General Management

14/02/2022 at 7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol (o bell)

General Management Committee (o bell)

 14.2.2022

 

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng Kerry Ferguson (Cadeirydd)

Cyng Dylan Wilson-Lewis

Cyng Alun Williams

Cyng Talat Chaudhri

Cyng Sue Jones-Davies

Cyng Jeff Smith

Cyng Mair Benjamin

 

Yn mynychu:

Cyng Lucy Huws

Cyng Danny Ardeshir

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Steve Williams (Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau)

Present

 

Cllr Kerry Ferguson (Chair)

Cllr Dylan Wilson-Lewis

Cllr Alun Williams

Cllr Talat Chaudhri

Cllr Sue Jones-Davies

Cllr Jeff Smith

Cllr Mair Benjamin

 

In attendance:

Cllr Lucy Huws

Cllr Danny Ardeshir

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

Steve Williams (Facilities and Assets Manager)

 

 
2 Ymddiheuriadau

Cyng. Mari Turner

Cyng Nia Edwards-Behi

Cyng Mark Strong

Cyng Charlie Kingsbury

 

Apologies

Cllr Mari Turner

Cllr Nia Edwards-Behi

Cllr Mark Strong

Cllr Charlie Kingsbury

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Dim

 

Declaration of Interest:

 

None

 
4 Cyfeiriadau personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 
5 Baw cŵn

 

Roedd cynghorwyr wedi ymgynghori â phreswylwyr yn eu wardiau ynglŷn â biniau cŵn a thrafodwyd lleoliadau amrywiol:

 

  • Pont Trefechan: Roedd y lleoliad hwn yn eiddo i Dŵr Cymru a oedd wedi gwrthod caniatâd o’r blaen felly gosodwyd biniau mor agos â phosibl ar y ddwy ochr.
  • Stryd y Bont: problem oherwydd palmentydd cul ac eiddo preswyl
  • Felin y Môr: roedd biniau’n cael eu cam-drin gyda phreswylwyr yn eu defnyddio ar gyfer gwastraff cartref felly fe’u hadleolwyd hwy i lwybr troed Pendinas i ddal cerddwyr cŵn
  • Parc Dinas, Penparcau: roedd trigolion yn defnyddio’r bin ar gyfer gwastraff cartref felly cafodd ei gymryd oddi yno.

 

Nodwyd bod gan Dregaron finiau cŵn gyda bagiau ond cafodd y rhain eu cam-drin hefyd pan gafodd eu treialu yn Aberystwyth gyda phobl yn cymryd yr holl fagiau. Roeddent hefyd yn uchder anniogel ar gyfer casglu gwastraff.

 

Nodwyd bod gan Gei Newydd orchudd bolardiau am faw cŵn a oedd yn rhan o raglen Cyngor Ceredigion. Byddai Steve Williams yn holi pryd fyddai’r rhaglen yn cael ei chyflwyno yn Aberystwyth.

 

Roedd baneri plu’r Cyngor Tref hefyd yn cynnwys symbol am faw cŵn a’r gobaith oedd y gellid gweithredu’r prosiect hwn erbyn yr haf.

 

Dog fouling

 

Councillors had consulted residents within their wards regarding dog bins and various locations were discussed:

 

  • Trefechan Bridge: this location was owned by Welsh Water who had previously refused permission so bins were placed as close as possible on both sides.
  • Bridge Street: problematic due to narrow pavements and residential properties
  • Felin y Môr: bins were abused by residents using them for household waste so they had been relocated to the Pendinas footpath to catch dog walkers
  • Parc Dinas, Penparcau: residents were using the bin for household waste so it was removed.

 

Tregaron was noted as having dog bins with bags but these were also abused when trialled in Aberystwyth with people taking all the bags. They were also an unsafe height for waste collection.

 

New Quay was noted as having bollard covers about dog fouling which was a component of a Ceredigion Council programme. Steve Williams would investigate when the programme was being rolled out in Aberystwyth.

 

The Town Council’s feather banners also featured a symbol about dog fouling and it was hoped that this project could be implemented by the summer.

 

 
6 Prosiect Ar dy Feic

 

ARGYMHELLWYD na fyddai’r Cyngor Tref yn cymryd rhan yn y prosiect hwn oherwydd costau adnewyddu a chynnal a chadw uchel. Roedd lleoliad arfaethedig lawnt y castell ger Traeth y De hefyd yn broblem oherwydd cyrydu halen a’r cynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol

 

On Your Bike Project

 

It was RECOMMENDED that the Town Council did not participate in this project due to high replacement and maintenance costs. The proposed location of the castle green in South Marine was also problematic due to salt corrosion and the increase in anti-social behaviour.

 

Ymateb

Respond

7 Plan Bee

 

Cyflwynwyd cynnig gan bump o drigolion lleol ynghylch plannu mwy cyfeillgar i wenyn ar dir Ceredigion i’r cyfarfod. Roedd gan y Cyngor Tref bolisi cyfeillgar i wenyn eisoes a oedd yn cael ei weithredu ym Maes Gwenfrewi ac ardaloedd eraill o fewn ei reolaeth. Byddai mabwysiadu pamau Ceredigion hefyd yn gyfle i blannu planhigion cyfeillgar i wenyn.  Gellid hefyd fabwysiadu a datblygu safleoedd gwyrddion eraill fel y rhai yn Sgwâr y Frenhines ac ar waelod Rhiw Penglais maes o law

 

Dylid trafod mabwysiadu’r safleoedd hyn gyda Cheredigion

 

Plan Bee

 

A proposal by five local residents regarding more bee friendly planting on Ceredigion land was presented to the meeting. The Town Council already had a bee friendly policy which was being implemented in Maes Gwenfrewi and other areas within its control. Also adoption of Ceredigion borders would be an opportunity for bee friendly planting.  Other sites such as Queen’s Square greens and the green at the bottom of Penglais Hill could also be adopted and developed in due course.

 

Adoption of these sites should be discussed with Ceredigion.

 

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir

Contact CCC

 

8 Parcio ger Neuadd y Farchnad

 

Oherwydd pwysigrwydd yr ardal hon i gerddwyr sefydledig o ran estheteg ac o ran ei chyfraniad i economi’r dref, ARGYMHELLWYD y dylid anfon cais i Geredigion i ddiwygio’r gorchmynion traffig presennol yn benodol i atal parcio a hefyd yn gofyn am i’r bolardiau gael eu disodli.

Parking by the Market Hall

 

Due to the importance of this established pedestrianised area in terms of aesthetics and in terms of its contribution to the town’s economy, it was RECOMMENDED that a request be sent to Ceredigion to amend the current traffic orders to specifically prevent parking and also requesting that the bollards be replaced.

 

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir

Contact CCC

9 Tiwbiau dal baneri

 

ARGYMHELLWYD y dylid mabwysiadu’r tiwbiau dal baneri mewn egwyddor ond y dylai’r costau gael eu hystyried gan y Pwyllgor Cyllid o ran prynu, cynnal a chadw a chyflawni’r prosiect.

Flag holders

 

It was RECOMMENDED that the flag holders should be adopted in principle but that the costs should be considered by the Finance Committee in terms of purchase, maintenance, and project delivery.

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

10 Cloddiad archaeolegol Pendinas

 

I’w ystyried gan y Pwyllgor Cyllid

Pendinas Archaeological Dig

 

To be considered by the Finance Committee

 

Agenda Cyllid

Finance agenda

11 Plannu coed ym Maes yr Afon

 

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn ysgrifennu at Geredigion i ailystyried plannu ar y safle

Tree planting at Maes yr Afon

 

It was RECOMMENDED that Council writes to Ceredigion to reconsider planting on the site

 

 
12 Ymgynghoriad – Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru: Ymgysylltu â rhanddeiliaid gan Brifysgolion Cymru

 

Cwestiynau’r ymgynghoriad ynghylch ymgysylltu â rhanddeiliaid gan Brifysgol Aberystwyth i’w dosbarthu i gynghorwyr er mwyn cytuno ar ymateb yn y Cyngor Llawn.

Consultation – Higher Education Funding Council for Wales: Stakeholder engagement by Welsh Universities

 

The consultation questions regarding stakeholder engagement by Aberystwyth University to be circulated to councillors in order to agree a response at Full Council.

 

Cylchredeg

Circulate

13 Parcio Neuadd Goffa

 

ARGYMHELLWYD bod y Cyngor yn cynnig arwyddion fel opsiwn cyntaf ac yna’n adolygu.

Neuadd Goffa Parking

 

It was RECOMMENDED that Council offer signage as a first option and then review.

 

Cysylltu

Contact

14 Gohebiaeth

 

Correspondence  
14.1 Roedd gwybodaeth am gynhadledd Dydd Gŵyl Dewi Comisiynydd Heddlu Dyfed Powys wedi’i dosbarthu. Y thema oedd ymddygiad gwrthgymdeithasol Information on the Dyfed Powys Police Commissioner St David’s Day conference had been circulated. The theme was anti-social behaviour