Full Council
23/09/2024 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
23.9.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
122 | Yn bresennol:
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Mair Benjamin Cyng. Gwion Jones Cyng. Carl Worrall Cyng. Lucy Huws Cyng. Glynis Somers Cyng. Brian Davies Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Owain Hughes Cyng. Umer Aslam Cyng. Bryony Davies Cyng. Mari Turner Cyng. Jeff Smith
Yn mynychu:
Will Rowlands (Clerc) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Mair Benjamin Cllr. Gwion Jones Cllr. Carl Worrall Cllr. Lucy Huws Cllr. Glynis Somers Cllr. Brian Davies Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Owain Hughes Cllr. Umer Aslam Cllr. Bryony Davies Cllr. Mari Turner Cllr. Jeff Smith
In attendance:
Will Rowlands (Clerk) Steve Williams (Facilities & Asserts Manager) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) Carol Thomas (Translator)
|
|
123 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Alun Williams Cyng. Mark Strong Cyng. Emlyn Jones
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Connor Edwards |
Apologies and absence:
Absent with apologies: Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Alun Williams Cllr. Mark Strong Cllr. Emlyn Jones
Absent without apologies: Cllr. Connor Edwards
|
|
124 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
Dim |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
None
|
|
125 | Cyfeiriadau Personol
· Cydymdeimlwyd â’r Cyng. Mark Strong, yr oedd ei fam wedi marw. Cerdyn i’w anfon. |
Personal References
· Condolences were extended to Cllr. Mark Strong, whose mother had passed away. A card to be sent.
|
Anfon Cerdyn
Send Card |
126 | Adroddiad y Maer
Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. |
Mayoral report
A written report was circulated via email.
|
|
127 | Diweddariadau gan y Clerc
· Roedd gwaith ar y gweill i baratoi cyllideb ddrafft ar gyfer 2025-26. · Cynhaliwyd cyfarfod gydag yswirwyr y Cyngor ac roedd yn debygol bod y Cyngor yn gor-yswirio nifer o asedau; cofrestr asedau ac anghenion i’w hadolygu. · Roedd gwaith y Cyngor Tref wedi gwneud argraff fawr ar yr yswirwyr, yn enwedig Mannau Tyfu Plascrug. · Roedd adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad bron wedi ei gwblhau, a disgwylir symud y swyddfa tua 4 Hydref 2024. · Disgwylir ffigyrau terfynol ar gyfer costau cytundeb adnewyddu Tŷ’r Offeiriad, ond disgwylir y byddai tanwariant sylweddol. · Bydd y Maer a’r Clerc yn mynychu cyfarfod pwyllgor ardal Ceredigion Un Llais Cymru ddydd Mercher 25 Medi 2024; bydd Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion yn mynychu ac yn cymryd cwestiynau. |
Updates from Clerk
· Work was underway to prepare a draft budget for 2025-26 · A meeting had been held with the council’s insurers and it was likely that the Council was over-insuring a number of assets; asset register and insurance needs to be reviewed. The insurers were very impressed with the work of the Town Council, especially the Plascrug Growing Spaces. · The Presbytery refurbishment was almost completed, and the office move was expected for around 4 October 2024. · Final figures were expected for the Presbytery refurbishment contract costs, however it was expected that there would be a significant underspend. · The Mayor and Clerk would be attending the One Voice Wales Ceredigion area committee meeting on Wednesday 25 September 2024; the Chief Executive of Ceredigion County Council would be attending and taking questions.
|
|
128 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau
· Roedd gwaith ar y prosiect meysydd chwarae, a ariannwyd gan Cynnal y Cardi, bron wedi’i gwblhau. Roedd seddi siglen eisoes wedi’u gosod, roedd gosod cylchfan hygyrch ym maes chwarae Penparcau bron wedi’i gwblhau ac roedd paneli chwarae synhwyraidd yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos. Byddai cyhoeddusrwydd yn cael ei drefnu gydag ysgol Llwyn yr Eos unwaith y byddai’r prosiect wedi’i gwblhau. · Roedd gwaith y prosiect gwella mannau gwyrdd, a ariannwyd gan Drawsnewid Trefi, yn mynd rhagddo’n dda. Roedd y gwaith ar Maes y Frenhines bron wedi’i gwblhau, gyda’r planhigion a’r ffensys sy’n weddill i fod i gyrraedd yn fuan. Roedd disgwyl i waith ar dir y castell ddechrau yn gynnar ym mis Hydref. Gweithgor y Blodau i gwrdd cyn Hydref 24. · Disgwyliwyd canlyniadau ar gyfer ceisiadau grant Lleoedd Lleol i Natur Ceredigion yn yr wythnosau nesaf. · Roedd cytundeb wedi ei wneud gyda Chyngor Sir Ceredigion i’r Cyngor Tref gymryd cyfrifoldeb am gynnal a chadw (torri gwair, gwagio biniau ac ati) y mannau gwyrdd sy’n cael eu trosglwyddo o 1 Tachwedd 2024. Roedd hyn yn cynnwys: o Coedlan Plascrug o Tiroedd y castell o Gerddi Maes y Frenhines o Ffin Stryd Thespis o Gardd blodau gwyllt Stryd y Crwynwr o Ffordd Alexandra – ffiniau cylchfan o Ffin Dan Dre o Trefechan – ffin ger yr orsaf dân o Ffiniau Sgwâr Owain Glyndwr o Gardd blodau gwyllt Rhes Penglais o Gwelyau blodau’r promenâd |
Updates from Facilities & Assets Manager
· Works on the playgrounds project, funded by Cynnal y Cardi, were nearly completed. Swing seats had already been installed, installation of an accessible roundabout in Penparcau playground was almost completed and sensory play panels were being installed in the week. Publicity would be arranged with Llwyn yr Eos school once the project was completed. · The green space improvement project works, funded by Transforming Towns, were progressing well. Works to Queen’s Square were nearly complete, with plants and the remaining fencing due to arrive soon. Works to the castle grounds were expected to commence in early October. Flowers working group to meet before October 24. · Outcomes were expected for Ceredigion Local Places for Nature grant applications in the coming weeks. · Agreement had been made with Ceredigion County Council for the Town Council to formally assume responsibility for maintenance (grass cutting, bin emptying etc.) of the green spaces being transferred from 1 November 2024. This included: o Plascrug Avenue o Castle grounds o Queens Square Gardens o Thespian Street Border o Skinner Street – Wildflower Garden o Alexandra Road – Roundabout borders o Mill Street Shrub border o Great Darkgate Street green at top of. o Trefechan – Shrub border adjacent to fire station o Owain Glyndwr Square – borders o Penglais Terrace – Wildflower border next to Tattoo shop o Promenade flower beds
|
|
129 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau
· Roedd swyddogion i gyd yn hapus iawn gyda llwyddiant Gwyl y Castell. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith. · Roedd paratoadau ar y gweill ar gyfer digwyddiad Calan Gaeaf ym Mannau Tyfu Plascrug, mewn cydweithrediad â Tyfu Aber Grow. · Roedd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cyngerdd Nadolig y Maer a gynhelir ar 28 Tachwedd yng Nghanolfan y Morlan. · Roedd paratoadau’n cael eu gwneud ar gyfer yr ymweliad ag Yosano, Siapan ym mis Hydref. · Ffurfiwyd pwyllgor gefeillio newydd yn Saint Brieuc, a oedd yn awyddus i gyfarfod ac ymweld ag Aberystwyth.
Gadawodd Steve Williams a Wendy Hughes y cyfarfod.
|
Updates from Events & Partnerships Officer
· Officers were all very happy with the success of Gwyl y Castell. Thanks were extended to staff for their work. · Preparations were underway for a Halloween event at Plascrug Growing Spaces, in collaboration with Tyfu Aber Grow. · Arrangements were being made for the Mayor’s Christmas concert, which would be held on 28 November at the Morlan Centre. · Preparations were being made for the visit to Yosano, Japan in October. · A new twinning committee had been formed in Saint Brieuc, who were keen to meet and visit Aberystwyth.
Steve Williams and Wendy Hughes left the meeting.
|
|
130 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG
Cyng. Carl Worrall: · Roedd gan Gyngor Sir Ceredigion ymgynghoriad ar y gweill ar feysydd parcio yn Aberystwyth; mewn ymateb i hyn, awgrymwyd y dylai’r Cyngor Tref ofyn am ganran o’r refeniw a godir trwy daliadau parcio ceir gan fod hyn yn gyffredin mewn siroedd eraill.
|
VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
Cllr. Carl Worrall: · Ceredigion County Council had a consultation open on car parking in Aberystwyth; it was suggested that in a response to this, the Town Council should request a percentage of the revenue raised through car parking charges as this was common in other counties.
|
|
131 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 22 Gorffennaf 2024 i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 22 July 2024 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
132 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
· Cynhaliwyd cyfarfod gydag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ynglŷn â Nant Plascrug. Roeddent yn awyddus i gydweithio â’r Cyngor Tref i greu gwlyptir trefol; i’w hystyried ymhellach ar ôl y Gaeaf. · Roedd yr arwyddbost ar top y dref yn dal i wynebu’r cyfeiriad anghywir. · Roedd angen i’r Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi gyfarfod. · Roedd cytundeb Cynorthwyydd Amgylcheddol tymhorol y Cyngor Tref yn dod i ben ar 30 Medi. |
Matters arising from the Minutes:
· A meeting had been held with West Wales Rivers Trust regarding Nant Plascrug. They were keen to collaborate with the Town Council to create an urban wetland; to be considered further after the Winter. · The fingerpost at the top of town was still facing the wrong direction. · The Standing Orders & Policy Committee needed to meet. · The Town Council’s seasonal Environmental Assistant’s contract was ending on 30 September.
|
Trefnu Cyfarfod
Arrange Meeting |
133 | Cofnodion Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 12 Awst 2024, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 12 August 2024 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
134 | Materion yn codi o’r cofnodion
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
135 | Cofnodion Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 2 Medi 2024, i gadarnhau cywirdeb
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 2 September 2024 to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
Trefnu Cyfarfod
Arrange Meeting |
136 | Materion yn codi o’r cofnodion
Cyfarfod i’w drefnu ar gyfer y gweithgor blodau. |
Matters arising from the minutes
Meeting to be arranged for the flowers working group.
|
|
137 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 2 Medi 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion. |
Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 2 September 2024, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes.
|
|
138 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
Roedd sylwadau pellach wedi dod i law ers hynny gan aelodau’r cyhoedd ynghylch effaith cau Bodlondeb ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol i ystyried hwyluso trafodaeth rhwng rhanddeiliaid perthnasol ar ofal cymdeithasol yn gyffredinol. |
Matters arising from the minutes
Further representations had been received since by members of the public regarding the impact of Bodlondeb’s closure on social care provision. To be discussed by General Management Committee to consider facilitating discussion between relevant stakeholders on social care generally.
|
Agenda RhC
GM Agenda |
139 | Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 9 Medi 2024
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion. |
Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 9 September 2024, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.
|
|
140 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
· 13.1 Diweddariad ar y jeti: Roedd Cyng. Alun Williams wedi codi pryderon gyda swyddogion gweithredol Cyngor Sir Ceredigion ac roedd ymateb wedi dod i law; cyfarfod i’w drefnu gyda uwch swyddogion Ceredigion i drafod ymhellach. · 14 Log penderfyniadau: cyfrifoldeb y cadeirydd/is-gadeirydd i’w gynnal. · 15 prosiect celf Sustrans: 1 Y Ro Fawr i’w awgrymu nid 19 Y Ro Fawr. · 17 & 18 Cynigion: Roedd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wedi paratoi datganiadau i’r wasg i’w dosbarthu i’w cymeradwyo.
|
Matters arising from the minutes
· 13.1 Jetty update: Cllr. Alun Williams had raised concerns with executives of Ceredigion County Council and a response had been received; a meeting to be arranged. · 14 Decision log: to be the responsibility of the chair/deputy chair to maintain. · 15 Sustrans art project: 1 South Marine Terrace to be suggested not 19 South Marine Terrace. · 17 & 18 Motions: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had prepared press releases to be circulated for approval.
|
|
141 | Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 16 Medi 2023
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion. |
Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 16 September 2024, to confirm accuracy
It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.
|
|
142 | Materion yn codi o’r Cofnodion:
Dim |
Matters arising from the minutes
None
|
|
143 | Ystyried gwariant Mis Awst
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
Nodwyd nad oedd y rhai oedd yn ymuno â’r cyfarfod o bell yn gallu adolygu’r anfonebau, a oedd yn cael eu dosbarthu’n bersonol yn unig. Yn unol â hynny, ymataliodd y Cyng. Bryony Davies, Dylan Lewis-Rowlands a Mari Turner rhag pleidleisio. |
To consider August expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
It was noted that those joining the meeting remotely were unable to review the invoices, which were only circulated in person. Accordingly, Cllrs. Bryony Davies, Dylan Lewis-Rowlands and Mari Turner abstained from voting.
|
|
144 | Ystyried gwariant Mis Medi
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.
Nodwyd nad oedd y rhai oedd yn ymuno â’r cyfarfod o bell yn gallu adolygu’r anfonebau, a oedd yn cael eu dosbarthu’n bersonol yn unig. Yn unol â hynny, ymataliodd y Cyng. Bryony Davies, Dylan Lewis-Rowlands a Mari Turner rhag pleidleisio. |
To consider September expenditure
It was RESOLVED to approve the expenditure.
It was noted that those joining the meeting remotely were unable to review the invoices, which were only circulated in person. Accordingly, Cllrs. Bryony Davies, Dylan Lewis-Rowlands and Mari Turner abstained from voting.
|
|
145 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Gorffennaf
PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r cyfrifon. |
To approve July accounts
It was RESOLVED to approve the Accounts.
|
|
146 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Awst
PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r cyfrifon. |
To approve August accounts
It was RESOLVED to approve the Accounts.
|
|
147 | Adroddiad blynyddol 2023-24
Roedd adroddiad blynyddol drafft wedi ei baratoi gan y Clerc. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad gan ychwanegu adran ar gynigion a gweithredoedd gwleidyddol y flwyddyn. Byddai unrhyw sylwadau pellach yn cael eu hanfon at y Clerc erbyn dydd Iau 26 Medi.
Diolchwyd i’r Clerc am ei waith. |
Annual report 2023-24
A draft annual report had been prepared by the Clerk. It was RESOLVED to approve the report with the addition of a section on the year’s motions and political actions. Any further comments would be sent to the Clerk by Thursday 26 September.
The Clerk was thanked for his work.
|
|
148 | Toiledau cyhoeddus
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r ffordd ymlaen a awgrymwyd gan swyddogion o: · Derbyn trosglwyddiad ased llawn ar gyfer toiledau’r castell a Choedlan y Parc yn 2025-26, gan gynnwys hyn yng nghyllideb y flwyddyn honno, ar yr amod bod Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i weithredu toiledau’r harbwr a’r lloches. · Negodi Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Sir Ceredigion i’r Cyngor Tref ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gweithredu toiledau’r harbwr a’r lloches o 2026-27. Byddai angen trafodaeth bellach ar reolaeth y ddau doiled sy’n cael eu trosglwyddo yn 2025-26, i gynnwys ystyried a ddylid cadw’r taliadau mynediad ai peidio. I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid.
Gadawodd y Cyng. Gwion Jones y cyfarfod. |
Public toilets
It was RESOLVED to approve officers’ suggested way forward of: · Accepting a full asset transfer for the castle and Park Avenue toilets in 2025-26, factoring this into that year’s budget, on the condition that Ceredigion County Council maintain operation of the harbour and shelter toilets. · To negotiate a Service Level Agreement (SLA) with Ceredigion County Council for the Town Council to provide financial support for the operation of the harbour and shelter toilets from 2026-27.
Further discussion would be needed on the management of the two toilets being transferred in 2025-26, to includeconsideration on whether or not to retain the entry charges. To be discussed by Finance Committee.
Cllr. Gwion Jones left the meeting.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
149 | Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth
Nid oedd ymateb drafft wedi’i baratoi eto. PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod arbennig ddydd Llun 7 Hydref, cyn y Pwyllgor Cynllunio, i ddarparu ymateb. Byddai’r Cyng. Kerry Ferguson a Dylan Lewis-Rowlands yn paratoi ymateb drafft.
Gadawodd y Cyng. Carl Worrall y cyfarfod.
|
Ceredigion County Council consultation: Aberystwyth coastal defence scheme
A draft response had not yet been prepared. It was RESOLVED to hold an extraordinary meeting on Monday 7 October, ahead of the Planning Committee, to provide a response. Cllrs. Kerry Ferguson and Dylan Lewis-Rowlands would prepare a draft response.
Cllr. Carl Worrall left the meeting.
|
Cyfarfod Arbennig
Extraordinary Meeting |
150 | Geiriad placiau: Iris de Freitas a Cranogwen
Dosbarthwyd geiriad drafft a baratowyd gan y Cyng Dylan Lewis-Rowlands. PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnwys y geiriad, gyda Carol Thomas yn adolygu’r iaith a darparu geiriad gramadegol gywir. |
Plaques wording: Iris de Freitas & Cranogwen
Draft wordings prepared by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands were circulated. It was RESOLVED to approve the content of the wordings, with Carol Thomas to review the language and provide a grammatically correct wording.
|
|
151 | Cadeiriau swyddfa ac asesiad offer sgrin arddangos
Roedd hunanasesiadau offer sgrin arddangos wedi’u darparu ar gyfer yr holl staff. PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant amcangyfrifedig o £130 y gadair i brynu chwe chadair swyddfa. |
Office chairs & display screen equipment assessment
Display screen equipment self-assessments had been provided for all staff. It was RESOLVED to approve estimated expenditure of £130 per chair to purchase six office chairs.
|
|
152 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.
Dim |
Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
None
|
|
PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes a symud eitemau 154 – 156 i’w thrafod yn syth ar ôl eitem 152.
|
It was RESOLVED to amend the order of business and move items 154 – 156 to be discussed immediately after item 152. | ||
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tan 21:05. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 21:05. | ||
153 | Ceisiadau cynllunio
|
Planning applications
|
|
153.1 | A240609: 66 Heol Tyn-y-Fron, Penparcau
DIM GWRTHWYNEBIAD
|
A240609: 66 Heol Tyn-y-Fron, Penparcau
NO OBJECTION
|
|
153.2 | A240611: Carregwen, Ffordd Llanbadarn
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’N GRYF i’r cais am yr un rhesymau ag yn flaenorol: · Mae’r datblygiad arfaethedig yn groes i egwyddorion ardal gadwraeth ac yn arwain at golli adeilad hanesyddol. · Nad yw’r adeiladau newydd arfaethedig yn cydymffurfio a’r ardal. · Tra bod arolwg wedi ei gwblhau, mae’n weledol yn unig ac nid oes unrhyw archwiliadau ymwthiol wedi’u cynnal i gyfiawnhau dymchwel yr adeilad. · Mae’n cynrychioli gorddatblygiad a cholli mannau gwyrdd.
Byddem yn cwestiynu diffiniad o’r adeiladau newydd arfaethedig fel siediau botio oherwydd eu maint. Os caiff ei gymeradwyo, hoffem ofyn am y canlynol: · Gosod ffenestri pren, oherwydd eu lleoliad o fewn ardal gadwraeth. · Dylid defnyddio tarmac athraidd. · Gosod amod yn atal y tai rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau. · Gosod amod yn atal y modurdai a’r siediau potio rhag cael eu defnyddio fel preswylfeydd. |
A240611: Carregwen, Ffordd Llanbadarn
The Town Council STRONGLY OBJECTS to the applications for the same reasons as previously: · The proposed development is against the principles of a conservation area and will result in the loss of a historic building. · The proposed new buildings are not in keeping with the area. · Whilst a survey has been completed, it is visual only and no intrusive inspections have been carried out to justify the building’s demolition. · It represents overdevelopment and loss of green space.
We would question the definition of the proposed new buildings as potting sheds due to their size. If approved, we would like to request the following: · Wooden windows be fitted, due to its location within a conservation area. · Permeable tarmac be used. · A condition be placed preventing the residences being used as holiday accommodation. · A condition be placed preventing the garages and potting sheds from being used as residences.
|
|
153.3 | A240612: Carregwen, Ffordd Llanbadarn
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’N GRYF i’r cais am yr un rhesymau ag yn flaenorol: · Mae’r datblygiad arfaethedig yn groes i egwyddorion ardal gadwraeth ac yn arwain at golli adeilad hanesyddol. · Nad yw’r adeiladau newydd arfaethedig yn cydymffurfio a’r ardal. · Tra bod arolwg wedi ei gwblhau, mae’n weledol yn unig ac nid oes unrhyw archwiliadau ymwthiol wedi’u cynnal i gyfiawnhau dymchwel yr adeilad. · Mae’n cynrychioli gorddatblygiad a cholli mannau gwyrdd.
Byddem yn cwestiynu diffiniad o’r adeiladau newydd arfaethedig fel siediau botio oherwydd eu maint. Os caiff ei gymeradwyo, hoffem ofyn am y canlynol: · Gosod ffenestri pren, oherwydd eu lleoliad o fewn ardal gadwraeth. · Dylid defnyddio tarmac athraidd. · Gosod amod yn atal y tai rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau. Gosod amod yn atal y modurdai a’r siediau potio rhag cael eu defnyddio fel preswylfeydd. |
A240612: Carregwen, Ffordd Llanbadarn
The Town Council STRONGLY OBJECTS to the applications for the same reasons as previously: · The proposed development is against the principles of a conservation area and will result in the loss of a historic building. · The proposed new buildings are not in keeping with the area. · Whilst a survey has been completed, it is visual only and no intrusive inspections have been carried out to justify the building’s demolition. · It represents overdevelopment and loss of green space.
We would question the definition of the proposed new buildings as potting sheds due to its size. If approved, we would like to request the following: · Wooden windows be fitted, due to its location within a conservation area. · Permeable tarmac be used. · A condition be places preventing the residences being used as holiday accommodation. · A condition be placed preventing the garages and potting sheds from being used as residences.
|
|
153.4 | A240640: 1 Stryd y Farchnad
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ond hoffai ofyn i lechi Cymreig a gwteri plwm gael eu defnyddio. |
A240640: 1 Stryd y Farchnad
The Town Council has NO OBJECTION but would like to request that Welsh slate and lead guttering be used.
|
|
153.5 | A240298: Clwb y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad
Mae’r Cyngor Tref yn gwerthfawrogi bod llawer o’i sylwadau blaenorol wedi’u cymryd i ystyriaeth, fodd bynnag mae’n rhaid GWRTHWYNEBU oherwydd diffyg dimensiynau ystafelloedd.
|
A240298: Royal Naval Club, 3 Stryd y Farchnad
The Town Council appreciates that many of its previous comments have been taken into account, however must still OBJECT due to the lack of room dimensions.
|
|
153.6 | A240299: Clwb y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad
Mae’r Cyngor Tref yn gwerthfawrogi bod llawer o’i sylwadau blaenorol wedi’u cymryd i ystyriaeth, fodd bynnag mae’n rhaid GWRTHWYNEBU oherwydd diffyg dimensiynau ystafelloedd.
|
A240299: Royal Naval Club, 3 Stryd y Farchnad
The Town Council appreciates that many of its previous comments have been taken into account, however must still OBJECT due to the lack of room dimensions.
|
|
153.7 | A240661: 44 Ffordd y Môr
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ond hoffai gael amod yn atal yr eiddo rhag cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau. Dylid ystyried diogelwch tân, o ystyried bod y llwybr dianc yn mynd heibio i’r gegin. |
A240661: 44 Ffordd y Môr
The Town Council has NO OBJECTION but would like a condition placed preventing the property from being used as holiday accommodation. Consideration should be given to fire safety, given the escape route passes by the kitchen.
|
|
153.8 | A240662: 44 Ffordd y Môr
Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’N GRYF oherwydd diffyg dyluniadau ar gyfer blaen y siop bwriedig a’r ffryntiad presennol ddim yn cydweddu ag eraill yn yr ardal.
Rhaid i unrhyw gynigion ddilyn y canllawiau cynllunio atodol ar flaen siopau yn Aberystwyth. Dylai unrhyw arwyddion fod yn ddwyieithog, gyda’r Gymraeg wedi’i blaenoriaethu a gyda llythyrau uwch.
Blaen siopau yn gyffredinol i’w trafod gan y Pwyllgor Cynllunio. |
A240662: 44 Ffordd y Môr
The Town Council STRONGLY OBJECTS due to the lack of designs for the proposed shop frontage and the current frontage not being in keeping with others in the area.
Any proposals must follow the supplementary planning guidance on shop fronts in Aberystwyth. Any signage should be bilingual, with Welsh prioritised and with raised lettering.
Shop frontages in general to be discussed by Planning Committee.
|
Agenda Cynllunio
Planning Agenda |
154 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol
Dim |
WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
None
|
|
155 | Cynnig: Llysgennad heddwch (Cyng. Lucy Huws a Dylan Lewis-Rowlands)
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig. Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol i ystyried gweithredu |
Motion: Peace ambassador (Cllrs. Lucy Huws & Dylan Lewis-Rowlands)
It was RESOLVED to approve the motion. General Management Committee to consider implementation.
|
Agenda RhC
GM Agenda |
156 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
156.1 | Datblygiadau Cyngor Sir Ceredigion i bromenâd y De: Cynnig cyfarfod â’r contractwyr i ddysgu am y datblygiadau ddydd Iau 3 Hydref am 9yb. | Ceredigion County Council developments to South promenade: Offer to meet with the contractors to learn about the developments on Thursday 3 October at 9am. | |
156.2 | Ymgynghoriad: Newidiadau arfaethedig i orchymyn lleoedd parcio oddi ar y stryd Cyngor Sir Ceredigion: I’w drafod mewn cyfarfod arbennig ddydd Llun 7 Hydref 2024. | Consultation: Proposed changes to the Ceredigion County Council off street parking places order: To be discussed at extraordinary meeting on Monday 7 October 2024. | Cyfarfod Arbennig
Extraordinary Meeting |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker St
Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk www.aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
18.9.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar Nos Lun 23 Medi 2024 am 18:30.
You are summoned to attend the a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and in the Council Chamber, 11 Baker Street, on Monday, 23 September 2024 at 18:30.
Agenda
|
||
122 | Presennol | Present |
123 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies & absences |
124 | Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda | Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda |
125 | Cyfeiriadau Personol | Personal References |
126 | Adroddiad ar Weithgareddau’r Maer | Mayoral Activity Report |
127 | Diweddariadau gan y Clerc | Updates from Clerk |
128 | Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau | Updates from Facilities & Assets Manager |
129 | Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau | Updates from Events & Partnerships Officer |
130 | Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG | VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council |
131 | Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 22 Gorffennaf 2024 i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday, 22 July 2024 to confirm accuracy |
132 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
133 | Cofnodion o Gyfarfod Arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 12 Awst 2024 i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 12 August 2024 to confirm accuracy |
134 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
135 | Cofnodion o Gyfarfod Arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 2 Medi 2024 i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Extraordinary Meeting of Full Council held on Monday, 2 September 2024 to confirm accuracy |
136 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
137 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd nos Lun 2 Medi 2024, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 2 September 2024, to confirm accuracy |
138 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
139 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd nos Lun 9 Medi 2024, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 9 September 2024, to confirm accuracy |
140 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
141 | Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd nos Lun 16 Medi 2024, i gadarnhau cywirdeb | Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 16 September 2024, to confirm accuracy |
142 | Materion yn codi o’r Cofnodion | Matters arising from the minutes |
143 | Cymeradwyo gwariant Mis Awst | To approve August expediture |
144 | Cymeradwyo gwariant Mis Medi | To approve September expediture |
145 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Gorffennaf | To approve July accounts |
146 | Cymeradwyo cyfrifon Mis Awst | To approve August accounts |
147 | Adroddiad blynyddol 2023-24 | Annual report 2023-24 |
148 | Toiledau cyhoeddus | Public toilets |
149 | Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth | Ceredigion County Council consultation: Aberystwyth coastal defence scheme |
150 | Geiriad placiau: Iris de Freitas a Cranogwen | Plaques wording: Iris de Freitas & Cranogwen |
151 | Cadeiriau swyddfa ac asesiad offer sgrin arddangos | Office chairs & display screen equipment assessment |
152 | Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG | Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit |
153 | Ceisiadau cynllunio | Planning applications |
153.1 | A240609: 66 Heol Tyn-y-Fron, Penparcau | A240609: 66 Heol Tyn-y-Fron, Penparcau |
153.2 | A240611: Carregwen, Ffordd Llanbadarn | A240611: Carregwen, Ffordd Llanbadarn |
153.3 | A240612: Carregwen, Ffordd Llanbadarn | A240612: Carregwen, Ffordd Llanbadarn |
153.4 | A240640: 1 Stryd y Farchnad | A240640: 1 Stryd y Farchnad |
153.5 | A240298: Clwb y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad | A240298: Royal Naval Club, 3 Stryd y Farchnad |
153.6 | A240299: Clwb y Llynges Frenhinol, 3 Stryd y Farchnad | A240299: Royal Naval Club, 3 Stryd y Farchnad |
153.7 | A240661: 44 Ffordd y Môr | A240661: 44 Ffordd y Môr |
153.8 | A240662: 44 Ffordd y Môr | A240662: 44 Ffordd y Môr |
154 | Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol | WRITTEN Reports from representatives on outside bodies |
155 | Cynnig: Llysgennad heddwch (Cyng. Lucy Huws a Dylan Lewis-Rowlands) | Motion: Peace ambassador (Cllrs. Lucy Huws & Dylan Lewis-Rowlands) |
156 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details