Cyllideb

Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gosod ei gyllideb yn flynyddol, ar gyfer pob blwyddyn ariannol (1 Ebrill – 31 Mawrth). Mae’r gyllideb yn gosod sut mae arian y Cyngor Tref yn cael ei wario ac yn cael ei wahanu i wahanol benawdau ac is-benawdau. Mae pennu’r gyllideb yn broses hir ac mae bob amser yn cael ei ystyried yn ofalus gan ei fod yn pennu’r praesept a, thrwy hynny, lefel y Dreth Gyngor a gesglir ar gyfer Cyngor Tref Aberystwyth. Paratoir y gyllideb ddrafft gychwynnol gan Glerc y Dref ac yna caiff ei hadolygu’n helaeth gan y Pwyllgor Cyllid cyn i’r Cyngor Llawn gytuno arni. Mae’r broses hon yn cymryd misoedd lawer ac fel arfer yn dechrau ym mis Medi/Hydref, gyda’r gyllideb derfynol fel arfer yn cael ei chytuno ym mis Ionawr. Mae gwariant y Cyngor Tref yn cael ei fonitro’n rheolaidd a’i adolygu bob mis, gan roi sylw i wariant gwirioneddol o’i gymharu â’r gyllideb gynlluniedig. Os oes tanwariant cyffredinol mewn blwyddyn, trosglwyddir y swm dros ben i gronfeydd wrth gefn y Cyngor Tref; yn yr un modd, os oes gorwariant cyffredinol mewn blwyddyn, telir am y swm hwn o gronfeydd wrth gefn y Cyngor Tref.