Cyllid a Sefydliadau
20/01/2025 am 6:30 pm
Cofnodion:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi
Minutes of the Finance Committee meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi
20.1.2025
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 1 | Presennol
Cyng. Talat Chaudhri (Cadeirydd) Cyng. Maldwyn Pryse Cyng. Alun Williams Cyng. Emlyn Jones Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Brian Davies Cyng. Dylan Lewis-Rowlands (Eitemau 1 i 5 ac 11 yn unig) Cyng. Jeff Smith
Yn mynychu Cyng. Mark Strong Will Rowlands (Clerc) Steve Williams (Rheolwr Asedau a Chyfleusterau) (Eitemau 1 i 5 ac 11 yn unig) Carol Thomas (Cyfieithydd) |
Present
Cllr. Talat Chaudhri (Chair) Cllr. Maldwyn Pryse Cllr. Alun Williams Cllr. Emlyn Jones Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Brian Davies Cllr. Dylan Lewis-Rowlands (Items 1 to 5 & 11 only) Cllr. Jeff Smith
In attendance Cllr. Mark Strong Will Rowlands (Clerk) Steve Williams (Assets & Facilities Manager) (Items 1 to 5 & 11 only) Carol Thomas (Translator) |
|
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Yn absennol efo ymddiheuriadau: · Dim
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Cyng. Umer Aslam · Cyng. Owain Hughes |
Apologies and Absences
Absent with apologies: · None
Absent without apologies: · Cllr. Umer Aslam · Cllr. Owain Hughes
|
|
| 3 | Datgan diddordebau:
Dim |
Declarations of interest:
None
|
|
| 4 | Cyfeiriadau Personol:
· Cydymdeimlwyd â theulu Joanne Julier, Cerdd Ystwyth, a fu farw yn anffodus. · Atgoffwyd ac anogwyd yr aelodau i fynychu’r cyfarfod cyhoeddus a gynhelir ddydd Gwener 24 Ionawr yn Neuadd Gymunedol Waunfawr i drafod newidiadau arfaethedig i’r uned strôc yn Ysbyty Cyffredinol Bronglais. · Atgoffwyd ac anogwyd yr aelodau i fynychu parêd Santes Dwynwen a gynhelir ddydd Sadwrn 25 Ionawr. |
Personal references:
· Condolences were extended to the family of Joanne Julier of Cerdd Ystwyth, who had sadly passed away. · Members were reminded and encouraged to attend the public meeting being held on Friday 24 January in Waunfawr Community Hall to discuss proposed changes to the stroke unit at Bronglais General Hospital. · Members were reminded and encouraged to attend the Santes Dwynwen parade being held on Saturday 25 January.
|
|
| 5 | Ystyried cyfrifon mis Rhagyfr
Codwyd y pwyntiau canlynol:
1121 Deunydd Ysgrifennu a Nwyddau Swyddfa: Pennawd wedi gorwario o £274. Roedd hyn oherwydd prynu cadeiriau swyddfa newydd wrth symud swyddfa.
1225 Regalia Dinesig, Byrddau a Phortreadau: Nodwyd bod angen diweddaru byrddau a phortreadau’r Maer, ynghyd â’r arysgrifau ar fedal y Clerc. I’w drafod yn y cyfarfod nesaf.
1208 Hyfforddiant: Nodwyd nad oedd gwariant, ac atgoffwyd yr aelodau o bwysigrwydd hyfforddiant.
1946 Wi-Fi y dref a diffibrilwyr: Ni fu unrhyw wariant gan nad oedd contract gwasanaeth yn ei le ar gyfer wifi y dref, ac roedd padiau a batris y ddiffibriliwyr wedi cael eu gwasanaethu y llynedd. Wifi y dref i’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.
1934 Costau Marchnad yr Hen Dref: Gwariwyd 80% ar y pennawd gyda £1,002 yn weddill a holwyd a oedd hyn yn ddigon am weddill y flwyddyn ariannol. Nid oedd unrhyw farchnadoedd ym mis Ionawr a mis Chwefror, felly’r unig gostau a ddisgwylir cyn diwedd y flwyddyn ariannol fyddai ar gyfer y farchnad ym mis Mawrth. Byddai’r arian sy’n weddill yn ddigon a disgwylir ychydig o danwariant.
1930 Celf stryd a phlaciau: Nodwyd bod £2,000 yn weddill a holwyd a oedd cynlluniau i wario’r swm hwn. Roedd cynlluniau i osod dau blac yn y flwyddyn ariannol ond roeddid yn dal i aros am gymeradwyaeth i eiriad plac i Iris de Freitas ac roedd angen ystyriaeth bellach ar blac i Cranogwen. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.
Nodwyd y derbyniwyd diddordeb gan siop gelf Millwards ynglŷn â’r posibilrwydd o gael murlun ar 5 Heol y Wig. I’w ddilyn i fyny.
1932 Cinio Nadolig yr henoed: Roedd cost gros y digwyddiad wedi dod i £1,040, gydag incwm gros yn erbyn hyn o £375 o werthiant tocynnau. Roedd hyn yn golygu mai £665 oedd cost net y digwyddiad.
ARGYMHELLWYD cymeradwyo’r cyfrifon. |
Consider December accounts
The following points were raised:
1121 Stationery & Office Supplies: Heading was overspent by £274. This was due to purchase of new office chairs on moving premises.
1225 Civic Regalia, Boards & Portraits: It was noted that the Mayoral boards & portraits needed updating, along with the inscriptions on the Clerk medal. To be discussed at next meeting.
1208 Training: It was noted that there was no expenditure, and members were reminded of the importance to undertake training.
1946 Town Wi-Fi & defibrillators: There had been no expenditure as a service contract was not in place for the town wifi, and defibrillator pads and batteries had been serviced last year. Town wifi to be discussed by General Management Committee.
1934 Old Town Market costs: The heading was 80% spent with £1,002 remaining and it was queried if this was sufficient for the rest of the financial year. There were no markets in January and February, so the only costs expected before the financial year-end would be for the market in March. The remaining funds would be sufficient with a small underspend expected.
1930 Street art & plaques: It was noted that there was £2,000 remaining and it was queried if there were plans to spend this amount. There were plans to install two plaques in the financial year, however approval was still awaited on the wording of a plaque to Iris de Freitas and further consideration was needed on a plaque to Cranogwen. To be discussed by General Management Committee.
It was noted that interest had been received from Millwards art shop regarding potential for a mural on 5 Pier Street. To be followed up.
1932 Seniors’ Christmas lunch: The gross cost of the event had come to £1,040, with a gross income against this of £375 from ticket sales. This made the net cost of the event £665.
It was RECOMMENDED to approve the accounts.
|
Agenda Cyllid Finance Agenda
Agenda RhC GM Agenda
Agenda RhC GM Agenda |
| PENDERFYNWYD diwygio trefn y busnes ar gyfer eitem 11 i’w thrafod yn syth ar ôl eitem 5. | It was RESOLVED to amend the order of business for item 11 to be discussed immediately after item 5. | ||
| 6 | Diweddariad ariannol ar brosiectau grant 2024
Cafwyd diweddariad gan y Clerc, ynghyd â thaenlen yn rhoi trosolwg ariannol o brosiectau grant y Cyngor Tref.
Disgwyliwyd mai tua £61,340.87 fyddai cost net y prosiectau grant i’r Cyngor. Byddai’r gost hon yn cael ei thalu o gyllideb 2024-25, ond yn ymarferol byddai hyn trwy sicrhau swm cyfatebol o danwariant ar draws cyllideb y flwyddyn. |
Financial update on 2024 grant projects
An update was provided by the Clerk, along with a spreadsheet giving a financial overview of the Town Council’s grant projects.
The net cost to the Council of the grant projects was expected to be around £61,340.87. This cost would be paid for from the 2024-25 budget, however in practice this would be through ensuring an equivalent amount of underspend across the year’s budget.
|
|
| 7 | Grantiau cymunedol 2025
Roedd ffurflenni cais a chanllawiau wedi’u diweddaru a’u dosbarthu o flaen llaw.
Yn gyffredinol, roedd y Pwyllgor yn hapus â phroses grantiau’r Cyngor, ond roedd angen mwy o graffu ar adrodd ar y defnydd o grantiau ar ôl dyfarnu. Cytunwyd y gellid gweithredu ar hyn drwy neilltuo cynghorydd i oruchwylio pob cais a sicrhau defnydd priodol o gyllid; dyma oedd polisi presennol y Cyngor ond nid oedd yn cael ei weithredu’n llawn mewn gwirionedd.
ARGYMHELLWYD ychwanegu adran at y ffurflenni cais i ymgeiswyr roi gwybodaeth am ddefnydd eu prosiect o’r Gymraeg a’i effaith arni. ARGYMHELLWYD ymhellach y dylid ychwanegu adran debyg at y canllawiau, yn gofyn i unrhyw ddeunyddiau ysgrifenedig ar gyfer prosiect gael eu darparu’n ddwyieithog a bod unrhyw gyfathrebu llafar yn defnyddio’r Gymraeg cymaint â phosibl, yn enwedig mewn prosiectau sy’n ymwneud â phlant.
Cytunwyd y dylai’r Cyngor osod blaenoriaethau ar gyfer ystyried ceisiadau. ARGYMHELLWYD y canlynol fel blaenoriaethau ar gyfer ceisiadau 2025: · Yr iaith Gymraeg · Amgylchedd a chynaliadwyedd · Plant difreintiedig · Dathlu/hyrwyddo Aberystwyth · Llenyddiaeth
Cytunwyd y dylid cynnal digwyddiad gwobrwyo/adrodd i ddathlu a hysbysebu’r cynllun grant, fel y bu yn y blynyddoedd blaenorol cyn Covid.
Gyda’r uchod i gyd, ARGYMHELLWYD cymeradwyo a hysbysebu’r ffurflenni a chanllawiau grant. |
Community grants 2025
Updated application forms and guidance had been circulated prior.
In general, the Committee was happy with the Council’s grant process, however greater scrutiny was needed on reporting of use of grants after award. It was agreed that this could be actioned through allocating a councillor to oversee each application and ensure appropriate use of funding; this was the Council’s current policy however was not actually operated fully.
It was RECOMMENDED that a section be added to the application forms for applicants to give information on their project’s use of and impact on the Welsh Language. It was further RECOMMENDED that a similar section be added to the guidance, requesting that any written materials for a project be provided bilingually and that any verbal communication use Welsh a much as possible, especially in projects involving children.
It was agreed that the Council should set priorities for when considering applications. The following was RECOMMENDED as priorities for 2025 applications: · Welsh language · Environment & sustainability · Disadvantaged children · Celebrating/promoting Aberystwyth · Literature
It was agreed that an award/reporting event should be held to celebrate and advertise the grant scheme, as had been in previous years pre-Covid.
With all of the above, it was RECOMMENDED to approve and advertise the grant forms and guidance.
|
|
| 8 | Cerdyn debyd
ARGYMHELLWYD gwneud cais am gerdyn debyd busnes i’r Clerc ei ddefnyddio ar fân bryniannau na ellid eu talu trwy anfoneb. |
Debit card
It was RECOMMENDED to apply for a business debit card for the Clerk to use on minor purchases that could not be paid by invoice.
|
|
| 9 | Cytundeb cyflenwad nwy Tŷ’r Offeiriad
Derbyniwyd tri dyfynbris gan gyflenwyr nwy, ynghyd â gwybodaeth am effaith amgylcheddol pob tariff. O’r dyfynbrisiau a gafwyd, contract 2 flynedd gyda Nwy Prydain oedd yn well, fodd bynnag awgrymwyd cael dyfynbrisiau pellach gan y cyflenwyr Ecotricity a Goodearth. |
Presbytery gas supply contract
Three quotes had been received from gas suppliers, along with information on the environmental impact of each tariff. Of the quotes obtained, a 2 year contract with British Gas was preferred, however it was suggested to obtain further quotes from the suppliers Ecotricity and Goodearth.
|
|
| 10 | Ystyried Rheoliadau Ariannol
Derbyniwyd Rheoliadau Ariannol model newydd gan Un Llais Cymru ac fe’u dosbarthwyd ymlaen llaw. Roedd y rhain wedi’u haddasu i’r Cyngor ac i gael eu hystyried gan y Pwyllgor Rheolau Sefydlog a Pholisi ddydd Mercher 22 Ionawr 2025. |
To consider Financial Regulations
New model Financial Regulations had been received from One Voice Wales and were circulated prior. These had been adapted to the Council and were due to be considered by the Standing Orders & Policy Committee on Wednesday 22 January 2025.
|
Agenda Polisi
Policy agenda |
| 11 | Cyllideb 2025-26
Dosbarthwyd cyllideb ddrafft wedi’i diweddaru. Codwyd y pwyntiau a’r cwestiynau canlynol:
1532 Glanhau strydoedd: I’w gynyddu o £5,000 i £30,000 i ganiatáu mwy o wasanaethau, megis golchi strydoedd â phŵer neu ymestyn cyflogaeth dymhorol.
Trafnidiaeth: Nodwyd gan fod gan y Cyngor Tref bellach fwy o gyfrifoldebau glanhau strydoedd, bod yr angen am drafnidiaeth yn dod yn amlwg. Roedd rhywfaint o waith ymchwil rhagarweiniol wedi’i wneud a’r disgwyl oedd y gellid cynnwys unrhyw gostau prynu o fewn cyllideb 2024-25.
Toiledau cyhoeddus: Nodwyd bod angen gwybodaeth bellach a chadarnhad o’r ffordd ymlaen ar fyrder. Roedd cyfarfod gyda Chyngor Sir Ceredigion wedi’i gynnig ar gyfer 7 Chwefror 2025, ond roedd hyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer y praesept, sef 31 Ionawr 2025. Byddai cais yn cael ei wneud naill ai am gyfarfod cynharach neu am estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer y praesept.
1935 Plannu a chynnal a chadw coed: Awgrymwyd cynyddu hyn o £5,000 i £12,000 ond ni phasiwyd y cynnig. Nodwyd y gellir ariannu plannu coed gan grantiau ac nid yw llawer o waith plannu’r Cyngor Tref mewn gwirionedd yn golygu gwariant o’r pennawd hwn. Roedd 14 o goed wedi’u plannu hyd yn hyn yn 2024-25.
1947 Costau gwelyau blodau: Cwestiynwyd a oedd gan hwn unrhyw ddarpariaeth ar gyfer planwyr ychwanegol ar hyd Y Ro Fawr. Nid oedd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hyn ar hyn o bryd, gan y byddai’n dibynnu ar ganiatâd Cyngor Sir Ceredigion ar ôl cwblhau eu gwaith datblygu. Roedd deialog eisoes wedi cychwyn ar hyn, gyda thrafodaeth bellach i’w chynnal wrth i’r gwaith datblygu fynd rhagddo.
1955 Adnewyddiad Neuadd Gwenfrewi: I’w leihau £5,000 i £20,000 i ganiatáu cynnydd yn 1532 Glanhau strydoedd.
Y dyddiad cau ar gyfer y praesept oedd 31 Ionawr 2025, felly byddai angen i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 27 Ionawr 2025 gymeradwyo’r gyllideb derfynol a’r praesept.
Gadawodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands y cyfarfod Gadawodd Steve Williams y cyfarfod |
Budget 2025-26
An updated draft budget was circulated. The following points and questions were raised:
1532 Street cleaning: Increased by £5,000 to £30,000 to allow greater service delivery, such as power washing of streets or extension of seasonal employment.
Transportation: It was noted that with the Town Council now having greater street cleaning responsibilities, the need for transportation was becoming clear. Some preliminary research had been undertaken and it was expected that any purchase cost could be made within the 2024-25 budget.
Public toilets: It was noted that further information an confirmation of the way forward was needed urgently. A meeting with Ceredigion County Council had been offered for 7 February 2025, however this was after the precept deadline of 31 January 2025. A request would be made for either an earlier meeting or extension to the precept deadline.
1935 Tree planting & maintenance: It was suggested to increase this from £5,000 to £12,000 however the motion was not passed. It was noted that tree planting is grant-fundable and much of the Town Council’s planting does not actually incur expenditure from this heading. 14 trees had been planted so far in 2024-25.
1947 Flower bed costs: It was questioned whether this had any provision for additional planters along South Marine Terrace. There was not currently any provision for this, as it would be dependent on permission from Ceredigion County Council following completion of their development works. Dialogue had already been opened on this, with further discussion to take place as the development work progressed.
1955 Neuadd Gwenfrewi refurbishment: To be reduced by £5,000 to £20,000 to allow for increase in 1532 Street cleaning.
The precept deadline was 31 January 2025, therefore the Full Council meeting on 27 January 2025 would need to approve the final budget and precept.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands left the meeting Steve Willaims left the meeting
|
Agenda Cyngor Llawn Full Council Agenda |
| 12 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
| 12.1 | Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion: Cais am gymorth ariannol. I’w darparu gyda ffurflenni cais a chanllawiau Grant Cymunedol. | Ceredigion Young Farmers Club: Request for funding support. To be provided with Community Grant application forms and guidance. | |
| 12.2 | Ambiwlans Awyr Cymru: Cais am gymorth ariannol. I’w darparu gyda ffurflenni cais a chanllawiau Grant Cymunedol. | Wales Air Ambulance: Request for funding support. To be provided with Community Grant application forms and guidance. | |
| 12.3 | Urdd Gobaith Cymru: Cais am gymorth ariannol. I’w darparu gyda ffurflenni cais a chanllawiau Grant Cymunedol. | Urdd Gobaith Cymru: Request for funding support. To be provided with Community Grant application forms and guidance. | |
| 12.4 | Cadetiaid Byddin Aberystwyth: Cais am gymorth ariannol. I’w darparu gyda ffurflenni cais a chanllawiau Grant Cymunedol. | Aberystwyth Army Cadets: Request for funding support. To be provided with Community Grant application forms and guidance. | |
| 12.5 | Y Gymdeithas Gofal: Cais am gymorth ariannol. I’w darparu gyda ffurflenni cais a chanllawiau Grant Cymunedol. | The Care Society: Request for funding support. To be provided with Community Grant application forms and guidance. | |
| 12.6 | Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Cais gan aelod o’r cyhoedd i gefnogi argymhellion adroddiad diweddar y Comisiwn. I’w ystyried gan y Pwyllgorau Cynllunio a Rheolaeth Cyffredinol. | Commission for Welsh-speaking Communities: Request from a member of the public to support the recommendations of the Commission’s recent report. To be considered by Planning & General Management Committees. | Agendau Cynllunio a RhC
Planning & GM agendas |
| 12.7 | Cae pob tywydd Plascrug: Agoriad swyddogol wedi’i aildrefnu ar gyfer 2:00yh ddydd Gwener 24 Ionawr 2025. | Plascrug all-weather pitch: Official opening reorganised for 2:00pm on Friday 24 January 2025. |
Daeth y cyfarfod i ben am 20:45. The meeting was closed at 20:45.
Cofnodion:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
| Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery
Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2BJ |
council@aberystwyth.gov.uk
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse
15.1.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gwahoddir i gyfarfod hybrid o’r Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau y gynhelir o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun, 20.1.2025 am 18:30.
You are invited to a hybrid meeting of the Finance and Establishments Committee to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday 20.1.2025 at 18:30.
|
AGENDA
|
||
| 1 | Yn bresennol | Present |
| 2 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
| 3 | Datgan Diddordeb | Declarations of interest |
| 4 | Cyfeiriadau Personol | Personal references |
| 5 | Ystyried cyfrifon mis Rhagfyr | Consider December accounts |
| 6 | Diweddariad ariannol ar brosiectau grant 2024 | Financial update on 2024 grant projects |
| 7 | Grantiau cymunedol 2025 | Community grants 2025 |
| 8 | Cerdyn debyd | Debit card |
| 9 | Cytundeb ar gyfer cyflenwad nwy Tŷ’r Offeiriad | Presbytery gas supply contract |
| 10 | Ystyried Rheoliadau Ariannol | To consider Financial Regulations |
| 11 | Cyllideb 2025-26 | Budget 2025-26 |
| 12 | Gohebiaeth
|
Correspondence
|
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
…………………………………………
Gall y cyhoedd fynychu’r Pwyllgor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Committee by contacting the Town Council Office for details