General Management
09/09/2024 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
9.9.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd) Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Brian Davies Cyng. Lucy Huws Cyng. Owain Hughes Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Mark Strong Cyng. Jeff Smith Cyng. Alun Williams
Yn mynychu: Cyng. Umer Aslam Will Rowlands (Clerc) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) Sara Beechey (Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau) Carol Thomas (Cyfieithydd) |
Present
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair) Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Brian Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Owain Hughes Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Mark Strong Cllr. Jeff Smith Cllr. Alun Williams
In attendance: Cllr. Umer Aslam Will Rowlands (Clerk) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) Sara Beechey (Market & Events Coordinator) Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Mair Benjamin Cyng. Gwion Jones
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Dim |
Apologies & asbsences
Absent with apologies: Cllr. Mair Benjamin Cllr. Gwion Jones
Absent without apologies: None
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
13. Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth: Mae’r Cyng. Alun Williams yn uwch aelod o Gyngor Sir Ceredigion. |
Declarations of interest:
13. Ceredigion County Council consultation: Aberystwyth coastal defence scheme: Cllr. Alun Williams is a senior member of Ceredigion County Council.
|
|
4 | Cyfeiriadau personol:
Gŵyl ganol yr hydref Tsieineaidd yn cael ei chynnal 29 Medi 3-6pm yn y Llyfrgell Genedlaethol.
|
Personal references:
Chinese mid-Autumn festival being held 29 September 3-6pm at the National Library.
|
|
5 | Gŵyl y Castell
Rhoddwyd diweddariad ar y digwyddiad trwy’r dydd sy’n cael ei gynnal rhwng 10am a 9pm ddydd Sadwrn 14 Medi 2024. Byddai’r digwyddiad yn cynnwys bwyd, diod ac adloniant gan berfformwyr lleol a chenedlaethol, gydag actau lleol yn y diwrnod cyn y prif fandiau gyda’r nos.
Ariannwyd y digwyddiad eleni â grant (UKSPF), a gofynnodd cynghorwyr sut y byddai’r digwyddiad yn gynaliadwy ar gyfer y blynyddoedd i ddod. I’w drafod eto yn y cyfarfod nesaf ar gyfer ôl-drafodaeth ac adborth.
Diolchwyd i’r staff am eu gwaith.
Gadawodd Sara Beechey y cyfarfod. |
Gŵyl y Castell
An update was provided on the all day event being held from 10am to 9pm on Saturday 14 September 2024. The event would feature food, drink and entertainment by local and national performers, with local acts in the day before headline bands in the evening.
The event was grant funded this year (UKSPF), and councillors asked how the event would be sustainable for future years.
To be discussed again at next meeting for debrief and feedback.
Thanks were extended to the staff for their work.
Sara Beechey left the meeting.
|
|
6 | Digwyddiad Calan Gaeaf
Rhoddwyd amlinelliad o gynlluniau ar gyfer digwyddiad Calan Gaeaf i’w gynnal yn Mannau Tyfu Plascrug ddydd Mawrth 29 Hydref 2024, mewn cydweithrediad â Tyfu Aber Grow. Byddai’r digwyddiad yn cynnwys cerfio pwmpenni a gwneud cawl, gan ddefnyddio pwmpenni a dyfwyd yn y Mannau Tyfu a Rhandiroedd Penparcau.
ARGYMHELLWYD symud ymlaen fel y trefnwyd, gydag awgrym ychwanegol o gystadleuaeth cerfio pwmpen a gorymdaith.
|
Halloween event
Outlines of plans for a halloween event to be held at Plascrug Growing Spaces on Tuesday 29 October 2024, in cooperation with Tyfu Aber Grow. The event would involve pumpkin carving and soup making, using pumpkins grown at the Growing Spaces and Penparcau Allotments.
It was RECOMMENDED to proceed as arranged, with an additional suggestion of a pumpkin carving competition and parade.
|
|
7 | Santes Dwynwen 2025
ARGYMHELLWYD cadw trefniadau fel yn y blynyddoedd blaenorol gyda gorymdaith, pypedau, dawnsio samba a thwmpath. Roedd aelod o’r gymuned wedi cysylltu â’r Cyngor Tref gyda diddordeb mewn cynnwys y digwyddiad yn Ŵyl Garu ehangach i’w chynnal o Santes Dwynwen i Ddydd San Ffolant a chytunwyd y dylid cefnogi hyn.
Awgrymwyd cynnwys Bardd y Dref yn y digwyddiad, ac efallai cynnwys digwyddiad barddoniaeth. |
Santes Dwynwen 2025
It was RECOMMENDED to keep arrangements as in previous years with a parade, puppets, samba dancing and a twmpath. A member of the community had approached the Town Council with interest in building the event into a wider Love Festival to run from Santes Dwynwen to St Valentine’s day and it was agreed that this should be supported.
It was suggested to involve the Town Bard in the event, and perhaps include a poetry event.
|
|
8 | Cinio Nadolig yr henoed 2024
ARGYMHELLWYD bwrw ymlaen â’r trefniadau fel y llynedd, gyda’r digwyddiad i’w gynnal yng Nghlwb Pêl-droed Aberystwyth ddydd Mercher 11 Rhagfyr 2024. Anogwyd y cynghorwyr i gyd i fynychu. |
Seniors’ Christmas lunch 2024
It was RECOMMENDED to proceed with arrangements as last year, with the event to be held in Aberystwyth Football Club on Wednesday 11 December 2024. Councillors were all encouraged to attend. |
|
9 | Taith Yosano: Medal i’r Maer
Roedd pryderon ynghylch mynd â’r Gadwyn Faer i Yosano, oherwydd ei gwerth a diffyg yswiriant y tu allan i’r UE. Dosbarthwyd opsiynau ar gyfer medal amgen, a chytunwyd nad oedd angen prynu medal newydd, gan fod crib y gadwyn yn ddatodadwy ac y gellid ei defnyddio ar wahân i’r gadwyn gyfan.
Roedd digwyddiad prisio yn cael ei gynnal i godi arian ar gyfer HAHAV ddydd Gwener 13 Medi; y Clerc i fynychu i gael prisio’r gadwyn. |
Yosano trip: Mayoral medal
There were concerns about taking the Mayoral Chain to Yosano, due to its value and lack of insurance cover outside of the EU. Options for an alternative medal were circulated, and it was agreed that there was no need to purchase a new medal, as the crest of the chain was detachable and could be used separately from the whole chain.
A charity valuation event was being held to raise money for HAHAV on Friday 13 September; the Clerk to attend to have the chain valued.
|
|
10 | Top y Dref: arwyddion
Dosbarthwyd dyluniad drafft ar gyfer arwydd dur galfanedig, yn darllen ‘Hen Dref Aberystwyth’. Byddai arwydd sefydlog yn well na baner dros dro. ARGYMHELLWYD bwrw ymlaen â’r dyluniad drafft, gan ei beintio mewn glas ac aur Aberystwyth ac ymgynghorwyd â busnesau yn yr ardal yn ystod datblygiad y cynnig.
|
Top of Town: signage
A draft design for a galvanised steel sign was circulated, reading ‘Hen Dref Aberystwyth’. A fixed sign was prefered to a temporary banner. It was RECOMMENDED to proceed with the draft design, with it painted in Aberystwyth’s blue & gold and businesses in the area consultated during development of the proposal.
|
|
11 | Seddi mawr glan-y-môr
Amlinellwyd proses newydd ar gyfer caffael slingiau ar gyfer y cadeiriau; yn hytrach na phrynu slingiau drud wedi’u gwneud ymlaen llaw, gellid prynu rholyn o ddeunydd a’i dorri i faint gyda chlwt logo wedi’i wnio arno. ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r broses newydd hon, yn ddibynnol ar adolygu costau gan y Pwyllgor Cyllid.
Roedd defnydd o logo Aberystwyth yn cael ei ffafrio dros arfbais y Cyngor Tref ac ARGYMHELLWYD y dylai’r cadeiriau fod yn felyn, gyda logo Aberystwyth mewn glas. Dyluniadau i’w hystyried cyn eu comisiynu.
|
Giant deckchairs
A new process for procuring slings for the chairs was outlined; rather than purchasing pre-made slings, a roll of material could be purchased and cut to size with a logo patch sewn on. It was RECOMMENDED to approve this new process, dependent on costs being reviewed by the Finance Committtee.
Use of the Aberystwyth logo was favoured over the Town Council’s crest and it was RECOMMENDED that the deckchairs should be yellow, with the Aberystwyth logo in blue. Designs to be considered prior to commission.
|
|
12 | Defnydd gwleidyddol o Siambr y Cyngor
Roedd cwestiynau wedi’u codi ynghylch defnyddio’r Siambr ar gyfer cymorthfeydd pleidiau gwleidyddol. ARGYMHELLWYD bod y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi yn llunio polisi ar gyfer defnydd gwleidyddol o asedau’r cyngor, gan nodi’r pwyntiau a ganlyn: · Mae gwahaniaeth pwysig rhwng cymorthfeydd y Cyngor a chymorthfeydd pleidiau gwleidyddol. · Rhaid i’r Cyngor fel corff fod yn wrthrychol bob amser. · Mae Cyngor Sir Ceredigion yn caniatáu defnyddio eu swyddfeydd ar gyfer cymorthfeydd pleidiau gwleidyddol, ond nid yw’r rhain yn cael eu hysbysebu fel digwyddiadau gwleidyddol. · Rhaid trin pob grŵp yr un fath.
Yn y cyfamser cytunwyd y gellid cynnal cymorthfeydd, ond heb unrhyw ymlyniad gwleidyddol.
Gadawodd y Cyng. Owain Hughes y cyfarfod
|
Political use of the Council Chamber
Queries had been raised over the use of the Chamber for political party surgeries. It was RECOMMENDED that the Standing Orders & Policy Committee devise a policy to cover political use of council assets, while noting the following points: · There is an important distiction between Council surgeries and political party surgeries. · The Council as a body must always be objective. · Ceredigion County Council allows use of their offices for political party surgeries, but these are not advertised as political events. · All groups must be treated the same.
In the meantime it was agreed that surgeries could be held, but without any political attachment.
Cllr. Owain Hughes left the meeting.
|
|
13 | Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth
ARGYMHELLWYD bod y Cyngor Tref yn darparu ymateb ffurfiol i’r ymgynghoriad gan nodi’r pwyntiau a ganlyn: · Mae’r cynllun arfaethedig wedi ystyried llifogydd arfordirol yn unig, a rhaid hefyd ystyried llifogydd afonol. Er eu bod yn ddigwyddiadau ar wahân a gwahanol, mae llifogydd arfordirol ac afonol yn gysylltiedig â’i gilydd a dylid eu hystyried gyda’i gilydd. · Bu diffyg ystyriaeth i’r effaith ddynol; rhaid ystyried yr effeithiau economaidd a thwristiaeth. A oes lle i ddefnyddio’r grwynau/morglawdd arfaethedig ar gyfer unrhyw fudd economaidd, fel sydd wedi’i wneud yn Aberaeron, megis drwy ychwanegu llwybrau cerdded? Dylid ceisio cyllid ar wahân ar gyfer yr agweddau hyn os oes angen. · Gallai’r cynllun arfaethedig gael effaith andwyol ar yr RNLI a’u gallu i weithredu ger yr arfordir. · Mynegwyd pryderon gan nofwyr, yr RNLI a grŵp achub bywyd syrffio y gallai’r morglawdd arfaethedig oddi ar bromenâd y Gogledd greu cerrynt rhwyg, gan wneud yr ardal honno’n anaddas ar gyfer nofio a chwaraeon dŵr eraill. · Mae’r cynllun yn cynnig cael gwared ar ran helaeth o’r jeti pren er mwyn codi proffil y traeth. Dylid ystyried defnyddiau eraill ar gyfer y jeti, yn enwedig gan y bydd llawer o’r deunydd yn dal i fod yn newydd ac mewn cyflwr da. · Byddai cynllun sy’n canolbwyntio mwy ar bobl gyda mwy o gyfleoedd hamdden yn cael ei ffafrio. · Roedd y modelu i gyd wedi’i seilio ar lefelau presennol y môr; dylid ailfodelu’r cynigion hyn yn erbyn lefelau’r môr a ragwelir.
Byddai’r Cyng. Kerry Ferguson a Dylan Lewis-Rowlands yn paratoi ymateb drafft i’w ystyried gan y Cyngor Llawn. Dylid anfon unrhyw sylwadau ychwanegol atynt erbyn dydd Mercher 18 Medi 2024. |
Ceredigion County Council consultation: Aberystwyth coastal defence scheme
It was RECOMMENDED that the Town Council provide a formal response to the consultation, noting the following points: · The proposed scheme has only considered coastal flooding, and must also consider fluvial flooding. Although they are separate and different events, coastal and fluvial flooding are interlinked and should be considered together. · There has been a lack of consideration to the human impact; consideration must be given to the economic and tourism impacts. Is there space to use the proposed groynes/breakwaters for any economic benefit, as has been done in Aberaeron, such as by adding walkways? Separate funding for these aspects should be sought if necessary. · The proposed scheme may have an adverse effect on the RNLI and their ability to operate near the coast. · Concerns have been raised by swimmers, the RNLI and surf lifesaving group that the proposed breakwater off the North promenade could create a rip current, making that area unsuitable for swimming and other water sports. · The scheme proposes removal of a large portion of the timber jetty, in order to raise the profile of the beach. Consideration should be given to alternative uses for the jetty, especially as much of the material will still be new and in good condition. · More people focussed scheme with greater leisure opportunities would be preferred. · Modelling had all been based on current sea levels; these proposals should be remodelled against projected sea levels.
Cllrs. Kerry Ferguson & Dylan Lewis-Rowlands would prepare a draft response for consideration by Full Council. Any additional comments should be sent to them by Wednesday 18 September 2024.
|
|
13.1 | Diweddariad ar y jeti
Roedd gohebiaeth wedi dod i law oddi wrth Gyngor Sir Ceredigion ynghylch y gwaith o adnewyddu’r jeti gan y Cyngor Tref, yn dilyn trafodaeth ar effaith y cynllun amddiffyn yr arfordir arfaethedig. Roedd swyddogion wedi dweud nad oedd unrhyw awdurdodiad wedi’i roi ar gyfer adnewyddu’r jeti, er bod y Cyngor Tref wedi derbyn cyllid grant ac wedi cytuno i brydlesu’r jeti gan Gyngor Sir Ceredigion ei hun. Byddai’r Cyng. Alun Williams yn codi hyn gydag uwch weithredwyr Cyngor Sir Ceredigion. |
Jetty update
Correspondence had been received from Ceredigion County Council regarding the Town Council’s refurbishment of the jetty, following discussion on the impact of the proposed coastal defence scheme. Officers had expressed that no authorisation had been given for the jetty’s refurbishment, despite the Town Council having received grant funding and agreeing to lease the jetty from Ceredigion County Council itself. Cllr. Alun Williams would raise this with senior executives of Ceredigion County Council.
|
|
14 | Log penderfyniadau
ARGYMHELLWYD sefydlu dogfen log penderfyniadau i olrhain penderfyniadau’r Cyngor Llawn a phob Pwyllgor, a’r cynnydd yn erbyn y rhain. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r log hwn ar gyfer y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.
Gadawodd y Cyng. Brian Davies y cyfarfod Gadawodd Carol Thomas y cyfarfod, a pharhaodd yn Saesneg. |
Decision log
It was RECOMMENDED to establish a decision log document to track Full Council & each Committee’s decisions and progress against these. It was RESOLVED to adopt this log for the General Management Committee.
Cllr. Brian Davies left the meeting Carol Thomas left the meeting, which continued in English.
|
|
PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tan 21:30. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting to 21:30. | ||
15 | Prosiect celf Sustrans: lleoliadau posib
ARGYMHELLWYD awgrymu’r canlynol fel lleoliadau posibl ar gyfer gosodiad celf: · Rhif 1 y Ro Fawr · Adeilad trin dŵr ger pont Trefechan · Côr y Castell a ffresgoau o amgylch pwynt y castell · Hen safle golff gwallgof ar ddiwedd y llwybr beicio (ger yr Hen Goleg) |
Sustrans art project: potential locations
It was RECOMMENDED to suggest the following as possible locations for an art installation: · 1 South Marine Terrace · Water treatment building near Trefechan bridge · Côr y Castell & frescoes around castle point · Former crazy golf site at the end of the cycle route (near Old College)
|
|
16 | Geiriad placiau: Iris de Freitas, Cranogwen, Olive Gale
Dosbarthwyd geiriad drafft ar gyfer y plac i Iris de Freitas. Byddai’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn ail-ddrafftio’r geiriad i ddefnyddio iaith fwy modern a rhoi mwy o bwyslais ar ei henw, i’w gymeradwyo gan Neuadd Alexandra cyn gosod. Byddai’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn paratoi geiriad drafft ar gyfer plac i Cranogwen i’w hystyried gan y Cyngor Llawn. |
Plaques wording: Iris de Freitas, Cranogwen, Olive Gale
Draft wording for the plaque to Iris de Freitas was circulated. Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would re-draft the wording to use more modern language and give greater emphasis on her name, to be approved by Alexandra Halls prior to installation.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would prepare draft wording for a plaque to Cranogwen for consideration by Full Council.
|
|
17 | Cynnig: Gofyn i Gyngor Sir Ceredigion gynnal adolygiad a strategaeth barcio lawn ar gyfer tref Aberystwyth (Cyng. Kerry Ferguson)
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cynnig.
Byddai’r Cyng Dylan Lewis-Rowlands yn paratoi datganiad i’r wasg i’w ystyried gan y Cyngor Llawn. |
Motion: Request Ceredigion County Council to carry out a full parking review and strategy for Aberystwyth town (Cllr. Kerry Ferguson)
It was RECOMMENDED to approve the motion.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would prepare a press release for consideration by Full Council.
|
|
18 | Cynnig: Cefnogi ac annog ymdrechion lobïo Cyngor Sir Ceredigion am Fformiwla Ariannu Decach gan y Senedd (Cyng. Kerry Ferguson)
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cynnig.
Byddai’r Cyng Dylan Lewis-Rowlands yn paratoi datganiad i’r wasg i’w ystyried gan y Cyngor Llawn. |
Motion: Support and encourage Ceredigion County Council’s lobbying efforts for a fairer funding formula from the Welsh Government (Cllr. Kerry Ferguson)
It was RECOMMENDED to approve the motion.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would prepare a press release for consideration by Full Council.
|
|
19 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
19.1 | Tîm Maethu Cyngor Sir Ceredigion: Cais am ganiatâd i gynnal sesiwn ymgysylltu y tu allan i’r orsaf drenau. I’w hysbysu bod y Cyngor Tref yn cefnogi eu gwaith a’u hymdrechion, ac nad oes angen caniatâd arnynt. I’w wahodd i gyflwyno i’r Cyngor. | Ceredigion County Council Fostering Team: Request for permission to hold engagement session outside the train station. To be advised that the Town Council support their work and efforts, and that they do not require permission. To be invited to present to Council.
|
|
19.2 | Grantiau Lleoedd Lleol i Natur Ceredigion: Cais am grant wedi’i gyflwyno am arian i adnewyddu coed stryd ar hyd Stryd Portland. | Ceredigion Local Places for Nature grants: Grant application submitted for funding to replace dead street trees along Portland Street. | |
19.3 | Gefeillio Sant Brieuc: Cais gan y pwyllgor gefeillio yn Saint Brieuc i gyfarfod; cyfarfod i’w drefnu gyda chynrychiolwyr penodedig. | Saint Briuec twinning: Request from the twinning committee in Saint Brieuc to meet; meeting to be arranged with allocated representatives. |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
4.9.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar Nos Lun, 9.9.2024 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Council Chamber, 11 Baker Street, on Monday 9.9.2024 at 18:30.
AGENDA
|
||
1 | Presennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Gŵyl y Castell | Gŵyl y Castell |
6 | Digwyddiad Calan Gaeaf | Halloween event |
7 | Santes Dwynwen 2025 | Santes Dwynwen 2025 |
8 | Cinio Nadolig yr henoed 2024 | Seniors’ Christmas lunch 2024 |
9 | Taith Yosano: Medal i’r Maer | Yosano trip: Mayoral medal |
10 | Top y Dref: arwyddion | Top of Town: signage |
11 | Cadeiriau dec mawr | Giant deckchairs |
12 | Defnydd gwleidyddol o Siambr y Cyngor | Political use of the Council Chamber |
13 | Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: Cynllun amddiffyn yr arfordir Aberystwyth | Ceredigion County Council consultation: Aberystwyth coastal defence scheme |
13.1 | Diweddariad ar y jeti | Jetty update |
14 | Log penderfyniadau | Decision log |
15 | Prosiect celf Sustrans: lleoliadau posib | Sustrans art project: potential locations |
16 | Geiriad placiau: Iris de Freitas, Cranogwen, Olive Gale | Plaques wording: Iris de Freitas, Cranogwen, Olive Gale |
17 | Cynnig: Gofyn i Gyngor Sir Ceredigion gynnal adolygiad a strategaeth barcio lawn ar gyfer tref Aberystwyth (Cyng. Kerry Ferguson) | Motion: Request Ceredigion County Council to Carry Out a Full Parking Review and Strategy for Aberystwyth town (Cllr. Kerry Ferguson) |
18 | Cynnig: Cefnogi ac annog ymdrechion lobïo Cyngor Sir Ceredigion am Fformiwla Ariannu Decach gan y Senedd (Cyng. Kerry Ferguson) | Motion: Support and Encourage Ceredigion County Council’s Lobbying Efforts for a Fairer Funding Formula from the Welsh Government (Cllr. Kerry Ferguson) |
19 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details