Full Council

25/03/2024 at 6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cyfarfod y Cyngor Llawn (hybrid)

Meeting of Full Council (hybrid)

 

25.3.2024

 

 

COFNODION / MINUTES

 

280 Yn bresennol:

 

Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Brian Davies

Cyng. Mark Strong

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Mari Turner

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Alun Williams

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Mathew Norman

 

Yn mynychu:

 

Will Rowlands (Clerc dan hyfforddiant)

Carol Thomas (cyfieithydd)

Toby Driver (Comisiwn Brenhinol) (Eitemau 280-285 yn unig)

Beca Davies (Comisiwn Brenhinol) (Eitemau 280-285 yn unig)

 

Present:

 

Cllr. Maldwyn Pryse (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Brian Davies

Cllr. Mark Strong

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Mari Turner

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Alun Williams

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Mathew Norman

 

In attendance:

 

Will Rowlands (Trainee Clerk)

Carol Thomas (Translator)

Toby Driver (Royal Commission) (Items 280-285 only)

Beca Davies (Royal Commission) (Items 280-285 only)

 

 
281 Ymddiheuriadau:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Sienna Lewis-Oldale (absenoldeb estynedig a ganiateir)

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Connor Edwards

 

Apologies:

 

Absent with apologies:

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Sienna Lewis-Oldale (extended leave permitted)

 

Absent without apologies:

Cllr. Connor Edwards

 

 
282 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

301.3. A240163: Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

·         Mae Cyng. Jeff Smith yn cael ei gyflogi gan y Llyfrgell Genedlaethol

301.4. A240165: Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

·         Mae Cyng. Jeff Smith yn cael ei gyflogi gan y Llyfrgell Genedlaethol

298. Gwariant Mawrth:

·         Roedd gan Cyng. Jeff Smith hawliad am gostau i’w dalu

Declaration of Interest on matters arising from the agenda

 

301.3. A240163: National Library of Wales:

·         Cllr. Jeff Smith is employed by the National Library

 

301.4. A240165: National Library of Wales:

·         Cllr. Jeff Smith is employed by the National Library

 

298. March Expenditure:

·         Cllr. Jeff Smith had an outstanding expense claim

 

 
283 Cyfeiriadau Personol

 

·         Diolchwyd i bawb a fu’n ymwneud â ‘Tacluso’r Dref’ a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn 23.3.2024. Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus ac roedd nifer dda yn bresennol, gyda 25-30 yn bresennol.

·         Diolchwyd i’r Cyng. Carl Worrall am ei waith yn trefnu’r cyflwyniad gan y Comisiwn Brenhinol.

 

Personal References

 

·         Thanks were extended to all involved with the ‘Town Tidy’ held on Saturday 23.3.2024. The event was successful and well attended, with 25-30 attendees.

·         Thanks were extended to Cllr. Carl Worrall for his work in arranging the presentation from the Royal Commission.

 
284 Adroddiad y Maer

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. Diolchwyd i’r Maer am ei holl waith.

Mayoral report

 

A written report was circulated via email. The Mayor was thanked for all of her work.

 

 
285 Cloddiad archaeolegol Pendinas – cyflwyniad gan y Comisiwn Brenhinol

 

Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolwyr o’r Comisiwn Brenhinol ar brosiect archeolegol Pendinas. Roedd y prosiect yn gweithio’n agos gyda’r gymuned ym Mhenparcau ac wedi nodi angen am well arwyddion ac ymwybyddiaeth ar gyfer y fryngaer.

 

Awgrymwyd efallai y gallai’r Cyngor Tref ariannu rhai mynegbyst neu arwyddion eraill, ac y byddai hyn yn cael ei ymchwilio ymhellach.

 

Diolchwyd i gynrychiolwyr y Comisiwn Brenhinol am eu hamser a’u gwaith.

Pendinas archaeological dig – presentation by the Royal Commission

 

A presentation was received by representatives from the Royal Commission on the Pendinas archaeological project. The project was working closely with the community in Penparcau and had identified a need for better signage and awareness for the hillfort.

 

It was suggested that perhaps the Town Council could fund some fingerposts or other signage, and this would be investigated further.

 

Representatives from the Royal Commission were thanked for their time and work.

 

 
286 Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 26 Chwefror 2024 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda’r newidiadau a ganlyn:

 

263. Ymgynghoriad AS: Effaith newid cyfyngiadau cyflymder 20mya

·         Ffordd Penglais: newid o 40mya i 20mya yn rhy sydyn; Mae 40mya yn rhy gyflym wrth fynd i lawr yr allt, oherwydd y traffig troed sylweddol o’r brifysgol, yr ysbyty a’r llyfrgell genedlaethol. Byddai 30mya yn fwy addas.

 

Minutes of the Meeting of Full Council held on Monday 26 February 2024 to confirm accuracy.

 

It was RESOLVED to approve the minutes, with the following amendment:

 

263. MS consultation: Effects of the 20mph speed limit changes:

·         Penglais Hill: changes from 40mph to 20mph too suddenly; 40mph is too fast when going downhill, due to the significant foot traffic from the university, hospital & national library. 30mph would be more appropriate.

 

 
287 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

264. Toriadau Llywodraeth Cymru – Llyfrgell Genedlaethol: Roedd llythyr wedi’i anfon ac ar fin cael ei drafod gan Bwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

 

Matters arising from the Minutes:

 

264. Welsh Government cuts – National Library: A letter had been sent and was due to be discussed by the Welsh Government’s Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee.

 

 
288 Cofnodion y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 4 Mawrth 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday 4 March 2024

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 
289 Materion yn codi o’r cofnodion

 

Dim

Matters arising from the minutes

 

None

 

 
290 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 11 Mawrth 2024 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 11 March 2024 to confirm accuracy.

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 
291 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the Minutes:

 

None

 

 
292 Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 11 Mawrth 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion.

Minutes of the General Management Committee held on Monday 11 Mawrth 2024

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 

 
293 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the minutes:

 

None

 

 
294 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 18 Mawrth 2024 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 18 March 2024 to confirm accuracy.

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
295 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

279. Neuadd Gwenfrewi: Cronfa Perchnogaeth Gymunedol: Roedd y Rheolwr Prosiect yn darparu amcangyfrif o gost y gwaith er mwyn gwneud cais gwybodus.

Matters arising from the Minutes:

 

279. Neuadd Gwenfrewi: Community Ownership Fund:

The Project Manager was providing an estimated cost for works in order for an informed application to be made.

 

 
296 Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun 19 Chwefror 2024

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion a’r argymhellion.

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday 19 February 2024

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 
297 Materion yn codi o’r Cofnodion:

 

Dim

Matters arising from the minutes:

 

None

 

 
298 Ystyried gwariant Mis Mawrth

 

Datganwyd diddordeb gan y Cyng. Jeff Smith a gadawodd y siambr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

 

To consider March expenditure

 

Cllr. Jeff Smith declared an interest and left the chamber

 

It was RESOLVED to approve the expenditure

 

 
299 Cymeradwyo cyfrifon Mis Chwefror

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

 

Gyda’r flwyddyn ariannol yn cau, byddai’r Pwyllgor Cyllid yn adolygu gwariant gwirioneddol yn erbyn gwariant a gyllidebwyd.

 

Pleidleisiodd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn erbyn hyn.

 

To approve February accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

With the financial year closing, the Finance Committee would review actual vs budgeted expenditure.

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands voted against this.

 

Agenda Cyllid

Finance Agenda

300 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.

 

·         Roedd Cyngor Cymuned Llanbadarn wedi derbyn arian i osod arwyddion hanesyddol ar draws y pentref; byddid yn ymchwilio i weld a allai’r Cyngor Tref wneud yr un peth.

·         Codwyd cwestiynau ynglŷn â defnydd adeilad banc Barclays yn y dyfodol, ac a allai’r Cyngor Tref wneud unrhyw ddefnydd ohono. I’w drafod ymhellach gan y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.

 

Gadawodd y Cyng. Owain Hughes y cyfarfod

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

·         Llanbadarn Community Council had received funding to install historic signs throughout the village; it would be investigated if the Town Council could do te same.

·         Questions were raised over the future use of the Barclays bank buidling, and whether the Town Council could make any use of it. To be discussed further by the General Management Committee.

 

Cllr. Owain Hughes left the meeting

 

 
301 Ceisiadau cynllunio

 

Planning applications

 

 
301.1 A240144: Kestrel Cottage, Felin Y Mor

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ac mae’n falch o weld y ddarpariaeth o flychau adar; gydag ystyriaethau ecolegol o’r fath, byddai’n dda gweld ystyriaeth i baneli solar hefyd.

 

Dylid gosod amod i atal ei ddefnyddio fel llety gwyliau.

A240144: Kestrel Cottage, Felin Y Mor

 

The Town Council has NO OBJECTION and is pleased to see the provision of bird boxes; with such ecological considerations, it would be good to see consideration for solar panels also.

 

A condition should be placed to prevent it being used as holiday accommodation.

 

Ymateb

Respond

301.2 A240170: 11-13 Rhoddfa’r Gogledd

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref cyn belled a bod y fflatiau yn rhai preswyl; dylid gosod amod i’w hatal rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau. Dylid ystyried mynediad trigolion i’r storfa wastraff yn yr iard gefn, a sicrhau nad yw’r datblygiad yn effeithio’n negyddol ar hyfywedd masnachol y gofod siop ar y llawr gwaelod.

A240170: 11-13 Rhoddfa’r Gogledd

 

The Town Council has NO OBJECTION so long as the flats are residential; a condition should be placed to prevent them being used as holiday accommodation. Consideration should be given to residents’ access to the waste storage in the rear yard, and to ensuring that development does not negatively impact the commercial viability of the ground floor shop space.

 

Ymateb

Respond

301.3 A240163: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ac mae’n croesawu’r ymdrechion i fod yn garbon niwtral.

A240163: National Library of Wales

 

The Town Council has NO OBJECTION and welcomes the efforts towards carbon neutrality.

 

Ymateb

Respond

301.4 A240165: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A240165: National Library of Wales

 

NO OBJECTION

 

Ymateb

Respond

302 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dosbarthwyd adroddiad gan Cyng. Jeff Smith ar Gymdeithas Teithwyr Rheilffordd Amwythig Aberystwyth (SARPA).

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

A report from Cllr. Jeff Smith on the Shrewsbury Aberystwyth Rail Passengers Association (SARPA) was circulated.

 

 
303 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng. Alun Williams

·         Roedd Cyngor Sir Ceredigion mewn trafodaethau gyda pherchnogion y Belle Vue Royal Hotel er mwyn dod â’r adeilad yn ôl i ddefnydd. Roedd cynlluniau wedi’u cynhyrchu ond nid oeddent yn bodloni gofynion cynllunio ac adeilad rhestredig CADW, felly roedd angen trafodaeth bellach.

·         Roedd gwaith atgyweirio ar y jeti pren ar bromenâd y De, ger yr harbwr, yn mynd yn ei flaen.

Cyng. Carl Worrall

·         Yn dilyn cyflwyniad y Comisiwn Brenhinol, roedd ymweliad safle ar gyfer Cynghorwyr yn cael ei drefnu.

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

Cllr. Alun Williams

·         Ceredigion County Council was in discussions with the owners of the Belle Vue Royal Hotel in order to bring the building back into use. Plans had been produced but did not meet planning and CADW listed building requirements, so further negotiation was needed.

·         Repair works to the wooden jetty on the South promenade, near the harbour, were going ahead.

 

Cllr. Carl Worrall

·         Following the Royal Commission’s presentation, a site visit for Councillors was being arranged.

 

 

 

 

304 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad

 

Cynhaliwyd ymweliad safle ar gyfer Cynghorwyr ar 20.3.2024, ond ychydig iawn oedd yn gallu mynychu, felly roedd fideo o’r cynnydd wedi’i recordio.

 

Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment

 

A site visit for Councillors was held on 20.3.2024, however very few were able to attend, so a video of progess had been recorded.

 

 
305 Brandio tref (Cyngor Sir Ceredigion)

 

Dosbarthwyd canllaw brandio tref a gomisiynwyd gan Gyngor Sir Ceredigion. PENDERFYNWYD gwrthwynebu’n gryf y lliwiau a ddefnyddir ar gyfer Aberystwyth (coch a phinc); mae gan Aberystwyth frand a lliwiau sefydledig eisoes (glas ac aur), a byddai’n wrthgynhyrchiol newid hyn.

 

Nid oedd cymaint o wrthwynebiad i eiriad hunaniaeth Aberystwyth, ond byddai angen ei ddiwygio, mewn cydweithrediad â’r Cyngor Tref.

 

Byddai ymateb yn cael ei anfon yn amlinellu siom y Cyngor Tref ac na fyddai’n defnyddio’r brandio fel y’i darparwyd yn ei gyflwr presennol.

 

Town branding (Ceredigion County Council)

 

A town branding guide commissioned by Ceredigion County Council was circulated. It was RESOLVED to strongly object to the colours used for Aberystwyth (red & pink); Aberystwyth already has an established brand and colours (blue & gold), and it would be counter-productive to change this.

 

The wording of Aberystwyth’s identity was less strongly opposed, but would need to be revised, in collaboration with the Town Council.

 

A response would be sent, outlining the Town Council’s disappointment and that it would not use the branding as provided in its current state.

 

 
306 Gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer eitem 307

 

PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer yr eitem hon, oherwydd natur gyfrinachol y busnes a drafodwyd.

 

To exclude the press and public for item 307

 

It was RESOLVED to exclude the press and public for this item, due to the confidential nature of business discussed.

 

 
307 Eitem gaeedig: Staffio

 

Yn dilyn cyfweliadau ar 22.3.2024, PENDERFYNWYD yn unfrydol penodi Clerc y Dref newydd, Will Rowlands.

 

PENDERFYNWYD yn unfrydol i gyflogi cymhorthydd amgylcheddol y Cyngor Tref yn uniongyrchol yn hytrach na thrwy asiantaeth gyflogi fel yn bresennol. Roedd hyn yn cynrychioli arbediad o tua £5,000 y flwyddyn mewn ffioedd asiantaeth a byddai’n cynnig buddion i’r gweithiwr trwy bensiwn, gwyliau blynyddol ayyb.

Closed item: Staffing

 

Following interviews on 22.3.2024, it was unanimously RESOLVED to appoint a new Town Clerk, Will Rowlands.

 

It was unanimously RESOLVED to employ the Town Council’s environmental assistant directly, rather than through an employment agency as present. This represented a saving of around £5,000 p.a. in agency fees and would offer benefits to the employee through pension, annual leave etc.

 

 
308 Gohebiaeth Correspondence

 

 
  Adolygiad Cymunedau Ceredigion: Roedd Ffiniau Cymru yn cynnal adolygiad o drefniadau a ffiniau cymunedol yng Ngheredigion. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol, er ei bod yn dda gweld awgrymiadau blaenorol y Cyngor Tref wedi eu cymryd i ystyriaeth a’u canmol. Ceredigion Communities Review: Boundaries Wales were conducting a review of community arrangements and boundaries in Ceredigion. To be discussed by General Management Committee, although it was good to see the Town Council’s previous suggestions had been taken into account and credited. Agenda RhC

GM Agenda

  Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol). Byddai Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn drafftio ymateb, i’w gytuno gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Welsh Government Consultation: Consultation was open on the Senedd Cymru (Electoral Candidates Lists) Bill. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would draft a response, to be agreed by the General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

  Cyngerdd Elusennol y Maer: Cyngerdd yn cael ei gynnal ar 26.4.2024 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth i godi arian at Elusen y Maer, Hafan Y Waun. Mayor’s Charity Concert: Concert being held on 26.4.2024 at Aberystwyth Arts Centre to raise funds for the Mayor’s Charity, Hafan Y Waun.  
  Ffeiriau Hwyl Studt – Olwyn Arsylwi: Roedd rhagor o wybodaeth wedi dod i law a byddai’n cael ei drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Studt’s Funfairs – Observation Wheel: Further information had been received and would be discussed by the General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

 

Agenda:

 

       Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

11 Stryd y Popty / Baker St

Aberystwyth

SY23 2BJ

                             council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson

 

20.3.2024

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn y Siambr ar Nos Lun 25 Mawrth 2024 am 6.30 pm.

 

You are summoned to attend a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and in the Chamber on Monday, 25 March 2024 at 6.30 pm.

 

Agenda

 

280 Presennol

 

Present
281 Ymddiheuriadau

 

Apologies
282 Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda

 

Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda
283 Cyfeiriadau Personol Personal References

 

284 Adroddiad y Maer

 

Mayoral report
285 Cloddiad archaeolegol Pendinas – cyflwyniad gan y Comisiwn Brenhinol Pendinas archaeological dig – presentation by Royal Commission

 

286 Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 26 Chwefror 2024 i gadarnhau cywirdeb

 

Minutes of the meeting of Full Council held on Monday, 26 February 2024 to confirm accuracy
287 Materion yn codi o’r cofnodion

 

Matters arising from the minutes
288 Cofnodion o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun, 4 Mawrth 2024

 

Minutes of the Planning Committee held on Monday 4 March 2024

 

289 Materion yn codi o’r cofnodion

 

Matters arising from the minutes

 

290 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 11 Mawrth 2024

 

Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 11 March 2024

 

291 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes

 

292 Cofnodion o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 12 Chwefror 2024

 

Minutes of the General Management Committee held on Monday 12 February 2024
293 Materion yn codi o’r cofnodion

 

Matters arising from the minutes

 

294 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 18 Mawrth 2024

 

Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 18 March 2024

 

295 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes

 

296 Cofnodion o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau a gynhaliwyd ar nos Lun, 18 Mawrth 2024

 

Minutes of the Finance & Establishments Committee held on Monday 18 March 2024
297 Materion yn codi o’r cofnodion

 

Matters arising from the minutes
298 Ystyried gwariant Mis Mawrth

 

To consider March expenditure

 

299 Cymeradwyo cyfrifon Mis Chwefror To approve February accounts

 

300 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
301 Planning Applications Ceisiadau Cynllunio

 

301.1 A240144: Kestrel Cottage, Felin Y Mor A240144: Kestrel Cottage, Felin Y Mor

 

301.2 A240170: 11-13 Rhoddfa’r Gogledd A240170: 11-13 Rhoddfa’r Gogledd

 

301.3 A240163: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

A240163: National Library of Wales
301.4 A240165: Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

A240165: National Library of Wales
302 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies
303 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
304 Neuadd Gwenfrewi – adnewyddiad Tŷ’r Offeiriad

 

Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment

 

305 Brandio tref (Cyngor Sir Ceredigion) Town branding (Ceredigion County Council)

 

306 Gwahardd y wasg a’r cyhoedd ar gyfer eitem 307

 

To exclude the press and public for item 307

 

307 Eitem gaeedig: Staffio Closed item: Staffing

 

308 Gohebiaeth Correspondence

 

 

Gweneira Raw-Rees

Clerc Cyngor Tref Aberystwyth / Aberystwyth Town Council Clerk

…………………………………………

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details