General Management
11/03/2024 at 7:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)
General Management Committee (hybrid)
11.3.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Carl Worrall Cyng. Brian Davies Cyng. Alun Williams Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Jeff Smith Cyng. Lucy Huws Cyng. Mark Strong Cyng. Bryony Davies
Yn mynychu: Gweneira Raw-Rees (Clerc) Will Rowlands (Clerc dan Hyfforddiant) Jennifer Wolowic (Canolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth)
|
Present
Cllr. Maldwyn Prye (Chair) Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Carl Worrall Cllr. Brian Davies Cllr. Alun Williams Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Jeff Smith Cllr. Lucy Huws Cllr. Mark Strong Cllr. Bryony Davies
In attendance: Gweneira Raw-Rees (Clerk) Will Rowlands (Trainee Clerk) Jennifer Wolowic (Aberystwyth University Dialogue Centre)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: · Cyng. Mathew Norman
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Cyng. Owain Hughes · Cyng. Mair Benjamin
|
Apologies & Absence
Absent with apologies: · Cllr. Mathew Norman
Absent without apologies: · Cllr. Owain Hughes · Cllr. Mair Benjamin |
|
3 | Datgan Diddordeb:
6. Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: parcio ar y promenâd: Mae y Cyng. Alun williams, Carl Worrall a Mark Strong yn Gynghorwyr Sir Ceredigion. |
Declaration of Interest:
6. Ceredigion County Council Consultation: promenade parking: Cllrs. Alun Williams, Carl Worrall & Mark Strong are Ceredigion County Councillors
|
|
4 | Cyfeiriadau personol:
· Diolchwyd i’r Clerc am ei gwaith caled, ei hymroddiad a’i hangerdd dros ei 8 mlynedd o wasanaeth, a oedd wedi trawsnewid y Cyngor. · Dymunwyd yn dda i’r cyn-faer a chynghorydd, Brendan Somers, a oedd wedi cael strôc yn ddiweddar. Byddai cerdyn yn cael ei anfon. · Diolchwyd i bawb a gymerodd ran yn ymweliad cynrychiolwyr Llysgenhadaeth Ciwba ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. · Dymunwyd yn dda i ŵr y Cyng. Mari Turner, Jeremy Turner, a oedd yn gwella ar ôl llawdriniaeth. |
Personal references:
· Thanks were extended to the Clerk for her hard work, dedication and passion over her 8 years of service, which had transformed the Council. · Best wishes were extended to former mayor and councillor, Brendan Somers, who had recently suffered a stroke. A card would be sent. · Thanks were extended to all involved in the visit of reperesentatives of the Cuban Embassy for International Women’s Day · Best wishes were extended to Cllr. Mari Turner’s husband, Jeremy Turner, who was recovering from surgery.
|
|
5 | Ymgysylltu cymunedol – cyflwyniad gan ganolfan ddeialog Prifysgol Aberystwyth
Cafwyd cyflwyniad gan Jennifer Wolowic, arbenigwraig deialog o Brifysgol Aberystwyth. Roedd y cyflwyniad yn canolbwyntio ar bwysigrwydd cyfathrebu, ymgysylltu ac ymddiriedaeth cyhoeddus, a phwysleisiodd yr angen am gyfathrebu clir, cyson a dwy ffordd.
Roedd y cyflwyniad yn fuddiol iawn a diolchwyd i Jennifer am ei hamser a’i hymdrechion.
Ceisiwyd syniadau ar gyfer digwyddiad ymchwil cymunedol Prifysgol Aberystwyth a gynhelir yn yr Hydref. |
Community engagement – presentation by Aberystwyth University dialogue centre
A presentation was given by Jennifer Wolowic, dialogue expert from Aberystwyth University. The presentation focussed on the importance of public communication, engagement and trust, and emphasised the need for clear, consistent and two-way communication.
The presentation was very beneficial and Jennifer was thanked for her time and efforts.
Ideas were sought for Aberystwyth University’s community research event being held in the Autumn.
|
|
6 | Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: parcio ar y promenâd
Datganwyd diddordeb gan y Cyng. Alun Williams, a gadawodd y siambr.
Dosbarthwyd ymateb drafft i’r ymgynghoriad. Gyda’r hawl i ymateb wedi’i ddirprwyo gan y Cyngor Llawn, PENDERFYNWYD diwygio’r ymateb i ddangos gwrthwynebiad cryfach i’r cynigion. Byddai ymateb diwygiedig yn cael ei ddosbarthu i’w gytuno drwy e-bost. |
Ceredigion County Council Consultation: promenade parking
Cllr. Alun Williams declared and interest and left the chamber.
A draft response to the consultation was circulated. With power to respond delegated by Full Council, it was RESOLVED to amend the response to show stronger opposition to the proposals. An amended response would be circulated for agreement via email.
|
|
7 | Neuadd Gwenfrewi – adnewyddu Tŷ’r Offeiriad
Dosbarthwyd adroddiad cynnydd gan y Rheolwr Prosiect a siartiau lliw ar gyfer waliau ac arddulliau cegin. |
Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment
A progress report by the Project Manager and colour charts for walls & kichen styles were circulated.
|
|
8 | Neuadd Gwenfrewi – Cronfa Perchnogaeth Gymunedol
Roedd y gronfa wedi ei had-drefnu, gan olygu y byddai angen Datganiad o Ddiddordeb newydd. Gyda’r ad-drefnu, roedd y gronfa yn mynd yn llai ac yn fwy cystadleuol, felly byddai angen adolygu’r cais.
Byddai cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn yn cael ei gynnal ddydd Llun 18.3.2024, cyn y Pwyllgor Cyllid, i drafod hyn ymhellach.
Gadawodd y Cyng. Lucy Huws y cyfarfod. |
Neuadd Gwenfrewi – Community Ownership Fund
The fund had been reorganised, meaning that a new Expression of Interest would be needed. With the reorganisation, the fund was getting smaller and more competitive, therefore the application would need to be reviewed.
An extraordinary meeting of Full Council would be held on Monday 18.3.2024, before Finance Committee, to discuss this further.
Cllr. Lucy Huws left the meeting
|
Cyngor Llawn Arbennig
Extraordinary Full Council |
9 | Cofeb rhyfel Tabernacl – ymgynghoriad cymunedol
Er yn gefnogol o’r cynigion, roedd yr Ymddiriedolaeth Cofebion Rhyfel cenedlaethol wedi gofyn am ymgysylltiad cymunedol ar gynlluniau i adleoli Cofeb Ryfel y Tabernacl. Dosbarthwyd dogfen ymgynghorol ddrafft a, gyda rhai mân newidiadau, ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r ddogfen.
Gadawodd y Cyng. Kerry Ferguson ac Emlyn Jones y cyfarfod |
Tabernacl war memorial – community consultation
Whilst supportive of proposals, the national War Memorials Trust had requested community engagement on plans to relocate the Tabernacl War Memorial. A draft consultation document was circulated and, with some small amendments, it was RECOMMENDED to approve the document.
Cllrs. Kerry Ferguson and Emlyn Jones left the meeting.
|
|
10 | Murlun Stryd y Farchnad
Dosbarthwyd dyluniad terfynol y murlun. ARGYMHELLWYD cymeradwyo dyluniad y murlun, gyda’r amod ei fod yn cael ei symud yn uwch i fyny’r wal fel nad yw’r gerdd yn cael ei chuddio gan feiciau wedi’u parcio, biniau neu feinciau ac ati.
Byddai’r Pwyllgor Cyllid yn cadarnhau’r cyfraniad ariannol a gytunwyd eisoes gan y Cyngor. |
Mural Stryd y Farchnad
The final design of the mural was circulated. It was RECOMMENDED to support the mural design, with the proviso that it is moved higher up the wall so that the poem does not get obscured by parked bikes, bins or benches etc.
Finance Committee would confirm the financial contribution previously agreed by Council.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
11 | Cyfryngau cymdeithasol – marchnad yr hen dref a Gŵyl y Castell
ARGYMHELLWYD sefydlu tudalennau cyfryngau cymdeithasol (Facebook & Instagram) ar gyfer Marchnad yr Hen Dref a Gŵyl y Castell.
|
Social media – Old town market & Gŵyl y Castell
It was RECOMMENDED to set up social media (Facebook & Instagram) pages for both the Old Town Market and Gŵyl y Castell.
|
|
12 | Addysg (Cyng. Lucy Huws)
Cytunwyd nad oedd angen is-grŵp ar gyfer materion addysg, gan nad yw addysg yn dod o fewn cylch gorchwyl y Cyngor Tref.
Dylai cynghorwyr sy’n cynrychioli’r Cyngor fel llywodraethwyr ysgol ddarparu adroddiadau ysgrifenedig yn rheolaidd i’r Cyngor Llawn, fydd wedyn yn llywio ymatebion y Cyngor i ymgynghoriadau ar addysg. |
Education (Cllr. Lucy Huws)
It was agreed that a sub-group for education issues was not necessary, as education does not fall within the Town Council’s remit.
Councillors who represent the Council as school governors should regularly provide written reports to Full Council, which then inform the Council’s responses to consultations on education.
|
|
13 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
13.1 | Pwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion: Roedd y Pwyllgor yn ystyried cynnig hyfforddiant wyneb yn wyneb i Gynghorwyr ar y Côd Ymddygiad. | Ceredigion Ethics & Standards Committee: The Committee was considering offering in person training to Councillors on the Code of Conduct.
|
|
13.2 | Pwyllgor Moeseg a Safonau Ceredigion: Roedd y Pwyllgor yn chwilio am aelod Cyngor Tref a Chymuned newydd, yn dilyn ymddiswyddiad. | Ceredigion Ethics & Standards Committee: The Committee was seeking a new Town & Community Council member, following a resignation.
|
|
13.3 | Ffair Studts: Cais am gefnogaeth i osod olwyn arsylwi yn Aberystwyth; angen gofyn am wybodaeth bellach. | Studts Funfair: Request for support for installation of an observation wheel in Aberystwyth; further information to be requested.
|
|
13.4 | Parc Chwaraeon Gweithredol: Cais i gefnogi prosiect i ddod â pharc chwaraeon i Llywernog. Roedd y tu allan i ardal y Cyngor ac yn fenter breifat felly ni ellid ei gefnogi. | Action Sports Park: A request to support a project to bring an action sports park to Llywernog. It was outside the Council area and a private enterprise, therefore could not be supported.
|
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Kerry Ferguson
6.3.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol yn Siambr y Cyngor Nos Lun, 11.3.2024 am 7.30pm
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee meeting at 7.30pm in the Council Chamber on Monday 11.3.2024
AGENDA
|
||
1 | Presennol
|
Present
|
2 | Ymddiheuriadau
|
Apologies
|
3 | Datgan Diddordeb
|
Declaration of Interest
|
4 | Cyfeiriadau personol
|
Personal references
|
5 | Ymgysylltu cymunedol – cyflwyniad gan ganolfan ddeialog Prifysgol Aberystwyth | Community engagement – presentation by Aberystwyth University dialogue centre
|
6 | Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion: parcio ar y promenâd | Ceredigion County Council Consultation: promenade parking
|
7 | Neuadd Gwenfrewi – adnewyddu Tŷ’r Offeiriad
|
Neuadd Gwenfrewi – Presbytery refurbishment
|
8 | Neuadd Gwenfrewi – Cronfa Perchnogaeth Gymunedol | Neuadd Gwenfrewi – Community Ownership Fund
|
9 | Cofeb rhyfel Tabernacl – ymgynghoriad cymunedol | Tabernacl war memorial – community consultation
|
10 | Murlun Stryd y Farchnad | Mural Stryd y Farchnad
|
11 | Cyfryngau cymdeithasol – marchnad yr hen dref a Gŵyl y Castell | Social media – Old town market & Gŵyl y Castell
|
12 | Addysg (Cyng. Lucy Huws) | Education (Cllr. Lucy Huws)
|
13 | Gohebiaeth | Correspondence
|
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Gweneira Raw-Rees – Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details