Rheolaeth Cyffredinol

13/07/2026 am 6:30 pm

Cofnodion:

1

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Presennol:

 

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Cadeirydd)

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Nishant Chandolia (1 i 7 yn unig)

Cyng. Julien Brun

Cyng. Dani Thomas (6 i 13 yn unig)

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Mark Strong

 

 

Yn mynychu:

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Chair)

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Nishant Chandolia (1 to 7 only)

Cllr. Julien Brun

Cllr. Dani Thomas (6 to 13 only)

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Mark Strong

 

In attendance:

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 

 
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Absennol gyda ymddiheuriadau:

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Brian Davies

 

Absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Alun Williams

 

Apologies & absences

 

Absent with apologies:

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Brian Davies

 

Absent without apologies:

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Alun Williams

 

 
3 Datganiadau Diddordeb:

 

Dim

Declarations of interest:

 

None

 

 
4 Cyfeiriadau personol:

 

·         Nododd yr Aelodau’r cyfarfod cyhoeddus addysgiadol ar ansawdd dŵr yn afonydd ac arfordir Aberystwyth, a diolchwyd i Elinor Lewis (Dŵr Cymru), y Cyng. Emlyn Jones, a staff y Cyngor am eu cyfraniadau a’u trefniadau.

·         Estynnwyd yr aelodau llongyfarchiadau i bob myfyriwr lleol sy’n graddio eleni.

·         Estynnwyd llongyfarchiadau hefyd i’r nyrsys a’r milfeddygon newydd gymhwyso sy’n graddio eleni, gan nodi gyda balchder mai hwn oedd y garfan gyntaf i raddio o Brifysgol Aberystwyth.

·         Estynnodd yr Aelodau eu dymuniadau gorau at y Cyng. Talat Chaudhri, yr oedd ei frawd yn wael.

Personal references:

 

·         Members noted the informative public meeting on water quality in Aberystwyth’s rivers and coastal waters, and thanked Elinor Lewis (Dŵr Cymru Welsh Water), Cllr. Emlyn Jones, and Council staff for their contributions and organisation.

·         Members extended their congratulations to all local students graduating this year.

·         Members also congratulated the newly qualified nurses and vets graduating this year and noted with pride that these were the first cohort to graduate from Aberystwyth University.

·         Members extended their best wishes to Cllr. Talat Chaudhri, whose brother was unwell.

 

 
5

 

 

 

Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda

 

 

Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda

 

There were no members of the public present.

 

 
6

 

 

 

Cynnig ariannu celf “Mis y Dyfroedd”

 

Ystyriodd y Pwyllgor gynnig a dderbyniwyd gan Big Wave – Ton Fawr CIC mewn perthynas â gwaith celf ar gyfer y Bandstand fel rhan o fenter Mis y Dyfroedd, Aberystwyth.

 

Roedd y cynnig yn cynnwys dau opsiwn; un ar gyfer paentio gwaith celf, a’r llall ar gyfer defnyddio sticeri dros dro.

 

Atgoffwyd yr Aelodau fod y Cyngor Llawn wedi dyrannu hyd at £2,000 yn flaenorol o’r gyllideb Celf Stryd ar gyfer prosiectau a oedd yn cefnogi amcanion y digwyddiad, gyda’r awdurdod wedi’i ddirprwyo i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol i ddyfarnu’r cyllid.

 

Cododd rhai Aelodau bryderon ynghylch yr amserlen fer ar gyfer cyflawni’r prosiect, a’r broses a ymddangosai’n frysiog ar gyfer cyflwyno’r cynnig. Nodwyd hefyd bryderon y gallai dyrannu’r cyllid effeithio ar osod placiau dinesig i goffáu menywod nodedig.

 

PENDERFYNWYD, o dan bŵer dirprwyedig, gymeradwyo’r cyllid a chymeradwyo’r cynnig fel y’i cyflwynwyd, ar gyfer gwaith celf ar y Bandstand, gyda chynllun wrth gefn o ddefnyddio sticeri pe na bai hynny’n bosibl.

 

Pleidleisiodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn erbyn hyn.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ddiweddariad ar y rhaglen placiau dinesig, yn dilyn erthygl ddiweddar yn Yr Angor. I’w ystyried gan y Cyngor Llawn.

 

 

“Aberystwyth Blue Month” art funding proposal

 

The Committee considered a proposal received from Big Wave – Ton Fawr CIC in relation to artwork for the Bandstand as part of the Aberystwyth Blue Month initiative.

 

The proposal included two options; one for painting artwork, and another for using temporary stickers.

 

Members were reminded that the Full Council had previously allocated up to £2,000 from the Street Art budget for projects supporting the aims of the event, with authority delegated to the General Management Committee to award the funding.

 

Some members raised concerns regarding the short timescale for delivery, and the seemingly rushed process by which the proposal had been submitted. Concerns were also noted that the allocation of funding might impede on installation of plaques to commemorate notable women.

 

It was RESOLVED, under delegated power, to approve funding to approve the proposal as presented, for artwork on the bandstand, with a backup sticker campaign if not possible.

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands voted against this.

 

Members requested an update on the civic plaques programme, following a recent article in Yr Angor. To be considered by Full Council.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

 

7 Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026

 

 

Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Cymuned Llandysiliogogo ynghylch Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026 a’r newidiadau cysylltiedig i gynghorau cymuned a thref ledled Ceredigion.

 

Er mai cymharol ychydig o newid a welai Cyngor Tref Aberystwyth o ganlyniad i’r Gorchymyn, cododd yr Aelodau bryderon ynghylch ei effaith bosibl, yn enwedig ar gynghorau cymuned llai a’r Gymraeg. Nodwyd bod nifer o gynghorau ledled y sir wedi gwrthwynebu’r argymhellion yn ystod y broses adolygu.

 

Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch goblygiadau’r newidiadau i’r Gymraeg, gan nodi bod llawer o’r cynghorau a fyddai’n cael eu diddymu yn gweithredu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, ac y byddent yn debygol o orfod gweithredu’n Saesneg ar ôl cael eu huno â chynghorau eraill. Nodwyd hefyd bryder y gallai cynghorau llai wynebu costau cyfieithu a chydymffurfio na fyddent yn fforddiadwy. Roedd yr Aelodau’n pryderu y gallai’r newidiadau leihau’r cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn llywodraeth leol ledled y sir.

 

 

Holwyd a ellid sicrhau cymorth ariannol gan y prif gyngor er mwyn cynorthwyo cynghorau gyda gweithredu’r newidiadau ac unrhyw ofynion gweinyddol ychwanegol a fyddai’n deillio ohonynt.

 

Pwysleisiodd yr Aelodau bwysigrwydd diogelu rôl cynghorau cymuned a chadw cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn democratiaeth leol, gan nodi y byddai’r Gorchymyn yn arwain at golli nifer o gynghorwyr oedd yn lleisiau gweithgar ac amlwg dros eu cymunedau. Mynegwyd cefnogaeth i sefyll ochr yn ochr â chynghorau eraill ledled Ceredigion wrth wrthwynebu’r newidiadau, a nodwyd y byddai Cyngor Tref Aberystwyth hefyd yn colli cynrychiolaeth o dan y trefniadau newydd.

 

 

Atgoffwyd yr Aelodau fod y Gorchymyn bellach wedi’i wneud a bod y broses statudol wedi’i chwblhau. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau fod pryderon yn parhau ynghylch effaith y newidiadau a’r cyfiawnhad dros eu gweithredu.

 

 

Yn dilyn trafodaeth, ARGYMHELLWYD yn unfrydol ysgrifennu at y Gweinidog Llywodraeth Leol a’r Gweinidog y Gymraeg i fynegi pryder ynghylch effaith Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026, yn enwedig mewn perthynas â’r Gymraeg a chynrychiolaeth ddemocrataidd leol, ac i annog y Gweinidogion i ailystyried y Gorchymyn.

 

Estynnwyd diolch i Gyngor Cymuned Llandysiliogogo am godi’r mater.

The County of Ceredigion (Communities) Order 2026

 

The Committee considered correspondence received from Llandysiliogogo Community Council regarding The County of Ceredigion (Communities) Order 2026 and the associated changes to community and town councils across Ceredigion.

 

Despite Aberystwyth Town Council seeing relatively little change, members raised concerns regarding the Order, particularly its potential impact on smaller community councils and the Welsh language. It was noted that a number of councils across the county had opposed the recommendations during the review process.

 

Members expressed concern regarding the implications of the changes for the Welsh-language, particularly that many council which were being dissolved worked only through the medium of Welsh, and would likely have to work in English once they were combined with other councils. Concern was also noted that  smaller councils may face unaffordable translation and compliance costs. Members noted concerns that the changes could reduce opportunities for the use of Welsh in local government across the county.

 

It was queried whether financial support from the principal council could be made available to assist councils with the implementation of the changes and any additional administrative requirements arising from them.

 

 

Members emphasised the importance of protecting the role of community councils and preserving opportunities for the use of the Welsh language in local democracy, noting that the Order would see the loss of many councillors, who were active and prominent voices for their communities. They expressed support for standing alongside other councils across Ceredigion in opposing the changes and noted that Aberystwyth Town Council would also lose representation under the new arrangements.

 

Members were reminded that the Order had now been made and that the statutory process had been completed. However, Members agreed that concerns remained regarding the impact of the changes and the justification for their implementation.

 

Following discussion, it was unanimously RECOMMENDED to write to the Minister for Local Government and the Minister for the Welsh Language expressing concerns regarding the impact of The County of Ceredigion (Communities) Order 2026, particularly in relation to the Welsh language and local democratic representation, and encouraging the ministers to reconsider the Order.

 

Thanks were extended to Llandysiliogogo Community Council for raising the matter.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Swyddfa

Office

8 Trefniadau Sefydlu’r Maer

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad gan Glerc y Dref ynghylch trefniadau’r dyfodol ar gyfer y Seremoni Urddo’r Maer.

 

Esboniodd y Clerc fod adolygiad wedi’i gynnal yn dilyn canslo Seremoni Urddo’r Maer 2026. Nodwyd fod y trefniadau presennol yn cyflwyno nifer o anawsterau cyfreithiol ac ymarferol, gan gynnwys y gofyniad i’r Cyfarfod Blynyddol gydymffurfio â rheoliadau statudol cyfarfodydd, a phryderon ynghylch trefn y busnes a ddilynwyd yn draddodiadol yn ystod y seremoni urddo.

 

Trafododd yr Aelodau a oedd trefniadau tebyg yn arfer cyffredin ymhlith cynghorau eraill, a nodwyd pan ofynnwyd am gyngor gan Un Llais Cymru yn gynharach yn y flwyddyn, fod trefniadau presennol Aberystwyth wedi’u disgrifio fel rhai anarferol.

 

Cytunodd yr Aelodau y dylid datblygu’r trefniadau mewn ymgynghoriad â’r Maer-ethol, ac y dylid rhoi cyfle iddo/iddi gyfrannu at gynllunio’r digwyddiadau dinesig sy’n gysylltiedig â’i flwyddyn yn y swydd.

 

ARGYMHELLWYD mabwysiadu’r model arfaethedig ar gyfer Urddo’r Maer, gyda diwygiad i’r ddirprwyaeth i swyddogion fel bod penderfyniadau yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â’r Maer-ethol.

Mayor Making arrangements

 

The Committee considered a report from the Town Clerk regarding future arrangements for Mayor Making.

 

The Clerk explained that a review had been undertaken following the cancellation of the 2026 Mayor Making Ceremony. It was noted that the current arrangements presented a number of legal and practical difficulties, including the requirement for the Annual Meeting to comply with statutory meeting regulations and concerns regarding the order of business traditionally followed during the inauguration ceremony.

 

 

Members discussed whether similar arrangements were common practice amongst other councils and noted that when advice had been sought from One Voice Wales earlier in the year, it has been noted that Aberystwyth’s existing arrangements were unusual.

 

Members agreed that arrangements should be developed in consultation with the incoming Mayor and that they should be afforded an opportunity to contribute to the planning of the civic events associated with their year of office.

 

It was RECOMMENDED to adopt the proposed Mayor Making model, with an amendment to the delegation to officers, for decisions to be made in consultation with the Mayor-elect.

 

 

 

 
9 Bagiau Atal Gwylanod

 

Ystyriodd y Pwyllgor y dyfynbrisiau a dderbyniwyd ar gyfer cyflenwi bagiau sbwriel gwrth-wylanod.

 

Esboniwyd bod stoc bagiau Cyngor Sir Ceredigion wedi’i disbyddu, ac os oedd y Cyngor am barhau i gyflenwi bagiau, byddai angen eu caffael yn allanol.

 

Roedd dau ddyfynbris wedi’u derbyn, a nodwyd mai dim ond dau gyflenwr oedd yn mewnforio’r bagiau i’r DU. Roedd y ddau ddyfynbris ar gyfer yr un math o fag, ond gyda meintiau archeb ac amserlenni dosbarthu gwahanol. Awgrymwyd y gellid gofyn am fagiau sampl.

 

Bu’r Aelodau hefyd yn trafod trefniadau posibl ar gyfer dosbarthu’r bagiau i drigolion ac a fyddai’n ymarferol darparu’r bagiau yn rhad ac am ddim. Cytunwyd y byddai’r trefniadau manwl ar gyfer dosbarthu neu werthu’r bagiau yn cael eu hystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

ARGYMHELLWYD yn unfrydol mynd ymlaen ag archebu 1,000 o fagiau (500 gwyn a 500 du) gan Weirbags, gan nodi y byddai hyn yn arwain at orwariant ar bennawd cyllideb 6140, Bagiau Gwrth-wylanod (costau). ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r gorwariant hwn.

Seagull Proof Bags

 

The Committee considered quotations received for the supply of seagull-proof refuse bags.

 

It was explained that Ceredigion County Council’s stock of bags had been depleted, and if the Council were to continue to supply bags these would need to be procured externally.

 

Two quotations had been received, and it was noted that only two suppliers imported the bags into the UK. Both quotations were for the same specification of bag, however had different order amounts and delivery timescales. It was suggested that sample bags could be requested.

 

Members also discussed potential arrangements for distributing the bags to residents and whether it would be feasible to provide bags to residents for free. The detailed arrangements for distributing or selling the bags would be considered at a future meeting

 

It was unanimously RECOMMENDED to proceed with ordering 1,000 bags (500 white & 500 black) from Weirbags, noting that this would mean over-expenditure on the budget heading 6140 Seagull Proof Bags (costs). It was RECOMMENDED to approve this over-expenditure.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda Pwyllgor RhC

GM Agenda

 

 

 

10 Toiledau Cyhoeddus

 

Yn dilyn ystyriaeth yn y cyfarfod blaenorol, cynhaliwyd cyfarfod ar wahân rhwng Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor, y Maer a’r Dirprwy Faer, a’r Clerc er mwyn adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth (CLG) a ddarparwyd gan Gyngor Sir Ceredigion yn fanylach. Yn dilyn y cyfarfod hwn, paratowyd drafft amgen o’r CLG a chafodd ei ystyried.

 

Cytunwyd y dylid ystyried yr asedau adeiladu a’r gwasanaeth ar wahân, ac yn gyffredinol roedd yn well gan yr Aelodau gael cytundeb gwasanaeth yn unig, heb gymryd cyfrifoldeb am yr asedau adeiladu.

 

Amlinellodd y Clerc brif ddarpariaethau’r CLG drafft, gan gynnwys safonau glanhau, cyfrifoldebau cynnal a chadw, trefniadau adrodd perfformiad chwarterol, a threfniadau datrys anghydfod.

 

Croesawodd yr Aelodau gynnwys trefniadau monitro ac adolygu chwarterol, a thrafodwyd y gweithdrefnau datrys anghydfod arfaethedig, gan nodi pwysigrwydd cael mecanwaith a fyddai’n caniatáu atal taliadau pe na bai lefel y gwasanaeth yn ddigonol. Awgrymwyd y dylid ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ar y cytundeb drafft cyn ei gwblhau.

 

ARGYMHELLWYD yn unfrydol y dylai’r Cyngor fynd ymlaen i gynnig y CLG diwygiedig i Gyngor Sir Ceredigion, gyda’r Clerc a’r Maer/Dirprwy Faer i gynnal trafodaethau pellach yn ôl yr angen.

Public Toilets

 

Following consideration at the previous meeting, a separate meeting had been held by the Committee Chair & Deputy, Mayor & Deputy, and the Clerk to review the SLA provided by Ceredigion County Council in further detail. Following this meeting, an alternative draft SLA had been prepared and was considered.

 

It was agreed that the building assets and the service must be considered separately, and members’ preference generally was to have a service agreement only, and not take responsibility for the building assets.

 

The Clerk outlined the key provisions of the draft SLA, including cleaning standards, maintenance responsibilities, quarterly performance reporting and dispute resolution arrangements.

 

Members welcomed the inclusion of quarterly monitoring and review arrangements and discussed the proposed dispute resolution procedures, noting the importance of having a mechanism by which payment could be withheld if the service level was not adequate. It was suggested that independent legal advice be sought on the draft agreement before it was finalised.

 

It was unanimously RECOMMENDED that the Council proceed with offering the amended SLA to Ceredigion County Council, with the Clerk and Mayor/Deputy to negotiate further as necessary.

 

 
11

 

 

 

 

I wahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 12, oherwydd natur fasnachol sensitif y busnes i’w ystyried

 

 

Yn unol ag Adran 1(2) Deddf Corfforaethau Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960, PENDERFYNWYD eithrio’r wasg a’r cyhoedd oherwydd natur gyfrinachol yr eitem i’w hystyried.

 

To exclude the press and public for the duration of item 12, due to the commercially sensitive nature of the business to be considered

 

In accordance with S. 1(2) of the Public Bodies (Admissions to Meetings) Act 1960, it was RESOLVED to exclude the press and public due to the confidential nature of the nature to be considered.

 
12

 

 

 

 

 

Tendr goleuadau Nadolig 2026-28

 

Ystyriodd y Pwyllgor y tendrau a dderbyniwyd ar gyfer codi a thynnu goleuadau Nadolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2026–2028, ynghyd â chrynodeb ac argymhelliad gan y swyddogion.

 

ARGYMHELLWYD dyfarnu’r contract yn unol ag argymhelliad y swyddogion.

Christmas lights tender 2026-28

 

The Committee considered the tenders received for the erection and removal of the Council’s Christmas lights for the period 2026–28, along with a summary and recommendation by officers.

 

It was RECOMMENDED to award to the contract in accordance with officers’ recommendation.

 
13 Gohebiaeth Correspondence

 

 
13.1 Anaf ar Faes Chwarae: Cadarnhawyd na fyddid yn cymryd unrhyw gamau pellach. Diolchodd yr Aelodau i staff y swyddfa am eu gweithredu prydlon wrth ddatrys y mater a sicrhau bod yr offer wedi’i wneud yn ddiogel. Playground Injury: Confirmation that no action would be taken. Members thanked the office staff for their prompt action in resolving the matter and ensuring the equipment was made safe.  
13.2 Cymdeithas Ddinesig Aberystwyth a’r Cylch – Cyhoeddiad Mapiau Hanesyddol: Ystyriwyd gohebiaeth yn ceisio cyngor a chymorth ariannol ar gyfer llyfr dwyieithog arfaethedig o fapiau a golygfeydd hanesyddol o Aberystwyth i nodi 750 mlwyddiant Siarter Frenhinol y Dref yn 2027. Canmolodd yr Aelodau’r grŵp am ei waith ac roeddent yn gefnogol i’r prosiect mewn egwyddor. Er nad oedd gan y Cyngor gyllid ar gael ar gyfer y prosiect, cynigiodd yr Aelodau gynorthwyo mewn ffyrdd eraill lle bo modd, ac anogwyd y grŵp i wneud cais am grant cymunedol y flwyddyn nesaf. Aberystwyth and District Civic Society – Historical Maps Publication: Correspondence seeking advice and funding support for a proposed bilingual book of historical maps and views of Aberystwyth to mark the 750th anniversary of the Town’s Royal Charter in 2027..

Members commended the group for its work, and was supportive of the project in principle. Whilst the Council had no funding available for the project, Members offered to assist in other ways where possible, and encouraged the group to apply for a community grant next year.

 
13.3 Cynllun Gerddi Cenedlaethol – Gerddi Rhandiroedd Aberystwyth: Nodwyd y diwrnod agored elusennol a gynhelir ddydd Sul 19 Gorffennaf 2026 rhwng 1:00pm a 5:00pm. National Garden Scheme – Aberystwyth Allotments: Charity open day Sunday 19 July 2026 1pm to 5pm.  

 

Daeth y cyfarfod i ben am    20:09                                                           The meeting was closed at 20:09

 

Cofnodion:

1 Presennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datganiadau diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau personol Personal references
5 Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda
6 Cynnig ariannu celf “Mis y Dyfroedd” “Aberystwyth Blue Month” art funding proposal
7 Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026 The County of Ceredigion (Communities) Order 2026
8 Trefniadau Sefydlu’r Maer Mayor Making arrangements
9 Bagiau Atal Gwylanod Seagull Proof Bags
10 Toiledau Cyhoeddus Public Toilets
11 I wahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 12, oherwydd natur fasnachol sensitif y busnes i’w ystyried To exclude the press and public for the duration of item 12, due to the commercially sensitive nature of the business to be considered
12 Tendr goleuadau Nadolig 2026-28 Christmas lights tender 2026-28
13 Gohebiaeth Correspondence