Planning
03/07/2023 at 7:00 pm
Minutes:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion Pwyllgor Cynllunio (Hybrid)
Minutes of the Planning Committee (Hybrid)
3.7.2023
COFNODION / MINUTES
|
|||
1 | Yn bresennol:
Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Matthew Norman Cyng. Mark Strong Cyng. Owain Hughes
Yn mynychu:
Gweneira Raw-Rees (Clerc)
|
Present:
Cllr. Jeff Smith (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Matthew Norman Cllr. Mark Strong Cllr. Owain Hughes
In attendance:
Gweneira Raw-Rees (Clerk)
|
|
2 | Ymddiheuriadau:
Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Lucy Huws
|
Apologies:
Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Lucy Huws
|
|
3 | Datgan Diddordeb:
Dim |
Declaration of interest:
None
|
|
4 | Cyfeiriadau Personol:
Mewn ymateb i erthygl negyddol yn y Cambrian News, mynegodd y Cyng Dylan Lewis-Rowlands ei gefnogaeth i staff y Cyngor Tref. |
Personal references:
In response to a negative article in the Cambrian News, Cllr Dylan Lewis-Rowlands expressed his support for the Town Council staff.
|
|
5 | Ceisiadau Cynllunio
|
Planning Applications
|
|
5.1 | A230419: 9 Dan Dre
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor
Mae’r Cyngor yn croesawu’r defnydd o le busnes gwag |
A230419: 9 Mill Street
The Council has NO OBJECTION
The Council welcomes the use of an empty business premises
|
Cysylltu gyda’r Cyngor Sir
Contact CCC |
5.2 | A230427: Heddle, Ffordd Llanbadarn
DIM GWRTHWYNEBIAD gan y Cyngor
|
A230427: Heddle, Llanbadarn Road
The Council has NO OBJECTION
|
|
6 | Gwerthusiadau Ardal Gadwraeth ac Archwiliad o Adeiladau Rhestredig Gwag
Ymateb y Cyngor Tref:
Mae Aberystwyth yn arbennig oherwydd ei thwf graddol o’r castell dros gyfnod hir o amser. Mae’n dref unigryw oherwydd harddwch ac amrywiaeth y bensaernïaeth hanesyddol – carreg, brics, tyrau, mosaigau, blaenau siopau traddodiadol, tafarndai hanesyddol, ffenestri, drysau, gwydr lliw, rheiliau, palmentydd llechi, coblau, enwau lleoedd Cymraeg ac ati.
Ffin yr ardal gadwraeth: dylid cynnwys y Pier yn yr ardal gadwraeth
Adeiladau arbennig i’w gwarchod: · Yr Hen Goleg · ‘Hen Dref Aberystwyth’ (Maes Lowri a’r strydoedd cyfagos ar dop y dref cyn belled â Stryd y Bont a Tan y Cae), Hen Neuadd y Farchnad, Eglwys Mihangel Sant · Y tafarndai – Ship & Castle, Y Llew Du, Gwesty’r Castell , Rummers, Bank Vaults, Y Cŵps ayb. · Y castell a’i dir a’i lochesi (y Wal Sibrwd a Chôr y Castell) · Y promenâd yn ei gyfanrwydd · Craig Glais, rheilffordd y graig a’r orsaf. · Yr orsaf drenau · Hen Swyddfa Bost · Heol y Gogledd (gan gynnwys gerddi blaen) a Morfa Mawr · Yr Ysgol Gelf a’i chyffiniau · Tai’r Porth gyda chlos oddi ar Y Porth Bach · Hen Lyfrgell y dref a Rhes Crynfryn · Llyfrgell newydd y dref · Adeiladau’r Hen Ysgol · Capeli ac eglwysi.
Mannau gwyrdd i’w gwarchod: · Coedlan Plas Crug · Maes Gwenfrewi a’r ardaloedd amwynder cyfagos · yr holl lawntiau poced a borderi ledled y dref gan gynnwys y lawntiau o flaen Llyfrgell y Dref · dir y castell · coed stryd ledled y dref · gerddi blaen – yn hytrach na cael eu defnyddio fel lle i storio biniau neu parcio ceir
Materion sy’n effeithio ar yr ardal gadwraeth: · esgeuluso adeiladau hanesyddol · diffyg gorfodaeth · defnyddio UPVC yn lle deunyddiau cynaliadwy (yn aml heb ganiatâd) · colli nodweddion hanesyddol fel y rhestrwyd uchod (ffenestri, gwydr lliw, mosaigau, rheiliau haearn, drysau, goleuadau, palmentydd llechi a choblau, enwau tai/lleoedd Cymraeg ac ati) · Colli gerddi blaen – yn aml fe’u defnyddir fel storfa biniau neu ar gyfer parcio ceir · Dylid gwarchod enwau lleoedd Cymraeg · diffyg cynnal a chadw gan landlordiaid · Diffyg ymgynghori ac ymgysylltu ystyrlon ynghylch newidiadau a datblygiadau · Glendid tref a diffyg trefn lanhau · Diffyg dehongliad
Gwella’r ardal: · Fe ddylai gwelliannau warchod yr holl nodweddion a restrir uchod · Dylai datblygwyr a landlordiaid fod yn atebol am ddileu neu ddifrodi nodweddion hanesyddol (fel y rhestrir uchod) · Dylai’r broses gorfodi fod yn fwy effeithiol · Dylid cyflwyno telerau cadwraeth cryfach fel rhan o’r broses ceisiadau cynllunio yn ogystal â’r broses drwyddedu ar gyfer llety ar rent
Adeiladau Rhestredig masnachol gwag: · Belle Vue · Neuadd y Sir · Yr hen DIVA ar rhodfa’r môr · Claire gynt – 37 Y Stryd Fawr · Yr Hen Ysgol – 2 uned · Costa · Porth y Gogledd · Furniture Cave · Hen Swyddfa Bost (yn dod yn wag yn fuan o bosib) · Gas Showroom · Siop y Prom · Neuadd Buarth
|
Conservation Area Appraisals and Vacant Listed Building Audit
The Town Council’s response:
Aberystwyth is special because of its gradual growth from the castle over a long period of time.It is an unique town because of the beauty and variety of the historic architecture – stone, brick, towers, mosaics, traditional shop fronts, historic public houses, windows, doors, stained glass, railings, slate pavements, cobbles, Welsh place names etc
Conservation area boundary: the Pier should be included in the conservation area
Special buildings to be protected: · Old College · ‘Old Town Aberystwyth’ (Laura Place and surrounding streets at the top of town as far as Bridge Street and South Road), Old Market Hall, St Michael’s church · the public houses – Ship & Castle, Black Lion, Castle Hotel, Rummers, Bank Vaults, Y Cŵps etc. · The castle and its grounds and shelters (Whispering Wall and Côr y Castell) · The promenade in its entirety · Constitution Hill, cliff railway and station · The train station · Old Post Office · North Road (including front gardens) and Queen’s Road · The School of Art and its environs. · The houses with a courtyard off Eastgate Street (Tai y Porth). · The old town Library and Crynfryn Row · The new Town Library · The Old School complex · Chapels and churches.
Green spaces to be protected: · Plas Crug Avenue · Maes Gwenfrewi and adjacent amenity areas · all existing greens and borders throughout town including the greens in front of the Town Library · the castle grounds · street trees throughout the town · front gardens – as opposed to being used as bin stores and car parking
Issues affecting the conservation area: · neglect of historic buildings · lack of enforcement · use of UPVC instead of sustainable materials (often without permission, · loss of historic features as listed above (windows, stained glass, mosaics, iron railings, doors, lights, slate pavements and cobbles etc · Loss of front gardens – often they are used as bin stores or for car parking · Loss of Welsh house/place names · lack of maintenance by landlords. · Lack of meaningful consultation and engagement regarding changes and developments. · Town cleanliness and lack of cleaning regime · Lack of interpretation
To improve the area: · Improvements should protect all the features and characteristics listed above. · Developers and landlords should be accountable for removal of / or damage to historic features (as listed above) · Enforcement process should be more effective · Stronger conservation conditions should be introduced as part of the planning application process as well as the licensing process for rented accommodation
Vacant commercial Listed Buildings: · Belle Vue · County Hall · Former DIVA on the sea front · Former Claire’s – 37 Great Darkgate Street · The Old School – 2 units · Costa · Northgate St · Furniture Cave · Old Post Office (possibly becoming vacant shortly) · Gas Showroom · Siop y Prom · Buarth Hall
|
|
7 | Gohebiaeth
Dim |
Correspondence
None
|