Full Council
18/12/2023 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cyfarfod y Cyngor Llawn (hybrid)
Meeting of Full Council (hybrid)
18.12.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
175 | Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Lucy Huws Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Jeff Smith Cyng. Alun Williams Cyng. Bryony Davies Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Mathew Norman Cyng. Mark Strong
Yn mynychu:
Will Rowlands (Clerc dan hyfforddiant) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau) (191 yn unig) Carol Thomas (cyfieithydd) Alex Bowen (Cambrian News)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Lucy Huws Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Jeff Smith Cllr. Alun Williams Cllr. Bryony Davies Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Mathew Norman Cllr. Mark Strong
In attendance:
Will Rowlands (Trainee Clerk) Steve Williams (Facilities & Assets Manager) (191 only) Carol Thomas (translator) Alex Bowen (Cambrian News) |
|
176 | Ymddiheuriadau:
Cyng. Mari Turner Cyng. Carl Worrall Cyng. Brian Davies
|
Apologies:
Cllr. Mari Turner Cllr. Carl Worrall Cllr. Brian Davies
|
|
177 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
193.2 Mae Cyng. Jeff Smith yn cael ei gyflogi gan y Llyfrgell Genedlaethol.
200.6 Mae Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn aelod o Heddwch ar Waith. |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
193.2 Cllr. Jeff Smith is employed by the National Library.
200.6 Cllr. Dylan Lewis-Rowlands is a member of Heddwch ar Waith.
|
|
178 | Cyfeiriadau Personol
· Bu cyngerdd Nadolig y Maer yn llwyddiant, gan godi dros £600 i elusen y Maer, Hafan y Waun. · Estynnwyd dymuniadau pen-blwydd i’r Cyng. Maldwyn Pryse. · Diolchwyd i’r Cyng. Maldwyn Pryse am siarad yn yr wylnos heddwch yn Sgwâr Owain Glyndŵr. |
Personal References
· The Mayor’s Christmas concert had been a success, raising over £600 for the Mayor’s charity, Hafan y Waun · Birthday wishes were extended to Cllr. Maldwyn Pryse. · Thanks were extended to Cllr. Maldwyn Pryse for speaking at the peace vigil in Sgwâr Owain Glyndŵr.
|
|
179 | Adroddiad y Maer
Roedd adroddiad ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu. |
Mayoral report
A written report had been circulated.
|
|
180 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 237 Tachwedd 2023 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion.
|
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 27 November 2023 to confirm accuracy.
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
181 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
161. Ymweliad Yosano: cafwyd adborth cadarnhaol gan y Maer a chynrychiolwyr eraill.
173. Cadoediad Gaza: cynhaliwyd gwylnos heddwch yn Sgwâr Owain Glyndŵr, lle darllenwyd llythyr y Cyngor. Daeth nifer dda i’r wylnos a chafodd sylw mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol.
Roedd ymateb i’r llythyr at y Prif Weinidog wedi dod i law gan yr Arglwydd Tariq Ahmad, Gweinidog Gwladol y Dwyrain Canol. |
Matters arising from the Minutes:
161. Yosano visit: positive feedback had been received from the Mayor and other representatives.
173. Gaza ceasefire: a peace vigil was held in Sgwâr Owain Glyndŵr, where the Council’s letter was read. The vigil was well attended and received coverage in both national and local newspapers.
A response to the letter to the Prime Minister had been received from Lord Tariq Ahmad, Minister of State for the Middle East.
|
|
182 | Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 4 Rhagfyr 2023
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.
|
Minutes of the Planning Committee held on Monday 4 December 2023
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
183 | Materion yn codi o’r cofnodion
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
184 | Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 4 Rhagfyr 2023
PENDERFYNWYD derbyn y cofnodion.
|
Minutes of the General Management Committee held on Monday 4 December 2023
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
185 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
5. Jeti prom y Gogledd: dosbarthwyd llythyr drafft i Gyngor Sir Ceredigion. Roedd yr atgyweiriadau sydd angen wedi’u trafod gyda chontractwr lleol ac roeddid yn aros am ragor o wybodaeth. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol. |
Matters arising from the minutes:
5. North prom jetty: a draft letter to Ceredigion County Council was circulated. The repairs needed had been discussed with a local contractor and further information was awaited. To be discussed by General Management Committee.
|
Agenda RhC
GM Agenda |
186 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun 11 Rhagfyr 2023
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion a’r cofnodion gyda’r newid a ganlyn:
7. Ymgynghoriad: Bil Cyllid Llywodraeth Leol Cymru: i’w ychwanegu at y cofnodion.
|
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday 11 December 2023
It was RESOLVED to approve the recommendations and minutes with the following amendment:
7. Consultation: Local Government Finance Wales Bill: to be added to minutes.
|
|
187 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes:
None
|
|
188 | Ystyried gwariant Mis Rhagfyr
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
|
To consider December expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
|
|
189 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Tachwedd
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.
|
To approve November accounts
It was RESOLVED to approve the accounts.
|
|
190 | Cyllideb 2024-25
PENDERFYNWYD cymeradwyo, mewn egwyddor, y gyllideb ddrafft a’r praesept, er eu bod yn dal i aros am wybodaeth gan Gyngor Sir Ceredigion a allai newid rhai eitemau. Os bydd angen, gellid trafod hyn ymhellach ym mis Ionawr. |
2024-25 Budget
It was RESOLVED to approve, in principle, the draft budget and precept, although information was still awaited from Ceredigion County Council that could alter some items. If necessary, this could be discussed further in January.
|
|
191 | Gwariant cyfalaf 2023-24
Cafwyd diweddariad gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau ar gynlluniau i adfywio ac ehangu’r AdiZone ym Mhenparcau gyda chyfarpar ac arwyneb newydd. Cyfanswm amcangyfrifedig y gost oedd tua £35,000. PENDERFYNWYD cymeradwyo gwario gweddill cyllideb Gyfalaf Parciau a Thiroedd ar gyfer 2023-24 (tua £15,000) ar ddechrau’r gwaith hwn, gyda gweddill y costau yn dod o gyllideb gyfalaf 2024-25. |
Capital expenditure 2023-24
An update was provided by the Facilities and Assets Manager on plans to revitalise and expand the AdiZone in Penparcau with new equipment and surfacing. The total estimated cost was around £35,000. It was RESOLVED to approve spending the remainder of the Parks & Grounds Capital budget for 2023-24 (c. £15,000) on commencing these works, with the remainder of the costs coming from the 2024-25 capital budget.
|
|
192 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
• Digwyddiadau: Teimlai cynghorwyr y byddai’n braf i gael mwy o ran yn y broses o drefnu digwyddiadau Cyngor Tref. Byddai hyn yn cael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. • Ymgysylltu â’r Gymuned: gwahoddir cynrychiolwyr o Brifysgol Aberystwyth i roi cyflwyniad ar ymgysylltu â’r gymuned. • Neuadd Gwenfrewi – adnewyddu’r Tŷ’r Offeiriad: roedd rhai Cynghorwyr yn siomedig gyda lefel eu cyfranogiad yn y prosiect. Byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn yn cael ei drefnu i drafod hyn ymhellach. • Sedd wag – Penparcau: ni dderbyniwyd gohebiaeth gan Gyngor Sir Ceredigion ynglŷn ag etholiad neu gyfethol. Byddwn yn cysylltu â nhw am ddiweddariad. |
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
· Events: Councillors felt it would be beneficial for them to have more involvement in the process of organising Town Council events. This would be discussed by the General Management Committee. · Community Engagement: representatives from Aberystwyth University would be invited to present on community engagement. · Neuadd Gwenfrewi – presbytery refurbishment: some Councillors were disappointed with their level of involvment in the project. An extraordinary meeting of Full Council would be organised to discuss this further. · Vacant seat – Penparcau: no correspondence had been received from Ceredigion County Council regaring election or co-option. They would be contacted for an update.
|
Agenda RhC
GM Agenda
Cyfarfod Arbennig Extraordinary Meeting |
193 | Ceisiadau cynllunio
|
Planning applications
|
|
193.1 | A230879: Y Werydd, Pen Yr Angor
DIM GWRTHWYNEBIAD Mae safbwynt y Cyngor yr un fath ag o’r blaen:
DIM GWRTHWYNEBIAD ond ni ddylent fod yn defnyddio upvc yn lle pren. |
A230879: Y Werydd, Pen Yr Angor
NO OBJECTION The Council’s position remains the same as previously:
NO OBJECTION but they should not be replacing timber with upvc.
|
Ymateb
Respond |
193.2 | A230890: Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Gadawodd y Cyng. Jeff Smith siambr y cyngor a ddaeth y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands i’r gadair.
DIM GWRTHWYNEBIAD |
A230890: National Library of Wales
Cllr. Jeff Smith left the chamber and Cllr. Dylan Lewis-Rowlands took the chair.
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
194 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Dim |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
None
|
|
195 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng. Alun Williams: • Roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu cyflwyno premiymau Treth y Cyngor uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor o fis Ebrill 2024. Awgrymodd cynghorwyr y dylai arian a godir gan y premiymau hyn gael ei ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau tai ac i helpu’r digartref.
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr. Alun Williams: · Ceredigion County Council had resolved to introduce increased Council Tax premiums on second homes and long term empty properties from April 2024. Councillors expressed that funds raised by these premiums should be reinvested into housing services and to help the homeless.
|
|
196 | Plannu coeden goffa ym mherllan y rhandiroedd – Coedlan Pump
Derbyniwyd cais gan drigolion i blannu coeden goffa i ddioddefwyr lleol o ganser a chlefyd niwronau motor. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais cyn belled a bod polisi coed coffa’r Cyngor yn cael ei ddilyn.
|
Memorial tree planting in the alltoment orchard – Coedlan Pump
A request was received from residents to plant a memorial tree to local victims of cancer and motor neurone disease. It was RESOLVED to approve the request, so long as the Council’s memorial trees policy is followed.
|
|
197 | Polisi mislif a diwedd y mislif
Dosbarthwyd polisi drafft. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r polisi hwn, gyda’r Pwyllgorau Staffio a Rheoliadau Sefydlog i drafod gweithrediad ymarferol.
|
Mestrual and menopause policy
A draft policy was circulated. It was RESOLVED to adopt this policy, with the Staffing and Standing Orders Committees to discuss the practical implementation.
|
|
198 | Ymgynghoriad: Bil Cyllid Llywodraeth Leol Cymru
Dyddiad cau 15.1.2024. Pwyllgor Cynllunio i drafod a chytuno ar ymateb. |
Consultation: Local Government Finance Wales Bill:
Closing date 15.1.2024. Planning Committee to discuss and agree a response.
|
Agenda Cynllunio
Planning Agenda |
199 | Eitem caeedig: Staffio (swyddi ychwanegol a swydd y Clerc)
• Diolchwyd i’r staff am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn. • Roedd paratoadau ar y gweill ar gyfer staff newydd, a ariennir gan arian grant, i ddechrau yn y flwyddyn newydd. • Cyhoeddwyd ymddeoliad y Clerc; Cyfarfod Pwyllgor Staffio i’w drefnu i drafod y swydd. |
Closed item: Staffing (additional posts and Clerk position)
· Thanks were extended to staff for their work throughout the year. · Preparations were underway for new grant-funded staff to start in the new year. · The Clerk’s retirement was annouced; Staffing Committee meeting to be arranged to discuss the position.
|
Pwyllgor Staffio
Staffing Committee |
200 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
200.1 | Dathliad gefeillio Kronberg a Porto Recanati yn 30 oed: Gwahoddiad i fynychu dathliadau 30 mlynedd yn yr Eidal rhwng Kronberg a’u gefeilldref Eidalaidd, Porto Recanati. Roedd y cynghorwyr yn cefnogi anfon cynrychiolydd mewn egwyddor; i’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid. | Kronberg and Porto Recanati 30th anniversary: Invitation to attend 30th anniversary celebrations in Italy between Kronberg and their Italian twin town, Porto Recanati. Councillors supported sending a representative in principle; to be discussed by Finance Committee.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
200.2 | Ymgynghoriad GTACGC – Cynllun Rheoli Risg Cymunedol 2040: ymgynghoriad yn dod i ben 15.1.2024; i’w drafod gan y Pwyllgor Cynllunio | MWWFRS consultation – Community Risk Management Plan 2040: consultation closing 15.1.2024; to be discussed by Planning Committee
|
Agenda Cynllunio
Planning Agenda |
200.3 | Murlun Stryd Y Farchnad: Cynigiodd Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen gyfraniad o £250 tuag at y prosiect; i’w drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf. | Mural Stryd Y Farchnad: James Pantyfedwen Trust offered contribution of £250 towards the project; to be discussed further at next meeting.
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council Agenda |
200.4 | Cyfarfod gyda Chyngor Sir Ceredigion: gwahoddiad i anfon hyd at ddau gynrychiolydd i gyfarfod rhwng Cynghorau Tref/Cymuned ac Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion ar 30 Ionawr 2024. Cytunwyd y dylai’r Maer a’r Clerc mynychu. | Meeting with Ceredigion County Council: an invitation to send up to two representatives to a meeting between Town/Community Councils and Ceredigion County Council Leader and Chief Executive on 30 January 2024. It was agreed the Mayor and Clerk should attend.
|
|
200.5 | Taith gerdded gylchol Parc Natur Penglais: cais gan swyddog Cyngor Sir Ceredigion i drafod prosiect i gysylltu mannau gwyrdd; i’w gwahodd i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. | Parc Natur Penglais circular walk: request from Ceredigion County Council officer to discuss project to link greenspaces; to be invited to General Management Committee.
|
Agenda RhC
GM Agenda |
200.6 | Heddwch ar Waith – cais coeden goffa: Gadawodd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y siambr. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. | Heddwch ar Waith – memorial tree request: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands left the chamber. To be discussed by General Management Committee. | Agenda RhC
GM Agenda |
200.7 | Cynnig: Bil lleoliad Aberystwyth (ar y Lleuad): i’w drafod yn y cyfarfod nesaf. | Motion: Location of Aberystwyth (on the Moon) Bill: to be discussed at next meeting.
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council Agenda |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker St
Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson
13.12.2023
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn y Siambr ar Nos Lun 18 Rhagfyr 2023 am 6.30 pm.
You are summoned to attend a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and in the Chamber on Monday, 18 December 2023 at 6.30 pm.
Agenda
175 | Presennol
|
Present |
176 | Ymddiheuriadau
|
Apologies |
177 | Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda
|
Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda |
178 | Cyfeiriadau Personol | Personal References
|
179 | Adroddiad y Maer
|
Mayoral report |
180 | Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 27 Tachwedd 2023 i gadarnhau cywirdeb
|
Minutes of the meeting of Full Council held on Monday, 27 November 2023 to confirm accuracy |
181 | Materion yn codi o’r cofnodion
|
Matters arising from the minutes |
182 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun, 4 Rhagfyr 2023
|
Minutes of the Planning Committee held on Monday 4 December 2023
|
183 | Materion yn codi o’r cofnodion
|
Matters arising from the minutes
|
184 | Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 4 Rhagfyr 2023
|
Minutes of the General Management Committee held on Monday 4 December 2023 |
185 | Materion yn codi o’r cofnodion
|
Matters arising from the minutes
|
186 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 11 Rhagfyr 2023
|
Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday 11 December 2023
|
187 | Materion yn codi o’r cofnodion
|
Matters arising from the minutes
|
188 | Ystyried gwariant Mis Rhagfyr
|
To consider December expenditure
|
189 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Tachwedd | To approve November accounts
|
190 | Cyllideb 2024-25 | 2024-25 Budget
|
191 | Gwariant cyfalaf 2023-24
|
Capital expenditure 2023-24 |
192 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG
|
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit |
193 | Planning Applications | Ceisiadau Cynllunio
|
193.1 | A230879: Y Werydd, Pen Yr Angor | A230879: Y Werydd, Pen Yr Angor
|
194 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
|
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies |
195 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
196 | Plannu coeden goffa ym mherllan y rhandiroedd – Coedlan Pump
|
Memorial tree planting in the alllotment orchard – Coedlan Pump
|
197 | Polisi mislif a diwedd y mislif | Menstrual and menopause policy
|
198 | Ymgynghoriad: Bil Cyllid Llywodraeth Leol Cymru
|
Consultation: Local Government Finance Wales Bill |
199 | Eitem caeedig: Staffio
Swyddi ychwanegol a swydd y Clerc |
Closed item: Staffing
Additional posts and Clerk position
|
200 | Gohebiaeth | Correspondence |
Gweneira Raw-Rees
Clerc Cyngor Tref Aberystwyth / Aberystwyth Town Council Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details