Urddwyd Rhyddfreinwyr Anrhydeddus o 1912 ymlaen o dan Ddeddf Rhyddid Anrhydeddus Bwrdeistrefi 1885 ond wedyn o dan Ddeddfau Llywodraeth Leol 1933, 1972 fel y’i diwygiwyd.
1912: Syr John Williams, Barwnig 1af, Dinas Llundain, Llywydd cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol, Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth
1912: Yr Arglwydd David Davies, Barwn 1af Davies, cyn AS, gwleidydd a chymwynaswr cyhoeddus
1912: Yr Arglwydd Stuart Rendel, Barwn 1af Rendel, cyn AS, gwleidydd a chymwynaswr cyhoeddus, Llywydd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth
1922: David Lloyd George, Prif Weinidog Prydain Fawr ac Iwerddon
1923: Lt.-Col. Lewis Pugh Evans, Croes Fictoria (4 Hydref 1917 ger Zonnebeke, Gwlad Belg)
1923: Matthew Vaughan-Davies, Arglwydd Ystwyth (Barwn 1af Ystwyth), cyn M.P. dros sir Aberteifi
1923: Syr Herbert Lewis, cyn-A.P. dros Brifysgol Cymru ac un o sylfaenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1928: Stanley Baldwin, Prif Weinidog Prydain Fawr ac Iwerddon
1936: Syr David Charles Roberts, Uchel Siryf Sir Aberteifi
1936: Yr Arglwydd Ernest Edmund Henry Malet Vaughan, 7fed Iarll Lisburne, Uchel Siryf Sir Aberteifi, Arglwydd Raglaw Sir Aberteifi
1951: Syr Winston Churchill, Prif Weinidog Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
1955: Catrawd y Gwarchodlu Cymreig
1965: Syr David James, Pantyfedwen, dyngarwr a chymwynaswr
2011: Herr Fritz Pratschke, Krönberg, am dros 40 mlynedd o gyfraniad i efeillio
2015: Monsieur Jean Guezennec, St Brieuc, am dros 40 mlynedd o gyfraniad i efeillio
Awgrymwyd enwau eraill hefyd fel rhyddfreinwyr posibl, yn arbennig Bing Crosby a Bob Hope ym 1952. Ym 1969, gwrthododd Tywysog Cymru gynnig y Cyngor o Ryddid y Fwrdeistref oherwydd ei fod yma fel myfyriwr ac yn dymuno cael ei drin felly: ni fyddai’r Cyngor fel arfer yn rhoi’r Rhyddid i fyfyriwr.