Full Council
16/12/2024 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr
Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road
16.12.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
225 | Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Mair Benjamin Cyng. Alun Williams Cyng. Jeff Smith Cyng. Carl Worrall (Eitemau 231, 232 yn unig) Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Glynis Somers Cyng. Mark Strong Cyng. Lucy Huws (Eitemau 225 i 248 yn unig) Cyng. Bryony Davies
Yn mynychu: Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) (Eitemau 232 a 248 yn unig) Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Mair Benjamin Cllr. Alun Williams Cllr. Jeff Smith Cllr. Carl Worrall (Items 231, 232 only) Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Glynis Somers Cllr. Mark Strong Cllr. Lucy Huws (Items 225 to 248 only) Cllr. Bryony Davies
In attendance: Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) (Items 232 and 248 only) Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator)
|
|
226 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Brian Davies Cyng. Umer Aslam Cyng. Gwion Jones Cyng. Mari Turner
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Connor Edwards Cyng. Owain Hughes
|
Apologies and absence:
Absent with apologies: Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Brian Davies Cllr. Umer Aslam Cllr. Gwion Jones Cllr. Mari Turner
Absent without apologies: Cllr. Connor Edwards Cllr. Owain Hughes
|
|
227 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
· 249.2 A240878 Clarks: Roedd y Cyng. Maldwyn Pryse yn adnabod y ddatblygwr. · 249.2 A240878 Clarks: Roedd y Cyng. Alun Williams yn Gynghorydd Sir dros y ward. |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
· 249.2 A240878 Clarks: Cllr. Maldwyn Pryse knew the developer. · 249.2 A240878 Clarks: Cllr. Alun Williams was a County Councillor for the ward.
|
|
228 | Cyfeiriadau Personol
· Diolchwyd i’r Cyng. Maldwyn Pryse am ei ran yn yr wylnos heddwch a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2024. · Roedd cinio Nadolig blynyddol yr Henoed wedi bod yn llwyddiant gyda dros 80 yn bresennol. Diolchwyd i’r staff a’r cynghorwyr a fynychodd ac a gynorthwyodd gyda’r gweini. · Diolchwyd i staff y Cyngor Tref am eu holl waith drwy gydol 2024. |
Personal References
· Thanks were extended to Cllr. Maldwyn Pryse for his role at the peace vigil held on 14 December 2024. · The annual Seniors’ Christmas lunch had been a success with over 80 attendees. Thanks were extended to the staff and councillors who attended and assisted with serving. · Thanks were extended to the Town Council’s staff for all of their work throughout 2024. |
|
229 | Adroddiad y Maer
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. |
Mayoral report
A written report was circulated via email.
|
|
230 | Diweddariadau gan y Clerc
Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc: · Roedd cinio Nadolig yr Henoed wedi bod yn llwyddiant. Cost net cynnal y digwyddiad oedd £585. · Roedd llawer o waith ar y gweill gydag amrywiol brosiectau grant, i gwrdd â’r dyddiad cau o 31 Rhagfyr 2024. Byddai cyllid sylweddol i’w hawlio’n ôl gan gyrff dyfarnu grantiau, a fyddai’n gofyn am reolaeth ofalus o lif arian y Cyngor. · Roedd y Maer a’r Clerc wedi dychwelyd yn ddiweddar o ymweld â Kronberg im Taunus, gefeilldref Aberystwyth yn yr Almaen. Roedd anhawster gyda threfniadau teithio oherwydd Storm Darragh, a olygai nad oedd y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau wedi gallu bod yn bresennol. Roedd hawliadau’n cael eu gwneud i ad-dalu ei chostau hedfan. · Cynhaliwyd ail gyfarfod misol gyda’r Cambrian News ac roedd y berthynas yn gwella. · Byddai cyfarfod 1:1 yn cael ei gynnal gyda Phrif Weithredwr ac Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ym mis Ionawr, i drafod cyllidebau ar gyfer 2025-26 a’r effeithiau ar Aberystwyth. · Roedd swyddogion yn ymwybodol nad oedd llawer o oleuadau Nadolig y dref yn gweithio yn dilyn Storm Darragh; byddai contractwyr yn gweithio dros nos yn ystod yr wythnos i’w hatgyweirio. · Cynhaliwyd adloniant gyda’r hwyr ar Sgwâr Owain Glyndwr nos Iau 12 Rhagfyr i gefnogi siopa hwyr. Roedd hwn yn llwyddiannus a byddai’n dychwelyd ddydd Iau 19 Rhagfyr. · Yn anffodus ni fyddai’r prosiect a ariannwyd gan grant Lleoedd Lleol i Natur i ailblannu rhai coed stryd ar hyd Stryd Portland yn mynd yn ei flaen. Roedd trwydded y Cyngor Tref ar gyfer gwneud gwaith ar y briffordd wedi dod i ben ac ni ellid ei hadnewyddu mewn da bryd i gwrdd â’r dyddiad cau o 31 Rhagfyr 2024. · Byddai angen cytuno ar gytundeb cyflenwad nwy i Dŷ’r Offeiriad gan nad oedd un yn ei le ar hyn o bryd. Cytunwyd y dylid ystyried cymysgedd ynni a mesurau gwrthbwyso carbon wrth gytuno ar gyflenwr. |
Updates from Clerk
A verbal update was provided by the Clerk: · The Seniors’ Christmas lunch had been a success. The net cost of holding the event was £585. · There was a lot of work underway with various grant projects, to meet the deadline of 31 December 2024. There would be significant funds to claim back from grant awarding bodies, which would require careful management of the Council’s cashflow. · The Mayor and Clerk had recently returned from visiting Kronberg im Taunus, Aberystwyth’s twin town in Germany. There was difficulty with travel arrangements due to Storm Darragh, which meant that the Events & Partnerships Officer had been unable to attend. Claims were being made to refund her flight costs. · A second monthly meeting had been held with the Cambrian News and the relationship was improving. · A 1:1 meeting would be held with the Chief Executive and Leader of Ceredigion County Council in January, to discuss budgets for 2025-26 and the effects on Aberystwyth. · Officers were aware that many of the town’s Christmas lights were not working following Storm Darragh; contractors would be working overnight in the week to repair them. · Evening entertainment was held on Owain Glyndwr Square on Thursday 12 December to support late night shopping. This was successful and would return on Thursday 19 December. · The Local Places for Nature grant funded project to re-plant some street trees along Portland Street would unfortunately not go ahead. The Town Council’s licence for undertaking work in the highway had expired and could not be renewed in sufficient time to meet the deadline of 31 December 2024. · A contract for supply of gas to the Presbytery would need to be agreed as there was currently not one in place. It was agreed that energy mix and carbon offsetting measures be considered when agreeing a supplier.
|
|
231 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol: · Byddai angen i’r gweithgor blodau gyfarfod ym mis Ionawr. · Holwyd sut mae gwastraff a gesglir gan y Cyngor Tref yn cael ei ailgylchu. Gwaredwyd yr holl wastraff a gasglwyd trwy Gyngor Sir Ceredigion; nid oedd y Cyngor Tref yn rheoli ei waredu. Fodd bynnag, nodwyd mai sbwriel cymysg oedd y rhan fwyaf o’r gwastraff a gasglwyd ac nid ei ddidoli ar gyfer ailgylchu.
Ymunodd y Cyng. Carl Worrall â’r cyfarfod. |
Updates from Facilities & Assets Manager
A written report was circulated and the following points were raised: · The flowers working group would need to meet in January. · Questions were raised on how waste collected by the Town Council was recycled. All waste collected was disposed of through Ceredigion County Council; the Town Council did not control its disposal. It was noted however that the majority of waste collected was mixed litter and not sorted for recycling.
Cllr. Carl Worrall joined the meeting.
|
|
232 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes, i’r eitem hon gael ei thrafod yn syth ar ôl eitem 248. Cyng. Carl Worrall: · Roedd trafodaethau wedi’u symud ymlaen gydag uwch swyddogion Cyngor Sir Ceredigion ynghylch gosod arwyddion arddull treftadaeth ar gyfer ‘Southgate’. Disgwylid cyfieithiad Cymraeg ‘Southgate’ gan y Cyngor Tref cyn y gellid symud ymlaen ymhellach â’r gwaith. Cytunwyd mai Porth y De yw ‘Southgate’ yn Gymraeg.
Gadawodd y Cyng. Carl Worrall y cyfarfod.
Cyng. Alun Williams: · Roedd Ceredigion wedi gweld llawer o ddifrod gan Storm Darragh, gyda rhai ardaloedd heb drydan am hyd at chwe diwrnod. Roedd Aberystwyth wedi gwneud yn gymharol dda o gymharu â gweddill y sir, gyda De Ceredigion yn gweld effeithiau gwaethaf y storm. · Roedd cynnig yn galw am ddatganoli ystâd y goron i Gymru wedi’i basio’n ddiweddar gan Gyngor Sir Ceredigion ac roedd bron yn unfrydol, gydag un yn unig yn ymatal.
Cyng. Shelley Childs: · Roedd galwadau i ymchwilio i system hawlenni parcio i drigolion Aberystwyth wedi eu gwrthod gan swyddogion Cyngor Sir Ceredigion. Fodd bynnag, roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar barcio oddi ar y stryd yn dal ar agor a byddai’n cael ei adolygu gan y Pwyllgor Craffu cyn cael ei ystyried gan y Cabinet.
Gadawodd y Cyng. Shelley Childs y cyfarfod.
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
It was RESOLVED to amend the order of business, for this item to be discussed immediately after item 248
Cllr. Carl Worrall: · Discussions had been progressed with senior Ceredigion County Council officers regarding installation of heritage style signs for Southgate. The Welsh translation of Southgate was awaited from the Town Council before work could be progressed further. It was agreed that Southgate in Welsh is ‘Porth y De’.
Cllr. Carl Worrall left the meeting.
Cllr. Alun Williams: · Ceredigion had seen much devastation caused by Storm Darragh, with some areas without electricity for up to six days. Aberystwyth had fared relatively well compared to the rest of the county, with Southern Ceredigion seeing the worst effects of the storm. · A motion calling for the devolution of the crown estate to Wales had recently been passed by Ceredigion County Council and was almost unanimous, with only one abstention.
Cllr. Shelley Childs: · Calls to investigate a residents’ parking permit system for Aberystwyth had been turned down by Ceredigion County Council officers. However, the public consultation on off-street parking was still open and would be reviewed by the Scrutiny Committee before being considered by Cabinet.
Cllr. Shelley Childs left the meeting.
|
|
233 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 25 Tachwedd 2024 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 25 November 2024 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
234 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
· Gofynnwyd am ddiweddariad ar y rheiliau a dynnwyd o hen adeilad Swyddfa’r Sir. Yr awdurdod cynllunio i gael ei gysylltu. · Gofynnwyd am ddiweddariad ar lwybr troed Ael Dinas. Cytunwyd ei fod yn fater i’r Cyng. Endaf Edwards fel Cynghorydd Sir yr ardal, nid y Cyngor Tref.
|
Matters arising from the Minutes:
· An update was requested on the railings removed from the former Swyddfa’r Sir building. Planning authority to be contacted. · An update was requested on the Dinas Terrace footpath. It was agreed that it was a matter for Cllr. Endaf Edwards as the County Councillor for the area, not the Town Council.
|
|
235 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 2 Rhagfyr 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 2 December 2024, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes. |
|
236 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
· Roedd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wedi paratoi ymateb drafft i’r ymgynghoriad cyn-cais cynllunio ar y Belle Vue Royal Hotel. I’w ddosbarthu i gynghorwyr a’i anfon at y datblygwyr erbyn dydd Mercher 18 Rhagfyr 2024. |
Matters arising from the minutes
· Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had prepared a draft response to the pre-planning application consultation on the Belle Vue Royal Hotel. To be circulated to councillors and sent to the developers by Wednesday 18 December 2024.
|
|
237 | Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 2 Rhagfyr 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 2 December 2024, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes. |
|
238 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
· Darparwyd diweddariad ar y sgip ar dir y Castell, oedd wedi profi’n hanfodol ar gyfer y gwaith o wagio biniau sbwriel y Castell. Awgrym swyddogion i wella golwg y sgip fyddai ei amgáu gyda ffensys y gellid eu haddurno â murluniau, mapiau neu wybodaeth am y castell. |
Matters arising from the minutes
· An update was provided on the skip in the Castle grounds, which had proven to be essential for the work of emptying the Castle’s litter bins. Officers’ suggestion to improve the appearance of the skip would be to enclose it with fencing that could be decorated with murals, maps or information about the castle.
|
|
239 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun, 18 Tachwedd 2023
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion. |
Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 9 December 2024, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.
|
|
240 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
241 | Ystyried gwariant Mis Rhagfyr
Codwyd cwestiynau ynghylch pam y talwyd rhent i Gyngor Sir Ceredigion am rentu ardal amwynder y rhandiroedd ond nid am diroedd eraill ar brydles. I’w godi gyda Chyngor Sir Ceredigion.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant. |
To consider December expenditure
Questions were raised over why rent was paid to Ceredigion County Council for rent of the allotment amenity area but not other grounds leased. To be raised with Ceredigion County Council.
It was RESOLVED to approve the expenditure.
|
|
242 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Tachwedd
1939Rhandiroedd a Mannau Tyfu: Roedd yn debygol y byddai gorwariant ar y pennawd erbyn diwedd y flwyddyn, oherwydd llifogydd a achoswyd gan Storm Darragh a rhannu rhai plotiau yn ddwy. PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r cyfrifon. |
To approve November accounts
1939 Allotments & Growing Spaces: The heading would likely be overspent by the year-end, due to flooding caused by Storm Darragh and splitting some plots into two.
It was RESOLVED to approve the accounts.
|
|
243 | Cais Dinas Llên UNESCO
Roedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi’i ymestyn o ddiwedd mis Ionawr i ganol mis Mawrth.
Nodwyd y byddai statws Dinas Llenyddiaeth yn gofyn am reolaeth barhaus os bydd yn llwyddiannus, gan gynnwys dangos ei defnydd a’i manteision dros gyfnod o bedair blynedd. Ystyriwyd y canlynol fel ffyrdd ymarferol i’r Cyngor Tref gynorthwyo’r bid: · Amser staff: Pe bai’n llwyddiannus, byddai angen tua 4 awr yr wythnos o amser staff i reoli’r statws. · Canolbwynt ffisegol: Pe bai’n llwyddiannus, byddai angen canolbwynt ffisegol i reoli’r statws, y gallai Neuadd Gwenfrewi ei ddarparu. · Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth: Byddai angen i femorandwm dealltwriaeth gael ei lofnodi gan y grwpiau partner sy’n arwain y cais, a fyddai’n cynnwys y Cyngor Tref. |
UNESCO City of Literature bid
The application deadline had been extended from the end of January to mid-March.
It was noted that City of Literature status would require ongoing management if successful, including to demonstrate its use and benefits over a four year period. The following was considered as practical ways for the Town Council to assist the bid: · Staff time: If successful, management of the status would require around 4 hours a week of staff time. · Physical hub: If successful, there would need to be a physical hub to manage the status from, which Neuadd Gwenfrewi could provide. · Memorandum of Understanding: A memorandum of understanding would need to be signed by the partner groups leading the bid, which would include the Town Council.
|
|
244 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 245 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod
PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd. |
To exclude the press and public for the duration of item 245 due to the confidential nature of the business to be discussed
It was RESOLVED to exclude the press and public.
|
|
245 | Diweddariad Staffio
Roedd sgyrsiau staff wedi’u cynnal gyda’r holl staff gan y Clerc a Chadeirydd y Pwyllgor Staffio. Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc |
Staffing update
Staff appraisals (‘Sgyrsiau’) had been held with all staff by the Clerk and the Chair of the Staffing Committee. A verbal update was provided by the Clerk.
|
|
246 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
Mynegbost top y dref: Roedd contractwyr wedi mynychu i gywiro’r mynegbost, ond canfuwyd ei fod wedi cipio yn ei sefyllfa bresennol. I gael sylw ym mis Ionawr.
Arwydd stryd Maes y Frenhines: Nodwyd bod yr arwydd stryd yn dal i gael ei guddio y tu ôl i’r ffens newydd. I gael sylw ym mis Ionawr.
Hen Ysgol Gymraeg: Roedd goleuadau bellach wedi eu gosod yn y trwodd.
Pontydd y Castell: Gofynnwyd am linell amser ar gyfer atgyweirio pontydd troed y Castell. Mater i Gyngor Sir Ceredigion oedd hwn, nid y Cyngor Tref. |
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
Fingerpost top of town: Contractors had attended to correct the fingerpost, but found that it had seized in its current position. To be addressed in January.
Queen’s Square street sign: It was noted that the street sign was still obscured behind the new fencing. To be addressed in January.
Hen Ysgol Gymraeg: Lights had now been installed in the throughfare.
Castle bridges: A timeline was requested for repair of the Castle footbridges. This was a matter for Ceredigion County Council, not the Town Council.
|
|
247 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Dim.
Atgoffwyd yr aelodau o bwysigrwydd mynychu cyfarfodydd lle maent yn cynrychioli’r Cyngor a darparu adroddiadau. |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
None.
Members were reminded of the importance of attending meetings where they represent the Council and providing reports.
|
|
248 | Ymgynhoriad cyn-gynllunio: Clwb Pel Droed Aberystwyth
Mae’r Cyngor Tref YN CEFNOGI’r cynigion, fodd bynnag, hoffai ofyn am gadw rhywfaint o’r fynedfa ger y giatiau tro presennol er mwyn sicrhau mynediad i’r anabl o’r maes parcio. Hoffem hefyd ofyn i’r dyluniad a’r bensaernïaeth gael eu cadw’n gyson i edrych fel stadiwm. Gadawodd y Cyng. Lucy Huws y cyfarfod. |
Pre-planning application consultation: Aberystwyth Football Club
The Town Council SUPPORTS the proposals, however would like to request that some access is retained near the current turnstiles, to ensure access for the disabled from the car park. We would also like to request that the design and architecture is kept consistent to look like a stadium. Cllr. Lucy Huws left the meeting.
|
|
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00. | ||
249 | Ceisiadau cynllunio
|
Planning applications
|
|
249.1 | A240873: Hen Goleg
DIM GWRTHWYNEBIAD
|
A240873: Old College
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
249.2 | A240878: Clarks, 20 Y Stryd Fawr
Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams a Maldwyn Pryse ran yn y trafodaethau.
Mae’r Cyngor Tref yn croesawu ac yn cydnabod yr angen i ddatblygu mwy o fflatiau yn Aberystwyth, fodd bynnag rydym yn GWRTHWYNEBU oherwydd diffyg darpariaeth ar gyfer storio gwastraff a beiciau.
Pe caniateir y cais er gwaethaf ein gwrthwynebiadau, dylid gosod amod yn atal yr eiddo rhag cael ei ddefnyddio fel ail gartref neu lety gwyliau. |
A240878: Clarks, 20 Y Stryd Fawr
Cllrs. Alun Williams and Maldwyn Pryse did not participate in discussions.
The Town Council welcomes and recognises the need for development of more flats in Aberystwyth, however OBJECTS due to the lack of provision for storage of waste and bicycles.
Should the application be approved despite our objections, a condition should be placed preventing the residence from being used as a second home or holiday accommodation.
|
Ymateb
Respond |
249.3 | A240881: Yr Hafod, 1 Y Ro Fawr
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd ei fod yn gwneud gormod o newid i’r dirwedd, o fewn yr ardal cadwraeth ac mor agos i’r Castell, ac oherwydd diffyg gwybodaeth am ddeunyddiau’r ffenestri ychwanegol. Dylai unrhyw ffenestri newydd fod yn ffenestri sash pren, fel sy’n gydnaws â’r ardal |
A240881: Yr Hafod, 1 Y Ro Fawr
The Town Council OBJECTS to this application, due to it making too much change to the landscape, within the conservation area and so close to the Castle, and due to the lack of information provided on the materials of the additional windows. Any new windows should be wooden sash windows, as is in keeping with the area.
|
Ymateb
Respond |
249.4 | A240890: 17 Clos Crugiau
DIM GWRTHWYNEBIAD
|
A240890: 17 Clos Crugiau
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
249.5 | A240891: 2 Plas Morolwg, Pen yr Angor
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU oherwydd bod y cais yn gwneud gormod o newid i esthetig yr adeilad a’r potensial i osod cynsail i’r ardal. |
A240891: 2 Plas Morolwg, Pen yr Angor
The Town Council OBJECTS due to the application making too great a change to the aesthetic of the building and the potential to set a precedent for the area.
|
Ymateb
Respond |
250 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
250.1 | Toiledau cyhoeddus: Cylchredwyd fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos bod arwyddion ar gyfer toiledau Coedlan y Parc yn codi 20c ar gyfer dynion a 40c ar gyfer menywod. I’w godi gyda Chyngor Sir Ceredigion. | Public toilets: Video circulated on social media showing that signs for Park Avenue toilet showed as charging 20p for the men’s and 40p for the women’s. To be raised with Ceredigion County Council. | |
250.2 | Cerdd Ystwyth: Cais i roi cydnabyddiaeth ffurfiol i rai pobl fusnes lleol. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. | Cerdd Ystwyth: Request to give formal recognition to some local business people. To be discussed by General Management Committee. | |
250.3 | Mari Lwyd: Cais am ragor o wybodaeth am y Fari Lwyd a adeiladwyd ar gyfer dathliadau’r mileniwm yn Aberystwyth. | Mari Lwyd: Request for further information on Mari Lwyd built for Aberystwyth’s millennium celebrations. | |
250.4 | Gefeillio Kronberg: Adroddiad gan grŵp Gefeillio Aberystwyth a Kronberg ar ymweliad diweddar â Kronberg. | Kronberg Twinning: Report from Aberystwyth Kronberg Twinning group on recent visit to Kronberg. | |
250.5 | Un Llais Cymru: Dyddiadau hyfforddiant o Ionawr i Fawrth. Atgoffwyd cynghorwyr o bwysigrwydd ymgymryd hyfforddiant. | One Voice Wales: Training dates from January to March. Councillors were reminded of the importance to undertake training. |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:45 The meeting was closed at 21:45
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery
Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk www.aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
11.12.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun 16 Rhagfyr 2024 am 18:30.
You are summoned to attend the a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and in the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday, 16 December 2024 at 18:30.
Agenda
|
||
225 | Presennol | Present |
226 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies & absences |
227 | Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda | Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda |
228 | Cyfeiriadau Personol | Personal References |
229 | Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer | Mayoral Activity Report |
230 | Diweddariadau gan y Clerc | Updates from Clerk |
231 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau | Updates from Facilities & Assets Manager |
232 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG | VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
233 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 25 Tachwedd 2024 i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday, 25 November 2024 to confirm accuracy |
234 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
235 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 2 Rhagfyr 2024, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 2 December 2024, to confirm accuracy |
236 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
237 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun 2 Rhagfyr 2024, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 2 December 2024, to confirm accuracy |
238 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
239 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd nos Lun 9 Rhagfyr 2024, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 9 December 2024, to confirm accuracy |
240 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
241 | Cymeradwyo gwariant Mis Rhagfyr | To approve December expediture |
242 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Tachwedd | To approve November accounts |
243 | Cais Dinas Llên UNESCO | UNESCO City of Literature bid |
244 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 245 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod | To exclude the press and public for the duration of item 245 due to the confidential nature of the business to be discussed
|
245 | Diweddariad staffio
|
Staffing update |
246 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG | Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit |
247 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol | WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
|
248 | Ymgynghoriad cyn-gynllunio: Clwb Pel Droed Aberystwyth | Pre-planning application consultation: Aberystwyth Football Club
|
249 | Ceisiadau cynllunio | Planning applications |
249.1 | A240873: Hen Goleg | A240873: Old College
|
249.2 | A240878: Clarks, 20 Y Stryd Fawr | A240878: Clarks, 20 Y Stryd Fawr
|
249.3 | A240881: Yr Hafod, 1 Y Ro Fawr | A240881: Yr Hafod, 1 Y Ro Fawr
|
249.4 | A240890: 17 Clos Crugiau | A240890: 17 Clos Crugiau
|
249.5 | A240891: 2 Plas Morolwg, Pen yr Angor | A240891: 2 Plas Morolwg, Pen yr Angor
|
250 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details