Cyllid a Sefydliadau

18/11/2024 am 6:30 pm

Cofnodion:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

 

Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi

Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi

 

18.11.2024

 

 

COFNODION / MINUTES

 

1 Presennol

 

Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd)

Cyng. Alun Williams

Cyng. Brian Davies

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Eitemau 1 i 8 yn unig)

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Kerry Ferguson

 

Yn mynychu

Cyng. Mark Strong

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfiethydd)

Present

 

Cllr. Talat Chaudhri (Chair)

Cllr. Alun Williams

Cllr. Brian Davies

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Items 1 to 8 only)

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Kerry Ferguson

 

In attendance

Cllr. Mark Strong

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 

 
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

·         Dim

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

·         Cyng. Umer Aslam

 

Apologies and Absences

 

Absent with apologies:

·         None

 

Absent without apologies:

·         Cllr. Umer Aslam

 
3 Datgan diddordebau:

 

Dim

Declarations of interest:  

 

None

 

 
4 Cyfeiriadau Personol:

 

Dim

Personal references:

 

None

 

 
5 Ystyried cyfrifon mis Hydref

 

Codwyd y pwyntiau canlynol:

·         1121 Deunydd swyddfa ac ysgrifennu: Roedd y pennawd wedi’i orwario oherwydd prynu cadeiriau swyddfa wrth symud swyddfeydd.

·         1932 Costau Marchnad yr Hen Dref: Gwariwyd 61.5% ar y pennawd, ond disgwylir iddo aros o fewn y gyllideb.

·         1939 Rhandiroedd a Mannau Tyfu: Gwariwyd 82.9% ar y pennawd, ond disgwylir iddo aros o fewn y gyllideb.

·         1942 Sul y Cofio: Costau heb eu cyfrif eto, fodd bynnag disgwylir gorwariant oherwydd cost cau ffyrdd a thorchau.

 

ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon.

 

Consider October Accounts

 

The following points were raised:

·         1121 Stationery & office Supplies: Heading was overspent due to purchase of office chairs on moving offices.

·         1932 Old Town Market costs: Heading was 61.5% spent, but expected to remain within budget.

·         1939 Allotments & Growing Spaces: Heading was 82.9% spent, but expected to remain within budget.

·         1942 Remembrance Sunday: Costs not yet accounted, however overspend expected due to cost of road closure and wreaths.

 

It was RECOMMENDED to approve the accounts.

 

 
6 Cofrestr asedau ac yswiriant

 

Dosbarthwyd cofrestr asedau ddiwygiedig, gyda diwygiadau i nifer yr asedau a yswiriwyd. Roedd rhai asedau risg isel, megis parc sglefrio Parc Kronberg, i fod heb eu hyswirio, a thrwy hynny, gobeithio, yn lleihau premiwm yswiriant blynyddol y Cyngor.

 

Cafwyd cynnig gan y Cyng. Jeff Smith ac eiliwyd gan y Cyng. Mark Strong i beidio ag yswirio Cadwyn y Maer. Gofynnwyd am bleidlais wedi’i chofnodi:

 

Pleidleisiodd yr aelodau canlynol o blaid peidio ag yswirio Cadwyn y Maer:

·         Cllr. Jeff Smith

·         Cllr. Mark Strong

 

Pleidleisiodd yr aelodau a ganlyn yn erbyn peidio ag yswirio Cadwyn y Maer:

·         Cllr. Talat Chaudhri

·         Cllr. Brian Davies

·         Cllr. Kerry Ferguson

·         Cllr. Owain Hughes

·         Cllr. Emlyn Jones

·         Cllr. Maldwyn Pryse

 

Ataliodd yr aelodau canlynol eu pleidlais:

·         Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

Ni phasiwyd y cynnig a byddai Cadwyn y Maer yn parhau i gael ei hyswirio.

 

ARGYMHELLWYD cael prisiad proffesiynol o Gadwyn y Maer.

 

Byddai’r Clerc yn diwygio’r gofrestr asedau yn dilyn adborth y cyfarfod cyn i’r Cyngor Llawn ei ystyried. Cysgodfannau bws i’w cynnwys fel asedau yswiriedig.

Asset register & insurance

 

An amended asset register was circulated, with amendments to the number of assets insured. Some low risk assets, such as Parc Kronberg skatepark, were to be uninsured, thereby hopefully reducing the Council’s annual insurance premium.

 

A motion was made by Cllr. Jeff Smith and seconded by Cllr. Mark Strong to not insure the Mayoral Chain. A recorded vote was requested:

 

The following members voted in favour of not insuring the Mayoral Chain:

·         Cllr. Jeff Smith

·         Cllr. Mark Strong

 

The following members voted against not insuring the Mayoral Chain:

·         Cllr. Talat Chaudhri

·         Cllr. Brian Davies

·         Cllr. Kerry Ferguson

·         Cllr. Owain Hughes

·         Cllr. Emlyn Jones

·         Cllr. Maldwyn Pryse

 

The following members abstained from voting:

·         Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

 

The motion was not passed and the Mayoral Chain would remain insured.

 

It was RECOMMENDED to obtain a professional valuation of the Mayoral Chain.

 

The Clerk would amend the asset register following the meeting’s feedback ahead of consideration by Full Council. Bus shelters to be included as insured assets.

 

 
7 Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol drafft adroddiad blynyddol 2025-26

 

Roedd yr adroddiad drafft wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw a nodwyd ei gynnwys.

Independent Remuneration Panel draft annual report 2025-26

 

The draft report had been circulated prior and its contents were noted.

 

 
8 Blodau gwely haf 2025

 

Dosbarthwyd rhestr blannu ar gyfer blodau gwely blynyddol, ynghyd â phrisiau a gafwyd gan dri chyflenwr. Codwyd y pwyntiau a’r cwestiynau canlynol:

·         A ellid darparu blodau a phlanhigion ychwanegol ar hyd Y Ro Fawr? I’w ystyried mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Ceredigion ynghylch eu gwaith datblygu ar bromenâd y De.

·         A ellid gosod blodau neu blanwyr ychwanegol ar y Stryd Fawr? Byddai angen ystyriaeth bellach i’r math o blanwyr, blodau a lleoliadau posibl.

·         Nodwyd bod rhai gwelyau blodau yn ymddangos yn eithaf gwastad, a byddai mwy o amrywiaeth o blanhigion o wahanol uchder a maint yn well.

·         Nodwyd bod gan drefi eraill ledled Cymru yn aml ffyrdd gwahanol a dyfeisgar o ddarparu blodau ac y gallent fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o syniadau a gwybodaeth. Er enghraifft, llwyddodd Llandudno i blannu llwyni amrywiol ar hyd eu promenâd, a darparodd Llanelli fasgedi blodau yn hongian o bolion lampau.

·         A fyddai cynlluniau i osod planwyr basgedi rhwystr ger cloc y dref ar ben y Stryd Fawr yn golygu cael gwared ar y tyfiant eiddew yno? Nid oedd hyn yn cael ei ffafrio yn gyffredinol, gan fod yr eiddew yn darparu rhywfaint o wyrddni trwy gydol y flwyddyn.

 

ARGYMHELLWYD symud ymlaen gyda’r rhestr blannu gan ddefnyddio’r contractwr lleol oedd wedi cynnig gwerth gorau.

 

Cyfarfod gweithgor blodau i’w drefnu.

 

Gadawodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y cyfarfod.

Summer bedding flowers 2025

 

A planting list for annual bedding flower was circulated, along with prices obtained from three suppliers. The following points and questions were raised:

·         Could additional flowers and planters be provided along South Marine Terrace? To be considered in consultation with Ceredigion County Council regarding their development works to the South promenade.

·         Could additional flowers or planters be installed on Great Darkgate Street? Further consideration would be needed into the type of planter, flowers and possible locations.

·         It was noted that some flower beds appear quite flat, and greater variety of plants of different heights and sizes would be preferable.

·         It was noted that other towns across Wales often have different and ingenious ways of providing flowers and could be a useful source of ideas and information. For example, Llandudno successfully plant various shrubs along their promenade, and Llanelli provided flower baskets hanging from lampposts.

·         Would plans to install barrier basket planters near the town clock at the top of Great Darkgate Street involve removal of the ivy growth there? This was generally not favoured, as the ivy provides some greenery all year round.

 

It was RECOMMENDED to proceed with the planting list, using the local contractor who had offered best value.

 

Flowers working group meeting to be arranged.

 

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands left the meeting.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfarfod blodau

Flowers meeting

9 Meddalwedd cyfrifo – cyfriflyfr prynu

 

Dosbarthwyd dyfynbris ar gyfer modiwl cyfriflyfr pryniant gan ddarparwr meddalwedd presennol y Cyngor. Byddai’r modiwl hwn yn helpu i symleiddio’r broses gyfrifo a lleihau’r amser a gymerir i baratoi cyfrifon, gan arwain at arbediad yng nghostau’r cyfrifydd.

 

Byddid yn gofyn am ragor o wybodaeth cyn gwneud penderfyniad, gan gynnwys:

·         Costau i symud i system cwmwl gyda darparwr presennol y Cyngor.

·         Dyfynbrisiau gan ddarparwyr meddalwedd eraill.

 

Nodwyd rhai pryderon ynghylch darpariaeth dwyieithog, a fyddai’n bwynt i’w ystyried gydag unrhyw feddalwedd.

Accounting software – purchase ledger

 

A quotation for a purchase ledger module from the Council’s current software provider was circulated. This module would help streamline the accounting process and reduce the time taken to prepare accounts, thereby resulting in a saving in accountant’s costs.

 

Further information would be requested before making a decision, including:

·         Costs to move to a cloud based system with the Council’s current provider.

·         Quotations from other software providers

 

Some concerns were noted regarding bilingual functionality, which would be a point for consideration with any software.

 

 
10 Neuadd Gwenfrewi Neuadd Gwenfrewi  
10.1 Gwaith allanol

 

Dosbarthwyd dyfynbrisiau ar gyfer gwaith i’r cafnau ar hyd wal ddeheuol yr hen Eglwys. Roedd hyn yn cynnwys prisiau ar gyfer gwteri UPVC, dur a haearn bwrw.

 

Ni ellid gwneud unrhyw benderfyniad, gan y byddai angen dyfynbrisiau ychwanegol gan wahanol gyflenwyr. Serch hynny, roedd haearn bwrw yn cael ei ffafrio’n gyffredinol.

Exterior works

 

Quotations were circulated for works to the guttering along the Southern wall of the former Church. This included prices for UPVC, steel and cast iron guttering.

 

No decision could be made, as additional quotes from different suppliers would be needed. Nevertheless, cast iron was generally favoured.

 

 
10.2 Diweddariad ariannol

 

Cafwyd diweddariad gan y Clerc ar gyfanswm gwariant gros ar Neuadd Gwenfrewi ers ac yn cynnwys pryniant y safle. Roedd hyn hefyd yn cynnwys diweddariad ar werth cyfredol y safle. Prisiadau pellach i’w cael er mwyn cymharu. Gwybodaeth i’w dosbarthu trwy e-bost.

Financial update

 

An update was provided by the Clerk on the gross total expenditure on Neuadd Gwenfrewi since and including the site’s purchase. This also included an update on the current value of the site. Further valuations to be obtained for comparison. Information to be circulated via email.

 

Cylchredeg

Circulate

11 Cyllideb 2025-26

 

Dosbarthwyd ail gyllideb ddrafft yn dilyn ystyriaethau cychwynnol yn y cyfarfod diwethaf. Codwyd y canlynol:

·         1935 Plannu a chynnal a chadw coed: Awgrymwyd codi hwn yn ôl i £8,000, yn dilyn gostyngiad i £5,000 yn y cyfarfod diwethaf. ARGYMHELLWYD bod swyddogion yn paratoi cynnig ar gyfer plannu coed yn 2025-26 i ganiatáu ystyriaeth wybodus o ofynion y gyllideb.

·         1940 Marchnad y ffermwyr: Pennawd i’w ddileu.

·         1934 Marchnad yr Hen Dref – Costau: I’w hailenwi’n ‘Gostau marchnad’.

 

Nodwyd bod gosod cyllideb yn fater pwysig iawn ac y dylai gynnwys ymgynghori â’r cyhoedd i bennu blaenoriaethau. Awgrymwyd ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol, y dylid gwneud ymdrechion ymgynghori mewn da bryd, gydag awgrym o Awst a Medi.

Budget 2025-26

 

A second draft budget was circulated following initial considerations at the last meeting. The following was raised:

·         1935 Tree planting & maintenance: It was suggested to raise this back to £8,000, following reduction to £5,000 at the last meeting. It was RECOMMENDED that officers prepare a proposal for tree planting in 2025-26 to allow informed consideration of the budget requirement.

·         1940 Farmers market: Heading to be deleted.

·         1934 Old Town Market – Costs: To be renamed ‘Market costs’.

 

It was noted that budget setting is a very important matter and should involve consultation with the public to determine priorities. It was suggested that for future budgets, consultation efforts should be made in adequate time, with a suggestion of August and September.

 

 
  PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00.  
12 Gohebiaeth

 

Correspondence  
12.1 Prosiect celf Sustrans: Roedd Sustrans wedi bod yn cysylltu â Chyngor Sir Ceredigion i benderfynu ar leoliad addas ar gyfer y gosodiad celf. Roedd hwn wedi’i gulhau i Gôr y Castell neu’r wal amddiffyn rhag llifogydd o dan Bont Trefechan. Roedd y wal amddiffyn rhag llifogydd yn cael ei ffafrio’n gyffredinol. Sustrans art project: Sustrans had been liaising with Ceredigion County Council to decide a suitable location for the art installation. This had been narrowed down to Côr y Castell or the flood defence wall beneath Trefechan Bridge. The flood defence wall was generally favoured.  
12.2 Pabïau gwyn: Gohebiaeth gan Gôr Gobaith yn nodi tra bod pabïau coch wedi ei symud a’i ddiogelu yn ôl y disgwyl, roedd pabïau gwyn wedi eu gadael ar ôl ar y llawr. White poppies: Correspondence from Côr Gobaith noting that whilst red poppies had been moved and secured as expected, white poppies had been left behind on the floor.  
12.3 Cais Dinas Llên UNESCO: Cais i Gyngor y Dref ddarparu gwybodaeth ar gyfer adrannau o’r cais. Clerc i gysylltu â’r Cyng. Maldwyn Pryse, Emlyn Jones & Kerry Ferguson i ddarparu. UNESCO City of Literature bid: Request for Town Council to provide information for sections of the application. Clerk to liaise with Cllrs. Maldwyn Pryse, Emlyn Jones & Kerry Ferguson to provide.  
12.4 Pwyllgor Staffio: Cyfarfod i’w gynnal am 18:30 ddydd Mercher 20 Tachwedd 2024. Staffing Committee: Meeting to be held at 18:30 on Wednesday 20 November 2024.  

Daeth y cyfarfod i ben am 21:03.                                                    The meeting was closed at 21:03.

Cofnodion:

Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

 

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2BJ

council@aberystwyth.gov.uk

www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

                                  Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

13.11.2024

 

 

Annwyl Cynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun, 18.11.2024 am 18:30.

 

You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday 18.11.2024 at 18:30.

 

 

 

AGENDA 

 

 

1 Yn bresennol Present
2 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies and absences
3 Datgan Diddordeb Declarations of interest
4 Cyfeiriadau Personol Personal references
5 Ystyried cyfrifon mis Hydref Consider October accounts
6 Cofrestr asedau ac yswiriant Asset register & insurance
7 Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol drafft adroddiad blynyddol 2025-26 Independent Remuneration Panel drafft annual report 2025-26
8 Blodau gwely haf 2025                         Summer bedding flowers 2025
9 Meddalwedd cyfrifo – cyfriflyfr prynu Accounting software – purchase ledger
10 Neuadd Gwenfrewi Neuadd Gwenfrewi
10.1 Gwaith allanol Exterior works
10.2 Diweddariad ariannol Financial update
11 Cyllideb 2025-26 Budget 2025-26
12 Gohebiaeth

 

Correspondence

 

 

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely   

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

…………………………………………

Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details