General Management
01/02/2020 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
General Management Committee
- 2.2020
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd) Cyng. Mari Turner Cyng. Charlie Kingsbury Cyng. Mair Benjamin Cyng. Michael Chappell Cyng. Nia Edwards-Behi Cyng. Sue Jones-Davies Cyng. Lucy Huws Cyng. Brendan Somers Cyng. Mark Strong Cyng. Claudine Young Cyng. Dylan Wilson-Lewis Cyng. David Lees Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams Cyng. Endaf Edwards Gweneira Raw-Rees (Clerk)
|
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair) Cllr. Mari Turner Cllr. Charlie Kingsbury Cllr. Mair Benjamin Cllr. Michael Chappell Cllr. Nia Edwards-Behi Cllr. Sue Jones-Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Brendan Somers Cllr. Mark Strong Cllr. Claudine Young Cllr. Dylan Wilson-Lewis Cllr. David Lees In attendance:
Cllr. Alun Williams Cllr. Endaf Edwards Gweneira Raw-Rees (Clerk)
|
|
2 | Ymddiheuriadau
Cyng. Steve Davies Cyng. Brenda Haines
|
Apologies
Cllr. Steve Davies Cllr. Brenda Haines
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
Dim
|
Declaration of Interest:
None |
|
4 | Cyfeiriadau personol:
Dim |
Personal references:
None
|
|
5 | Meinciau:
|
Benches:
|
|
6 | Meysydd Chwarae:
Derbyniwyd trydydd dyfynbris ar gyfer uwchraddio’r maes chwarae ym Mhenparcau a byddai’r tendrau’n cael eu trafod yn y Pwyllgor Cyllid.
Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i fynediad i bobl anabl o fewn y gwelliannau arfaethedig ac ARGYMHELLWYD y dylai’r Cyngor ddatblygu polisi ffurfiol ar ‘feysydd chwarae cynhwysol’. Byddai hyn yn cael ei gynnwys fel eitem agenda’r Cyngor Llawn |
Playgrounds:
A third quotation for the upgrade of the playground in Penparcau had been received and the tenders would be discussed in the Finance Committee.
Consideration was being given to disability access within the proposed improvements and it was RECOMMENDED that the Council develop a formal ‘inclusive playgrounds’ policy. This would be included as a Full Council agenda item
|
Agenda Cyllid
Finance agenda
Agenda Cyngor Llawn Full Council agenda |
7 | Neuadd y Farchnad
Roedd deiliaid stondinau Neuadd y Farchnad wedi codi rhai problemau gyda chynghorwyr ynghylch opsiynau ar gyfer cynyddu nifer yr ymwelwyr i neuadd y farchnad, megis gwell arwyddion, a pharcio hefyd yn Upper Great Darkgate Street.
Roedd y Cyngor Tref yn y broses o baentio’r arwyddion bys ac ARGYMHELLWYD y dylid anfon llythyr at Gyngor Ceredigion ynghylch diffyg rheolaeth ar y Stryd Fawr Uchaf o ran mynediad i gerbydau a pharcio anghyfreithlon.
Byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn yn cael ei gynnal cyn y Pwyllgor Cyllid am 6.15pm i drafod yr ymateb gwrth Asiaidd i’r firws Corona |
Market Hall
Market Hall stall holders had raised some issues with councillors regarding options for increasing footfall to the market hall, such as improved signage, and also parking in Upper Great Darkgate Street.
The Town Council was in the process of painting the finger posts and it was RECOMMENDED that a letter be sent to Ceredigion Council regarding the lack of management of Upper Great Darkgate Street in terms of vehicle access and illegal parking.
An extraordinary meeting of Full Council would be held prior to the Finance Committee at 6.15pm to discuss the anti Asian reaction to the Corona virus
|
Anfon llythyr at y Cyngor Sir Send letter to CCC
Trefnu cyfarfod arbennig Organise extraordinary meeting
|
8 | Parc Ffordd y Gogledd
Cyflwynwyd adroddiad ar yr ymgynghoriad diweddaraf. Roedd 40 o bobl wedi ymateb gan gynnwys un a oedd yn cynrychioli ymateb grŵp (Aberystwyth Gwyrddach). Roedd y mwyafrif eisiau man gwyrdd bioamrywiol ar gyfer pob oedran. Nid oedd pobl eisiau gwelyau blodau ffurfiol nac offer chwarae. Roedd hyn yn unol â’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr holiadur cyntaf ac yn y gweithdy. Byddai’r Clerc yn coladu’r holl adroddiadau ymgynghori hyd yn hyn.
ARGYMHELLWYD y dylid mabwysiadu canfyddiadau’r ymgynghoriad a gwahodd arbenigwr i ddarparu syniadau dylunio. Dylai’r plannu cynlluniedig o’r clawdd cymysg brodorol a’r coed gael ei wneud cyn gwneud unrhyw newidiadau pellach.
|
North Road Park
A report was presented on the most recent consultation. 40 people had responded including one which represented a group response (Greener Aberystwyth). The majority wanted a biodiverse green space for all ages. People didn’t want formal flower beds or play equipment. This was in keeping with the views expressed in the first questionnaire and in the workshop. The Clerk would collate all the consultation reports to date.
It was RECOMMENDED that the consultation findings be adopted and that an expert be invited to provide design ideas. The scheduled planting of the mixed native hedge and trees should be carried out before any further changes were made.
|
|
9 | Coed stryd
Roedd y goeden ceirios yn Iorwerth Avenue wedi’i phlannu. Roedd y Cynghorydd Alun Williams wedi cynnal ymweliad safle â thrigolion a phwysleisiodd bwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng plannu coed a’r angen am barcio.
Roedd y Cynghorydd Mark Strong wedi cyfarfod â swyddogion Priffyrdd i drafod cynlluniau a lleoliadau posib. Byddai’r swyddogion yn cael eu gwahodd i fynychu cyfarfod o’r Cyngor.
Byddai angen trafod unrhyw gynnydd yn y gyllideb plannu coed, er galluogi cynlluniau plannu coed stryd mwy, yn y Pwyllgor Cyllid
|
Street trees
The cherry in Iorwerth Avenue had been planted. Cllr Alun Williams had held a site visit with residents and stressed the importance of achieving a balance between tree planting and the need for parking.
Cllr Mark Strong had met with Highways officers to discuss possible schemes and locations. The officers would be invited to attend a Council meeting.
Any increase in the tree planting budget to enable larger street tree planting schemes would need to be discussed at the Finance Committee
|
Gwahodd swyddogion yr Adran Briffyrdd Invite Highways officers |
10 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
10.1 | Eglwys Gwenfrewi:
Derbyniwyd ymateb anfoddhaol gan yr Esgobaeth a ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn mynnu bod Adran Cynllunio Ceredigion yn cyhoeddi Gorchymyn Adran 215 ar yr eiddo ac yn gweithredu o dan y ddeddfwriaeth Cartrefi Gwag. Byddai llythyr arall yn mynd at Esgobaeth a Llysgennad y Fatican i’r DU. |
St Winefride’s Church:
An unsatisfactory response had been received from the Diocese and it was RECOMMENDED that the Council demands that Ceredigion Planning Department issue a Section 215 Order on the property and takes action under the Empty Homes legislation. Another letter would go to the Diocese and the Vatican’s Ambassador to the UK.
|
Anfon llythyron
Send letters |
10.2 | Asesiad Seilwaith Gwyrdd Ceredigion
Cyfarfod i’w gynnal ym Mhenmorfa rhwng 1pm-4pm 27.2.2020 a sesiwn galw heibio rhwng 6pm-9pm ar 26.2.2020 |
Ceredigion Green Infrastructure Assessment
A meeting to be held in Penmorfa between 1pm-4pm 27.2.2020 and a drop in session between 6pm-9pm on 26.2.2020
|
|
10.3 | Cyfarfod Blynyddol Tai Wales & West: 11.30am 11.6.2020 yng Nghaerdydd a chynadledda fideo yng Nghastell Newydd Emlyn | Wales & West Housing AGM: 11.30am 11.6.2020 in Caerdydd and video conferencing in Castell Newydd Emlyn
|
Gweithredu
Action |
10.4 | Ap lleol i gefnogi siaradwyr Cymraeg wrth siopa a bwyta allan:
ARGYMHELLWYD y dylid gosod hwn fel eitem ar agenda’r Cyngor Llawn
|
Local app to support Welsh speakers whilst shopping and dining out:
It was RECOMMENDED that this be placed as a Full Council agenda item
|
Agenda Cyngor llawn
Full Council agenda |