Full Council
24/03/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr
Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road
24.3.2025
COFNODION / MINUTES
|
|||
Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Mair Benjamin Cyng. Emlyn Jones Cyng. Glynis Somers Cyng. Bryony Davies Cyng. Brian Davies Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Jeff Smith Cyng. Alun Williams Cyng. Mark Strong
Yn mynychu: Ruth McKew (Headland Design) (Eitemau 350 i 354 yn unig) Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion) Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Mair Benjamin Cllr. Emlyn Jones Cllr. Glynis Somers Cllr. Bryony Davies Cllr. Brian Davies Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Jeff Smith Cllr. Alun Williams Cllr. Mark Strong
In attendance: Ruth McKew (Headland Design) (Items 350 to 354 only) Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council) Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator)
|
||
351 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Mari Turner Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Umer Aslam Cyng. Carl Worrall Cyng. Lucy Huws
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Connor Edwards Cyng. Owain Hughes
|
Apologies and absence
Absent with apologies: Cllr. Mari Turner Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Umer Aslam Cllr. Carl Worrall Cllr. Lucy Huws
Absent without apologies: Cllr. Connor Edwards Cllr. Owain Hughes
|
|
352 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
A250096 10-11 Bryn Ardwyn: Roedd y Cyng. Alun Williams yn Aelod o’r Cyngor Sir ar gyfer y ward honno.
A250096 3 Bryn Ardwyn: Roedd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn byw yn agos. |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
A250096 10-11 Bryn Ardwyn: Cllr. Alun Williams was County Councillor for that ward.
A250096 3 Bryn Ardwyn: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands lives nearby.
|
|
353 | Cyfeiriadau Personol
Dim
|
Personal References
None |
|
354 | Cyflwyniad gan Headland Design ynglŷn a Amgueddfa Ceredigion
Roedd cyflwyniad wedi’i roi gan Ruth McKew o Headland Design. Cafodd y canlynol ei godi: · Penodwyd Headland Design gan Gyngor Sir Ceredigion i ystyried dyfodol llywodraethiant a rheolaeth Amgueddfa Ceredigion, a chafwyd eu comisiynu oherwydd angen i leihau costau a chynyddu incwm. · Cyflwynwyd pum opsiwn rheoli gwahanol ac fe geisiwyd adborth gan y Cyngor Tref.
Cytunwyd i gynnal cyfarfod ar wahân gyda’r Cyng. Maldwyn Pryse, Dylan Lewis-Rowlands, Emlyn Jones ac Alun Williams i drafod yr opsiynau yn fwy manwl.
Diolchwyd i Ruth McKew am ei hamser a gadawodd y cyfarfod.
|
Presentation from Headland Design regarding Ceredigion Museum
A presentation was given by Ruth McKew of Headland Design. The following was raised: · Headland Design had been appointed by Ceredigion County Council to consider the future governance and management of Ceredigion Museum, and had been commissioned because of a need to reduce costs and increase income · Five different management options were presented and the Town Council’s feedback sought.
It was agreed to hold a separate meeting with Cllrs. Maldwyn Pryse, Dylan Lewis-Rowlands, Emlyn Jones & Alun Williams to discuss the options in more detail.
Ruth McKew was thanked for her time and left the meeting.
|
Trefnu cyfarfod Arrange meeting |
355 | Adroddiad ar weithgareddau’r Maer
Roedd adroddiad ysgrifenedig wedi’i gylchredeg ar e-bost. Nodwyd bod y Maer wedi cyfweld â newyddion ITV am drethi busnes. Roedd y mater bellach yn cael ei godi gan Ben Lake AS i gwestiynau’r Prif Weinidog. Nodwyd ymhellach fod yr Asiantaeth Swyddfa Brisio wedi bod yn Aberystwyth yn ymweld â busnesau lleol ddydd Llun 24 Mawrth 2025.
|
Mayoral activity report
A written report had been circulated on email. It was noted that the Mayor had interviewed with ITV news about business rates. The issue was now being raised by Ben Lake MP to Prime Minister’s Questions. It was further noted that the Valuation Office Agency had been in Aberystwyth visiting local businesses on Monday 24 March 2025.
|
|
356 | Diweddariad gan y Clerc
Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc: · Roedd y Rheolwr Asedau a Chyfleusterau yn casglu cerbyd newydd y Cyngor ddydd Mercher 26 Mawrth 2025. · Roedd camau cychwynnol cyflwyno cais i’r Loteri Genedlaethol am adnewyddu’r hen eglwys wedi dechrau. · Roedd JDM Construction yn cwblhau’r gwaith ar y rhestr gwirio derfynol ar gyfer Tŷ’r Offeiriad ac roedd disgwyl iddynt ddychwelyd ddydd Mawrth 25 Mawrth 2025 i gwblhau paentio. · Roedd yr archwiliad allanol dal ar y gweill. · Roedd y system TCC yn gwbl weithredol. Nodwyd bod gan y Cyngor hefyd gamera sbâr ar gael y gellid ei ddefnyddio mewn ardaloedd eraill. Bydd hyn yn cael ei godi gyda Heddlu Dyfed Powys ynglŷn ag ardaloedd posibl i’w gosod. · Roedd y Grantiau Cymunedol ar gyfer 2025 yn dal ar agor, ac roedd rhai ceisiadau eisoes wedi’u derbyn. Wrth i’r dyddiad cau agosáu, gofynnwyd i’r aelodau annog grwpiau i ymgeisio. · Roedd Cynorthwyydd Amgylcheddol tymhorol wedi’i gyflogi o ddydd Sadwrn 15 Mawrth 2025.
|
Updates from Clerk
A verbal update was provided by the Clerk: · The Assets & Facilities Manager was collecting the Council’s newly purchased vehicle on Wednesday 26 March 2025. · Initial stages of submitting an application to the National Lottery for refurbishment of the former church had been started. · JDM Construction were completing work on the final snagging list for the Presbytery and were due to return Tuesday 25.3.2025 to complete painting. · The external audit was still in progress. · The CCTV system was fully operational. It was noted that the Council also have a spare camera available that could be utilized in other areas. To be raised with Dyfed Powys Police about potential areas to install. · The Community Grants for 2025 were still open, and some applications had already been received. As the closing date was approaching members were asked to encourage groups to apply. · A seasonal Environmental Assistant had been employed from Saturday 15 March 2025.
|
|
357
|
Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol:
· Roedd y cennin pedr yn ffynnu ac yn cael effaith sylweddol. Estynnwyd diolch swyddogol i’r Rheolwr Asedau a Chyfleusterau. · Roedd Swyddog Ecolegol Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnig cydweithio â’r Cyngor Tref ar gais am grant ar gyfer plannu coed stryd. · Cwestiynwyd a fyddai plannu pellach ar ôl y cennin Pedr. Roedd cynllun plannu ar gyfer blodau gwely dros yr haf. Diolchwyd i’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei waith. |
Updates from Facilities & Assets Manager
A written report was circulated and the following points were raised: · The daffodils were thriving and had a significant impact. Official thanks were extended to the Assets & Facilities Manager. · Ceredigion County Council’s Ecological Officer, had proposed to collaborate with the Town Council on a grant application for planting street trees. · It was questioned whether there would be further planting after the daffodils. A planting scheme for bedding flowers over the summer was in place.
Thanks were extended to the Facilities & Assets Manager for his work.
|
|
358 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartenriaethau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol · Nid oedd y cais grant ar gyfer Cronfa Diwylliant Cymru-Japan, a gyflwynwyd i Gyngor Celfyddydau Cymru, wedi boed yn llwyddiannus. Cwestiynnodd aelodau rhesymau’r gwrthod a gofynnir am adborth pellach. · Roedd pris llogi’r Bandstand wedi codi eto, a byddai angen ail-gyllidebu rhaglen adloniant yr haf yn unol â hynny. · Byddai Bore Coffi y Maer yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 3 Mai yng Nghanolfan Morlan i godi arian ar gyfer elusennau’r Maer, HAHAV a’r RNLI. Byddai’r digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 12pm ac anogwyd aelodau i fynychu.
Diolchwyd i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith.
|
Updates from Events & Partnerships Officer
A written report was circulated and the following points were raised: · The grant application for the Wales Japan Culture Fund, submitted to the Arts Council of Wales, had not been successful. Members questioned the reasons behind the rejection and further feedback would be requested. · The hire price of the Bandstand had risen again, and the summer entertainment program would need to be re-budgeted accordingly. · The Mayor’s Coffee Morning would take place on Saturday 3 May at the Morlan Centre to raise funds for the Mayor’s charitiess, HAHAV and the RNLI. The event would be held from 10am to 12pm and members were encouraced to attend,.
Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for her work.
|
|
359 | Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol:
· Roedd adborth llafar gan stondinwyr wedi bod yn gadarnhaol. Awgrymwyd y byddai ffurflen ysgrifenedig yn ddull effeithiol ar gyfer dogfennu barn a chasglu adborth ar y farchnad.
Diolchwyd i’r Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau.
|
Updates from Markets & Events Coordinator
A written report was circulated and the following points were raised:
· Verbal feedback from stallholders had been positive. It was suggested that a written form would be an effective method for documenting views and collecting feedback on the market.
Thanks were extended to the Market & Events Coordinator
|
|
360 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng. Endaf Edwards: · Ymsuddo Tanybwlch: Ar 20 Chwefror, gofynnodd y Cyng. Endaf Edwards i Gyngor Sir Ceredigion ffensio’r ardal. Erbyn 6 Mawrth nid oedd unrhyw gamau wedi’u cymryd, ac roedd y broblem yn gwaethygu. Cadarnhaodd y Cyng. Endaf Edwards mai Cyngor Sir Ceredigion oedd yn berchen ar y tir, yn ogystal â’r bont a’r jeti cerrig. Roedd yr ardal bellach wedi’i ffensio ar ôl sawl ymholiad. · Peryg o greigiau yn cwympo Pen yr Angor: Roedd y peryg yn gwaethygu ac roedd llawer o’r farn ei fod yn peryglu’r briffordd. Cadarnhawyd bod y tir yn eiddo preifat. Cael ei godi eto gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Cyng. Alun Williams: · Cyllideb: Cytunwyd ar gyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2025-26. Roedd y gyllideb yn cynrychioli cynnydd o 9.3% yn Dreth y Gyngor, ond cadarnhawyd byddai hyn yn golygu na fydd unrhyw doriadau i wasanaethau. Roedd gan gynghorau eraill gynnydd tebyg ond roeddent yn gwneud toriadau. Roedd 2.9% o’r cynnydd oherwydd cynnydd yn Yswiriant Gwladol y cyflogwr. Chwyddiant ar gyfer gwasanaethau cyngor oedd 6.1%, tra bod Llywodraeth Cymru ond wedi darparu cynnydd o 3.8% yn eu setliad cyllid. Roedd y gyllideb yn cynnwys buddsoddiad ychwanegol mewn casglu gwastraff a gorfodi cynllunio. Byddai manylion am y buddsoddiad gwastraff, gan gynnwys y system tri bag a’i effaith ar HMOs, yn cael eu ceisio. · Hafan y Waun: Cynhelir digwyddiad ymgysylltu ddydd Mawrth 25 Mawrth 2025 rhwng 2:30yh a 7:30yh yng Nghanolfan y Morlan. Bydd y digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i unigolion rannu eu meddyliau am nyrsio, gofal a chyfleusterau preswyl.
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr. Endaf Edwards: · Subsidence Tanybwlch; On 20 February, Cllr. Endaf Edwards requested that Ceredigion County Council fence off the area. By 6 March no action had been taken, and the problem was worsening. Cllr. Endaf Edwards confirmed that Ceredigion County Council owned the land, as well as the bridge and stone jetty. The area had now been fenced off following several queries. · Pen yr Angor rock fall: The rock fall was worsening and many considered it to be endangering the highway. It was confirmed that the land was privately owned. To be raised again with Ceredigion County Council.
Cllr. Alun Williams: · Budget: Ceredigion County Council’s budget had been agreed for 2025-26. The budget represented a 9.3% increase in Council Tax, but it was confirmed that this would mean no cuts to services. Other councils had similar increases but were making cuts. 2.9% of the increase was due to increases in empolyer’s National Insurance, . Inflation for council services was 6.1%, whereas the Welsh Government had only provided a 3.8% increase in their funding settlement. The budget included extra investment in waste collection and planning enforcement. Details on the waste investment, including the three-bag system and its impact on HMOs, would be sought. · Hafan y Waun: An engagement event would be held on Tuesday 25 March 2025 from 2:30pm to 7:30pm at the Morlan Centre. This event would provid an opportunity for individuals to pass on their thoughts on nursing, care, and residential facilities.
|
|
361 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 24 Chwefror 2025 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda chywiriad i ychwanegu’r Cyng. Jeff Smith yn bresennol. |
Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 24 February 2025 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes with a correction to add Cllr. Jeff Smith as having attended.
|
|
362 | Materion yn codi o’r cofnodion:
· Gofynnwyd am ddiweddariad ar gynnydd yr archwiliad allanol. Roedd y gwaith archwilio yn dal i fynd. · Gofynnwyd am ddiweddariad ar toiledau cyhoeddus. Eglurwyd bod cyfarfod gyda Chyngor Sir Ceredigion wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mercher 26 Mawrth 2025, y byddai’r Clerc a’r Maer yn bresennol. |
Matters arising from the Minutes:
· An update was requested on the progress of the external audit. The audit work was still underway. · An update was requested on public toilets. It was explained that a meeting with Ceredigion County Council was scheduled for Wednesday 26 March 2025, which the Clerk and the Mayor would attend.
|
|
363 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 3 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 3 March 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
364 | Cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio
Dim.
|
To approve recommendations made by the Planning Committee
None. |
|
365 | Materion yn codi o’r cofnodion:
5.3. A250108: The Barn Centre, Ffordd Alexandra: Nid oedd unrhyw ymateb wedi’i anfon i’r cais. Nodwyd na ellid cytuno ar unrhyw ymateb oherwydd mai dim ond ychydig o aelodau oedd wedi darllen y ceisiadau cyn y cyfarfod. Cytunwyd y byddai ceisiadau a anfonwyd at aelodau ar amser yn cael eu hystyried fel rhai wedi’u darllen, fel y gwnaethpwyd gyda dogfennau eraill.
|
Matters arising from the minutes
5.3. A250108: The Barn Centre, Ffordd Alexandra: No repsonse had been sent to the application. It was noted that no response could be agreed due to only a few members having read the applications prior to the meeting. It was agreed that applications sent to members on time would be taken as having been read, as was done with other documents.
|
|
366 | Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 17 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 17 March 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
367 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Ceisiwyd awgrymiadau ar drefniadau Sefydlu’r Maer a’r orymdaith. PENDERFYNWYD cynnal gorymdaith gan ddechrau o Drwyn y Castell.
333. Cynllun Trafnidiaeth Canolbarth Cymru: Estynnwyd diolch i’r Cyng. Jeff Smith am baratoi’r ymateb i’r ymgynghoriad.
Gadawodd y Cyng. Mark Strong y cyfarfod.
|
Matters arising from the minutes
Suggestions were sought on the Mayor Making arrangements and parade. It was RESOLVED to hold a parade starting from Castle Point.
333. Mid Wales Transport Plan: Thanks were extended to Cllr. Jeff Smith for preparing the response to the consultation.
Cllr. Mark Strong left the meeting |
|
368 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 17 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 17 March 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
369 | Cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion canlynol:
· 6. Archwilydd Mewnol: i benodi Rhian Davies yn archwilydd mewnol. · 9. Diffoddwyr Tân: Dyfarnu cyflenwad diffoddwyr tân i Snowdonia Fire Protection. |
To approve recommendations made by the Finance Committee
It was RESOLVED to approve the following recommendations: · 6. Internal Auditor: to appoint Rhian Davies as internal auditor. · 9. Fire Extinguishers: To award supply of fire extinguishers to Snowdonia Fire Protection.
|
|
370 | Materion yn codi o’r cofnodion:
· Bankline: Roedd disgwyl gwybodaeth gan NatWest o hyd.
|
Matters arising from the minutes
· Bankline: Information from NatWest was still expected.
|
|
371 | Cymeradwyo gwariant mis Mawrth
Codwyd y cwestiynau canlynol: · Glanhau gasebos: Roedd gwaith wedi’i gwblhau gan berthynas aelod o staff; dyfarniad y gwaith i’w adolygu pan oedd disgwyl y gwaith eto’r flwyddyn nesaf. · Cynwysyddion y Castell: Cwestiynwyd a oedd y pris yn unol â’r gost a gytunwyd arno o’r blaen. Y Clerc i gymharu â munudau blaenorol.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
Ymataliodd y Cyng. Jeff Smith a Dylan Lewis-Rowlands rhag pleidleisio. |
To approve March expenditure
The following questions were raised: · Gazebo cleaning: Work had been completed a relative of a staff member; award of work to be reviewed when the work was due again next year. · Castle Containers: It was questioned whether the price was in line with the cost that had previously been agreed. The Clerk to compare to past minutes.
It was RESOLVED to approve the expenditure.
Cllrs. Jeff Smith & Dylan Lewis-Rowlands abstained from voting.
|
|
372 | Cymeradwyo cyfrifon mis Chwefror
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
|
To approve February accounts
It was RESOLVED to approve the accounts.
|
|
373 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
Pontydd Castell: Gofynnwyd am ddiweddariad ar atgyweirio’r pontydd troed. Roedd cyfarfodydd diweddar gyda Chyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau y byddai’r gwaith yn cael ei gwblhau fel rhan o brosiect datblygu’r promenâd.
Goleuadau’r castell: Nodwyd bod nifer o oleuadau’r castell wedi torri. Awgrymwyd y dylid codi hyn yn y cyfarfod nesaf gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Arwyddion mannau tyfu: Gofynnwyd am ddiweddariad ar gywiro’r gwallau ar yr arwyddion. Roedd opsiynau a chostau yn dal i gael eu hymchwilio.
Arwydd Hen Dref Aberystwyth ar top y dref: Gofynnwyd am ddiweddariad. Roedd angen cyfarfod gyda’r gof i ystyried lleoliad a gosodiad yr arwydd. |
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
Castle bridges:. An update was requested on the repair of the footbridges. Recent meetings with Ceredigion County Council had confirmed that the work would be completed as part of the promenade development project.
Castle lights: It was noted that several of the castle lights were broken. It was suggested that this be raised at the next meeting with Ceredigion County Council.
Growing spaces signage: An update was requested on correcting the errors on the signs. Options and consts were still being investigated.
Aberystwyth Old Town sign at the top of town: An update was requested. A meeting was needed with the Blacksmith to consider the sign’s position and fixing.
|
|
374 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Dim. Atgoffwyd yr aelodau o bwysigrwydd mynychu cyfarfodydd a darparu adroddiadau ysgrifenedig.
Cafwyd adroddiad gan y Cyng. Emlyn Jones yn dilyn cyfarfod o Gefeillio Aberystwyth a Kronberg. I’w gylchredeg i’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
None. Members were reminded of the importance of attending meetings and providing written reports.
A report had been received from Cllr. Emlyn Jones following a meeting of Aberystwyth Kronberg Twinning. To be circulated for discussion by the General Management Committee.
|
Agenda RhC
GM Agenda |
375 | Penodi Bardd y Dref ar gyfer 2025-2026
PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod yr eitem hon, oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod.
PENDERFYNWYD penodi unigolyn fel Bardd y Dref ar gyfer 2025-26, ond peidio â chyhoeddi enw’r unigolyn, tan ar ôl iddynt gael eu gysylltu â nhw a’u bod wedi derbyn y swydd.
|
To appoint Bardd y Dref for 2025-2026
It was RESOLVED to exclude the press and public for the duration of this item, due to the confidential nature of business to be discussed.
It was RESOLVED to appoint an individual as Bardd y Dref for 2025-26, but not to publish the individual’s name, until after they had been approached and accepted the position.
|
|
376 | Hawliad dadfeiliadau 11 Stryd y Popty
I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid.
|
11 Baker Street Dilapidations Claim
To be discussed by the Finance Committee |
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
377 | Cymeradwyo dyddiadau’r cyfarfodydd arferol 2025-2026
Cylchredwyd calendr o ddyddiadau cyfarfodydd. PENDERFYNWYD cymeradwyo dyddiadau’r cyfarfod, gyda gwelliant i gynnal cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ym mis Ebrill ar ddydd Mercher 9 Ebrill 2025.
|
To agree dates of ordinary meetings 2025-2026
A calendar of meeting dates was circulated. It was RESOLVED to approve the meeting dates, with an amendment to hold the April Planning Committee meeting on Wednesday 9 April 2025.
|
|
378 | Ymweliad o Saint-Brieuc 14 i 19 Ebrill 2025
Roedd teithlen ddrafft wedi’i baratoi, yn amlinellu gweithgareddau lluosog i groesawu a diddanu’r gwesteion. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r deithlen ddrafft.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o hyd at £2,000 i gyflawni’r gweithgareddau.
|
Visit from Saint Brieuc 14 to 19 April 2025
A draft itinerary had been prepared, outlining multiple activities to host and entertain the guests.. It was RESOLVED to approve the draft itinerary.
It was RESOLVED to approve expenditure of up to £2,000 to deliver the activities.
|
|
379 | Contract cyflenwi nwy ar gyfer Ty’r Offeiriad
PENDERFYNWYD bwrw ymlaen â chontract sefydlog 2 flynedd gyda thariff eco Total Energies.
|
Presbytery gas supply contract
It was RESOLVED to proceed with a 2 year fixed contract with Total Energies’ eco tariff. |
|
380 | Cynnig: Cefnogaeth y Cyngor Tref i Wasanaethau Ysbytu Bronglais (Cyng. Bryony Davies)
Wedi’i eilio gan y Cynghorydd Alun Williams, PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig gyda gwelliant i’r geiriad.
|
Motion: Proposal for Town Council Support of Bronglais Hospital Services (Cllr. Bryony Davies)
Seconded by Cllr. Alun Williams, it was RESOLVED to approve the motion with an amendment to the wording.
|
|
381 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications | |
381.1 | A240796: Fflat 1, Plas Morolwg
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r apêl, ac yn cefnogi gwrthodiad Cyngor Sir Ceredigion. Mae ein hymateb yn aros yr un fath ag o’r blaen:
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU fel gyda’r cais blaenorol, A240196, gan nad yw’r pryderon a godwyd wedi’u hystyried yn ddigonol.
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU oherwydd colli mannau gwyrdd a phroblemau gyda gwaredu dŵr ffo a hygyrchedd. Mae rhan serth o’r palmant, lle byddai palmant wedi’i ollwng i gael mynediad i garej yn gwneud mynediad i Faes y Môr yn anodd i drigolion sydd â phroblemau symudedd.
Nid yw’r pryderon gwreiddiol a arweiniodd at wrthodiad y cais A240196 wedi cael sylw ac rydym yn cefnogi’r safbwyntiau a godwyd gan Gyngor Sir Ceredigion wrth eu gwrthod.
|
A240796: Apartment 1, Plas Morolwg
The Town Council OBJECTS to the appeal, and supports Ceredigion County Council’s refusal. Our response remains the same as previously:
The Town Council OBJECTS as with the previous application, A240196, as the concerns raised have not been adequately addressed.
The Town Council OBJECTS due to the loss of green space and problems with runoff water disposal and accessibility. There is a steep section of pavement, where a dropped curb to access a garage would make access to Maes y Môr difficult for residents with mobility issues.
The original concerns leading the application A240196’s refusal have not been addressed and we support the views raised by Ceredigion County Council in their refusal. |
Ymateb
Respond |
381.2 | A250096: Plot 10 a 11 Tir Gwag, Bryn Ardwyn
Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran mewn trafodaethau. Ni chymerodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ran mewn trafodaethau.
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref cyn belled bod asesiad ecolegol yn cael ei ddarparu yn cadarnhau y gall datblygiad fynd yn ei flaen ar y tir.
Gadawodd y Cyng. Mair Benjamin y cyfarfod.
|
A250096: Plot 10 and 11 Vacant Parcel of Land, Bryn Ardwyn
Cllr. Alun Williams did not participate in discussions. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands did not participate in discussions.
The Town Council has NO OBJECTION, provided that an ecological assessment is provided confirming that development could proceed on the land.
Cllr. Mair Benjamin left the meeting.
|
Ymateb
Respond |
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00. | ||
381.3 | A250138: 3 Bryn Ardwyn
Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran mewn trafodaethau. Ni chymerodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ran mewn trafodaethau.
DIM GWRTHWYNEBIAD |
A250138: 3 Bryn Ardwyn
Cllr. Alun Williams did not participate in discussions. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands did not participate in discussions.
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
382 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
382.1 | Datblygiad y promenâd: Derbyniwyd datganiad drafft i’r wasg ynglŷn â’r cwpledi barddoniaeth ar y promenâd gan Gyngor Sir Ceredigion. | Promenade development: A draft press statement regarding the poetry couplets on the promenade had been received from Ceredigion County Council. | |
382.2 | Kronberg: Gohebiaeth gan Aberystwyth Kronberg Gefeillio ynglŷn ag anghydfodau mewnol yn Kronberg. Cytunwyd i’r Cyngor beidio â gwneud sylwadau ar faterion o’r fath. | Kronberg: Correspondence from Aberystwyth Kronberg Twinning regarding internal disputes in Kronberg. It was agreed for the Council not to comment on such matters. | |
382.3 | Dŵr Cymru: Gwaith uwchraddio i’r gwaith trin dŵr. I’w rannu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. | Welsh Water: Upgrades being undertaken to the water treatment plant . To be shared on The Council’s social media platforms. | Rhannu
Share |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:10 The meeting was closed at 21:10
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery
Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk www.aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
19.3.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu cyfarfod arbennig o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun 24 Mawrth 2025 am 18:30.
You are summoned to attend an extraordinary meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday, 24 March 2025 at 18:30.
Agenda
|
||
350 | Presennol | Present |
351 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies & absences |
352 | Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda | Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda |
353 | Cyfeiriadau Personol | Personal References |
354 | Cyflwyniad gan Headland Design ynglŷn â Amgueddfa Ceredigion | Presentation from Headland Design regarding Ceredigion Museum |
355 | Adroddiad ar weithgareddau’r Maer | Mayoral activity report |
356 | Diweddariadau gan y Clerc | Updates from Clerk |
357 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau | Updates from Facilities & Assets Manager |
358 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau | Updates from Events & Partnerships Officer |
359 | Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau | Updates from Market & Events Coordinator |
360 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG | VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
361 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 24 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb
|
Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 24 Februaury 2025, to confirm accuracy |
362 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
363 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 3 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 3 March 2025, to confirm accuracy |
364 | Cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio
|
To approve recommendations made by the Planning Committee |
365 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
366 | Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 17 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb
|
Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 17 March 2025, to confirm accuracy |
367 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
368 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 17 Mawrth 2025, i gadarnhau cywirdeb
|
Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 17 March 2025, to confirm accuracy |
369 | Cymeradwyo’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid
|
To approve recommendations made by the Finance Committee |
370 | Materion yn codi o’r cofnodion | Matters arising from the minutes |
371 | Cymeradwyo gwariant mis Mawrth | To approve March expenditure |
372 | Cymeradwyo cyfrifon mis Chwefror | To approve February accounts |
373 | Cwestiynau sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG
|
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit |
374 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol | WRITTEN reports from representatives on outside bodies |
375 | Penodi Bardd y Dref ar gyfer 2025-2026
|
To appoint Bardd y Dref for 2025-2026 |
376 | Hawliad dadfeiliadau 11 Stryd y Popty
|
11 Baker Street Dilapidations Claim |
377 | Cymeradwyo dyddiadau’r cyfarfodydd arferol 2025-2026
|
To agree dates of ordinary meetings 2025-2026 |
378 | Ymweliad o Saint-Brieuc 14 i 19 Ebrill 2025
|
Visit from Saint Brieuc 14 to 19 April 2025 |
379 | Contract cyflenwi nwy ar gyfer Ty’r Offeiriad
|
Presbytery gas supply contract |
380 | Cynnig: Cefnogaeth y Cyngor Tref i Wasanaethau Ysbyty Bronglais (Cyng. Bryony Davies)
|
Motion: Proposal for Town Council Support of Bronglais Hospital Services (Cllr. Bryony Davies) |
381 | Ceisiadau Cynllunio | Planning Applications |
381.1 | A240796: Fflat 1, Plas Morolwg
|
A240796: Apartment 1, Plas Morolwg |
381.2 | A250096: Plot 10 a 11 Tir Gwag, Bryn Ardwyn | A250096: Plot 10 and 11 Vacant Parcel of Land, Bryn Ardwyn |
381.3 | A250138: 3 Bryn Ardwyn | A250138: 3 Bryn Ardwyn |
382 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details