General Management

09/06/2025 at 6:30 pm

Minutes:

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi

Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi

 

9.6.2025

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd)

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Alun Williams

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng.Brian Davies

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mark Strong (Eitemau 8-17 yn unig)

 

Yn mynychu:

Dr Benjamin Gwalchmai (Prifysgol De Cymru) (Eitemau 1 i 8 yn unig)

Will Rowlands (Clerc)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol)

Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) (Eitemau 1 i 14 yn unig)

Joshua Neill (Cynorthwyydd Amgylcheddol)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair)

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Alun Williams

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Brian Davies

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mark Strong (Items 8-17 only)

 

In attendance:

Dr Benjamin Gwalchmai (University of South Wales) (Items 1 to 8 only)

Will Rowlands (Clerk)

Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer)

Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) (Items 1 to 14 only)

Joshua Neill (Environmental Assistant)

Carol Thomas (Translator)

 
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Absennol gyda ymddiheuriadau:

Dim

 

Absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Umer Aslam

Apologies & absences

 

Absent with apologies:

None

 

Absent without apologies:

Cllr. Umer Aslam

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Roedd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn adnabod Dr Benjamin Gwalchmai yn bersonol.

Declarations of interest:

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands knew Dr Benjamin Gwalchmai personally.

 

 
4 Cyfeiriadau personol:

 

·         Estynnwyd dymuniadau gorau i Steve Williams, Rheolwr Asedau a Chyfleusterau’r Cyngor, oedd yn sâl.

·         Roedd Maer o Kronberg, Christoph Konig, wedi treulio’r penwythnos yn Aberystwyth ar wyliau gyda’i fab ac wedi cwrdd â Cyng. Emlyn Jones.

 

Personal references:

 

·         Best wishes were extended to Steve Williams, the Council’s Assets & Facilities Manager, who was unwell.

·         The Mayor of Kronberg, Christoph Konig, had spent the weekend in Aberystwyth on holiday with his son and had met with Cllr. Emlyn Jones.

 
5 Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2025-26

 

Cafodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands ei enwebu gan y Cyng. Kerry Ferguson, ac ei eilio gan y Cyng. Talat Chaudhri.

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill, a PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn Gadeirydd.

Elect Chair of the General Management Committee for 2025-26

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands was proposed by Cllr. Kerry Ferguson, and seconded by Cllr. Talat Chaudhri.

 

 

There were no other nominations, and it was RESOLVED to elect Cllr. Dylan Lewis-Rowlands as Chair.

 

 
6 Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2025-26

 

Cafodd y Cyng. Kerry Ferguson ei enwebu gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands, ac ei eilio gan y Cyng. Maldwyn Pryse.

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill, a PENDERFYNWYD ethol y Cyng. Kerry Ferguson yn Is-gadeirydd.

 

Elect Vice-Chair of the General Management Committee for 2025-26

 

Cllr. Kerry Ferguson was proposed by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands, and seconded by Cllr. Maldwyn Pryse.

 

There were no other nominations, and it was RESOLVED to elect Cllr. Kerry Ferguson as Vice-Chair.

 

 
7 Cyflwyniad gan Dr Benjamin Gwalchmai, Prifysgol De Cymru, ar gludiant awyrennau môr trydan

 

Estynnwyd croeso cynnes i’r Dr Benjamin Gwalchmai, a roddodd gyflwyniad ar y posibilrwydd o ddatblygu trafnidiaeth awyrennau dŵr trydan ar hyd arfordir Cymru.

 

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn darparu cefnogaeth mewn egwyddor i’r prosiect, gan gydnabod ei botensial arloesol a chyffrous.

 

Diolchwyd i’r Dr Benjamin Gwalchmai am ei amser ac fe adawodd y cyfarfod.

Presentation by Dr Benjamin Gwalchmai, University of South Wales, on electric seaplane transportation

 

A warm welcome was extended to Dr Benjamin Gwalchmai, who gave a presentation on the potential development of electric seaplane transportation along the coast of Wales.

 

It was RECOMMENDED for the Council to provide in principle support for  the project, recognising its innovative and exciting potential.

 

Dr Benjamin Gwalchmai was thanked for his time and left the meeting.

 
8 Lleoliad cyfarfodydd y Cyngor: defnydd o Neuadd Gwenfrewi

 

Trafodwyd y defnydd o Neuadd Gwenfrewi fel lleoliad ar gyfer cyfarfodydd y Cyngor. Nododd yr Aelodau nad oedd yr hen eglwys wedi bod yn addas ar gyfer cyfarfodydd a gynhaliwyd yno o’r blaen, oherwydd yr acwsteg yn ei gwneud hi’n anodd clywed, a’r gofod yn oer oherwydd diffyg gwres canolog gweithredol.

 

Awgrymwyd atebion posibl, megis prynu meicroffonau, a chytunwyd bod angen cynnal cyfarfod o’r grŵp gwaith Neuadd Gwenfrewi i drafod y mater yn fanylach. Y Clerc i bennu dyddiad y cyfarfod.

 

Location of Council meetings: use of Neuadd Gwenfrewi

 

The use of Neuadd Gwenfrewi as a venue for Council meetings was discussed. Members noted that the former church had not been suitable for meetings previous held there, due to the acoustics making it difficult to hear, and the space being cold due to the lack of working heating.

 

Potential solutions were suggested, such as purchasing microphones and it was agreed that a meeting of the Neuadd Gwenfrewi working group was needed to discuss the matter in more detail. The Clerk to set a meeting date.

 

 

 

 

 

Trefnu Cyfarfod/ Arrange a Meeting

9 Glanhau Strydoedd: cyfaint y gwastraff sy’n cael ei gasglu a sgip y castell

 

Rhoddodd y Clerc ddiweddariad. Roedd y sgip a leolwyd ger Tŵr Deheuol y Castell wedi profi’n hanfodol i wasanaeth glanhau strydoedd y Cyngor, gyda dros ddwy dunnell o wastraff wedi’u gwaredu yn ystod mis Ebrill. Roedd hyn yn cyflwyno her ychwanegol o ran sut i waredu’r gwastraff, gan fod gwaredu cyfaint o’r fath yn fasnachol yn profi’n ddrud.

 

 

Cafodd trefniant ei wneud i ganiatáu i’r Cyngor waredu’r gwastraff a gasglwyd yn rhad ac am ddim drwy ei gludo i safle gwastraff Cyngor Sir Ceredigion, er y derbynnir llwythi llawn o faniau yn unig. Roedd staff y Cyngor wedi rhoi cynnig ar y dull hwn o waredu gan ddefnyddio cerbyd newydd y Cyngor, a brofodd yn effeithiol. Os yw’r dull hwn i fod yn un cynaliadwy, bydd angen i’r Cyngor ystyried prynu ei sgip ei hun.

 

Codwyd pryderon eto ynghylch lleoliad y sgip wrth y castell. Awgrymwyd lleoliadau amgen, ond roeddent yn ddibynnol ar fynediad ar gyfer trosgludo ai gwagio. I’w ystyried ymhellach wrth ystyried prynu sgip.

 

Nodwyd bod cydnabyddiaeth o ddiolch wedi dod i law gan Ben Lake AS, gan nodi bod y dref yn edrych yn well o ganlyniad i ymdrechion y Cyngor Tref.

Street Cleaning: the volume of being waste collected & the castle skip

 

An update was provided by the Clerk. The skip located near the Castle’s South tower had proven essential to the Council’s street cleaning service, with over two tons of waste having been skipped in April. This presented an additional challenge of how to dispose of said waste, as disposing of such volume commercially was proving expensive.

 

Arrangement had been made that the Council could dispose of waste collected at no cost through delivering to Ceredigion County Council’s waste site, although only full van loads would be accepted. The Council’s staff had tested this method of disposing using the Council’s new vehicle, which had proved effective. If this was to be a sustainable method, the Council would need to consider purchasing its own skip.

 

Concerns were again raised regarding the placement of the skip at the castle. Alternative locations were suggested, however were dependent on access for emptying and delivery of a skip. To be considered further in consideration of purchasing a skip.

 

It was noted that an acknowledgement of thanks had been received from Ben Lake MP that the town was looking better as a result of the Town Council’s efforts.

 
10 Grant Creu Lleodd Trawsnewid Trefi: prosiectau posibl i wneud cais amdanynt

 

Cynigiwyd y prosiectau canlynol ar gyfer gwneud cais-

 

·         Cynllun i wella blaen siopau

·         Gwelliannau i’r maes cyhoeddus megis planwyr, arwyddion, celf gyhoeddus, a murluniau

·         Ehangu Wi-Fi y dref i gefnogi casglu a dadansoddi data nifer yr ymwelwyr, gan nad oedd y seilwaith presennol yn ddigonol i ddarparu gwybodaeth gywir.

·         Gwelliannau i Neuadd y Farchnad a’r ardal cyfagos.

 

Awgrymwyd y gellid datblygu prosiectau mewn partneriaeth â chefnogwyr lleol megis Clwb Busnes Aberystwyth ac Aber Instruments.

 

Byddai cyfarfod ar wahân, anffurfiol, yn cael ei drefnu i archwilio’r cynigion yn fanylach.

Transforming Towns Placemaking Grant: potential projects for application

 

The following projects were suggested for application-

·         Shop frontage enveloping scheme

·         Public realm improvements such as planters, fingerpost signs public art, and murals.

·         Expand the town Wi-Fi to support the collection and analysis footfall data, as existing infrastructure was not adequate to provide accurate information.

·         Improvements to the Market Hall & surrounding area.

 

It was suggested that projects could be developed in partnership with local supporters such as Aberystwyth Business Club and Aber Instruments.

 

A separate, informal, meeting would be arranged to explore proposals in more detail.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Trefnu Cyfarfod/ Arrange meeting

11 Ystyried amcanion a strategaeth gefeillio

 

Adolygwyd strategaeth ddrafft a’r canlynol a ARGYMHELLWYD fel blaenoriaethau ar gyfer 2025–2027:

·         Pobl Ifanc

·         Sefydlu sylfaen o gysylltiadau dinesig

·         Cyfnewid llenyddol

·         Hyrwyddo Aberystwyth

·         Hyrwyddo ieithoedd ein trefi

·         Hyrwyddo cynaliadwyedd a chysylltiadau gwyrdd

 

Byddai’r Strategaeth Gefellio yn cael ei hadolygu bob cylch etholiadol, yn hytrach na’n flynyddol.

To consider the aims and strategy of town twinning

 

A draft strategy was reviewed and the following was RECOMMENDED as priorities for 2025-2027:

·         Young People

·         Establish a foundation of civic connections

·         Literary exchange

·         Promote Aberystwyth

·         Promote our towns’ languages

·         Promote sustainability & green connections

 

The Twinning Strategy would be reviewed every electoral cycle, rather than annually.

 

 

 
12 Ymweliad o Arklow Awst 2025

 

Byddai llong fawr yn cario pobl ifanc o Arklow yn ymweld ag Aberystwyth ym mis Awst. Byddai digwyddiad i groesawi’r ymwelwyr yn cael ei drefnu ar gyfer y dyfodiad. Ymhlith y cynigion ar gyfer y digwyddiad oedd:

·         BBQ ar y traeth

·         Cynnwys y RNLI, Clwb Achub Bywyd ar y Don, Cadetiaid y Môr a dawnswyr Twmpath

·         Band Arian Aberystwyth

·         Bardd y Dref/ Straeon y Mabinogi

 

Roedd ysgolion yn cael gwybod am y digwyddiad. Nodwyd bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn digwydd yr un wythnos.

 

Visit from Arklow August 2025

 

A tall ship of young people from Arklow would be visiting Aberystwyth in August. An official welcome event would be arranged for the ship’s arrival. Suggestions for the event included:

·         BBQ on the beach

·         Involvement of the RNLI, Surf Lifesaving Club, Sea Cadets and Twmpath dancers

·         Aberystwyth Silver Band

·         Bardd y Dref / Mabinogi Storytelling

 

Schools were being told about the event. It was noted that the National Eisteddfod was on the same week.

 

 
13 Ymweliad I Saint Brieuc

 

Derbyniwyd gwahoddiad i gynrychiolwyr ymweld â Saint-Brieuc ym mis Gorffennaf, pan fyddai’r Tour de France yn pasio trwy’r dref.

 

Argymhellwyd anfon y Maer, y Cyng. Emlyn Jones, ei gyfeiliog Cyng. Kerry Ferguson, ac aelod o staff.

 

Pwyllgor Cyllid i ystyriaethu’r costau.

 

Gadawodd Wendy Hughes y cyfarfod.

Visit to Saint Brieuc

 

An invitation had been received for representatives to visit Saint Brieuc in July, when the Tour de France would be racing through the town.

 

It was RECOMMENDED to send the Mayor, Cllr. Emlyn Jones, his consort Cllr. Kerry Ferguson and a member of staff.

 

Costs to be considered by Finance Committee.

 

Wendy Hughes left the meeting.

 
14 Ystyried pwerau dirprwyedig ar gyfer y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

 

Adolygwyd Cynllun Dirprwyo diwygiedig gan y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi, gyda’r argymhelliad I ddirprwyo’r materion canlynol i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol:

 

·         Cyfrifoldeb a phŵer i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â gweithredu cyfleusterau cyhoeddus, ac eithrio lle mae hyn yn cynnwys gwariant newydd neu osod cyllidebau.

·         Cyfrifoldeb a phŵer i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â chwynnu strydoedd, ac eithrio lle mae hyn yn cynnwys gwariant newydd neu osod cyllidebau.

·         Cyfrifoldeb a phŵer i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â threfnu naws y Nadolig, ac eithrio lle mae hyn yn cynnwys gwariant newydd neu osod cyllidebau.

·         Cyfrifoldeb am a phŵer i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â threfnu a chydlynu digwyddiadau, ac eithrio lle mae hyn yn cynnwys gwariant newydd neu osod cyllidebau.

 

PENDERFYNWYD derbyn y pwerau dirprwyedig, pe bai’r cynllun newydd yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor Llawn.

To consider delegation of powers to the General Management Committee

 

An amended Scheme of Delegation had been reviewed by the Standing Orders & Policy Committee, with recommendation to delegate the following matters to the General Management Committee:

·         Responsibility for and power to make decisions relating to the operation of public conveniences, excluding where this involves new expenditure or the setting of budgets.

·         Responsibility for and power to make decisions relating to street weeding, excluding where this involves new expenditure or the setting of budgets.

·         Responsibility for and power to make decisions relating to the organisation of the Christmas scene, excluding where this involves new expenditure or the setting of budgets.

·         Responsibility for and power to make decisions relating to organisation and coordination of events, excluding where this involves new expenditure or the setting of budgets.

 

It was RESOLVED to accept the delegated powers, should the new scheme be adopted by the Full Council..

 

 
15 Placiau:

 

Roedd geiriad drafft ar gyfer placiau wedi’u dosbarthu, a chytunwyd i adolygu’r testun Saesneg yn unig, gyda’r testun Cymraeg i’w adolygu gan gyfieithwyr. Unwaith y byddant wedi’u cyfieithu, byddant yn cael eu dosbarthu eto ar gyfer adolygiad.

Plaques:

 

Draft plaque wordings had been circulated, and it was agreed to review only the English text, with the Welsh text to be reviewed by translators. Once translated, they would be circulated again for review.

 

 
15.1 Olive Gale

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r geiriad, gyda’i fformatio i gyd-fynd â phlaciau blaenorol.

Olive Gale

 

It was RECOMMENDED to approve the wording with it being formatted to match previous plaques.

 

 
15.2 Margaret Jones

 

Cafodd y geiriad drafft ei ddiwygio, a nodwyd nad oedd lleoliad y plac wedi’i gadarnhau eto. Unwaith y caiff ei gadarnhau, gellid ailddrafftio’r geiriad.

Margaret Jones

 

The draft wording was amended, and it was noted that the location of the plaque was yet to be confirmed. Once confirmed, the wording could be redrafted.

 
15.3 Cerdd Ystwyth

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r geiriad drafft, gyda theulu Libbie Lawrence i ddewis pa gwpled fyddai’n cael ei gynnwys ar y plac.

Cerdd Ystwyth

 

It was RECOMMENDED to approve the draft wording, with Libbie Lawrence’s family to choose which couplet would be featured on the plaque.

 

 
15.4 Kaya-chō

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r geiriad drafft, gyda’r cyfieithiad Siapaneaidd i’w adolygu am gywirdeb gan gynrychiolwyr o Yosano.

Kaya-chō

 

It was RECOMMENDED to approve the draft wording, with the Japanese translation to be reviewed for accuracy by representatives from Yosano.

 

 
16 Gwelliannau mannau bysiau Coedlan Dau

 

Nid oedd ymateb llawn wedi dod i law i’r cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor Cynllunio. Gofynnir am ymateb pellach i alluogi trafodaeth lawn.

Second Avenue bus stop improvements

 

A full response had not been received to the questions raised by the Planning Committee. A further response to be requested to enable full discussion.

 

 
17 Gohebiaeth Correspondence

 

 
17.1 Agoriad Llwybr Pren a Maes Natur newydd Ysgol Plascrug: Roedd cynghorwyr a staff wedi cael gwahoddiad i agoriad swyddogol ddydd Iau 26 Mehefin 2025. Ysgol Plascrug’s new Boardwalk and Nature Area Opening: Councillors and staff had been invited to an official opening on Thursday 26 June 2025.  
17.2 Ymgynghoriad ar Gynllun Gwasanaethau Clinigol Bronglais gyda Chynghorau Tref a Chymuned Ceredigion: Roedd cyfarfod ymgynghori ar wahân i Gynghorau Tref a Chymuned yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Iau 12 Mehefin 2025. Bronglais Clinical Services Plan Consultation with The Town and Community Councils’ for Ceredigion: A separate consultation meeting for Town & Community Councils was being held online on Thursday June 12 2025.  
17.3 Adolygiad cymunedau Ceredigion: Cymeradwywyd y newidiadau arfaethedig, a fydd yn dod i rym ar etholiad arferol nesaf. Derbyniwyd pob un o awgrymiadau’r Cyngor Tref. Ceredigion communities review: Proposed changes had been approved, to come into effect at the next ordinary election. All of the Town Council’s suggestions had been adopted.  
17.4 Beicio Prydain: Anfonwyd map swyddogol o’r llwybr ar gyfer y Cystadlaethau Cenedlaethol a gynhaliwyd yn Aberystwyth rhwng dydd Gwener 27 a dydd Sul 29 Mehefin 2025. British Cycling: An official map of the route had been sent out for the National Championships held in Aberystwyth between Friday 27 and Sunday 29 June 2025.  
17.5 Adolygiad 20mya: Canlyniad y gwaith adolygu oedd na fydd unrhyw newidiadau arfaethedig i unrhyw gyfyngiadau cyflymder presennol. 20mph Review: The outcome of the review work was that there will be no proposed changes to

any existing speed limits.

 
17.6 HAHAV: Diolch swyddogol am gyfraniad y Cyngor o £1,007.72, a godwyd dros HAHAV fel un o elusennau’r Maer yn 2024-25. HAHAV: Official thanks for the Council’s contribution of £1,007.72, which had been raised for HAHAV as one of the Mayor’s charities in 2024-25.  
17.7 Oriel y Bae: Gwahoddiad i fynychu ac i’r Maer agor oriel gelf newydd yn swyddogol ym mis Gorffennaf 2025. Oriel y Bae: Invitation to attend and for the Mayor to officially open a new art gallery opening in July 2025.  

 

Daeth y cyfarfod i ben am 20:57                                                              The meeting was closed at 20:57

 

 

 

Agenda:

                Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Ty’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2HS

 

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones

4.6.2025

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 9.6.2025 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 9.6.2025 at 18:30.

 

AGENDA

 

1 Presennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2025-26 Elect Chair of the General Management Committee for 2025-26
6 Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2025-26 Elect Vice-Chair of the General Management Committee for 2025-26
7 Cyflwyniad gan Dr Benjamin Gwalchmai, Prifysgol De Cymru, ar gludiant awyrennau môr trydan Presentation by Dr Benjamin Gwalchmai, University of South Wales, on electric seaplane transportation
8 Lleoliad cyfarfodydd y Cyngor: defnydd o Neuadd Gwenfrewi Location of Council meeting: use of Neuadd Gwenfrewi
9 Glanhau Strydoedd: cyfaint y gwastraff sy’n cael ei gasglu a sgip y castell Street Cleaning: the volume of being waste collected & the castle skip
10 Grant Creu Lleodd Trawsnewid Trefi: prosiectau posibl i wneud cais amdanynt Transforming Towns Placemaking Grant: potential projects for application
11 Ystyried amcanion a strategaeth gefeillio To consider the aims and strategy of town twinning
12 Ymweliad o Arklow Awst 2025 Visit from Arklow August 2025
13 Ymweliad i Saint Brieuc Visit to Saint Brieuc
14 Ystyried pwerau dirprwyedig ar gyfer y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol To consider delegation of powers to the General Management Committee
15 Placiau: Plaques:
15.1 Olive Gale Olive Gale
15.2 Margaret Jones Margaret Jones
15.3 Cerdd Ystwyth Cerdd Ystwyth
15.4 Kaya-chō Kaya-chō
16 Gwelliannau mannau bysiau Coedlan Dau Second Avenue bus stop improvements
17 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

 

 

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details