General Management

11/11/2024 at 6:30 pm

Minutes:

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi

Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi

 

11.11.2024

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

Cyng. Kerry Ferguson (Cadeirydd)

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brian Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mark Strong

Cyng. Umer Aslam

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Eitemau 1 i 5 yn unig)

 

Yn mynychu:

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present

Cllr. Kerry Ferguson (Chair)

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brian Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mark Strong

Cllr. Umer Aslam

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Items 1 to 5 only)

 

In attendance:

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Gwion Jones

Cyng. Mair Benjamin

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

Apologies & absences

 

Absent with apologies:

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Gwion Jones

Cllr. Mair Benjamin

 

Absent without apologies:

None

3 Datgan Diddordeb:

 

12. Adloniant gyda’r hwyr ar gyfer siopa Nadolig: Cyng. Kerry Ferguson yw Cadeirydd Clwb Busnes Aberystwyth.

Declarations of interest:

 

12. Evening entertainment for Christmas shopping: Cllr. Kerry Ferguson is Chair of Aberystwyth Business Club.

 

4 Cyfeiriadau personol:

 

·         Llongyfarchwyd y Prifardd Dafydd Pritchard ar ei lansiad barddoniaeth ‘Dweud Llai’.

·         Llongyfarchwyd Siôn Jobbins, a fyddai’n ymddangos ar y radio i drafod bandiau o Aberystwyth.

Personal references:

 

·         Congratulations were extended to the poet Dafydd Pritchard on his poetry launch ‘Dweud Llai’.

·         Congratulations were extended to Siôn Jobbins, who would be appearing on the radio to discuss bands from Aberystwyth.

 

5 Polyn Heddwch

 

ARGYMHELLWYD gosod polyn heddwch ger polion baneri’r Cyngor Tref i’r De o’r castell. Byddai opsiynau ar gyfer cael polyn yn lleol yn cael eu harchwilio ac awgrymwyd iddo gynnwys yr ieithoedd canlynol i adlewyrchu ieithoedd gefeilldrefi Aberystwyth:

·         Cymraeg

·         Saesneg

·         Ffrangeg

·         Llydaweg

·         Almaeneg

·         Sbaeneg

·         Gwyddeleg

·         Siapaneaidd

·         Arabaidd

 

Roedd awgrymiadau eraill yn cynnwys plannu coeden geirios, neu gynnwys gwahanol symbolau heddwch ar y polyn.

 

Caniatâd i’w geisio ar gyfer y lleoliad arfaethedig. I’w drafod eto yn y cyfarfod nesaf.

 

Gadawodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y cyfarfod.

 

Peace Pole

 

It was RECOMMENDED to install a peace pole near the Town Council’s flag poles South of the castle. Options would be investigated for obtaining a pole locally and it was suggested for it to include the following languages to reflect the languages of Aberystwyth’s twin towns:

·         Welsh

·         English

·         French

·         Breton

·         German

·         Spanish

·         Irish

·         Japanese

·         Arabic

 

Other suggestions included planting of a cherry tree, or including different peace symbols on the pole.

 

Permission to be sought for proposed location. To be discussed again at next meeting.

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands left the meeting.

 

Trefnu

Arrange

6 Cwestyinau ar gyfer cyfarfod a Chyngor Sir Ceredigion ar 26 Tachwedd 2024

 

Byddai’r cwestiynau canlynol yn cael eu codi:

·         Pe disgwylir toriadau pellach a fyddai’n arwain at drosglwyddo gwasanaethau i Gynghorau Tref a Chymuned, a ellid gwneud peth darpariaeth ariannol i gynorthwyo gyda throsglwyddo’r gwasanaethau hyn?

·         Os oedd Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried codi costau parcio, a roddwyd ystyriaeth i godi tâl am barcio yn adeiladau’r Cyngor, megis Canolfan Rheidol a Phenmorfa? A ellid dyrannu mannau parcio ym meysydd parcio’r adeiladau hyn fel mannau parcio i breswylwyr?

·         A ellid darparu trosolwg blwyddyn ar ôl blwyddyn o doriadau a cholledion gwasanaeth, gyda chyfiawnhad o’r colledion hyn?

·         A fyddai’n bosibl creu ‘fforwm Cynghorau Gogledd Ceredigion’ a allai fod â rhai pwerau craffu cyfyngedig?

 

Byddai unrhyw gwestiynau pellach yn cael eu e-bostio at y Clerc erbyn dydd Iau 14 Tachwedd 2024 fan bellaf.

Questions for meeting with Ceredigion County Council on 26 November 2024

 

The following questions would be raised:

·         If further cuts were expected that would lead to services being transferred to Town and Community Councils, could some financial provision be made to assist with the transfer of these services?

·         If Ceredigion County Council were considering raising parking costs, had consideration been given to raising charges to park at Council buildings, such as Canolfan Rheidol and Penmorfa? Could spaces in these buildings’ car parks be allocated as residents’ parking?

·         Could a year-by-year overview of service cuts and losses be provided, with a justification of these losses?

·         Would it be possible to create a ‘North Ceredigion Councils forum’ that could have some limited scrutiny powers?

 

Any further questions would be emailed to the Clerk by no later than Thursday 14 November 2024.

 

7 Cysylltiadau a chyfarthrebu cyhoeddus

 

ARGYMHELLWYD ceisio trefnu cyfarfodydd misol gyda’r Cambrian News i wella cyfathrebu a sicrhau cywirdeb y straeon a gyhoeddir.

Public relations & communication

 

It was RECOMMENDED to try and arrange monthly meetings with the Cambrian News to improve communications and ensure the accuracy of stories published.

 

Trefnu

Arrange

7.1 Wi-Fi y dref

 

Nodwyd nad oedd llawer o ymwybyddiaeth o argaeledd Wi-Fi y Dref. Awgrymwyd y syniadau canlynol i hysbysebu’r Wi-Fi yn well:

·         Sticeri ar bolion lamp.

·         Posteri ar gyfer ffenestri siopao.

·         Marchnata trwy Farchnad yr Hen Dref.

·         Posteri yn y fframiau presennol a ddefnyddir i hysbysebu’r bagiau atal gwylanod.

Town Wi-Fi

 

It was noted that there was little awareness of the Town Wi-Fi’s availability. The following ideas were suggested to better advertise the Wi-Fi:

·         Stickers on lampposts.

·         Posters for shop windows.

·         Marketing through the Old Town Market.

·         Posters in the existing frames used to advertise the seagull proof bags.

 

8 Toiledau cyhoeddus

 

ARGYMHELLWYD gosod arwyddion ar doiledau’r Castell a Choedlan y Parc yn egluro y byddent yn cael eu rheoli’n fuan gan y Cyngor Tref a dibenion y taliadau mynediad. Y gobaith yw y byddai hyn yn helpu i leihau nifer y bobl sy’n osgoi’r taliadau mynediad yn fwriadol.

Public toilets

 

It was RECOMMENDED to install signs on the Castle and Park Avenue toilets explaining that they would soon be managed by the Town Council and the purposes of the entrance charges. This would hopefully help to reduce the number of people deliberately dodging the charges.

 

Trefnu

Arrange

8.1 Sgriniau gwyleidd-dra toiled y castell

 

Byddid yn gofyn am ddiweddariad gan Gyngor Sir Ceredigion ar y sgriniau haearn bwrw gwyleidd-dra. Deallwyd y gallai fod angen gwaith atgyweirio arbenigol sylweddol ac roedd y Pwyllgor yn gyffredinol o blaid cadw’r sgriniau oherwydd eu gwerth treftadaeth. Byddid yn gofyn am ragor o wybodaeth.

 

Gyda’r bwriad y gallai’r Cyngor Tref fod yn cymryd cyfrifoldeb am y toiled, gofynnir i Gyngor Sir Ceredigion beidio â gwneud unrhyw benderfyniad ar y sgriniau heb ymgynghori â’r Cyngor Tref.

Castle toilet modesty screens

 

An update would be requested from Ceredigion County Council on the cast iron modesty screens. It was understood that significant specialist repair may be required and the Committee was generally in favour of preserving the screens for their heritage value. Further information would be requested.

 

With a view that the Town Council may be taking responsibility for the toilet, Ceredigion County Council would be asked not to make any decision on the screens without consultation with the Town Council.

 

 
9 Diweddariad ar y jeti

 

Roedd diweddariad ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw. ARGYMHELLWYD comisiynu asesiad strwythurol o’r jeti.

Jetty update

 

A written update had been circulated prior. It was RECOMMENDED to commission a structural assessment of the jetty.

 

10 Chwynnu a chymorth tymhorol

 

Cafwyd diweddariad llafar ac adolygiad o dymor chwynnu 2024 gan y Clerc.

 

Roedd chwynnu â llaw yn unig wedi cymryd llawer o amser ac ni fyddai’n economaidd nac yn effeithlon wrth reoli tyfiant chwyn trwy gydol y flwyddyn. Rhoddwyd amlinelliad o wahanol ddulliau o reoli chwyn a’u heffeithiolrwydd, gan gynnwys chwynladdwyr glyffosad ac amgen naturiol.

 

ARGYMHELLWYD i staff lunio amserlen arfaethedig ar gyfer tymor chwynnu 2025, i gynnwys gwahanol ddulliau o reoli chwyn fel prawf i benderfynu ar y dull mwyaf effeithiol. I’w drafod ymhellach yn dilyn cynnig staff.

Weeding & seasonal assistance

 

A verbal update and review of the 2024 weeding season was provided by the Clerk.

 

Weeding by hand only had been very time consuming and would not be economical or efficient in controlling weed growth throughout the year. An outline on different means of weed control was given and their effectiveness, including glyphosate-based and natural alternative herbicides.

 

It was RECOMMENDED for staff to devise a proposed timetable for the 2025 weeding season, to include different methods of weed control as a trial to determine the most effective method. To be discussed further following staff proposal.

 

Agenda RhC

GM Agenda

11 Grant twf sefydliadol Comic Relief

 

Ymholiadau pellach i’w gwneud ynghylch cymhwysedd.

Comic Relief organisational growth grant

 

Further enquiries to be made regarding eligibility.

 

12 Adloniant gyda’r hwyr ar gyfer siopa Nadolig

 

Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson ddiddordeb, a chymerodd y Cyng. Maldwyn Pryse y Gadair.

 

ARGYMHELLWYD trefnu adloniant gyda’r nos ar nos Iau ym mis Rhagfyr, i gefnogi menter siopa hwyr y nos Clwb Busnes Aberystwyth. Byddai adloniant cerddorol yn cael ei ddarparu rhwng 5pm a 7pm yn Sgwâr Owain Glyndwr ar 5ed, 12fed a 19eg Rhagfyr. Roedd y perfformwyr a awgrymwyd yn cynnwys:

·         Cymdeithas y Cantorion Madrigal o Oes Elisabeth

·         Cynhyrchiad cerddorol Ysgol Penweddig o Joseff a’r gôt amryliw

·         Aelodau o Seindorf Arian Aberystwyth

·         Côr Gobaith

·         Telynores(iaid) lleol

·         Aber Opera

·         Band Chwyth Prifysgol Aberystwyth

 

Byddai unrhyw awgrymiadau eraill yn cael eu hanfon drwy e-bost at y Clerc.

Evening entertainment for Christmas shopping

 

Cllr. Kerry Ferguson declared and interest, and Cllr. Maldwyn Pryse took the Chair.

 

It was RECOMMENDED to arrange evening entertainment on Thursdays in December, to support Aberystwyth Business Club’s late night shopping initiative. Musical entertainment would be provided between 5pm and 7pm at Owain Glyndwr Square on 5th, 12th and 19th December. Suggested performers included:

·         Elizabethan Madrigal Singers Society

·         Penweddig School’s musical production of Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat

·         Members of Aberystwyth Silver Band

·         Côr Gobaith

·         Local harpist(s)

·         Aber Opera

·         Aberystwyth University Wind Band

 

Any other suggestions would be email to the Clerk.

 

  Paneli Nadolig Maes Gwenfrewi

 

ARGYMHELLWYD caniatáu gosod y paneli Nadolig, ond byddai ymdrech ragweithiol yn cael ei gwneud i sicrhau bod grwpiau ffydd a gymunedol eraill yn cael eu cynnwys. Rhestr o’r grwpiau i gysylltu â nhw i’w hanfon at y Clerc.

Maes Gwenfrewi nativity panels

 

It was RECOMMENDED to permit installation of the nativity panels, however proactive effort would be made to ensure the inclusion of other faith and community groups. List of groups to contact to be sent to the Clerk.

 

 
  Parc Natur Penglais: cais i ddefnyddio cyfeiriad

 

ARGYMHELLWYD caniatáu i’r grŵp ddefnyddio cyfeiriad y Cyngor Tref i bwrpas derbyn rhoddion yn unig. Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi i ddyfeisio polisi at ddefnydd grwpiau allanol o gyfeiriad y Cyngor.

Parc Natur Penglais: request to use address

 

It was RECOMMENDED to permit the group to use the Town Council’s address for the purpose of receiving donations only. Standing Orders & Policy Committee to devise policy for use of the Council’s address by outside groups.

 

Agenda Rheolau Sefydlog a Pholisi

Standing Orders & Policy Agenda

  Cynllun ffioedd parcio (Cyng. Kerry Ferguson)

 

Roedd cynnig ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw. Byddai angen ymchwil pellach cyn ystyriaeth bellach.

Parking charges scheme (Cllr. Kerry Ferguson)

 

A written proposal had been circulated prior. Further research would be needed before further consideration.

 

Ymchwilio

Research

  Ciwbiau gwenithfaen y tu allan i’r orsaf drenau (Cyng. Alun Williams)

 

Roedd cynnig ysgrifenedig wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw, yn awgrymu cael gwared ar y chwe chiwb gwenithfaen yn dilyn pryderon a godwyd gan breswylydd â nam ar y golwg. Ni wnaed unrhyw benderfyniad, ond roedd yr adborth cyffredinol yn erbyn tynnu’r ciwbiau, ac yn hytrach eu gwneud yn fwy gweladwy. Roedd ffyrdd posibl o leihau eu heffaith ar y rhai â nam ar eu golwg yn cynnwys:

·         Gosod stribedi fflwroleuol neu rywbeth tebyg i greu cyferbyniad rhwng y ciwbiau a’r llawr.

·         Darparu blodau ar ben y ciwbiau i’w gwneud nhw’n fwy gweladwy.

·         Symud y ciwbiau i fod yn erbyn wal adeiladau’r orsaf, allan o ffordd prif gyntedd yr orsaf.

 

Nodwyd ymhellach y gallai fod rhywfaint o werth yn y gwenithfaen ei hun, ac y byddai’n costio eu tynnu. Roedd anawsterau hefyd gyda pherchnogaeth, gyda rhywfaint o’r tir yn eiddo preifat.

 

Cyng. Alun Williams i gysylltu ymhellach â Chyngor Sir Ceredigion ynghylch perchnogaeth y ciwbiau a’r tir y maent yn eistedd arno.

 

Granite cubes outside train station (Cllr. Alun Williams)

 

A written proposal had been circulated prior, suggesting removal of the six granite cubes following concerns raised by a visually impaired resident. No decision was made, but the general feedback was against removing the cubes, and rather to make them more visible. Potential ways to reduce their impact on the visually impaired included:

·         Installing fluorescent strips or similar to create a contrast between the cubes and the floor.

·         Provide flowers atop the cubes to make them more visible.

·         Moving the cubes to be against the wall of the station buildings, out of the way of the main station concourse.

 

It was further noted that there may be some value in the granite itself, and that it would cost to remove them. There were also difficulties with ownership, with some of the land being privately owned.

 

Cllr. Alun Williams to liaise further with Ceredigion County Council regarding ownership of the cubes and the land on which they sit.

 

 
17 Gohebiaeth Correspondence

 

17.1 Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Ceredigion: Gofyn am fewnbwn i’r asesiad ar gyfer Aberystwyth; Clerc i ymateb i’r arolwg. Ceredigion Play Sufficiency Assessment: Requesting input to the assessment for Aberystwyth; Clerk to respond to survey.
17.2 Cais Aberystwyth Dinas Llên UNESCO: Newidiodd UNESCO y dyddiad cau, gan olygu y byddai staff yn cael trafferth paratoi’r cais mewn pryd. Byddai gweithdy diwrnod cyfan yn cael ei gynnal ar 10 Rhagfyr 2024 rhwng 10:00yb a 16:30yh er mwyn i randdeiliaid gyfrannu a helpu i baratoi’r cais. E-bost i’w ddosbarthu i’r rhai sydd â diddordeb mewn mynychu. Aberystwyth UNESCO City of Literature bid: UNESCO changed the deadline, meaning that staff would struggle to prepare the bid in time. An all day workshop would be held on 10 December 2024 from 10:00am to 16:30pm for stakeholders to contribute and help prepare the bid. Email to be circulated for those interested in attending.
17.3 Prosiect Heartfelt Holiday: Prosiect dosbarthu anrhegion Nadolig ym Mhenparcau. E-bost i’w ddosbarthu a phartïon â diddordeb i gysylltu â’r Cyng. Carl Worrall. Heartfelt Holiday Project: Penparcau Christmas gift distribution project. Email to be circulated and interested parties to contact Cllr. Carl Worrall.
17.4 Lleng Brydeinig Frenhinol Aberystwyth: Diolch am ein rhan yn Sul y Cofio. Nodwyd bod nifer y cynghorwyr oedd yn bresennol yn isel. Aberystwyth Royal British Legion: Thanks for involvement in Remembrance Sunday. It was noted that the number of councillors present was low.
17.5 Neuadd Goffa Penparcau: Diolch am ein rhan yn Sul y Cofio. Penparcau Neuadd Goffa: Thanks for involvement in Remembrance Sunday.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 20:40.                                                 The meeting was closed at 20:40.

Agenda:

                Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Ty’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2HS

 

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

6.11.2024

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Tŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 11.11.2024 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 11.11.2024 at 18:30.

 

AGENDA

 

1 Presennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Polyn heddwch Peace pole
6 Cwestiynau ar gyfer cyfarfod â Chyngor Sir Ceredigion ar 26 Tachwedd 2024 Questions for meeting with Ceredigion County Council on 26 November 2024
7 Cysylltiadau a chyfathrebu cyhoeddus Public relations & communication
7.1 Wi-Fi y dref Town Wi-Fi
8 Toiledau cyhoeddus Public toilets
8.1 Sgriniau gwyleidd-dra toiled y castell Castle toilet modesty screens
9 Diweddariad ar y jeti Jetty update
10 Chwynnu a chymorth tymhorol Weeding & seasonal assistance
11 Grant twf sefydliadol Comic Relief Comic Relief organisational growth grant
12 Adloniant gyda’r hwyr ar gyfer siopa Nadolig Evening entertainment for Christmas shopping
13 Paneli Nadolig Maes Gwenfrewi Maes Gwenfrewi nativity panels
14 Parc Natur Penglais: cais i ddefnyddio cyfeiriad Parc Natur Penglais: request to use address
15 Cynllun ffioedd parcio (Cyng. Kerry Ferguson) Parking charges scheme (Cllr. Kerry Ferguson)
16 Ciwbiau gwenithfaen y tu allan i’r orsaf drenau (Cyng. Alun Williams) Granite cubes outside train station (Cllr. Alun Williams)
17 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

 

 

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details