Cyngor Llawn

27/07/2026 am 6:30 pm

Cofnodion:

 

COFNODION DRAFFT / DRAFT MINUTES

 

78 Yn bresennol:

 

Cyng. Emlyn Jones (Cadeirydd)

Cyng. Dani Thomas

Cyng. Brian Davies

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Nishant Chandolia

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Felix Lorenze

Cyng. Alun Williams

Cyng. Mari Turner

Cyng. Jeff Smith

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Maldwyn Pryse

Cyng. Carl Worrall (Eitemau 89 i 115 yn  unig)

 

Yn mynychu:

Cyng. Shelley Childs (Cyngor sir Ceredigion)

Cyng. Endaf Edwards (Cyngor Sir Ceredigion)

Saman Bashir (Ymgeisydd Cyfethol)

Will Rowlands (Clerc y Dref)

Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Emlyn Jones (Chair)

Cllr. Dani Thomas

Cllr. Brian Davies

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Nishant Chandolia

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Felix Lorenze

Cllr. Alun Williams

Cllr. Mari Turner

Cllr. Jeff Smith

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Maldwyn Pryse

Cllr. Carl Worrall (Items 89 to 115 only)

 

In attendance:

Cllr. Shelley Childs (Ceredigion County Council)

Cllr. Endaf Edwards (Ceredigion County Council)

Saman Bashir (Co-option candidate)

Will Rowlands (Town Clerk)

Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer)

Carol Thomas (Translator)

 

79 Ymddiheuriadau ac absenoldeb

 

Yn absennol gydag ymddiheuriadau:

·         Cyng. Julien Brun

·         Cyng. Talat Chaudhri

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

·         Cyng. Cath Peasley

·         Cyng. Mark Strong

 

Apologies and absence

 

Absent with apologies:

·         Cllr. Julien Brun

·         Cllr. Talat Chaudhri

 

Absent without apologies:

·         Cllr. Cath Peasley

·         Cllr. Mark Strong

 

80 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Datganwyd y diddordebau canlynol:

 

Cyng. Emlyn Jones:

·         107 I ystyried a chymeradwyo gwariant mis Gorffennaf: Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd taliadau a wneir i’w gleientiaid busnes

·         108 Tendr Bar ar gyfer Gŵyl y Castell: Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd ei fod yn gyfarwyddwr un o’r cwmnïau oedd yn perthyn i’r cais.

 

Cyng. Alun Williams:

·         103.5 I fwrw ymlaen â chynnig y Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig ar gyfer y toiledau cyhoeddus i Gyngor Sir Ceredigion: Diddordeb personol oherwydd ei fod yn Gynghorydd Sir Ceredigion

·         114 Cynnig: Gofyn i Gyngor Sir Ceredigion ailystyried trefniadau a chostau parcio yn Aberystwyth i hybu’r economi (Cyng. Maldwyn Pryse): Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd ei fod yn Gynghorydd Sir Ceredigion.

·         117.1 A260382: Pandora, 12 Y Stryd Fawr: Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd bod yn Gynghorydd Sir Ceredigion dros y ward.

·         117.2 A260383: 35 Y Stryd Fawr: Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd bod yn Gynghorydd Sir Ceredigion dros y ward.

·         117.3 A260388: Sunnymead, 34 Heol y Bont: Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd bod yn Gynghorydd Sir Ceredigion dros y ward.

·         117.4 A260387: 16, Bar a Siop Botel Tŷ Seidr: Diddordeb personol a rhagfarnllyd oherwydd bod yn Gynghorydd Sir Ceredigion dros y ward.

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

The following interests were declared:

 

Cllr. Emlyn Jones:

·         107 To consider & approve July expenditure: Personal and prejudicial interest due to payments being made to his business clients.

·         108 Bar Tender for Gŵyl y Castell: Personal and prejudicial interest due to being director of one of the companies belonging to the bid.

 

Cllr. Alun Williams:

·         103.5 To proceed with offering the amended SLA for the public toilets to Ceredigion County Council: Personal interest due to being a Ceredigion County Councillor.

·         114 Motion: Request Ceredigion County Council to reconsider parking arrangements and costs in Aberystwyth to boost the economy (Cllr. Maldwyn Pryse): Personal and prejudicial interest due to being a Ceredigion County Councillor.

·         117.1 A260382: Pandora, 12 Y Stryd Fawr: Personal and prejudicial interest due to being Ceredigion County Councillor for that ward.

·         117.2 A260383: 35 Y Stryd Fawr: Personal and prejudicial interest due to being Ceredigion County Councillor for that ward.

·         117.3 A260388: Sunnymead, 34 Heol y Bont: Personal and prejudicial interest due to being Ceredigion County Councillor for that ward.

·         117.4 A260387: 16, Ty Seidr Bar & Bottle Shop: Personal and prejudicial interest due to being Ceredigion County Councillor for that ward.

 

81 Cyfeiriadau Personol

 

·         Diolchwyd i Gayberystwyth Books, Mererid Hopwood am ei chroeso a’i chyflwyniad rhagorol, a phawb a oedd yn rhan o drefnu Gŵyl Siopau Lyfrau Annibynnol a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 25 Gorffennaf. Llongyfarchwyd y trefnwyr am gynnal gŵyl lwyddiannus.

·         Diolchwyd i’r RNLI a’i wirfoddolwyr yn dilyn y Diwrnod Agored llwyddiannus a gynhaliwyd ddydd Sadwrn, 25 Gorffennaf. Mynegwyd gwerthfawrogiad hefyd i Gadeirydd Gorsaf y Bad Achub a’r tîm ehangach am eu hymroddiad ac am ddarparu gwasanaeth mor hanfodol i’r dref arfordirol.

Personal References

 

·         Thanks were extended to Gayberystwyth Books, Mererid Hopwood for her excellent welcome and introduction, and all those involved in organising the Independent Bookshop Festival held on Saturday, 25 July. The organisers were congratulated on delivering a successful festival.

·         Thanks were extended to the RNLI and its volunteers following the successful Open Day held on Saturday, 25 July. Appreciation was also expressed to the Chair of the Lifeboat Station and the wider team for their dedication and for providing such an essential service to the coastal town.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

82 Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda

 

Croesawodd y Cadeirydd yr ymgeisydd cyfetholedig Samir Bashir. Ni chodwyd unrhyw gwestiynau.

 

Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda

 

The Chair welcomed the co-option candidate Samir Bashir. No questions were raised.

 

 
83 Cyfethol ar gyfer sedd wag (Ward Rheidol)

 

Croesawyd yr ymgeisydd cyfethol i’r cyfarfod a diolchwyd iddi am ei diddordeb a’i pharodrwydd i sefyll am gyfethol i’r Cyngor Tref.

 

Gofynnwyd i’r ymgeisydd adael y Siambr tra bod y Cyngor yn cytuno ar gwestiynau i’w gofyn, ac yna gwahoddwyd hi’n ôl i annerch y Cyngor ac ateb cwestiynau gan aelodau.

 

Yn dilyn ei chyflwyniad, gofynnwyd i’r ymgeisydd adael y Siambr eto tra cynhaliwyd pleidlais i lenwi’r sedd wag.

 

PENDERFYNWYD cyfethol Saman Bashir yn aelod o Gyngor Tref Aberystwyth dros Ward Rheidol, a lofnododd ei Datganiad Derbyn Swydd yn briodol.

 

Diolchwyd i’r ymgeisydd am ei diddordeb mewn gwasanaethu’r gymuned a’r Cyngor Tref.

Co-option for vacant seat (Rheidol Ward)

 

The co-option candidate was welcomed to the meeting and thanked for her interest and willingness to stand for co-option to the Town Council.

 

The candidate was asked to leave the Chamber while the Council agreed on questions to be asked, and was subsequently invited back to address the Council and answer questions from members.

 

Following her presentation, the candidate was again asked to leave the Chamber while a vote was then held to fill the vacant seat.

 

It was RESOLVED to co-opt Saman Bashir as a member of Aberystwyth Town Council for the Rheidol Ward, who duly signed her Declaration of Acceptance of Office.

 

Thanks were extended to the candidate for her interest in serving the community and the Town Council.

 

Hysbysu’r awdurdod etholiadau

(Clerc)

Inform elections authority (Clerk)

 

 

 

Sesiwn cyfarwyddo cynghorydd newydd (Clerc)

New councillor induction (Clerk)

  PENDERFYNWYD i ddiwygio trefn y busnes er mwyn trafod eitem 89 yn syth ar ôl eitem 83. It was RESOLVED to amend the order of business to discuss item 89  immediately after 83  
89 Adroddiadau ar LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sy’n ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG

 

Cyng. Endaf Edwards:

·         Arwyddion Llwybr Arfordir: Pryderon parhaus ynghylch diffyg arwyddion ar gyfer Llwybr yr Arfordir yn ardaloedd Trefechan a’r Marina. Roedd ceisiadau am arwyddion ychwanegol wedi’u gwneud dros nifer o flynyddoedd, gyda nifer o drigolion lleol yn parhau i godi’r mater. Roedd arwydd newydd wedi’i osod yn ddiweddar ger y Ganolfan Gyfiawnder ac roedd y cynnwys Cymraeg bellach wedi’i gywiro. Roedd gwaith ar y mater wedi bod yn mynd rhagddo ers 2022.

·         Materion Mynediad Tan y Cae: Roedd trigolion wedi codi pryderon ynghylch llwybro traffig a threfniadau mynediad sy’n effeithio ar Tan y Cae. Roedd giât gloi yn parhau i fod yn broblem, gyda phroblemau’n ymwneud â mynediad heb awdurdod gan gerbydau. Roedd pryderon wedi bod yn parhau ers haf 2024 ac roedd y Cyngor Sir wedi bod yn aros am ganiatâd gan berchnogion tir ynghylch trefniadau mynediad i’r traeth. Roedd diweddariad pellach yn cael ei ddisgwyl.

 

Cyng. Shelley Childs:

·         Gwelliannau Maes Parcio Maes yr Afon: Byddai gwaith gwella ym Maes Parcio Maes yr Afon yn mynd rhagddo yn dilyn Rali Ceredigion, a disgwylir i’r gwaith ddechrau ganol mis Medi. Byddai’r prosiect yn cael ei wneud mewn camau. Byddai’r gwaith cychwynnol yn cynnwys ymestyn yr ardal barcio, ychwanegu marciau bae parcio, lledu a gwella’r fynedfa, a gwneud gwelliannau i gyffordd Coedlan y Parc. Byddai camau yn y dyfodol yn cynnwys cyswllt llwybr beicio a darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan.

·         Arwyddion Porth-y-de: Roedd trafodaethau’n parhau rhwng Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth ynghylch gosod arwyddion Porth-y-de. Nodwyd y gallai fod yn ofynnol i’r Cyngor Tref benodi contractwr a chael y drwydded Adran 50 berthnasol. Roedd Rheolwr Gwasanaeth newydd wedi dechrau ei swydd yn ddiweddar ac roedd disgwyl rhagor o wybodaeth.

·         Casgliadau Gwastraff ac Ailgylchu: Roedd prinder staff parhaus o fewn y gwasanaeth casglu gwastraff; roedd wyth swydd wrth gefn wedi’u hysbysebu, er bod recriwtio’n parhau i fod yn heriol. Byddai sesiwn galw heibio gyhoeddus yn cael ei chynnal yn ystod yr hydref, ynghyd ag ymgyrch ymgysylltu myfyrwyr a churo drysau gyda’r nod o wella dealltwriaeth o ofynion ailgylchu. Roedd Rheolwr Corfforaethol newydd y Cyngor Sir yn awyddus i ymgysylltu â’r Cyngor Tref ar y mater.

·         Gwasanaeth Trafnidiaeth Penglais: Roedd gwasanaeth trafnidiaeth estynedig yn gwasanaethu ardal Penglais i fod i ddechrau ar 1 Medi. Roedd gweithgaredd hyrwyddo yn cael ei gynnal ar hyn o bryd i godi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth.

·         Codwyd cwestiwn ynghylch cyflwr y ramp mynediad o Faes Parcio Promenâd y De i’r traeth. Roedd gris sylweddol wedi ffurfio ar ben traeth y ramp, gan achosi anawsterau hygyrchedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chreu problemau gweithredol i’r RNLI. Roedd y mater wedi’i adrodd trwy Clic a byddai hynny’n cael ei godi gyda’r Adran Ystadau i sefydlu a ellid ymgymryd â gwaith adfer. Byddai diweddariad pellach yn cael ei ddosbarthu.

 

Cyng. Alun Williams

·         Pantri Aber: Roedd Pantri Aber wedi dechrau gweithredu o Ganolfan y Morlan bob dydd Gwener rhwng 2:00pm a 4:00pm, gan ddarparu gwasanaethau cymorth bwyd ynghyd â lluniaeth i’r rhai a oedd yn mynychu.

·         Canolfan y Morlan: Roedd capel arall wedi cytuno ar drefniant tenantiaeth ar gyfer Canolfan y Morlan, a oedd i fod i ddechrau ar 1 Medi 2026.

·         Datblygiad Maes Gwenallt: Byddai agoriad swyddogol y datblygiad tai newydd ym Maes Gwenallt, Penparcau, yn digwydd ddydd Gwener 31 Gorffennaf am 11:00yb.

·         Cais Cynllunio 35 Ffordd Alexandra: Gwrthodwyd cais cynllunio ar gyfer Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) yn 35 Ffordd Alexandra. Gwerthfawrogwyd mewnbwn y Cyngor Tref ar y cais.

·         Baneri’r Promenâd: Byddai baneri’r promenâd blynyddol yn cael eu gosod yn ystod yr wythnos. Nodwyd bod y cynnydd wedi’i ohirio oherwydd salwch a phrinder staff.

·         Recriwtio Gofal Maeth: Roedd lwfansau gofal maeth wedi cynyddu’n sylweddol yn ddiweddar, ynghyd â chyflwyno mesurau rhyddhad Treth y Cyngor. Nod y fenter oedd lleihau nifer y lleoliadau y tu allan i’r sir a’r costau cysylltiedig wrth gefnogi gofalwyr maeth lleol.

·         Gwelliannau Y Porth Bach a Cae Melyn: Roedd gwaith gwella ffyrdd yn Y Porth Bach a Cae Melyn i fod i gael ei wneud o fewn y flwyddyn ariannol gyfredol, gan ddechrau o bosibl ym mis Medi.

 

Cyng. Carl Worrall:

·         Cofeb Ryfel Porth-y-de: Roedd gwaith adfer i Gofeb Ryfel Porth-y-de wedi dechrau a disgwylid iddo gael ei gwblhau erbyn canol mis Awst. Roedd y prosiect yn cynnwys adeiladu llwybr i’r gofeb ac o’i chwmpas, ail-baentio rheiliau, a gwelliannau i blaciau a nodweddion cysylltiedig. Byddai aelodau’n cael eu gwahodd i ymweld â’r safle ar ôl cwblhau’r gwaith.

 

Diolchwyd i bob aelod am eu diweddariadau.

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

Cllr. Endaf Edwards:

·         Coast Path Signage: Ongoing concerns regarding the lack of signage for the Coast Path in the Trefechan and Marina areas. Requests for additional signage had been made over a number of years, with several local residents continuing to raise the matter. A new sign had recently been installed near the Justice Centre and the Welsh language content had now been corrected. Work on the matter had been ongoing since 2022.

·         South Road Access Issues: Residents had raised concerns regarding traffic routing and access arrangements affecting South Road. A locked gate remained an issue, with problems relating to unauthorised vehicle access. Concerns had been ongoing since summer 2024 and the County Council had been awaiting permission from landowners regarding access arrangements to the beach. A further update was awaited.

 

Cllr. Shelley Childs:

·         Maes yr Afon Car Park Improvements: Improvement works at Maes yr Afon Car Park would proceed following Rali Ceredigion, with works expected to commence in mid-September. The project would be undertaken in phases. Initial works would include extending the parking area, adding parking bay markings, widening and improving the entrance, and carrying out improvements to the Park Avenue junction. Future phases would include a cycle path link and the provision of electric vehicle charging infrastructure.

·         Southgate Signage: Discussions were ongoing between Ceredigion County Council and Aberystwyth Town Council regarding the installation of Southgate signage. It was noted that the Town Council may be required to appoint a contractor and obtain the relevant Section 50 licence. A new Service Manager had recently commenced employment and further information was awaited.

·         Waste Collection and Recycling: There were ongoing staffing shortages within the waste collection service; eight relief posts had been advertised, although recruitment remained challenging. A public drop-in session would be held during the autumn, together with a student engagement and door-knocking campaign aimed at improving understanding of recycling requirements. The County Council’s new Corporate Manager was keen to engage with the Town Council on the matter.

·         Penglais Transport Service: An extended transport service serving the Penglais area was due to commence on 1 September. Promotional activity was currently being undertaken to raise awareness of the service.

·         A question was raised regarding the condition of the access ramp from South Promenade Car Park to the beach. A significant step had formed at the beach end of the ramp, causing accessibility difficulties for wheelchair users and creating operational issues for the RNLI. The matter had been reported through Clic and that would be raised with the Estates Section to establish whether remedial works could be undertaken. A further update would be circulated.

 

Cllr. Alun Williams:

·         Pantri Aber: Pantri Aber had begun to operate from the Morlan Centre every Friday between 2:00pm and 4:00pm, providing food support services together with refreshments for those attending.

·         Morlan Centre: Another chapel had agreed a tenancy arrangement for the Morlan Centre, which was scheduled to commence on 1 September 2026.

·         Maes Gwenallt Development: Official opening of the new housing development at Maes Gwenallt, Penparcau, would take place on Friday July 31 at 11:00am.

·         35 Alexandra Road Planning Application: Planning application for a House in Multiple Occupation (HMO) at 35 Alexandra Road had been refused. The Town Council’s input on the application was appreciated.

·         Promenade Flags: Annual promenade flags would be installed during the week. It was noted that progress had been delayed due to staff sickness and shortages.

·         Foster Care Recruitment: Foster care allowances had recently been increased substantially, together with the introduction of Council Tax relief measures. The initiative aimed to reduce the number of out-of-county placements and associated costs while supporting local foster carers.

·         Eastgate and Cae Melyn Improvements: Improvement road works at Eastgate and Cae Melyn were scheduled to be undertaken within the current financial year, potentially commencing in September.

 

Cllr. Carl Worrall:

·         Southgate War Memorial: Restoration works to the Southgate War Memorial had commenced and were expected to be completed by mid-August. The project included construction of a pathway to and around the memorial, repainting of railings, and improvements to plaques and associated features. Members would be invited to visit the site upon completion of the works.

 

Thanks were extended to all members for their updates.

 

 
84 Adroddiad ar weithgareddau’r Maer

 

Adroddwyd ar lafar, a nodwyd y canlynol:

·         Mynychu seremoni raddio’r garfan gyntaf o fyfyrwyr Gwyddoniaeth Filfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a llongyfarchwyd yr holl raddedigion.

·         Cadeirio cyfarfod cyhoeddus ar y Cacynen Asiaidd, gan nodi pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r rhywogaeth o fewn y gymuned leol.

·         Mynychu noson ddathlu a gynhaliwyd gan Aelwyd Urdd Trefechan yn dilyn eu hymweliad â Kronberg.

·         Cynnal agoriad swyddogol rhaglen adloniant haf y Bandstand.

·         Mynychu agoriad swyddogol Plas Antaron yn dilyn cwblhau’r gwaith adnewyddu a llongyfarchwyd HAHAV a phawb a oedd yn rhan o’r prosiect.

·         Ymweld â Fforwm Cymunedol Penparcau a chael taith o amgylch y cyfleuster, gan ddysgu mwy am yr ystod eang o wasanaethau a chymorth sydd ar gael i’r gymuned leol.

·         Cadeirio cyfarfod cyhoeddus ar ansawdd dŵr yn afonydd a môr Aberystwyth, a roddodd gyfle i drigolion a rhanddeiliaid drafod pryderon parhaus ac atebion posibl.

·         Mynychu Noson y Dysgwyr, a ddathlwyd dysgwyr y Gymraeg ac a amlygodd apêl ryngwladol gynyddol yr iaith. Nodwyd yn arbennig ddysgwyr o Ganada, UDA, a’r Swistir, y dangosodd eu Cymraeg rhugl gyrhaeddiad yr iaith y tu hwnt i Gymru.

·         Mynychwyd Gŵyl y Siop Lyfrau Annibynnol yn y Bandstand a chroesawyd digwyddiad llenyddol llwyddiannus arall yn cefnogi dynodiad Aberystwyth fel Dinas Llenyddiaeth UNESCO.

·         Estynnodd y Maer ei longyfarchiadau i bob myfyriwr a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth yn ystod y seremonïau graddio diweddar.

·         Nododd y Maer gyda phleser ddyfarnu Cymrodoriaethau Anrhydeddus i Ioan Gael a Bethan Bryn a llongyfarchodd y Cynghorydd Mari Turner ar gyflawni ei doethuriaeth (PhD)

 

 

 

 

 

Mayoral activity report

 

A verbal report was given, and the following was noted:

·         Attended the graduation ceremony for the first cohort of Veterinary Science students at Aberystwyth University and congratulated all graduates.

·         Chaired a public meeting on the Asian Hornet, noting the importance of raising awareness of the species within the local community.

·         Attended a celebration evening held by Aelwyd Urdd Trefechan following their visit to Kronberg.

·         Undertook the official opening of the Bandstand summer entertainment programme.

·         Attended the official opening of Plas Antaron following the completion of refurbishment works and congratulated HAHAV and all those involved in the project.

·         Visited Penparcau Community Forum and was given a tour of the facility, learning more about the wide range of services and support available to the local community.

·         Chaired a public meeting on water quality in Aberystwyth’s rivers and sea, which provided an opportunity for residents and stakeholders to discuss ongoing concerns and potential solutions.

·         Attended Noson y Dysgwyr, which celebrated Welsh learners and highlighted the growing international appeal of the language. Particular note was made of learners from Canada, the USA, and Switzerland, whose fluent Welsh demonstrated the reach of the language beyond Wales.

·         Attended the Independent Bookshop Festival at the Bandstand and welcomed another successful literary event supporting Aberystwyth’s UNESCO City of Literature designation.

·         The Mayor extended his congratulations to all students graduating from Aberystwyth University during the recent graduation ceremonies.

·         The Mayor noted with pleasure the award of Honorary Fellowships to Ioan Gael and Bethan Bryn and congratulated Cllr. Mari Turner on the achievement of her doctorate (PhD).

 

 
85 Diweddariadau gan y Clerc

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y materion canlynol:

·         Roedd y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn ei rif cofrestru TAW yn dilyn gohebiaeth â CTEM a chwyn gan yr AS Lleol.

·         Diolchwyd i’r Clerc am drefnu tri chyfarfod cyhoeddus diweddar ar faterion o ddiddordeb lleol.

·         Myfyriodd yr aelodau ar gyfarfodydd cyhoeddus diweddar a nodwyd bod gwersi i’w dysgu ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Awgrymwyd y gellid nodi cwestiynau allweddol a phwyntiau trafod ymlaen llaw i gynorthwyo rheolaeth effeithiol cyfarfodydd a sicrhau bod y mynychwyr yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen.

 

Diolchwyd i’r Clerc am ei waith parhaus a’i gefnogaeth i’r Cyngor.

Updates from Clerk

 

A written report was circulated. The following matters were raised:

·         The Council had successfully received its VAT registration number following correspondence with HMRC and a complaint by the Local MP.

·         Thanks were extended to the Clerk for arranging three recent public meetings on matters of local interest.

·         Members reflected on recent public meetings and noted that there were lessons to be learned for future events. It was suggested that key questions and discussion points could be identified in advance to assist the effective management of meetings and ensure that attendees receive the information required.

 

Thanks were extended to the Clerk for his continued work and support to the Council.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

86 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y materion canlynol:

·         • Codwyd cwestiwn ynghylch yr ardd blodau gwyllt yn Rhiw Penglais a phryd y byddai gwaith gwella yn cael ei wneud. Gofynnodd yr aelodau am adroddiad yn amlinellu’r cynlluniau arfaethedig, yr amserlen a’r argymhellion ar gyfer y safle.

o   Nododd yr aelodau bwysigrwydd cofnodi argymhellion, cyfrifoldebau ac amserlenni ar gyfer prosiectau ac awgrymasant y dylai’r swyddfa gynnal cofnodion priodol.

·         Mynegwyd pryder ynghylch dwy goeden ar Stryd Portland a oedd i weld yn dirywio oherwydd y sychder presennol. Awgrymodd aelodau y dylid adolygu’r holl fannau gwyrdd yn y dref. Cytunwyd y dylid cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol i’w ystyried ymhellach.

·         Codwyd cwestiwn ynglŷn â’r sgrin wrth ymyl toiledau cyhoeddus y castell, ac esboniwyd bod y mater yn dod o dan gyfrifoldeb Cyngor Sir Ceredigion.

·         Gwnaeth yr aelodau sylwadau cadarnhaol ar yr arddangosfeydd blodau ledled y dref a nodwyd y gallai torri pennau marw’r geraniwm fod o fudd.

·         Mynegwyd pryder ynghylch glendid rhai strydoedd yng nghanol y dref, a thrafodwyd y posibilrwydd o olchi â phŵer.

o   Awgrymodd yr aelodau y gallai busnesau lleol fod yn fodlon noddi mentrau golchi pŵer yn y dyfodol.

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei holl waith.

Updates from Facilities & Assets Manager

 

A written report was circulated. The following matters were raised:

·         A question was raised regarding the wildflower garden at Rhiw Penglais and when improvement works would be undertaken. Members requested a report outlining the proposed plans, timescales and recommendations for the site.

o   Members noted the importance of recording recommendations, responsibilities and timescales for projects and suggested that appropriate records be maintained by the office.

·         Concern was raised regarding two trees on Portland Street which appeared to be deteriorating due to the current drought. Members suggested that all green spaces within the town be reviewed. It was agreed that the matter be referred to the General Management Committee for further consideration.

·         A question was raised regarding the screen adjacent to the public toilets at the castle, and it was explained that the matter fell under the responsibility of Ceredigion County Council.

·         Members commented positively on the floral displays throughout the town and noted that deadheading of the geraniums may be beneficial.

·         Concern was expressed regarding the cleanliness of some streets within the town centre, and the possibility of power washing was discussed.

o   Members suggested that local businesses may be willing to sponsor future power washing initiatives.

 

Thanks were extended to the Facilities & Assets Manager for all his work.

 

 

 

 

Adroddiad ysgrifenedig

(Staff)

Written report

(Staff)

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM agenda

 

 

87 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y materion canlynol:

·         Atgoffwyd yr aelodau am y digwyddiad Cwrdd â’ch Cyngor oedd ar ddod ar 15 Awst ac fe’u hanogwyd i fynychu a chefnogi’r digwyddiad.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith.

 

 

Updates from Events & Partnerships Officer

 

A written report was circulated. The following matter was raised:

·         Members were reminded of the forthcoming Meet your Council event on 15 August and were encouraged to attend and support the event.

 

Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for her work.

 

 

 

 

 

 

 

 

88 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig. Codwyd y mater canlynol:

·         Roedd mynegiant o ddiddordeb i Gwobrau Caru’ch Cymuned Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn llwyddiannus, ac yn dilyn hynny roedd y Cyngor wedi cael gwahoddiad i gyflwyno cais llawn erbyn 7 Medi 2026.

·         Nododd yr aelodau fod y dyddiad a’r rhestr berfformwyr ar gyfer Gŵyl y Castell bellach wedi’u cyhoeddi.

·         Codwyd cwestiwn ynghylch yr arwydd bwa ar ben y dref. Eglurwyd bod hyn wedi’i gynnwys mewn cais am grant Trawsnewid Trefi, a bod disgwyl rhagor o wybodaeth am y cais cyn y gallai’r prosiect fynd yn ei flaen.

 

Mynegwyd diolch i’r holl staff am eu gwaith caled a’u hymdrechion parhaus.

Updates from Market & Events Co-ordinator

 

A written report was circulated. The following matters were raised:

·         An expression of interest to Ceredigion County Council’s Caru’ch Cymuned Awards had been successful, and the Council had subsequently been invited to submit a full application by 7 September 2026.

·         Members noted that the date and line-up for Gŵyl y Castell had now been announced.

·         A question was raised regarding the arch sign at the top of town. It was explained that this had been included in a Transforming Towns grant application, and further information on the application was awaited before the project could progress.

 

Thanks were extended to all staff for their hard work and ongoing efforts.

 

 

 

 

 

 

90 Cofnodion o gyfarfod Arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 1 Mehefin 2026, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

 

Minutes of the Extraordinary meeting of Full Council held on Monday 1 June 2026, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

 

91 Materion yn codi o’r cofnodion

 

Codwyd y materion canlynol:

·         Cysondeb o fewn y Cofnodion: Holwyd ynghylch cysondeb y cofnodion, ynghylch cofnodi enwau cynghorwyr wrth gynnig neu eilio cynigion ac argymhellion. Nodwyd, mewn rhai achosion, bod enwau wedi’u cofnodi, tra nad oeddent mewn achosion eraill. Cydnabu’r Clerc y pryder a chynghorodd y byddai dull cyson yn cael ei fabwysiadu o hyn ymlaen.

·         41. Cynnig hyfforddiant Prifysgol Aberystwyth: Lewis Deep Democracy: Hysbyswyd yr aelodau y byddai’r Cyng. Dylan Lewis-Rowlands yn darparu adroddiad ysgrifenedig ar y cwrs yn ystod yr haf, ac yn cynnig cynnal sesiwn hyfforddi gyda chynghorwyr oedd â diddordeb.

·         38 I ystyried a chymeradwyo gwariant mis Mai: Esboniodd y Clerc daliad i Total Energies, a oedd wedi cael ei amau’n wreiddiol fel anfoneb dwyllodrus. Esboniwyd bod yr anfoneb wedi’i gwirio wedi hynny fel un ddilys a bod y taliad wedi’i brosesu.

Matters arising from the minutes

 

The following matters were raised:

·         Consistency within Minutes: The consistency of minutes was queried, regarding the recording of councillors’ names when proposing or seconding motions and recommendations. It was noted that, in some instances, names were recorded, while in others they were not. The Clerk acknowledged the concern and advised that a consistent approach would be adopted going forward.

·         41. Aberystwyth University training offer: Lewis Deep Democracy: Members were advised that Cllr. Dylan Lewis-Rowlands would provide a written report on the course during the summer, and offer to undertake a training session with interested councillors.

·         38 To consider & approve May expenditure: The Clerk explained a payment to Total Energies, which had initially been suspected to be a fraudulent invoice. It was explained that the invoice had subsequently been verified as legitimate and that the payment had been processed.

 

 

 

 

Cysondeb (Staff)

Consistency (Staff)

 

 

Adroddiad ysgrifenedig (Cyng. Dylan Lewis-Rowlands)

Written report (Cllr. Dylan Lewis-Rowlands)

92

 

 

 

 

Cofnodion o gyfarfod Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 22 Mehefin 2026, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion.

Minutes of the Full Council meeting held on Monday, 22 June 2026, to confirm their accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes.

Cyhoeddi (Staff)

Publish (Staff)

93

 

 

 

Materion yn codi o’r cofnodion

 

Dim.

Matters arising from the minutes

 

None.

94

 

 

 

I wahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 95 i 98, oherwydd natur cyfrinachol  y busnes i’w ystyried

 

Yn unol ag Adran 1(2) Deddf Corfforaethau Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960, PENDERFYNWYD eithrio’r wasg a’r cyhoedd oherwydd natur gyfrinachol yr eitem i’w hystyried.

 

Gadawodd y Cyng. Endaf Edwards y cyfarfod.

Gadawodd y Cyng. Shelley Childs y cyfarfod.

Gadawodd Catrin Morgan-Lewis y cyfarfod

 

To exclude the press and public for the duration of items 95 to 98, due to the confidential nature of the business to be considered

 

In accordance with S. 1(2) of the Public Bodies (Admissions to Meetings) Act 1960, it was RESOLVED to exclude the press and public due to the confidential nature of the nature to be considered.

 

Cllr. Endaf Edwards left the meeting.

Cllr. Shelley Childs left the meeting.

Catrin Morgan-Lewis left the meeting.

 

95 I nodi cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd ddydd Llun, 29 Mehefin 2026

 

Nodwyd y cofnodion drafft, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

 

To note the draft minutes of the Staffing Committee meeting held on Monday 29 June 2026

 

The draft minutes were noted, and nothing was raised.

96 Derbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Staffio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Ni chodwyd unrhyw faterion.

 

To receive a report from the Chair of the Staffing Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

No matters were raised.

97

 

Ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Staffio To consider recommendations made by the Staffing Committee

 

97.1 Polisi Amser i Ffwrdd yn Lle (TOIL)

 

Roedd polisi drafft wedi’i ddosbarthu, a oedd wedi’i ddiweddaru’n helaeth yn dilyn cyngor gan Worknest.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r polisi, i’w weithredu o 1 Awst 2026.

 

Time Off In Lieu (TOIL) policy

 

A draft policy had been circulated, which had been updated extensively following advice from Worknest.

 

It was RESOLVED to approve the policy, to be implemented from 1 August 2026.

 

Gweithredu polisi (Clerc)

Implement policy (Clerk)

97.2 Ystyried balansau hanesyddol Amser i Ffwrdd yn Lle (TOIL)

 

Ystyriwyd dulliau o glirio balansau hanesyddol er mwyn sefydlu llechen lân ar gyfer gweithredu’r polisi newydd. Roedd cyngor gan Worknest wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw.

 

Nodwyd mater arwyddocaol, gan fod gan nifer o aelodau staff dros 150 awr o TOIL yn ddyledus.

 

PENDERFYNWYD y byddai pob gweithiwr yn gallu cario hyd at 22 awr drosodd, i’w defnyddio yn unol â’r polisi newydd, gyda balansau sy’n weddill uwchlaw 22 awr i’w talu fel setliad dewisol eithriadol o’r mater.

 

Byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal â staff ar yr uchod, a PHENDERFYNWYD ymhellach ddirprwyo awdurdod i’r Pwyllgor Staffio benderfynu ar dalu setliadau dewisol yn dilyn yr ymgynghoriad hwn, yn amodol ar uchafswm cyllideb o £8,000 (gan gynnwys cyfraniadau YG a phensiwn cyflogwyr lle bo’n berthnasol).

 

Nodwyd y byddai’r penderfyniadau hyn yn debygol o olygu gorwariant yn y flwyddyn, y byddai angen i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo ar wahân.

 

Historic TOIL balances

 

Means of clearing historic balances to establish a clean slate for the operation of the new policy were considered. Advice from Worknest had been circulated prior.

 

A significant issue was noted, as multiple staff members had over 150 hours of TOIL owing.

 

It was RESOLVED for each employee to carry over up to 22 hours, to be used in accordance with the new policy, with remaining balances above 22 hours to be paid as an exceptional discretionary settlement of the matter.

 

Consultation would be undertaken with staff on the above, and it was further RESOLVED to delegate authority for the Staffing Committee to decide on payment of discretionary settlements following this consultation, subject to a maximum budget amount of £8,000 (including employers’ NI and pension contributions where applicable).

 

It was noted that these decisions would likely mean over-expenditure in the year, which would need to be approved by the Full Council separately.

 

Ymgynghori â staff (Clerc & Cyng. Bryony Davies)

Staff consultation (Clerk & Cllr. Bryony Davies)

 

 

 

Agenda Staffio

Staffing agenda

 

Agenda Cyngor Llawn

Full Council Agenda

97.3 Polisi Gweithio ar Eich Pen Eich Hun

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r polisi.

 

Lone working policy

 

 

It was RESOLVED to approve the policy.

 

Gweithredu polisi (Clerc)

Implement policy (Clerk)

97.4 Dirprwyo awdurdod i’r Clerc baratoi, ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Staffio a WorkNest, lawlyfr staff terfynol i’w ystyried

 

PENDERFYNWYD dirprwyo awdurdod i’r Clerc gysylltu â Worknest a Chadeirydd y Pwyllgor Staffio i baratoi llawlyfr staff terfynol.

 

Nodwyd na ddylai’r llawlyfr newid yn sylweddol o’r drafft presennol, a byddai’n cael ei adolygu gan y Pwyllgor Staffio cyn ei gymeradwyo’n ffurfiol.

To delegate authority for the Clerk to prepare, with the Chair of the Staffing Committee and Worknest, a final staff handbook for consideration

 

It was RESOLVED to delegate authority for the Clerk to liaise with Worknest and the Chair of the Staffing Committee to prepare a final staff handbook.

 

It was noted that the handbook should not change significantly from the current draft, and would be reviewed by the Staffing Committee before formal approval.

 

Paratoi llawlyfr

(Clerc & Cyng. Bryony Davies)

Prepare handbook (Clerk & Cllr. Bryony Davies)

97.5 Cynnwys darpariaethau yn y llawlyfr staff i ddiogelu hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg

 

PENDERFYNWYD cynnwys diogelu hawliau iaith Gymraeg y gweithwyr yn llawlyfr y staff.

 

To include protection of employee’s Welsh language rights in the staff handbook

 

It was RESOLVED to include protection of employee’s Welsh language rights in the staff handbook.

 

Cynnwys yn y llawlyfr

Include in handbook

Ail-agorwyd y cyfarfod i’r cyhoedd.

 

Ail-ymunodd y Cyng. Endaf Edwards â’r cyfarfod.

Ail-ymunodd y Cyng. Shelley Childs â’r cyfarfod.

Ail-ymunodd Catrin Morgan-Lewis â’r cyfarfod.

The meeting was re-opened to the public.

 

Cllr. Endaf Edwards re-joined the meeting.

Cllr. Shelley Childs re-joined the meeting.

Catrin Morgan-Lewis re-joined the meeting.

 

98 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 6 Gorffennaf 2026

 

Mynegodd yr aelodau eu diolch i’r Cyng. Jeff Smith am gadeirio’r cyfarfod, gan nodi’r presenoldeb cyhoeddus sylweddol.

 

Nodwyd y cofnodion drafft, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 6 July 2026

 

Members expressed their thanks to Cllr. Jeff Smith for chairing the meeting, noting the significant public attendance.

 

The draft minutes were noted, and nothing was raised.

 

99 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Roedd y ceisiadau canlynol wedi cael eu hystyried:

·         Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio: 24 Y Stryd Fawr

·         A2606350 Brynderw, Ffordd Stanley

·         A260370: Neuadd y Buarth, Ffordd Stanley

·         A260375: Caellyn, Lôn Cae Pyrs

 

Trafodwyd y ceisiadau a chyflwynwyd ymatebion fel y’u cofnodwyd.

To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

The following applications had been considered:

·         Pre-Application Consultation: 24 Y Stryd Fawr

·         A2606350 Brynderw, Ffordd Stanley

·         A260370: Buarth Hall, Ffordd Stanley

·         A260375: Caellyn, Lon Cae Pyrs

 

The applications were discussed and responses submitted as minuted.

 

100 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio To consider recommendations made by the Planning Committee
100.1  

Dim.

 

None.

 

 
101 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 13 Gorffennaf 2026

 

Nodwyd y cofnodion drafft, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

To note the draft minutes of the General Management Committee held on Tuesday 8 June 2026

 

The draft minutes were noted, and nothing was raised.

 

102 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Adroddodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi arfer ei bwerau dirprwyedig mewn perthynas â Chynnig Cyllido Celf “Mis y Dyfroedd”.

 

Cynghorwyd yr aelodau fod angen penderfyniad cyn cyfarfod nesaf y Cyngor, ac felly bod y mater wedi’i ystyried a’i benderfynu gan y Pwyllgor o dan awdurdod dirprwyedig.

To receive a report from the Chair of the General Management Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

The Chair reported that the Committee had exercised its delegated powers in relation to the “Aberystwyth Blue Month” Art Funding Proposal.

 

Members were advised that a decision had been required prior to the next scheduled meeting of the Council, and the matter had therefore been considered and determined by the Committee under delegated authority.

 

103 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol To consider recommendations made by the General Management Committee

 

103.1 Ysgrifennu at Weinidogion Llywodraeth Leol a’r Gymraeg i fynegi pryderon ynghylch effaith Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026

 

PENDERFYNWYD ysgrifennu at y Gweinidogion dros Lywodraeth Leol a’r Iaith Gymraeg yn mynegi pryderon ynghylch effaith Gorchymyn Sir Geredigion (Cymunedau) 2026.

To write to the Ministers for Local Government & the Welsh Language expressing concerns regarding the impact of The County of Ceredigion (Communities) Order 2026

 

It was RESOLVED to write to the Ministers for Local Government and the Welsh Language expressing concerns regarding the impact of The County of Ceredigion (Communities) Order 2026.

 

Drafftio llythyr (Staff)

Draft letter (Staff)

103.2 Mabwysiadu’r model arfaethedig gan swyddogion ar gyfer Sefydlu’r Maer

 

Nodwyd mai dim ond cyfnod byr oedd gan y model arfaethedig rhwng penodi’r Maer a’r seremoni urddo, a allai fod yn broblem pe bai newid sydyn yn yr amgylchiadau.

 

Eglurwyd bod yr amserlen fer oherwydd y gofyniad i gwblhau’r gweithgaredd ym mis Mai, ac anawsterau gyda nifer o wyliau banc yn y mis.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu model arfaethedig y swyddogion ar gyfer Sefydlu’r Maer.

To adopt officers’ proposed model for Mayor Making

 

It was noted that the proposed model had only a short amount of time between appointment of the Mayor and the inauguration ceremony, which could be problematic if there was a sudden change in circumstances.

 

It was explained that the short timescale was due to the requirement to complete the activity in May, and difficulties with there being multiple bank holidays in the month.

 

It was RESOLVED to adopt the officers’ proposed model for Mayor Making.

 

 

 

 

Gweithredu’r model newydd (Staff)

Implement new model (Staff)

 

 

 

 

103.3 Prynu 1,000 o fagiau Atal Gwylanod (500 gwyn a 500 du) gan Weirbags, gan nodi y byddai hyn yn arwain at orwariant ar bennawd cyllideb 6140 – Bagiau Seagull Proof (costau)

 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo prynu 1,000 o Fagiau Gwrth-Wylanod (500 gwyn a 500 du) gan Weirbags.

 

Cynghorodd y Cyng. Shelley Childs yr aelodau fod Rheolwr Corfforaethol newydd Cyngor Sir Ceredigion wedi cynnig mynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol yn y dyfodol, neu gynnal cyfarfod annibynnol, i drafod mater gwastraff. Cytunwyd na ddylid colli’r cynnig hwn.

 

 

To purchase 1,000 Seagull Proof bags (500 white & 500 black) from Weirbags, noting that this would mean over-expenditure on the budget heading 6140 Seagull Proof Bags (costs)

 

It was RESOLVED to approve the purchase of 1,000 Seagull Proof Bags (500 white and 500 black) from Weirbags.

 

Cllr. Shelley Childs advised members that the new Corporate Manager at Ceredigion County Council had offered to attend a future General Management Committee meeting, or hold a standalone meeting, to discuss the issue of waste. It was agreed that this offer was not to be missed.

 

 

 

 

 

 

 

Prynu (Staff)

Purchase (Staff)

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

103.4 Cymeradwyo’r gorwariant sy’n deillio o brynu bagiau Atal Gwylanod

 

Amcangyfrifwyd y byddai’r pryniant yn arwain at orwariant o tua £4,000. Nododd yr aelodau y byddai gwerthu’r bagiau dros gyfnod o flynyddoedd yn negyddu hyn yn y tymor hir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gorwariant.

 

 

To approve the over-expenditure for purchasing Seagull proof bags

 

It was estimated that the purchase would result in over-expenditure of around £4,000. Members noted that sale of the bags over a period of years would negate this in the long term.

 

It was RESOLVED to approve the over-expenditure.

 

 
103.5 Bwrw ymlaen â chynnig Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig ar gyfer toiledau cyhoeddus i Gyngor Sir Ceredigion

 

PENDERFYNWYD bwrw ymlaen â chynnig y Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig ar gyfer toiledau cyhoeddus i Gyngor Sir Ceredigion.

 

To proceed with offering the amended SLA for the public toilets to Ceredigion County Council

 

It was RESOLVED to proceed with offering the amended Service Level Agreement for the public toilets to Ceredigion County Council.

 

Negodi (Clerc & Cyng. Emlyn Jones)

Negotiate (Clerk & Cllr. Emlyn Jones)

103.6 Dyfarnu’r contract goleuadau Nadolig ar gyfer y cyfnod 2026–2028

 

Mynegodd yr aelodau awydd i archwilio cyfleoedd i ehangu’r arddangosfa goleuadau Nadolig, a nodwyd ei bod yn teimlo’n groes i ddyfarnu’r contract heb ystyried ehangu posibl. Cynghorodd y Clerc fod angen dyfarnu’r contract ar gyfer y gwaith sylfaenol, fel y gellid cynnal cyfarfod gyda’r contractwr i ystyried ehangu posibl. Ystyriodd yr aelodau gynnal cyfarfod yn ystod mis Awst; fodd bynnag, cynghorodd y Clerc na fyddai hyn yn bosibl oherwydd gwyliau’r haf.

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r Contract Goleuadau Nadolig ar gyfer y cyfnod 2026–2028 i Centregreat Ltd.

 

 

To award the Christmas light contract 2026-28

 

Members expressed desire to explore opportunities to expand the Christmas lights display, and noted that it felt backwards to be awarding the contract without having considered possible expansion. The Clerk advised that the contract for the baseline work needed to be awarded, such that a meeting with the contractor could be held to consider possible expansion. Members considered holding a meeting during August; however, the Clerk advised that this would not be possible due to the summer recess.

 

It was RESOLVED to award the Christmas Lights Contract for the period 2026–2028 to Centregreat Ltd.

 

Papur opsiynau (Staff)

Options paper (Staff)

 

Agenda RhC

GM Agenda

 

Hysbysu ymgeiswyr (Staff)

Inform applicants (Staff)

104 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 20 Gorffennaf 2026

 

Nodwyd y cofnodion drafft, ac ni chodwyd unrhyw faterion.

To note the draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 20 July 2026

 

The draft minutes were noted, and nothing was raised.

 

 

 

 

 

 

105 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig

 

Roedd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn absennol, ac roedd y Cyng. Jeff Smith wedi cadeirio’r cyfarfod.

 

Ni chodwyd unrhyw faterion.

To receive a report from the Chair of the Finance Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers

 

Both the Chair & Vice-Chair had been absent, and Cllr. Jeff Smith had chaired the meeting.

 

No matters were raised.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

106 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau

 

To consider recommendations made by the Finance Committee

 

 

 

106.1 Mabwysiadu strategaeth arian wrth gefn

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Strategaeth Arian Wrth Gefn fel y’i diwygiwyd.

To adopt a reserves strategy

 

It was RESOLVED to adopt the Reserves Strategy as amended.

 

Gweithredu polisi

Implement policy

106.2 Dyfarnu’r contract Dylunio Sefydliadol To award the Organisation Design contract

 

It was RESOLVED to award the Organisation Design Contract to Local Council Consultancy (LCC).

 

Hysbysu ymgeiswyr (Staff)

Inform applicants (Staff)

107 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Gorffennaf

 

Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem.

 

Cymerodd y Cyng. Jeff Smith y Gadair am gyfnod yr eitem hon.

 

Codwyd ymholiad ynghylch anfoneb gan Rees Astley Insurance Brokers, a cheisiwyd eglurhad ynghylch y ffioedd a oedd wedi’u cynnwys yn yr anfoneb. Cadarnhaodd y Clerc fod yr anfoneb yn cynnwys y premiwm yswiriant, a’r holl drethi a ffioedd brocer.

 

Codwyd ymholiad ynghylch nifer o anfonebau yn ymwneud â meinciau picnic a ble roeddent wedi’u lleoli. Eglurwyd bod yr anfonebau’n ymwneud â phrynu meinciau picnic ar gyfer perllan Coedlan Pump, a’r ardal bicnic newydd ei chreu yn safle rhandiroedd Coedlan Pump.

 

Codwyd ymholiad ynghylch costau gwagio biniau misol. Cwestiynwyd a allai’r Cyngor ymgymryd â’r gwaith hwn yn uniongyrchol. Eglurwyd nad oedd hyn yn bosibl yn ystod misoedd yr haf, ond bod staff y Cyngor eisoes yn gwneud hyn dros fisoedd y gaeaf.

 

Nodwyd pryderon ynghylch cost llogi ystafelloedd cyfarfod. Nododd yr aelodau fod Pantyfedwen yn ddrytach na lleoliadau eraill, a chytunwyd y dylai’r Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ystyried lleoliad cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

To consider & approve July expenditure

 

Cllr. Emlyn Jones declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of the item.

 

Cllr. Jeff Smith took the Chair for the duration of this item.

 

A query was raised regarding an invoice from Rees Astley Insurance Brokers, and clarification was sought on the fees included within the invoice. The Clerk confirmed that the invoice included the insurance premium,  and all taxes and broker fees.

 

A query was raised regarding multiple invoices relating to picnic benches and where these were located. It was explained that the invoices related to the purchase of picnic benches for the Fifth Avenue orchard, and the newly created picnic area in the Fifth Avenue allotment site.

 

A query was raised regarding the monthly bin emptying costs. It was questioned whether the Council could undertake this work directly. It was explained that this was not possible during the summer months, but that Council staff already did do this over Winter month.

 

Concerns were noted over the cost of hiring meeting rooms. Members noted that Pantyfedwen was more expensive than other venues, and agreed that the location of meetings should be considered by the General Management Committee.

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

 

Taliadau (Clerc)

Payments (Clerk)

108 Tendr Bar Gŵyl y Castell

 

Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem.

 

Cymerodd y Cyng. Jeff Smith y Gadair am gyfnod yr eitem hon.

 

Roedd crynodeb wedi’i ddosbarthu ymlaen llaw; dim ond un cais a dderbyniwyd.

 

PENDERFYNWYD dyfarnu Tendr y Bar ar gyfer Gŵyl y Castell i Yr Hen Lew Du.

Bar Tender for Gŵyl y Castell

 

Cllr. Emlyn Jones declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of the item.

 

Cllr. Jeff Smith took the Chair for the duration of this item.

 

A summary had been circulated prior; only one bid had been received.

 

It was RESOLVED to award the Bar Tender for Gŵyl y Castell to Yr Hen Lew Du.

 

 

 

 

 

 

 

Hysbysu ymgeiswyr (Staff)

Inform applicants (Staff)

109

 

Diweddariad placiau dinesig

 

Roedd diweddariad ar gynnydd wedi’i ddosbarthu, ac ystyriodd yr aelodau y placiau sy’n weddill i’w gomisiynu.

 

Gwirfoddolodd yr aelodau i baratoi geiriad drafft ar gyfer y placiau sy’n weddill fel a ganlyn:

·         Mabel Pakenham Walsh – Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

·         Mary Emerson Thomas & Mary Marles Thomas – Cyng. Jeff Smith

·         Mari Gwendoline Ellis – Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

·         Elizabeth Crebar – Cyng. Nishant Chandolia

·         Marguerite Jervis – Cyng. Bryony Davies

·         Lily Newton – Cyng. Bryony Davies

·         Iola Gregory – Cyng. Jeff Smith

 

Cytunwyd y byddai geiriad drafft ar gyfer y placiau yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.

Civic plaques update

 

An update on progress had been circulated, and members considered the remaining plaques to be commissioned.

 

Members volunteered to prepare draft wording for the remaining plaques as follows:

·         Mabel Pakenham Walsh – Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

·         Mary Emerson Thomas & Mary Marles Thomas – Cllr. Jeff Smith

·         Mari Gwendoline Ellis – Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

·         Elizabeth Crebar – Cllr. Nishant Chandolia

·         Marguerite Jervis – Cllr. Bryony Davies

·         Lily Newton – Cllr. Bryony Davies

·         Iola Gregory – Cllr. Jeff Smith

 

It was agreed that draft wording for the plaques would be submitted for consideration by the General Management Committee.

 

 

 

 

 

 

 

Paratoi geiriad (Cyngh.)

Prepare wordings (Cllrs.)

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

110 Ymgyrch balchder bro

 

Roedd Dogfen Cychwyn Prosiect a deunyddiau ymgyrch wedi’u dosbarthu ymlaen llaw, yn dilyn cyfarfod o’r Grŵp Gwaith, a chyfarfod cychwynnol gyda phreswylydd Heol y Wig, Medi James.

 

Byddai’r cynllun peilot yn canolbwyntio ar Heol y Wig i ddechrau, gyda’r nod o annog busnesau a phreswylwyr i ymfalchïo yn eu hamgylchedd lleol a chyfrannu at welliannau i ymddangosiad y stryd.

 

Nododd yr aelodau nad oedd y cyfieithiad ar y sticer ffenestr drafft yn llifo’n naturiol. Cytunwyd i ddiwygio’r testun Cymraeg i ddarllen “Rydym ni wedi arwyddo…”.

 

PENDERFYNWYD bwrw ymlaen â’r ymgyrch brawf ar Heol y Wig yn unol â’r dogfennau a ddosbarthwyd.

 

Gwirfoddolodd y Cyng. Nishant Chandolia ac Emlyn Jones fel cynghorwyr arweiniol ar gyfer y prosiect.

Civic pride campaign

 

A Project Inception Document and campaign materials had been circulated prior, following a meeting of the Working Group, and an inception meeting with Pier Street resident Medi James.

 

The pilot scheme would initially focus on Pier Street, with the aim of encouraging businesses and residents to take pride in their local environment and contribute to improvements in the appearance of the street.

 

Members noted that the translation on the draft window sticker did not flow naturally. It was agreed to revise the Welsh text to read “Rydym ni wedi arwyddo…”.

 

It was RESOLVED to proceed with the trial campaign on Pier Street as per circulated documents.

 

Cllrs. Nishant Chandolia and Emlyn Jones volunteered as lead councillors for the project.

 

 

 

 

Cychwyn ymgyrch

(Clerc, Cyng. Nishant Chandolia, Cyng. Emlyn Jones)

Start campaign (Clerk, Cllr. Nishant Chandolia, Cllr. Emlyn Jones)

  PENDERFYNWYD i atal Rheol Sefydlog 3(x) ac ymestyn y cyfarfod y tŷ hwnt i 21:00. It was RESOLVED to suspend Standing Order 3(x) and extend the meeting to beyond 21:00.
111 Grant Cymunedol CANDO

 

Roedd rhagor o wybodaeth wedi’i dosbarthu, yn dilyn pryderon a godwyd ynghylch llywodraethiant y sefydliad. Roedd y grŵp wedi egluro bod problemau wedi bod rhwng aelodau’r pwyllgor rheoli, a bod problemau gyda rhywfaint o eiddo heb ei ddychwelyd i’r grŵp.

 

Cadarnhawyd bod eiddo a brynwyd gan ddefnyddio grant cymunedol y Cyngor ym meddiant y grŵp.

 

Cytunwyd nad oedd unrhyw bryderon uniongyrchol ynghylch defnydd o arian grant y Cyngor, ac nad oedd angen cymryd unrhyw gamau uniongyrchol.

 

Nodwyd y byddai angen i’r grŵp gyflwyno adroddiad ar ddiwedd eu prosiect, ac ar yr adeg honno gellid adolygu’r sefyllfa ymhellach.

CANDO Community Grant

 

Further information had been circulated, following concerns raised about the organisation’s governance. The group had explained that there had been issues between members of the managing committee, and there were issues of some property not being returned to the group.

 

It had been confirmed that property purchased using the Council’s community grant was in the group’s possession.

 

It was agreed that there were no immediate concerns about the use of the Council’s grant funds, and no immediate action was needed.

 

It was noted that the group would need to submit a report at the end of their project, at which point the situation could be reviewed further.

 

112 Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Padarn Sant 2026-2030

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cyng. Lucy Huws yn gynrychiolydd Llywodraethwr Cymunedol Cyngor y Dref ar Gorff Llywodraethol Ysgol Padarn Sant am y cyfnod 2026–2030.

Community Governor for St Padarn’s School 2026-2030

 

It was RESOLVED to appoint Cllr. Lucy Huws as the Town Council’s Community Governor representative on St Padarn’s School Governing Body for the period 2026–2030.

 

 

 

Hysbysu’r ysgol (Staff)

Inform school (Staff)

113 Cynnig: Pryderon yn ymwneud â chyffuriau ym Mhenparcau (Cyng. Carl Worrall)

 

PENDERFYNWYD diwygio’r cynnig fel a ganlyn:

·         Canolbwyntio’r cyfarfod ar Benparcau ac Aberystwyth, yn hytrach na Phenparcau yn unig.

·         Gwahodd cynrychiolwyr o ysgolion lleol i fynychu, yn ogystal â Heddlu Dyfed-Powys, AS Ben Lake, Aelodau lleol o’r Senedd, a chymdeithasau tai perthnasol.

·         Ymgysylltu â Chanolfan Deialog Prifysgol Aberystwyth i ystyried y digwyddiad o bosibl yn eu rhaglen Trafod Tref

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig diwygiedig.

Motion: Drug-related concerns in Penparcau (Cllr. Carl Worrall)

 

It was RESOLVED to amend the motion as follows:

·         To focus the meeting on Penparcau and Aberystwyth, rather than just Penparcau.

·         To invite representatives of local schools to attend, in addition to Dyfed-Powys Police, Ben Lake MP, local Members of the Senedd, and relevant housing associations.

·         To engage with Aberystwyth University’s Dialogue Centre to potentially factor the event into their Town Dialogue programme.

 

It was RESOLVED to approve the amended motion.

 

 

 

 

Diweddaru’r cynnig (Staff)

Amend motion (Staff)

 

Trefnu cyfarfod (Clerc, Cyng. Carl Worrall)

Arrange meeting (Clerk, Cllr. Carl Worrall)

114 Cynnig: Gofyn i Cyngor Sir Ceredigion i ailystyried trefniadau a chostau parcio yn Aberystwyth i hybu yr economi (Cyng. Maldwyn Pryse)

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem hon.

 

PENDERFYNWYD diwygio’r cynnig fel a ganlyn:

·         Diwygio’r cyfnod amser gofynnol ar gyfer parcio ar y promenâd i fod o 9am i 6pm, yn hytrach nag 8am i 6pm.

·         Cymhwyso’r model taliadau gofynnol i’r promenâd, yn hytrach na meysydd parcio pwrpasol yn unig.

·         Gofyn am adolygiad o barcio beiciau modur, gan nodi’r annhegwch nad oes rhaid i feiciau modur dalu i barcio ar y promenâd.

 

Nodwyd y byddai’r cynnig yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau, a byddai angen trafodaeth bellach gyda Chyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cynnig diwygiedig.

Motion: Request Ceredigion County Council to reconsider parking arrangements and costs in Aberystwyth to boost the economy (Cllr. Maldwyn Pryse)

 

Cllr. Alun Willimas declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of this item.

 

It was RESOLVED to amend the motion as follows:

·         Amend the requested time period for parking on the promenade to be from 9am to 6pm, rather than 8am to 6pm.

·         Apply the requested charges model to the promenade, rather than just dedicated car parks

·         Request review of motorcycle parking, noting unfairness that motorcycles do not have to pay to park po the promenade.

It was noted that the motion would be a starting point for negotiations, and further discussion would be needed with Ceredigion County Council and Aberystwyth University.

 

It was RESOLVED to approve the amended motion.

 

 

 

 

 

 

 

Diweddaru’r cynnig (Staff)

Amend motion (Staff)

 

Drafftio llythyr (Staff & Cyng. Maldwyn Pryse)

Draft letter (Staff & Cllr. Maldwyn Pryse)

115 Cwestiynau gan Gynghorwyr sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG

 

Codwyd y cwestiynau canlynol:

·         Nodwyd negyddiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch gwastraff a sbwriel, ac awgrymodd yr aelodau y dylid gwneud mwy o ddefnydd o luniau cyn ac ar ôl i ddangos effaith y gwaith glanhau strydoedd a gwella’r amgylchedd a wnaed gan staff amgylcheddol y Cyngor. Pwysleisiodd yr aelodau hefyd bwysigrwydd hyrwyddo gwaith y Cyngor Tref yn fwy cyffredinol ac awgrymodd y dylid rhoi mwy o flaenoriaeth i gyfathrebu a chyhoeddusrwydd.

·         Nodwyd nad oedd baner yn chwifio ar ail faner y Cyngor ar dir y castell, tra bod polisi baneri’r Cyngor yn nodi y dylai baner Aberystwyth chwifio. Atgoffwyd staff i brynu baner Aberystwyth, os nad oedd un wedi’i phrynu eisoes, a threfnu iddi gael ei chwifio pan nad oedd angen y polyn ar gyfer achlysur arall.

 

Gadawodd y Cyng. Carl Worrall y cyfarfod.

Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

The following questions were raised:

·         Negativity on social media around waste and litter was noted, and members suggested that greater use should be made of before-and-after photographs to demonstrate the impact of the street cleaning and environmental improvement work undertaken by the Council’s environmental staff. Members also emphasised the importance of promoting the work of the Town Council more generally and suggested that greater priority be given to communications and publicity.

·         It was noted that no flag was flying on the Council’s second flag at the castle grounds, whilst the Council’s flags policy stated that an Aberystwyth flag should fly. Staff were reminded to purchase an Aberystwyth Flag, if one hadn’t been purchased already, and arrange for it to be flown when the pole was not needed for another occasion.

 

Cllr. Carl Worrall left the meeting.

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyhoeddi (Staff)

Publish (Staff)

 

 

 

 

 

 

Trefnu baner

(Staff)

Arrange flag (Staff)

 

116

 

 

 

Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff

 

Dim.

WRITTEN reports from representatives on outside bodies

 

None.

 

117 Ceisiadau Cynllunio

 

Planning Applications
117.1 A260382: Pandora, 12 Y Stryd Fawr

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am gyfnod yr eitem hon.

 

Mae’r Cyngor yn croesawu datblygiad llety preswyl uwchben safle masnachol a’r defnydd arfaethedig o ddeunyddiau adeiladu traddodiadol, yn enwedig ffenestri pren. Fodd bynnag, nodwn y canlynol:

·         Rydym yn gofyn am osod amod ar y tai sy’n eu hatal rhag cael eu defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau.

·         Ystyrir bod defnyddio her fforddiadwyedd yn ffordd amhriodol o osgoi’r gofyniad i ddarparu tai fforddiadwy.

·         Rydym yn cwestiynu’r arwynebeddau llawr arfaethedig, gan nad yw arwynebedd llawr mewnol y ddau annedd arfaethedig yn bodloni’r argymhellion Arwynebedd Mewnol Gros (llawr) (GIA) a nodir yng Ngofynion Ansawdd Datblygu Cymru 2021 Llywodraeth Cymru.

A260382: Pandora, 12 Y Stryd Fawr

 

Cllr. Alun Williams declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of this item.

 

The Council welcomes the development of residential accommodation above a commercial premises and the proposed use of traditional building materials, especially timber windows. However, we note the following:

·         We request that a condition be placed on the residences preventing them from being used as second homes or holiday accommodation.

·         The use of an affordability challenge is considered an inappropriate means of avoiding the requirement to provide affordable housing.

·         We question the proposed floor areas, as the internal floor area of the two proposed dwellings do not meet the Gross Internal (floor) Area (GIA) recommendations set out in the Welsh Government’s Welsh Development Quality Requirements 2021.

 

Ymateb (Staff)

Respond (Staff)

117.2 A260383: 35 Y Stryd Fawr

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem hon.

 

Mae gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD i’r cais ac mae’n diolch i’r datblygwr am ymgymryd â gwaith adfer rhagweithiol wrth barchu treftadaeth bensaernïol.

 

A260383: 35 Y Stryd Fawr

 

Cllr. Alun Willimas declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of this item.

 

The Town Council has NO OBJECTION to the application and thanks the developer for undertaking proactive restoration work whilst respecting architectural heritage.

 

Ymateb (Staff)

Respond (Staff)

117.3 A260388: Sunnymead, 34 Heol y Bont

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem hon.

 

Mae’r Cyngor Tref yn GWRTHWYNEBU’r cais oherwydd bod cyfran uwch o Dai Amlfeddiannaeth yn Aberystwyth nag yng ngweddill Ceredigion.

A260388: Sunnymead, 34 Heol y Bont

 

Cllr. Alun Willimas declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of this item.

 

The Town Council OBJECTS to the application due to there being a higher proportion of Houses in Multiple Occupation in Aberystwyth than the rest of Ceredigion.

 

Ymateb (Staff)

Respond (Staff)

 

Derbyniwyd cais A260387 ar ôl cyhoeddi agenda’r cyfarfod, fodd bynnag PENDERFYNWYD ei ystyried o dan eitem 117, oherwydd bod gwyliau’r haf yn golygu nad oedd cyfarfod arall lle gellid ei ystyried.

 

Application A260387 had been received after publishing of the meeting agenda, however it was RESOLVED to consider it under item 117, due to the summer recess meaning there was no other meeting at which it could be considered.

 

 
117.4 A260387: 16, Ty Seidr Bar & Bottle Shop

 

Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant personol a rhagfarnllyd a gadawodd y cyfarfod am hyd yr eitem hon.

 

Mae gan y Cyngor Tref DIM GWRTHWYNEBIAD i’r cais ac mae’n croesawu’r cynnig.

 

Ymatalodd y Cyng. Emlyn Jones rhag pleidleisio

 

A260387: 16, Ty Seidr Bar & Bottle Shop

 

Cllr. Alun Willimas declared a personal and prejudicial interest and left the meeting for the duration of this item.

 

The Town Council has NO OBJECTION to the application and welcomes the proposal.

 

Cllr. Emlyn Jones abstained from voting.

 

 

 

 

Ymateb (Staff)

Respond (Staff)

118 Gohebiaeth

 

Correspondence
118.1 Un Llais Cymru: Lansiwyd modiwl hyfforddiant newydd, o’r enw Cyflwyniad i Newid Diwylliannol. One Voice Wales: A new training module had been launched, entitled Introduction to Cultural Change.
118.2 RNIB Cymru – Taith Gerdded Hygyrchedd Dywysedig: Derbyniwyd gohebiaeth gan Kerry Ferguson AS ynghylch gwahoddiad gan RNIB Cymru i gymryd rhan mewn taith gerdded hygyrchedd dywysedig o amgylch canol tref Aberystwyth. Gwahoddwyd cynghorwyr sy’n dymuno mynychu i gysylltu â Kerry Ferguson AS yn uniongyrchol. Staff i ddosbarthu’r gwahoddiad i gynghorwyr. RNIB Cymru – Guided Accessibility Walk: Correspondence was received from Kerry Ferguson MS regarding an invitation from RNIB Cymru to participate in a guided accessibility walk around Aberystwyth town centre. Councillors wishing to attend were invited to contact Kerry Ferguson MS directly. Staff to circulate invitation councillors.

 

Cylchredeg (Staff)

Circulate (Staff)

118.3 Dyfrio Blodau’r Dref: Gohebiaeth gan breswylydd ynghylch amseriad dyfrio a’r sŵn sy’n gysylltiedig â’r offer a ddefnyddir. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Watering of Town Flowers: Correspondence from a resident regarding the timing of the watering and the noise associated with the equipment used. To be considered by General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

118.4 Storio Gwastraff a Glendid Strydoedd: Gohebiaeth gan breswylydd Waunfawr (Cymuned Faenor) yn mynegi pryderon ynghylch trefniadau storio gwastraff, glendid strydoedd, sbwriel, a materion sy’n gysylltiedig â gwylanod ar draws Aberystwyth a Cheredigion. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol. Waste Storage and Street Cleanliness: Correspondence from a resident of Waunfawr (Faenor Community) expressing concerns regarding waste storage arrangements, street cleanliness, litter, and seagull-related issues across Aberystwyth and Ceredigion. To be considered by General Management Committee. Agenda RhC

GM Agenda

118.5 Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: Ymchwil yn parhau ar faint a strwythur Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru. Cynghorwyr i ymateb yn unigol. Democracy and Boundary Commission Cymru: Research ongoing on the size and structure of Town and Community Councils in Wales. Councillors to respond individually. Ymateb (Cyngh.)

Respond (Cllrs.)

118.6 Parlys yr Ymennydd Cymru: Apêl Cynghorau 2026–2027. Cerebral Palsy Cymru: Annual Council Appeal 2026–2027.
118.7 CTEM: Cadarnhad o rif cofrestru TAW y Cyngor Tref. HMRC: Confirmation of the Town Council’s VAT registration number.

Daeth y cyfarfod i ben am: 21:40                                                                                             The meeting was closed at: 21:40

 

Cofnodion:

Agenda

 

 

78 Presennol Present
79 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies & absences
80 Datganiadau o ddiddordeb ar faterion sy’n codi o’r agenda Declarations of interest on matters arising from the agenda
81 Cyfeiriadau personol Personal references
82 Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda Public participation session for members of the public to raise questions or make comments on the agenda
83 Cyfethol ar gyfer sedd wag (Ward Rheidol) Co-option for vacant seat (Rheidol Ward)
84 Adroddiad ar weithgareddau’r Maer Mayoral activity report
85 Diweddariadau gan y Clerc Updates from Clerk
86 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau Updates from Facilities & Assets Manager
87 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau Updates from Events & Partnerships Officer
88 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau Updates from Market & Events Co-ordinator
89 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
90 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 1 Mehefin 2026, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the extraordinary meeting of the Full Council Meeting held on Monday 1 June 2026, to confirm accuracy
91 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
92 Cofnodion o gyfarfod Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 22 Mehefin 2026, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Full Council meeting held on Monday, 22 June 2026, to confirm their accuracy
93 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
94 I wahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 95 i 98, oherwydd natur cyfrinachol  y busnes i’w ystyried To exclude the press and public for the duration of items 95 to 98, due to the confidential nature of the business to be considered
95 I nodi cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Staffio a gynhaliwyd ddydd Llun, 29 Mehefin 2026 To note the draft minutes of the Staffing Committee meeting held on Monday 29 June 2026
96 Derbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Staffio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the Staffing Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
97 Ystyried argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Staffio To consider recommendations made by the Staffing Committee
97.1 Polisi Amser i Ffwrdd yn Lle (TOIL) Time Off In Lieu (TOIL) policy
97.2 Ystyried balansau hanesyddol Amser i Ffwrdd yn Lle (TOIL) Historic TOIL balances
97.3 Polisi Gweithio ar Eich Pen Eich Hun Lone working policy
97.4 Dirprwyo awdurdod i’r Clerc baratoi, ar y cyd â Chadeirydd y Pwyllgor Staffio a WorkNest, lawlyfr staff terfynol i’w ystyried To delegate authority for the Clerk to prepare, with the Chair of the Staffing Committee and Worknest, a final staff handbook for consideration
97.5 Cynnwys darpariaethau yn y llawlyfr staff i ddiogelu hawliau gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg To include protection of employee’s Welsh language rights in the staff handbook
98 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 6 Gorffennaf 2026 To note the draft minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 6 July 2026
99 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the Planning Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
100 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio To consider recommendations made by the Planning Committee
100.1 Dim None
101 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 13 Gorffennaf 2026 To note the draft minutes of the General Management Committee held on Monday 13 July 2026
102 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the General Management Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
103 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol To consider recommendations made by the General Management Committee
103.1 Ysgrifennu at Weinidogion Llywodraeth Leol a’r Gymraeg i fynegi pryderon ynghylch effaith Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026 To write to the Ministers for Local Government & the Welsh Language expressing concerns regarding the impact of The County of Ceredigion (Communities) Order 2026
103.2 Mabwysiadu’r model arfaethedig gan swyddogion ar gyfer Sefydlu’r Maer To adopt officers’ proposed model for Mayor Making.
103.3 Prynu 1,000 o fagiau Atal Gwylanod (500 gwyn a 500 du) gan Weirbags, gan nodi y byddai hyn yn arwain at orwariant ar bennawd cyllideb 6140 – Bagiau Seagull Proof (costau) To purchase 1,000 Seagull Proof bags (500 white & 500 black) from Weirbags, noting that this would mean over-expenditure on the budget heading 6140 Seagull Proof Bags (costs)
103.4 Cymeradwyo’r gorwariant sy’n deillio o brynu bagiau Atal Gwylanod To approve the over-expenditure for purchasing Seagull proof bags
103.5 Bwrw ymlaen â chynnig Cytundeb Lefel Gwasanaeth diwygiedig ar gyfer toiledau cyhoeddus i Gyngor Sir Ceredigion To proceed with offering the amended SLA for the public toilets to Ceredigion County Council
103.6 Dyfarnu’r contract goleuadau Nadolig ar gyfer y cyfnod 2026–2028 To award the Christmas light contract 2026-28
104 Nodi cofnodion ddrafft o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 20 Gorffennaf 2026 To note the draft minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 20 July 2026
105 I dderbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y Pwyllgor o dan bwerau dirprwyedig To receive a report from the Chair of the Finance Committee on any decisions made by the Committee using delegated powers
106 Ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a Sefydliadau To consider recommendations made by the Finance Committee
106.1 Mabwysiadu strategaeth cronfeydd wrth gefn To adopt a reserves strategy
106.2 Dyfarnu’r contract Dylunio Sefydliadol To award the Organisation Design contract
107 Ystyried a chymeradwyo gwariant mis Gorffennaf To consider & approve July expenditure
108 Tendr Bar Gŵyl y Castell Bar Tender for Gŵyl y Castell
109 Diweddariad placiau dinesig Civic plaques update
110 Ymgyrch balchder bro Civic pride campaign
111 Grant Cymunedol CANDO CANDO Community Grant
112 Community Governor for St Padarn’s School 2026-2030 Llywodraethwr Cymunedol Ysgol Padarn Sant 2026-2030
113 Cynnig: Pryderon yn ymwneud â chyffuriau ym Mhenparcau (Cyng. Carl Worrall) Motion: Drug-related concerns in Penparcau (Cllr. Carl Worrall)
114 Cynnig: Gofyn i Cyngor Sir Ceredigion i ailystyried trefniadau a chostau parcio yn Aberystwyth i hybu yr economi (Cyng. Maldwyn Pryse) Motion: Request Ceredigion County Council to reconsider parking arrangements and costs in Aberystwyth to boost the economy (Cllr. Maldwyn Pryse)
115 Cwestiynau gan Gynghorwyr sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG Questions from Councillors relating ONLY to matters in this Council’s remit
116 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol WRITTEN reports from representatives on outside bodies
117 Ceisiadau Cynllunio Planning Applications
117.1 A260382: Pandora, 12 Y Stryd Fawr A260382: Pandora, 12 Y Stryd Fawr
117.2 A260383: 35 Y Stryd Fawr A260383: 35 Y Stryd Fawr
117.3 A260388: Sunnymead, 34 Heol y Bont A260388: Sunnymead, 34 Heol y Bont
118 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu’r cyfarfod trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the meeting by contacting the Town Council Office for details