Cyngor Tref Aberystwyth
Os ydych yn chwilio am wybodaeth am wasanaethau statudol fel Treth y Cyngor, Tai, Priffyrdd, Gwasanaethau Amgylcheddol ac ati, cysylltwch â Chyngor Sir Ceredigion ar:
clic@ceredigion.gov.uk – 01545 570881 – www.ceredigion.gov.uk
Eich Cyngor Chi
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gorff statudol etholedig, cyngor lleol gydag ymrwymiad ar gyfer tref a chymuned Aberystwyth yn unig. Mae’r Cyngor Tref yn darparu nifer o wasanaethau yn y dref ac yn cyfrannu’n ariannol tuag at wasanaethau a ddarperir gan gyrff statudol a sefydliadau eraill. Mae’r Cyngor Tref yn gweithredu strwythur pwyllgorau i drefnu ei gyfrifoldebau a’i lywodraethu’n well. Mae manylion am y pwyllgorau hyn fel eu haelodaeth a’u swyddogaethau ar gael.
Ein Gwaith
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn darparu gwasanaethau a chyfleusterau amrywiol er budd Aberystwyth a’i phobl. Mae hyn yn cynnwys blodau a mannau gwyrdd, meysydd chwarae i blant, rhandiroedd, digwyddiadau, parciau, diffibrilwyr a llawer mwy. Cliciwch isod i ddarganfod mwy.
Ein Partneriaid
Darganfyddwch fwy am ein partneriaethau, a rheini rydym yn gweithio gyda nhw yn rheolaidd.
Nid oes cyfarfodydd yn digwydd yn fuan.
Grantiau
Rydym yn falch o ddarparu grantiau cymunedol i ardal Aberystwyth. Mae ein grantiau’n cael eu gwneud er budd pobl a phrosiectau lleol i Aberystwyth. Dyfernir y grantiau bob blwyddyn, gyda’r dyddiad cau fel arfer bob mis Ebrill. Cliciwch ar y ddolen isod i gael gwybod mwy, i ddarllen ein nodiadau canllaw ac i lawrlwytho’r ffurflen gais.
Meysydd Chwarae
Mae Cyngor y Dref yn rheoli tri maes chwarae yn Aberystwyth; y Castell, Penparcau a Phlascrug. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu lleoedd diogel, hwyliog a chynhwysol i deuluoedd eu mwynhau, ac rydym yn buddsoddi’n weithredol yn y gwaith o gynnal a chadw ac ehangu ein meysydd chwarae.
Parciau
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gyfrifol am amrywiaeth o barciau a mannau gwyrdd o fewn y dref. Mae hyn yn amrywio o barciau hyfryd fel Maes Gwenfrewi hardd, i bocedi gwyrdd llai fel y rhai ar Stryd y Crwynwr neu Dan Dre.