Planning - 07-06-2021

7:00 pm

Minutes:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion DRAFFT Pwyllgor Cynllunio (O bell)

DRAFT Minutes of the Planning Committee (Remote)

 

  1. 6.2021

 

 

COFNODION  /  MINUTES

 

1 Yn bresennol:

 

Cyng. Jeff Smith (Cadeirydd)

Cyng. Lucy Huws (Cadeirydd Eitem 5)

Cyng. Endaf Edwards

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng Nia Edwards-Behi

Cyng. Alun Williams

Cyng. Sue Jones-Davies

Cyng. Steve Davies

Cyng. Mark Strong

 

Yn mynychu:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerc)

 

Present:

 

Cllr. Jeff Smith (Chair)

Cllr Lucy Huws (Chair Item 5)

Cllr. Endaf Edwards

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Nia Edwards-Behi

Cllr. Alun Williams

Cllr Sue Jones-Davies

Cllr. Steve Davies

Cllr. Mark Strong

 

In attendance:

 

Gweneira Raw-Rees (Clerk)

 

 

 
2 Ymddiheuriadau:

Cyng. Mari Turner

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Danny Ardeshir

Cyng. Claudine Young

 

Apologies:

Cllr. Mari Turner

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Danny Ardeshir

Cllr. Claudine Young

 

 
3 Datgan Diddordeb:

 

Ni fyddai’r Cynghorydd Alun Williams yn gwneud sylwadau ar gais A210335 gan ei fod yn ei ward.

Declaration of interest:

 

Cllr Alun Williams would not be commenting on A210335 application as it was within his ward.

 

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Condemniwyd yr ymddygiad hiliol ar y trên rhwng Machynlleth a Borth tuag at Rosedona Williams.

Personal references:

 

The racist behaviour on the train between Machynlleth and Borth towards Rosedona Williams was condemned.

 

 
5 Ethol Cadeirydd

 

Enwebwyd y Cynghorydd Jeff Smith gan y Cyng. Talat Chaudhri ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Endaf Edwards. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, ac etholwyd y Cyng. Jeff Smith yn briodol.

 

Election of Chair

 

Cllr Jeff Smith was nominated by Cllr Talat Chaudhri and seconded by Cllr Endaf Edwards.  There were no other nominations, and Cllr Jeff Smith was duly elected.

 

 
6 Ethol Is-Gadeirydd

 

Enwebwyd y Cynghorydd Steve Davies gan y Cyng. Lucy Huws ac fe’i eiliwyd gan y Cyng. Sue Jones-Davies. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill ac etholwyd y Cyng. Steve Davies yn briodol.

Election of Vice Chair

 

Cllr Steve Davies was nominated by Cllr Lucy Huws and seconded by Cllr Sue Jones-Davies. There were no other nominations and Cllr Steve Davies was duly elected.

 

 

 
7 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications

 

 
7.1 A210335: 5 Maengwyn, Ffordd y Drindod 

 

 

DIM GWRTHWYNEBIAD. Mae’r Cyngor yn croesawu cartref teuluol yn y dref ond gofynnir i’r giât ffrynt a’r rheiliau gael eu gwarchod a dylid storio sbwriel yn sensitif.

 

A210335: 5 Maengwyn, Trinity Road 

 

 

NO OBJECTION. The Council welcomes a family home within the town but would ask that the front gate and railings be protected and refuse should be stored sensitively.

 

Ymateb

Respond

 

7.2 A210351: Ty Belgrave, 24 Glan y Môr

 

Mae’r Cyngor YN GWRTHWYNEBU dymchwel

adeilad rhestredig Gradd II amlwg gan gynnwys y wal flaen wedi’i hadeiladu o gerrig, ffenestri gwreiddiol a gwydr lliw. Ni fydd gan yr adeilad unrhyw ddilysrwydd os caiff ei ailadeiladu gan ddefnyddio deunyddiau modern ac mae’r Cyngor o’r farn:

 

  • Dylai’r wal gerrig hanesyddol gael ei hailadeiladu’n ddilys gan ddefnyddio carreg draddodiadol.
  • Dylid adfer y ffenestri gwreiddiol a’r gwydr lliw.
  • Dylai’r gwaith gael ei wneud mewn ymgynghoriad â CADW a Henebion a Hanesyddol Cymru.
  • Dylai Cyngor Sir Ceredigion orfodi’r uchod i atal datblygwyr eraill rhag cyflawni camau tebyg.
A210351: Ty Belgrave, 24 Marine Terrace

 

Council STRONGLY OBJECTS to the demolition of a prominent,historic Grade II listed building and its stone built front wall, original windows and stained glass.  The building if rebuilt using modern materials will have no authenticiy and Council is of the view that :

 

  • The historic stone wall should be rebuilt authentically using traditional stone.
  • The original windows and stained glass should be reinstated.
  • The work should be carried out in consultation with CADW and Ancient and Historical Monuments of Wales.
  • Ceredigion County Council should enforce the above to deterr other developers from carrying out similar actions.

 

 
7.3 A210389: 11 Stryd y Popty

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

A210389: 11 Baker Street

 

NO OBJECTION

 
7.4 A210468: 16 Pen y Graig

 

DIM GWRTHWYNEBIAD.  Croesewir y defnydd da o le ond hoffai’r Cyngor ofyn am ddefnydd o ddeunyddiau sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd.

A210468: 16 Pen y Graig

 

NO OBJECTION. The good use of space is welcomed but Council would like to request that environmentally friendly materials are used.

 

 
7.5 A210474: 19 Heol y Wig

 

MAE ANGEN MWY O WYBODAETH.

 

Mae’r Cyngor yn croesawu’r cais gan fusnes tref gwerthfawr ond dylid cynnwys asesiad arolwg sŵn o ystyried ei agosrwydd at fflatiau.

 

A210474: 19 Pier Street

 

MORE INFORMATION IS NEEDED.

 

Council welcomes the application from a valued town business but a noise survey assessment should be included in view of the proximity to flats.

 

 
8 Gohebiaeth: Correspondence:  

 

 
8.1 A210388: Bryn Derw

 

Er bod y cais am 30 o fflatiau ar borth Cynllunio Ceredigion ni anfonwyd unrhyw wybodaeth at y Cyngor Tref. PENDERFYNWYD cysylltu â Chyngor Ceredigion i gael mwy o wybodaeth, estyniad i’r dyddiad cau, ac i drafod yn y cyfarfod nesaf neu drwy e-bost os oes angen.

 

Roedd sylwadau anffurfiol yn cynnwys yr angen am:

 

  • Balconïau i ddarparu gofod y tu allan.
  • Raciau beic a storio sbwriel.
  • Man gwyrdd i gefnogi lles preswylwyr.
A210388: Bryn Derw

 

Although the application for 30 flats was on the Ceredigion Planning portal no information had been sent to the Town Council. It was RESOLVED to contact Ceredigion Council for more information, a deadline extension, and to discuss at the next meeting or by email if necessary.

 

Informal observations included the need for:

 

  • Balconies to provide outside space.
  • Bike racks and refuse storage.
  • Green space to support the wellbeing of residents.

 

Cysylltu gyda’r Cyngor Sir

Contact CCC

 

Eitem agenda

Agenda item