Cyfeillgarwch Rhyngwladol
Gefeillio Trefi
Mae Aberystwyth yn ffodus i gael ei gefeillio â phum tref ar draws y byd: St Brieuc yn Llydaw; Kronberg im Taunus yn yr Almaen; Arklow yn Iwerddon; Esquel ym Mhatagonia, yr Ariannin; Yosano yn Japan.
Mae Cyngor Tref Aberystwyth yn gwerthfawrogi’r perthnasoedd rhyngwladol hirsefydlog hyn yn fawr ac yn 2022 cynyddodd nifer y staff er mwyn eu cefnogi a’u datblygu yn ogystal ag estyn gwahoddiad iddynt oll i Urddiad blynyddol y Maer.
Wedi’u cychwyn fel gyfnewid rhwng ysgolion mae’r cyfeillgarwch wedi gwrthsefyll prawf amser ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer cyfnewid diwylliannol yn ogystal â chyfleoedd busnes.
Mae grwpiau partneriaeth Gefeillio Kronberg ac Esquel yn cael eu rhedeg yn lleol gan wirfoddolwyr ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gefeillio ymuno â nhw.
Sant Brieuc (Sant Brieg)
1973: Mae gan St Brieuc, ar arfordir gogledd Llydaw, iaith Geltaidd Frythonig, system addysg ddwyieithog ac fel Aberystwyth mae dwy afon yn cydgyfarfod ym mhorthladd y dref. Mynychodd dirprwyaeth Urddiad Maer 2023.
Yosano
1984: Mae gan Yosano, Japan, gysylltiadau agos hirsefydlog ag Aberystwyth, diolch i Frank Evans, cyn-garcharor rhyfel. Wedi’i seilio’n bennaf ar gyfnewid ysgolion hyd yma, ailgadarnhawyd y cyfeillgarwch gyda’r Cyngor Tref yn ffurfiol yn 2023.
Kronberg im Taunus
1997: Mae gan Kronberg im Taunus, yr Almaen, gastell, amgueddfa, cymuned gelfyddydol fywiog, orielau a marchnadoedd. Mae cyfnewidiadau rheolaidd yn digwydd rhwng y ddwy dref gyda stondin farchnad Aberystwyth yn cymryd lle amlwg ym marchnad Nadolig Kronberg.
Esquel
2009: Sefydlwyd Esquel, tref brifysgol ar odre’r Andes, Patagonia, gan ymsefydlwyr Cymreig. Mae’n dal i fod yn gartref i gymuned o siaradwyr Cymraeg.
Arklow
2016: Arklow, Sir Wicklow, Iwerddon. Mae cyfeillgarwch wedi datblygu’n bennaf drwy’r Her Geltaidd a digwyddiadau chwaraeon eraill. Mynychodd dirprwyaeth Urddiad Maer 2023.