General Management
16/01/2023 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (hybrid)
General Management Committee (hybrid)
16.1.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Presennol
Cyng. Kerry Ferguson (Cadeirydd)
Cyng. Emlyn Jones Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Lucy Huws Cyng. Mathew Norman Cyng. Brian Davies Cyng. Mair Benjamin Cyng. Sienna Lewis Cyng. Dylan Lewis-Rowlands
Yn mynychu:
Cyng. Alun Williams Cyng. Connor Edwards Cyng. Steve Davies
Gweneira Raw-Rees (Clerc) Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer) |
Present
Cllr. Kerry Ferguson (Chair) Cllr. Talat Chaudhri
Cllr. Emlyn Jones Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Lucy Huws Cllr. Mathew Norman Cllr. Brian Davies Cllr. Mair Benjamin Cllr. Sienna Lewis Cllr Dylan Lewis-Rowlands
In attendance:
Cllr. Alun Williams Cllr. Connor Edwards Cllr. Steve Davies
Gweneira Raw-Rees (Clerk) Steve Williams (Facilities and Assets Manager) Wendy Hughes (Events & Partnerships Officer)
|
|
2 | Ymddiheuriadau
Cyng. Bryony Davies Cyng. Mark Strong
|
Apologies
Cllr. Bryony Davies Cllr. Mark Strong
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
Dim
|
Declaration of Interest:
None |
|
4 | Cyfeiriadau personol:
Dim |
Personal references:
None
|
|
5 | Blodau a coed – diweddariad
Roedd coed newydd yn cael eu plannu ym Mharc Kronberg
|
Town Flowers and trees – update:
Replacement trees were being planted in Parc Kronberg |
|
6 | Sbwriel a glanhau tref
Roedd y Cynorthwy-ydd Amgylcheddol presennol yn gadael Aberystwyth ym mis Mehefin a byddai angen cael rhywun yn ei le. Atgoffwyd cynghorwyr i nodi’r angen am fagiau atal gwylanod yn eu wardiau. |
Refuse and town cleaning
The current Environmental Assistant was leaving Aberystwyth in June and would need to be replaced.
Councillors were reminded to identify the need for gull proof bags within their wards.
|
|
7 | Santes Dwynwen
Rhoddwyd diweddariad a gofynnwyd i gynghorwyr annog y grwpiau a’r partneriaethau yr oeddent yn gysylltiedig â nhw i fod yn bresennol. |
Santes Dwynwen
An update was provided and councillors were asked to encourage the groups and partnerships they were associated with to attend.
|
|
8 | Cadeiriau dec enfawr i’r prom
Cefnogwyd mewn egwyddor, ac ARGYMHELLWYD y dylai’r Pwyllgor Cyllid ystyried y costau |
Giant prom deckchairs
It was supported in principle, and it was RECOMMENDED that the costs be considered by the Finance Committee.
|
Agenda Cyllid
Finance agenda |
9 | Gefeillio | Twinning | Agenda Cyllid
Finance agenda |
9.1 | Sant Brieg: roedd y 50fed pen-blwydd yn cael ei gynnal yn 2023 a chytunwyd y byddai is-grŵp o bobl â diddordeb yn cael ei ffurfio i gynllunio gweithgareddau ac i edrych ar ffurfio Partneriaeth Gefeillio newydd. Byddai’r grŵp yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
|
St Brieuc: the 50th anniversary was taking place in 2023 and it was agreed a sub group of interested parties would be formed to plan activities and to look at forming a new Twinning Partnership. The group would report back to the General Management Committee.
|
Trefnu cyfarfod
Arrange meeting |
9.2 | Arklow: byddai cyfarfod yn cael ei drefnu gydag aelodau Partneriaeth Arklow i edrych ar ddatblygu’r bartneriaeth gefeillio ac i edrych ar wahodd cynrychiolwyr Arklow i Aberystwyth ym mis Awst. | Arklow: a meeting would be arranged with members of the Arklow Partnership to look at developing the twinning partnership and to look at inviting Arklow representatives to Aberystwyth in August.
|
Trefnu cyfarfod
Arrange meeting |
10 | Ymgynghoriad: Cynllun Lles Ceredigion 2023-28
Teimlai cynghorwyr fod y cynllun yn amwys ac yn siomedig gyda chyflawni sero net erbyn 2030 fel yr unig darged mesuradwy.
Teimlwyd hefyd bod ymgynghori wedi bod yn gyfyngedig ac nad oedd Aberystwyth fel yr unig dref fawr yng Ngheredigion yn cael ei chynrychioli’n ddigonol ar y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Byddai’n fuddiol pe bai swyddogion yn cyfarfod â’r Cyngor Tref |
Consultation: Ceredigion Wellbeing Plan 2023-28
Councillors felt that the plan was vague and disappointing with achieving net zero by 2030 being the only measurable target.
It was also felt that consultation had been limited and that Aberystwyth as the only large town in Ceredigion was not adequately represented on the Public Service Board.
It would be beneficial if officers met with the Town Council
|
Ymateb
Respond
|
11 | Ymgynghoriad: Defnydd Swyddfeydd y Cyngor Sir at y dyfodol
Cyflwynwyd syniadau amrywiol gan gynnwys:
|
Consultation: Future use of Ceredigion offices
Various ideas were presented including:
|
Ymateb
Respond
|
12 | Bardd y Dref
Eglurodd y Cyng. Emlyn Jones y byddai hwn yn deitl anrhydeddus dinesig. Roedd y Cynghorwyr yn cefnogi’r syniad yn llwyr a byddai manylion pellach yn cael eu llunio ynglŷn â dethol, urddo a dyletswyddau ac ati i’w cyflwyno i’r Cyngor Llawn. |
Town bard
Cllr Emlyn Jones explained that this would be a civic honorary title. Councillors fully supported the idea and further detail would be drawn up as to selection, inauguration and duties etc to be presented to Full Council
|
Agenda Cyngor Llawn
Full Council agenda |
Oherwydd pwysau amser, cytunodd y cynghorwyr i atal y Rheolau Sefydlog am 15 munud er mwyn ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda. | Due to time pressure, councillors agreed to suspend Standing Orders for 15 minutes in order to consider the remaining items on the agenda.
|
||
13 | Cydnabod menywod Aberystwyth
Roedd y Cyng Jeff Smith wedi dosbarthu rhestr o ferched nodedig Aberystwyth ac eglurodd yr angen iddynt gael eu cydnabod. Cytunwyd bod placiau’n briodol a byddai’r Pwyllgor Cyllid yn ystyried y gyllideb. |
Recognition for the women of Aberystwyth
Cllr Jeff Smith had circulated a list of the noteworthy women of Aberystwyth and explained the need for them to be recognised. It was agreed that plaques were appropriate and the Finance Committee would consider the budget.
|
Agenda Cyllid
Finance agenda |
14 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
14.1 | Barcud: ymateb yn rhoi caniatâd i adleoli cofeb rhyfel Mario Rutelli ar hen safle’r Tabernacl ac yn amlinellu amodau amrywiol. Cytunwyd eisoes ar adleoli ac adfer y gofeb a byddai’r costau’n cael eu harchwilio. | Barcud: a response giving permission for the relocation of the Mario Rutelli war memorial on the old Tabernacle site and outlining various conditions. The relocation and restoration of the memorial had previously been agreed and costs would be investigated.
|
Ymchwilio i’r costau
Investigate costs |
14.2 | Gefeillio Esquel: yn gofyn am ebost swyddogol esquel@aberystwyth.gov.uk. Cytunwyd bod hwn yn syniad da ac y byddai’n cael ei ymchwilio.
|
Esquel Twinning: request for a formal email address esquel@aberystwyth.gov.uk. It was agreed that this was a good idea and would be investigated. | Ymchwilio
Investigate |
14.3 | Richard Outram, Cyngor Manceinion: cynnig o hadau o’r goeden a oedd wedi goroesi’r ffrwydrad atomig yn Hiroshima. Roedd y Clerc wedi derbyn y cynnig.
|
Richard Outram, Manchester Council: an offer of seeds from the tree that had survived the atomic blast in Hiroshima. The Clerk had accepted the offer.
|
|
14.4 | HAHAV: llythyr o ddiolch am y rhodd a’r croeso cynnes a dderbyniwyd. | HAHAV: a letter of thanks for the donation and the warm welcome received.
|