadau Nadolig
Mae goleuadau batri a goleuadau eicon wedi cael eu danfon. Bydd y gwaith gosod yn digwydd o ganol mis Tachwedd.
Bydd Gorymdaith yn cychwyn am 5.00pm o Eglwys St Michael’s gyda seremoni Goleuo’r Goeden Nadolig i’w chynnal 5.30pm dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2019 yn Sgwâr Owain Glyndwr
Christmas Lights
Both battery lights and icicle lights have been delivered. Installation will take place from mid November.
The Town’s Lantern Parade will commence at 5.00pm from St Michael’s Church with Christmas Tree ‘Switch On’ ceremony to be held 5.30pm Saturday 30 November 2019 at Owain Glyndwr Square
8
Meysydd Chwarae Derbyniwyd tri dyfynbris
Play areas
Three quotations have been received
Eitem Agenda Cyllid
Finance Agenda Item
9
Gorsaf Rheilffordd Aberystwyth
Derbyniwyd cyfathrebiad gan Bartneriaeth Rheilffordd Cambrian yn gofyn a fyddai ATC yn ystyried mabwysiadu’r orsaf. Cytunwyd ar hyn yn 2015. Gwirfoddolodd y Cynghorydd Mark Strong i gynnal archwiliadau ac adroddiadau bob pythefnos. Ni fyddai unrhyw oblygiadau ariannol i Gyngor Tref Aberystwyth.
Gwnaed rhai awgrymiadau i blannu blodau neu berlysiau ynghyd â gosod meinciau GWR
ARGYMHELLWYD bod y Cyng. Alun Williams yn ymateb yn ysgrifenedig i gadarnhau bod y Cyngor Tref yn hapus i fabwysiadu’r orsaf.
Aberystwyth Railway Station
Communication had been received from the Cambrian Rail Partnership asking whether ATC would consider adoption of the station. This had been agreed in 2015. Cllr Mark Strong volunteered to carry out fortnightly inspections and reports. There would be no financial implications to Aberystwyth Town Council
Some suggestions were made for flowers or herbs to be planted together with possibly installing GWR benches
It was RECOMMENDED that Cllr Alun Williams responds in writing to confirm that the Town Council is happy to adopt the Station
Gweithredu
Action
10
Cae Brynhyfryd
Nid oes prydles ar gael ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd mae Cyngor Ceredigion yn ystyried amryw o opsiynau ar draws y Sir
Brynhyfryd Field
There is no lease on offer at present. Ceredigion Council are currently considering various options accross the county
Eitem Agenda Cyllid Finance Agenda Item
11
Ffynnon Ddŵr
Roedd y Cyng. Alun Williams yn awyddus i osod ffynnon ddŵr yn Aberystwyth. Roedd y Bandstand, Cloc y Dref a Neuadd y Brenin wedi’u nodi fel safleoedd posib. ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn gwneud yr ymholiadau angenrheidiol
Water Fountain
Cllr Alun Williams is eager for a water fountain to be installed in Aberystwyth. The Bandstand, Town Clock and Kings Hall had been identified as potential sites
It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk makes the necessary enquiries
Gweithredu
Action
12
Lleihau carbon
Mae’r Cyngor Tref yn awyddus i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Ceredigion i leihau carbon yn Aberystwyth trwy ganolbwyntio ar fannau gwyrdd, datblygu grwpiau teithio egnïol a cherdded.
ARGYMHELLWYD fod y Cyngor Tref yn drafftio cynllun 5-10 mlynedd ac yn cynnal archwiliad o’i ôl troed carbon ei hun.
Y Cynghorydd Alun Williams i ysgrifennu at Gari Jones Ceredigion yn gofyn am gysylltu llwybrau Beicio Rheidol ac Ystwyth cyn Haf 2020
Carbon reduction
The Town Council is keen to work in partnership with Ceredigion Council to reduce carbon in Aberystwyth by focusing on green spaces, developing active travel groups and pedestrianisation.
It was RECOMMENDED that the Town Council draft a 5-10 year plan and undertakes an audit of its own carbon footprint.
Cllr Alun Williams to write to Gari Jones Ceredigion asking for the Rheidol and Ystwyth Cycle paths to be linked before Summer 2020
Gweithredu
Action
13
Gohebiaeth
Correspondence
13.1
Eisteddfod Tregaron 2020
Yn dilyn cefnogaeth Cyngor Tref Aberystwyth i’r cysyniad Strategol o “Goridor Rheilffordd y Gorllewin” gwnaed awgrym i’r Cyngor gynnal stondin yn Eisteddfod Tregaron 2020 i hyrwyddo prosiectau’r Cyngor ac er mwyn ymgysylltu â’r gymuned.
ARGYMHELLWYD bod y Dirprwy Glerc yn cysylltu â threfnwyr yr Eisteddfod am gostau.
Tregaron Eisteddfod 2020
Following Aberystwyth Town Council’s support of the concept of a Strategic “Western Railway Corridor” a suggestion has been made for the council to host a tradestand in the Tregaron 2020 Eisteddfod to promote its projects and to engage with the community.
It was RECOMMENDED that the Deputy Clerk contacts Eisteddfod organisers for costs
Eitem Agenda Cyllid.
Finance Agenda item
13.2
‘Her y Gyllideb’ Cyngor Sir Ceredigion
Derbyniwyd ymateb oddiwrth yr Arweinydd
Ceredigion County Council’s ‘Budget Challenge’
A response has been received from the Leader