Planning
04/11/2024 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr
Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road
4.11.2024
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Alun Williams Cyng. Glynis Somers Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Emlyn Jones Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Lucy Huws Cyng. Mark Strong Cyng. Talat Chaudhri
Yn mynychu: Will Rowlands (Clerc) Carol Thomas (Cyfieithydd) |
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Alun Williams Cllr. Glynis Somers Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Emlyn Jones Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Lucy Huws Cllr. Mark Strong Cllr. Talat Chaudhri
In attendance: Will Rowlands (Clerk) Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Mair Benjamin Cyng. Bryony Davies
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Dim |
Apologies and Absences:
Absent with apologies: Cllr. Mair Benjamin Cllr. Bryony Davies
Absent without apologies: None
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
Dim |
Declaration of interest:
None
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
· Estynnwyd dymuniadau penblwydd i’r Cyng. Jeff Smith. · Estynnwyd croeso cynnes adref i’r parti a fu’n ymweld â Yosano, Siapan, a oedd yn cynnwys y Maer a’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau. |
Personal references:
· Birthday wishes were extended to Cllr. Jeff Smith. · A warm welcome home was extended to the party who had been visiting Yosano, Japan, which included the Mayor and Events & Partnerships Officer.
|
|
5 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications
|
|
5.1 | A240743: Unit 3, Old Station Chambers, Ffordd Alexandra
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor Tref ar yr amod bod yr amodau a ganlyn yn cael eu bodloni: · Bod unrhyw ysgrifen neu arwyddion y tu allan i’r adeilad, ac eithrio enw’r busnes, yn ddwyieithog gyda’r Gymraeg yn flaenoriaeth. Ni ddylai arwyddion gael eu goleuo’n fewnol ychwaith. · Gwneir darpariaeth storio gwastraff ddigonol. · Rhoddir caniatâd adeilad rhestredig.
Rydym yn croesawu dod â man masnachol gwag yn ôl i ddefnydd. |
A240743: Unit 3, Old Station Chambers, Ffordd Alexandra
The Town Council has NO OBJECTION, provided that the following conditions are met: · Any writing or signage on the outside of the building, save for the business name, is bilingual with Welsh prioritised. Signage must also not be internally illuminated. · Sufficient waste storage provision is made. · Listed building consent is given.
We welcome the bringing of an empty commercial space back to use.
|
Ymateb
Respond |
5.2 | A240754: Rest, Ffordd y Gogledd
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd: · Colli’r wal a’r rheiliau, sy’n nodweddion hanesyddol allweddol o’r adeilad ac yn cyfrannu at gymeriad ehangach yr ardal. Mae Ffordd y Gogledd yn ardal hanesyddol o Aberystwyth ac fe’i nodweddir gan ei thai mawr o’r cyfnod Fictoraidd a’i gerddi blaen. Byddai cael gwared ar y wal a’r rheiliau yn groes i egwyddorion yr ardal gadwraeth. · Mae’r cais yn cynrychioli colli man gwyrdd.
Mae’r Cyngor Tref wedi anghytuno’n gyson gyda datblygiadau o’r fath ac yn gwrthwynebu’r cais er gwaethaf sylwadau gan gymdogion o blaid y datblygiad arfaethedig. Rydym yn cydnabod bod rhywfaint o gynsail wedi’i osod gan Meithrinfa yn gyfagos, ond mae hyn oherwydd diffyg gorfodaeth Cynllunio.
|
A240754: Rest, Ffordd y Gogledd
The Town Council OBJECTS to this application due to: · The loss of the wall and railings, which are key historic features of the building and contribute to the wider character of the area. North Road is a historic area of Aberystwyth and is characterised by its large Victorian-era houses and front gardens. Removal of the wall and railings would be contrary to the principles of the conservation area. · The application represents a loss of green space.
The Town Council has consistently disagreed with such developments and objects to the application despite representations made by neighbours in favour of the proposed development. We recognise there is some precedent set by the neighbouring Meithrinfa, however this is due to lack of Planning enforcement.
|
Ymateb
Respond |
5.3 | A240755: Rest, Ffordd y Gogledd
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd: · Colli’r wal a’r rheiliau, sy’n nodweddion hanesyddol allweddol o’r adeilad ac yn cyfrannu at gymeriad ehangach yr ardal. Mae Ffordd y Gogledd yn ardal hanesyddol o Aberystwyth ac fe’i nodweddir gan ei thai mawr o’r cyfnod Fictoraidd a’i gerddi blaen. Byddai cael gwared ar y wal a’r rheiliau yn groes i egwyddorion yr ardal gadwraeth. · Mae’r cais yn cynrychioli colli man gwyrdd.
Mae’r Cyngor Tref wedi anghytuno’n gyson gyda datblygiadau o’r fath ac yn gwrthwynebu’r cais er gwaethaf sylwadau gan gymdogion o blaid y datblygiad arfaethedig. Rydym yn cydnabod bod rhywfaint o gynsail wedi’i osod gan Meithrinfa yn gyfagos, ond mae hyn oherwydd diffyg gorfodaeth Cynllunio.
|
A240755: Rest, Ffordd y Gogledd
The Town Council OBJECTS to this application due to: · The loss of the wall and railings, which are key historic features of the building and contribute to the wider character of the area. North Road is a historic area of Aberystwyth and is characterised by its large Victorian-era houses and front gardens. Removal of the wall and railings would be contrary to the principles of the conservation area. · The application represents a loss of green space.
The Town Council has consistently disagreed with such developments and objects to the application despite representations made by neighbours in favour of the proposed development. We recognise there is some precedent set by the neighbouring Meithrinfa, however this is due to lack of Planning enforcement.
|
Ymateb
Respond |
5.4 | A240796: 1 Plas Morolwg, Pen yr Angor
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWUNEBU fel gyda’r cais blaenorol, A240196, gan nid aethpwyd i’r afael yn ddigonol â’r pryderon a godwyd.
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU oherwydd colled mannau gwyrdd a phroblemau gyda chael gwared ar ddŵr ffo a hygyrchedd. Mae rhan serth o’r palmant, lle byddai cyrb isel i fynd at garej yn ei gwneud yn anodd i breswylwyr â phroblemau symudedd gael mynediad i Faes y Môr.
Nid yw’r pryderon gwreiddiol a arweiniodd at wrthod y cais A240196 wedi cael sylw ac rydym yn cefnogi’r farn a godwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn eu gwrthodiad. |
A240796: 1 Plas Morolwg, Pen yr Angor
The Town Council’s OBJECTS as with the previous application, A240196, as the concerns raised have not been adequately addressed.
The Town Council OBJECTS due to the loss of green space and problems with runoff water disposal and accessibility. There is a steep section of pavement, where a dropped curb to access a garage would make access to Maes y Môr difficult for residents with mobility issues.
The original concerns leading the application A240196’s refusal have not been addressed and we support the views raised by Ceredigion County Council in their refusal.
|
Ymateb
Respond |
6 | Ymgynghoriad cyn-gynllunio: Belle Vue Royal Hotelb
Trafodwyd y cynigion yn helaeth a chytunwyd na ddylid rhoi unrhyw ymateb tan ar ôl y sesiwn ymgysylltu a gynhelir yn Park Lodge ddydd Mawrth 12 Tachwedd. Anogwyd yr aelodau i gyd i fynychu’r sesiwn hon, er mwyn rhoi’r ymateb mwyaf gwybodus posibl. Byddid yn gofyn am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer ymateb, ond cytunwyd i gynnal cyfarfod arbennig ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024 pe na bai modd rhoi estyniad; byddai’r ymgeisydd a swyddog cadwraeth Cyngor Sir Ceredigion yn cael eu gwahodd i’r cyfarfod hwn. Byddid hefyd yn gofyn am ymweliad safle |
Pre-planning consultation: Belle Vue Royal Hotel
The proposals were discussed at length and it was agreed that no response should be given until after the engagement session being held at Park Lodge on Tuesday 12 November. Members were all encouraged to attend this session, in order to give the most informed response possible. An extension to the deadline for response would be requested, however it was agreed to hold an extraordinary meeting on Wednesday 20 November 2024 if no extension could be given; the applicant and Ceredigion County Council’s conservation officer would be invited to this meeting. A site visit would also be requested
|
|
7 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
7.1 | Parc Natur Penglais: Cais i ddefnyddio cyfeiriad y Cyngor Tref fel blwch post i dderbyn rhoddion. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. | Parc Natur Penglais: Request to use the Town Council’s address as a mailbox to receive donations. To be discussed by General Management Committee. | Agenda RhC
GM Agenda |
7.2 | Paneli Nadolig Maes Gwenfrewi: Cais i osod paneli Nadolig ym Maes Gwenfrewi fel y gwnaed yn 2023. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. | Maes Gwenfrewi nativity panels: Request to install nativity panels in Maes Gwenfrewi as had been done in 2023. To be discussed by General Management Committee. | Agenda RhC
GM Agenda |
7.3 | Gwobrau Caru Ceredigion: Mae enwebiadau ar gyfer gwobrau ar agor tan 13 Tachwedd 2024. | Caru Ceredigion awards: Nominations for awards open until 13 November 2024. | |
7.4 | Sul y Cofio: Trefniadau ar gyfer gwasanaeth a seremoni’r Cofio sy’n cael eu cynnal ddydd Sul 10 Tachwedd 2024. Gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys y Drindod Sanctaidd am 09:00yb, gyda gorymdaith o Maes y Frenhines am 10:30yb, yn cyrraedd y gofeb rhyfel ar gyfer seremoni gosod torchau am 11:00yb. | Remembrance Sunday: Arrangements for the Remembrance service and ceremony being held on Sunday 10 November 2024. Service being held at Holy Trinity Church at 09:00am, with a parade from Queen’s Square at 10:30am, arriving at the war memorial for the wreath laying ceremony at 11:00am.
|
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2HS |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
30.10.2024
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, nos Lun, 4.11.2024 am 18:30
You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Monday 4.11.2024
AGENDA
1 | Yn bresennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau | Apologies |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
5.1 | A240743: Uned 3, Old Station Chambers, Ffordd Alexandra | A240743: Unit 3, Old Station Chambers, Ffordd Alexandra |
5.2 | A240754: Rest, Ffordd y Gogledd | A240754: Rest, Ffordd y Gogledd |
5.3 | A240755: Rest, Ffordd y Gogledd | A240755: Rest, Ffordd y Gogledd |
5.4 | A240796: 1 Plas Morolwg, Pen yr Angor | A240796: 1 Plas Morolwg, Pen yr Angor |
6 | Ymgynghoriad cyn gynllunio: Belle Vue Royal Hotel | Pre-planning consultation: Belle Vue Royal Hotel |
7 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details