Cyngor Llawn

22/06/2026 am 6:30 pm

Cofnodion:

 

COFNODION / MINUTES

 

42 Yn bresennol:

 

Cyng. Emlyn Jones (Cadeirydd)

Cyng. Dani Thomas

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Julien Brun

Cyng. Brian Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Nishant Chandolia

Cyng. Bryony Davies (75 i 79 yn unig)

Cyng. Felix Lorenze

 

Yn mynychu:

Cyng. Shelley Chids (Cyngor sir Ceredigion)

Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion)

Will Rowlands (Clerc y Dref)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Emlyn Jones (Chair)

Cllr. Dani Thomas

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Julien Brun

Cllr. Brian Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Nishant Chandolia

Cllr. Bryony Davies (75 to 79 only)

Cllr. Felix Lorenze

 

In attendance:

Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council)

Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council)

Will Rowlands (Town Clerk)

Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer)

Carol Thomas (Translator)

 

 
43 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol gydag ymddiheuriadau:

·         Cyng. Alun Williams

·         Cyng. Mari Turner

·         Cyng. Jeff Smith

·         Cyng. Glynis Somers

·         Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

·         Cyng. Maldwyn Pryse

·         Cyng. Cath Peasley

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

·         Cyng. Mark Strong

·         Cyng. Carl Worrall

Apologies and absence

 

Absent with apologies:

·         Cllr. Alun Williams

·         Cllr. Mari Turner

·         Cllr. Jeff Smith

·         Cllr. Glynis Somers

·         Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

·         Cllr. Maldwyn Pryse

·         Cllr. Cath Peasley

 

Absent without apologies:

·         Cllr. Mark Strong

·         Cllr. Carl Worrall

 

 
44 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

70. Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mehefin: Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant personol, ond nid buddiant sy’n rhagfarnu, gan fod taliadau’n cael eu gwneud i nifer o’i gleientiaid busnes

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

70. To consider & approve June expenditure: Cllr. Emlyn Jones declared a personal, but not prejudicial, interest due to payments being made to a number of his business clients.

 

 
45 Cyfeiriadau Personol

 

·         Nododd yr aelodau fod y cyfarfod rhwng aelodau’r cyngor a Dŵr Cymru wedi bod yn llwyddiannus. Codwyd nifer o faterion pwysig, ac roedd yr aelodau yn edrych ymlaen at y cyfarfod cyhoeddus sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Sadwrn 11 Gorffennaf. Estynnwyd diolch i’r Cynghorydd Nishant Chandolia am drefnu’r cyfarfod.

·         Mynegodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad o’r arddangosfeydd blodau ar y Promenâd De a llongyfarchwyd pawb a fu ynghlwm â’r gwaith. Nodwyd bod yr arddangosfeydd wedi cael derbyniad da gan aelodau’r cyhoedd ac wedi gwella golwg y promenâd.

·         Nodwyd Wythnos y Ffoaduriaid, ac anogodd yr aelodau’r cyhoedd i gadw llygad am ddigwyddiadau a gweithgareddau a fydd yn cael eu cynnal drwy gydol yr wythnos.

Personal References

 

·         Members noted that the meeting between the council members, and Dŵr Cymru had been successful. Several important points were raised and members looked forward to the forthcoming public meeting scheduled for Saturday 11 July. Thanks were extended to Cllr. Nishant Chandolia for organising the meeting.

·         Members expressed their appreciation for the floral displays on South Promenade and congratulated all those involved. It was noted that the displays had been well received by members of the public and had enhanced the appearance of the promenade.

·         Refugee Week was noted, and members encouraged the public to keep an eye out for events and activities taking place throughout the week.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

46 Adroddiad ar weithgareddau’r Maer

 

Adroddwyd ar lafar, a nodwyd y canlynol:

·         Dywedodd y Maer fod gweithgareddau wedi parhau fel rhan o raglen Dinas Llenyddiaeth UNESCO Aberystwyth, gyda nifer o ddigwyddiadau a phartneriaethau yn cael eu cynnal ledled y gymuned.

·         Roedd y Maer wedi cyfarfod â Gwerfyl Pierce Jones ym Mhlas Antaron i weld y gwaith adnewyddu a gwblhawyd yn ddiweddar. Anogwyd yr aelodau i fynychu agoriad swyddogol y cyfleuster ar 3 Gorffennaf. Adroddwyd bod staff a chynrychiolwyr HAHAV wedi mynegi eu diolch i’r Cyngor Tref am gael defnyddio Swyddfeydd y Cyngor tra oedd y gwaith adnewyddu yn cael ei wneud. Hysbyswyd yr aelodau hefyd fod cynrychiolwyr Plas Antaron wedi datgan diddordeb mewn mynychu cyfarfod o’r Cyngor yn y dyfodol i drafod y cyfleuster a’i weithgareddau gyda’r aelodau.

Mayoral activity report

 

A verbal report was given, and the following was noted:

·         The Mayor reported that activities had continued as part of Aberystwyth’s UNESCO City of Literature (Dinas Llên) programme, with a range of events and partnerships taking place throughout the community.

·         The Mayor had met with Gwerfyl Pierce Jones at Plas Antaron to view the recently completed refurbishment works. Members were encouraged to attend the official opening of the facility on 3 July. It was reported that staff and representatives from HAHAV had expressed their gratitude to the Town Council for the use of the Council Offices while the refurbishment works had been carried out. Members were advised that representatives from Plas Antaron had expressed an interest in attending a future Council meeting to speak with members about the facility and its activities.

 

 

 
47 Diweddariadau gan y Clerc

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Ni chodwyd unrhyw faterion.

 

Mynegwyd diolch i’r Clerc am ei waith.

Updates from Clerk

 

A written report was circulated. No matters were raised.

 

Thanks were extended to the Clerk for his work.

 

 

 

 

 

 

 

 

48 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y mater canlynol:

·         Codwyd cwestiwn ynghylch y trefniadau dyfrio yn ystod y tywydd sych diweddar, ac eglurwyd bod contractwyr ychwanegol wedi’u cyflogi i gynorthwyo gyda’r gwaith dyfrio drwy gydol y tymor.

 

Mynegwyd diolch i’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei holl waith.

 

 

Updates from Facilities & Assets Manager

 

A written report was circulated. The following matters were raised:

·         A question was raised regarding watering arrangements during the recent dry weather, and it was explained that additional contractors had been engaged to assist with watering throughout the season.

 

Thanks were extended to the Facilities & Assets Manager for all his work.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

49 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Ni chodwyd unrhyw faterion.

 

Mynegwyd diolch i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith.

Updates from Events & Partnerships Officer

 

A written report was circulated. No maters were raised.

 

Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for her work.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

50 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y mater canlynol:

 

·         Atgoffwyd yr aelodau o’r digwyddiad Cwrdd â’r Cyngor sydd i’w gynnal ar 15 Awst, ac anogwyd hwy i fynychu a chwrdd ag aelodau’r cyhoedd yn Swyddfeydd y Cyngor. Atgoffwyd yr aelodau hefyd am Ŵyl y Castell ar 12 Medi. Cyflwynodd y Maer ei ymddiheuriadau gan nad oedd yn gallu mynychu.

 

Mynegwyd diolch i’r holl staff am eu gwaith caled a’u hymdrechion parhaus.

 

 

Updates from Market & Events Co-ordinator

 

A written report was circulated. The following matter was raised:

·         Members were reminded of the forthcoming Meet the Council event on August 15 and encouraged to attend and meet members of the public at the Council Offices. Members were also reminded of Gŵyl y Castell on 12 September. The Mayor submitted his apologies as he was unable to attend.

 

Thanks were extended to all staff for their hard work and ongoing efforts.

 

 

 

 

 

51 Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau o’r cyhoedd a oedd yn bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda

 

Nid oedd aelodau o’r cyhoedd yn bresennol.

 

 

Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda

 

No members of the public were present.

 
429 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG

 

Y Cyng. Endaf Edwards:

·         Llwybr Glan Afon Rheidol: Cododd y Cyng. Edwards bryderon ynghylch y llwybr ar hyd Afon Rheidol, y tu ôl i Orsaf yr Heddlu. Adroddwyd bod sawl disgynfa i’r afon heb unrhyw amddiffyniad, gan greu perygl diogelwch posibl i unrhyw un a allai syrthio. Nodwyd fod y llwybr yn rhan o rwydwaith hawliau tramwy Cyngor Sir Ceredigion. Hysbyswyd yr aelodau fod y mater wedi’i godi gyda Chyngor Sir Ceredigion ac yr oedd ymateb yn cael ei ddisgwyl.

·         Stryd Cae Glas: Codwyd pryderon ynghylch cyflwr Stryd Cae Glas a’r oedi i’r gwaith ailwynebu. Adroddwyd fod cerbydau a oedd yn parhau i barcio ar y stryd yn atal y gwaith rhag cael ei gyflawni. Hysbyswyd yr aelodau fod hysbysiadau wedi’u gosod yn flaenorol ar gerbydau yn gofyn iddynt gael eu symud er mwyn galluogi’r gwaith ailwynebu i fynd rhagddo; fodd bynnag, roedd nifer o gerbydau yn parhau yn eu lle. Roedd diweddariad pellach gan Gyngor Sir Ceredigion yn cael ei ddisgwyl.

 

Y Cyng. Shelley Childs:

·         Digwyddiad Beicio a Chau Ffyrdd: Hysbysodd y Cyng. Childs y byddai Pencampwriaethau Beicio Cenedlaethol yn cael eu cynnal dros y penwythnos i ddod, ac atgoffodd yr aelodau am y cyfyngiadau ffyrdd cysylltiedig ar draws y dref. Nodwyd bod gwybodaeth wedi’i dosbarthu, gan gynnwys taflen yn cynnwys cod QR ar gyfer rhagor o fanylion. Hysbyswyd yr aelodau y byddai dau gyfnod cau ffordd o tua 90 munud yr un, yn dechrau am 11:15yb a 4:30yp. Byddai’r ffyrdd dan sylw yn cynnwys Ffordd Llanbadarn, Marine Terrace a Terrace Road hyd at y Pier. Gofynnwyd i’r aelodau rannu’r wybodaeth a oedd wedi’i dosbarthu drwy e-bost.

·         Adolygiad Parcio: Adroddodd y Cyng. Childs fod adolygiad parcio’r Cyngor Sir yn parhau. Nodwyd bod cyfarfodydd â rhanddeiliaid yn cael eu cynnal ar hyn o bryd, gan ddechrau gydag aelodau lleol, gyda chynghorau tref a chymuned i gael eu hymgynghori nesaf. Byddai ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn, a hysbyswyd yr aelodau ei bod yn debygol y byddai’r broses yn cymryd peth amser.

·         Ailgylchu: Hysbyswyd yr aelodau fod trafodaethau yn parhau ynghylch ailgylchu a materion halogi. Nodwyd bod trafodaethau wedi’u cynnal gyda Barcud ynghylch mesurau i wella cyfraddau ailgylchu. Roedd sesiwn galw heibio gyhoeddus yn y Bandstand yn cael ei threfnu ar gyfer yn ddiweddarach yn yr haf, gyda rhagor o wybodaeth i ddilyn.

·         Cyffordd Comins Coch: Adroddodd y Cyng. Childs fod y gwelliannau a wnaed i’r gyffordd rhwng Comins Coch, Penrhyn-coch a’r A487 wedi arwain at welliant amlwg o gymharu â’r trefniadau blaenorol.

·         Plismona: Hysbysodd y Cyng. Childs ei fod wedi cyfarfod yn ddiweddar â’r Prif Arolygydd Ditectif Yelland dros Geredigion. Hysbyswyd yr aelodau fod disgwyl recriwtio Cwnstabliaid yr Heddlu ychwanegol erbyn mis Medi, gyda rhagor o recriwtio wedi’i gynllunio ar gyfer mis Ionawr. Nodwyd hefyd fod menter newydd yn cael ei datblygu a fyddai’n cynnwys swyddogion yn ymweld ag aelwydydd ledled y sir, ynghyd ag ymrwymiad i gynyddu presenoldeb yr heddlu o fewn cymunedau.

 

Awgrymwyd y dylai trafodaethau yn y dyfodol sy’n cynnwys myfyrwyr gael eu cynnal unwaith y bydd myfyrwyr wedi dychwelyd i Aberystwyth ar gyfer y flwyddyn academaidd.

 

Mynegwyd diolch i’r holl aelodau am eu diweddariadau.

 

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

 

Cllr. Endaf Edwards:

·         Rheidol Riverside Path: Cllr. Edwards raised concerns regarding the path along the River Rheidol, to the rear of the Police Station. It was reported that there were several unprotected drops into the river, posing a potential safety risk to anyone who may fall. It was noted that the path forms part of the County Council’s rights of way network. Members were advised that the matter had been raised with Ceredigion County Council and a response was awaited.

·         Stryd Cae Glas : Concerns were raised regarding the condition of Stryd Cae Glas and delays to resurfacing works. It was reported that vehicles continuing to park on the street were preventing the work from being carried out. Members were advised that notices had previously been placed on vehicles requesting that they be moved to enable resurfacing works to proceed; however, a number of vehicles remained in place. A further update from Ceredigion County Council was awaited.

 

 

 

Cllr. Shelley Childs:

·         Cycle Event and Road Closures: Cllr. Childs advised that the National Cycling Championships would be taking place over the forthcoming weekend and reminded members of the associated road closures across the town. It was noted that information had been circulated, including a leaflet containing a QR code for further details. Members were advised that there would be two road closures of approximately 90 minutes, commencing at 11:15am and 4:30pm. Closures would include Llanbadarn Road, Marine Terrace and Terrace Road through to the Pier. Members were asked to circulate the information that had been distributed via email.

·         Parking Review: Cllr. Childs reported that the County Council’s parking review was ongoing. It was noted that stakeholder meetings were currently taking place, starting with local members, with town/community councils to be consulted next. Public consultation would follow, and members were advised that the process was likely to take some time.

·         Recycling: Members were advised that discussions were ongoing regarding recycling and contamination issues. It was noted that discussions had taken place with Barcud regarding measures to improve recycling rates. A public drop-in session at the Bandstand was being planned for later in the summer, with further information to follow.

·         Comins Coch Junction: Cllr. Childs reported that improvements made to the junction between Comins Coch, Penrhyncoch and the A487 had resulted in a noticeable improvement compared with previous arrangements.

·         Policing: Cllr. Childs advised that he had recently met with Detective Chief Inspector Yelland for Ceredigion. Members were informed that additional Police Constables were due to be recruited by September, with further recruitment planned for January. It was also noted that a new initiative involving officers visiting households across the county was being developed, alongside a commitment to increasing police visibility within communities.

 

 

 

 

 

A suggestion was made that future discussions involving students should take place once students had returned to Aberystwyth for the academic year.

 

Thanks were extended to all members for their updates.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

53 Cofnodion o gyfarfod Arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 18 Mai 2026, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the Extraordinary meeting of Full Council held on Monday 18 May 2026, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

 
54 Materion yn codi o’r cofnodio

 

Dim

Matters arising from the minutes

 

None

 

 

 

 

55 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 1 Mehefin 2026

 

Nodwyd ddrafft gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.

 

To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 1 June 2026

 

The draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 1 June 2026 were noted.

 
56 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio, cyflwynodd yr Is-gadeirydd, y Cyng. Julien Brun, adroddiad byr ar y materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig.

Ystyriwyd y ceisiadau canlynol:

 

·         Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio: Cyn Safle Kwik Save, Coedlan y Parc

·         Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio: 24 Y Stryd Fawr

·         A060268: HSBC, 19 Y Stryd Fawr

 

Trafodwyd y ceisiadau a chyflwynwyd sylwadau’r Pwyllgor yn unol â hynny.

 

Cytunwyd y byddai Cais Fferm Wynt Lluest y Gwynt, Ponterwyd yn cael ei ystyried mewn Cyfarfod Arbennig o’r Pwyllgor Cynllunio.

To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

In the absence of the Chair of the Planning Committee, the Vice-Chair, Cllr. Julien Brun, presented a brief report on matters considered by the Committee under delegated powers.

The following applications had been considered:

 

·         Pre-Application Consultation: Former Kwik Save Site, Coedlan y Parc

·         Pre-Application Consultation: 24 Y Stryd Fawr

·         A060268: HSBC, 19 Y Stryd Fawr

 

The applications were discussed and the Committee’s comments submitted accordingly.

 

It was agreed that the Wind Farm Application – Lluest y Gwynt, Ponterwyd would be considered at an Extraordinary Meeting of the Planning Committee.

 

 

 

 

57 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio

 

To consider recommendations made by the Planning Committee  

 

 

 

57.1 Dim None

 

 
58 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 8 Mehefin 2026

 

Nodwyd ddrafft gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 8 Mehefin 2026.

 

To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Tuesday 8 June 2026

 

The draft minutes of the Planning Committee meeting held on Tuesday 8 June 2026 were noted.

 
59 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Adroddodd yr Is-gadeirydd fod y Pwyllgor Cynllunio wedi ystyried DNS/3246727 – Fferm Wynt Lluest y Gwynt.

Yn dilyn trafodaeth ar y cais, cyflwynwyd sylwadau’r Pwyllgor i’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) yn unol â hynny.

To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

The Vice Chair reported that the Planning Committee had considered DNS/3246727 – Lluest y Gwynt Wind Farm.

 

Following discussion of the application, the Committee’s comments were submitted to the Planning and Environment Decisions Wales (PEDW) consultation accordingly.

 

 

 

 

60 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio To consider recommendations made by the Planning Committee

 

 
60.1 Dim None  
61 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 8 Mehefin 2026

 

Nodwyd ddrafft gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol a gynhaliwyd ddydd Mawrth, 8 Mehefin 2026.

·         Atgoffwyd yr aelodau y byddai cyfarfod pellach ynghylch y toiledau cyhoeddus yn cael ei gynnal am 4:00yp ddydd Iau, 25 Mehefin 2026, er mwyn ystyried y mater ymhellach.

To note the draft minutes of the General Management Committee held on Tuesday 8 June 2026

 

The draft minutes of the General Management Committee meeting held on Tuesday 8 June 2026 were noted.

·         Members were reminded that a further meeting regarding the public toilets would be held at 4:00pm on Thursday 25 June 2026 to consider the matter further.

 
62 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol, cyflwynodd yr Is-gadeirydd, y Cyng. Nishant Chandolia, adroddiad byr ar gyfarfod diweddar y Pwyllgor.

 

Hysbyswyd yr aelodau nad oedd y Pwyllgor wedi gwneud unrhyw benderfyniadau gan ddefnyddio pwerau dirprwyedig.

Nodwyd bod y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands wedi’i benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Rheoli Cyffredinol a bod y Cyng. Nishant Chandolia wedi’i benodi’n Is-gadeirydd.

To receive a report from the Chair of the General Management Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

In the absence of the Chair of the General Management Committee, the Vice-Chair, Cllr. Nishant Chandolia, presented a brief report on the Committee’s recent meeting.

 

Members were advised that no decisions had been made by the Committee using delegated powers.

 

It was noted that Cllr. Dylan Lewis-Rowlands had been appointed Chair of the General Management Committee and Cllr. Nishant Chhanolia had been appointed Vice-Chair.

 

 

 
63 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol To consider recommendations made by the General Management Committee  
63.1 I fwrw ymlaen â’r ymgyrch ‘Fy nrws ffrynt’ a threfnu cyfarfod

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo mynd ar drywydd ymgyrch “My Front Door” a threfnu cyfarfod, a drefnwyd dros dro ar gyfer dydd Mawrth, 30 Mehefin 2026 am 4:00yp.

To pursue the “My front door” campaign and arrange a meeting

 

It was RESOLVED to approve pursuing the “My Front Door” campaign and to arrange a meeting, provisionally scheduled for Tuesday 30 June 2026 at 4:00pm.

 

 
63.2 Ymateb i ymgynghoriad Cam 2 Gwasanaethau Strôc Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo ymateb i’r ymgynghoriad.

To respond to Hywel Dda University Health Board’s Phase 2 Stroke Services consultation

 

It was RESOLVED to approve responding to the consultation.

 

 

 

 

 

 

 

64 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 15 Mehefin 2026

 

Nodwyd ddrafft gofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ddydd Llun, 15 Mehefin 2026.

To note the draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 15 June 2026

 

The draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 15 June 2026 were noted.

 

 

 

 

 

 

 

65 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Hysbyswyd yr aelodau nad oedd y Pwyllgor Cyllid wedi gwneud unrhyw benderfyniadau gan ddefnyddio pwerau dirprwyedig.

 

Nodwyd bod y Cyng. Nishant Chandolia wedi’i benodi’n Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a bod y Cyng. Talat Chaudhri wedi’i benodi’n Is-gadeirydd.

To receive a report from the Chair of the Finance Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

Members were advised that no decisions had been made by the Finance Committee using delegated powers.

 

It was noted that Cllr. Nishant Chandolia had been appointed Chair of the Finance Committee and Cllr. Talat Chaudhri had been appointed Vice-Chair.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

66 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau

 

 

To consider recommendations made by the Finance Committee

 

 

 

 

 

 

66.1 I gymeradwyo’r cais am gyllid llawn o £4,000 ar gyfer gefeillio Aberystwyth–Kronberg

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am gyllid llawn o £4,000 ar gyfer Cyfeillio Aberystwyth–Kronberg.

To approve the full funding request of £4,000 for Aberystwyth Kronberg Twinning

 

It was RESOLVED to approve the full funding request of £4,000 for Aberystwyth Kronberg Twinning.

 

 
66.2 I ariannu un disgybl o ardal Aberystwyth i fynychu Gwobrau Theatr Ysgolion Cenedlaethol, ar gost o tua £400, neu fel arall i ariannu tocynnau’r seremoni os na fydd disgybl cymwys yn gallu mynychu

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais am gyllid.

 

To fund one pupil from the Aberystwyth area to attend the National School Theatre Awards, at an approximate cost of £400, or alternatively to fund ceremony tickets should no eligible pupil be able to attend

 

It was RESOLVED to approve the funding request.

 

 
67 I ystyried adroddiad yr archwiliad mewnol ar gyfer 2025–2026

 

Ystyriwyd cynnwys Adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar gyfer 2025–2026 a chafodd ei nodi’n briodol. Mynegodd yr aelodau eu diolch i Rhian Davies am ei hadroddiad.

Codwyd y materion canlynol:

·         Trafododd yr aelodau Gofrestr Risg y Cyngor, gan gynnwys y sgoriau risg a neilltuwyd a’r mesurau lliniaru sydd ar waith. Awgrymwyd y dylid adolygu ac ailasesu’r risgiau a nodwyd lle bo’n briodol er mwyn sicrhau bod lefelau’r risg yn parhau’n gywir ac yn gyfredol. Nodwyd bod y Pwyllgor Cyllid yn adolygu’r Gofrestr Risg ddwywaith y flwyddyn, tua bob chwe mis.

  • Ceisiwyd eglurhad ynghylch a ddylid ystyried y Cod Ymddygiad a’r Polisi Iaith Gymraeg fel rhan o’r broses adolygu polisïau drwy’r Pwyllgor Cyllid. Nodwyd y byddai materion polisi a rheoli risg yn parhau i gael eu hadolygu drwy’r broses bwyllgor briodol.

 

Cytunwyd y byddai’r sgoriau risg yn cael eu trafod ymhellach gan y Pwyllgor Cyllid.

 

PENDERFYNWYD derbyn a chymeradwyo Adroddiad yr Archwiliad Mewnol ar gyfer 2025–2026.

 

To consider the internal audit report for 2025-2026

 

The contents of the Internal Audit Report for 2025–2026 were considered and duly noted. Members extended their thanks to Rhian Davies for her report.

 

The following matters were raised:

·         Members discussed the Council’s Risk Register, including the risk ratings assigned and the mitigation measures in place. It was suggested that the identified risks should be reviewed and reassessed where appropriate to ensure that risk levels remained accurate and up to date. It was noted that the Finance Committee reviews the Risk Register twice yearly, approximately every six months.

·         Clarification was sought regarding whether the Code of Conduct and Welsh Language Policy should be considered as part of policy reviews through the Finance Committee. It was noted that policy and risk management matters would continue to be reviewed through the appropriate committee process.

 

It was agreed that the risk ratings would be discussed further by the Finance Committee.

 

It was RESOLVED to receive and accept the Internal Audit Report for 2025–2026.

 
68 I ystyried a chymeradwyo cyfrifon diwedd blwyddyn 2025–2026

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfrifon diwedd blwyddyn 2025–2026.

 

 

To consider & approve 2025-2026 year-end accounts

 

It was RESOLVED to approve the 2025-2026 year-end accounts

 
69

 

Ystyried ffurflen flynyddol 2025-26

 

Trafodwyd ac ystyriwyd y Ffurflen Flynyddol a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol gan yr aelodau.

Ailymwelodd yr aelodau â’r argymhelliad a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas â Datganiad 3 y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.

 

Cynigiodd y Cyng. Talat Chaudhri y dylid cofnodi Datganiad 3 fel “Ie” yn hytrach na “Na”, wedi iddo fynegi’r farn hon hefyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Cyllid. Eiliwyd y cynnig gan y Cyng. Julien Brun.

 

Yn dilyn trafodaeth, ystyriodd yr aelodau a oedd y Cyngor wedi sicrhau bod yr holl wybodaeth yr oedd yn ofynnol ei chyhoeddi yn ystod y flwyddyn wedi cael ei gwneud ar gael.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol, gan gynnwys cofnodi Datganiad 3 fel “Ie”.

 

PENDERFYNWYD YMHELLACH gymeradwyo’r Ffurflen Flynyddol ar gyfer 2025–2026 gyda’r diwygiad hwn.

 

Ymatalodd y Cyng. Dani Thomas rhag pleidleisio.

 

To consider annual return for 2025-26

 

The Annual Return and Annual Governance Statement were discussed and considered by Members.

 

Members revisited the recommendation made by the Finance Committee regarding Assertion 3 of the Annual Governance Statement.

 

Cllr. Talat Chaudhri proposed that Assertion 3 should be recorded as “Yes” rather than “No”, having also expressed this view at the Finance Committee meeting. The proposal was seconded by Cllr. Julien Brun.

 

Following discussion, Members considered whether the Council had made available all information required to be published during the year.

 

It was RESOLVED to approve the Annual Governance Statement, including recording Assertion 3 as “Yes”.

 

It was then RESOLVED to approve the Annual Return for 2025–2026 with this amendment.

 

Cllr. Dani Thomas abstained from voting.

 

 
70 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mehefin

 

Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant personol, ond nid buddiant sy’n rhagfarnu. Gadawodd y gadair am gyfnod y drafodaeth ar yr eitem hon. Cymerodd y Cyng. Nishant Chandolia y gadair am gyfnod yr eitem hon.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant mis Mehefin.

Ymatalodd y Cyng. Emlyn Jones rhag pleidleisio.

To consider & approve June expenditure

 

Cllr. Emlyn Jones declared a personal, but not prejudicial, interest. He vacated the chair for the duration of the item.

Cllr. Nishant Chandolia took the chair for the duration of this item.

 

It was RESOLVED to approve the June expenditure.

 

Cllr. Emlyn Jones abstained from voting.

 

 
71 Ystyried dyfynbrisiau polis i yswiriant 2026-27

 

Cyflwynwyd pedwar dyfynbris yswiriant i’r aelodau, a chawsant eu hystyried a’u trafod.

 

Nodwyd fod sicrhau yswiriant ar gyfer yr Eglwys a’r Cwt Sgowtiaid wedi bod yn heriol oherwydd cyflwr presennol yr adeiladau, gyda nifer o gwmnïau yswiriant yn anfodlon darparu yswiriant.

 

Nodwyd hefyd fod y cwmnïau a oedd wedi cynnig yswiriant ar gyfer yr hen Gwt Sgowtiaid wedi gwneud hynny ar sail indemniad yn unig (yn hytrach na sail newydd-am-hen), ac wedi cyfyngu’r yswiriant i golledion sy’n deillio o dân, mellt, ffrwydrad ac awyrennau. Roedd yr aelodau yn fodlon â hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn y dyfynbris gan Rees Astley ar gyfer polisi yswiriant 2026–2027.

 

To consider insurance policy quotations for 2026-27

 

Members were presented with four insurance quotations, which were considered and discussed.

 

It was noted that obtaining insurance cover for the Church and Scout Hut had proved challenging due to the buildings’ current condition, with a number of insurers unwilling to provide cover.

 

Those that had offered cover for the old Scout Hut had done so on an indemnity-only basis (rather than new-for-old), and restricted cover to fire, lightning, explosion and aircraft. Members found this acceptable.

 

It was RESOLVED to accept the quotation from Rees Astley for the 2026–2027 insurance policy.

 

 

 
72 Cwestiynau gan Gynghorwyr sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Ni chodwyd unrhyw gwestiynau.

 

Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

No questions were raised.

 
73 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig gan y Cyng. Bryony Davies, yn ei rôl fel cynrychiolydd y Cyngor Tref ar Grŵp Parc Natur Penglais, a chafodd ei nodi’n briodol.

 

WRITTEN reports from representatives on outside bodies

 

A written report from Cllr. Bryony Davies, in her capacity as the Town Council’s representative on the Parc Natur Penglais Group, had been circulated and was duly noted.

 

 
74 Penodi Aelodaeth Pwyllgorau ar gyfer Aelodau Cyfetholedig ac Aelodau nad oeddent yn bresennol yn y Cyfarfod Blynyddol

 

Cynigiwyd penodi’r Cyng. Nishant Chandolia i’r pwyllgorau canlynol:

  • Pwyllgor Cyllid
  • Pwyllgor Rheoli Cyffredinol
  • Pwyllgor Polisi
  • Pwyllgor Cynllunio

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r penodiadau.

 

To appoint the Committees memberships of co-opted members, and those not present at the annual meeting

 

It was proposed that Cllr. Nishant Chandolia be appointed to the following committees:

·         Finance Committee

·         General Management Committee

·         Policy Committee

·         Planning Committee

 

It was RESOLVED to approve the appointments.

 

 
75 Cynnig: Datgan Mis Gorffennaf yn “Fis Glas Aberystwyth” (Cyng. Nishant Chandolia)

 

PENDERFYNWYD diwygio’r cynnig fel a ganlyn:

  • Cymeradwyo dynodi mis Gorffennaf yn fis thema, gyda’r teitl i’w gadarnhau yn dilyn trafodaeth gyda Bardd y Dref.
  • Cymeradwyo’n ffurfiol y calendr digwyddiadau cydweithredol, gyda phŵer dirprwyedig yn cael ei roi i’r Clerc, mewn ymgynghoriad â’r Maer, i wrthod unrhyw ddigwyddiad y bernir ei fod yn anaddas.
  • Neilltuo hyd at £2,000, yn amodol ar dderbyn cynnig manwl, gyda phŵer dirprwyedig yn cael ei roi i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol i gymeradwyo dyfarnu’r cyllid.
  • Hyrwyddo’r rhaglen o ddigwyddiadau drwy hysbysfyrddau, gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.

PENDERFYNWYD YN BELLACH cymeradwyo’r cynnig diwygiedig.

 

Ymunodd y Cyng. Bryony Davies â’r cyfarfod.

 

Motion: Declaring July as “Aberystwyth Blue Month” (Cllr. Nishant Chandolia)

 

It was RESOLVED to amend the motion as follows:

 

·         To approve the declaration of July as a themed month, with the title to be confirmed following discussion with the Town Bard.

·         To formally endorse the collaborative calendar of events, with delegated authority granted to the Clerk, in consultation with the Mayor, to veto any event deemed unsuitable.

·         To earmark up to £2,000, subject to the receipt of a detailed proposal, with authority delegated to the General Management Committee to approve awarding the funds.

·         To promote the programme of events through the Council’s notice boards, website, and social media platforms.

 

It was further RESOLVED to approve the amended motion.

 

Cllr. Bryony Davies joined the meeting.

Agenda RhC

GM Agenda

76 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications  
76.1 A260325: 33 Ffordd Alexandra

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais gan fod cyfran uwch o Dai Amlfeddiannaeth (HMOs) yn Aberystwyth nag sydd yng ngweddill Ceredigion.

 

A260325: 33 Ffordd Alexandra

 

The Town Council OBJECTS to the application due to there being a higher proportion of Houses in Multiple Occupation in Aberystwyth than the rest of Ceredigion.

 

Ymateb

Respond

77 Gohebiaeth

 

Correspondence  
77.1 Cyngor Sir Ceredigion – Caru’ch Cymuned 2026: Hysbysiad bod y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb wedi’i ymestyn tan 30 Mehefin 2026. Dosbarthwyd y wybodaeth i’w hyrwyddo o fewn y gymuned. Y swyddfa i gwblhau cais os yw’n briodol.

 

Ceredigion County Council – Caru’ch Cymuned 2026: Notification that the deadline for Expressions of Interest has been extended to 30 June 2026. Information circulated for promotion within the community. Office to complete if appropriate. Swyddfa

Office

77.2 Cyngor Tref Aberystwyth – Cyfarfod Ymwybyddiaeth Gyhoeddus am y Gylfinirod Melyngoes Asiaidd: Cyfarfod ymwybyddiaeth gyhoeddus i’w gynnal yn Neuadd Goffa Penparcau ar 24 Mehefin 2026 am 6:00yp, gyda chyflwyniadau gan gynrychiolwyr Cymdeithas Gwenynwyr Cymru. Aberystwyth Town Council – Asian Hornet Public Awareness Meeting: Public awareness meeting on the Yellow-Legged Asian Hornet to be held at Neuadd Goffa, Penparcau, on 24 June 2026 at 6:00pm, with presentations from representatives of the Welsh Beekeepers Association.  
77.3 British Cycling – Pencampwriaethau Rasio Ffordd Cenedlaethol Lloyds: Hysbysiad o gau ffyrdd a chyfyngiadau traffig yn Aberystwyth rhwng 26 a 28 Mehefin 2026.

 

British Cycling – Lloyds National Road Race Championships: Notification of road closures and traffic restrictions in Aberystwyth from 26–28 June 2026  
77.4 People’s Assembly – Eich Cyfle i Siarad: Cyfarfod cyhoeddus i’w gynnal yn Neuadd Goffa Penparcau ar 4 Gorffennaf 2026 am 2:00yp.

 

People’s Assembly – Your Chance to Speak: Public meeting to be held at Neuadd Goffa, Penparcau, on 4 July 2026 at 2:00pm.  
77.5 Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Ymgynghoriad ar Wasanaethau Strôc: Digwyddiad ymgynghori cyhoeddus galw heibio ar ddyfodol gwasanaethau strôc i’w gynnal yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth ar 24 Mehefin 2026, rhwng 2:00yp a 7:00yp, fel rhan o Gam 2 rhaglen ymgynghori’r Bwrdd Iechyd. Hywel Dda University Health Board – Stroke Services Consultation: Public drop-in consultation event on the future of stroke services to be held at Aberystwyth Rugby Club on 24 June 2026, from 2:00pm to 7:00pm, as part of Phase 2 of the Health Board’s consultation programme.  
77.6 Cyngor Tref Aberystwyth – Gwag-sedd Ward Rheidol: Hysbysiad cyfethol. Aberystwyth Town Council – Rheidol Ward Vacancy: Notice of co-option.  

Daeth y cyfarfod i ben am 19:58                                   The meeting was closed at: 19:58

Cofnodion:

Agenda

42 Presennol Present
43 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies & absences
44 Datganiadau o ddiddordeb ar faterion sy’n codi o’r agenda Declarations of interest on matters arising from the agenda
45 Cyfeiriadau personol Personal references
46 Adroddiad ar weithgareddau’r Maer Mayoral activity report
47 Diweddariadau gan y Clerc Updates from Clerk
48 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau Updates from Facilities & Assets Manager
49 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau Updates from Events & Partnerships Officer
50 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau Updates from Market & Events Co-ordinator
51 Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda
52 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
53 Cofnodion o gyfarfod y Cyfarfod Blynyddol a gynhaliwyd ar nos Lun 18 Mai 2026, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the meeting of the Annual Meeting held on Monday 18 May 2026, to confirm accuracy
54 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
55 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 1 Mehefin 2026 To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 1 June 2026
56 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
57 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio To consider recommendations made by the Planning Committee
57.1 Dim None
58 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 8 Mehefin 2026 To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Tuesday 8 June 2026
59 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
60 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio To consider recommendations made by the Planning Committee
60.1 Dim None
61 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 8 Mehefin 2026 To note the draft minutes of the General Management Committee held on Tuesday 8 June 2026
62 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the General Management Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
63 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol To consider recommendations made by the General Management Committee
63.1 I fwrw ymlaen â’r ymgyrch ‘Fy nrws ffrynt’ a threfnu cyfarfod cyhoeddus To pursue the “My front door” campaign and arrange a public meeting
63.2 Ymateb i ymgynghoriad Cam 2 Gwasanaethau Strôc Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda To respond to Hywel Dda University Health Board’s Phase 2 Stroke Services consultation
64 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 15 Mehefin 2026 To note the draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 15 June 2026
65 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the Finance Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
66 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau To consider recommendations made by the Finance Committee
66.1 I gymeradwyo’r cais am gyllid llawn o £4,000 ar gyfer gefeillio Aberystwyth–Kronberg To approve the full funding request of £4,000 for Aberystwyth Kronberg Twinning
66.2 I ariannu un disgybl o ardal Aberystwyth i fynychu Gwobrau Theatr Ysgolion Cenedlaethol, ar gost o tua £400, neu fel arall i ariannu tocynnau’r seremoni os na fydd disgybl cymwys yn gallu mynychu To fund one pupil from the Aberystwyth area to attend the National School Theatre Awards, at an approximate cost of £400, or alternatively to fund ceremony tickets should no eligible pupil be able to attend
67 I ystyried adroddiad yr archwiliad mewnol ar gyfer 2025–2026 To consider the internal audit report for 2025-2026
68 I ystyried a chymeradwyo cyfrifon diwedd blwyddyn 2025–2026 To consider & approve 2025-2026 year-end accounts
69 Ystyried ffurflen flynyddol 2025-26 To consider annual return for 2025-26
70 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mehefin To consider & approve June expenditure
71 Ystyried dyfynbrisiau polisi yswiriant 2026-27 To consider insurance policy quotations for 2026-27
72 Cwestiynau gan Gynghorwyr sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit
73 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol WRITTEN reports from representatives on outside bodies
74 Penodi aelodaeath Pwyllgorau’r aelodau cyfetholedig, a’r rhai nad oeddent  yn bresennol yn y cyfarfod blynyddol To appoint the Committees memberships of co-opted members, and those not present at the annual meeting
75 Cynnig: Datgan Mis Gorffennaf yn “Fis Glas Aberystwyth” (Cyng. Nishant Chandolia) Motion: Declaring July as “Aberystwyth Blue Month” (Cllr. Nishant Chandolia)
76 Ceisiadau Cynllunio Planning Applications
76.1 A260325: 33 Ffordd Alexandra A260325: 33 Ffordd Alexandra
77 Gohebiaeth Correspondence