General Management
10/03/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi
Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi
10.3.2025
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 1 | Presennol
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd) Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Brian Davies Cyng. Lucy Huws Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Alun Williams Cyng. Jeff Smith Cyng. Umer Aslam
Yn mynychu: Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) Donna Pritchard (Cyngor Sir Ceredigion) (Eitemau 1 – 5 yn unig) Will Rowlands (Clerc) Wendy Hughes (Swyddog Digwydiadau a Phartneriaethau)
|
Present
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair) Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Brian Davies Cllr. Lucy Huws Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Alun Williams Cllr. Jeff Smith Cllr. Umer Aslam
In attendance: Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) Donna Pritchard (Ceredigion County Council) (Items 1 – 5 only) Will Rowlands (Clerk) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)
|
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Mair Benjamin Cyng. Mark Strong
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Glynis Somers Cyng. Owain Hughes |
Apologies & absences
Absent with apologies: Cllr. Mair Benjamin Cllr. Mark Strong
Absent without apologies: Cllr. Glynis Somers Cllr. Owain Hughes
|
|
| 3 | Datgan Diddordeb:
6. Gŵyl y Castell tendr y bar: Roedd y Cyng. Kerry Ferguson yn gydberchennog bragdy lleol.
6. Gŵyl y Castell tendr y bar: Roedd y Cyng. Emlyn Jones yn gydberchennog bragdy lleol.
Nodwyd hefyd bod Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau’r Cyngor yn berchennog bar lleol. |
Declarations of interest:
6. Gŵyl y Castell bar tender: Cllr. Kerry Ferguson was co-proprietor of a local brewery.
6. Gŵyl y Castell bar tender: Cllr. Emlyn Jones was co-proprietor of a local brewery.
It was also noted that the Council’s Market & Events Coordinator was proprietor of a local bar.
|
|
| 4 | Cyfeiriadau personol:
Nodwyd ei bod wedi bod yn Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Sadwrn 8 Mawrth 2025. |
Personal references:
It was noted that it had been International Women’s Day on Saturday 8 March 2025.
|
|
| 5 | Gofal Cymdeithasol: Cyflwyniad gan Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Gofal
Cafwyd cyflwyniad ac atebwyd cwestiynau gan Donna Pritchard. Cafodd y rhan hon o’r cyfarfod ei recordio er budd yr aelodau nad oedd wedi gallu bod yn bresennol. Mae crynodeb o’r pwyntiau a godwyd i’w gweld yn atodiad 1.
Diolchwyd i Donna Pritchard am ei hamser a gadawodd y cyfarfod. Byddai unrhyw gwestiynau pellach yn cael eu hanfon ar e-bost
|
Social Care: Presentation by Donna Pritchard, Corporate Lead Officer for Ceredigion County Council’s Porth Gofal
A presentation was given and questions answered by Donna Pritchard. This section of the meeting was recorded for the benefit of members who had not been able to attend. A summary of the points raised can be found in appendix 1.
Donna Pritchard was thanked for her time and left the meeting. Any further questions would be sent on email.
|
|
| 6 | Gŵyl y Castell 2025: diweddariad a tendro ar gyfer y bar
Ni chymerodd y Cyng. Kerry Ferguson ran yn y trafodaethau. Ni chymerodd y Cyng. Emlyn Jones ran yn y trafodaethau.
Cafwyd diweddariad llafar gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau. Byddai’r ŵyl yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 13 Medi 2025. Roedd prif berfformwyr eisoes wedi’u harchebu, yn ogystal â’r llwyfan a rhai gwerthwyr bwyd
Roedd papur ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw, yn amlinellu’r broses ar gyfer tendro am y ddarpariaeth bar. ARGYMHELLWYD bwrw ymlaen â thendr cyhoeddus.
Ataliodd y Cyng. Kerry Ferguson ac Emlyn Jones rhag pleidleisio.
|
Gŵyl y Castell 2025: update & bar tender
Cllr. Kerry Ferguson did not participate in discussions. Cllr. Emlyn Jones did not participate in discussions.
A verbal update was given by the Events & Partnerships Officer. The festival would be held on Saturday 13 September 2025. Headline acts had already been booked, as well as the stage and some food vendors.
A written paper had been circulated prior outlining a process for tendering for the bar provision. It was RECOMMENDED to proceed with a public tender.
Cllrs. Kerry Ferguson and Emlyn Jones abstained from voting.
|
|
| 7 | Ciosg lluniaeth Coedlan Plascrug
ARGYMHELLWYD gwrthwynebu’r ciosg lluniaeth arfaethedig oherwydd y rhesymau a ganlyn: · Bod y lleoliad arfaethedig mor agos at ysgolion a maes chwarae poblogaidd, gan ei fod yn amwynderau di-dâl i blant. · Y byddai mwyafrif y sylfaen cwsmeriaid targed yn blant ifanc a rhieni. · Byddai’n rhoi pwysau gormodol ar rieni i wario arian, mewn maes sydd fel arall yn rhad ac am ddim i’w fwynhau. · Byddai’n gwaethygu’r problemau a wynebir gan ysgolion lleol gyda diet plant a thlodi bwyd.
|
Plascrug Avenue refreshments kiosk
It was RECOMMENDED to oppose to the proposed refreshments kiosk due to the following reasons: · The proposed location being so close to schools and a popular playground, being free amenities for children. · That the majority of the target customer base would be young children and parents. · It would place undue pressure on parents to spend money, in an area that is otherwise free to enjoy. · It would exasperate issues being faced by local schools with children’s diets and food poverty.
|
|
| 8 | Chwynnu strydoedd: prynu peiriant
ARGYMHELLWYD yn unfrydol prynu peiriant rhwygo chwyn Nimos Mosquito II. Costau i’w hystyried gan y Pwyllgor Cyllid |
Street weeding: buying a machine
It was unanimously RECOMMENDED to purchase a Nimos Mosquito II weed ripper machine. Costs to be considered by Finance Committee. |
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
| 9 | Ymgyrch i gynyddu balchder bro
ARGYMHELLWYD cychwyn ymgyrch gyda’r nod o gynyddu balchder dinesig yn Aberystwyth. Awgrymwyd y gellid gwneud hyn drwy ymgyrch wedi’i brandio ag enw ymbarél ‘Fy Nrws Ffrynt’, a awgrymwyd yn flaenorol gan breswylydd lleol, gyda dwy elfen i dargedu trigolion a busnesau. Awgrymwyd y canlynol fel rhan o’r ymgyrch : · Dosbarthu taflenni i godi ymwybyddiaeth o waith y Cyngor Tref ac i annog trigolion a busnesau i wneud eu rhan eu hunain. Roedd y Cyng. Kerry Ferguson wedi paratoi taflen ddrafft i’w dosbarthu i gyfeiriadau preswyl. · Digwyddiadau ‘Wythnos Tacluso’r Dref’ rheolaidd i annog gwirfoddolwyr i gasglu sbwriel, chwynnu a glanhau arall. Roedd poster drafft wedi’i ddosbarthu; cytunwyd i fwrw ymlaen â hyn, gyda diwygiadau i enwau strydoedd i’w darparu yn Gymraeg ac i gynnwys mwy o ardaloedd o Ward y Gogledd. · Gweithio gyda busnesau lleol a Chlwb Busnes Aberystwyth i gydnabod y busnesau hynny sy’n helpu i gadw Aberystwyth yn daclus ac i annog eraill i wneud hynny hefyd. Er enghraifft, trwy boster tebyg i fenter ‘cefnogi’n lleol’ Clwb Busnes Aberystwyth. · Annog busnesau cenedlaethol i ofalu am eu hadeiladau yn fwy rheolaidd, gan gynnwys glanhau ffenestri, paentio a gwagio cwteri.
Nodwyd y byddai ymgyrch o’r fath yn dasg sylweddol ac y byddai angen iddi fod yn gyson dros nifer o flynyddoedd er mwyn cael yr effaith a ddymunir. Byddai hyn yn gofyn am ymrwymiad a chyfranogiad gan yr holl gynghorwyr a staff er mwyn bod yn llwyddiannus. |
Campaign to increase civic pride
It was RECOMMENDED to begin a campaign aimed at increasing civic pride in Aberystwyth. It was suggested that this could be done through a branded campaign with an umbrella name ‘My Front Door’, which had previously been suggested by a local resident, with two strands to target both residents and businesses. The following was suggested as part of the campaign: · Distribution of leaflets to raise awareness of the Town Council’s work and to encourage residents and businesses to do their own bit. Cllr. Kerry Ferguson had prepared a draft leaflet to distribute to residential addresses. · Regular ‘Town Tidy Week’ events to encourage volunteer litter picking, weeding and other town cleaning. A draft poster had been distributed; it was agreed to proceed with this, with amendments for street names to be provided in Welsh and for more areas of North Ward to be included. · Working with local businesses and the Aberystwyth Business Club to recognise those businesses who help to keep Aberystwyth tidy and to encourage other to do so also. For example, through a similar poster as Aberystwyth Business Club’s ‘support local’ initiative. · Encouraging national chain businesses to undertake more regular care of their premises, including window cleaning, painting and emptying gutters.
It was noted that such a campaign would be a significant undertaking and would need to be consistent over a number of years in order to have the desired impact. This would require commitment and participation by all councillors and staff in order to be successful.
|
|
| 10 | Nadolig 2025
Trafodwyd ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer addurniadau Nadolig ychwanegol. Cytunwyd bod angen opsiynau cost i gytuno’n llawn ar flaenoriaeth. Ceisir costau fesul eitem ar gyfer: · Croesfan stryd sengl. · Goleuadau ar hyd pyst lamp, fel y gwnaed yn Llanbadarn Fawr. · Gwisgo coeden mewn goleuadau.
ARGYMHELLWYD i Benparcau a Stryd y Dollborth/Rhodfa’r Gogledd fod yn flaenoriaeth eleni, fel y ddau brif borth i mewn i’r dref. Opsiynau wedi’u costio i’w ceisio a’u trafod ymhellach.
Awgrymwyd y gellid gosod goleuadau ychwanegol ar rai strydoedd, megis Y Porth Bach neu Heol y Wig, drwy osod croesfannau sengl yn lle croesfannau dwbl ar y Stryd Fawr. |
Christmas 2025
Areas of priority for additional Christmas decorations were discussed. It was agreed that cost options were needed to agree a priority fully. Per item costings would be sought for: · A single strand street crossing. · Lights along lampposts, as had been done in Llanbadarn Fawr. · Dressing of a tree.
It was RECOMMENDED for Penparcau and Northgate Street/North Parade to be the priority this year, as the two main gateways into town. Costed options to be sought and discussed further.
It was suggested that additional lights could be installed on some streets, like Eastgate or Pier Street, by replacing double strand crossings on Great Darkgate Street with single crossings.
|
|
| 11 | Trenfiadau sefydlu’r Maer 2025 a the parti’r Maer
Roedd y seremoni urddo wedi’i threfnu i’w chynnal ddydd Gwener 16 Mai 2025, yn Amgueddfa Ceredigion.
Trafodwyd trefniadau gweddill y penwythnos ac ARGYMHELLWYD cynnal sesiwn ymgysylltu cyhoeddus ‘Cwrdd â’r Cyngor’ yn Neuadd Gwenfrewi ar ddydd Sadwrn 17 Mai 2025. Gan nad oedd digon o amser i gau ffordd i gynnal parêd, ARGYMHELLWYD cynnal parêd fer ar hyd y promenâd. |
Mayor making arrangements 2025 & Mayor’s tea party
The inauguration ceremony had been arranged to be held on Friday 16 May 2025, at Ceredigion Museum.
Arrangements for the rest of the weekend were discussed and it was RECOMMENDED to hold a ‘Meet the Council’ public engagement session at Neuadd Gwenfrewi on Saturday 17 May 2025. As there was not sufficient time to obtain a road closure to hold a parade, it was RECOMMENDED to hold a short parade along the promenade.
|
|
| 12 | Symud gofeb rhyfel y Tabernacl i Maes y Frenhines
ARGYMHELLWYD symud ymlaen gydag ymgynghoriad cyhoeddus. Byddai’r ymgynghoriad ar gael yn ddigidol yn ogystal ag ar bapur. Gofynnwyd am wirfoddolwyr i ganfasio strydoedd perthnasol. |
Moving the Tabernacl war memorial to Queen’s Square
It was RECOMMENDED to proceed with public consultation. The consultation would be available digitally as well as on paper. Volunteers were sought to canvass relevant streets.
|
|
| 13 | Geiriad placiau | Plaque wordings | |
| 13.1 | Olive Gale
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands i baratoi geiriad drafft.
|
Olive Gale
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands to prepare draft wording.
|
|
| 13.2 | Margaret Jones
Cyng. Talat Chaudhri i baratoi geiriad drafft.
|
Margaret Jones
Cllr. Talat Chaudhri to prepare draft wording.
|
|
| PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00. | ||
| 14 | Cynnig: Diwygio’r Cynllun Dirprwyo (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands)
Daeth y Cyng Kerry Ferguson i’r gadair.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn gweld manteision pwerau dirprwyedig ac y byddai’n derbyn pe bai’r cynnig yn cael ei basio gan y Cyngor Llawn. I’w drafod ymhellach gan y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi cyn ei ystyried eto gan y Cyngor Llawn
|
Motion: To amend the Scheme of Delegation (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands)
Cllr. Kerry Ferguson took the chair.
It was RESOLVED that the Committee saw the benefits of delegated powers and would accept if the motion was passed by Full Council. To be discussed further by Standing Orders & Policy Committee before consideration again by Full Council.
|
Agenda Rheolau Sefydlog a Pholisi
Standing Orders & Policy Agenda |
| 15 | Gwneud rhan o dir y Castell yn barth di-gŵn (Cyng. Umer Aslam)
ARGYMHELLWYD gosod arwyddion ar dir y castell i atgoffa perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn. Ystyriaeth bellach i’w rhoi i ddynodi parth di-gŵn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus |
Making part of the castle grounds a dog free zone (Cllr. Umer Aslam)
It was RECOMMENDED to install signage at the castle grounds to remind dog owners to keep their dogs on leads. Further consideration to be given to designating a dog free zone, including public consultation.
|
|
| 16 | Ymgynghoriad ar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru
Roedd ymateb drafft i’r ymgynghoriad wedi’i baratoi gan y Cyng. Jeff Smith.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r ymateb drafft gyda’r diwygiadau a ganlyn: · Rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd canolbarth Cymru i system drafnidiaeth y genedl. · Croesawu ailgyflwyno rheilffordd Aberystwyth-Caerfyrddin yn gryfach. · Cefnogi’n gryfach i dynnu statws cefnffordd yr A487 ar hyd y Stryd Fawr, o blaid ei hail-ystyried rhwng Penparcau a Llanbadarn Fawr. · Cefnogi cyflwyno llwybr beicio sy’n cysylltu Aberystwyth â Bow Street.
Cyng. Jeff Smith a Dylan Lewis-Rowlands i ddiweddaru’r ymateb.
Diolchwyd i’r Cyng. Jeff Smith am ei waith.
Gadawodd y Cyng. Kerry Ferguson y cyfarfod. Gadawodd y Cyng. Emlyn Jones y cyfarfod. |
Consultation on the Mid Wales Regional Transport Plan
A draft response to the consultation had been prepared by Cllr. Jeff Smith.
It was RECOMMENDED to approve the draft response, with the following amendments: · To place greater emphasis on the importance of mid Wales to the transport system of the nation. · To welcome the re-introduction of the Aberystwyth-Carmarthen railway line more strongly. · To stronger support the de-trunking of the A487 along Great Darkgate Street, in favour of re-trunking it between Penparcau and Llanbadarn Fawr. · To support introduction of a cycle path linking Aberystwyth to Bow Street.
Cllrs. Jeff Smith and Dylan Lewis-Rowlands to update the response.
Cllr. Jeff Smith was thanked for his work.
Cllr. Kerry Ferguson left the meeting. Cllr. Emlyn Jones left the meeting.
|
|
| 17 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
| 17.1 | British Telecom: Ymgynghoriad ar y cynnig i gael gwared ar ffonau talu cyhoeddus. | British Telecom: Consultation of proposed removal of public payphones. | |
| 17.2 | Sedd wag Penparcau: Hysbysiadau cyhoeddus yn hysbysebu’r sedd wag a’r posibilrwydd o is-etholiad, i’w hysbysebu tan 2.4.2025. | Penparcau vacancy: Public notices advertising the vacancy and potential for by-election, to be advertised until 2.4.2025. | |
| 17.3 | Toiledau cyhoeddus: Ymatebion gan gynghorau tref a chymuned eraill am y sefyllfa o ran eu toiledau cyhoeddus. | Public toilets: Responses from other town & community councils about the situation regarding their public toilets. | |
| 17.4 | Mannau Tyfu Plascrug: Sesiwn cwrdd a chyfarch galw heibio i ddeiliaid plotiau ddydd Sadwrn 15.3.2025 | Plascrug Growing Spaces: Drop in meet & greet session for plot holders on Saturday 15.3.2025. | |
| 17.5 | Ray Ceredigion: Cais i gyflwyno i’r Cyngor am brosiect sy’n defnyddio maes chwarae Penparcau. | Ray Ceredigion: Request to present to Council about project using Penparcau playground. | |
| 17.6 | Saint Brieuc: Ymwelwyr o Saint Brieuc yn dod i Aberystwyth o 14 i 19 Ebrill 2025. I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid. | Saint Brieuc: Visitors from Saint Brieuc coming to Aberystwyth from 14 to 19 April 2025. To be discussed by Finance Committee. | Agenda Cyllid
Finance Agenda |
| 17.7 | 11 Stryd y Popty: Ymateb gan syrfëwr y landlord i agor deialog ar y drefnlen dadfeiliadau. | 11 Baker Street: Response from landlord’s surveyor to open dialogue on schedule of dilapidations. |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:45. The meeting was closed at 21:45.
Atodiad 1 / Appendix 1:
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
|
Ty’r Offeiriad / The Presbytery Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2HS |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
5.3.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 10.3.2025 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 10.3.2025 at 18:30.
| AGENDA
|
||
| 1 | Presennol | Present |
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
| 3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
| 4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 5 | Gofal Cymdeithasol: Cyflwyniad gan Donna Pritchard, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Porth Gofal | Social Care: Presentation by Donna Pritchard, Corpoprate Lead Officer for Ceredigion County Council’s Porth Gofal |
| 6 | Gŵyl y Castell 2025: diweddariad a tendro ar gyfer y bar | Gŵyl y Castell 2025: update & bar tender |
| 7 | Ciosg lluniaeth Coedlan Plascrug | Plascrug Avenue refreshments kiosk |
| 8 | Chwynnu strydoedd: prynu peiriant | Street weeding: buying a machine |
| 9 | Ymgyrch i gynyddu balchder bro | Campaign to increase civic pride |
| 10 | Nadolig 2025 | Christmas 2025 |
| 11 | Trefniadau sefydlu’r Maer 2025 a the parti’r Maer | Mayor making arrangements 2025 & Mayor’s tea party |
| 12 | Symud gofeb rhyfel y Tabernacl i Maes y Frenhines | Moving the Tabernacl war memorial to Queen’s Square |
| 13 | Geiriad placiau | Plaque wordings |
| 13.1 | Olive Gale | Olive Gale |
| 13.2 | Margaret Jones | Margaret Jones |
| 14 | Cynnig: Diwygio’r Cynllun Dirprwyo (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands) | Motion: To amend the Scheme of Delegation (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands) |
| 15 | Gwneud rhan o dir y Castell yn barth di-gŵn (Cyng. Umer Aslam) | Making part of the castle grounds a dog free zone (Cllr. Umer Aslam) |
| 16 | Ymgynghoriad ar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru | Consultation on the Mid Wales Regional Transport Plan |
| 17 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details