Planning

02/03/2021 at 7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Pwyllgor Cynllunio (O bell)

Planning Committee (Remote)

 

  1. 3.2021

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd: eitemau 1-5)

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd: eitemau 6-7)

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Steve Davies

Cyng. Talat Chaudhri

 

Yn mynychu:

 

Cyng. Mark Strong

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

Present:

 

Cllr Lucy Huws (Chair: items 1-5)

Cllr. Jeff Smith (Chair: items 6-7)

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Steve Davies

Cllr. Talat Chaudhri

 

In attendance:

 

Cllr. Mark Strong

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 
2 Ymddiheuriadau:

 

Cyng. Mari Turner

Cyng. Alun Williams

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng Nia Edwards-Behi

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Charlie Kingsbury

Cyng. Claudine Young

Cyng. David Lees

 

Apologies:

 

Cllr. Mari Turner

Cllr. Alun Williams

Cllr Sue Jones-Davies

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Charlie Kingsbury

Cllr. Claudine Young

Cllr. David Lees

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Ni fyddai’r Cyng. Endaf Edwards yn cymryd rhan mewn trafodaethau nac yn pleidleisio ar unrhyw geisiadau yn Ward Rheidol.

Declaration of interest:

 

Cllr. Endaf Edwards would not be participating in discussions or voting on any applications in Rheidol Ward.

 

 
4 Cyfeiriadau Personol: Dim

 

Personal references: None

 

 
5 Ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio

 

Enwebwyd y Cyng. Jeff Smith gan y Cyng.Talat Chaudhri ac eiliwyd gan y Cyng. Lucy Huws. Etholwyd y Cyng. Jeff Smith yn briodol fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

Elect Chair of the Planning Committee

 

Cllr Jeff Smith was nominated by Cllr Talat Chaudhri and seconded by Cllr Lucy Huws.  Cllr Jeff Smith was duly elected as Chair of the Planning Committee.

 

 
6 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 
6.1 A200981: 70 Stryd y Cambrian

 

Gwrthodwyd y cais ac roedd y perchennog yn mynd ag ef i apel

 

Hoffai’r Cyngor ychwanegu’r sylw canlynol at ei WRTHWYNEBIAD gwreiddiol:

 

Mae maint cyfyngedig arfaethedig y llety byw yn mynd yn groes i Ddeddf Cenedlaethau a Lles y Dyfodol Llywodraeth Cymru sy’n cyfeirio at bwysigrwydd tai o ran cynnal iechyd a lles.

 

 

A200981: 70 Cambrian Street. 

 

The application had been refused and the owner was taking it to appeal.

 

The Council would like to add the following comment to its original OBJECTION:

The proposed limited size of living accommodation is in contravention of the Welsh Government’s Future Generations and Wellbeing Act which refers to the importance of housing in terms of sustaining health and wellbeing.

 

Cysylltu â’r adran Gynllunio.

Contact Planning dept.

6.2 A210040: Cyn Swyddfeydd y Cyngor, Glan y Môr

 

Er bod y Cyngor Tref yn awyddus iawn i weld y datblygiad yn llwyddo, mae’n GWRTHWYNEBU’R cais hwn ar sail:

  • Mae’r prawf sain yn peryglu’r bensaernïaeth wreiddiol o ran y sgertinau a’r cornisiau. A ellid dod o hyd i opsiynau llai ymwthiol?
  • Gofid oherwydd y ffaith nad ymdriniwyd â’r materion allanol eto. Mae’n adeilad rhestredig Gradd 2.
  • Gofid oherwydd dull tameidiog y ceisiadau cynllunio. Hoffai’r Cyngor weld un cynllun cydlynol er mwyn asesu’r datblygiad yn iawn.
  • Dim digon o fanylion am y cais – mae angen mwy o wybodaeth ar y Cyngor.

 

 

A210040: Former Council Offices, Marine Terrace   

       

Whilst the Town Council is very keen to see the development succeed it OBJECTS to this application on the basis of:

  • The sound proofing compromises the original architecture in terms of the skirtings and cornices. Could less intrusive options be found?
  • Unease due to the fact that external issues have not yet been dealt with. It is a Grade 2 listed building.
  • Unease due to the fragmented approach of the planning applications. Council would like to see one coherent plan in order to properly assess the development.
  • Not enough detail on the application – Council needs more information.

 

 
6.3 A210055: Uned 1, Yr Hen Ysgol, Ffordd Alexandra

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’R canlynol:

  • Ni ddylid goleuo arwyddion yn fewnol mewn ardal gadwraeth
  • Mae arwydd y postyn gôl yn ei leoliad arfaethedig yn tynnu oddi wrth y nodweddion pensaernïol hanesyddol ac efallai y byddai mewn lleoliad gwell dros y drws newydd.
  • Arwyddion uniaith ee ‘cafe bar’. Byddai arwyddion dwyieithog yn ehangu apêl y busnes yn y gymuned leol a byddai’r Cyngor Tref yn hapus i gynnig cymorth i Loungers yn y nod hwn. Byddai’r Cyngor hefyd yn hapus iawn i helpu gyda’r enw os oes lle i drafod o hyd

 

A210055: Unit 1, Yr Hen Ysgol, Alexandra Road

 

The Town Council OBJECTS to the following:

  • Signs should not be internally illuminated in a conservation area
  • The goalpost sign in its planned location detracts from the historic architectural features and might be better located over the new door.
  • Monolingual signage eg ‘cafe bar’. Bilingual signage would widen the appeal of the business within the local community and the Town Council would be happy to offer support to Loungers in this aim. The Council would also be very happy to help with the name if there is still room for discussion.

 

 
6.4 A210064: The Pier.

 

Mae’r Cyngor yn gefnogol i’r datblygiad ond yn ei chael hi’n anodd dweud y gwahaniaeth rhwng y cais hwn a’r cais blaenorol. Byddai’r un ymateb â blaenorol yn berthnasol o ran defnyddio deunyddiau traddodiadol ac arddull ffenestri sy’n briodol i’r cyfnod.

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A210064: The Pier.

 

Council is supportive of the development but found it difficult to tell the difference between this application and the previous application.  The same response as previous would apply in terms of use of traditional materials and style of windows that are period appropriate.

 

NO OBJECTION

 

 
6.5 A210069: Glanrhyd, Tan y Cae

 

Mae’r Cyngor yn GWRTHWYNEBU:

  • cladin plastig yn y lleoliad hynod weladwy hwn a dylid defnyddio rendr lliw neu ddeunyddiau naturiol yn unol â’r adeilad a’r ardal gadwraeth.
  • y dormer sydd rhy fawr ac allan o’i le yn yr ardal gadwraeth
A210069: Glanrhyd, South Road.

 

Council OBJECTS to:

  • the use of plastic cladding in this highly visible location and coloured render or natural materials should be used in keeping with the building and conservation area.
  • the oversized dormer which is out of place in the conservation area

 

 
7 Gohebiaeth: Dim Correspondence:  None