Full Council

25/01/2021 at 6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref     ABERYSTWYTH   Town Council

 

 

Cyfarfod o’r Cyngor Llawn (o bell oherwydd Covid19)

Meeting of Full Council (remote due to Covid19)

 

25.1.2021

 

 

COFNODION – MINUTES

 

198 Yn bresennol:

 

Cyng. Charlie Kingsbury (Cadeirydd)

Cyng. Alun Williams

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Mark Strong

Cyng. Mari Turner

Cyng. Alex Mangold

Cyng. Dylan Wilson-Lewis

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Steve Davies

Cyng. Brendan Somers

 

Yn mynychu:

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Huw Davies – Swyddfa Ystadegau Gwladol

Present:

 

Cllr. Charlie Kingsbury (Chair)

Cllr. Alun Williams

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Mark Strong

Cllr. Mari Turner

Cllr. Alex Mangold

Cllr. Dylan Wilson-Lewis

Cllr. Sue Jones-Davies

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Steve Davies

Cllr. Brendan Somers

 

In attendance:

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Huw Davies – Office for National Statistics

 

199 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Nia Edwards-Behi

Cyng. Claudine Young

Cyng. David Lees

Cyng. Mair Benjamin

 

Apologies:

 

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Claudine Young

Cllr. David Lees

Cllr. Mair Benjamin

 

 

 

200 Datgan diddordeb:

 

  • 213: Y Cynghorwyr Mark Strong ac Endaf Edwards (rhagfarnllyd); Y Cynghorydd Talat Chaudhri (personol)

 

  • 207: Cyng Endaf Edwards

 

Declaration of interest:

 

  • 213: Cllrs Mark Strong and Endaf Edwards (prejudicial); Cllr Talat Chaudhri (personal)

 

  • 207: Cllr Endaf Edwards

 

 

 

201 Cyfrifiad 2021

 

Rhoddodd Huw Davies, Rheolwr Ymgysylltu â’r Cyfrifiad, drosolwg o weithgareddau ymgysylltu ac yn benodol y nod i ymgysylltu â grwpiau na fyddai o bosibl yn gallu cyrchu’r dechnoleg sydd ei hangen i ymateb ar-lein. Gofynnodd am gymorth y Cyngor i hysbysu’r gymuned. Byddai pob cartref yn derbyn cod unigryw a chanolfan gynghori yn cael ei sefydlu. Byddai rhif ffôn rhad ac am ddim i ofyn am holiaduron papur ar gael hefyd.

Census 2021

 

Huw Davies, Census Engagement Manager, provided an overview of engagement activities and in particular the aim to engage with groups who might not have access to the technology needed to respond online. He asked for Council’s help in informing the community. All households would receive a unique code and an advice centre set up. A freephone number to request paper questionnaires would also be available.

 

202 Cyfeiriadau personol: Dim

 

Personal references: None
203 Cofnodion o Gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 14 Rhagfyr 2020 i gadarnhau cywirdeb.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gydag un cywiriad:

 

194: nid oedd y sefyllfa wedi’i datrys eto fel y nodwyd

Minutes of the Meeting of Full Council held Monday 14 December 2020 to confirm accuracy

 

 

It was RESOLVED to approve the minutes with one correction:

 

194: the situation had not been resolved yet as stated.

 

204 Materion yn codi o’r cofnodion:

 

  1. Eglwys Santes Gwenfrewi: cynhaliwyd yr arolwg i asesu’r dirywiad ers 2012 a chostau.

 

Matters arising from the minutes:

 

  1. St Winefride’s Church: the survey had been carried out to assess the deterioration since 2012 and costs.

 

205 Ystyried gwariant Mis Ionawr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant

 

Consider January expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure

 

 

 

206 Ystyried cyfrifon Mis Rhagfyr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cyfrifon

 

Consider December accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts

207 Ceisiadau cynllunio Planning applications
207.1 A201029: 3 Y rhes Cae’r Gôg:

DIM GWRTHWYNEBIAD ond dylid defnyddio deunyddiau traddodiadol a chynaliadwy, yn unol â thai cyfagos

A201029: Cae’r Gôg Terrace:

NO OBJECTION but traditional and sustainable materials, in keeping with neighbouring houses, should be used

Cysylltu gyda’r Adran Gynllunio

Contact the Planning Department

 

207.2 A201049: Spar, Y Stryd Fawr

DIM GWRTHWYNEBIAD ond dylai’r arwydd gyd-fynd â phensaernïaeth yr adeilad, ni ddylid ei oleuo’n fewnol, a dylai fod yn ddwyieithog

A201049: Spar, Great Darkgate St

NO OBJECTION but the sign should be in keeping with the architecture of the building, should not be internally illuminated, and should be bilingual

207.3 A200936: 8 Garth y Môr

Mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU oherwydd:

  • Colli gofod amwynder y tu allan
  • Dim darpariaeth ar gyfer cadw sbwriel
  • Dim darpariaeth ar gyfer cadw beiciau
  • Colli golau naturiol i eiddo cyfagos o dan y rheol 45 gradd

 

A201000: 8 Prospect Street

Council OBJECTS because of:

  • The loss of outside amenity/green space
  • No provision for refuse storage
  • No provision for bikes’ storage
  • The loss of natural light to adjoining properties under the 45 degree rule
207.4 A201075/77: Pentre Gwylie Aberystwyth, Penparcau

Roedd cynghorwyr o’r farn fod angen mwy o wybodaeth ar y cais hwn o’i gymharu gyda’r cais blaenorol yn 2019. Mae gan y Cyngor bryderon gan fod cymaint o’r tir a’r ffordd fynediad ar orlifdir

A201075/77: Aberystwyth Holiday Village, Penparcau

Councillors felt that more information was needed on this application in comparison to the previous application in 2019. The Council has concerns as much of the land and access road is on a flood plain

208 Meysydd Chwarae Playgrounds
208.1 Adolygu agor a chau

PENDERFYNWYD agor Plas Crug yn ystod y tymor tra nad oedd unrhyw addysgu wyneb yn wyneb. Byddai’r Castell yn parhau ar gau a byddai Penparcau yn aros ar agor.

Review closure

It was RESOLVED to open Plas Crug during term time whilst there was no face to face teaching. The Castle would remain closed and Penparcau would remain open.

Trefnu

Organise

208.2 Grant (Cae Bach)

Roedd y Cyngor wedi llwyddo i gael grant LlC hyd at £2200 gan Gyngor Sir Ceredigion ar gyfer gwella maes chwarae Cae Bach, Plas Crug. Byddai ffordd / llwybr cul a lliwgar yn cael ei beintio ar y tarmac i alluogi mwy o opsiynau chwarae ac i fywiogi’r parc

Grant (Cae Bach)

The Council had been successful in getting a WG grant of up to £2200 from Ceredigion County Council for improvements to Cae Bach playground, Plas Crug.  A narrow and colourful roadway/path would be painted on the tarmac to enable more play options and to brighten the park.

Trefnu

Organise

208.3 Cais am osod Byrddau Cyfathrebu

PENDERFYNWYD caniatáu i’r byrddau gael eu gosod ar feysydd chwarae Penparcau a’r Castell

Communication Boards placement request

It was RESOLVED to allow the boards to be placed in the Penparcau and Castle playgrounds

Trefnu

Organise

209 Blodau

Trafodwyd gwahanol agweddau ond oherwydd cyfyngiadau amser byddai’n cael ei drafod ymhellach yn y cyfarfod nesaf.

PENDERFYNWYD atal Rheolau Sefydlog i ganiatáu trafod eitemau 210 i 216 ar yr agenda. Byddai’r holl eitemau eraill yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.

Flowers

Various aspects were discussed but because of time constraints it would be discussed further at the next meeting.

It was RESOLVED to suspend Standing Orders to allow discussion of agenda items 210 to 216. All other items would be discussed at the next meeting.

210 Parc Ffordd y Gogledd: Cronfa Her Lleoedd Natur Lleol 2021-22

Adroddodd y Clerc, yn dilyn cyfarfod â Chyngor Sir Ceredigion, fod posibilrwydd da o gael grant cyfalaf sylweddol i gyflawni’r gwaith gwella y cytunwyd arno yn y parc. PENDERFYNWYD y dylai barhau i ddatblygu’r cais

North Road Park: Local Places for Nature Challenge Fund 2021-22

The Clerk, following a meeting with Ceredigion County Council, reported that there was a good possibility of getting a substantial capital grant to carry out the agreed improvement works in the park.  It was RESOLVED that she should continue to develop the bid

 

Trefnu

Organise

211 Cynnig: Hamperi i wardiau Bronglais

(Cyng. Lucy Huws)

 

PENDERFYNWYD gefnogi’r cynnig canlynol:

Cynigir fod y Cyngor yn defnyddio rhan o’r arian a glustnodwyd gan y Cyngor fel Cronfa Argyfwng Covid i brynu ‘hamper ‘ o fwyd / diod lleol a’u danfon i bob ward ac uned yn yr ysbyty fel rhan o werthfawrogiad Cyngor y Dref i waith diflino y staff. Deallir bod y staff yn flinedig a bod morale yn isel, a byddai gweithred bychan fel hon yn mynegi ein cefnogaeth, yn ogystal a dangos ein dealltwriaeth o aberth y rheng flaen dros y gymuned leol.

 

Motion: Bronglais Ward hampers

(Cllr Lucy Huws

It was RESOLVED to support the following motion:

It is proposed that the Council use some of the fund set aside as the Covid Emergency Fund, to buy hampers of locally produced food and drink, and deliver these to each ward at Bronglais Hospital as a token of the TC appreciation of the tireless work of frontline workers. It is understood that staff are exhausted and that morale is low, and this action, albeit a small gesture, would send a message of our support to them, and  understanding of their sacrifice for the local community.

Trefnu

Organise

212 Cynnig: Bil Argyfwng Hinsawdd ac Ecoleg

(Cyng. Sue Jones-Davies)

 

PENDERFYNWYD gefnogi’r cynnig canlynol:

 

Mae’r Cyngor yn cefnogi’r Mesur Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol (a gyhoeddir fel y ‘Mesur Hinsawdd ac Ecoleg’) a fydd yn mynd gerbron y Senedd ac yn ôl hyn y mae’n rhaid i’r Llywodraeth ddatblygu strategaeth frys sy’n:

  1. gwneud yn ofynnol i’r DU chwarae ei rôl deg a phriodol o ran lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gyson â chyfyngu ar gynnydd yn y tymheredd byd-eang i 1.5°C uwchlaw tymereddau cyn-ddiwydiannol;
  2. sicrhau bod holl allyriadau defnydd y DU yn cael eu cyfrif;
  3. cynnwys allyriadau o awyrennau a llongau;
  4. diogelu ac adfer cynefinoedd bioamrywiol ar hyd cadwyni cyflenwi o dramor;
  5. adfer ac yn adfywio priddoedd, cynefinoedd bywyd gwyllt a phoblogaethau rhywogaethau’r DU i wladwriaethau iach a chadarn, gan fanteisio i’r eithaf ar eu gallu i amsugno CO2 a’u gwrthwynebiad i wresogi’r hinsawdd;
  6. sefydlu Cynulliad Dinasyddion annibynnol, sy’n cynrychioli poblogaeth y DU, i ymgysylltu â Senedd a Llywodraeth San Steffan a helpu i ddatblygu’r strategaeth frys.

 

Motion:  Climate & Ecology Emergency Bill

(Cllr Sue Jones-Davies)

 

It was RESOLVED to support the following motion:

Council supports the Climate and Ecological Emergency Bill. (published as the ‘Climate and Ecology Bill’) that is going before Parliament and according to which the Government must develop an emergency strategy that:

  1. requires that the UK plays its fair and proper role in reducing greenhouse gas emissions consistent with limiting global temperature increase to 1.5 degrees C above pre-industrial temperatures;
  2. ensures that all the UK’s consumption emissions are accounted for;
  3. includes emissions from aviation and shipping;
  4. protects and restores biodiverse habitats along overseas supply chains;
  5. restores and regenerates the UK’s depleted soils, wildlife habitats and species populations to healthy and robust states, maximising their capacity to absorb CO2 and their resistance to climate heating;
  6. sets up an independent Citizens’ Assembly, representative of the UK’s population, to engage with Parliament and Government and help develop the emergency strategy.
213 Cynnig: Swyddi Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyng. Sue Jones-Davies)

Ni chymerodd y Cynghorwyr Endaf Edwards a Mark Strong ran yn y drafodaeth.

 

PENDERFYNWYD gefnogi’r cynnig canlynol:

 

Mae Cyngor Tref Aberystwyth eisiau cofrestru ei bryder dwfn a’i siom fod y sefyllfa ariannol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn bygwth swyddi 30 o weithwyr. Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn un o’n Sefydliadau pwysicaf ac mae’n chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo a diogelu ein diwylliant, ein hanes a’n hiaith. Mae’n ennyn parch yn rhyngwladol ac mae ganddo enw da ar draws y byd.

Mae’n anochel y bydd y gostyngiadau hyn mewn staff yn cael effaith negyddol ar y gwasanaethau y mae’r llyfrgell yn eu cynnig ac yn lleihau ei statws ar lwyfan y byd.

 

Rydym yn deall bod cronfeydd wedi’u clustnodi gan Lywodraeth Cymru i helpu’r celfyddydau yn ystod y pandemig hwn a gofynnwn i Lywodraeth Cymru ailedrych ar ei strategaeth ariannu ar gyfer y Sefydliad Cenedlaethol hwn

 

Motion: National Library of Wales staffing

(Cllr Sue Jones-Davies)

Cllrs Endaf Edwards and Mark Strong did not participate in the discussion

 

It was RESOLVED to support the following motion:

 

Aberystwyth Town Council wants to register its deep concern and dismay that the financial situation at the National Library of Wales is threatening the jobs of 30 employees. The National Library is one of our most important Institutions and plays a crucial role in the promotion and safeguarding of our culture, history, and language. It commands respect internationally and has a reputation that spans the globe.

These reductions in staffing will inevitably have a negative effect on the services the library offers and diminish its status on the world stage.

We understand funds have been earmarked by the Welsh Government to help the arts during this pandemic and we ask the Welsh Government to revisit its funding strategy for this National Institution.

 

Ysgrifennu at LlC

Write to WG

214 Cynnig: Plannu coed yn Dan y Coed

(Cyng. Talat Chaudhri)

 

PENDERFYNWYD gefnogi’r cynnig canlynol:

Mae Cyngor Tref Aberystwyth, wedi i lawer o breswylwyr Dan y Coed ysgrifennu llythyrau at gynghorwyr, yn galw am blannu coed ar y tir yng nghanol y stryd, yn galw ar Gyngor Sir Ceredigion i gydweithio â Chyngor Tref Aberystwyth i sicrhau bod hyn yn digwydd cyn gynted ag sy’n bosibl a bod trefniadau’n cael eu gwneud i gynnal a chadw’r tir mewn ffordd gynhaliadwy.

 

Motion: Tree planting at Dan y Coed

(Cllr Talat Chaudhri)

 

It was RESOLVED to support the following motion:

Aberystwyth Town Council, after many residents of Dan-y-Coed wrote letters to councillors calling for trees to be planted on the land in the middle of the street, calls upon Ceredigion County Council to work with Aberystwyth Town Council to ensure that this happens as soon as possible and that arrangements are put in place for the upkeep of the land in a sustainable manner.

 

Gweithredu

Action

215 Cynnig: bwriad Llywodraeth San Steffan i fynd yn ôl ar eu cyfraniad 0.7% tuag at Gymorth Tramor.

(Cyng Lucy Huws):

 

PENDERFYNWYD gefnogi’r cynnig canlynol:

 

Bod Cyngor Tref Aberystwyth yn ysgrifennu fel corff at AS Ben Lake iddo ddefnyddio ei lais i wrthwynebu bwriad llywodraeth Boris Johnson yn San Steffan o fynd yn ôl ar ei gair, a thorri cyfran taliadau Prydain tuag at Ddatblygiad Rhyngwladol  0.7%  o CMB.

Mae’r arian yma yn cael ei wario ar gymorth dyngarol, neu help mewn argyfwng cenedlaethol, yn ogystal a bod yn fuddsoddiad  mewn prosiectau hir-dymor fel brechu plant rhag heintiau, eu galluogi i gael addysg a mynychu ysgolion, helpu cymunedau i weithio ac i godi allan o dlodi, helpu gyda darpariaeth o fwyd yn erbyn newyn a meddygyniaethau.

Yn y cyfnod o bandemic byd-eang mae yn fwy amlwg nag erioed bod yn hanfodol chyd-weithio a gweithredu ar raddfa fyd-eang er mwyn sicrhau tegwch a sicrwydd ein cymunedau ein hunain yn ogystal a rhai yn y gwledydd hynny sy’n derbyn y cymorth . Nid yw neb yn ddiogel nes bod pawb yn ddiogel.

 

Motion: Westminster Government’s intention to go back on the 0.7% contribution towards Foreign Aid. 

(Cllr Lucy Huws)

 

It was RESOLVED to support the following motion:

That Aberystwyth Town Council write as a body to M.P. Ben Lake to oppose Boris Johnson’s Westminster Government’s intention to go back on their commitment of a 0.7% contribution of GDP towards Foreign Aid.

The UK’s foreign aid is spent on humanitarian aid or crisis relief, or in the pursuit of strategic and long-term goals. It is used to vaccinate children from preventable diseases, enabling them to go to school, and to help people work their way out of poverty.The provision of nutrition and medical care are also key goals.

During this world wide covid pandemic, the importance of international cooperation and support is clearer than ever before, and this will serve the well-being and security of our own communities as well as those of the recipient countries. No one is safe until all are safe

 

 

216 Cadarnhau enw newydd ar gyfer datblygiad tai Penparcau.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r enw ‘Cae Dan yr Haidd’

Confirm new name for the Penparcau housing development.

It was RESOLVED to support the name ‘Cae Dan yr Haidd’

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir

Contact CCC

Agenda:

      Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

11 Stryd y Popty / Baker Street

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

1.      aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                      Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Charlie Kingsbury

 

19.1.2021

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gelwir i fynychu Cyfarfod o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ar Nos Lun, 25 Ionawr 2021 am 6.30pm

 

You are summoned to attend a Meeting of FULL COUNCIL to be held remotely on Monday 25 January 2021 at 6.30pm

 

Agenda

 

 

198 Presennol Present

 

199 Ymddiheuriadau Apologies

 

200 Datgan diddordeb Declaration of Interest

 

201 Cyfrifiad 2021(Huw Davies, Rheolwr Ymgysylltu’r Cyfrifiad)

 

Census 2021 (Huw Davies, Census Engagement Manager)
202 Cyfeiriadau personol Personal references

 

203 Cofnodion o Gyfarfod  y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun, 14 Rhagfyr 2020 i gadarnhau cywirdeb

 

Minutes of the Meeting of Full Council held Monday 14 December 2020 to confirm accuracy

 

204 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes

 

205 Ystyried gwariant Mis Ionawr Consider January expenditure

 

206 Ystyried cyfrifon Mis Rhagfyr Consider December accounts

 

207 Ceisiadau cynllunio Planning applications

 

208 Meysydd Chwarae

 

1.      Adolygu agor a chau

2.      Grant (Cae Bach)

3.      Cais am osod Byrddau cyfathrebu

 

Playgrounds:

 

1.      Review closure

2.      Grant (Cae Bach)

3.      Communication boards placement request

 

209 Cynllun Plannu Blodau 2021-22 Flower planting strategy 2021-22

 

210 Parc Ffordd y Gogledd – Cronfa Her Lleoedd Natur Lleol 2021-22 North Road Park – Local Places for Nature Challenge Fund 2021-22

 

211 Cynnig: Hamperi i wardiau Bronglais (Cyng. Lucy Huws) Motion: Bronglais Ward hampers (Cllr Lucy Huws)

 

212 Cynnig: Bil Argyfwng Hinsawdd ac Ecoleg (Cyng. Sue Jones-Davies) Motion:  Climate & Ecology Emergency Bill (Cllr Sue Jones-Davies)

 

213 Cynnig: Swyddi Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Cyng. Sue Jones-Davies)

 

Motion: National Library of Wales staffing (Cllr Sue Jones-Davies)

 

214 Cynnig: Plannu coed yn Dan y Coed (Cyng. Talat Chaudhri)

 

Motion: Tree planting at Dan y Coed (Cllr Talat Chaudhri)
215 Cynnig (Cyng Lucy Huws): bwriad Llywodraeth San Steffan i fynd yn ôl ar eu cyfraniad 0.7% tuag at Gymorth Tramor. Motion (Cllr Lucy Huws): Westminster Government’s intention to go back on the 0.7% contribution towards Foreign Aid.

 

216 Cadarnhau enw datblygiad Penparcau (Cae Dan yr Haidd) Confirm new name for the Penparcau development (Cae Dan yr Haidd)

 

217 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

218 Cwestiynau yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

219 Gohebiaeth Correspondence

 

 

 

 

Gweneira Raw-Rees

Clerc Cyngor Tref  –  Aberystwyth – Town Council Clerk