General Management
10/06/2024 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
10.6.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd) Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Mair Benjamin Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Lucy Huws Cyng. Mark Strong Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Alun Williams Cyng. Emlyn Jones Cyng. Brian Davies Cyng. Owain Hughes Cyng. Jeff Smith Cyng. Gwion Jones
Yn mynychu: Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau) Carol Thomas (Cyfieithydd) Anthony Jones (Sustrans) |
Present
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair) Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Mair Benjamin Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Lucy Huws Cllr. Mark Strong Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Alun Williams Cllr. Emlyn Jones Cllr. Brian Davies Cllr. Owain Hughes Cllr. Jeff Smith Cllr. Gwion Jones
In attendance: Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) Carol Thomas (Translator) Anthony Jones (Sustrans)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Dim
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Dim
|
Apologies & asbsences
Absent with apologies: None
Absent without apologies: None
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
14. Trethi busnes – trefnu cyfarfod: · Cyng. Kerry Ferguson – trethdalwr busnes · Cyng. Emlyn Jones – trethdalwr busnes · Wendy Hughes – trethdalwr busnes |
Declarations of interest:
14. Business rates – arranging a meeting: · Cllr. Kerry Ferguson – business ratepayer · Cllr. Emlyn Jones – business ratepayer · Wendy Hughes – business ratepayer
|
|
4 | Cyfeiriadau personol:
· Dymunwyd yn dda i’r Clerc, Will Rowlands, oedd yn sâl. · Llongyfarchwyd trefnwyr Sioe Aberystwyth ar ddigwyddiad llwyddiannus. Byddai cerdyn yn cael ei anfon at Gadeirydd a Llywydd y sioe. · Diolchwyd i’r Cyng. Maldwyn Pryse am ei waith fel Cadeirydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. |
Personal references:
· Best wishes were extended to the Clerk, Will Rowlands, who was ill. · Congratulations were extended to Aberystwyth Show organisers for a successful event. A card would be sent to the Chair and President of the show. · Thanks were extended to Cllr. Maldwyn Pryse for his work as Chair in the last year.
|
|
5 | Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
Cynigwyd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands gan y Cyng. Emlyn Jones ac eiliwyd gan y Cyng. Talat Chaudhri.
Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill a PHENDERFYNWYD ethol y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn Gadeirydd. |
Elect a Chair of the General Management Committee for 2024-25
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands was proposed by Cllr. Emlyn Jones and seconded by Cllr. Talat Chaudhri.
There were no other nomitations and it was RESOLVED to elect Cllr. Dylan Lewis-Rowlands as Chair. |
|
6 | Ethol Is-gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
Hunan-enwebwyd y Cyng. Kerry Ferguson ac eiliwyd gan y Cyng. Maldwyn Pryse.
Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill a PHENDERFYNWYD ethol y Cyng. Kerry Ferguson yn Is-Gadeirydd. |
Elect a Vice Chair of the General Management Committee for 2024-25
Cllr. Kerry Ferguson was self-nominated and seconded by Cllr. Maldwyn Pryse.
There were no other nomitations and it was RESOLVED to elect Cllr. Kerry Ferguson as Vice Chair.
|
|
7 | Prosiect Celf Aberystwyth – Cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Sustans
Cafwyd cyflwyniad gan gynrychiolydd Sustrans, Anthony Jones, yn egluro bod y sefydliad wedi sicrhau cyllid ar gyfer prosiect celf gymunedol y dewiswyd llwybr beicio Aberystwyth ar ei gyfer. Awgrymwyd defnyddio artist(iaid) lleol, Cymreig.
Roedd Sustrans yn gofyn am fewnbwn ac awgrymiadau’r Cyngor Tref ar gyfer lleoliadau perthnasol a phriodol. ARGYMHELLWYD bod y Cyngor Tref yn cefnogi’r prosiect cychwynnol. I’w drafod gan y Cyngor Llawn.
Diolchwyd i Anthony Jones am ei amser. |
Aberystwyth Art Project – presentation by representatives from Sustrans
A presentation was given by Sustrans representative Anthony Jones, explaining that the organisation had secured funding for a community art project for which Aberystwyth’s cycle route had been selected. It was suggested that local, Welsh artist(s) be used.
Sustrans were seeking the Town Council’s input and suggestions for relevant and appropriate locations. It was RECOMMENDED that the Town Council support the initial project. To be discussed by Full Council.
Anthony Jones was thanked for his time.
|
|
8 | Adolygu a deall Cylch Gorchwel y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol
Darllenodd pob aelod y Cylch Gorchwyl ac ni chodwyd unrhyw gwestiynau. |
To review and understand the General Management Terms of Reference
Members each read the Terms of Reference and no questions were raised.
|
|
9 | Cynllun Lles ac Adroddiad Blynyddol 2023-24
ARGYMHELLWYD sefydlu Grŵp Gwaith i edrych ar ailddrafftio’r Cynllun Lles a’r Adroddiad Blynyddol yn fanylach ac fel dogfennau ar wahân.
Gwirfoddolodd y Cynghorwyr canlynol ar gyfer y Grŵp Gwaith: · Cyng. Maldwyn Pryse · Cyng. Talat Chaudhri · Cyng. Brian Davies · Cyng. Emlyn Jones · Cyng. Lucy Huws · Cyng. Mair Benjamin · Cyng. Mark Strong · Cyng. Owain Hughes · Cyng. Kerry Ferguson · Cyng. Jeff Smith · Cyng. Dylan Lewis-Rowlands
|
Wellbeing Plan and Annual Report 2023-24
It was RECOMMENDED to set up a Task & Finish Group to look at re-drafting the Wellbeing Plan and Annual Report in more detail and as separate documents.
The following Councillors volunteered for the Task and Finish Group: · Cllr. Maldwyn Pryse · Cllr. Talat Chaudhri · Cllr. Brian Davies · Cllr. Emlyn Jones · Cllr. Lucy Huws · Cllr. Mair Benjamin · Cllr. Mark Strong · Cllr. Owain Hughes · Cllr. Kerry Ferguson · Cllr. Jeff Smith · Cllr. Dylan Lewis-Rowlands
|
|
10 | Brandio Trefi (Cyngor Sir Ceredigion)
Yn dilyn adborth cychwynnol, roedd Cyngor Sir Ceredigion wedi ysgrifennu eto yn gofyn am adborth ar eu Brandio Trefi arfaethedig. Adborth i’w ddarparu fel o’r blaen. |
Town Branding (Ceredigion County Council)
Following initial feedback, Ceredigion County Council had written again asking for feedback on their proposed Town Branding. Feedback to be provided as previously.
|
|
11 | Gefeillio Aberystwyth a Yosano: Ymweliad â Yosano yn yr Hydref
Datganodd Cyng. Dylan Lewis-Rowlands diddordeb, a daeth y Cyng. Kerry Ferguson i’r gadair.
Cadarnhawyd y byddai gan unrhyw gynrychiolydd o’r Cyngor Tref a fyddai’n mynychu’r daith i Yosano yn yr Hydref gyfrifoldebau dros fyfyrwyr ysgol (chweched dosbarth) ac felly byddai angen gwiriad DBS.
ARGYMHELLWYD, fel y Maer, bod y Cyng. Maldwyn Pryse yn mynychu, gyda’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wrth gefn.
Ymatalodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands rhag pleidleisio.
|
Aberystwyth-Yosano Twinning: Autumn visit to Yosano
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands declared an interest, and Cllr. Kerry Ferguson took the chair.
It had been confirmed that any Town Council representative attending the trip to Yosano in the Autumn would have responsibilities over school students (sixth form) and as such would require a DBS check.
It was RECOMMENDED that, as Mayor, Cllr. Maldwyn Pryse attend, with Cllr. Dylan Lewis-Rowlands as reserve.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands abstained from voting.
|
|
12 | Mainc ar Pendinas (Cyng. Alun Williams)
Cynigiodd y Cyng. Alun Williams bod y Cyngor Tref yn gosod mainc seddi plastig wedi’i ailgylchu ar Bendinas. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Owain Hughes ac ARGYMHELLWYD symud ymlaen gyda hyn. Pwyllgor Cyllid i drafod costau.
Ymatalodd y Cyng. Jeff Smith rhag pleidleisio. |
Bench on Pendinas (Cllr. Alun Williams)
Cllr. Alun Williams proposed that the Town Council install a recycled plastic seating bench on Pendinas. The motion was seconded by Cllr. Owain Hughes and it was RECOMMENDED to proceed with this. Finance Committee to discuss costs.
Cllr. Jeff Smith abstained from voting.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
13 | Plac Pantyfedwen
Derbyniwyd cais gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i ariannu plac ar eu hadeilad (9 Stryd y Farchnad) i goffau Syr David James, sylfaenydd yr ymddiriedolaeth.
Cytunodd y Pwyllgor â hyn mewn egwyddor ac ARGYMHELLWYD ariannu plac yn rhannol, gyda’r amod ei fod yn coffáu gwraig Syr David, y Fonesig Grace James, hefyd. Pwyllgor Cyllid i drafod costau.
Pleidleisiodd y Cyng. Brian Davies yn erbyn hyn. |
Pantyfedwen plaque (Cllr. Maldwyn Pryse)
A request had been received from the James Pantyfedwen Trust to fund a plaque on their building (9 Market Street) to comemorate Sir David James, the trust’s founder.
The Committee agreed with this in principle and it was RECOMMENDED to part-fund a plaque, with the proviso that it comemorate Sir David’s wife, Lady Grace James, also. Finance Committee to discuss costs.
Cllr. Brian Davies voted against this.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
14 | Trethi Busnes – trefnu cyfarfod
ARGYMHELLWYD gwahodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros yr economi ac adfywio, y Cyng. Clive Davies, ac Elin Jones AS i gwrdd â’r Maer a’r Clerc i drafod trethi busnes yn Aberystwyth. |
Business Rates – arranging a Meeting
It was RECOMMENDED to invite Ceredigion County Council Cabinet Member for economy and regeneration, Cllr. Clive Davies, and Elin Jones MS to meet with the Mayor and Clerk to discuss business rates in Aberystwyth.
|
|
15 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
15.1 | Chwynu strydoedd: Gohebiaeth gan Gyngor Sir Ceredigion yn cadarnhau na fyddent yn chwynnu strydoedd Aberystwyth eleni oherwydd cyfyngiadau cyllidebol. I’w drafod gan y Pwyllgor Cyllid. | Street weeding: Correspondence from Ceredigion County Council confirming that they would not be weeding streets in Aberystwyth this year due to budget constraints. To be discussed by Finance Committee. |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
5.6.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, ar Nos Lun, 10.6.2024 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Council Chamber, 11 Baker Street, on Monday 10.6.2024 at 18:30.
AGENDA
|
||
1 | Presennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2024-25 | Elect a Chair of the General Management Committee for 2024-25 |
6 | Ethol is-Gadeirydd i’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar gyfer 2024-25 | Elect a Chair of the General Management Committee for 2024-25 |
7 | Prosiect celf Aberystwyth – Cyflwyniad gan gynrychiolwyr o Sustrans | Aberystwyth art project – presentation by representatives from Sustrans |
8 | Adolygu a deall Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol | To review and understand the General Management Committee Terms of Reference |
9 | Cynllun Lles ac adroddiad blynyddol 2023-24 | Wellbeing plan and annual report 2023-24 |
10 | Brandio trefi (Cyngor Sir Ceredigion) | Town branding (Ceredigion County Council) |
11 | Gefeillio Aberystwyth a Yosano: Ymweliad â Yosano yn yr Hydref | Aberystwyth-Yosano twinning: Autumn visit to Yosano |
12 | Mainc ar Pendinas (Cyng. Alun Williams) | Bench on Pendinas (Cllr. Alun Williams) |
13 | Plac Pantyfedwen (Cyng. Maldwyn Pryse) | Pantyfedwen plaque (Cllr. Maldwyn Pryse) |
14 | Trethi busnes – trefnu cyfarfod (Cyng. Maldwyn Pryse) | Business rates – arranging a meeting (Cllr. Maldwyn Pryse) |
15 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details