Full Council
29/05/2018 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
COFNODION / MINUTES
Cyfarfod Blynyddol / Annual Meeting
5.2018
Gweddi gan Y Parch. Mones Farah
Prayer by Rev. Mones Farah.
225
Presennol
Cyng Steve Davies
Cyng Talat Chaudhri
Cyng Mari Turner
Cyng Endaf Edwards
Cyng Brendan Somers
Cyng Mark A. Strong
Cyng Sue Jones-Davies
Cyng Lucy Huws
Cyng Brenda Haines
Cyng Michael Chappell
Cyng Rhodri Francis
Cyng Sara Hammel
Cyng Charlie Kingsbury
Cyng David Lees
Cyng Dylan Lewis
Present
Cllr Steve Davies
Cllr Talat Chaudhri
Cllr Mari Turner
Cllr Endaf Edwards
Cllr Brendan Somers
Cllr Mark A. Strong
Cllr Sue Jones-Davies
Cllr Lucy Huws
Cllr Brenda Haines
Cllr Michael Chappell
Cllr Rhodri Francis
Cllr Sara Hammel
Cllr Charlie Kingsbury
Cllr David Lees
Cllr Dylan Lewis
226
Yn mynychu
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
George Jones (cyfieithydd)
Gwestai gwahoddedig
In attendance
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
George Jones (translation)
Invited Guests
227
Ymddiheuriadau
Cyng Mair Benjamin
Cyng Claudine Young
Cyng Alex Mangold
Cyng Alun Williams
Derbynwyd ymddiheuriadau hefyd gan:
Stephen Davies, Uchel Siryf Dyfed
Elizabeth Treasure, Is Ganghellor Prifysgol Aberystwyth
Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion
Apologies
Cllr Mair Benjamin
Cllr Claudine Young
Cllr Alex Mangold
Cllr Alun Williams
Apologies also received from:
Stephen Davies, High Sherriff of Dyfed
Elizabeth Treasure, Vice Chancellor Aberystwyth University
Eifion Evans, Chief Executive, Ceredigion County Council
228
Adroddiad gan y Cyng. Steve Davies, y Maer yn ymddeol gan ddiolch i’r Cynghorwyr a’r Clerc am eu cefnogaeth ar hyd y flwyddyn.
A review of his year in office by the retiring Mayor, Cllr Steve Davies. He also thanked Councillors and the Clerk for their support during the year.
229
Cynigiodd y Cyng. Talat Chaudhri ddiolch i’r Maer ymadawedig am gwblhau ei ddyletswyddau yn effeithiol ar ran y Cyngor
Councillor Talat Chaudhri extended a vote of thanks to the retiring Mayor for fulfilling his duties with dignity on behalf of council
230
Cynigiodd y Cyng. Mark Strong y Cyng. Talat Chaudrhi fel Maer Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn Faer 2018-19 gan gynnig yn gryno ei resymau dros ei gynnig.
Eiliodd y Cyng. Rhodri Francis y cynnig
Gan nad oedd unrhyw gynnig arall
pleidleisiwyd yn unfrydol dros apwyntio’r Cyng Talat Chaudrhi yn Faer ar gyfer y flwyddyn 2016-17
Councillor Mark Strong proposed Councillor Talat Chaudhri as Mayor of Aberystwyth for the Mayoral Year 2018-19 and gave a brief resume emphasising his reasons for the proposal.
Cllr Rhodri Francis seconded the proposal
There being no other names proposed members voted unanimously that Councillor Talat Chaudhri be appointed Mayor of Aberystwyth for the Mayoral Year 2018-19
231
Cynigiodd y Cyng Sue Jones-Davies y Cyng Mari Turner fel Dirprwy Faer ar gyfer 2018-19
Eiliwyd hyn gan y Cyng Talat Chaudhri
Gan nad oedd unrhyw gynnig arall pleidleisiwyd yn unfrydol dros apwyntio’r Cyng Mari Turner yn Dirprwy Faer ar gyfer y flwyddyn 2018-19
Cllr Sue Jones-Davies proposed Councillor Mari Turner as Deputy Mayor for 2018-19
Cllr Talat Chaudhri seconded the proposal.
There being no other names proposed members voted unanimously that Cllr Mari Turner be appointed Deputy-Mayor of Aberystwyth for the Mayoral year 2018-19
232
Arwyddodd y Maer newydd i dderbyn y Datganiad Derbyn Swydd -wedi ei dystio gan y Cynigydd a’r Eilydd a’r Clerc.
The incoming Mayor accepted and signed the Declaration of Acceptance of Office -witnessed by his proposer and seconder and the Clerk
233
Cyfarchod y Maer, Cyng Talat Chaudhri, y Cyngor a phawb yn bresennol, gan ddiolch i’w gyd-gynghorwyr am eu ffydd ynddo ac am ei ethol fel Maer.
The Mayor, Cllr Talat Chaudhri addressed Council and all present, thanking his fellow councillors for their vote of confidence in electing him to the office of Mayor.
234
Hysbysodd y Clerc yr aelodau am apwyntiadau ar gyfer Blwyddyn y Maer 2018-19
Maeres – Carolyn Hodges
Dirprwy Faer – Cyng Mari Turner
Caplan y Maer – Rabi Dan Cohn Sherbock
The Clerk informed members of the appointments for the Mayoral Year 2018-19
Mayoress – Carolyn Hodges
Deputy Mayor – Cllr Mari Turner
Chaplain to the Mayor – Rabi Dan Cohn-Sherbock
235
Arwisgodd Y Maer y Dirprwy Faer gyda Bathodyn y Swydd
The Mayor invested the Deputy Mayor with the Badge of Office
236
Arwisgodd Y Maer y cyn-Faer gyda Bathodyn y Swydd
The Mayor invested the retiring Mayor with the Badge of Office
237
Arwisgodd y cyn- Faeres, Linda Hughes, y Faeres newydd
The Outgoing Mayoress, Linda Hughes, invested the incoming Mayoress
238
Galwodd y Maer am fendith i’r apwyntiadau newydd oddiwrth y Parch Mones Farah
The Mayor requested a blessing for the new appointments from Rev. Mones Farah
239
Gan nad oedd unrhyw fusnes arall gohiriodd y Maer y cyfarfod yn swyddogol
There being no further business, the Mayor formally adjourned the meeting
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod Blynyddol Cyngor Llawn
Annual Meeting of Full Council
29.5.2018
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)
Cyng. Mari Turner
Cyng. Brendan Somers
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Alun Williams
Cyng. Sara Hammel
Cyng. Mark Strong
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Michael Chappell
Yn mynychu:
George Jones (cyfieithydd)
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present:
Cllr. Talat Chaudhri (Chair)
Cllr. Mari Turner
Cllr. Brendan Somers
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Alun Williams
Cllr. Sara Hammel
Cllr. Mark Strong
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Michael Chappell
In attendance:
George Jones (translator)
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau:
Cyng. Steve Davies
Cyng. Mair Benjamin
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Claudine Young
Cyng. Alex Mangold
Cyng. Sue Jones Davies
Apologies:
Cllr. Steve Davies
Cllr. Mair Benjamin
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Claudine Young
Cllr. Alex Mangold
Cllr. Sue Jones Davies
3
Datgan Diddordeb: Nodwyd o fewn yr eitem agenda.
Declaration of interest: Noted within the agenda item.
4
Cyfeiriadau Personol:
Ar ran y Cyngor, talodd y Maer ddiolch i’r Clerc, Gweneira Raw-Rees, am ei gwaith caled i gyd yn trefnu seremoni sefydlu’r Maer a Gorymdaith y Maer. Nodwyd pa mor llwyddiannus oedd y digwyddiadau hyn unwaith eto eleni.
Anfonodd y Cyngor ei gydymdeimlad mawr i’r Cyng. Claudine Young yn sgîl tân difrifol yn ei thŷ. Mynegwyd rhyddhâd bod ei theulu yn ddiogel ac anfonwyd pob dymuniad da iddi. Derbyniwyd ei hymddiheuriadau, drwy law y Maer, am y cyfarfodydd nesaf. PENDERFYNWYD danfon blodau.
Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth ar symud i fyny o 81 i 45 yn nhablau Cynghrair y
Roedd Aberystwyth ar y Blaen wedi derbyn gwobr Celfyddydau a Busnesau Bach Cymru am eu cefnogaeth i’r ŵyl Hen Linell Bell.
Personal References:
On behalf of the Council, The Mayor thanked the Clerk, Gweneira Raw-Rees, for all of her hard work in organising the mayor-making ceremony and the Mayor’s Parade. It was noted how very successful these events were once again this year.
The Council sent its deep sympathies to Cllr. Claudine Young following a serious fire in her house. Relief was expressed that her family were safe and all best wishes were sent to her. Her apologies, given via the Mayor, were accepted for forthcoming meetings. It was RESOLVED that flowers should be sent.
Congratulations to Aberystwyth University on moving up from 81 to 45 in the Guardian League Tables
Advancing Aberystwyth had received an Arts and Small Business Cymru award for their support of the Far Old Line
5
Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer:
Cyflwynwyd adroddiad ar lafar.
Mayoral Activity Report:
A verbal report was presented.
6
Cofnodion o Gyfarfod Blynyddol y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Wener, 11 Mai 2018.
228: Dylid rhoi Steve Davies yn lle Endaf Edwards
234: Dylid rhoi Cohn-Sherbock yn lle Mones Farah
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion gyda’r cywiriadau uchod
Minutes of the Annual Meeting of Full Council held on Friday 11 May 2018.
228: Steve Davies should replace Endaf Edwards
234: Dan Cohn-Sherbock should replace Mones Farah
It was RESOLVED to approve the minutes with the above corrections
7
Cofnodion o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd 30 Ebrill 2018
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion
Minutes of Full Council held on 30 April 2018:
It was RESOLVED to approve the minutes
8
Materion yn codi o’r Cofnodion: Dim
Matters arising from the Minutes: None
9
Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun, 5 Chwefror 2018
PENDERFYNWYD cymweradwyo’r cofnodion.
Materion yn codi:
Dylid nodi enwau eiddo yn y cofnodion yn ogystal â rhif y cais.
Minutes of the Planning Committee held on Monday, 5 March 2018
It was RESOLVED to approve the minutes.
Matters arising:
Property names should be noted in the minutes in addition to the application number.
10
Cofnodion y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun, 12 Mawrth 2018
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion
Byddai’r Pwyllgor Addysg newydd yn cynnwys cynghorwyr:
Alex Mangold, Michael Chappell, David Lees, Charlie Kingsbury, Lucy Huws, Mark Strong, Sue Jones-Davies a Brenda Haines. Byddai Talat Chaudhri a Mari Turner yn aelodau cyn-officio. Byddai’r cynghorwyr absennol hefyd yn cael cyfle i ymuno â’r pwyllgor.
Minutes of the General Management Committee held on Monday, 12 March 2018
It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.
The new Education Committee would consist of councillors:
Alex Mangold, Michael Chappell, David Lees, Charlie Kingsbury, Lucy Huws, Mark Strong, Sue Jones-Davies and Brenda Haines. Talat Chaudhri and Mari Turner would be ex-officio members. Absent councillors would also be given the opportunity to join the committee.
11
Cofnodion y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 19 Mawrth 2018
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion (gyda chywiriad i’r rhifau) a’r argymhellion i gyd gan gynnwys derbyn y Ffurflen Flynyddol.
PENDERFYNWYD hefyd cymeradwyo gwaith i’r cysgodfannau bysiau yng Nghoedlan y Parc am gost o £1500
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 19 March 2018
it was RESOLVED to approve the minutes (with a correction to the numbering) and all recommendations, including approval of the Annual Return.
It was also RESOLVED to approve works to the bus shelters in Park Avenue at a cost of £1500
Trefnu’r gwaith
Organise works
12
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
12.1
A180185: Savannah, 27 Morfa Mawr
DIM GWRTHWYNEBIAD mewn egwyddor a chroesewir y datblygiad ond dylid gwneud pob ymdrech i osod ffenestri sy’n cyd-fynd ag ardal gadwraeth ac sy’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. Pren yw’r opsiwn gorau, ond a ellir trwsio’r ffenestri plastig yn hytrach na’u newid?
A180185: Savannah, 27 Queen’s Road.
NO OBJECTION in principle and the development is welcomed but every effort should be made to put in windows that are in keeping with a conservation area and which minimise the impact on the environment. Wood is the preferred option but could the plastic windows be repaired as opposed to being replaced?
Cysylltu gyda’r Adran Gynllunio
Contact the Planning Department
12.2
A180347: Hen Swyddfeydd y Cyngor, Rhodfa’r Môr
Datganodd y Cyng Endaf Edwards ddiddordeb.
Gan nad yw’r ymgynghori ar y datblygiad hwn, sy’n fwy na 10 uned, wedi digwydd dylid ei dynnu’n ôl.
A180347: Former Council Offices, Marine Terrace
Cllr Endaf Edwards declared an interest.
As consultation on this development, which is larger than 10 units, has not taken place it should be withdrawn.
12.3
A180460: Glascoed 6 Elmtree Avenue
Mae angen edrych ar yr effaith ar barcio gan fod hyn eisoes yn broblem yn yr ardal hon
A180460: Glascoed 6 Elmtree Avenue.
The impact on parking needs to be looked at as this is already an issue in this area
12.4
A180464/66: Bancrug, Buarth
DIM GWRTHWYNEBIAD
A180464/66: Bancrug, Buarth
NO OBJECTION
12.5
A180474: Craig Glais
Er yn cefnogi cyfleoedd chwarae, mae gan y Cyngor Tref bryderon difrifol ynglŷn ag effaith yr adeilad arfaethedig ar y tirlun ac mewn ardal gadwraeth. Mae angen mwy o wybodaeth ar y dyluniad ac ar y diffiniad o ‘gynhwysol’
A180474: Constitution Hill
Whilst supporting play opportunities, the Town Council has serious concerns regarding the impact of the proposed building on the landscape and in a conservation area. More information is needed on the design and on the definition of ‘inclusive’
12.6
A180478: Yr Hen Festri, Arad Goch
I’w drafod yn y Pwyllgor Cynllunio nesaf
A180478: Yr Hen Festri, Arad Goch
To be discussed in the next Planning Committee
12.7
A180491: 46 Stryd y Bont
Mae’r Cyngor Tref yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio ôl-weithredol ond mae ganddo bryderon hefyd ynghylch effaith llygredd sŵn ac arogleuon ar gymdogion.
Cynghorwyr i siarad â’r cymdogion.
A180491: 46 Bridge St
The Town Council objects to retrospective planning applications but also has concerns regarding the impact of noise and smell pollution on neighouring properties.
Councillors to talk to neighbours.
Cynghorwyr i drafod gyda chymdogion
Councillors to talk to neighbouring properties.
13
Apwyntio aelodau ar y Pwyllgor Cynllunio
PENDERFYNWYD cadw’r aelodaeth fel y llynedd ond gan ychwanegu unrhyw gynghorwyr â diddordeb (neu absennol): :
Cynghorwyr – Lucy Huws, David Lees, Rhodri Francis, Sue Jones-Davies, Claudine Young, Michael Chappell, Mair Benjamin.
Talat Chaudhri a Mari Turner fel aelodau ex-officio.
To appoint members to the Planning Committee
It was RESOLVED that the membership to be kept as last year but with the addition of any interested (or absent) councillors:
Councillors – Lucy Huws, David Lees, Rhodri Francis, Sue Jones-Davies, Claudine Young, Michael Chappell, Mair Benjamin.
Talat Chaudhri and Mari Turner as ex-officio members.
14
Apwyntio aelodau ar y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
PENDERFYNWYD gadw’r aelodaeth fel y llynedd, ond gan ychwanegu Rhodri Francis a Brendan Somers:
Sara Hammel, Brenda Haines, Charlie Kingsbury, Mark Strong, Lucy Huws, Sue Jones-Davies, Claudine Young, Michael Chappell, Mair Benjamin, Dylan Lewis, Rhodri Francis a Brendan Somers.
Talat Chaudhri a Mari Turner fel aelodau ex-officio.
To appoint members to the General Management Committee
It was RESOLVED that the membership be kept as last year but with the addition of Rhodri Francis and Brendan Somers:
Sara Hammel, Brenda Haines, Charlie Kingsbury, Mark Strong, Lucy Huws, Sue Jones-Davies, Claudine Young, Michael Chappell, Mair Benjamin, Dylan Lewis, Rhodri Francis and Brendan Somers.
Talat Chaudhri and Mari Turner as ex-officio members.
15
Apwyntio aelodau ar y Pwyllgor Cyllid
PENDERFYNWYD cadw’r aelodaeth fel y llynedd ond gan ychwanegu unrhyw gynghorwyr â diddordeb (neu absennol) a Brendan Somers. Roedd Rhodri Francis am symud i Bwyllgor RhC.
Alun Williams, Endaf Edwards, Mark Strong, Sara Hammel, Charlie Kingsbury, Brenda Haines, Brendan Somers, David Lees, Dylan Lewis
Talat Chaudhri (ex-officio) and Mari Turner (ex-officio)
To appoint members to the Finance Committee
It was RESOLVED that the membership to be kept as last year but with the addition of Brendan Somers and any interested (or absent) councillors. Rhodri Francis wished to move to the GM committee:
Alun Williams, Endaf Edwards, Mark Strong, Sara Hammel, Charlie Kingsbury, Brenda Haines, Brendan Somers, David Lees, Dylan Lewis
Talat Chaudhri (ex-officio) and Mari Turner (ex-officio)
16
Apwyntio aelodau ar y Panel Staffio
PENDERFYNWYD cadw’r aelodaeth fel y llynedd ond gan ychwanegu Brendan Somers a Charlie Kingsbury ac unrhyw gynghorydd absennol â diddordeb:
Alun Williams, Endaf Edwards, Brenda Haines, Sue Jones-Davies, Brendan Somers
Talat Chaudhri (ex-officio) Mari Turner (ex-officio)
To appoint members to the Staffing Panel
It was RESOLVED to keep the same members but with the addition of Brendan Somers and Charlie Kingsbury and any interested absent councillor:
Alun Williams, Endaf Edwards, Brenda Haines, Sue Jones-Davies, Brendan Somers
Talat Chaudhri (ex-officio) Mari Turner (ex-officio)
17
Apwyntio cynrychiolwyr ar gyrff allanol
PENDERFYNWYD gohirio eitemau 17-24 oherwydd cyfyngiadau amser heblaw am eitem 21 ac un darn o ohebiaeth.
To appoint representatives to outside bodies
It was RESOLVED to postpone items 17-24 due to time constraints except for item 21 and one piece of correspondence.
17.1
Pwyllgor Cyswllt Rheilffyrdd Amwythig i Aber
Shrewsbury to Aber Rail Liaison Committee
Dylan Lewis
Michael Chappell
Alun Williams CCC
17.2
Cymdeithas Teithwyr Rheilffyrdd Amwythig i Aberystwyth
Shrewsbury to Aberystwyth Rail Passengers Association SARPA
Rhodri Francis
Dylan Lewis
17.3
Efeillio St Brieuc
St Brieuc PPA
Mari Turner
David Lees
17.4
Efeillio Kronberg
Aberystwyth Kronberg PPA
Brenda Haines
Lucy Huws
Charlie Kingsbury
17.5
Cyfeillio Yosano
Yosano Friendship
Sue Jones-Davies
Michael Chappell
17.6
Efeillio Esquel
Esquel Twinning
Endaf Edwards
Sue Jones-Davies
17.7
Efeillio Arklow
Arklow Twinning
Steve Davies
Charlie Kingsbury
17.8
Un Llais Cymru
One Voice Wales
David Lees
Alex Mangold
17.9
Menter Aberystwyth
Menter Aberystwyth
Mark Strong
Brendan Somers
17.10
Llys Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth University Court
Dylan Lewis
Charlie Kingsbury
17.11
Bwrdd Prosiect yr Hen Goleg
Old College Project Board
Alun Williams
David Lees
17.12
Aberystwyth ar y Blaen
Advancing Aberystwyth ar y Blaen Board
Brendan Somers
17.13
Canolfan y Celfyddydau
Aberystwyth Arts Centre
Sue Jones-Davies
17.14
Band Arian Aberystwyth
Aberystwyth Silver Band
Mair Benjamin
Brenda Haines
17.15
Grŵp Gorchwyl Ffoaduriaid Syria
Syrian Refugee Task & Finish Group
Alun Williams
Alex Mangold
Talat Chaudhri (3rd reserve)
18
(21
ar yr agenda)
Cyllid – ystyried gwariant Mai:
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant ac, yn absenoldeb llofnodwyr, byddai’r Clerc yn cael ei chymeradwyo i arwyddo’r sieciau gyda’r Cyng. Alun Williams.
Finance – to consider the May expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure and that in the absence of signatories the Clerk would be approved to sign the cheques with Cllr Alun Williams.
19
Gohebiaeth:
Correspondence:
19.1
Roedd cyfarfod ar y cyd i’w gynnal ar gampws y Brifysgol i edrych ar Balchder Dinesig, ac yn arbennig casglu gwastraff, ar ddydd Iau, 28 Mehefin, 2018. PENDERFYNWYD mai 4 o’r gloch fyddai’n fwyaf addas.
A joint meeting to be held on the University campus to look at Civic Pride, and in particular, waste collection, was being organised for Thursday 28 June 2018. It was RESOLVED that the time of 4pm would be the most suitable.
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cynllunio / Planning Committee
4.6.2018
COFNODION / MINUTES
1
Yn bresennol:
Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd)
Cyng. Mari Turner
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Sue Jones-Davies
Cyng. David Lees
Yn mynychu:
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Alun Williams
Present:
Cllr. Lucy Huws (Chair)
Cllr. Mari Turner
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Sue Jones-Davies
Cllr David Lees
In attendance:
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Alun Williams
2
Ymddiheuriadau:
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Steve Davies
Cyng. Claudine Young
Cyng. Mair Benjamin
Apologies:
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Steve Davies
Cllr. Claudine Young
Cllr Mair Benjamin
3
Datgan Diddordeb: Nodwyd o fewn yr eitem agenda
Declaration of interest: Noted within the agenda item.
4
Cyfeiriadau Personol:
Llongyfarchiadau i’r ysgolion ar ennill yn yr Eisteddfod
Personal references:
Congratulations to the schools on their Eisteddfod victories.
5
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio
Cynigiwyd y Cyng Lucy Huws gan y Cyng Alun Williams ac eiliwyd gan y Cyng Michael Chappell. Etholwyd y Cyng Lucy Huws yn y modd priodol.
Election of Chair of the Planning Committee
Cllr Lucy Huws was proposed by Cllr Alun Williams and seconded by Cllr Michael Chappell. Cllr Lucy Huws was duly elected.
6
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio
Cynigiwyd y Cyng David Lees gan y Cyng Michael Chappell ac eiliwyd gan y Cyng Sue Jones-Davies. Etholwyd y Cyng David Lees yn y modd priodol.
Election of Vice Chair of the Planning Committee
Cllr David Lees was proposed by Cllr Michael Chappell and seconded by Cllr Sue Jones-Davies. Cllr David Lees was duly elected.
7
Ceisiadau Cynllunio:
Planning Applications:
7.1
A180478: Arad Goch. Mynedfa newydd.
Gwnaeth y Cyng. Mari Turner ddatgan budd a gadael y Siambr.
Roedd y pwyllgor am wneud yn siwr os oedd wedi’i leoli o fewn ardal gadwraeth ai peidio.
Mae’r Cyngor yn gefnogol i nodau’r cais ond yn GWRTHWYNEBU ar sail y canlynol:
Dylai unrhyw newidiadau ymgorffori bwâu presennol y ffenestri
Mae’r cladin arfaethedig yn ddiangen ac nid yw’n cyd-fynd â’r adeilad
Dylai’r ffenestri ddefnyddio deunyddiau yn unol â’r ardal leol
Dylai’r dyluniad fod yn gydnaws â gweddill yr adeilad
A180478: Arad Goch. New front entrance.
Cllr Mari Turner declares an interest and leaves the Chamber.
The committee needs to check whether or not it is located within a conservation area.
The Council is supportive of the aims of the application but OBJECTS on the following basis:
Any changes should incorporate the existing arches of the windows
The proposed cladding is unnecessary and not in keeping with the building
The windows should use materials in keeping with the local area
The design should be in keeping with the rest of the building
Danfon ymateb at y Cyngor Sir
Send response to CCC
8
Pwyllgor Rheoli Datblygu. Ni ddarparwyd adroddiad
Y Clerc i ymholi i ddychweliad y ddraig ar wal Banera.
Development Control Committee. No report provided.
The Clerk to chase up the return of the dragon on Banera’s wall.
9
Gohebiaeth
Correspondence:
9.1
Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion: cynrychiolydd y Cyngor i’w drafod yn y Cyngor Llawn.
Ceredigion Local Access Group: Council representation to be discussed at Full Council.
Eitem agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda item
9.2
Cynllun Cynefin: eitem agenda y Pwyllgor Cynllunio nesaf
Place Plan: agenda item at next Planning Committee
Eitem agenda’r Pwyllgor Cynllunio nesaf
Agenda item for next Planning Committee
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
6.2018
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd 1-5)
Cyng Brendan Somers (Cadeirydd 6-11)
Cyng. Charlie Kingsbury
Cyng. Lucy Huws
Cyng. Michael Chappell
Cyng. Mari Turner
Cyng. David Lees
Cyng. Mark Strong
Cyng. Brenda Haines
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair 1-5)
Cllr Brendan Somers (Chair 6-11)
Cllr. Charlie Kingsbury
Cllr. Lucy Huws
Cllr. Michael Chappell
Cllr. Mari Turner
Cllr. David Lees
Cllr. Mark Strong
Cllr. Brenda Haines
In attendance:
Cllr. Alun Williams
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Sue Jones Davies
Cyng. Claudine Young
Cyng. Dylan Lewis
Cyng. Steve Davies
Cyng. Mair Benjamin
Apologies
Cllr. Sue Jones Davies
Cllr. Claudine Young
Cllr. Dylan Lewis
Cllr. Steve Davies
Cllr. Mair Benjamin
3
Datgan Diddordeb: dim
Declaration of Interest: none
4
Cyfeiriadau personol:
Diolchwyd i’r Cyng. Talat Chaudhri am gadeirio’r Pwyllgor am ddwy flynedd
Personal references:
Cllr Talat Chaudhri was thanked for chairing the Committee for two years.
5
Cadarnhau aelodaeth y Pwyllgor:
Byddai’r Cyng David Lees yn cael ei ychwanegu at aelodaeth y grŵp a byddai’r Cyng Alex Mangold yn ymuno â’r Pwyllgor Cyllid
Confirm Committee membership:
Cllr David Lees would be added to the group membership and Cllr Alex Mangold would join the Finance Committee
6
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol:
Cynigiwyd y Cyng Sarah Hammel gan y Cyng. Mark Strong ac eiliwyd gan y Cyng Lucy Huws.
Cynigiwyd y Cyng Brendan Somers gan y Cyng. Mari Turner ac eiliwyd gan y Cyng Brenda Haines.
Etholwyd y Cyng Brendan Somers yn briodol
Election of Chair of the General Management Committee:
Cllr Sarah Hammel was proposed by Cllr Mark Strong and seconded by Cllr Lucy Huws.
Cllr Brendan Somers was proposed by Cllr Mari Turner and seconded by Cllr Brenda Haines.
Cllr Brendan Somers was duly elected
7
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol:
Cynigiwyd y Cyng Michael Chappell gan y Cyng Brenda Haines ac fe’i eiliwyd gan y Cyng Charlie Kingsbury
Cynigwyd y Cynghorydd Rhodri Francis gan y Cyng. Talat Chaudhri ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Mark Strong.
Cynigiodd y Cyng.Talat Chaudhri bleidlais gyfrinachol ac eiliwyd hyn gan y Cyng. Charlie Kingsbury. Cytunwyd hyn.
Derbyniodd y ddau ymgeisydd nifer gyfartal o bleidleisiau a phenderfynodd y Cadeirydd y byddent yn rhannu’r swydd.
Election of Vice-chair of the General Management Committee:
Cllr Michael Chappell was proposed by Cllr Brenda Haines and seconded by Cllr Charlie Kingsbury
Cllr Rhodri Francis was proposed by Cllr Talat Chaudhri and seconded by Cllr Mark Strong.
Cllr Talat Chaudhri proposed a secret ballot which was seconded by Cllr Charlie Kingsbury. This was agreed.
Both candidates received an equal number of votes and the Chair decided that they would share the role.
8
Rheoli gwastraff
Cynhelir cyfarfod ar y cyd gyda’r Brifysgol am 4pm ar 28 Mehefin 2018.
Yn y cyfamser, dylid anfon awgrymiadau i Gyngor Sir Ceredigion. Cyflwynwyd amryw o atebion posibl:
Darparu cyllid ychwanegol ar gyfer ardal gadwraeth
Dosbarthu rhwyd, neu orchudd arall atal adar, i breswylwyr er mwyn diogelu bagiau du
Cyflwyno rhaglen addysg drwy’r Brifysgol
Archfarchnadoedd i ddarparu cyfleusterau ailgylchu
Cyflwyno system wobrwyo i gydnabod mentrau stryd / cymdogaethau da
Newid meddyliau – hyrwyddo’r neges allweddol fod pawb yn gyfrifol amdano
Y Brifysgol i ddarparu mwy o finiau mewn mannau priodol a sicrhau casgliadau rheolaidd
Cynigiodd y Cyngor:
Casgliadau ychwanegol ar ddiwedd y tymor ac mewn ardaloedd lle mae lot o wastraff
Darparu gorchudd atal adar i gartrefi
Pwyntiau storio cymunedol i’w sefydlu a’u cynnal
Ymchwilio i ddefnyddio falcon ar ddiwrnodau casglu canol y dref.
Waste management
A joint meeting with the University was being held at 4pm on 28 June 2018.
In the meantime suggestions should be sent to Ceredigion County Council. Various possible solutions were presented:
Provide additional funding for a conservation area
Distribute netting, or other bird-proof covering, to residents in order to protect black bags
Deliver an education programme via the University
Supermarkets to provide recycling facilities
Introduce a reward system to acknowledge good street/neighbourhood initiatives
Change mindsets – promote the key message that it is everyone’s responsibility
University to provide more bins in appropriate places and ensure regular collections
Council proposed:
Additional collections at the end of term and in areas where there is a lot of waste
Bird-proof covering to be provided to households
Communal storage points to be set up and maintained
Investigate use of a falcon on town centre collection days.
9
Ymgynghoriad Hywel Dda (19.4.2018-12.7.2018)
Mae’r Cyngor yn croesawu ac yn cefnogi’n frwd y cynlluniau ar gyfer parhau statws a gwella ysbyty Bronglais
Dylid ystyried anghenion y bobl yn y dalgylch ehangach a wasanaethir gan Bronglais
Hywel Dda consultation (19.4.2018-12.7.2018)
Council welcomes and fully supports plans for the continued status and enhancement of Bronglais hospital
The needs of the people in the wider catchment area that is served by Bronglais should be considered
10
Baw cŵn
ARGYMHELLWYD bod arwyddion ‘Dim cŵn’ ychwanegol yn cael eu rhoi ar bob pwynt mynediad i’r traeth ac y byddai cystadleuaeth dylunio arwyddion gydag ysgolion cynradd yn cael ei drefnu.
Ymchwilir ymhellach i arwyddion rhwystro bwydo gwylanod.
Dog fouling
It was RECOMMENDED that additional ‘No dogs’ signs be placed on all entry points to the beach and that a sign design competition with primary schools would be organised. It was noted that the lifeguards also watch for dogs on the beach.
Signage to discourage the feeding of seagulls would be investigated further.
Edrych i mewn i arwyddion
Investigate signage
11
Gohebiaeth
Correspondence
1
Cofeb rhyfel (Cyng. David Lees)
ARGYMHELLWYD y dylid ymchwilio i adleoli cerflun y Tabernacl gyda’r perchnogion.
War Memorial (Cllr David Lees)
It was RECOMMENDED that the relocation of the Tabernacle statue should be investigated with the owners.
Cysylltu gyda/ Contact: Mid Wales Housing
2
Oergell Gymunedol (Y Cyng David Lees)
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cefnogi AberFood Surplus i sefydlu oergell gymunedol.
Community Fridge (Cllr David Lees)
It was RECOMMENDED that the Council supports AberFood Surplus to set up a community fridge.
Cysylltu gyda/ Contact: Aber Surplus
3
Ffynhonnau Dŵr (Cyng David Lees)
ARGYMHELLWYD bod y cynnig yn cael ei gefnogi mewn egwyddor ond y manylion i’w trafod gan y Pwyllgor Cyllid.
Water Fountains (Cllr David Lees)
It was RECOMMENDED that the proposal be supported in principle but details to be discussed by the Finance Committee.
Eitem Pwyllgor Cyllid
Finance Committee agenda item
4
Atgyweirio meysydd chwarae Penparcau:
Byddai’r Clerc yn cysylltu â Cheredigion i weld a ellid gwneud y gwaith erbyn y Parti yn y Parc (12pm, 30 Mehefin).
Mae angen galw’r Is-bwyllgor Maes Chwarae
Penparcau Playground repairs:
The Clerk would contact Ceredigion to see if the work could be done by the Party in the Park (12pm 30 June).
The Playground Sub-Committee needs to be convened
Is-bwyllgor meysydd chwarae
Convene Playground Sub-Committee
5
Parti yn y Parc 12pm 30 Mehefin (Cyng Charlie Kingsbury)
Roedd y Cyngor eisoes wedi cytuno i gael stondin yn y digwyddiad. Gofynnodd y Cyng Charlie Kingsbury am gymorth cynghorwyr ar y diwrnod.
Party in the Park 12pm 30 June (Cllr Charlie Kingsbury)
Council had agreed to have a stand at the event. Cllr Charlie Kingsbury asked for councillor support on the day.
Pawb i ymateb
All to respond
6
Cynrychiolaeth Un Llais Cymru:
ARGYMHELLWYD bod y Cynghorwyr David Lees ac Alex Mangold yn parhau i gynrychioli’r Cyngor.
One Voice Wales representation:
It was RECOMMENDED that Cllrs David Lees and Alex Mangold continued to represent Council.
7
Ailstrwythuro Prifysgol Aberystwyth ac addysgu cyfrwng Cymraeg
Cymeradwyodd y Cyngor y llythyr drafft i’w anfon at y Brifysgol.
Aberystwyth University restructuring and Welsh medium teaching
Council approved the draft letter to be sent to the University.
Anfon llythyr
Send letter
8
Cais dehongli Kronberg:
teimlwyd bod angen rhoi ystyriaeth ofalus i’r lleoliad, y math o ddehongliad a’r cynnwys a pheidio â rhuthro i wneud penderfyniad. Nid oedd mis Gorffennaf yn cynnig digon o amser i gyflawni hyn. Roedd y Parc wedi ei gynllunio’n ofalus iawn a byddai angen ystyriaeth ofalus ar unrhyw ychwanegiadau.
Kronberg interpretation request:
It was felt that there was a need to give the location, type of interpretation and content careful consideration and not rush into making a decision. July was too soon a deadline to achieve this. The Park had been very carefully designed and any additions would need careful consideration.
Anfon ymateb
Send response
9
AberFood Surplus
Roeddent yn cynnig cefnogaeth gydag ymgynghoriad Parc Ffordd y Gogledd. Y Clerc i gysylltu â’r grŵp i gael rhagor o wybodaeth.
AberFood Surplus
They were offering support in delivering the North Road Park consultation. The Clerk to liaise with the group for more information.
Cysylltu
Contact
10
Sea2Shore
Roedd angen cyflwynwyr, stiwardiaid yn ogystal â chymorth gyda pharatoi’r stondinau.
Sea2Shore
MCs were needed as well as help with setting up, stewards etc.
Pawb i ymateb
All to respond
11
Cysgodfannau bws
Roedd y gwaith ar gysgodfannau Coedlan y Parc yn cael ei wneud ar hyn o bryd.
Bus shelters
The works to the Park Avenue shelters was currently underway.
12
Biosffer Dyfi UNESCO
Roedd y Cyng. Alun Williams a Talat Chaudhri yn mynychu’r Cyfarfod Blynyddol. Byddai’r Clerc yn mynychu’r cyfarfod yn Nhre’r Ddol. Y Cyng Claudine Young oedd y cynrychiolydd swyddogol.
UNESCO Dyfi Biosphere
Cllrs Alun Williams and Talat Chaudhri were attending the Annual Meeting. The Clerk would attend the meeting in Tre’r Ddol. Cllr Claudine Young was the official representative.
13
Diwrnod y Llynges Fasnachol 3.9.2018
Cytunwyd y byddai’r Faner Goch yn cael ei hedfan o bolyn baner y Cyngor ger y castell.
Merchant Navy Day 3.9.2018
It was agreed that the Red Ensign would be flown from the Council flagpole at the castle.
Dod o hyd i faner
Acquire a baner
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau
Finance and Establishments committee
6.2018
COFNODION / MINUTES
1
Presennol
Cyng. Dylan Lewis (Cadair 1-5)
Cyng. Charlie Kingsbury (Cadair 6-11)
Cyng. Mark Strong
Cyng. David Lees
Cyng. Endaf Edwards
Cyng. Mari Turner
Cyng. Brenda Haines
Cyng. Talat Chaudhri
Yn mynychu:
Cyng Michael Chappell
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
Present
Cllr. Dylan Lewis (Chair 1-5)
Cllr. Charlie Kingsbury (Chair 6-11)
Cllr. Mark Strong
Cllr. David Lees
Cllr. Endaf Edwards
Cllr. Mari Turner
Cllr. Brenda Haines
Cllr. Talat Chaudhri
In attendance:
Cllr Michael Chappell
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
2
Ymddiheuriadau
Cyng. Rhodri Francis
Cyng. Steve Davies
Cyng. Alun Williams
Apologies
Cllr. Rhodri Francis
Cllr. Steve Davies
Cllr. Alun Williams
3
Datgan buddiannau:
Nodwyd o fewn yr eitem ar yr agenda
Declarations of interest:
Noted within the agenda item
4
Cyfeiriadau Personol: Diolchwyd i Dylan Lewis am gadeirio’r Pwyllgor
Personal references: Cllr Dylan Lewis was thanked for chairing the Committee.
5
Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Cynigiwyd y Cyng. Charlie Kingsbury gan y Cyng Brenda Haines ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Talat Chaudhri. Fe’i etholwyd yn briodol a chymerodd y gadair.
ARGYMHELLWYD bod y Cadeirydd yn cael ei ychwanegu fel llofnodwr
Elect Chair of Finance Committee
Cllr Charlie Kingsbury was proposed by Cllr Brenda Haines and seconded by Cllr Talat Chaudhri. He was duly elected and took the chair.
It was RECOMMENDED that the Chair be added as a signatory.
6
Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Cynigiwyd y Cyng Dylan Lewis gan y Cyng. Talat Chaudhri ac fe’i eiliwyd gan y Cyng Brenda Haines. Cafodd ei ethol yn briodol.
Elect Vice-chair of Finance Committee
Cllr Dylan Lewis was proposed by Cllr Talat Chaudhri and seconded by Cllr Brenda Haines. He was duly elected.
7
Ystyried Cyfrifon Mis Ebrill
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cyfrifon
Consider Monthly Accounts for April
It was RECOMMENDED that Council approve the accounts.
8
Ystyried Cyfrifon Mis Mai
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn derbyn y cyfrifon
Consider Accounts for May
It was RECOMMENDED that Council approve the accounts.
9
Ystyried adroddiad yr Archwiliad Mewnol
Nodwyd fod angen adolygu’r Rheoliadau Ariannol (eitem agenda 10 isod)
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo’r adroddiad.
Consider Internal Audit report
It was noted that the Financial Regulations need to be reviewed (agenda item 10 below)
It was RECOMMENDED that Council approve the report.
10
Adolygu’r Rheoliadau Ariannol
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo’r mân gywiriadau a nodwyd gan y Clerc/SAC a dileu 6.5 a 6.7 (nid yw’r Cyngor yn cadw arian parod).
Y rheoliadau diwygiedig i’w dosbarthu i gynghorwyr.
Review Financial Regulations
It was RECOMMENDED that Council approve the minor corrections noted by the Clerk/RFO and the deletion of 6.5 and 6.7 (petty cash is not held by the Council).
The amended regulations to be disseminated to councillors.
11
Gohebiaeth
Correspondence
11.1
Adnewyddu Yswiriant 2018-19:
Anfonwyd siec am £5,326.88 nad oedd wedi ystyried nodyn credyd o £160.63. Roedd WPS yn mynd i anfon ad-daliad am y swm hwnnw.
Insurance Renewal 2018-19:
A cheque for £5,326.88 had been sent which had not taken account of a £160.63 credit note. WPS were going to send a refund for that amount.
11.2
GDPR: Talwyd ffi cofrestru o £40.
GDPR: A registration fee of £40 had been paid
11.3
Gwersi Cymraeg:
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cymeradwyo gwersi pellach ‘mewn egwyddor’ ond yn amodol ar fwy o wybodaeth.
Dylid cynnig cyfle i bartneriaid y Cyngor i fynychu’r gwersi
Welsh lessons:
It was RECOMMENDED that Council approve further lessons ‘in principle’ but subject to more information.
Council partners should be offered the opportunity to attend the lessons
11.4
Digwyddiad Neuadd y Farchnad:
Gan ei fod y tu hwnt i derfyn y grant, ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cynnig dymuniadau gorau ac unrhyw gynghorwyr â diddordeb i gynnig cymorth ymarferol.
Market Hall event:
As it was beyond the grant deadline it was RECOMMENDED that Council offers best wishes and any interested councillors to offer practical support.
Ymateb
Respond
11.5
Adroddiad Marchnad Fferm a chais am gyllid:
ARGYMHELLWYD eu bod yn cael eu gwahodd i fynychu Pwyllgor Cyllid
Farmer’s Market report and request for funding:
It was RECOMMENDED that they be invited to attend a Finance Committee
Eitem agenda
Agenda item
11.6
Trwydded bandstand:
ARGYMHELLWYD ei fod yn cael ei gymeradwyo ond gyda mwy o eglurder ynghylch ymdrin â cheisiadau
Bandstand licence:
It was RECOMMENDED that it be approved but with greater clarity regarding processing applications
Ymateb
Respond
11.7
Cysgodfannau bysiau:
Roedd y gwaith o gael gwared ar gysgodfa Coedlan y Parc a newid yr hen gysgodfan y tu allan i Pets at Home bron a gorffen.Roedd adran Trefol CCC hefyd wedi rhoi dyfynbris o £1200 ar gyfer cynnal holl gysgodfeydd y Cyngor Tref a oedd yn golygu bod arbediad i’r Cyngor.
ARGYMHELLWYD y dylid trosglwyddo y gwaith o gynnal a chadw’r llochesi bws o adran Parciau a Gerddi y Cyngor Sir i’r adran Trefol.
Bus shelters:
the removal of the Park Avenue shelter and replacement of the old shelter outside Pets at Home was nearly complete. The Urban section of CCC had also provided a quote of £1200 for the maintenance of all the Town Council shelters which represented a saving for the Council.
It was RECOMMENDED that maintenance of the Council managed bus shelters should be transferred from Parks and Gardens to the Urban section.
11.8
Paneli Dehongli Penparcau:
Dylid anfon yr anfoneb o £ 5750 gan gynnwys gosod i’r Cyngor.
Penparcau Interpretation Panels:
The invoice of £5750 including installation should be sent to the Council.
11.9
Aber Firsts 6.7.2018 am 5.45pm:
Cynghorwyr yn mynychu i ymateb cyn 27.6.2018
Aber Firsts 6.7.2018 at 5.45pm:
Councillors attending to respond before 27.6.2018
Ymateb
Respond
11.10
Cynhadledd Un Llais Cymru 4.7.2018:
Y Clerc i fynychu.
One Voice Wales conference 4.7.2018:
The Clerk to attend.
Archebu lle
Book a place
11.11
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ynglyn â datganoli darlledu:
Datganodd y Cyng Talat Chaudhri fuddiant personol.
Yr e-bost i’w ddosbarthu i bob cynghorydd
Welsh Language Society re the need to devolve media:
Cllr Talat Chaudhri declared a personal interest.
The email to be circulated to all councillors
Anfon at gynghorwyr
Send to all councillors
11.12
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gofyn am lythyr o gefnogaeth:
Datganodd y Cynghorwyr Endaf Edwards a Charlie Kingsbury ddiddordeb a gadawsant y Siambr.
ARGYMHELLWYD anfon llythyr o gefnogaeth ar gyfer datblygiad yr Archifdy Ffilm
National Library of Wales request for a letter of support:
Cllrs Endaf Edwards and Charlie Kingsbury declared an interest and left the Chamber.
It was RECOMMENDED that a letter of support be sent for the Film Archive development
Anfon llythyr
Send letter
11.13
Grant Cyflwyno Dydd Cofio:
ARGYMHELLWYD cyflwyno cais am grant gosodiadau
Remembrance Day Installations Grant:
It was RECOMMENDED that an installations grant application be submitted.
Anfon cais
Send application