Full Council
27/01/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn festri Eglwys Seion, Stryd y Popty
Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the vestry of Eglwys Seion, Baker Street
27.1.2025
COFNODION / MINUTES
|
|||
251 | Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Mair Benjamin Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Brian Davies Cyng. Lucy Huws Cyng. Bryony Davies Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Mari Turner Cyng. Jeff Smith Cyng. Mark Strong Cyng. Umer Aslam Cyng. Owain Hughes
Yn mynychu: Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion) Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Mair Benjamin Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Brian Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Bryony Davies Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Mari Turner Cllr. Jeff Smith Cllr. Mark Strong Cllr. Umer Aslam Cllr. Owain Hughes
In attendance: Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council) Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator)
|
|
252 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Alun Williams Cyng. Glynis Somers Cyng. Gwion Jones Cyng. Carl Worrall
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Connor Edwards
|
Apologies and absence:
Absent with apologies: Cllr. Alun Williams Cllr. Glynis Somers Cllr. Gwion Jones Cllr. Carl Worrall
Absent without apologies: Cllr. Connor Edwards |
|
253 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
279. Gwariant mis Ionawr: Roedd gan y Cyng. Jeff Smith hawliad treuliau i‘w dalu.
|
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
279. January expenditure: Cllr. Jeff Smith had an outstanding expenses claim. |
|
254 | Cyfeiriadau Personol
· Llongyfarchwyd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands, oedd wedi rhoi gwallt i godi arian i Ymddiriedolaeth y Dywysoges Fach. · Llongyfarchwyd Y Wardens ar lwyddiant eu pantomeim “Dick Whittington and the Pi-Rats of the Caribbean”. · Llongyfarchwyd a diolchwyd i’r staff am lwyddiant gorymdaith flynyddol Santes Dwynwen. Nodwyd bod y digwyddiad yn dod yn rhan sefydledig o ddiwylliant y dref. · Nodwyd mai 27 Ionawr oedd Diwrnod Cofio’r Holocost blynyddol, a bod 2025 yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau Auschwitz-Birkenau. |
Personal References
· Congratulations were extended to Cllr. Dylan Lewis-Rowlands, who had donated hair to raise money for the Little Princess Trust. · Congratulations were extended to The Wardens on the success of their pantomime “Dick Whittington and the Pi-Rats of the Caribbean”. · Congratulations and thanks were extended to the staff for the success of the annual Santes Dwynwen parade. It was noted that the event was becoming an established part of the town’s culture. · It was noted that 27 January was the annual Holocaust Memorial Day, and that 2025 marked the 80th anniversary of the liberation of Auschwitz-Birkenau.
|
|
255 | Adroddiad y Maer
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. |
Mayoral report
A written report was circulated via email.
|
|
256 | Diweddariadau gan y Clerc
Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc: · Roedd problemau’n cael eu profi gyda CThEM, gan nad oedd hawliadau TAW ers mis Hydref wedi’u had-dalu eto. Roedd cyfathrebu’n anodd, ac ni roddwyd unrhyw reswm dros yr oedi hwn. PENDERFYNWYD dirprwyo’r pŵer i’r Clerc godi cwyn ffurfiol gyda CThEM pe bai angen gwneud hynny. · Gyda’r holl wariant ar brosiectau grant wedi’i gwblhau ym mis Rhagfyr, roedd gwaith bellach yn mynd rhagddo i hawlio arian grant a chwblhau’r holl dystiolaeth angenrheidiol ac adroddiadau ar brosiectau. · Roedd cytundebau ar gyfer gwaith megis torri gwair a gwagio biniau ar fin cael eu hadnewyddu. Byddai dyfynbrisiau’n cael eu gwahodd i’w trafod yn y cyfarfod nesaf.
Diolchwyd i’r Clerc am ei waith
|
Updates from Clerk
A verbal update was provided by the Clerk: · Issues were being experienced with HMRC, as VAT claims since October had not yet been repaid. Communication was difficult, and no reason had been given for this delay. It was RESOLVED to delegate power for the Clerk to raise a formal complaint with HMRC should this prove necessary. · With all expenditure on grant projects completed in December, work was now underway to claim grant funds and complete all necessary evidence and reporting on projects. · Contracts for works such as grass cutting and bin emptying were due for renewal. Quotations would be invited for discussion at next meeting.
Thanks were extended to the Clerk for his work. |
Agenda Cyngor Llawn Full Council Agenda |
257 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol: · Nodwyd y byddai plant i’w gweld yn aml yn rhedeg trwy wely blodau canolog tiroedd y Castell. Byddai mesurau i atal hyn yn cael eu hystyried. · Dylid rhoi cyhoeddusrwydd i osod byrddau newydd Coed Aber a labeli coed.
Diolchwyd i’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei waith. |
Updates from Facilities & Assets Manager
A written report was circulated and the following points were raised: · It was noted that children would often be seen running through the central flower bed of the Castle grounds. Measures to prevent this would be considered. · Publicity should be undertaken on installation of the replacement Coed Aber boards and tree labels.
Thanks were extended to the Facilities & Assets Manager for his work. |
|
258 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartenriaethau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol: · Roedd cynllunio cychwynnol ar y gweill i gynnal gŵyl fwyd ym Maes Gwenfrewi. · Roedd cynllunio cychwynnol ar y gweill i gynnal derbyniad te parti yn Nhŷ’r Offeiriad i ddathlu derbynwyr Grantiau Cymunedol 2024. · Roedd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Amgueddfa Ceredigion ar ddydd Sadwrn 1 Chwefror i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, a oedd yn cael ei hysbysebu gan y Cyngor Tref.
Diolchwyd i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith.
|
Updates from Events & Partnerships Officer
A written report was circulated and the following points were raised: · Initial planning was underway to hold a food festival in Maes Gwenfrewi. · Initial planning was underway to hold a tea party reception at the Presbytery to celebrate recipients of 2024 Community Grants. · An event was being held in Ceredigion Museum on Saturday 1 February to celebrate the Chinese New Year, which was being advertised by the Town Council.
Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for her work.
|
|
259 | Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig ac ni chodwyd unrhyw gwestiynau.
Diolchwyd i’r Gydlynydd Marchnad a Digwyddiadau am ei gwaith. |
Updates from Markets & Events Coordinator
A written report was circulated and the no queries were raised.
Thanks were extended to the Market & Events Coordinator for her work.
|
|
260 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng. Endaf Edwards: · Llwybrau Troed Ael Dinas: Roedd y mater yn cael ei godi gydag Adran Priffyrdd ac Amgylchedd Cyngor Sir Ceredigion. Roedd cyfathrebu’n wael, gan y byddai’r adran yn tueddu i gymryd yn ganiataol y byddai pobl yn gweld gwaith sy’n cael ei gwblhau. · Parcio oddi ar y stryd: Roedd cyfarfod y cabinet ddydd Mawrth 21.1.2025 wedi cymeradwyo newidiadau i barcio oddi ar y stryd ar draws Ceredigion. Roedd y sir i’w rhannu’n drefi arfordirol a mewndirol, gyda ffioedd parcio ar gyfer parcio oddi ar y stryd yn cael eu safoni ar gyfer pob un; byddai parcio mewn trefi arfordirol yn ddrytach nag mewn trefi mewndirol. · Parcio ar y promenâd: Roedd cyfarfod y cabinet ar 21.1.2025 hefyd wedi cymeradwyo cyflwyno taliadau am barcio ar bromenâd Aberystwyth. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd cynyddu trosiant cerbydau, gan olygu na fyddai tocynnau tymor neu hawlenni preswylwyr yn addas. Roedd ymgynghoriad ar y cynnig wedi’i gynnwys yng nghylchlythyr Cyng. Endaf Edwards i drigolion ward Rheidol, yn ogystal â’r ymgynghoriad cyhoeddus llawn a gynhaliwyd gan yr awdurdod. Awgrymwyd efallai y byddai cyfarfod cyhoeddus yn briodol. o Nodwyd os mai’r rhesymeg yn unig oedd cynyddu trosiant cerbydau, yna gellid cyfeirio canran o’r refeniw a gynhyrchir i’r Cyngor Tref.
Cyng. Shelley Childs: · Parcio ar y promenâd: Ni ymgynghorwyd â Phrifysgol Aberystwyth ar gynigion, gan nad oeddent yn cael eu hystyried yn ymgynghorai statudol. Roedd amseriad yr ymgynghoriad cyhoeddus wedi bod yn wael, gyda’r ymgynghoriad yn cau ar 27 Rhagfyr 2024, ond eto roedd 157 o ymatebion wedi dod i law, gyda llawer o wrthwynebiadau. · Parcio i breswylwyr/gweithwyr: Derbyniwyd ymateb gan yr Aelod Cabinet Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol, y Cyng. Keith Henson, yn cynghori y dylai’r Cyngor Tref ddyfeisio cynnig ar sut i gyflwyno hawlenni ar gyfer parcio i drigolion neu weithwyr. Cytunwyd i hyn gael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol, fodd bynnag yn gyntaf i’r Cyng. Maldwyn Pryse a Dylan Lewis-Rowlands i gydweithio gyda’r Cyng. Shelley Childs i ddyfeisio cynnig. · Roedd potensial i ddigwyddiad beicio cenedlaethol gael ei gynnal yng Ngheredigion.
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr. Endaf Edwards: · Dinas Terrace footpaths: The matter was being raised with Ceredigion County Council’s Highways & Environment department. Communication was poor, as the department would tend to assume that people would see work that is completed. · Off street parking: The cabinet meeting on Tuesday 21.1.2025 had approved changes to off-street parking across Ceredigion. The county was to be divided into coastal and inland towns, with parking fees for off street parking standardised for each; parking in coastal towns would be more expensive than in inland towns. · Promenade parking: The cabinet meeting on 21.1.2025 had also approved the introduction of charges for parking on Aberystwyth promenade. The rationale behind this was to increase turnover of vehicles, meaning that season tickets or residents’ permits would not be viable. A consultation on the proposal had been included in Cllr. Endaf Edwards’ newsletter to Rheidol ward residents, as well that the full public consultation held by the authority. It was suggested that a public meeting may be appropriate. o It was noted that if the rationale was purely to increase turnover of vehicles, then a percentage of the revenue generated could be directed to the Town Council.
Cllr. Shelley Childs: · Promenade parking: Aberystwyth University had not been consulted on proposals, as they were not considered a statutory consultee. The timing of the public consultation had been poor, with the consultation closing on 27 December 2024, yet 157 responses had been received, with many objections. · Residents/workers’ parking: A response had been received from the Cabinet Member for Highways & Environmental Services, Cllr. Keith Henson, advising that the Town Council should devise a proposal of how permits for residents or workers’ parking could be introduced. It was agreed for this to be discussed by the General Management Committee, however first for Cllrs. Maldwyn Pryse and Dylan Lewis-Rowlands to work with Cllr. Shelley Childs to devise a proposal. · There was potential for a national cycling event to be held in Ceredigion.
|
Agenda RhC GM Agenda |
261 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 16 Rhagfyr 2024 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 16 December 2024 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
262 | Materion yn codi o’r cofnodion:
· Cynhaliwyd cyfarfod 1:1 gydag Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion. Byddai nodiadau cyfarfod yn cael eu dosbarthu. · Roedd angen cyfarfod o’r gweithgor blodau. · Roedd angen cywiro’r mynegbost ar ben y Stryd Fawr fel blaenoriaeth.
|
Matters arising from the Minutes:
· A 1:1 meeting had been held with the Lead and Chief Executive of Ceredigion County Council. Meeting notes would be circulated. · A meeting of the flowers working group was needed. · Correction of the fingerpost at the top of Great Darkgate Street was needed as a priority.
|
|
263 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 6 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 6 January 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes. |
|
264 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
265 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitemau 266 a 267 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod
PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod.
Gadawodd y Cyng. Endaf Edwards a Shelley Childs yr ystafell. |
To exclude the press & public for the duration of items 266 and 267 due to the confidential nature of the business to be discussed
It was RESOLVED to exclude the press and public due to the confidential nature of the business to be discussed.
Cllrs. Endaf Edwards and Shelley Childs left the room.
|
|
266 | Cofnodion ogyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd ar nos Fercher 8 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Staffing Committee meeting held on Wednesday 8 January 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes. |
|
267 | Materion yn codi o’r cofnodion:
· Derbyniwyd diddordeb sylweddol yn swydd y Swyddog Gweinyddol, a chynhelir cyfarfod arbennig ar ddydd Llun 10 Chwefror 2025, cyn y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol, i benodi. · Roedd llawlyfr staff newydd wedi’i ystyried yn fanwl ac roedd angen cyfarfod pellach i gwblhau’r gwaith hwn.
Diolchwyd i’r Pwyllgor am eu gwaith. |
Matters arising from the minutes
· Significant interest had been received in the Administration Officer position, and an extraordinary meeting would be held on Monday 10 February 2025, before the General Management Committee, to appoint. · A new staff handbook had been considered in detail and a further meeting was needed to complete this work.
Thanks were extended to the Committee for their work.
|
Cyngor Llawn Arbennig Extraordinary Full Council
Agenda Staffio Staffing Agenda |
268 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 13 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb
Agorwyd y cyfarfod i’r cyhoedd ac i’r wasg eto. Ail-ymunodd y Cyng. Endaf Edwards a Shelley Child â’r cyfarfod.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r diwygiad a ganlyn:
7. Cydnabyddiaeth o bobl leol: Ail baragraff i’w ddiwygio i ddarllen “Derbyniwyd cais ar wahân i gydnabod person lleol arall, oedd wedi bod yn casglu sbwriel ……”
|
Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 13 January 2025, to confirm accuracy
The meeting was opened to the public and press again. Cllrs. Endaf Edwards & Shelley Child re-joined the meeting.
It was RESOLVED to approve the minutes with the following amendment:
7. Recognition of local people: Second paragraph to be amended to read “A separate request had been received to give recognition to another local person, who had been collecting litter ……”
|
|
269 | Materion yn codi o’r cofnodion:
· 5. Santes Dwynwen 2025: Roedd y digwyddiad wedi’i gynnal a gofynnwyd am adborth. · 6. Ail-agoriad swyddogol o’r Jeti: Roedd y digwyddiad wedi’i gynnal a gofynnwyd am adborth. · 7. Cydnabyddiaeth o bobl leol: Nodwyd gyda thristwch fod Joanne Julier wedi marw. PENDERFYNWYD bwrw ymlaen â darparu plac i goffau Joanne Julier a Libbie Lawrence i’w gosod ar yr adeilad. Geiriad i’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. · 8. Dinas Llên: Roedd y cais yn cael ei gyflwyno i UNESCO’r DU yn y dyddiau nesaf. · 10. Hawliad dadfeiliadau 11 Stryd y Popty: Ceisiwyd cyngor gan gyfreithiwr lleol a threfnwyd cyfarfod ymgynghorol gyda chyfreithiwr gwahanol. · 12.4. Gwarchod Gwasanaethau Bronglais: Diolchwyd i bawb a fynychodd y cyfarfod cyhoeddus. · 12.5. A240881 Yr Hafod, Y Ro Fawr: Roedd yr ymgeisydd wedi ymateb yn cadarnhau bod y cais wedi ei dynnu’n ôl ac y byddai’n cael ei ailgyflwyno gyda mwy o wybodaeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a ganlyn: · 8. Dinas Llên: Cytuno i’r memorandwm o ddealltwriaeth. · 9. Swyddfa Dramor: Peidio ag ymateb i lythyr y Swyddfa Dramor. |
Matters arising from the minutes
· 5. Santes Dwynwen 2025: The event had been held and feedback was requested. · 6. Jetty official re-opening: The event had been held and feedback was requested. · 7. Recognition of local people: It was noted with sadness that Joanne Julier had passed away. It was RESOLVED to proceed with providing a plaque to commemorate both Joanne Julier and Libbie Lawrence to be installed on the building. Wording to be discussed by General Management Committee. · 8. Dinas Llên: The application was being submitted to UNESCO UK in the coming days. · 10. 11 Baker Street dilapidations claim: Advice had been sought from a local solicitor and a consultative meeting with a different solicitor had been arranged. · 12.4. Protect Bronglais Services: Thanks were extended to all who had attended the public meeting. · 12.5. A240881 Yr Hafod, 1 South Marine Terrace: The applicant had responded confirming that the application had been withdrawn and would be re-submitted with more information.
It was RESOLVED to approve the following recommendations: · 8. Dinas Llên: To agree to the memorandum of understanding. · 9. Foreign Office: Not to respond to the Foreign Office’s letter.
|
Agenda RhC GM Agenda |
270 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun, 20 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 20 January 2025, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
271 | Materion yn codi o’r cofnodion:
· 5. Cyfrifon Rhagfyr (placiau): Derbyniwyd cymeradwyaeth gan Alexandra Halls i eiriad y plac i Iris De Freitas, a allai fynd ymlaen yn awr. · 7. Grantiau cymunedol 2025: Roedd ‘te parti’r maer’ yn cael ei ystyried i ddathlu gwobrau grant 2024. · 9. Cyflenwad nwy Tŷ’r Offeiriad: Roedd angen dyfynbris pris gan Ecotricity o hyd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a ganlyn: · 7. Grantiau cymunedol 2025: Cyhoeddi ffurflenni grant a chanllawiau wedi’u diweddaru yn unol ag argymhellion y Pwyllgor. · 8. Cerdyn debyd: I wneud cais am gerdyn debyd busnes. |
Matters arising from the minutes
· 5. December accounts (plaques): Approval had been received from Alexandra Halls for the wording of the plaque to Iris De Freitas, which could now proceed. · 7. Community grants 2025: A ‘mayor’s tea party’ event was being considered to celebrate the 2024 grant awards. · 9. Presbytery gas supply: A price quotation was still needed from Ecotricity.
It was RESOLVED to approve the following recommendations: · 7. Community grants 2025: To publish updated grant forms and guidance as per the Committee’s recommendations. · 8. Debit card: To apply for a business debit card.
|
|
272 | Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi a gynhaliwyd ar nos Fercher, 22 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Standing Orders and Policy Committee meeting held on Wednesday 22 January 2025, to confirm accuracy.
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
273 | Materion yn codi o’r cofnodion:
Ni ystyriwyd y polisïau yr argymhellwyd eu cymeradwyo oherwydd y cyfnod byr rhwng y ddau gyfarfod. Byddai’r polisïau hyn yn cael eu hystyried i’w cymeradwyo gan y cyfarfod arbennig a gynhelir ddydd Llun 10 Chwefror 2025.
PENDERFYNWYD peidio â chymeradwyo’r argymhelliad a wnaed ynghylch y modd y mae’r aelodau’n rhoi eu ymddiheuriadau. I’w drafod eto gan y Pwyllgor.
Diolchwyd i’r Pwyllgor am eu gwaith. |
Matters arising from the minutes
The policies recommended for approval were not considered, due to the short period of time between the two meetings. These policies would be considered for approval by the extraordinary meeting being held on Monday 10 February 2025.
It was RESOLVED not to approve the recommendation made regarding the way in which members provide apologies. To be discussed again by the Committee.
Thanks were extended to the Committee for their work.
|
Cyngor Llawn Arbennig Extraordinary Full Council
Agenda Polisi Policy Agenda |
274 | Ystyried a mabwysiadu Rheoliadau Ariannol newydd
Ystyriwyd Rheoliadau Ariannol newydd, a oedd eisoes wedi’u hystyried gan y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi.
Nodwyd y byddai’r rheoliadau hyn yn gofyn am awdurdodiad deuol ar gyfer unrhyw daliadau ar-lein, a allai fod yn anymarferol a byddai angen ymrwymiad amser ychwanegol gan Gynghorwyr a benodir yn llofnodwyr awdurdodedig. Y cyngor gan Un Llais Cymru oedd, er ei fod yn anymarferol, bod hyn yn angenrheidiol ac y gallai arwain at archwiliad amodol os na chaiff ei weithredu. Y Clerc i ymchwilio ac ystyried dulliau ymarferol o weithredu, megis penodi llofnodwyr awdurdodedig ychwanegol. I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Rheoliadau Ariannol newydd. |
To consider and adopt new Financial Regulations
New Financial Regulations, which had already been considered by the Standing Orders and Policy Committee, were considered.
It was noted that these regulations would require dual authorisation of any online payments, which may be impractical and would require additional time commitment from Councillors who are appointed as authorised signatories. Advice from One Voice Wales was that, although impractical, this was necessary and could result in a qualified audit if not implemented. The Clerk to investigate and consider practical means of implementation, such as appointing additional authorised signatories. To be discussed by Finance Committee.
It was RESOLVED to adopt the new Financial Regulations.
|
Agenda Cyllid Finance Agenda |
275 | Ystyried gwariant Mis Ionawr
Codwyd cwestiwn ynghylch anfoneb gan Gyngor Sir Ceredigion am gyfraniad at gostau toiledau. Roedd hyn yn dilyn penderfyniad y Cyngor ym mis Chwefror 2024 i ddarparu hyd at £26,500 yn 2024-25 i gefnogi gweithrediad toiled y castell.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant. |
To consider January expenditure
A question was raised regarding an invoice from Ceredigion County Council for contribution to toilet costs. This was following the Council’s decision in February 2024 to provide up to £26,500 in 2024-25 to support operation of the castle toilet.
It was RESOLVED to approve the expenditure.
|
|
276 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Rhagfyr
PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r cyfrifon.
Amlygwyd yr angen i aelodau ymgymryd â hyfforddiant. |
To approve December accounts
It was RESOLVED to approve the accounts.
The need for members to undertake training was highlighted.
|
|
278 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
Neuadd y Farchnad: Gofynnwyd am ddiweddariad ar drafodaeth i’r Cyngor Tref gymryd cyfrifoldeb am Neuadd y Farchnad Aberystwyth. Ni chynhaliwyd unrhyw drafodaethau ers dros flwyddyn a byddai’r mater yn cael ei ddilyn i fyny gyda Chyngor Sir Ceredigion.
Bardd y Dref: Roedd angen cyfarfod i ystyried a phenodi’r bardd ar gyfer 2025-26. |
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
Market Hall: An update was requested on discussion for the Town Council to take responsibility for Aberystwyth Market Hall. No discussions had been held in over a year and the matter would be followed up with Ceredigion County Council.
Bardd y Dref: A meeting was needed to consider and appoint the bard for 2025-26. |
|
279 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Roedd adroddiad gan y Cyng. Jeff Smith ar gyfarfod o Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig Aberystwyth (SARPA) wedi’i ddosbarthu. Roedd hyn yn cynnwys manylion am newidiadau i’r trenau a ddefnyddir ar reilffordd y Cambrian; i’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.
Roedd y Cyng. Lucy Huws wedi mynychu cyfarfod o’r Grŵp Adsefydlu Ffoaduriaid. Gofynnwyd am adroddiad ysgrifenedig. |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
A report by Cllr. Jeff Smith on a meeting of the Shrewsbury Aberystwyth Rail passengers Association (SARPA) had been circulated. This included details on changes to the trains used on the Cambrian line; to be discussed by General Management Committee.
Cllr. Lucy Huws had attended a meeting of the Refugee Resettlement Group. A written report was requested.
|
Agenda RhC GM Agenda |
280 | Apwyntio’r Maer etholedig ar gyfer y flwyddyn Faerol 2025-26
Cynigiwyd y Cyng. Emlyn Jones gan y Cyng. Maldwyn Pryse ac eiliwyd gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands.
Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill a PHENDERFYNWYD yn unfrydol apwyntio’r Cyng. Emlyn Jones.
|
To appoint the Mayor elect for the 2025-26 Mayoral year
Cllr. Emlyn Jones was proposed by Cllr. Maldwyn Pryse and seconded by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands.
There were no other nominations and it was unanimously RESOLVED to appoint Cllr. Emlyn Jones.
|
|
281 | Apwyntio’r Dirprwy Faer etholedig ar gyfer y flwyddyn Faerol 2025-26
Cynigwyd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands gan y Cyng. Kerry Ferguson ac eiliwyd gan y Cyng. Talat Chaudhri.
Cynigiodd y Cyng Mair Benjamin ei hun ac eiliwyd gan y Cyng. Bryony Davies.
Cynhaliwyd pleidlais gaeedig, gyda’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif gan y Clerc gyda’r Cyfieithydd yn dyst.
Trwy bleidlais fwyafrifol, PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands.
|
To appoint the Deputy Mayor elect for the 2025-26 Mayoral year
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands was proposed by Cllr. Kerry Ferguson and seconded by Cllr. Talat Chaudhri.
Cllr. Mair Benjamin proposed herself and was seconded by Cllr. Bryony Davies.
A closed vote was held, with the votes counted by the Clerk with the Translator as witness.
By majority vote, it was RESOVLED to appoint Cllr. Dylan Lewis-Rowlands.
|
|
282 | Trefniadau Sefydlu’r Maer 2025
Cytunwyd mai dydd Gwener 16 Mai 2025 oedd y dyddiad a ffafrir ar gyfer cynnal y seremoni, ac Amgueddfa Ceredigion oedd y lleoliad a ffafrir. Swyddogion i drafod trefniadau’r Sul gyda’r Maer etholedig. |
Mayor making arrangements 2025
It was agreed that Friday 16 May 2025 was the preferred date to hold the ceremony, and Ceredigion Museum was the preferred venue. Officers to discuss arrangements for the Sunday with the Mayor elect.
|
|
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00. | ||
283 | Chwynnu strydoedd
Roedd adroddiad diwygiedig wedi’i ddosbarthu gyda gwybodaeth bellach am ddulliau eraill o reoli chwyn.
PENDERFYNWYD peidio â defnyddio unrhyw chwynladdwr glyffosad. Pleidleisiodd y Cyng Brian Davies ac Emlyn Jones yn erbyn hyn.
Cytunwyd i gyflwyno rhagor o fanylion, gan gynnwys costau, ar chwynnu â llaw wedi’i integreiddio â golchi â phŵer. Nodwyd yr angen i gynyddu balchder bro, a byddai’r potensial ar gyfer ymgyrch gyhoeddusrwydd yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol. |
Street weeding
An amended report had been circulated with further information on alternative methods of weed control.
It was RESOLVED not to use any glyphosate herbicide. Cllrs. Brian Davies and Emlyn Jones voted against this.
It was agreed for further detail, including costs, to be presented on hand weeding integrated with power washing. The need to increase civic pride was noted, and potential for a publicity campaign would be discussed by the General Management Committee.
|
Agenda RhC GM Agenda |
284 | Trafnidiaeth Cyngor Tref
Dosbarthwyd tri opsiwn ar gyfer tryc codi bach, dau yn seiliedig ar betrol ac un trydan.
PENDERFYNWYD cymeradwyo mewn egwyddor brynu tryc codi petrol am gost o hyd at £10,000. Pleidleisiodd y Cyng. Talat Chaudhri, Mark Strong, Lucy Huws, Jeff Smith a Bryony Davies yn erbyn hyn.
Manylion ychwanegol a chostau llawn, gan gynnwys tanwydd, cynnal a chadw ac yswiriant, i’w hystyried ymhellach. |
Town Council transportation
Three cost options were circulated for a small pickup truck, two petrol based and one electric.
It was RESOLVED to approve in principle the purchase of a petrol pickup truck at a cost of up to £10,000. Cllrs. Talat Chaudhri, Mark Strong, Lucy Huws, Jeff Smith and Bryony Davies voted against this.
Additional detail and full costs, including fuel, maintenance and insurance, to be considered further.
|
|
285 | Basgedi blodau ar Y Stryd Fawr
PENDERFYNWYD cymeradwyo gosod fframiau a basgedi rhwystr ar grîn cornel y Stryd Fawr a Heol y Wig, ynghyd â chynnal a chadw perthnasol a thorri’r tyfiant eiddew oedd yn bresennol. Nodwyd bod yn rhaid i’r gwaith hwn gadw digon o le i osod y goeden Nadolig fetel.
Nodwyd ei bod yn ymddangos bod talcen 5 Heol y Wig yn gwyro tuag allan, ac felly ni ddylai’r Cyngor Tref dynnu tyfiant eiddew oddi ar y wal. Clerc i godi gyda pherchnogion yr adeilad. |
Great Darkgate Street flower baskets
It was RESOLVED to approve installation of frames and barrier baskets to the corner green of Great Darkgate Street and Pier Street, along with relevant maintenance and cutting back of the ivy growth present. It was noted that this work must retain sufficient space for the metal Christmas tree to be installed.
It was noted that the gable end of 5 Pier Street appeared to be leaning outwards, and the Town Council should therefore not remove ivy growth from the wall. Clerk to raise with building owners.
|
|
286 | Gosod cyllideb a phraesept ar gyfer 2025-26
Cafwyd estyniad i derfyn amser y praesept er mwyn caniatáu ar gyfer trafodaethau angenrheidiol pellach gyda Chyngor Sir Ceredigion ynghylch dyfodol toiledau cyhoeddus Aberystwyth.
I’w drafod mewn cyfarfod arbennig ddydd Llun 10 Chwefror 2025. |
To set a budget and precept for 2025-26
An extension to the precept deadline had been obtained to allow for further necessary discussions with Ceredigion County Council regarding the future of Aberystwyth’s public toilets.
To be discussed at extraordinary meeting on Monday 10 February 2025.
|
Cyngor Llawn Arbennig
Extraordinary Full Council |
287 | Rali Ceredigion 2025
I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. |
Rali Ceredigion 2025
To be discussed by General Management Committee.
|
Agenda RhC
GM Agenda |
288 | Ceisiadau cynllunio
|
Planning applications
|
|
Dim | None | ||
289 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
289.1 | Grŵp Aberystwyth Gwyrddach: Cais am gymorth i Brifysgol Aberystwyth gynnal pont droed hanesyddol. Roedd y Brifysgol eisoes wedi ymateb yn cadarnhau bod gwaith cynnal a chadw wedi’i gymeradwyo. | Greener Aberystwyth Group: Request for assistance for Aberystwyth University to maintain a historic footbridge. The University had already responded confirming maintenance works had been approved. | |
289.2 | Coed stryd Rhodfa’r Gogledd: Gohebiaeth gan ymgynghorwyr yn gweithredu ar ran Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) yn gofyn am gynnal ymgynghoriad ar wella coed stryd ar Rhodfa’r Gogledd ar wefan y Cyngor Tref. Cytunwyd i ganiatáu hyn. | North Parade street trees: Correspondence from consultants acting on behalf of the North and Mid Wales Trunk Road Agent (NMWTRA) requesting to host a consultation on improvement of street trees on North parade on the Town Council’s website. It was agreed to allow this. | |
289.3 | Croesfan pâl Ffordd Llanbadarn: Gohebiaeth gan ymgynghorwyr yn gweithredu ar ran Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) ynghylch ymgynghoriad ar osod croesfan pâl ger ysgol Padarn Sant. Dim ond at Gynghorwyr Ward Bronglais yr anfonwyd yr ohebiaeth, ac nid at y Cyngor cyfan. | Llanbadarn Road puffin crossing: Correspondence from consultants acting on behalf of the North and Mid Wales Trunk Road Agent (NMWTRA) regarding a consultation on installing a puffin crossing near St Padarns school. The correspondence had only been sent to Bronglais Ward Councillors, and not to the Council as a whole. |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:40 The meeting was closed at 21:40
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery
Neuadd Gwenfrewi
Morfa Mawr / Queen’s Road
Aberystwyth
SY23 2BJ
council@aberystwyth.gov.uk www.aberystwyth.gov.uk
01970 624761
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
22.1.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn festri Eglwys Seion, Sryd y Popty, SY23 2BJ ar Nos Lun 27 Ionawr 2025 am 18:30.
You are summoned to attend the a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and at the vestry of Eglwys Seion, Baker Street, SY23 2BJ on Monday, 27 January 2025 at 18:30.
Agenda
251 Presennol Present
252 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies & absences
253 Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda
254 Cyfeiriadau Personol Personal References
255 Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer Mayoral Activity Report
256 Diweddariadau gan y Clerc Updates from Clerk
257 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau Updates from Facilities & Assets Manager
258 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau Updates from Events & Partnerships Officer
259 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau Updates from Market & Events Coordinator
260 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
261 Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 16 Rhagfyr 2024 i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday, 16 December 2024 to confirm accuracy
262 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
263 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 6 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 6 January 2025, to confirm accuracy
264 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
265 Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitemau 266 a 267 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod To exclude the press & public for the duration of items 266 and 267 due to the confidential nature of the business to be discussed
266 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd nos Fercher 8 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Staffing Committee meeting held on Wednesday 8 January 2025, to confirm accuracy
267 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
268 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun 13 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 13 January 2025, to confirm accuracy
269 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
270 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd nos Lun 20 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 20 January 2025, to confirm accuracy
271 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
272 Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi a gynhaliwyd nos Fercher 22 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Standing Orders & Policy Committee meeting held on Wednesday 22 January 2025, to confirm accuracy
273 Materion yn codi o’r Cofnodion Matters arising from the minutes
274 Ystyried a mabwysiadu Rheoliadau Ariannol newydd To consider and adopt new Financial Regulations
275 Cymeradwyo gwariant Mis Ionawr To approve January expediture
276 Cymeradwyo cyfrifon Mis Rhagfyr To approve December accounts
278 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
279 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
280 Apwyntio’r Maer etholedig ar gyfer y flwyddyn Faerol 2025-26
To appoint the Mayor elect for the 2025-26 Mayoral year
281 Apwyntio’r Dirprwy Faer etholedig ar gyfer y flwyddyn Faerol 2025-26 To appoint the Deputy Mayor elect for the 2025-26 Mayoral year
282 Trefniadau Sefydlu’r Maer 2025 Mayor making arrangements 2025
283 Chwynnu strydoedd Street weeding
284 Trafnidiaeth Cyngor Tref Town Council Transportation
285 Basgedi blodau ar Y Stryd Fawr Great Darkgate Street flower baskets
286 Gosod cyllideb a phraesept ar gyfer 2025-26 To set a budget and precept for 2025-26
287 Rali Ceredigion 2025 Rali Ceredigion 2025
288 Ceisiadau cynllunio Planning applications
289 Gohebiaeth Correspondence
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details