Planning

02/06/2025 at 6:30 pm

Minutes:

 

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council 

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr 

Minutes of the Planning Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road 

 

2.6.2025 

 

 

COFNODION  /  MINUTES  

 

1  Yn bresennol: 

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands 

Cyng. Talat Chaudhri 

Cyng. Emlyn Jones 

Cyng. Kerry Ferguson 

Cyng. Lucy Huws 

 

 

Yn mynychu: 

Cyng. Glynis Somers 

Cyng. Mark Strong 

Will Rowlands (Clerc) 

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) 

Carol Thomas (Cyfieithydd) 

 

Present:  

 

Cllr. Jeff Smith (Chair) 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands 

Cllr. Talat Chaudhri 

Cllr. Emlyn Jones 

Cllr. Kerry Ferguson 

Cllr. Lucy Huws 

 

 

In attendance: 

Cllr. Glynis Somers 

Cllr. Mark Strong 

Will Rowlands (Clerk) 

Catrin Morgan-Lewis (Office Administrator)  

Carol Thomas (Translator) 

 

 
2  Ymddiheuriadau ac Absenoldeb:  

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau: 

Dim 

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau: 

Dim 

Apologies and Absences: 

 

Absent with apologies: 

None 

 

Absent without apologies: 

None 

 

 
3  Datgan Diddordeb: 

 

Dim 

Declaration of interest 

 

None 

 

 
4  Cyfeiriadau Personol:  

 

Dim  

Personal references 

 

None 

 

 
5  Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2025–26 

 

Enwebwyd y Cyng. Jeff Smith gan y Cyng. Talat Chaudhri, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands. 

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill ac fe BENDERFYNWYD yn unfrydol i ethol y Cyng. Jeff Smith yn Gadeirydd 

Elect Chair of the Planning Committee for 2025-26 

 

Cllr. Jeff Smith was proposed by Cllr. Talat Chaudhri, and seconded by Cllr. Dylan Lewis-Rowlands.  

 

There were no other nominations and it was unanimously RESOLVED to elect Cllr. Jeff Smith as Chair.  

 

 
6  Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2025–26 

 

Enwebwyd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands a gafodd ei enwebu gan y Cyng. Talat Chaudhri, ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Lucy Huws. 

 

Nid oedd unrhyw enwebiadau eraill ac fe BENDERFYNWYD ethol y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn Is-gadeirydd 

 

 

Elect Vice-Chair of the Planning Committee for 2025-26 

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands was proposed by Cllr. Talat Chaudhri, and seconded by Cllr. Lucy Huws.  

 

There were no other nominations and it was RESOLVED to elect Cllr. Dylan Lewis-Rowlands as Vice-Chair. 

 

 
7  Ystyried Ceisiadau Cynllunio  

 

To consider Planning Applications  

 

 
7.1  A250298: 37-39 Ffordd y Môr 

 

Mae gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD, cyn belled bod deunyddiau adeiladu traddodiadol yn cael eu defnyddio a bod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion Ardal Gadwraeth Aberystwyth. 

 

Nodwyd fod dau ddarlun gwahanol wedi’u cyflwyno i ddangos y ffenestri dormer newydd arfaethedig a hoffem ofyn i unrhyw ffenestri dormer newydd fod yn unol â’r rhai presennol. Dylai’r ffenestri dormer newydd ar y cefn fod yn drionglog, er mwyn cyd-fynd â nodweddion Ardal Gadwraeth Aberystwyth. 

 

Bydd ffasadau siopau’n cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf. Cyng.. Mark Strong i gynnal arolygiad o ganol y dref i nodi unrhyw ffasadau siopau nad oedd yn cydymffurfio â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ffasadau Siopau ac Arwynebau Masnachol yn Aberystwyth (2013). 

 

Gadawodd Carol Thomas y cyfarfod. 

A250298: 37-39 Ffordd y Môr 

 

The Town Council has NO OBJECTION, provided that traditional building materials are used and the works comply with the requirements of the Aberystwyth Conservation Area. 

 

We note that two different illustrations have been submitted to show the proposed new dormer windows and would like to request that any new dormer windows match the existing ones. The proposed new dormer windows at the rear should be triangular, in keeping with the character of the Aberystwyth Conservation Area. 

 

Shop fronts to be discussed at the next meeting. Cllr. Mark Strong would  conduct a survey of the town centre to identify any shop fronts that did not comply with the Supplementary Planning Guidance for Shop Fronts & Commercial Facades in Aberystwyth (2013). 

 

Carol Thomas left the meeting.  

Ymateb 

Respond 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Cynllunio Planning Agenda 

 

7.2  A250335: Brynllwynog, Brynllwynog, Ffordd Felin y Môr 

 

Mae gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD, fodd bynnag, gan nodi lleoliad yr ardd ar Ben Dinas, hoffem ofyn i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chymdeithas Archeolegol Ceredigion gael eu gwahodd i roi sylwadau ar y cais. 

A250335: Brynllwynog, Ffordd Felin y Môr 

 

The Town Council has NO OBJECTION, however, noting the garden’s location on Pen Dinas, we would like to request that the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales and Ceredigion Archaeological Society are invited to comment on the application.  

 

Ymateb 

Respond 

7.3  A250349: Subway, 41 Y Stryd Fawr 

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU oherwydd nad yw’r arwyddion arfaethedig yn cydymffurfio â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ffasadau Masnachol a Blaenau Siopau yn Aberystwyth (2013). 

 

Yn benodol, dylai’r testun ar yr arwyddion, ac eithrio enw’r busnes, fod yn ddwyieithog, gyda blaenoriaeth i’r Gymraeg drwy ei osod uwchben neu i’r chwith i’r testun Saesneg. Nodwn hefyd fod arwydd crog ar y safle ar hyn o bryd, nad yw wedi’i gynnwys yn y dyluniadau arfaethedig. 

A250349: Subway, 41 Y Stryd Fawr 

 

The Town Council OBJECTS due to the proposed signage not being compliant with the Supplementary Planning Guidance for Shop Fronts & Commercial Facades in Aberystwyth (2013).  

 

In particular text on the signage, excluding the name of the business, should be bilingual, with Welsh given priority by being set above or to the left of English text. We note that there is also a hanging sign on the premises currently, that has not been included in the proposed designs.  

 

Ymateb 

Respond 

7.4  A250354: 5 Stryd Thespis 

 

Mae’r Cyngor Tref yn CROESAWU’r newid defnydd o dai amlfeddiannaeth (HMO) trwyddedu (C4) i dŷ anheddau (C3). Dylai unrhyw elfen fasnachol sy’n deillio o’r defnydd Dosbarth A1 gydymffurfio â’r Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer Ffasadau Masnachol a Blaenau Siopau yn Aberystwyth (2013). 

 

A250354: 5 Stryd Thespis 

 

The Town Council WELCOMES the change of use from multiple student occupation (C4) to a single dwelling house (C3). Any commercial element arising from the Class A1 use should conform with the Supplementary Planning Guidance for Shop Fronts & Commercial Facades in Aberystwyth (2013). 

 

Ymateb 

Respond 

8  Gwelliannau mannau bysiau Coedlan Dau 

 

Cafwyd gwybodaeth gan Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC) ynglŷn â gwelliannau arfaethedig i’r safle bws ar gyffordd Coedlan Dau a Ffordd Penparcau. Nodwyd bod y gwelliannau’n amodol ar y Cyngor Tref yn cytuno i gymryd cyfrifoldeb am yr hafan newydd ar ôl ei gosod.  

Er bod cefnogaeth i’r gwelliannau mewn egwyddor, codwyd ymholiadau ynglŷn â: 

  • Y dull o drosglwyddo’r ased o Gyngor Sir Ceredigion i’r Cyngor Tref. 
  • Cost cynnal a chadw’r cysgodfan ar ôl ei osod. 
  • Y posibilrwydd o seilwaith gwyrdd, megis to blodau gwyllt. 

Mynegwyd pryderon hefyd am y posibilrwydd y gallai mabwysiadu’r safle bws hwn greu cynsail lle disgwylir i’r Cyngor Tref fabwysiadu eraill. 

Second Avenue bus stop improvements  

 

Information had been received from Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC) regarding proposed improvements to the bus stop at the junction of Second Avenue and Penparcau Road. It was noted that the improvements were subject to the Town Council agreeing to take responsibility for the new shelter after installation. Whilst supportive of the improvements in principle queries were raised regarding:  

  • The means of transferring the asset from Ceredigion County Council to the Town Council.  
  • The cost of maintenance of the shelter after installation.  
  • The potential for green infrastructure, such as a wildflower roof.  

Concerns were also raised about the potential for adoption of this bus stop to set a precedent for the Town Council to be expected to adopt others.  

 

 

 

 

Agenda RhC GM Agenda 

9  Gohebiaeth  Correspondence 

 

 
9.1  HAHAV: Cais i ddefnyddio gofod yn Nhŷ’r Offeiriad ar gyfer gwasanaethau cwnsela tra bod gwaith yn cael ei wneud yn Blas Antaron. Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r cais yn egwyddorol, gyda’r cymeradwyaeth terfynol i’w thrafod gan y Cyngor Llawn.  HAHAV: Request to use space in the Presbytery for counselling services while work is carried out at Plas Antaron. The Committee supported the request in principle, with final approval to be discussed by Full Council.  Agenda Cyngor Llawn 

Full Council Agenda 

9.2  Cronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi: Llwyddodd y Cyngor i sicrhau cyllid gan Gronfa Digwyddiadau Cynnal y Cardi i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau, gan gynnwys adloniant Haf 2025, Gwyl y Castell 2025, a Santes Dwynwen 2026. Diolchwyd i’r staff am eu gwaith ar y cais.  Cynnal y Cardi Events Fund: The Council was successful in securing funding from the Cynnal y Cardi Events Fund to deliver a programme of events, including Summer 2025 entertainment, Gwyl y Castell 2025, and Santes Dwynwen 2026. Thanks were extended to staff for their work on the application.  Agenda Cyllid 

Finance Agenda 

9.3  Partneriaeth Natur Ceredigion: Bydd gŵyl natur yn cael ei chynnal yng Nghastell Aberystwyth ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf 2025. Gwnaed cais am stondinau a diddordeb i gymryd rhan. Anogir syniadau ar gyfer cyfranogiad. I’w drafod gan y Cyfarfod Llawn.  Ceredigion Nature Partnership: A nature festival is scheduled to take place at Aberystwyth Castle on Saturday, 5 July 2025. A request has been made for interested stallholders to participate. Ideas for involvement are encouraged. To be discussed by the Full Council.  Agenda Cyngor Llawn 

Full Council Agenda 

9.4  Bwrdd Iechyd Hywel Dda: Roedd ymgynghoriad ar newidiadau posibl i wasanaethau clinigol ar agor, gyda’r dyddiad cau ar ddydd Sul 31 Awst 2025. Cytunwyd i wahodd cynrychiolwyr o’r grŵp Diogelu Gwasanaethau Bronglais a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i gyflwyno eu safbwyntiau ar y newidiadau arfaethedig i Gyfarfod Llawn Arbennig o’r Cyngor ar ddydd Llun 30 Mehefin 2025. Nodwyd bod Diogelu Gwasanaethau Bronglais yn cynnal cyfarfod cyhoeddus ar ddydd Gwener 20 Mehefin 2025 yn Ganolfan Gelfyddydau Aberystwyth.  Hywel Dda Health Board: A consultation on potential changes to clinical services was open, closing on Sunday 31 August 2025. It was agreed to invite representatives from Protect Bronglais Services and Hywel Dda Health Board to present their views on the proposed changes to an Extraordinary meeting of the Full Council on Monday 30 June 2025. It was noted that Protect Bronglais Services was holding a public meeting on Friday 20 June 2025 at Aberystwyth Arts Centre.    

Agenda Cyngor Llawn 

Full Council Agenda 

9.5  Mynwent Cefn Llan: Cododd y Cyng. Lucy Huws bod y glaswellt wedi’i dorri’r, er ei bod wedi’i gytuno yn 2022 na fyddai’r glaswellt yn cael ei dorri gan fod y safle wedi’i ddynodi ar gyfer blodau gwyllt.  Cefn Llan Cemetery: Cllr. Lucy Huws raised that grass had been cut, when it had been agreed in 2022 not to cut the grass as the area had been designated for wildflowers.    

Daeth y cyfarfod i ben am 19:55 The meeting was closed at 19:55 

Agenda:

          Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council 

 

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery 

Neuadd Gwenfrewi 

Morfa Mawr / Queen’s Road 

Aberystwyth   

SY23 2HS 

   

council@aberystwyth.gov.uk 

www.aberystwyth.gov.uk 

01970 624761 

                                    Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones 

28.5.2025 

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor 

 

Fe’ch gwahoddir i fynychu gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cynllunio a gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, nos Lun, 2.6.2025 am 18:30  

 

You are invited to attend a hybrid meeting of the Planning Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road, at 18:30 on Monday 2.6.2025 

 

AGENDA 

 

 
1  Yn bresennol  Present 
2  Ymddiheuriadau    Apologies 
3  Datganiadau diddordeb  Declarations of interest 
4  Cyfeiriadau personol  Personal references 
5  Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2025-26  Elect Chair of the Planning Committee for 2025-26 
6  Ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar gyfer 2025-26  Elect Vice-Chair of the Planning Committee for 2025-26 
7  Ystyried Ceisiadau Cynllunio   To consider Planning Applications  
7.1  A250298: Fflat 2, 37-39 Ffordd y Môr  A250298: Flat 2, 37-39 Ffordd y Môr 
7.2  A250335: Brynllwynog, Ffordd Felin y Môr  A250335: Brynllwynog, Ffordd Felin y Môr 
7.3  A250349: Subway, 41 Y Stryd Fawr  A250349: Subway, 41 Y Stryd Fawr 
7.4  A250354: 5 Stryd Thespis  A250354: 5 Stryd Thespis  
8  Gwelliannau mannau bysiau Coedlan Dau  Second Avenue bus stop improvements 
9  Gohebiaeth  Correspondence 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely 

 

   

Will Rowlands 

Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk 

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion 

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk 

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details