Full Council

19/12/2022 at 7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod Cyngor Llawn (hybrid)

Meeting of Full Council (hybrid)

 

19.12.2022

 

COFNODION / MINUTES

 

158 Yn bresennol:

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mathew Norman

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Brian Davies

Cyng. Mari Turner

Cyng. Sienna Lewis

Cyng. Connor Edwards

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau)

Carol Thomas (cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mathew Norman

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Brian Davies

Cllr. Mari Turner

Cllr. Sienna Lewis

Cllr. Connor Edwards

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)

Carol Thomas (translator)

 

 
159 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Mark Strong

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Steve Davies

 

Apologies:

 

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Emlyn Jones

Cllr Carl Worrall

Cllr. Mark Strong

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Steve Davies

 

 

 
160 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Dim

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

None

 

 
161 Cyfeiriadau Personol

 

Cafwyd munud o dawelwch er anrhydedd i’r cyn Faer Carol Kolczak a fu farw dros y penwythnos. Byddai cerdyn yn cael ei anfon at y teulu.

Personal References

 

A minute’s silence was held in honour of former Mayor Carol Kolczak who had passed away on the weekend. A card would be sent to the family.

 

Anfon cerdyn

Send card

162 Adroddiad y Maer

 

Cyflwynwyd adroddiad llafar gan y Maer. Roedd wedi mynychu cyfarfodydd Dinas Llên a Chinio Nadolig yr Henoed.

Mayoral report

 

A verbal report was presented by the Mayor. He had attended City of Literature meetings and the Senior’s Christmas Lunch.

 

 

 
163 Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 28 Tachwedd 2022 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion

 

Minutes of the meeting of Full Council held on Monday, 28 November 2022 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 
164 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

  1. 8: Gofynnodd y Cyng Maldwyn Pryse a Brian Davies i’w henwau gael eu nodi fel rhai oedd yn gwrthwynebu bwrw ymlaen ag adnewyddu Neuadd Gwenfrewi.

 

Matters arising from the Minutes:

 

  1. 8: Cllrs Maldwyn Pryse and Brian Davies requested that their names be noted as having opposed proceeding with the renovation of Neuadd Gwenfrewi.

 

 
165 Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 5 Rhagfyr 2022

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday 5 December 2022

 

It was RESOLVED to approve the minutes

 
166 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 
167 Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 5 Rhagfyr 2022

 

PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion a’r arghymellion canlynol:

 

  1. 1: Cytundeb glanhau strydoedd

7: Ariannu marchnad ffermwyr ac adleoli

  1. 1: Tudalen facebook digwyddiadau er gwybodaeth yn unig
  2. 2: Parêd Santes Dwynwen

11: Meini Prawf y Fedal Arbennig a Rhyddid y Dref. Fodd bynnag, dylai’r pwynt olaf ddarllen: ‘mae’n rhaid i ddwy ran o dair o aelodaeth y Cyngor gytuno’.

Minutes of the General Management Committee held on Monday 5 December 2022

 

It was RESOLVED to approve the minutes and the following recommendations:

 

  1. 1: Street cleaning contract

7: Farmer’s market funding and relocation

  1. 1: Information only events facebook page
  2. 2: Santes Dwynwen parade

11: Criteria for the Special Medal and Freedom of the Town.  However, the final point should read: ‘two thirds of the Council membership has to agree’.

 

 
168 Materion yn codi o’r Cofnodion

 

9: Benthyg y groes i’r eglwys Gatholig. Trafodwyd hyn a PHENDERFYNWYD cymeradwyo’r benthyciad ond y byddai cofrestr yn cael ei datblygu i gadw cofnod o eitemau ar fenthyg.

 

Matters arising from the Minutes:

 

9: Loan of the cross to the Catholic church.  This was discussed and it was RESOLVED that the loan be approved but a register would be developed to keep track of items on loan.

 

 
169 Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 12 Rhagfyr 2022

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion ond gan ychwanegu ffigurau praesept wedi’u diweddaru oherwydd roedd y ffigurau a nodwyd yn ystod trafodaeth y Pwyllgor Cyllid wedi’u seilio ar Sylfaen Treth y Cyngor y llynedd. Mae’r ffigurau cywir ar gyfer 2023-24 fel a ganlyn:

2023-24 Sylfaen Treth y Cyngor: 4,078.02

Praesept: (fel y cofnodwyd yn flaenorol) £578,990

Cyfwerth Band D: £141.98 y flwyddyn (£11.83 y mis / £2.73 yr wythnos)

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday, 12 December 2022

 

It was RESOLVED to approve the minutes but with the addition of updated precept figures as during discussion in the Finance Committee they had been based on last year’s Council Tax Base.  The correct figures for 2023-24 are as follows:

 

2023-24 Council Tax Base: 4,078.02

Precept: (as previously recorded) £578,990

Band D equivalent:  £141.98 per annum / £11.83 per month / £2.73 per week

 

 
170 Materion yn codi o’r Cofnodion

 

Cymeradwywyd yr ARGYMHELLION canlynol:

 

6: Gwariant Santes Dwynwen gan gynnwys prynu tair baner. Gofynnwyd i gynghorwyr am eu cymorth i roi cyhoeddusrwydd i’r digwyddiad a helpu i ddod o hyd i wirfoddolwyr i reoli’r orymdaith

 

9: Mabwysiadu wifi tref

 

Trafodwyd yr eitem canlynol:

 

7: Contract cymorth Cyfraith Cyflogaeth: ystyriwyd dau ddyfynbris (roedd trydydd cwmni heb ymateb) a PHENDERFYNWYD, ar sail gwerth gwell a gwasanaeth mwy dibynadwy, i newid contractwyr. Anfonir hysbysiad terfynu erbyn 27 Rhagfyr.

Matters arising from the Minutes:

 

The following RECOMMENDATIONS were approved:

 

6: Santes Dwynwen expenditure including the purchase of three banners. Councillors were asked for their help in publicising the event and helping to find volunteers to manage the parade

 

9Town wifi adoption

 

The following item was discussed:

 

7: Employment Law support contract: two quotes were considered (a third company had not responded) and it was RESOLVED, on the basis of better value and a more reliable service, to change contractors. A termination notice will be sent by 27 December.

 

 
171 Cyllid – ystyried gwariant Mis Rhagfyr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant

Finance – to consider December expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure

 

 
172 Cymeradwyo cyfrifon Tachwedd

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon

To approve the November accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

 
173 Cymeradwyo cyllideb a phraesept 2023-24

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gyllideb a’r praesept

 

To approve the 2023-24 budget and precept

 

It was RESOLVED to approve the budget and precept

 
174 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Dim

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

None

 
175 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning applications  
A220924:Yr Hen Goleg

 

Er bod Cyngor y Dref yn llwyr gefnogi’r gwaith o adfer a datblygu’r Hen Goleg, nid oes digon o wybodaeth wedi’i ddarparu yn yr achos hwn i allu gwneud penderfyniad gwybodus. Gan fod gan y Cyngor bryderon ynghylch colli nodweddion hanesyddol byddai’n gwerthfawrogi mwy o wybodaeth.

 

Y Cyngor i wahodd cynrychiolydd o dîm datblygu’r Brifysgol i roi diweddariad yn y flwyddyn newydd os yn bosib.

 

A220924:The Old College

 

Whilst the Town Council fully supports the restoration and development of the Old College not enough information has been provided in this instance to be able to make an informed decision. As the Council has concerns regarding the loss of historic features it would appreciate more information.

 

The Council to invite a representative from the University development team to provide an update in the new year if possible.

 

Anfon ymateb

Send response

176 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Roedd adroddiadau ar y daith i Arklow wedi’u darparu gan y Cynghorwyr Kerry Ferguson ac Emlyn Jones. Byddai cynnal ymweliad o Arklow ym mis Awst yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

Reports on the trip to Arklow had been provided by Cllrs Kerry Ferguson and Emlyn Jones.  Hosting a visit from Arklow in August would be discussed by the General Management Committee

 

Agenda RhC

GM agenda

177 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng Alun Williams

  • Roedd cyllideb Cyngor Ceredigion gan Lywodraeth Cymru yn uwch na’r disgwyl ond yn dal i olygu bod yn rhaid gwneud arbedion.
  • Roedd prinder dŵr yng nghanol y sir oherwydd difrod rhew yn golygu bod angen i Aberystwyth arbed dŵr

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

Cllr Alun Williams

  • Ceredigion Council’s budget from Welsh Government was higher than expected but still meant savings had to be made.
  • Water shortages in mid county due to frost damage meant that Aberystwyth needed to conserve water

 

 
178 Cynnig: Rhyddid y Dref i’r RNLI

 

Byddai cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.

Motion: Freedom of the Town for the RNLI

 

An extraordinary meeting would be held in the new year.

Trefnu cyfarfod arbennig / Organise extraordinary meeting.

 

 
179 Gohebiaeth Correspondence

 

 
179.1 Ymgynghoriad: Cyngor Ceredigion – Defnydd o’u hadeiladau swyddfa yn y dyfodol. Dyddiad cau 31.1.2023. I’w ddosbarthu a’i drafod yn y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ym mis Ionawr

 

Consultation: Ceredigion Council – Future use of their office buildings. Deadline 31.1.2023. To be circulated and discussed in the January General Management Committee.

 

Agenda RhC

GM agenda

179.2 Ymgynghoriad: Cyngor Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth – cyfleusterau chwaraeon. Roeddent wedi penodi cwmni o’r enw Strategic Leisure i ymgynghori ar anghenion lleol ac roedd cyfarfod gyda’r Clerc wedi ei drefnu. Nododd y cynghorwyr nad oedd gan y dref drac rhedeg na felodrom.

 

Consultation: Ceredigion Council and Aberystwyth University – sports facilities. They had appointed a company called Strategic Leisure to consult on local needs and a meeting with the Clerk had been arranged.  Councillors noted that the town did not have a running track or velodrome.

 

 
179.3 Ymgynghoriad: Cynllun Llesiant Ceredigion. Dyddiad cau 31.1.2023. I’w ddosbarthu a’i drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol Consultation: Ceredigion’s Wellbeing Plan. Deadline 31.1.2023. To be circulated and discussed in the January General Management Committee meeting.

 

Agenda RhC

GM agenda

179.4 Ymgynghoriad: Diwygio etholiadol Llywodraeth Cymru. Dyddiad cau 10.1.2023. I’w ddosbarthu i gynghorwyr ar gyfer ymatebion unigol. Consultation: Welsh Government Electoral reform. Deadline 10.1.2023. To be circulated to councillors for individual responses.

 

 
179.5 Cyngor Ceredigion yn cadarnhau gorchymyn cadw ar goed Bryn Derw Ceredigion Council confirmation of preservation order on Bryn Derw trees

 

 
179.6 Caffi Hinsawdd Aberystwyth: byddai ffurflen grant cymunedol Cyngor y Dref yn cael ei hanfon Aberystwyth Climate Café: a Town Council community grant form would be sent

 

Anfon ffurflen grant

Send grant form

 

179.7 Sioe ddawns Sweetshop Revolution: byddai ffurflen grant cymunedol Cyngor y Dref yn cael ei hanfon Sweetshop Revolution dance show: a Town Council community grant form would be sent

 

Anfon ffurflen grant

Send grant form