Ein Gwaith
Ym 1976 trosglwyddwyd holl asedau hen Gyngor Bwrdeistref Aberystwyth i Gyngor Sir Ceredigion. Roedd hyn yn cynnwys tir ac adeiladau ac ers 1976 mae Cyngor Tref Aberystwyth wedi prydlesu llawer o’r asedau yn ôl gan Gyngor Sir Ceredigion er mwyn darparu gwasanaethau lleol fel parciau, meysydd chwarae, rhandiroedd ac ati (gweler isod).
Neuadd Gwenfrewi
Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr, yw’r adeilad cyntaf sy’n eiddo i Aberystwyth ers y trosglwyddiad asedau ym 1976. Yn 2021 prynodd y Cyngor Tref yr eglwys segur a thŷ’r offeiriad gyda’r bwriad o ddatblygu’r safle fel canolfan gymunedol a diwylliannol yn ogystal â darparu gofod dinesig. Dechreuodd cam cyntaf y gwaith adfer ym mis Rhagfyr 2023.
Maes Gwenfrewi
Trawsnewidiwyd hen lawnt fowlio, Maes Gwenfrewi sydd drws nesaf i Neuadd Gwenfrewi, yn 2022 yn barc poblogaidd sy’n cynnwys cyfoeth o fioamrywiaeth, diolch i grant Her am Natur o £215,000. Plannwyd coed, llwyni a dolydd blodau gwyllt, creuwyd mynediad gwell a mannau tyfu.
Parc Kronberg
Wedi’i agor yn swyddogol ym mis Rhagfyr 2017, ar ôl derbyn bron i £500,000 o gyllid gan y Loteri Fawr, mae Parc Kronberg yn barc cymunedol ac yn barc sglefrio. Wedi’i leoli ar Boulevard St Brieuc mae’n ganolog i ardal Cyngor Tref Aberystwyth. Yn ogystal â’r parc sglefrio, mae dyluniad y parc yn cynnwys llwybrau troed, seddi adeiledig, mannau picnic glaswelltog, banc dringo a seddi yn ogystal ag ardaloedd ‘gwyllt’ i annog bioamrywiaeth. Enillodd wobr amgylchedd Un Llais Cymru yn 2020.
Maes Chwarae y Castell
Mae maes chwarae’r Castell wedi’i leoli ar dir castell Aberystwyth. Yn boblogaidd gyda phobl leol ac ymwelwyr, mae’n darparu cyfleusterau ar gyfer plant o bob oed ac mae’n agos at y promenâd ac i doiledau cyhoeddus.
Maes Chwarae Plascrug
Wedi’i leoli hanner ffordd ar hyd Coedlan Plascrug, llwybr poblogaidd a di-draffig, mae maes chwarae Plascrug yn ardal chwarae liwgar ac amrywiol i blant o bob oed. Mae’n cynnwys swing anabl a chylchfan hygyrch.
Maes Chwarae Penparcau
Wedi’i leoli ym mhentref Penparcau, mae’r maes chwarae yn fan gwyrdd ond gyda llwybrau wedi’u gwneud o fatio chwaraeon i ddarparu mynediad i’r holl offer ym mhob tywydd.
Ardal Gemau Amlddefnydd
Wedi’i leoli ym Min y Ddôl, Penparcau, mae’r Ardal Gemau Amlddefnydd yn cael ei defnyddio gan grwpiau lleol ar gyfer pêl-droed, pêl-rwyd a phêl-fasged.
Campfa Awyr Agored (Adizone)
Wedi’i leoli ym Min y Ddôl, Penparcau, yn agos at yr Ardal Gemau Amlddefnydd, cyfleuster campfa awyr agored yw’r ‘Adizone’ sydd wedi profi yn ased arbennig o werthfawr – yn enwedig yn ystod y cyfnod clo.
Mannau Gwyrdd
Mae gwahanol fannau gwyrdd wedi cael eu mabwysiadu o Gyngor Sir Ceredigion ar draws y dref. Mae dolydd blodau gwyllt canol y dref yn cefnogi lles preswylwyr ac mae ardal berllan fawr ger safle’r rhandir yn cynnig cynnyrch iach i deuluoedd lleol yn ogystal â chefnogi bioamrywiaeth.
Plannu Coed
Plannwyd dros 50 o goed ynghanol y dref yn 2022 ac mae cyllideb flynyddol yn sicrhau bod y rhaglen blannu yn parhau.
Dodrefn Stryd
Y Cyngor Tref sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r meinciau ledled y dref ac yn gweithredu rhaglen gynnal a chadw reolaidd. Mae polisi pro-mainc y Cyngor Tref yn sicrhau bod meinciau newydd yn cael eu ychwanegu lle bo angen.
Arwyddion
Mae pyst bys cerddwyr ar ffurf treftadaeth yn cyfeirio ymwelwyr i atyniadau allweddol canol y dref.
Diffibrilwyr
Mae’r Cyngor Tref yn darparu diffibrilwyr yn y lleoliadau canlynol:
- Spar, Ffordd y Môr
- Siop y Castell
Marchnad yr Hen Dref
Mae’r Cyngor Tref yn trefnu marchnadoedd crefft a bwyd lleol rheolaidd yn ardal hen dref Aberystwyth y tu allan i gatiau’r castell ac yng nghyffiniau hen Neuadd y Farchnad.
Digwyddiadau
Mae rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau diwylliannol yn dechrau gyda Santes Dwynwen ym mis Ionawr ac yn gorffen gyda dathliad yn y Castell ym mis Medi. Cynhelir rhaglen adloniant yr haf yn y Bandstand yn ystod Gorffennaf ac Awst.
Coed a Goleuadau Nadolig
Mae’r Cyngor Tref yn darparu coed a goleuadau Nadolig ar gyfer Penparcau, Canol y Dref a Threfechan. Darperir goleuadau festoon ar gyfer canol y dref a goleuadau ar gyfer y cloc. Yn 2023, diolch i gyllid SPF, ychwanegwyd pedair coeden a goleuadau Nadolig cerfluniol.
Cinio Nadolig yr Henoed
Mae cinio’r Maer ar gyfer preswylwyr hŷn Aberystwyth (65+) yn ddigwyddiad cymdeithasol blynyddol poblogaidd.