Taliadau Cynghorwyr

Gwirfoddolwyr di-dâl yw Cynghorwyr Tref a Chymuned, sy’n rhoi o’u amser eu hunain i weithio i’w cymunedau a’u cynrychioli. Mae gwaith Cynghorwyr yn naturiol yn golygu rhai costau, ac felly mae taliadau bach yn daladwy i Gynghorwyr Tref a Chymuned bob blwyddyn. Pennir y rhain yn flynyddol gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, sy’n adolygu’r taliadau sy’n daladwy i aelodau llawer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned, Cynghorau Sir ac awdurdodau Tân ac Achub. Mae’r taliadau a bennir gan yr IRPW yn orfodol a rhaid eu talu, oni bai bod Cynghorydd yn gwrthod yn ysgrifenedig. Yma gallwch ddod o hyd i restr o daliadau Cynghorwyr Tref Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn presennol a’r blynyddoedd blaenorol.