General Management
09/10/2023 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)
General Management Committee (hybrid)
9.10.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Emlyn Jones Cyng. Lucy Huws Cyng. Mair Benjamin Cyng. Alun Williams Cyng. Brian Davies Cyng. Mathew Norman Cyng. Owain Hughes
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau) Will Rowlands (Clerc dan hyfforddiant) Wendy Hughes (Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau)
|
Present
Cllr. Maldwyn Pryse (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Emlyn Jones Cllr. Lucy Huws Cllr. Mair Benjamin Cllr. Alun Williams Cllr. Brian Davies Cllr. Mathew Norman Cllr. Owain Hughes
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk) Steve Williams (Facilities and Assets Manager) Will Rowlands (Trainee Clerk) Wendy Hughes (Events and Partnerships Officer) |
|
2 | Ymddiheuriadau
Cyng. Jeff Smith
|
Apologies
Cllr. Jeff Smith
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
Dim |
Declaration of Interest:
None
|
|
4 | Cyfeiriadau personol:
Llongyfarchwyd Is-Ganghellor newydd Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis. |
Personal references:
Congratulations were extended to the new Vice-Chancellor of Aberystwyth University, Prof. Jon Timmis.
|
|
5 | Tymor y Maer
Cytunwyd nad oedd angen estyniad ffurfiol i dymor y Maer, gan y gallai’r Maer bob amser gael ei ail-h/ethol am ail dymor.
Nodwyd hefyd bod cynsail wedi ei osod dros y blynyddoedd diwethaf o ethol y Dirprwy Faer yn Faer bob blwyddyn, ond nid oedd hyn yn ofyniad cyfreithiol a gallai cynghorwyr eraill sefyll hefyd.
Etholiad y Maer i ddigwydd cyn gosod y gyllideb. |
Mayoral term
It was agreed that no formal extension to the mayoral term was needed, as the Mayor could always be re-elected for a second term.
It was also noted that a precedent had been set over recent years of electing the Deputy Mayor as Mayor each year, but this was not a legal requirement and other councillors could also stand.
Mayoral election to take place before budget setting.
|
|
6 | Gwelyau blodau y promenâd
Byddai costau’n cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid. Byddai’r ddau wely yn Y Ro Fawr yn cael eu hychwanegu at y cynllun gan roi gwybod i’r trigolion sydd wedi bod yn plannu’r pamau.
|
Promenade flower beds
Costs to be provided to the Finance Committee. The two beds on Y Ro Fawr (South Marine Terrace) to be added to the plan and residents who have been planting the beds to be informed. |
Agenda Cyllid Finance Agenda |
7 | Cyfeillgarwch Yosano ac ymweliad y Maer
Roedd ymweliad Maer Yosano yn digwydd ar 9.11.2023. Byddai’r ymweliad yn cynnwys llofnodi ffurfiol i ailgadarnhau’r cyfeillgarwch yn swyddfeydd y Cyngor Tref gyda derbyniad yn yr Amgueddfa i ddilyn. Anogwyd cynghorwyr i fynychu’r ddau achlysur.Nodwyd bod plac yng ngerddi Maes y Frenhines wedi camsillafu Kayo – enw blaenorol Yosano. Byddai costau plac newydd yn cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid. ARGYMHELLWYD bod y plac yn Gymraeg, Saesneg a Japaneaidd. |
Yosano friendship and Mayoral visit
The Mayoral visit was taking place on 9.11.2023. It would include a formal signing in the Town Council offices to re-affirm the friendship, followed by a reception at the Museum. Councillors were encouraged to attend both occasions.
It was noted that a plaque in Queen’s Square gardens had a miss-spelling of Kayo – Yosano’s former name. Costs of a new plaque would be provided to the Finance Committee. It was RECOMMENDED that the plaque should be in Welsh, English and Japanese.
|
Agenda Cyllid Finance Agenda |
8 | Y daith i Kronberg a chynrychiolaeth y Cyngor
ARGYMHELLWYD bod y Clerc a’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau yn mynychu’r teithiau gefeillio, er mwyn sicrhau dilyniant, gan fod cynghorwyr a meiri yn newid. Byddai’r costau’n cael eu darparu i’r Pwyllgor Cyllid.
|
Kronberg trip and Council representation
It was RECOMMENDED that the Clerk and the Events & Partnerships Officer attend twinning trips, in the interest of continuity and as councillors and mayors change. Costs to be provided to the Finance Committee. |
Agenda Cyllid Finance Agenda |
9 | Darpariaeth cyfieithu i’r Pwyllgor
ARGYMHELLWYD darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer holl gyfarfodydd y Cyngor. Costau i’w darparu i’r Pwyllgor Cyllid.
|
Translation provision for the Committee
It was RECOMMENDED that simultaneous translation should be provided for all Council meetings. Costs to be provided to the Finance Committee.
|
Agenda Cyllid Finance Agenda |
10 | Cynllun hyfforddiant
Cynigiwyd y dylai fod yn ofynnol i gynghorwyr ymgymryd â hyfforddiant sy’n berthnasol i’w dyletswyddau cyffredinol fel cynghorwyr ond hefyd i ddyletswyddau penodol yn ymwneud â phwyllgorau megis cyllid a staffio. Dylent hefyd sicrhau fod hyfforddiant perthnasol y tu allan i ddarpariaeth y cyngor yn cael ei nodi ar y cynllun. I’w drafod ymhellach yn y Cyngor Llawn.
|
Training plan
It was proposed that councillors should be required to undertake training relevant to both their general duties as councillors but also to specific duties related to commitees such as finance and staffing. They should also ensure that relevant training outside of council provision is noted on the plan. To be discussed further at Full Council.
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council Agenda |
11 | Ymgynghoriad Cyngor Ceredigion: Iaith cyfrwng dysgu sylfaen
Ymateb i’w anfon yn ailadrodd cefnogaeth flaenorol y Cyngor Tref.
Fodd bynnag, dylid nodi hefyd bod angen cyllid i ddarparu lefelau staffio digonol. Awgrymwyd bod Cyngor Ceredigion yn gweithio gyda chyrff addysg uwch a hyfforddi athrawon i lobïo Llywodraeth Cymru am arian ychwanegol.
|
Ceredigion County Council consultation: Language medium of foundation learning
A response to be sent re-iterating the Town Council’s previous support.
However it should also be noted that funding is needed to provide adequate staffing levels. It was suggested that Ceredigion Council work with higher education and teacher training bodies to lobby the Welsh Government for additional funding.
|
Ymateb
Respond |
12 | Digwyddiad Calan Gaeaf y Maer
Edrychir ar hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. |
Halloween Mayoral event
This would be looked at for next year.
|
|
13 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
13.1 | Y Lleng Brydeinig Frenhinol: gohebiaeth oddi wrth gangen Aberystwyth ynglŷn â gosod torchau pabi gwyn. Anfonir ymateb a gwahoddiad i gyfarfod gyda’r Maer a’r Dirprwy Faer. | Royal British Legion: Correspondence from the Aberystwyth branch regarding the laying of white poppy wreaths. A response to be sent and an invitation to meet with the Mayor and Deputy Mayor.
|
Ymateb
Respond |
13.2 | Mater cynllunio : Derbyniwyd llythyr yn cwyno yn dilyn erthygl yn ymwneud â chynllunio yn y wasg. Byddai manylion cynllunio yn cael eu harchwilio cyn ymateb. | Planning issue : A letter of complaint had been received following a planning related article in the press. Planning details would be investigated before responding.
|
Ymateb
Respond |
13.3 | Yr Eglwys Efengylaidd: cais i osod llwybr y Geni ym Maes Gwenfrewi yn ystod mis Rhagfyr. Roedd cefnogaeth cyffredinol a byddai staff yn cysylltu â’r Eglwys. | Evangelical Church: request to place a Nativity trail in Maes Gwenfrewi during December. There was general support and staff would liaise with the Church.
|
Cysylltu
Contact |