General Management
13/10/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi
Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi
13.10.2025
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 1.
|
Presennol:
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd) Cyng. Emlyn Jones Cyng. Mair Benjamin Cyng. Julien Brun Cyng. Nishant Chandolia Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Bryony Davies Cyng. Brian Davies Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Lucy Huws Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Alun Williams Cyng. Jeff Smith Cyng. Glynis Somers Cyng. Mark Strong Cyng. Dani Thomas Yn mynychu: Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) Catherine Thurgate (Wow Film Festival) Gemma Knight (Ray Ceredigion) Gill Byrne (Ray Ceredigion) |
Present:
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair) Cllr. Emlyn Jones Cllr. Mair Benjamin Cllr. Julien Brun Cllr. Nishant Chandolia Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Bryony Davies Cllr. Brian Davies Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Lucy Huws Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Alun Williams Cllr. Jeff Smith Cllr. Glynis Somers Cllr. Mark Strong Cllr. Dani Thomas In attendance: Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator) Catherine Thurgate (Wow Film Festival) (Items 1 to 6 only) Gemma Knight (Ray Ceredigion) (Items 1 to 5 only) Gill Byrne (Ray Ceredigion) (Items 1 to 5 only)
|
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Absennol gyda ymddiheuriadau: Dim
Absennol heb ymddiheuriadau: Dim |
Apologies & absences
Absent with apologies: None
Absent without apologies: None
|
|
| 3 | Datgan Diddordeb:
11. Murlun Sustrans: Datganodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fuddiant personol fel aelod o Senedd Cymdeithas Yr Iaith.
11. Murlun Sustrans: Datganodd y Cyng. Jeff Smith fuddiant personol fel aelod o Senedd Cymdeithas Yr Iaith.
14. Toiledau cythoeddus : Datganodd y Cyng. Alun Willaims fuddiant fel Cynghorydd Sir Ceredigion.
|
Declarations of interest:
11. Sustrans Mural: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands declared a personal interest as a member of Senedd Cymdeithas Yr Iaith.
11. Sustrans Mural: Cllr. Jeff Smith declared a personal interest as a member of Senedd Cymdeithas Yr Iaith.
14. Public Toilets: Cllr. Alun Williams declared an interest as a Ceredigion County Councillor.
|
|
| 4 | Cyfeiriadau personol:
· Estynnwyd llongyfarchiadau i bawb a fu’n rhan o Wobrau Menter Aberystwyth. Bu’r seremoni wobrwyo’n ddigwyddiad llwyddiannus a chadarnhaol. Mynegwyd diolch i bawb a fynychodd. Nodwyd hefyd fod y digwyddiad wedi ymddangos ar Prynhawn Da ar S4C. · Estynnwyd dymuniadau pen-blwydd hapus i’r Cynghorydd Julien Brun. · Croesawyd y Cynghorydd Glynis Somers yn ôl gan Aelodau yn dilyn ei llawdriniaeth ddiweddar, ac mynegwyd gobaith eu bod popeth wedi mynd yn dda. · Nodwyd llwyddiant Bore Coffi Rhyngwladol AberAid. Cafodd y digwyddiad ei fynychu’n dda, gyda nifer o gynghorwyr yn bresennol, gan gynnwys y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Dylan Lewis-Rowlands. Estynnwyd diolch i’r trefnwyr am eu hymdrechion.
|
Personal references:
· Congratulations were extended to all involved in the Menter Aberystwyth Awards. The awards ceremony had been a successful and positive event. Thanks were expressed to all who attended. It was also noted that the event had featured on Prynhawn Da on S4C. · Birthday wishes were extended to Cllr. Julien Brun. · Members welcomed Cllr. Glynis Somers back following her recent surgery and expressed their hope that all had gone well. · The success of AberAid’s International Coffee Morning was noted. The event was well attended, with many councillors present, including Deputy Mayor Cllr. Dylan Lewis-Rowlands. Thanks were extended to the organisers for their efforts. |
|
| 5
|
Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda
Roedd cynrychiolwyr o Ray Ceredigion wedi mynychu ac wedi cyflwyno i’r cyfarfod am eu sesiynau chwarae am ddim sy’n cael eu cynnal ym maes chwarae Penparcau.
Estynnwyd croeso cynnes i gynrychiolwyr Ray Ceredigion.
Rhoddwyd trosolwg o waith y sefydliad ym Mhenparcau; cynhelir sesiynau chwarae am ddim bob dydd Llun yn ystod gwyliau’r ysgol (ac eithrio’r Nadolig). Cynhelir y sesiynau hyn ym maes chwarae Penparcau ac maent yn adlewyrchu gwaith llwyddiannus a gynhaliwyd yn flaenorol yn Aberteifi a Thregaron.
Adroddwyd bod cyfanswm o 257 o unigolion wedi mynychu’r sesiynau yn ystod yr haf ym Mhenparcau, gan gynnwys 112 o blant a 44 o oedolion.
Anogwyd Aelodau i rannu gwybodaeth yn lleol ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Nodwyd bod y sesiynau’n cynnig cyfle gwerthfawr i ymgysylltu â phlant a rhieni.
Codwyd cwestiwn ynghylch darpariaeth y Gymraeg yn y sesiynau, ac eglurwyd bod hyn yn dibynnu ar argaeledd staff a’r plant sy’n bresennol.
Diolchwyd i Ray Ceredigion am fynychu ac am y gwaith sy’n cael ei wneud, gan nodi’r effaith gadarnhaol ar y gymuned a’r llawenydd a ddaw i deuluoedd drwy’r sesiynau.
Gadawodd Gemma Knight a Gill Byrne y cyfarfod. |
Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda
Representatives from Ray Ceredigion had attended, and presented to the meeting about their free play sessions being held in Penparcau playground.
A warm welcome was extended to representatives from Ray Ceredigion.
An overview was provided of the organisation’s work in Penparcau; free play sessions were being held every Monday during school holidays (excluding Christmas). These sessions were delivered at Penparcau playground and mirrored successful work previously undertaken in Aberteifi and Tregaron.
It was reported that during the summer, a total of 257 individuals attended the sessions in Penparcau, including 112 children and 44 adults.
Members were encouraged to share information locally and on social media. It was noted that the sessions offered a valuable opportunity to engage with children and parents.
A question was raised as to the Welsh language provision of sessions, and it was explained that this depended on staff availability and the children attending.
Ray Ceredigion were thanked for attending and for the work being done, noting the positive impact on the community and the joy the sessions brought to families.
Gemma Knight and Gill Byrne left the meeting.
|
|
| 6 | Cyflwyniad gan Catherine Thurgate o Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un
Estynnwyd croeso cynnes i Catherine Thurgate o Ŵyl Ffilm WOW – Wales One World.
Rhoddwyd trosolwg o waith yr ŵyl, sydd wedi bod yn rhedeg ers bron i 25 mlynedd. Mae WOW yn arddangos ffilmiau Cymreig a rhyngwladol, gyda themâu megis materion amgylcheddol a ffeministiaeth, gan anelu at bontio diwylliannau drwy sinema. Mae’r ŵyl yn gweithio mewn partneriaeth a Phrifysgol Aberystwyth, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, a grwpiau cymunedol amrywiol.
Nodwyd bod WOW yn chwarae rôl bwysig wrth hyrwyddo’r celfyddydau a diwylliant, yn enwedig mewn cyfnod lle mae cyllid i’r celfyddydau dan bwysau. Hysbyswyd aelodau am ddigwyddiad Ecosinema diweddar a gynhaliwyd yn Arad Goch a’r Ganolfan Gelfyddydau, a ddisgrifiwyd fel penwythnos llwyddiannus iawn. Roedd y digwyddiad yn cynnwys partneriaethau gyda Mudiad Undod â Phalestina Aberystwyth, Bwyd Aber Pwy? , ac yn cynnwys cyfraniadau gan feirdd ac academyddion lleol.
Mynegodd y trefnwyr eu bwriad i adeiladu ar lwyddiant Ecosinema drwy gyflwyno dangosiadau misol yn Aberystwyth, yn ogystal â’r ŵyl flynyddol sy’n cael ei chynnal ym mis Mawrth. Roedd dangosiadau hefyd wedi’u cynllunio ym Mangor, Abergwaun ac Abertawe, gyda’r ŵyl yn parhau i ganolbwyntio ar Aberystwyth fel y brif ganolfan.
Rhannwyd cynlluniau ar gyfer WOW 2026, a fydd yn nodi 25 mlynedd ers sefydlu’r ŵyl. Bydd y rhaglen yn cynnwys deg diwrnod o ddigwyddiadau, gyda phump ohonynt yn cael eu cynnal yn Aberystwyth, gan gynnwys panelwyr a chyfarwyddwyr ffilm leol. Nod y trefnwyr yw sicrhau dangosiadau cyntaf Cymreig o ffilmiau rhyngwladol a phenodi llysgenhadon lleol ym mhob tref sy’n cymryd rhan.
Hysbyswyd y cynrychiolwyr am gynllun Grantiau Cymunedol y Cyngor Tref, ac anogwyd hwy i wneud cais.
Estynnwyd diolchiadau i Catherine Thurgate am fynychu ac am gyfraniad parhaus yr ŵyl i fywyd diwylliannol Aberystwyth.
Gadawodd Catherine Thurgate y cyfarfod.
|
Presentation by Catherine Thurgate from WOW Wales One World Film Festival
A warm welcome was extended to Catherine Thurgate from WOW Wales One World Film Festival.
An overview was provided of the festival’s work, which had been running for nearly 25 years. WOW showcased both Welsh and international films, with themes including environmental issues and feminism, aiming to bridge cultures through cinema. The festival worked in partnership with Aberystwyth University, Aberystwyth Arts Centre, and various community groups.
It was noted that WOW played an important role in promoting arts and culture, particularly at a time when arts funding was under pressure. Members were informed of the recent Ecosinema event held at Arad Goch and the Arts Centre, which was described as a very successful weekend. The event included partnerships with Palestine Solidarity Aberystwyth, Aber Food Who?, and featured contributions from local poets and academics.
The organisers expressed their intention to build on the success of Ecosinema by introducing monthly screenings in Aberystwyth, in addition to the main festival held annually in March. Screenings were also planned in Bangor, Abergwaun, and Abertawe, with Aberystwyth remaining the central hub of the festival.
Plans for WOW 2026 were shared, marking the festival’s 25th anniversary. The programme would include ten days of events, five of which would take place in Aberystwyth, featuring local panellists and film directors. The organisers aimed to secure Welsh premieres of international films and to appoint local ambassadors in each participating town.
The representatives were informed of the Town Council’s Community Grants scheme, and encouraged to apply.
Thanks were extended to Catherine Thurgate for attending and for the festival’s continued contribution to the cultural life of Aberystwyth.
Catherine Thurgate left the meeting.
|
|
| 7 | Ystyried ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac at y Prif Weinidog i alw am ddiwedd ar gyflenwi arfau i Israel
Nodwyd gan Aelodau’r datblygiadau diweddar yn Gaza a’r cyd-destun rhyngwladol ehangach. ARGYMHELLWYD gohirio’r eitem, gyda’r posibilrwydd o’i hadolygu eto pe bai angen camau pellach. |
To consider writing to the Welsh Government and to the Prime Minister to demand an end to the supply of arms to Israel
Members noted recent developments in Gaza and the wider international context. It was RECOMMENDED to defer the item, with the possibility of revisiting it should further action be required. |
|
| 8 | Memorandwm Dealltwriaeth Dinas Llên
Roedd partneriaeth wedi cyflwyno cais i Aberystwyth ddod yn Ddinas Llenyddiaeth UNESCO, gan ddathlu ei hetifeddiaeth lenyddol a hyrwyddo ymgysylltiad diwylliannol ledled Cymru.
Roedd drafft o Gofnod Dealltwriaeth (MoU) wedi’i gylchredeg ymlaen llaw. Roedd y drafft yn amlinellu llywodraethu’r bartneriaeth, gan gynnwys ffurfio bwrdd. Nodwyd gan Aelodau y byddai canlyniad y cais yn cael ei gyhoeddi ar 31 Hydref, a fyddai’n nodi dechrau’r gwaith, os bydd y cais yn llwyddiannus.
Byddai cyfrifoldebau’r Cyngor yn cynnwys penodi cynrychiolydd, cefnogi digwyddiadau, ac ymrwymo’n llawn i’r fenter, a allai gynnwys darparu lle gwaith neu gymorth deunyddol arall.
ARGYMHELLWYD yn unfrydol lofnodi’r Cofnod Dealltwriaeth.
|
City of Literature Memorandum of Understanding
A partnership had submitted bid for Aberystwyth to become a UNESCO City of Literature, celebrating its literary heritage and promoting cultural engagement across Wales.
A draft Memorandum of Understanding (MoU) had been circulated prior. The MoU outlined the governance of the partnership, including the formation of a board. Members noted that the outcome of the bid would be announced on 31 October, which would mark the beginning of the work, if successful.
The Council’s responsibilities would include appointing a representative, supporting events, and committing fully to the initiative, which may involve providing workspace or other material support.
It was unanimously RECOMMENDED to sign the Memorandum of Understanding.
|
|
| 9 | Diweddariad ar ardd blodau gwyllt Stryd y Crwynwr
Roedd yr ardd blodau gwyllt wedi’i chynnwys yn y Penawd Telerau ar gyfer prydlesu mannau gwyrdd gan Gyngor Sir Ceredigion, ond daeth i’r amlwg bod, er bod Cyngor Sir Ceredigion yn berchen ar y tir yn rhydd, eu bod wedi gwerthu’r brydles i berchennog preifat. Felly, byddai angen cael caniatâd gan ddeiliad y brydles, yn hytrach na gan Gyngor Sir Ceredigion. Roedd y mater wedi’i godi’n flaenorol gyda Chyngor Sir Ceredigion, ond ni dderbyniwyd ymateb ystyrlon.
ARGYMHELLWYD cynnal yr ardd fel y mae ac ymgysylltu â pherchennog 8 Stryd y Dollborth gyda’r gobaith o ddod i gytundeb anffurfiol i ganiatáu parhad y gwaith cynnal a chadw.
Byddai’r Penawd Telerau yn cael eu cylchredeg i bob Aelod, a byddai cais yn cael ei wneud i Gyngor Sir Ceredigion i’w hadolygu er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i brydlesu’r tir a gynhwyswyd ynddynt.
|
Stryd y Crwynwr wildflower garden update
The wildflower garden was included in the Head of Terms for the lease of green spaces from Ceredigion County Council, however it had transpired that that although Ceredigion County Council owned the freehold of the land, they had sold the leasehold to a private owner. Permission would therefore be given by the leasehold owner, rather than by Ceredigion County Council. The matter had previously been raised with Ceredigion County Council, but no meaningful response had been received.
It was RECOMMENDED to maintain the garden as it is and liaise with the owner of 8 Stryd y Dollborth to hopefully reach an informal agreement of permission to maintain the garden.
The Head of Terms would be circulated to all members and Ceredigion County Council asked to review it to ensure they were actually able to lease out the lands it included.
|
|
| 10 | Adborth y gweithgor Balchder Bro
Roedd nodiadau’r cyfarfod o’r grŵp gwaith wedi’u cylchredeg ymlaen llaw. Cytunwyd y dylid rhoi diweddariadau bob tri mis er mwyn sicrhau ymwybyddiaeth barhaus o’r gweithgareddau. |
Civic Pride working group feedback
Notes of the working group meeting had been circulated prior. It was agreed that updates should be given every three months to ensure ongoing awareness of activities.
|
|
| 11 | Murlun Sustrans
Datganodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fuddiant personol fel aelod o senedd Cymdeithas yr Iaith. Datganodd y Cyng. Jeff Smith fuddiant personol fel aelod o senedd Cymdeithas yr Iaith.
Derbyniwyd dyluniadau drafft ar gyfer y murlun arfaethedig i’w beintio ar wal amddiffyn rhag llifogydd o dan Bont Trefechan gan Sustrans (yr elusen gerdded, olwynio a beicio), ac roedd adborth y Cyngor wedi’i ofyn.
Mynegodd Aelodau eu siom bod y cwmni a gomisiynwyd i ddylunio a phaentio’r gwaith celf wedi’i leoli yn Abertawe, yn hytrach na defnyddio artist lleol o Aberystwyth fel y trafodwyd ac y cefnogwyd mewn cyfarfodydd blaenorol.
ARGYMHELLWYD rhoi’r adborth canlynol ar y dyluniad:
· Elfen 3: Gwella’r adran “Croeso i Aberystwyth” i adlewyrchu croeso gwell i feicwyr. Ystyriwyd bod y ffont presennol yn rhy fyrlymus ac yn brin o gymeriad. · Elfen 4: Newid y ddelwedd bresennol gyda llun gwell o’r brotest ar Bont Trefechan. · Elfen 5: Newid delwedd y Pier Brenhinol gyda darlun o’r cei, neu orsaf bad achub yr RNLI, neu ddelwedd sy’n nodi pwysigrwydd hanesyddol adeiladu llongau yn yr ardal – gyda’r RNLI fel y dewis cyntaf. · Elfen 6: Newid logo Cymdeithas yr Iaith gyda’r gwaith celf “A fo ben, bid bont” gan Margaret Jones. · Elfen 8: Newid gyda nodau cerddorol yr emyn “Aberystwyth” gan Joseph Parry yn lle “Hen Wlad Fy Nhadau”. · Elfen 9: Er bod y dyfrgi’n berthnasol, cytunwyd y dylai’r elfen hon adlewyrchu ystod ehangach o fywyd gwyllt Aberystwyth.
|
Sustrans Mural
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands declared a personal interest as a member of Cymdeithas Yr Iaith’s parliament. Cllr. Jeff Smith declared a personal interest as a member of Cymdeithas Yr Iaith’s parliament.
Draft designs of the proposed mural to be painted on the flood defence wall beneath Trefechan Bridge had been received from Sustrans (Walk Wheel Cycle Trust), and the Council’s feedback had been requested.
Members expressed disappointment that the company commissioned to design and paint the artwork was based in Swansea, rather than using a local Aberystwyth artist as had been discussed and supported in previous meetings.
It was RECOMMENDED to give the following feedback on the design:
· Element 3: Improve the “Croeso i Aberystwyth” section to better reflect a welcome for cyclists. The current font was considered too blocky and lacking character. · Element 4: Replace the current image with a better photograph of the demonstration on Trefechan Bridge. · Element 5: Replace the image of the Royal Pier with a depiction of the jetty, or RNLI lifeboat station, or an image noting the historical relevance of ship building in the area, with the RNLI being the first preference. · Element 6: Replace the Cymdeithas yr Iaith logo with the “A fo ben, bid bont” artwork by Margaret Jones. · Element 8: Replace with the musical notes of Hen Wlad Fy Nhadau with the “Aberystwyth” hymn tune by Joseph Parry. · Element 9: While the otter was relevant, it was agreed this should reflect a broader range of Aberystwyth’s wildlife. |
|
| 12
|
Ras 5k Nos Galan
Derbyniwyd gohebiaeth yn gofyn am gefnogaeth ar gyfer ras 5k Nos Galan, ond oherwydd yr heriau logistaidd o ran trefnu cau ffyrdd o fewn yr amserlen sydd ar gael, penderfynwyd gohirio’r ras a chynllunio i’w lansio yn 2026 yn lle hynny.
Roedd y Pwyllgor yn gefnogol i’r cynnig yn gyffredinol ac yn mynegi diddordeb mewn clywed rhagor o fanylion.
Cytunwyd i wahodd y trefnwyr i fynychu cyfarfod yn y Flwyddyn Newydd i gyflwyno’r cynlluniau. Dylid cyfeirio’r trefnwyr at gynllun Grantiau Cymunedol y Cyngor.
|
New Year’s Eve 5k Race
Correspondence had been received requesting support for a New Year’s Eve 5k race, however, due to the logistical challenges of organising road closures within the available timeframe, it had been decided to postpone the race and instead plan for its launch in 2026.
The Committee was generally supportive of the proposal and expressed interest in hearing further details.
It was agreed to invite organisers to attend a future meeting in the new year to present plans. Organisers to be referred to the Council’s Community Grants scheme.
|
Gwahoddiad/ Invitation |
| 13 | Cinio Nadolig yr Henoed
Roedd diweddariad ar leoliadau posibl ar gyfer Cinio Nadolig yr Henoes wedi’i gylchredeg.
Gyda’r awdurdod dirprwyedig i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â digwyddiadau, PENDERFYNWYD cynnal y digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth, am gost o £15 y pen.
Nodwyd y dylid rhoi blaenoriaeth i breswylwyr mewn llety â chymorth, gyda hysbysebu wedi’i dargedu i’w gynnal yn y lleoliadau hynny eto eleni.
Awgrymwyd adolygu pwrpas a strategaeth gyffredinol y digwyddiad, ac eglurwyd y gellid gwneud hyn fel rhan o’r ystyriaeth gyllidebol ar gyfer 2026–27.
Ymatalodd y Cyng. Brian Davies rhag pleidleisio.
|
Seniors’ Christmas lunch
An update on potential venues for the Seniors’ Christmas Lunch was circulated.
With delegated authority to make decisions relating to events, it was RESOLVED to hold the event at Aberystwyth Rugby Club, at a cost of £15 per head.
It was noted that priority should be given to residents of sheltered accommodation, with targeted advertising to be carried out in those locations again this year.
It was suggested to review the overall purpose & strategy of the event, and it was explained that this could be done as part of the budget consideration for 2026-27.
Cllr. Brian Davies abstained from voting.
|
|
| 14 | Toiledau cyhoeddus
Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant fel Cynghorydd Sir Ceredigion ac ni chymerodd ran yn y drafodaeth.
Roedd Adroddiad ar y Prydles a’r SLA ar gyfer Toiledau Cyhoeddus wedi’i gylchredeg cyn y cyfarfod. Roedd yr adroddiad wedi’i lunio fel ystyriaeth fanwl a chyngor y Clerc ar y ffordd ymlaen arfaethedig mewn perthynas â throsglwyddo cyfrifoldeb am doiledau cyhoeddus o Gyngor Sir Ceredigion i Gyngor Tref Aberystwyth.
Er bod yr adroddiad yn cynnig Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) fel y dull mwyaf priodol i ddechrau, ARGYMHELLWYD y dylid, yn ogystal â chael costau ar gyfer SLA, dendro’r gwasanaeth yn gyhoeddus i gontractwyr preifat gyflwyno dyfynbrisiau.
|
Public toilets
Cllr. Alun Williams declared an interest as Ceredigion County Councillor and did not take part in the discussion.
A Public Toilets Lease & SLA Report had been circulated prior to the meeting. The report has been compiled as a detailed consideration and the Clerk’s advice on the proposed way forward in relation to the transfer of responsibility for public toilets from Ceredigion County Council to Aberystwyth Town Council.
Although the report proposed a Service Level Agreement (SLA) with as the most appropriate way forward initially, it was RECOMMENDED that, in addition to obtaining costs for an SLA, the service should be tendered publicly for private contractors to provide price quotations.
|
|
| 14.1 | Asedau’r adeiladau ac opsiynau eraill
ARGYMHELLWYD pennu telerau dewisol mewn perthynas â phrydles asedau adeiladau fel y nodwyd yn adroddiad y Clerc, gyda’r newidiadau canlynol:
· Tymor a dyddiad cychwyn: Ychwanegu cymal sy’n caniatáu i’r cytundeb gael ei derfynu unrhyw bryd drwy gytundeb y ddwy ochr. o Cymal terfyn ychwanegol i ganiatáu adolygiad o’r trefniant os cyflwynir Treth Twristiaeth, er mwyn sicrhau bod unrhyw incwm a gynhyrchir yn cael ei gyfeirio at wasanaethau cyhoeddus lleol, megis toiledau cyhoeddus. o Nodwyd bod 15 mlynedd efallai’n rhy hir, ac y gallai prydles fyrrach fod yn well.
· Atgyweirio a chynnal a chadw: Cwestiynwyd a ellid cyfyngu hyn i gyfrifoldebau ‘cosmetig’ yn unig. Byddai angen cyngor cyfreithiol penodol i egluro hyn. · Cofrestru: Nodwyd mai cyfrifoldeb y tenant fel arfer yw cofrestru prydles, ac mai er budd y tenant yw cofrestru prydles gyda Chofrestrfa Tir EM er mwyn sicrhau diogelwch tenantiaeth.
Awgrymwyd y dylid cael cyngor pellach gan gynghorau tref a chymuned eraill, gan gynnwys Cyngor Tref y Drenewydd, Cyngor Tref Aberteifi, Cyngor Tref Aberaeron a Chyngor Tref Llambed.
Byddai’r costau i’w hystyried gan y Pwyllgor Cyllid.
|
Building assets & other options
It was RECOMMENDED to set preferred terms in relation to a lease of building assets as outlined in the Clerk’s report, with the following changes:
· Term & commencement: Addition of a clause allowing the agreement to be terminated at any time by mutual agreement. o Additional break clause to allow the arrangement to be reviewed on the introduction of a potential Tourism Tax, to ensure revenue generated is directed towards local public services, such as public toilets. o It was noted that 15 years was perhaps too long, and a shorter lease may be preferrable. · Repair & maintenance: It was questioned whether this could be limited to ‘cosmetic’ responsibilities only. Specific legal advice would be needed to clarify. · Registration: It was noted that registration of a lease would usually be the tenant’s responsibility, and that it is in the tenant’s interest to register a lease with HM Land Registry to ensure security of tenure. It was suggested that further advice be obtain from other town and community councils, including Newtown Town Council, Cardigan Town Council, Aberaeron Town Council and Lampeter Town Council.
Costs to be considered by the Finance Committee.
|
Agenda Cyllid/ Finance Agenda |
| 14.2 | Gofyniad lefel gwasanaeth
ARGYMHELLWYD pennu’r telerau dewisol mewn perthynas â’r lefel gwasanaeth ofynnol fel y nodwyd yn adroddiad y Clerc, gyda’r newidiadau canlynol:
Gadawodd y Cyng. Alun Williams y cyfarfod.
· Haenau Gwasanaeth: Awgrymwyd model gwasanaeth haenog gyda lefelau Efydd, Arian ac Aur, gyda chostau i’w cael ar gyfer tair lefel wahanol o wasanaeth · Taliadau Gwasanaeth a Thryloywder: Codwyd pryderon ynghylch diffyg Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) ffurfiol, gyda’r costau presennol yn cael eu hystyried yn aneglur ac yn brin o atebolrwydd. Heb SLA, teimlwyd bod risg i’r cyllid gael ei wario heb oruchwyliaeth briodol. · Y Broses Caffael: Byddai pob cyfeiriad at Gytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) gyda Chyngor Sir Ceredigion yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu’r argymhelliad i dendro’r gwasanaeth yn gyhoeddus hefyd i gontractwyr preifat. · Trefniadau Staffio: Cytunwyd na ddylid derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros drosglwyddo staff o dan reoliadau TUPE. Roedd staff presennol yn gyfrifoldeb llwyr ar Gyngor Sir Ceredigion, ac ni fyddai TUPE yn berthnasol. Dylai materion staffio gael eu datrys gan y Cyngor Sir cyn unrhyw drosglwyddiad o gyfrifoldebau. · Safonau Glanhau: Cytunwyd y dylai’r gofynion glanhau fod yn seiliedig ar amserlen benodol o ddyletswyddau, yn hytrach na dyraniad amser. Byddai amserlen lanhau bresennol Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei chael a’i hadolygu i ddeall y dyletswyddau glanhau presennol. · Safonau Cynnal a Chadw: Cytunwyd y dylid cynnal a chadw’r cyfleusterau yn unol â safon gytunedig, gyda’r darparwr gwasanaeth yn gyfrifol am adrodd unrhyw ddifrod neu atgyweiriadau sydd eu hangen. · Argaeledd y Tu Allan i Oriau: Nodwyd bod argaeledd 24 awr yn debygol o fod yn gostus. · Incwm: Dylai’r incwm a gynhyrchir gan y gatiau talu fod ar wahân i unrhyw gytundeb gwasanaeth, ac yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r Cyngor Tref. · Atgyweiriadau: Cynigiwyd yr amseroedd ymateb canlynol ar gyfer atgyweiriadau: o Ddim yn frys: Ymateb o fewn 3 diwrnod o Brys: Ymateb o fewn 4 awr o Atgyweiriadau bach: I’w cyflawni o fewn 7 diwrnod o Atgyweiriadau brys: I’w cyflawni o fewn 2 ddiwrnod o Llinynnau larwm argyfwng mewn toiledau hygyrch: Byddai angen darpariaeth ar wahân ar gyfer ymateb i’r larwm; dylid ceisio eglurhad ar y ddarpariaeth bresennol. · Monitro ac Adrodd: Cytunwyd y byddai angen datblygu darpariaeth ar gyfer monitro ac adrodd ar gyflawni’r gwasanaeth, gyda dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) yn cael eu sefydlu i fesur perfformiad. · Cyflwr yr Adeilad: Byddai angen darparu adroddiad cyflwr llawn, gan gadarnhau bod y cyfleusterau’n cael eu trosglwyddo mewn cyflwr gweithio llawn. Dylid gofyn i Gyngor Sir Ceredigion ddarparu amcangyfrif cost ar gyfer Cytundeb Lefel Gwasanaeth (SLA) yn seiliedig ar y gofynion uchod, er mwyn gallu ystyried y costau’n gychwynnol cyn mynd ati i dendro’r gwasanaeth yn gyhoeddus. |
Service level requirement
It was RECOMMENDED to set the preferred terms in relation to a required service level as outlined in the Clerk’s report, with the following changes:
Cllr. Alun Williams left the meeting.
· Service Tiers: A Bronze, Silver, and Gold tiered service model was suggested, with costs to be obtained for three different levels of service. · Service Charges & Transparency: Concerns were raised regarding the absence of a formal SLA, with current costs perceived as unclear and lacking accountability. Without an SLA, it was felt that funding risked being absorbed without oversight. · Procurement Process: All references to a Service Level Agreement (SLA) with Ceredigion County Council would be amended to reflect the recommendation that the service also be tendered publicly for private contractors. · Staffing Arrangements: It was agreed that no responsibility should be accepted for transferring any staff under TUPE regulations. Existing staff were the sole responsibility of Ceredigion County Council. would not apply, and that staffing matters should be resolved by CCC prior to any transfer of responsibilities. · Cleaning Standards: It was agreed that cleaning requirements should be based on a specified schedule of duties, rather than a time allocation. Ceredigion County Council’s current cleaning schedule would be obtained and reviewed to understand current cleaning duties. · Maintenance Standards: It was agreed that maintenance should be carried out to an agreed standard, with the service deliverer responsible for reporting any damage or required repairs. · Out of Hours Availability: 24-hour availability was noted as potentially costly. · Income: Income generated by the payment gates should be separate from any service agreement, and be paid directly to the Town Council. · Repairs: Response times for repairs were proposed as follows: o Non-urgent: Response within 3 days o Urgent: Response within 4 hours o Minor repairs: To be undertaken within 7 days o Urgent repairs: To be undertaken within 2 days o Accessible toilet emergency pull cord alarms: Separate provision would be needed for response to alarms; clarification to be sought on current provision. · Monitoring & Reporting: It was agreed that provision would need to be developed for monitoring and reporting on service delivery, with Key Performance Indicators (KPIs) established to measure performance. · Building condition: A full condition report would need to be provided, confirming that facilities were handed over in full working order. Ceredigion County Council was to be asked to provide a cost estimate for a Service Level Agreement (SLA) based on the above requirements, to enable initial consideration of costs prior to tendering the service publicly.
|
|
| PENDERFYNWYD i atal Rheol Sefydlog 3(x) ac ymestun y cyfarfod y tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3(x) and extend the meeting to beyond 21:00 | ||
| 15 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
| 15.1 | Arwyddion Southgate: Derbyniwyd gohebiaeth gan Reolwr Asedau a Dylunio Priffyrdd Cyngor Sir Ceredigion, yn cadarnhau bod y ffioedd dylunio ar gyfer yr arwyddion yn Southgate wedi’u cytuno ar £1,000 drwy’r cyn-gynghorydd Steve Davies yn 2018.Mae costau gosod a chaniatâd gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA) yn dal i gael eu disgwyl.
I’w ystyried gan y Pwyllgor Cyllid. |
Southgate Signs: Correspondence from Ceredigion County Council’s Highways Asset and Design Manager, confirming that the design fees for the Southgate signage had been agreed at £1,000 through the former councillor Steve Davies in 2018. Installation costs and permission from the North and Mid Wales Trunk Road Agency (NMWTRA) was still awaited. To be considered by Finance Committee. | Agenda Cyllid/
Finance Agenda |
| 15.2 | Cymhwyster CiLCA y Clerc: Roedd y Clerc wedi cwblhau’n llwyddiannus ac wedi pasio ei gymhwyster Lefel 3 CiLCA (Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol). Estynnwyd llongyfarchiadau iddo. | Clerk’s CiLCA qualification: The Clerk had successfully completed and passed his Level 3 CiLCA (Certificate in Local Council Administration) qualification. Congratulations were extended to him. | |
| 15.3 | Kronberg: Derbyniwyd gohebiaeth ynghylch ymweliad arfaethedig gan bobl ifanc o’r Urdd i Kronberg, Yr Almaen, gyda chais am gyllid i gefnogi’r daith. Dylid cyfeirio’r cais at Grŵp Cydlynu Aberystwyth–Kronberg i’w ystyried ac i gydlynu ffynonellau cyllid posibl. | Kronberg: Correspondence regarding a proposed visit by young people from the Urdd to Kronberg, Germany, requesting funding to support the visit. To be directed to the Aberystwyth–Kronberg Twinning Group for consideration and coordination of potential funding sources. | Grwp Gefeillio Aberystwyth Kronberg/
Aberystwyth Kronberg Twinning group |
| 15.4 | Marchnad Fegan: Gohebiaeth gan drefnydd ffairiau fegan, yn cynnig cynnal marchnad fegan yn Aberystwyth yn 2026. I’w hystyried gan y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol. | Vegan market: Correspondence from the organiser of vegan fairs, proposing to host a vegan market in Aberystwyth in 2026. To be considered by General Management Committee. | Agenda RhC
GM Agenda |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:25 The meeting was closed at 21:25
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
|
Ty’r Offeiriad / The Presbytery Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2HS |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones
8.10.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 13.10.2025 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 13.10.2025 at 18:30.
| AGENDA
|
||
| 1 | Presennol | Present |
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
| 3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
| 4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 5 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda | Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda |
| 6 | Cyflwyniad gan Catherine Thurgate ac Annita Nitsaidou o Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un | Presentation by Catherine Thurgate and Annita Nitsaidou from WOW Wales One World Film Festival |
| 7 | Ystyried ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac at y Prif Weinidog i alw am ddiwedd ar gyflenwi arfau i Israel | To consider writing to the Welsh Government and to the Prime Minister to demand an end to the supply of arms to Israel |
| 8 | Memorandwm Dealltwriaeth Dinas Llên | City of Literature Memorandum of Understanding |
| 9 | Diweddariad ar ardd blodau gwyllt Stryd y Crwynwr | Stryd y Crwynwr wildflower garden update |
| 10 | Adborth y gweithgor Balchder Bro | Civic Pride working group feedback |
| 11 | Murlun Sustrans | Sustrans Mural |
| 12 | Ras 5k Nos Galan | New Year’s Eve 5k Race |
| 13 | Cinio Nadolig yr Henoed | Seniors Christmas lunch |
| 14 | Toiledau cyhoeddus | Public toilets |
| 14.1 | Asedau’r adeiladau ac opsiynau eraill | Building assets & other options |
| 14.2 | Gofyniad lefel gwasanaeth | Service level requirement |
| 15 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu cyfarfod y Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee meeting by contacting the Town Council Office for details