General Management
14/07/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi
Minutes of the General Management Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi
14.7.2025
COFNODION / MINUTES
|
|||
1.
|
Presennol:
Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd) Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Alun Williams (Items 1 to 9 only) Cyng. Brian Davies Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Glynis Somers Cyng. Lucy Huws Cyng. Jeff Smith
Yn mynychu: Cyng. Mark Strong Cyng. Mair Benjamin Huw Lewis (Rali Ceredigion) (Eitemau 1 i 5 yn unig) Geraint Jones (Rali Ceredigion) (Eitemau 1 i 5 yn unig) Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) Julien Brun (Aelod o’r cyhoedd) |
Present:
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair) Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Alun Williams (Eitemau 1 i 9 yn unig) Cllr. Brian Davies Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Glynis Somers Cllr. Lucy Huws Cllr. Jeff Smith
In attendance: Cllr. Mark Strong Cllr. Mair Benjamin Huw Lewis (Rali Ceredigion) (Items 1 to 5 only) Geraint Jones (Rali Ceredigion) (Items 1 to 5 only) Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd) Julien Brun (Member of the public) |
|
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Absennol gyda ymddiheuriadau: Cyng. Umer Aslam Cyng. Bryony Davies Cyng. Maldwyn Pryse
Absennol heb ymddiheuriadau: Dim |
Apologies & absences
Absent with apologies: Cllr. Umer Aslam Cllr. Bryony Davies Cllr. Maldwyn Pryse
Absent without apologies: None
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
10. Diweddariad ar Marchnad y Ffermwyr: Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson a’r Cyng. Emlyn Jones ddiddordeb fel stondinwyr drwy’r bragdy.
20. Protest y ‘Llinell Goch’ a chais i chwifio baner Palestina: Datganodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands fuddiant fel aelod o un o’r grwpiau trefnu. |
Declarations of interest:
10. Farmers’ Market Update: Cllr. Kerry Ferguson and Cllr. Emlyn Jones declared an interest as stallholders through the brewery.
20. ‘Red Line’ Protest & Request to Fly the Palestinian Flag: Cllr. Dylan Lewis-Rowlands declared an interest as a member of one of the organising groups.
|
|
4 | Cyfeiriadau personol:
· Diolchwyd i’r tîm a drefnodd benwythnos Beicio Prydain a Chymru, gyda gwerthfawrogiad arbennig i’r Cyng. Shelley Childs a Greg Jones am eu hymdrechion. · Diolchwyd i’r 17 myfyriwr o Kronberg a’r grŵp o 25 o ymwelwyr a deithiodd o Kronberg i Aberystwyth. Mynegwyd gwerthfawrogiad hefyd i’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands am ei gefnogaeth a’i gymorth wrth fynd gyda’r grwpiau i wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau. · Estynnwyd diolch gan y Cyng. Kerry Ferguson a’r Cyng. Emlyn Jones i Bwyllgor Gefeillio Saint-Brieuc am y croeso cynnes a hael a gawsant yn ystod eu hymweliad diweddar. Diolchwyd hefyd i’r Cyng. Lucy Huws am ddarparu pamffledi a baratowyd gan blant ysgol i’w rhannu ag ysgolion yn Saint-Brieuc. Ymhlith uchafbwyntiau’r ymweliad roedd ymweliad posibl ag Aberystwyth gan glwb rygbi Saint Brieuc yn 2027, a chyfarfod â Jean Guezennec, Rhyddfreiniwr Aberystwyth, a fynegodd ddiolch i’r Cyngor am anfon cynrychiolwyr i Saint Brieuc. · Diolchwyd i Eglwys y Drindod Sanctaidd a’r RNLI am drefnu gwasanaeth Sul y Môr, oedd yn coffáu rhan bwysig o hanes morwrol Aberystwyth. · Diolchwyd i grŵp Gefeillio Kronberg ac Aberystwyth, am eu hymdrechion i ddiddanu’r grŵp o 25 o westeion o Kronberg. Nodwyd bod y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wedi mynychu cinio’r bartneriaeth ddydd Gwener 11 Gorffennaf. |
Personal references:
· Thanks were extended to the team who arranged the British and Welsh Cycling weekend, with special appreciation to Cllr. Shelley Childs and Greg Jones for their efforts. · Thanks were extended to the 17 students from Kronberg and the group of 25 visitors who travelled from Kronberg to Aberystwyth. Appreciation was also expressed to Cllr. Dylan Lewis-Rowlands for his support and assistance in accompanying the groups to various events and activities. · Cllr. Kerry Ferguson and Cllr. Emlyn Jones thanked the Saint-Brieuc Twinning Committee for the warm and generous welcome they received during their recent visit. Thanks were also extended to Cllr. Lucy Huws for providing pamphlets prepared by school children to share with schools in Saint-Brieuc. Highlights of the visit included a potential visit to Aberystwyth by Saint Brieuc rugby club in 2027, and meeting with Jean Guezennec, Freeman of Aberystwyth, who expressed thanks to the Council for sending representatives to Saint Brieuc. · Thanks were extended to Holy Trinity Church and the RNLI for organising the Sea Sunday service, which commemorated an important part of Aberystwyth’s maritime history. · Thanks were extended to the Aberystwyth Kronberg Twinning group, for their efforts to entertain the group of 25 guests from Kronberg. It was noted that Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had attended the partnership dinner on Friday 11 July.
|
|
5 | Cyflwyniad gan Huw Lewis, Rali Ceredigion 2025
Estynnwyd croeso cynnes i Huw Lewis a Geraint Jones o Rali Ceredigion.
Rhoddwyd diweddariad ar Rali Ceredigion 2025, a oedd yn cynnwys llwybrau’r cymalau, ardaloedd gwylwyr a gwybodaeth am fynediad i drigolion. Byddai “Rally Engage” wedi’i leoli yn y Bandstand, yn rhedeg o ddydd Gwener 5 i ddydd Sul 7 Medi, gyda chyfraniadau gan yr RNLI, Heddlu Dyfed Powys, addysg, a grwpiau amgylcheddol, gan gynnwys ffocws ar gerbydau hydrogen a thechnoleg werdd.
Byddai arddangosfa o geir clasurol a ras rhedeg yn digwydd ddydd Sadwrn 6 Medi fel rhan o’r penwythnos o weithgareddau.
Codwyd pryderon ynghylch hygyrchedd, gan gynnwys yr angen i groesfannau cerddwyr alinio â chyrbau isel. Nodwyd mai dim ond un ymgais ar y cymal fyddai’r cystadleuwyr eleni yn ei wneud, yn hytrach na dau fel yn y blynyddoedd blaenorol. Byddai hyn yn golygu mwy o amser ar gyfer croesfannau cerddwyr ac na fyddai’r digwyddiad yn para mor hwyr.
Byddai cynrychiolwyr y rali yn canfasio yn fuan yn yr ardaloedd preswyl lle effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad, gyda bandiau arddwrn yn cael eu rhoi i drigolion yn yr ardaloedd i sicrhau bod mynediad preswyl yn cael ei gynnal.
Awgrymwyd y dylid tynnu sylw ymhellach at negeseuon amgylcheddol cadarnhaol y rali ym marchnata’r digwyddiad.
Diolchwyd i’r trefnwyr am eu hymdrechion ac i Huw Lewis a Geraint Jones am fynychu ac ymgysylltu â’r Cyngor. Gadawodd Huw Lewis a Geraint Jones y cyfarfod. |
Presentation by Huw Lewis, Rali Ceredigion 2025
A warm welcome was extended to Huw Lewis and Geraint Jones from Rali Ceredigion.
An update was provided on Rali Ceredigion 2025, which included the stage routes, spectator areas and information on access for residents. “Rally Engage” would be based at the Bandstand, running from Friday 5 to Sunday 7 September, with contributions from the RNLI, Dyfed Powys Police, education, and environmental groups, including a focus on hydrogen vehicles and green technology.
A classic cars display and a running race would be taking place on Saturday 6 September as part of the weekend of activities.
Accessibility concerns were raised, including the need for pedestrian crossing points to align with dropped kerbs. It was noted that contestants this year would only undertake one attempt of the stage, rather than two as in previous years. This would mean more time for pedestrian crossings and that the event would not last as late.
Rally representatives would soon be canvassing residential areas affected by the event, with wristbands being issued to residents in affected areas to ensure residential access was maintained.
It was suggested that the rally’s positive environmental messaging should be highlighted further in the event’s marketing.
Thanks were extended to the organisers for their efforts and to Huw Lewis and Geraint Jones for attending and engaging with the Council. Huw Lewis and Geraint Jones left the meeting.
|
|
6 | Ystyried Cynllun Hyfforddiant y Cyngor
Roedd cynllun hyfforddiant 2024-25, a drafft asesiadau anghenion hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr a staff wedi’u dosbarthu ymlaen llaw.
Nodwyd nad oedd y cynllun hyfforddiant presennol yn ddigonol, a dylid drafftio cynllun newydd, yn seiliedig ar anghenion hyfforddiant unigol. Er mwyn gwneud hyn, byddai angen i bob cynghorydd a staff gwblhau asesiadau anghenion hyfforddiant. Yn unol â hynny, ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r drafft asesiadau anghenion hyfforddiant.
Nodwyd y dylai pob Pwyllgor ddynodi’r hyfforddiant sydd ei angen ar eu haelodau. I’w drafod gan bob Pwyllgor yn unigol. |
Consider the Council’s Training Plan
The 2024-25 training plan, and draft training needs assessments for Councillors and staff had been circulated prior.
It was noted that the current training plan was not sufficient, and a new plan should be drafted, based on individual training needs. In order to do this, all councillors and staff would need to complete training needs assessments. Accordingly, it was RECOMMENDED to approve the draft training needs assessments.
It was noted that each Committee should designate the training required of their members. To be discussed by each Committee individually. |
Agendau Pwyllgorau Committees Agendas |
7 | Ystyried Cynllun Lles 2024-2025
Roedd drafft cynllun ac adroddiad lles ar gyfer 2024–2025 wedi’u dosbarthu ymlaen llaw. ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r adroddiad, er y nodwyd nad adroddiad blynyddol ffurfiol y Cyngor oedd hwn, a oedd yn ddogfen ar wahân a oedd yn dal i gael ei drafftio.
|
Consider Wellbeing Plan 2024-2025
A draft wellbeing plan & report for 2024–2025 had been circulated prior. It was RECOMMENDED to approve the report, although it was noted that this was not the Council’s formal annual report, which was a separate document still being drafted. |
|
8 | Diweddariad ar drafodaethau ynghylch toiledau cyhoeddus
Rhoddwyd diweddariad ar drafodaethau gyda Chyngor Sir Ceredigion ynghylch dyfodol toiledau cyhoeddus. Er na wnaed unrhyw gynnig ffurfiol i eithrio’r wasg a’r cyhoedd, nodwyd bod y mater yn parhau i fod yn sensitif.
Cwmpasodd y trafodaethau agweddau’r adeilad a’r agweddau gweithredol. Cadarnhawyd nad oedd trosglwyddiad rhydd-ddaliad bellach yn opsiwn ar gyfer trosglwyddo’r asedau, fodd bynnag y gallai trefniant prydles fod yn bosibl. Roedd cadarnhad ysgrifenedig o hyn, gan gynnwys consesiynau posibl eraill, yn cael ei ddisgwyl gan Gyngor Sir Ceredigion · Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) gyda Chyngor Sir Ceredigion. · Penodi contractwr preifat drwy dendr · Cyflogi staff yn uniongyrchol ar gyfer y Cyngor Tref i reoli’r gweithrediad. Nodwyd y byddai angen i unrhyw CLG gyda Chyngor Sir Ceredigion gael ei bennu gan y Cyngor Tref gyda thargedau a disgwyliadau gwasanaeth pendant.
Awgrymwyd y dylai swyddogion gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i gael cadarnhad ysgrifenedig a manylion ariannol cyfredol ar CLG, a cheisio adborth gan gynghorau tref/cymuned eraill ar eu profiadau.
|
Update on negotiations regarding public toilets
An update was given on discussions with Ceredigion County Council regarding the future of public toilets. Although no formal motion was made to exclude the press and public, it was noted that the matter remained sensitive.
Discussions covered both the building and operational aspects. It had been confirmed that a freehold transfer was no longer an option for transferring the assets, however a lease arrangement could be possible. Written confirmation of this, including other possible concessions, was awaited from Ceredigion County Council.
Options for the operational management included · A Service Level Agreement (SLA) with Ceredigion County Council. · Appointment of a private contractor by tender. · Direct employment of staff for the Town Council to manage operation.
It was noted that any SLA with Ceredigion County Council would need to be set by the Town Council with definitive service targets and expectations.
It was suggested for officers to follow up with Ceredigion County Council for written confirmation and up to date financial details on an SLA, and to seek feedback from other town/community councils on their experiences.
|
|
9 | Ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ar Ail-leoli Cofeb Rhyfel y Tabernacl
Ystyriwyd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus. Roedd yr ymgynghoriad wedi bod ar agor ers tri mis ac wedi derbyn 110 o ymatebion. ARGYMHELLWYD derbyn yr ymgynghoriad yn ffurfiol a nodi’r canlyniadau, gyda chrynodeb o’r ymatebion i’w gyhoeddi gyda’r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd y tu allan i’r ymgynghoriad i’w cynnwys fel atodiad (gyda gwybodaeth bersonol wedi’i ddileu).
ARGYMHELLWYD parhau â symud y gofeb yn unol â chanlyniadau’r ymgynghoriad.
Gadawodd y Cyng. Alun Williams y cyfarfod.
|
Consider responses to the consultation on the Relocation of the Tabernacle War Memorial
The results of the public consultation were considered. The consultation had been open for three months and had received 110 responses. It was RECOMMENDED to formally receive the consultation and note the results, with the summary of responses to be published with the objections received outside of the consultation to be included as an appendix (with personal information redacted).
It was RECOMMENDED to proceed with moving the memorial accordingly.
Cllr. Alun Williams left the meeting |
|
10 | Diweddariad ar Marchnad y Ffermwyr
Rhoddwyd diweddariad gan y Clerc. Byddai Marchnad y Ffermwyr yn symud ym mis Awst i ben Y Stryd Fawr, lle cynhaliwyd Marchnad yr Hen Dref. Croesawyd dychweliad Marchnad y Ffermwyr i’r dref.
Byddai’r farchnad yn defnyddio gasebos y Cyngor Tref, ac ARGYMHELLWYD codi ffi resymol am logi’r rhain, oherwydd bod Marchnad y Ffermwyr yn defnyddio nhw’n amlach na’r Cyngor Tref. Byddai lefel y ffi yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor Cyllid.
Ymhlith y materion eraill a drafodwyd roedd opsiynau posibl ar gyfer storio’r gasebos ar y safle, mynediad at y cyfleusterau toiled yn Neuadd y Farchnad, a threfniadau ar gyfer gwaredu gwastraff.
Ymataliodd y Cyng. Kerry Ferguson rhag pleidleisio. Ymataliodd y Cyng. Emlyn Jones rhag pleidleisio.
|
Farmers Market update
An update was provided by the Clerk. The Farmers Market would be moving in August up to the top of Great Darkgate Street, where the Old Town Market was held. The return of the Farmers Market to the town was welcomed.
The market would be using the Town Council’s gazebos, and it was RECOMMENDED to charge a reasonable fee for the hire of these, due to the Farmer’s Market being held more frequently than the Town Council’s own use of the gazebos. The level of the fee would be considered by the Finance Committee.
Other matters discussed included potential options for storage of the gazebos at the site, access to the toilet facilities in the Market Hall, and arrangements for waste disposal.
Cllr. Kerry Ferguson abstained from voting. Cllr. Emlyn Jones abstained from voting.
|
Agenda Cyllid Finance Agenda |
11 | Addurniadau Nadolig
Roedd diweddariad ar opsiynau i ehangu addurniadau Nadolig wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw. Roedd yr opsiynau’n cynnwys adnewyddu croesfannau rhewlif presennol, a oedd yn mynd yn adfeiliedig, ac addurn bauble newydd tebyg i’r un a ddefnyddiwyd yng Nghaerfyrddin.
Er eu bod yn cefnogi’r ddau opsiwn, roedd yr aelodau am ohirio’r addurn bauble am y tro, er mwyn canolbwyntio ar ehangu’r addurniadau i ardaloedd newydd.
Gyda phŵer dirprwyedig i wneud penderfyniadau ynghylch trefnu naws y Nadolig, PENDERFYNWYD cael costau ar gyfer addurniadau polyn lamp ar Rhodfa’r Gogledd, Heol y Bont, Y Porth Bach, Trefechan, a Phenparcau. Awgrymwyd hefyd gysylltu â Chlwb Busnes Aberystwyth am gefnogaeth bosibl.
PENDERFYNWYD ymhellach fwrw ymlaen ag ailosod traean o’r goleuadau croesi rhewlif presennol, er na wnaed penderfyniad ar liw’r goleuadau.
Roedd y Cyng. Kerry Ferguson yn cynllunio digwyddiad cymunedol ar gyfer troi’r goleuadau ymlaen yn Nhrefechan, ac awgrymwyd bod aelodau Penparcau yn cefnogi trefnu digwyddiad tebyg ar gyfer eu cymuned.
PENDERFYNWYD cynnal cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor ym mis Awst i drafod ymhellach. |
Christmas decorations
An update on options to expand Christmas decorations had been circulated prior. Options included renewal of existing icicle crossings, which were becoming dilapidated, and a new bauble decoration similar to as was used in Carmarthen.
Although supportive of both options, members to postpone the proposed bauble decoration for the time being, to focus on expanding the decorations’ coverage to new areas.
With delegated power to make decisions relating to the organisation of the Christmas scene, it was RESOLVED to obtain costings for lamppost decorations on North Parade, Bridge Street, Eastgate, Trefechan, and Penparcau. It was also suggested to contact Aberystwyth Business Club for potential support.
It was further RESOLVED to proceed with replacing on third of the existing icicle crossing lights, although no decision was made on the colour of lights.
Cllr. Kerry Ferguson was planning a community switch-on events in Trefechan, and it was suggested that members for Penparcau support organising a similar event for their community. .
It was RESOLVED to hold an extraordinary meeting of the Committee in August to discuss further.
|
Agenda RhC GM Agenda |
12 | Diffibrilwyr y Cyngor
Rhoddwyd diweddariad llafar. Cadarnhawyd bod y diffibriliwr a oedd wedi’i leoli yn y Spar ar Ffordd y Môr yn gwbl weithredol, ar ôl i’w fatri gael ei newid. Fodd bynnag, roedd y diffibriliwr a oedd wedi’i leoli yn Siop y Castell wedi’i adrodd fel un ar goll, gyda pherchennog y siop yn methu dod o hyd iddo. Nodwyd nad oedd yn dderbyniol i’r offer fod ar goll, a bod angen rhoi mwy o bwysau ar berchnogion y siop i ddod o hyd iddo.
O dan bŵer dirprwyedig i wneud penderfyniadau sy’n ymwneud â golygfa’r stryd, PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o £1,370 i brynu diffibriliwr newydd a chabinet storio allanol wedi’i gynhesu i ganiatáu ei osod yn yr awyr agored. Awgrymwyd y dylid lleoli hwn ar du allan Neuadd y Farchnad, yn amodol ar ganiatâd Cyngor Sir Ceredigion a Chymdeithas Neuadd y Farchnad. Ystyriwyd y siediau glanhau strydoedd ger toiledau’r castell fel lleoliad amgen pe na bai’r Neuadd Farchnad yn bosibl. |
Council Defibrillators
A verbal update was provided. It was confirmed that the defibrillator located at the Spar on Terrace Road was fully operational, having had its battery changed. However, the defibrillator situated at the Castle Shop had been reported as lost, with the shop owner unable to locate it. It was noted that it was not acceptable for the equipment to be lost, and further pressure was needed for the shop owners to locate it.
Under delegated power to make decisions relating to the street scene, it was RESOLVED to approve expenditure of £1,370 to purchase a new defibrillator and heated external storage cabinet to allow for outdoor installation. It was suggested for this to be located on the exterior of the Market Hall, subject to permission from Ceredigion County Council and the Market Hall Association. The street cleaning sheds located near the castle toilets was considered as an alternative location if the Market Hall was not possible.
|
|
13 | Golchi Strydoedd
Disgwylid trydydd dyfynbris am y gwaith, ond yn anffodus nid oedd wedi dod i law eto. Nodwyd bod golchi strydoedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
Awgrymwyd y canlynol: · Codwyd y posibilrwydd o brynu peiriant i staff y Cyngor ei hun wneud y gwaith yn fewnol, a chytunwyd y dylid archwilio opsiynau prisio ar gyfer offer o’r fath. · Postio ar gyfryngau cymdeithasol i wahodd dyfynbrisiau gan gontractwyr posibl.
Roedd angen trafodaeth bellach gydag opsiynau costiedig ychwanegol. I’w ystyried eto mewn cyfarfod arbennig ym mis Awst. |
Street Washing
A third quotation for the work was expected, however had unfortunately not yet been received. It was noted that street washing remained a priority.
The following was suggested: · Potential purchase of a machine for the Council’s own staff to undertake the work in-house was raised, and it was agreed that pricing options for such equipment should be explored. · Posting on social media to invite quotations from potential contractors.
Further discussion was needed with additional costed options. To be considered again at extraordinary meeting in August.
|
Agenda RhC GM Agenda |
14
|
Blodau gwyllt rhiw Penglais
Rhoddwyd diweddariad llafar gan y Clerc. Yn dilyn adroddiadau nad oedd yr ardal blodau gwyllt yn esthetig ddymunol, oherwydd ei bod yn cael ei dominyddu gan un rhywogaeth o flodyn, roedd y gwely wedi cael ei ail-hadu gyda thri math gwahanol o hadau blodau gwyllt cymysg.
Nodwyd mai cyngor blaenorol oedd lleihau ffrwythlondeb y pridd trwy ddefnyddio cerameg wedi’i malu, ac y gallai hyn fod yn angenrheidiol i osgoi i un rhywogaeth drechu eraill. |
Penglais hill wildflowers
A verbal update was provided by the Clerk. Following reports that the wildflower area was not aesthetically pleasing, due to being dominated by one species of flower, the bed had been re-seeded with three different varieties of mixed wildflower seed.
It was noted that previous advice had been to reduce the soil fertility through using crushed ceramic, and that this may be necessary to avoid one species outcompeting others.
|
|
15 | Diweddariad yn dilyn cyfarfod gydag Aber Instruments: awgrymiadau ar gyfer buddsoddiad cymunedol
Rhoddwyd diweddariad yn dilyn cyfarfod a gafodd y Maer a’r Clerc gydag Aber Instruments. Roedd y cwmni wedi ymrwymo i Aberystwyth ac yn ystyried opsiynau posibl i fuddsoddi yn y gymuned. Nodwyd y dylai unrhyw beth a ariennir cynnig newidiadau buddiol gweladwy, fel y gallai’r buddsoddwyr weld effaith eu cyfraniad yn glir.
Gofynnwyd i’r aelodau ystyried syniadau posibl ar gyfer sut y gellid defnyddio’r cyllid o fewn y gymuned, gyda ffocws ar ganlyniadau diriaethol, gweledol. I’w ystyried ymhellach yn y cyfarfod eithriadol ym mis Awst.
|
Update following meeting with Aber Instruments: suggestions for community investment
An update was provided following a meeting the Mayor and Clerk had with Aber Instruments. The company was committed to Aberystwyth and was considering potential options to invest in the community. It was noted that anything funded should offer visible beneficial changes, so that the investors could clearly see the impact of their contribution.
Members were asked to consider potential ideas for how the funding could be used within the community, with a focus on tangible, visual outcomes. To be considered further at the extraordinary meeting in August.
|
Agenda RhC GM Agenda |
16 | Estyniad i drwydded safle’r Cyngor
Roedd cynnig i ymestyn trwydded safle’r Cyngor i ganiatáu gwerthu alcohol tan 21:00 wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw. Roedd y pwrpas yr estyniad yn gysylltiedig â Gŵyl y Castell, a oedd fel arall angen Hysbysiad Digwyddiadau Dros Dro ar wahân i ganiatáu gwerthu alcohol rhwng 18:00 a 21:00.
ARGYMHELLWYD bwrw ymlaen â’r cais i ymestyn y drwydded.
|
Extension of the Council’s premises licence
A proposal to extend the Council premises licence to permit sale of alcohol until 21:00 had been circulated prior. This purpose of the extension was related to Gŵyl y Castell, which otherwise required a separate Temporary Events Notice to allow sale of alcohol from 18:00 to 21:00.
It was RECOMMENDED to proceed with the application to extend the licence. |
|
17 | Ymweliad o Arklow Awst 2025
Nodwyd y byddai llong dal yn cludo pobl ifanc o Arklow yn ymweld ag Aberystwyth ym mis Awst 2025. Cadarnhaodd y Maer, y Cyng. Emlyn Jones, ei fod ar gael ac y byddai’n cwrdd â’r grŵp ar ôl iddynt gyrraedd.
Paratowyd amserlen ddrafft ar gyfer eu hymweliad. Roedd y trefniadau’n cynnwys cyfranogiad yr RNLI a Chadetiaid y Môr, a thaith o amgylch Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Nodwyd y dylid gwahodd Clwb Rhwyfo Aberystwyth i gymryd rhan yn y gweithgareddau hefyd. |
Arklow visit August 2025
It was noted that a tall ship carrying young people from Arklow would be visiting Aberystwyth in August 2025. The Mayor, Cllr Emlyn Jones, confirmed his availability and would meet the group upon their arrival.
A draft itinerary for their visit had been prepared. Arrangements included the involvement of the RNLI and Sea Cadets, and a tour of the National Library of Wales.
It was noted that Aberystwyth Rowing Club should also be invited to participate in the activities.
|
|
18 | Ymweliad i Kronberg Rhagfyr 2025
Gadawodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y gadair, a chadeiriodd y Cyng. Kerry Ferguson am gyfnod yr eitem hon.
ARGYMHELLWYD anfon y Maer, y Consort, a dau aelod o staff i gynrychioli Aberystwyth yn ystod ymweliad mis Rhagfyr 2025 â Kronberg.
|
Kronberg visit December 2025
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands vacated the chair, and Cllr. Kerry Ferguson chaired for the duration of this item.
It was RECOMMENDED that the Mayor, Consort, and two members of staff be sent to represent Aberystwyth during the December 2025 visit to Kronberg.
|
|
PENDERFYNWYD i atal Rheol Sefydlog 3(x) ac ymestun y cyfarfod y tŷ hwnt i 21:00. | It was RESOLVED to suspend Standing Order 3(x) and extend the meeting to beyond 21:00 | ||
19
|
Diwrnod Cenedlaethol VJ
Yn dilyn cais gan breswylydd, ystyriwyd digwyddiadau posibl i goffáu Diwrnod Cenedlaethol VJ. Nodwyd y dylid gwneud ymdrechion i sicrhau y byddai rhyw fath o weithgaredd yn digwydd i nodi Diwrnod Cenedlaethol VJ, gyda phwyslais ar heddwch a myfyrdod yn hytrach na buddugoliaeth filwrol. Nodwyd ymhellach fod yn rhaid i unrhyw ddigwyddiad a drefnir fod yn gwbl ddwyieithog.
Roedd yr awgrymiadau’n cynnwys cynnal digwyddiad ar raddfa lai i goffáu’r achlysur drwy ddathlu heddwch a’r berthynas gadarnhaol sydd gan Aberystwyth â’i thref efeilliaid Yosano yn Siapan.
O dan bŵer dirprwyedig i wneud penderfyniadau ynghylch trefnu a chydlynu digwyddiadau, PENDERFYNWYD cynnal digwyddiad coffa bach yn cynnwys dadorchuddio plac diwygiedig Yosano ar Maes y Frenhines, wrth goeden heddwch y dref. |
National VJ Day
Following a request by a resident, potential events to commemorate National VJ day were considered. It was noted that efforts should be made to ensure some form of activity would take place to mark National VJ Day, with an emphasis on peace and reflection rather than military victory. It was further noted that any event organised must be fully bilingual.
Suggestions included holding a smaller scale event to commemorate the occasion by celebrating peace and the positive relation Aberystwyth has with its Japanese twin town Yosano
Under delegated power to make decisions relating to organisation and coordination of events, it was RESOLVED to hold a small commemoration event involving the unveiling of the revised Yosano plaque on Queen’s Square, by the town peace tree.
|
|
20
|
Protest y ‘Llinell Goch’ a chais i chwifio baner Palestina
O dan bŵer dirprwyedig i wneud penderfyniadau ynghylch yr olygfa stryd, PENDERFYNWYD yn unfrydol i gymeradwyo’r cais i chwifio baner Palestina i gefnogi protest y ‘Llinell Goch’ ddydd Sadwrn 26 Gorffennaf. Cytunwyd i chwifio’r faner yn ystod yr wythnos cyn ac ar ôl y digwyddiad.
Byddai’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn trefnu i’r faner gael ei chanfod.
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Maer, y Cyng. Emlyn Jones, na fyddai ar gael ar gyfer y brotest. |
‘Red Line’ protest & request to fly Palestine flag
Under delegated power to make decisions relating to the street scene, it was unanimously RESOLVED to approve the request to fly the Palestine flag in support of the ‘Red Line’ protest on Saturday 26 July. It was agreed for the flag to be flown during the week before and the week after the event.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would arrange for the flag to be sourced.
Apologies were received from the Mayor, Cllr Emlyn Jones, who would not be available for the protest.
|
|
21
|
Carnifal Llanbadarn Fawr: cais i fenthyg sedd mawr glan y môr
O dan bŵer dirprwyedig i wneud penderfyniadau yn ymwneud â’r olygfa stryd, PENDERFYNWYD y gellid benthyg y cadeiriau dec enfawr i drefnwyr Carnifal Llanbadarn Fawr, yn amodol ar dderbyn asesiad risg addas. |
Llanbadarn Fawr carnival: request to borrow giant deckchair
Under delegated power to make decisions relating to the street scene it was RESOLVED that the giant deckchairs could be lent to the Llanbadarn Fawr Carnival organisers, subject to receipt of a suitable risk assessment.
|
|
22
|
Baneri byntio baner Cymru
O dan bŵer dirprwyedig i wneud penderfyniadau ynghylch yr olygfa stryd, PENDERFYNWYD cymeradwyo gosod baneri byntio baner Cymru ar hyd Y Stryd Fawr, am gost amcangyfrifed o £210 y groesfan.
Ystyrir prynu baneri newydd, mwy’r flwyddyn nesaf. |
Welsh flag bunting
Under delegated power to make decisions relating to the street scene it was RESOLVED to approve installation of Welsh flag bunting along Great Darkgate Street, at an estimated cost of £210 per crossing.
Purchase of new, larger bunting to be considered next year. |
|
23 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
23.1 | RAY Ceredigion: Sesiynau chwarae awyr agored am ddim i blant yn digwydd yn yr Hwb ym Mhenparcau bob dydd Llun drwy gydol gwyliau’r haf. | RAY Ceredigion: Free outdoor play sessions for children taking place at the Hub in Penparcau every Monday throughout the summer holidays. | |
23.2 | Cais Cynllunio Capel y Bedyddwyr Maes Alfred A240546: Roedd cynlluniau wedi cael eu diwygio, a gofynnwyd am sylwadau pellach. Roedd y Cyng. Jeff Smith i ddosbarthu sylwadau drwy e-bost. | Planning application English Baptist’s Church, Alfred Place A240546: Plans had been revised, and further comment was requested. Cllr. Jeff Smith to circulate comments on email. | |
23.3 | Neuadd y Farchnad: Roedd Cymdeithas newydd Neuadd y Farchnad wedi’i sefydlu ac wedi cynnal eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf yn ddiweddar. Roedd y Cyng. Emlyn Jones wedi mynychu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a byddai’n dosbarthu ei nodiadau o’r cyfarfod. | Market Hall: A new Market Hall Association had been set up and had recently held their first AGM. Cllr. Emlyn Jones had attended the AGM and would circulate his notes of the meeting.
|
|
23.4 | Polisi ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion: Roedd polisi ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion yn cael ei adolygu’n flynyddol, gydag ymgynghoriad cyhoeddus ar agor ar y polisi. I’w ystyried gan y cyfarfod arbennig ym mis Awst. | Ceredigion County Council engagement policy: Ceredigion County Council’s engagement policy was currently under annual review, with a public consultation open on the policy. To be considered by the extraordinary meeting in August. | Agenda RhC
GM Agenda |
23.5 | Gwelliannau i fan bysiau Coedlan Dau: Roedd wedi dod i’r amlwg bod Cyngor y Dref eisoes yn gyfrifol am gynnal a chadw’r man bws, ac felly roedd y gwelliannau i’w croesawu. Codwyd syniad gan y Cyng. Emlyn Jones i gynnwys map Pendinas ar y man bysiau fel rhan o welliannau parhaus. I’w ystyried gan y cyfarfod arbennig ym mis Awst. | Second Avenue bus stop improvements: It had transpired that the Town Council was already responsible for maintenance of the shelter, and as such the improvements were to be welcomed. An idea was raised by Cllr. Emlyn Jones to include a Pendinas map on bus stops as part of ongoing improvements. To be considered by the extraordinary meeting in August. | Agenda RhC
GM Agenda |
23.6 | Cais am gyllid gan Yosano: Cais am gyllid i gefnogi ymweliad ag Aberystwyth gan grŵp o Yosano ym mis Tachwedd. I’w ystyried gan y Pwyllgor Cyllid. | Yosano request for funding: Request for funding to support visit to Aberystwyth by a group from Yosano in November. To be considered by the Finance Committee.
|
Agenda Cyllid
Finance Agenda |
Daeth y cyfarfod i ben am 21:15 The meeting was closed at 21:15
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Ty’r Offeiriad / The Presbytery Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2HS |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones
9.7.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 14.7.2025 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the General Management Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 14.7.2025 at 18:30.
AGENDA
|
||
1 | Presennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Cyflwyniad gan Huw Lewis, Rali Ceredigion 2025 | Presentation by Huw Lewis, Rali Ceredigion 2025 |
6 | Ystyried Cynllun Hyfforddiant y Cyngor | Consider the Council’s Training Plan |
7 | Ystyried Cynllun Lles 2024-2025 | Consider Wellbeing Plan 2024-2025 |
8 | Diweddariad ar drafodaethau ynghylch toiledau cyhoeddus | Update on negotiations regarding public toilets |
9 | Ystyried ymatebion i’r ymgynghoriad ar Ail-leoli Cofeb Rhyfel y Tabernacl | Consider responses to the consultation on the Relocation of the Tabernacle War Memorial |
10 | Diweddariad ar Marchnad y Ffermwyr | Farmers market update |
11 | Addurniadau Nadolig | Christmas decorations |
12 | Diffibrilwyr y Cyngor | Council Defibrillators |
13 | Golchi Strydoedd | Street Washing |
14 | Blodau gwyllt rhiw Penglais | Penglais hill wildflowers |
15 | Diweddariad yn dilyn cyfarfod gydag Aber Instruments: awgrymiadau ar gyfer buddsoddiad cymunedol | Update following meeting with Aber Instruments: suggestions for community investment |
16 | Estyniad i drwydded safle’r Cyngor | Extension of the Council’s premises licence |
17 | Ymweliad o Arklow Awst 2025 | Visit from Arklow August 2025 |
18 | Ymweliad i Kronberg Rhagfyr 2025 | Kronberg visit December 2025 |
19 | Diwrnod Cenedlaethol VJ | National VJ Day |
20 | Protest y ‘Llinell Goch’ a chais i chwifio baner Palestina | ‘Red Line’ protest & request to fly Palestine flag |
21 | Carnifal Llanbadarn Fawr: cais i fenthyg sedd mawr glan y môr | Llanbadarn Fawr carnival: request to borrow giant deckchair |
22 | Baneri byntio baner Cymru | Welsh flag bunting |
23 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details