Planning
09/04/2025 at 6:30 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr
Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road
9.4.2025
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Glynis Somers Cyng. Lucy Huws
Yn mynychu: Cllr. Alun Willimas Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Glynis Somers Cllr. Lucy Huws
In attendance: Cllr. Alun Williams Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Office Administrator) Carol Thomas (Translator)
|
|
2 | Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:
Yn absennol efo ymddiheuriadau: Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Bryony Davies Cyng.Emlyn Jones
Yn absennol heb ymddiheuriadau: Cyng. Mair Benjamin Cyng. Owain Hughes
|
Apologies and Absences:
Absent with apologies: Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Bryony Davies Cyng. Emlyn Jones
Absent without apologies: Cyng. Mair Benjamin Cyng. Owain Hughes |
|
3 | Datgan Diddordeb:
5.1, 5.2 a 5.5: Roedd y Cyng. Alun Williams hefyd yn Gynghorydd Sir y ward. |
Declaration of interest:
5.1, 5.2 & 5.5: Cllr. Alun Williams was also County Councillor for the ward.
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
Dim |
Personal references:
None
|
|
5 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio
|
To consider Planning Applications
|
|
5.1 | A240755: Rest, Ffordd y Gogledd
Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran mewn trafodaethau.
Mae’r Cyngor Tref yn cefnogi GWRTHOD y cais gan Gyngor Sir Ceredigion, ac yn ailadrodd ei sylwadau blaenorol:
Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU’r cais hwn oherwydd:
· Colli’r wal a’r rheiliau, sy’n nodweddion hanesyddol allweddol o’r adeilad ac yn cyfrannu at gymeriad ehangach yr ardal. Mae Ffordd y Gogledd yn ardal hanesyddol o Aberystwyth ac fe’i nodweddir gan ei thai mawr o’r cyfnod Fictoraidd a’i gerddi blaen. Byddai cael gwared ar y wal a’r rheiliau yn groes i egwyddorion yr ardal gadwraeth. · Mae’r cais yn cynrychioli colli man gwyrdd.
Mae’r Cyngor Tref wedi anghytuno’n gyson gyda datblygiadau o’r fath ac yn gwrthwynebu’r cais er gwaethaf sylwadau gan gymdogion o blaid y datblygiad arfaethedig. Rydym yn cydnabod bod rhywfaint o gynsail wedi’i osod gan Meithrinfa yn gyfagos, ond mae hyn oherwydd diffyg gorfodaeth Cynllunio. |
A240755: Rest, North Road
Cllr. Alun Williams did not participate in discussions.
The Town Council supports Ceredigion County Council’s rejection of the application, and re-iterates is previous comments:
The Town Council OBJECTS to this application due to:
· The loss of the wall and railings, which are key historic features of the building and contribute to the wider character of the area. North Road is a historic area of Aberystwyth and is characterised by its large Victorian-era houses and front gardens. Removal of the wall and railings would be contrary to the principles of the conservation area. · The application represents a loss of green space.
The Town Council has consistently disagreed with such developments and objects to the application despite representations made by neighbours in favour of the proposed development. We recognise there is some precedent set by the neighbouring Meithrinfa, however this is due to lack of Planning enforcement.
|
Ymateb
Respond
|
5.2 | A250174: 38-40 Y Stryd Fawr
Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran mewn trafodaethau.
Nid oes gan y Cyngor Tref unrhyw wrthwynebiad, ar yr amod bod darpariaeth yn cael ei wneud ar gyfer storio beiciau a biniau. Dylid gosod amod sy’n atal y preswylfeydd rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi. |
A250174: 38-40 Great Darkgate Street
Cllr. Alun Williams did not participate in discussions.
The Town Council has NO OBJECTION, provided that provision is made for storage of bicycles and bins. A condition should be placed preventing the residences from being used as holiday accommodation or second homes.
|
Ymateb
Respond |
5.3 | A250188: Buena Vista, 4 Ffordd Penparcau
DIM GWRTHWYNEBIAD |
A250188: Buena Vista, 4 Penparcau Road
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
5.4 | A250187: Pen y Bryn, 3 Ffordd Penparcau
DIM GWRTHWYNEBIAD |
A250187 : Pen y Bryn, 3 Penparcau Road
NO OBJECTION
|
Ymateb
Respond |
5.5 | A250196 : Ty Madog, 32 Morfa Mawr
Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran mewn trafodaethau.
Nid oes gan y Cyngor Tref DDIM GWRTHWYNEBIAD, ar yr amod bod y darpariaethau canlynol yn cael eu bodloni: · Dylid dynodi o leiaf un o’r fflatiau fel fforddiadwy. · Dylid gosod amod sy’n atal y preswylfeydd rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi.
· Gwneir darpariaeth ar gyfer storio beiciau a biniau. |
A250196: Ty Madog, 32 Morfa Mawr
Cllr. Alun Williams did not participate in discussions.
The Town Council has NO OBJECTION, provided the following provisions are met: · At least one of the flats be designated as affordable. · A condition be placed preventing the residences from being used as holiday accommodation or second homes. · Provision is made for storage of bicycles and bins.
|
Ymateb
Respond |
6 | Cynnig: Ail enwi ‘Sgwar Llys y Brenin’ (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands)
ARGYMHELLWYD i gymeradwyo’r cynnig.
|
Motion: Renaming ‘Llys y Brenin Sqaure’ (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands)
It was RECOMMENDED to approve the motion. |
|
6 | Gohebiaeth | Correspondence
|
|
Dim | None |
Daeth y cyfarfod i ben am 19:10 The meeting was closed at 19:10
Agenda:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2HS |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
9.4.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, nos Fercher, 9.4.2025 am 18:30
You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Wenesday 9.4.2025
AGENDA
1 | Yn bresennol | Present |
2 | Ymddiheuriadau | Apologies |
3 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
4 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
5 | Ystyried Ceisiadau Cynllunio | To consider Planning Applications |
5.1 | A240755 : Rest, Ffordd y Gogledd | A240755: Rest, North Road |
5.2 | A250174: 28-40 Y Stryd Fawr | A250174: 28-40 Great Darkgate Street |
5.3 | A250188: Buena Vista, 4 Ffordd Penparcau | A250188: Buena Vista, 4 Penparcau Road |
5.4 | A250187: Pen y Bryn, 3 Ffordd Penparcau | A250187: Pen y Bryn, 3 Penparcau Road |
5.5 | A250196: Tŷ Madog, 32 Morfa Mawr | A250196: Tŷ Madog, 32 Morfa Mawr |
6 | Cynnig: Ail enwi ‘Sgwar Llys y Brenin’ (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands) | Motion: Renaming ‘Llys y Brenin Square’ (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands) |
7 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details