Planning

03/02/2025 at 6:30 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr

Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road

 

3.2.2025

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Umer Aslam

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Lucy Huws

 

Yn mynychu:

Cyng. Mark Strong

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Umer Aslam

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Lucy Huws

 

In attendance:

Cllr. Mark Strong

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 

 
2 Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Owain Hughes

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Dim

 

Apologies and Absences:

 

Absent with apologies:

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Owain Hughes

 

Absent without apologies:

None

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

6. Argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Roedd y Cyng. Talat Chaudhri wedi bod yn aelod o’r Comisiwn o’r blaen.

Declaration of interest:

 

6. Recommendations of the Commission for Welsh-speaking Communities’ report: Cllr. Talat Chaudhri had previously been a member of the Commission.

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 
5 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 
5.1 A240967: 16 Clos Crugiau

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A240967: 16 Clos Crugiau

 

NO OBJECTION

 

Ymateb

Respond

5.2 A240960: Premier Inn

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU oherwydd bod yr arwyddion allanol arfaethedig wedi’u goleuo’n fewnol, o ystyried lleoliad yr eiddo ar y promenâd Edwardaidd hanesyddol ac yn yr ardal gadwraeth.

 

Dylai unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig, ac eithrio enw’r busnes, fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth (wedi’i gosod uwchben neu i’r chwith i destun arall). Dylid paentio’r adeilad mewn lliw sy’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r promenâd h.y. arlliw o las.

A240960: Premier Inn

 

The Town Council OBJECTS due to the proposed external signage being internally illuminated, given the property’s location on the historic Edwardian promenade and in the conservation area.

 

Any written materials, apart from the name of the business, should be bilingual with Welsh given priority (placed above or to the left of other text). The building should be painted in a colour appropriate for that part of the promenade i.e. a shade of blue.

Ymateb

Respond

5.3 A250030: Hen Goleg

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A250030: Old College

 

NO OBJECTION

 

Ymateb

Respond

5.4 A250034: 2 Rhes Caergrawnt, Morfa Mawr

 

DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref, sy’n croesawu defnyddio deunyddiau adeiladu traddodiadol. Byddem yn awgrymu bod ymchwiliad i asbestos yn cael ei gynnal cyn dymchwel y sied.

 

Dylid nodi bod y Cyngor Tref yn berchen ar eiddo cyfagos.

A250034: 2 Rhes Caergrawnt, Morfa Mawr

 

The Town Council has NO OBJECTION and welcomes the use of traditional building materials. We would suggest that an investigation for asbestos is undertaken prior to demolition of the lean to shed.

 

It should be noted that the Town Council does own property nearby.

 

Ymateb

Respond

5.5 A240957: Premier Inn

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU oherwydd bod yr arwyddion allanol arfaethedig wedi’u goleuo’n fewnol, o ystyried lleoliad yr eiddo ar y promenâd Edwardaidd hanesyddol ac yn yr ardal gadwraeth.

 

Dylai unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig, ac eithrio enw’r busnes, fod yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn cael blaenoriaeth (wedi’i gosod uwchben neu i’r chwith i destun arall). Dylid paentio’r adeilad mewn lliw sy’n briodol ar gyfer y rhan honno o’r promenâd h.y. arlliw o las.

A240957: Premier Inn

 

The Town Council OBJECTS due to the proposed external signage being internally illuminated, given the property’s location on the historic Edwardian promenade and in the conservation area.

 

Any written materials, apart from the name of the business, should be bilingual with Welsh given precedent (placed above or to the left of other text). The building should be painted in a colour appropriate for that part of the promenade i.e. a shade of blue.

 

Ymateb

Respond

6 Argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

 

ARGYMHELLWYD ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am weithredu argymhellion yr adroddiad, ac i Aberystwyth gael ei chynnwys yn yr ardal o ddwysedd uwch. Byddai’r llythyr hwn yn gofyn ymhellach i Gyfarwyddyd Erthygl 4 gael ei gyflwyno ar gyfer Aberystwyth. Byddai angen amserlen ar gyfer gweithredu’r argymhellion.

Recommendations of the Commission for Welsh-speaking Communities’ report

 

It was RECOMMENDED to write to the Welsh Government requesting the implementation of the report’s recommendations, and for Aberystwyth to be included within the area of higher density. This letter would further request for an Article 4 Direction to be introduced for Aberystwyth. A timeline for implementation of the recommendations would be needed.

 

 
7 Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft

 

PENDERFYNWYD ymateb i’r ymgynghoriad i gefnogi’r canllawiau drafft, a chroesawu eu cyflwyno. Byddai’r canlynol hefyd yn cael eu nodi:

·         Cefnogaeth gryf i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Aberystwyth.

·         Wrth ystyried ceisiadau cynllunio a gorfodaeth, dylid rhoi ystyriaeth i wedd hanesyddol tref, nid dim ond ei gwedd bresennol, gan gynnwys ystyriaeth briodol o sut roedd adeiladau yn edrych yn hanesyddol.

·         Dylai amrywiaeth a chynwysoldeb fod yn brif ystyriaeth; dylid cofleidio a gwarchod amrywiaeth Aberystwyth fel rhan allweddol o’i hunaniaeth.

·         Dylai unrhyw cynlluniau neu ganllawiau blaenau siop/ lliw a grëir wneud lwfans rhesymol ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau.

·         Lle bynnag y mae ymgynghori â rhanddeiliaid yn angenrheidiol neu’n briodol, dylai hyn gynnwys ymgynghori â’r Cyngor Tref neu Gymuned lleol, yn enwedig wrth benderfynu ar ganllawiau.

·         Dylid llunio rhestrau o adeiladau o bwysigrwydd lleol mewn ymgynghoriad â’r Cyngor Tref neu Gymuned lleol.

·         Dylid newid argymhelliad 5.3.4 i ddarllen “unrhyw adeilad sy’n cadw nifer sylweddol o’i nodweddion pensaernïol hanesyddol…”.

·         Cefnogi’n gryf yr angen am fwy o orfodi.

·         8. Canllawiau a rheolaeth hysbysebu: Dylid rhoi pwyslais cryf ar y defnydd o’r Gymraeg, fel rhan o hunaniaeth tref. Dylai rheolaeth gynnwys darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i ddeunyddiau ysgrifenedig fod yn ddwyieithog gan roi blaenoriaeth i’r Gymraeg. Dylai hefyd wahardd arwyddion wedi’u goleuo’n fewnol. Ni ddylai unrhyw ganllawiau newydd fod yn wannach na’r canllawiau presennol mewn perthynas â’r Gymraeg.

·         Dylid cynnwys byrddau “gosodwyd gan” o fewn rheolaeth hysbysebu, gyda gwrthwynebiad cyffredinol i arwyddion o’r fath.

·         9.3.1 Dylid datblygu unrhyw Strategaeth Adeiladau Mewn Perygl mewn ymgynghoriad â’r Cyngor Tref neu Gymuned lleol ac ymgyngoreion statudol eraill.

·         Dylai Adran 10.2.4 sy’n cyfeirio at Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) fod yn gryfach, gyda rheolaeth a thrwyddedu llymach ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth. Dylai canllawiau hefyd gynnwys darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i HMOs ddarparu digon o le ar gyfer storio gwastraff a beiciau. Dylai’r ddarpariaeth hon fod yn berthnasol nid yn unig i HMOs, ond hefyd wrth addasu adeiladau yn fflatiau.

·         Mae’r map o’r gorchudd coed yn Aberystwyth (Ffig. 33) yn anghywir, gyda choed stryd allweddol ar Stryd Portland a Rhodfa’r Gogledd ar goll. Dylid rhoi ystyriaeth benodol hefyd i gardiau coed metel a geir yn Aberystwyth, megis ar Stryd Portland, sydd o werth hanesyddol ac sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at y strydlun. Mae lluniau hanesyddol o Aberystwyth yn dangos nifer uwch o goed stryd.

·         Dylai cynhyrchu taflen Ardal Gadwraeth Aberystwyth i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r ardal gadwraeth fod yn flaenoriaeth uchel yn hytrach nag yn ganolig. Dylid cynhyrchu a dosbarthu taflenni canllaw cyn neu ar yr un pryd a chyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.

·         Dylid cynnwys darpariaeth yn y Canllawiau Atodol ar gyfer gorfodi cynnal a chadw a chlirio cwteri eiddo.

·         Ni ddylid cyfyngu cadwraeth rheiliau hanesyddol i reiliau stryd a chynnwys rheiliau ar eiddo hefyd, er enghraifft balconïau haearn bwrw hanesyddol.

·         Byddai angen amserlen ar gyfer gweithredu’r Canllawiau Atodol.

Ceredigion County Council consultation on Draft Supplementary Planning Guidance

 

It was RESOLVED to respond to the consultation in support of the draft guidance, and welcoming their introduction. The following would also be noted:

·         Strong support for the introduction of an Article 4 Direction for Aberystwyth.

·         When considering planning applications and enforcement, consideration should be given to a town’s historic appearance, not just its current appearance, including appropriate consideration of how buildings looked historically.

·         Diversity and inclusivity should be a primary consideration; Aberystwyth’s diversity should be embraced and conserved as a key part of its identity.

·         Any shop front/colour schemes or guidance created should make reasonable allowance for culture and arts.

·         Anywhere consultation with stakeholders is necessary or appropriate, this should include consultation with the local Town or Community Council, especially when deciding on guidance.

·         Lists of buildings of local importance should be devised in consultation with the local Town or Community Council.

·         Recommendation 5.3.4 should be change to read “any building which retains a significant number of its historical architectural features……”.

·         Strongly support the need for greater enforcement.

·         8. Advertisement guidance & control: A strong emphasis should be included on the use of the Welsh language, as part of a town’s identity. Control should include provision to require written materials to be bilingual with priority given to Welsh. It should also prohibit internally illuminated signage. Any new guidance should not be any weaker than the present guidance in relation to the Welsh language.

·         “Let by” boards should be included within advertising control, with a general opposition to such signs.

·         9.3.1 Any Buildings at Risk Strategy should be developed in consultation with the local Town or Community Council and other statutory consultees.

·         Section 10.2.4 which refers to Houses in Multiple Occupation (HMOs) should be stronger, with stricter control and licencing of HMOs. Guidance should also include provision to require HMOs to provide adequate space for storage of waste and bicycles. This provision should apply not only to HMOs, but also when converting buildings into flats.

·         The map of tree coverage in Aberystwyth (Fig. 33) is incorrect, with key street trees on Portland Street and North Parade missing. Specific consideration should also be given to metal tree guards found in Aberystwyth, such as on Portland Street, which are of historic value and contribute positively to the street scene. Historic photos of Aberystwyth show a greater number of street trees.

·         Production of an Aberystwyth Conservation Area leaflet to raise public awareness of the conservation area should be of high priority, rather than medium. Guidance leaflets should be produced and distributed prior to or on the introduction of an Article 4 Direction.

·         Provision should be included within the Supplementary Guidance for enforcement of maintenance and clearing of properties’ gutters.

·         Conservation of historic railings should not be limited to street railings and also include railings on properties, for example historic cast iron balconies.

·         A timeline for implementation of the Supplementary Guidance would be needed.

 

Ymateb

Respond

8 Gohebiaeth Correspondence

 

 
8.1 Ymgynghoriad cyn-gynllunio 8, 10 & 12 Stryd y Faenor: Cyfnod ymgynghori ar agor tan 3 Mawrth 2025. I’w drafod gan y Cyngor Llawn os yn briodol; i’w ofyn am estyniad bychan i’r Pwyllgor Cynllunio ei drafod ar 3 Mawrth 2025 os na. Pre-planning application consultation 8, 10 & 12 Vaenor Street: Consultation period open until 3 March 2025. To be discussed by Full Council if appropriate; a slight extension to be requested for the Planning Committee to discuss on 3 March 2025 if not.

 

 
8.2 Pwyllgor Cyllid Llywodraeth Cymru: Adroddiad craffu ar y gyllideb ddrafft wedi’i gyhoeddi. Trafodaeth ar y gyllideb ddrafft i’w chynnal ar 4 Chwefror 2025. Wesh Government Finance Committee: Draft budget scrutiny report published. Discussion on draft budget to be held on 4 February 2025.

 

 
8.3 Ymddiswyddiad: Roedd y Cyng. Gwion Jones wedi cyflwyno ei ymddiswyddiad, gan orffen yn ei rôl fel Cynghorydd o 3 Mawrth 2025. Resignation: Cllr. Gwion Jones had tendered his resignation, stepping down from his role as Councillor from 3 March 2025.

 

 
8.4 Ysgol gymunedol iaith Mandarin: Cais i gynnal gwersi iaith cymunedol yn Neuadd Gwenfrewi. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Mandarin language community school: Request to hold community language lessons in Neuadd Gwenfrewi. To be discussed by General Management Committee.

 

Agenda RhC

GM Agenda

Daeth y cyfarfod i ben am 20:30.                                                              The meeting was closed at 20:30.

Agenda:

          Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2HS

 

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

29.1.2025

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, nos Lun, 3.2.2025 am 18:30

 

You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Monday 3.2.2025

 

AGENDA

 

 
1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau Apologies
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Ystyried Ceisiadau Cynllunio To consider Planning Applications
5.1 A240967: 16 Clos Crugiau A240967: 16 Clos Crugiau
5.2 A240960: Premier Inn A240960: Premier Inn
5.3 A250030: Hen Goleg A250030: Old College
5.4 A250034: 2 Rhes Caergrawnt, Morfa Mawr A250034: 2 Rhes Caergrawnt, Morfa Mawr
5.5 A240957: Premier Inn A240957: Premier Inn
6 Argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg Recommendations of the Commission for Welsh-speaking Communities’ report
7 Ymgynghoriad Cyngor Sir Ceredigion ar Ganllawiau Cynllunio Atodol Drafft Ceredigion County Council consultation on Draft Supplementary Planning Guidance
8 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

 

 

Will Rowlands

Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details