Planning
02/09/2024 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty
Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Council Chambers, 11 Baker Street
2.9.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Mair Benjamin Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Bryony Davies Cyng. Emlyn Jones Cyng. Lucy Huws Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Maldwyn Pryse
Yn mynychu: Cyng. Umer Aslam Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Shelley Childs (Cyngor Sir Ceredigion) Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd) Pam Hughes (Aelod o’r cyhoedd) Sydney Jones (Aelod o’r cyhoedd) Dai Thomas (Aelod o’r cyhoedd)
|
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Mair Benjamin Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Bryony Davies Cllr. Emlyn Jones Cllr. Lucy Huws Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Maldwyn Pryse
In attendance: Cllr. Umer Aslam Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council) Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator) Pam Hughes (Member of the public) Sydney Jones (Member of the public) Dai Thomas (Member of the public)
|
|
PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes a symud eitem 6 i’w thrafod yn syth ar ôl eitem 4.
|
It was RESOLVED to amend the order of business and move item 6 to be discussed immediately after item 4. | ||
2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Owain Hughes
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Dim
|
Apologies and Absences:
Absent with apologies: Cllr. Owain Hughes
Absent without apologies: None |
|
3 | Datgan Diddordeb:
5.4. A240621: 11 Stryd y Popty: Cyng. Emlyn Jones – perthynas fusnes gyda’r ymgeisydd. |
Declaration of interest:
5.4. A240621: 11 Stryd y Popty: Cllr. Emlyn Jones – business relationship with applicant.
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
Dim |
Personal references:
None
|
|
5 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications
|
|
5.1 | A240546: Eglwys y Bedyddwyr, Maes Alfred
Mae safbwynt y Cyngor Tref yn parhau fel ag o’r blaen:
Mae’r Cyngor Tref yn cefnogi’r addasiadau anabledd a hygyrchedd. Fodd bynnag, ni all ystyried y cais oherwydd nad oes datganiad treftadaeth adeilad rhestredig. Gofynnir am gais cyflawn.
Rydym YN GWRTHWYNEBU cael gwared ar asedau rhestredig, megis yr organ a’r seddau, ond rydym yn hapus i ailystyried hyn os rhoddir cyfiawnhad dros eu tynnu. |
A240546: Baptist’s Church, Maes Alfred
The Town Council’s position remains as previously:
The Town Council supports the disability and accessibility adaptations. However, it is unable to consider the application due to there being no listed building heritage statement. A complete application to be requested.
We OBJECT to the removal of listed assets, such as the organ and pews, however are happy to reconsider this should justification for their removal be given.
|
|
5.2 | A240617 Cambrian Forge, 9 Dan Dre
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’r cais hwn ond hoffai weld ffenestri pren yn hytrach na UPVC. Dylid gosod amod yn ei atal rhag cael ei ddefnyddio fel llety gwyliau. |
A240617 Cambrian Forge, 9 Dan Dre
The Town Council SUPPORTS this application, however would like to see timber windows rather than UPVC. A condition should be placed preventing it from being used as holiday accommodation.
|
|
5.3 | A240610: 41 Y Stryd Fawr
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’r cais hwn ac yn croesawu’r gwelliannau i seilwaith gwyrdd. Gofynnwn yn garedig i’r datblygwr ystyried mathau eraill o baneli solar, megis rhai y gellir eu gosod yn gyfwyneb â llechi’r to. |
A240610: 41 Y Stryd Fawr
The Town Council SUPPORTS this application and welcomes the improvements to green infrastructure. We would kindly ask the developer to consider other types of solar panels, such as ones which can be installed flush with roofing slates.
|
|
5.4 | A240621: 11 Stryd y Popty
Ni chymerodd y Cyng Emlyn Jones ran yn y trafodaethau.
Mae’r Cyngor Tref yn CEFNOGI’r cais hwn ac yn ei groesawu fel un sy’n dod â gofod masnachol gwag yn ôl i ddefnydd, yn enwedig at ddibenion gofal iechyd.
Dylid nodi bod y Cyngor Tref yn denant ar lawr cyntaf yr un adeilad. |
A240621: 11 Stryd y Popty
Cllr. Emlyn Jones did not participate in discussions.
The Town Council SUPPORTS this application and welcomes it as bringing empty commercial space back into use, especially for healthcare purposes.
It should be noted that the Town Council is tenant of the first floor of the same building.
|
|
6 | Ymgynghoriad datblygwr cyn cynllunio: Cartref Gofal Bodlondeb
Gwnaed sylwadau gan aelodau o’r cyhoedd.
PENDERFYNWYD ymateb i’r ymgynghoriad cyn cynllunio yn gofyn am y canlynol: · Cadw’r hen ysgol, gan gynnal asesiad llawn o’r effaith ar dreftadaeth i gwmpasu’r potensial o drosi’r hen ysgol heb ei dymchwel. · Bod coed ynn a llwyfen ar y safle yn cael eu gwarchod, gan nodi pwysigrwydd yr Ynn fel cynefin i’r glöyn byw Brithribin Gwyn prin. · Bod hanner y llety a grëwyd yn cael ei ddyrannu ar gyfer pobl hŷn lleol. · Bod asesiad effaith traffig llawn yn cael ei gwblhau.
Nodwyd pryder ynghylch effaith cau Bodlondeb ar ddarpariaeth gofal cymdeithasol yn yr ardal, yn enwedig i’r henoed. I’w drafod gan y Cyngor Llawn.
Gadawodd y Cyng. Kerry Ferguson y cyfarfod. Gadawodd y Cyng. Shelley Childs y cyfarfod. Gadawodd Pam Hughes, Sydney Jones a Dai Thomas y cyfarfod. |
Pre-planning developer consultation: Bodlondeb Care Home
Representations were made by members of the public.
It was RESOLVED to respond to the pre-planning consultation requesting the following: · The old school be kept, with a full heritage impact assessment carried out to scope the potential of converting the old school without demolition. · That both Ash and Elm trees on the site be protected, noting the importance of the Ash as a habitat for the rare White Letter Hairstreak butterfly. · Half of the accommodation created be allocated for local elderly persons. · That a full traffic impact assessment is completed.
Concern was noted over the impact of Boodlondeb’s closure on social care provision in the area, especially for the elderly. To be discussed by Full Council.
Cllr. Kerry Ferguson left the meeting. Cllr. Shelley Childs left the meeting. Pam Hughes, Sydney Jones & Dai Thomas left the meeting.
|
|
7 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
7.1 | Ymgysylltiad Gwasanaethau Gofal Sylfaenol a Chymunedol y GIG: Sesiwn ymgysylltu yn Hwb Penparcau 24 Medi 2024. | NHS Primary Care & Community Services engagement: Engagement session at Penparcau Hub 24 September 2024. |
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
11 Stryd y Popty / Baker Street Aberystwyth SY23 2BJ |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
27.8.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Siambr y Cyngor, 11 Stryd y Popty, nos Lun, 2.9.2024 am 19:00
You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and in the Council Chamber, 11 Baker Street, at 19:00 on Monday 2.9.2024
AGENDA
1 | Yn bresennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau | Apologies |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
5.1 | A240546: Eglwys y Bedyddwyr, Maes Albert
|
A240546: Batist’s Church, Maes Albert |
5.2 | A240617: Cambrian Forge, 9 Dan Dre | A240617: Cambrian Forge, 9 Dan Dre |
6 | Ymgynghoriad datblygwr cyn cynllunio: Cartref Gofal Bodlondeb | Pre-planning developer consultation: Bodlondeb Care Home |
7 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details