Cyngor Llawn

24/02/2025 am 6:30 pm

Cofnodion:

Cyngor Tref Aberystwyth Town Council

Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr

Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road

 

24.2.2025

 

COFNODION / MINUTES

 

  Yn bresennol:

 

Cyng. Maldwyn Pryse (Cadeirydd)

Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

Cyng. Alun Williams

Cyng. Talat Chaudhri

Cyng. Emlyn Jones

Cyng. Mari Turner

Cyng. Carl Worrall

Cyng. Glynis Somers

Cyng. Brian Davies

Cyng. Kerry Ferguson

Cyng. Mark Strong

Cyng. Umer Aslam

Cyng. Bryony Davies

Cyng. Owain Hughes

Cyng. Jeff Smith

 

Yn mynychu:

Will Rowlands (Clerc)

Carol Thomas (Cyfieithydd)

 

Present:

 

Cllr. Maldwyn Pryse (Chair)

Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

Cllr. Alun Williams

Cllr. Talat Chaudhri

Cllr. Emlyn Jones

Cllr. Mari Turner

Cllr. Carl Worrall

Cllr. Glynis Somers

Cllr. Brian Davies

Cllr. Kerry Ferguson

Cllr. Mark Strong

Cllr. Umer Aslam

Cllr. Bryony Davies

Cllr. Owain Hughes

Cllr. Jeff Smith

 

In attendance:

Will Rowlands (Clerk)

Carol Thomas (Translator)

 

 
306 Ymddiheuriadau ac absenoldeb:

 

Yn absennol efo ymddiheuriadau:

Cyng. Mair Benjamin

Cyng. Lucy Huws

Cyng. Gwion Jones

 

Yn absennol heb ymddiheuriadau:

Cyng. Connor Edwards

 

Apologies and absence:

 

Absent with apologies:

Cllr. Mair Benjamin

Cllr. Lucy Huws

Cllr. Gwion Jones

 

Absent without apologies:

Cllr. Connor Edwards

 
307 Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda

 

Dim

 

Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda

 

None

 
308 Cyfeiriadau Personol

 

·         Llongyfarchwyd Pam, gwraig y Cyng. Carl Worrall, ar ei safle yn 8fed yn y byd ym maes pysgota merched.

 

Personal References

 

·         Congratulations were extended to Cllr. Carl Worrall’s wife Pam on her ranking as 8th in the world in women’s angling.

 
309 Adroddiad y Maer

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig trwy e-bost. Nodwyd bod y Maer wedi mynychu a siarad mewn digwyddiad rhwydweithio busnes yn ddiweddar, lle cafodd y Cyngor Tref lawer o gefnogaeth a chanmoliaeth. Mynegodd nifer o fusnesau ddiddordeb mewn noddi gwelyau blodau.

Mayoral report

 

A written report was circulated via email. It was noted that the Mayor had attended and spoken at a recent business networking event, where the Town Council received much support and praise. A number of businesses expressed an interest in sponsoring flower beds.

 

 
310 Diweddariadau gan y Clerc

 

Cafwyd diweddariad llafar gan y Clerc:

·         Gosodwyd gwerth trethiannol o £9,500 ar gyfer Tŷ’r Offeiriad. Yn seiliedig ar luosydd 2024-25, byddai hyn yn cyfateb i ardrethi busnes o £5,339 y flwyddyn. Nodwyd bod hyn yn sylweddol is na’r amcangyfrif, ac roedd yn siomedig nad oedd y VOA wedi pennu gwerth trethiannol yn gynt gan y byddai hyn wedi cael effaith sylweddol ar y gyllideb ar gyfer 2025-26. Gan na ellid newid y praesept yn awr, cytunwyd y gellid defnyddio’r swm gor-gyllidebol hwn i ategu penawdau cyllideb eraill, er enghraifft glanhau strydoedd; yn ymarferol byddai hyn trwy orwario ar unrhyw benawdau eraill o’r fath.

·         Roedd problemau gyda CThEM yn gohirio ad-daliadau TAW wedi’u datrys; Roedd ad-daliadau TAW o fis Hydref 2024 i fis Ionawr 2025, sef cyfanswm o £87,160.49, bellach wedi dod i law. Ni chodwyd cwyn ffurfiol, ond byddai wedi bod pe bai unrhyw oedi pellach oherwydd yr effaith ar lif arian y Cyngor.

·         Cais am gerdyn debyd busnes wedi bod yn llwyddiannus a cherdyn wedi ei dderbyn.

·         Byddai’r Clerc a’r Maer yn cyfarfod â’r Cambrian News ddydd Mercher 26 Chwefror 2025.

·         Roedd Archwilio Cymru wedi cychwyn ar y gwaith ar archwiliad 2023-24, a derbyniwyd rhestr o gwestiynau. Hwn oedd archwiliad llawn cyntaf y Cyngor ar y cylch tair blynedd newydd.

 

Updates from Clerk

 

A verbal update was provided by the Clerk:

·         A rateable value had been set for the Presbytery of £9,500. Based on the 2024-25 multiplier, this would equate to business rates of £5,339 per annum. It was noted that this was significantly lower than estimated, and it was disappointing that the VOA had not determined a rateable value sooner as this would have had a significant impact on the budget for 2025-26. As the precept could now not be changed, it was agreed that this overbudgeted amount could be used to supplement other budget headings, for example street cleaning; practically this would be through overspending on any such other headings.

·         Issues with HMRC delaying VAT repayments had been resolved; VAT repayments from October 2024 to January 2025, amounting to £87,160.49, had now been received. A formal complaint had not been raised, however would have been if there had been any further delay due to the impact on the Council’s cashflow.

·         Application for a business debit card had been successful and a card had been received.

·         The Clerk and the Mayor would be meeting with the Cambrian News on Wednesday 26 February 2025.

·         Audit Wales had started the work on the 2023-24 audit, and a list of questions had been received. This was the Council’s first full audit on the new triennial cycle.

 

 
311

 

Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Arwyddion newydd wedi eu gosod yn Mannau Tyfu Plascrug, fodd bynnag roedd y Gymraeg wedi ei hysgrifennu heb brif lythrennau. Byddai angen unioni hyn; opsiynau i’w cywiro i’w trafod gan y Pwyllgor Cyllid.

 

Diolchwyd i’r Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau am ei waith.

Updates from Facilities & Assets Manager

 

A written report was circulated and the following points were raised:

·         New signs had been installed at the Plascrug Growing Spaces, however the Welsh had been written without capital letters. This would need to be rectified; options to rectify to be discussed by Finance Committee.

 

Thanks were extended to the Facilities & Assets Manager for his work.

 

 
312 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartenriaethau

 

Dosbarthwyd adroddiad ysgrifenedig a chodwyd y pwyntiau canlynol:

·         Roedd prif fandiau wedi’u harchebu ar gyfer Gwyl y Castell 2025; diweddariad e-bost i’w ddosbarthu i gynghorwyr.

·         Roedd seremoni sefydlu’r Maer wedi’i threfnu i’w chynnal ddydd Gwener 16 Mai 2025, yn Amgueddfa Ceredigion.

·         Potensial i gynnal gŵyl fwyd haf ym mis Mehefin yn cael ei ystyried; i’w drafod ymhellach.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am ei gwaith.

 

Updates from Events & Partnerships Officer

 

A written report was circulated and the following points were raised:

·         Headline bands had been booked for Gwyl y Castell 2025; email update to be circulated to councillors.

·         The Mayoral inauguration ceremony had been arranged to take place on Friday 16 May 2025, at Ceredigion Museum.

·         Potential to hold a summer food festival in June was being considered; to be discussed further.

 

Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for her work.

 

 
313 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau

 

Aelod o staff i ffwrdd ar wyliau; i’w drafod yn y cyfarfod nesaf.

Updates from Markets & Events Coordinator

 

Staff member away on leave; to be discussed at next meeting.

 

 
314 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Cyngor Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r cyngor hwn YN UNIG

 

Dim

 

VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council

 

None

 
315 Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd nos Lun 27 Ionawr 2025 i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda chywiriadau i’r cyfieithiad..

Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 27 January 2025 to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with corrections to the translation.

 

 
316 Materion yn codi o’r cofnodion:

 

·         260. Datblygiad promenâd y de: Nodwyd bod y rhan o bromenâd y De ger Trwyn y Castell yn cadw traffig dwy ffordd, er ei fod dim ond yn ddigon llydan ar gyfer un lôn o draffig. Mynegwyd pryderon gan y diwydiant pysgota lleol ynghylch a fyddai’r datblygiad yn cyfyngu ar fynediad i’r harbwr ar gyfer lorïau cimychiaid mawr sy’n casglu’n aml o’r harbwr; Cyngh. Alun Williams a Carl Worrall i gysylltu â swyddogion y prosiect a’r Cyng. Endaf Edwards.

·         266. Cofnodion Pwyllgorau Staffio: Nodwyd bod angen cyfarfod pellach i orffen adolygu’r llawlyfr staff.

·         278. Bardd y Dref: Cytunwyd i gynnal cyfarfod anffurfiol i drafod rôl a phenodiad bardd ar gyfer 2025-26. Byddai’r bardd presennol yn cael ei wahodd i’r cyfarfod hwn i roi mewnwelediad ac adborth ar y rôl. Gwirfoddolodd yr aelodau canlynol i fynychu

o   Cyng. Maldwyn Pryse

o   Cyng. Emlyn Jones

o   Cyng. Glynis Somers

o   Cyng. Dylan Lewis-Rowlands

o   Cyng. Talat Chaudhri

o   Cyng. Mari Turner

·         282. Sefydlu’r Maer 2025: Roedd y Maer etholedig wedi trafod trefniadau gyda’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau ac awgrymwyd cynnal sesiwn ymgysylltu cyhoeddus ‘Cwrdd â’r Cyngor’ yn hytrach na’r gwasanaeth arferol ar y Sul. Cytunwyd y gallai syniad Te Parti’r Maer o bosibl gyfuno â’r digwyddiad hwn. I’w drafod ymhellach gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol

 

Matters arising from the Minutes:

 

·         260. South promenade development: It was noted that the section of the South promenade near castle point was retaining two way traffic, despite still only being wide enough for a single lane of traffic. Concerns had been raised by the local fishing industry about whether the development would restrict access to the harbour for large lobster lorries that frequently collected from the harbour; Cllrs. Alun Williams and Carl Worrall to liaise with project officers and Cllr. Endaf Edwards.

·         266. Staffing Committee minutes: It was noted that a further meeting was needed to finish reviewing the staff handbook.

·         278. Bardd y Dref: It was agreed to hold an informal meeting to discuss the role and appointment of a bard for 2025-26. The current bard would be invited to this meeting to provide insight and feedback on the role. The following members volunteered to attend:

o   Cllr. Maldwyn Pryse

o   Cllr. Emlyn Jones

o   Cllr. Glynis Somers

o   Cllr. Dylan Lewis-Rowlands

o   Cllr. Talat Chaudhri

o   Cllr. Mari Turner

·         282. Mayor Making 2025: The Mayor elect had discussed arrangements with the Events & Partnerships Officer and it was suggested to hold a ‘Meet the Council’ public engagement session rather than the usual Sunday service. It was agreed that the Mayor’s Tea Party idea could potentially combined in to this event. To be discussed further by General Management Committee.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Trefnu cyfarfod

Arrange meeting

 

 

 

 

 

 

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

317 Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 3 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion ac argymhellion.

 

Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 3 February 2025, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes and recommendations.

 

 
318 Materion yn codi o’r cofnodion:

 

7. Canllawiau cynllunio atodol: Derbyniwyd ymateb yn gofyn am eglurhad ynglŷn â’r gwrthwynebiad i arwyddion wedi’u goleuo’n fewnol. PENDERFYNWYD gwrthwynebu ‘Arwyddion wedi’u goleuo’n fewnol sy’n wynebu’r tu allan neu wedi’u gosod ar yr adeilad.’

Matters arising from the minutes

 

7. Supplementary planning guidance: A response had been received asking for clarification regarding the opposition to internally illuminated signage. It was RESOLVED to object to ‘Internally illuminated signage that is externally facing or affixed to the building.’

 

 
319 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 10 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda gwelliant i gynnwys y Cyng. Owain Hughes yn absennol gydag ymddiheuriadau.

 

Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 10 February 2025, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes, with an amendment to include Cllr. Owain Hughes as absent with apologies.

 

 
320 Materion yn codi o’r cofnodion:

 

·         301. Toiledau cyhoeddus: Gofynnodd y Clerc am eglurhad ar y cynnig i’w wneud i Gyngor Sir Ceredigion. Cytunwyd mai’r un cynnig fyddai hwn ag ar gyfer 2024-25. PENDERFYNWYD cysylltu â chynghorau tref a chymuned eraill yng Ngheredigion i ddeall eu hymatebion i’r sefyllfa, gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan, Borth a Ceulan a Maesmawr.

  • 304. Swyddog Gweinyddol: Roedd yr ymgeisydd wedi derbyn y swydd a byddai’n dechrau o 17 Mawrth 2025.
Matters arising from the minutes

 

·         301. Public toilets: The Clerk sought clarification on the offer to be made to Ceredigion County Council. It was agreed that this would be the same offer as for 2024-25. It was RESOLVED to contact other town & community councils in Ceredigion to understand their responses to the situation, including Lampeter, Borth and Ceulan & Maesmawr.

·         304. Administration Officer: The candidate had accepted the post and would be starting from 17 March 2025.

 

 
321 Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 10 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda gwelliant i gynnwys y Cyng. Owain Hughes yn absennol gydag ymddiheuriadau a mân gywiriadau i rif yr eitemau.

 

Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 10 February 2025, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes, with an amendment to include Cllr. Owain Hughes as absent with apologies and minor corrections to item numbering.

 

 
322 Materion yn codi o’r cofnodion:

 

·         5. Te Parti’r Maer: PENDERFYNWYD gohirio penderfyniad ar yr argymhelliad i’w drafod ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol, i ystyried cyfuno’r digwyddiad gyda digwyddiad ‘Cwrdd â’r Cyngor’ ar gyfer sefydlu’r Maer 2025.

·         7. Clwb Bowlio Placrug: PENDERFYNWYD gohirio penderfyniad ar yr argymhelliad hyd nes y byddai gwybodaeth bellach ar gostau ar gael.

·         8.1. Plac Cerdd Ystwyth: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhelliad.

·         8.2. Plac Cranogwen: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhelliad.

·         9. Chwyn stryd: PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhelliad.

Matters arising from the minutes

 

·         5. Mayor’s Tea party: It was RESOLVED to postpone decision on the recommendation for further  discussion at next General Management Committee meeting, to consider combining the event with a ‘Meet the Council’ event for 2025 Mayor making.

·         7. Placrug Bowling Club: It was RESOLVED to postpone decision on the recommendation until further information on costs was available.

·         8.1. Cerdd Ystwyth plaque: It was RESOLVED to approve the recommendation and proceed with commissioning a plaque.

·         8.2. Cranogwen plaque: It was RESOLVED to approve the recommendation and proceed with commissioning a plaque.

·         9. Street weeding: It was RESOLVED to approve the recommendation and prioritise the commercially active areas.

 

 
323 Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun, 17 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cofnodion gyda diwygiad i nodi’r pwerau dirprwyedig a ddefnyddir o dan eitem 7. i ychwanegu llofnodwyr awdurdodedig at fandad banc y Cyngor.

 

Diolchwyd i’r Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau am fynychu a chymryd cofnodion yn absenoldeb y Clerc.

Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 17 February 2025, to confirm accuracy

 

It was RESOLVED to approve the minutes with an amendment to specify the delegated powers used under item 7. to add authorised signatories to the Council’s bank mandate.

 

Thanks were extended to the Events & Partnerships Officer for attending and taking minutes in the Clerk’s absence.

 

 
324 Materion yn codi o’r cofnodion:

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r argymhellion.

 

Matters arising from the minutes

 

It was RESOLVED to approve the recommendations.

 
325 Ystyried gwariant Mis Ionawr

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gwariant.

To consider February expenditure

 

It was RESOLVED to approve the expenditure.

 

 
326 Cymeradwyo cyfrifon Mis Rhagfyr

 

PENDERFYNWYD i gymeradwyo’r cyfrifon.

 

To approve January accounts

 

It was RESOLVED to approve the accounts.

 

 
327 Cwestiynau sy’n ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG.

 

Dim.

 

Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit

 

None.

 
328 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol

 

Dim. Atgoffwyd yr aelodau o bwysigrwydd mynychu cyfarfodydd a darparu adroddiadau ysgrifenedig.

 

WRITTEN Reports from representatives on outside bodies

 

None. Members were reminded of the importance of attending meetings and providing written reports.

 
329 Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 330 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod

 

PENDERFYNWYD gwahardd y wasg a’r cyhoedd.

To exclude the press and public for the duration of item 330, due to the commercially sensitive nature of the business to be discussed

 

It was RESOLVED to exclude the press and public.

 

 
330 Ystyried a dyfarnu contractau ar gyfer y gwaith canlynol

 

Roedd cyfleoedd contract wedi’u hysbysebu’n gyhoeddus a gwahoddwyd dyfynbrisiau dros gyfnod o dair wythnos. Derbyniwyd diddordeb sylweddol gan gontractwyr lleol, ond yn anffodus nid oedd hyn wedi’i adlewyrchu yn y cyflwyniadau terfynol. Dyfarnwyd cytundebau fel a ganlyn:

To consider and award contracts for the following works

 

Contract opportunities had been advertised publicly with quotations invited over a three week period. Significant interest had been received from local contractors, however this had unfortunately not been reflected in the final submissions. Contracts were awarded as follows:

 

 
330.1 Cynnal a chadw tiroedd

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r contract i Mid Wales Landscaping.

Grounds maintenance

 

It was RESOLVED to award the contract to Mid Wales Landscaping.

 

 
330.2 Gwagio biniau sbwriel

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r contract i T O Davies

Litter bin emptying

 

It was RESOLVED to award the contract to T O Davies.

 

 
330.3 Cynnal a chadw gwelyau blodau a borderi llwyni

 

Dim ond un dyfynbris a dderbyniwyd, er gwaethaf hysbysebu’n gyhoeddus. Y Clerc i gymharu’r dyfynbris hwn â’r costau cyfredol i’w hystyried mewn cyfarfod arbennig, a gynhelir ddydd Llun 17 Mawrth 2025, cyn cyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

Flower beds & shrub borders maintenance

 

Only one quotation had been received, despite public advertisement. The Clerk to compare this quotation to current costs for consideration at an extraordinary meeting, to be held on Monday 17 March 2025, ahead of the Finance Committee meeting.

 

Cyfarfod arbennig

Extraordinary meeting

330.4 Dyfrio gwelyau blodau a borderi llwyni

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r contract i Brynolwg.

Flower beds & shrub borders watering

 

It was RESOLVED to award the contract to Brynolwg.

 

 
330.5 Cynnal a chadw dodrefn stryd

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r contract i G D Evans.

Street furniture maintenance

 

It was RESOLVED to award the contract to G D Evans.

 

 
330.6 Cynnal a chadw meysydd chwarae

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r contract i T O Davies.

Playground equipment maintenance

 

It was RESOLVED to award the contract to T O Davies.

 

 
330.7 Ffensio a chlirio tir

 

PENDERFYNWYD dyfarnu’r contract i M L Landscapes.

Fencing & Ground clearance

 

It was RESOLVED to award the contract to M L Landscapes.

 

 
331 Trafnidiaeth Cyngor Tref: prynu cerbyd

 

Roedd opsiynau eraill yn dal i gael eu hystyried; i’w drafod mewn cyfarfod arbennig ddydd Llun 17.3.2025. Awgrymwyd y gallai prydlesu cerbyd yn hytrach na phrynu fod yn fwy priodol, a gallai agor y drws i opsiynau trydan.

Town Council Transportation: Purchasing a vehicle

 

Alternative options were still being considered; to be discussed at extraordinary meeting on Monday 17.3.2025. It was suggested that leasing a vehicle rather than purchasing could be more appropriate, and may open the door to electric options.

 

Cyfarfod arbennig

Extraordinary meeting

332 Cytuno ar ddyddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y gweithgor blodau

 

PENDERFYNWYD i’r Clerc gylchredeg arolwg o ddyddiadau posib i’r aelodau, ar gyfer cyfarfod i’w gynnal o fewn y pythefnos nesaf.

Agree a date for the next flowers working group meeting

 

It was RESOLVED for the Clerk to circulate a poll of potential dates to members, for a meeting to be held within the next two weeks.

 

 
333 Ymgynghoriad cyhoeddus ar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru

 

Nodwyd mai dyddiad cau’r ymgynghoriad oedd 4 Ebrill 2025. I’w drafod gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol. Diolchwyd i’r Cyng. Jeff Smith am baratoi ymateb drafft.

 

Mid Wales Regional Transport Plan public consultation

 

It was noted that the consultation closing date was 4 April 2025. To be discussed by General Management Committee. Thanks were extended to Cllr. Jeff Smith for preparing a draft response.

 

 

Agenda RhC

GM Agenda

334 Prosiect Celf Sustrans

 

Gofynnwyd am awgrymiadau ar themâu ar gyfer y gosodiad celf arfaethedig ar gyfer y morglawdd o dan bont Trefechan. PENDERFYNWYD awgrymu’r canlynol:

·         Dathliad o’r brotest a gynhaliwyd ar bont Trefechan yn 1963 gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

·         Adlewyrchiad o’r lleoliad fel rhan o lwybrau beicio cenedlaethol Ystwyth a Rheidol.

 

Nodwyd nad oedd y lleoliad arfaethedig yn perthyn i’r Cyngor Tref ac y dylid cael caniatâd perchennog y tir.

Sustrans Art Project

 

Suggestions were sought on themes for the art installation proposed for the sea defence wall underneath Trefechan bridge. It was RESOLVED to suggest the following:

·         A celebration of the protest held on Trefechan bridge in 1963 by Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

·         A reflection of the location being part of both the Ystwyth and Rheidol national cycle routes.

 

It was noted that the proposed location did not belong to the Town Council and that landowner’s permission should be obtained.

 

 
335 Gwneud rhan o dir y Castell yn barth di-gŵn (Cyng. Umer Aslam)

 

Ni wnaed unrhyw benderfyniad a chytunwyd i’w drafod ymhellach gan y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol i gynnwys y posibilrwydd o ymgynghoriad cyhoeddus. Cyngh. Umer Aslam a Kerry Ferguson i ddrafftio deunyddiau ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Gyffredinol.

 

Nodwyd bod y Cyngor wedi gwneud cais o’r blaen i’r hen lain a phytio gael ei gynnwys yn ei brydles ar dir y Castell gan Gyngor Sir Ceredigion er mwyn ei drawsnewid yn faes cŵn pwrpasol. I’w godi eto gyda Chyngor Sir Ceredigion.

Making part of the castle grounds a dog free zone (Cllr. Umer Aslam)

 

No decision was made and it was agreed to be discussed further by the General Management Committee, to include the possibility of a public consultation. Cllrs. Umer Aslam and Kerry Ferguson to draft materials for General Management Committee meeting.

 

It was noted that the Council had previously requested for the old pitch & putt to be included in its lease of the Castle grounds from Ceredigion County Council in order to transform it into a dedicated dog park. To be raised with Ceredigion County Council again.

 

Agenda RhC

GM Agenda

  PENDERFYNWYD gohirio Rheol Sefydlog 3x ac ymestyn y cyfarfod tŷ hwnt i 21:00. It was RESOLVED to suspend Standing Order 3x and extend the meeting beyond 21:00.  
336 Cyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol tymhorol

 

PENDERFYNWYD cyflogi cymhorthydd tymhorol o Ebrill hyd at ddiwedd Hydref 2025 ar gost o hyd at £22,790.89. Byddai’r gost hon yn cael ei thalu o gyllideb glanhau strydoedd 2025-26.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o hyd at £2,940.76 i gyflogi’r aelod hwn o staff ym mis Mawrth 2025. Byddai’r gost hon yn cael ei thalu o gyllideb glanhau strydoedd 2024-25.

Employing a seasonal Environmental Assistant

 

It was RESOLVED to employ a seasonal assistant from April to the end of October 2025 at a cost of up to £22,790.89. This cost would be paid for from the 2025-26 street cleaning budget.

 

It was RESOLVED to approve expenditure of up to £2,940.76 to employ this member of staff in March 2025. This cost would be paid for from the 2024-25 street cleaning budget.

 

 
337 Ymgynghoriad cyn-gynllunio: 8, 10 a 12 Stryd y Faenor

 

Datganodd y Cyng Maldwyn Pryse fuddiant personol oherwydd ei fod yn adnabod y datblygwr.

 

Mae’r Cyngor Tref yn gyffredinol gadarnhaol ynghylch y cais ac yn croesawu’r darpariaethau ar gyfer storio beiciau a gwastraff. Rydym yn croesawu ymhellach gosod ffenestri codi pren ar flaen yr eiddo, a byddai’n dda gweld y rhain yn cael eu gosod drwyddi draw.

 

Rydym yn cefnogi cadw’r waliau a’r rheiliau o flaen yr eiddo a hoffem weld y llwybrau teils yn cael eu cadw hefyd.

 

Byddem yn croesawu unrhyw fesurau y gellir eu cyflwyno fel rhan o’r cais i sicrhau bod y lôn gyfagos yn cael ei chadw’n lân ac yn rhydd o wastraff.

 

Dylid gosod amod yn atal y preswylfeydd rhag cael eu defnyddio fel llety gwyliau neu ail gartrefi.

Pre-planning application consultation: 8, 10 & 12 Stryd y Faenor

 

Cllr. Maldwyn Pryse declared a personal interest due to knowing the developer.

 

The Town Council is generally positive about the application and welcomes the provisions for bicycle and waste storage. We further welcome the installation of wooden sash windows to the front of the property, and it would be good to see these installed throughout.

 

We support the retention of the walls and railings to the front of the property and would like to see the tiled pathways retained also.

 

We would welcome any measures that can be introduced as part of the application to ensure the alleyway adjacent is kept clean and free from waste.

 

A condition should be placed preventing the residences from being used as holiday accommodation or second homes.

 

 
338 Ceisiadau cynllunio

 

Planning applications

 

 
338.1 A250065: Oregon House, Stryd Powell

 

Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran yn y trafodaethau.

 

DIM GWRTHWYNEBIAD

 

A250065: Oregon House, Stryd Powell

 

Cllr. Alun Williams did not participate in discussions.

 

NO OBJECTION

 

 
338.2 A250076: It’s a Bargain, 44 Ffordd y Môr

 

Ni chymerodd y Cyng. Alun Williams ran yn y trafodaethau.

 

Mae’r Cyngor Tref YN GWRTHWYNEBU gan nad yw’r arwyddion presennol a’r arwyddion arfaethedig yn gweddu i’r ardal leol nac ychwaith yn ddatblygiad sympathetig o’r safle. Rydym yn cytuno â asesiad adran dreftadaeth Cyngor Sir Ceredigion. Nid oes digon o wybodaeth am y gwaith coed uwchben y ffenestri ac nid yw diagram 1 o’r drychiad blaen arfaethedig yn gwneud synnwyr.

 

Hoffai’r Cyngor atgoffa’r ymgeiswyr i gyflwyno cais cynllunio ar gyfer eu harwyddion presennol, nad yw’n cydymffurfio â’r canllawiau atodol ar ddyluniad blaen siop a ffasâd masnachol yn Aberystwyth.

A250076: It’s a Bargain, 44 Ffordd y Môr

 

Cllr. Alun Williams did not participate in discussions.

 

The Town Council OBJECTS as the current and proposed signage is not in keeping with the locality, nor is it a sympathetic development of the site. We agree with the assessment of Ceredigion County Council’s heritage department. There is not sufficient information provided on the woodwork above the windows and diagram 1 of the proposed front elevation does not make sense.

 

The Council would like to remind the applicants to submit a planning application for their current signage, which does not conform to the supplementary guidance on shopfront and commercial facade design in Aberystwyth.

 

 
339 Gohebiaeth

 

Correspondence  
339.1 Datblygiad promenâd y de: Gohebiaeth gan Gyngor Sir Ceredigion i drefnu cyfarfod i drafod y potensial i osod planwyr ar Y Ro Fawr yn dilyn gwaith; y Clerc a’r Cyng. Brian Davies i fynychu. South promenade development: Correspondence from Ceredigion County Council to arrange a meeting to discuss potential to install planters on South Marine terrace following works; the Clerk and Cllr. Brian Davies to attend.  
339.2 Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol: Adroddiad blynyddol wedi’i gyhoeddi ar gyfer 2025-26. Independent Remuneration Panel: Annual report published for 2025-26.  
339.3 Gwyl Crime Cymru: Cais am gymorth ariannol; i’w hystyried gyda cheisiadau grant cymunedol. Gwyl Crime Cymru: Request for funding support; to be considered with community grant applications.  

Daeth y cyfarfod i ben am 21:40                                                      The meeting was closed at 21:40

Cofnodion:

Cyngor Tref   ABERYSTWYTH   Town Council

Tŷ’r Offeiriad / The Presbytery

Neuadd Gwenfrewi

Morfa Mawr / Queen’s Road

Aberystwyth

SY23 2BJ

    council@aberystwyth.gov.uk                           www.aberystwyth.gov.uk

01970 624761

Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Maldwyn Pryse

19.2.2025

 

Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor

 

Fe’ch gelwir i fynychu cyfarfod arbennig o’r CYNGOR LLAWN, i’w gynnal o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr ar Nos Lun 24 Chwefror 2025 am 18:30.

 

You are summoned to attend an extraordinary meeting of FULL COUNCIL to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road on Monday, 24 February 2025 at 18:30.

 

Agenda

 

 

305 Presennol Present
306 Ymddiheuriadau ac absenoldeb Apologies & absences
307 Datgan Diddordeb ar faterion sy’n codi o’r Agenda Declaration of Interest on Matters arising from the Agenda
308 Cyfeiriadau Personol Personal References
309 Adroddiad ar weithgareddau’r Maer Mayoral activity report
310 Diweddariadau gan y Clerc Updates from Clerk
311 Diweddariadau gan y Rheolwr Cyfleusterau ac Asedau Updates from Facilities & Assets Manager
312 Diweddariadau gan y Swyddog Digwyddiadau a Phartneriaethau Updates from Events & Partnerships Officer
313 Diweddariadau gan y Cydlynydd Marchnad a Digwyddiadau Updates from Market & Events Coordinator
314 Adroddiadau AR LAFAR gan Gynghorwyr Sir Ceredigion ar faterion sydd yn ymwneud â’r Cyngor hwn YN UNIG VERBAL reports from Ceredigion County Councillors on matters ONLY pertaining to this Council
315 Cofnodion o gyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 27 Ionawr 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the meeting of Full Council held on Monday 27 January 2025, to confirm accurac
316 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
317 Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar nos Lun 3 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Planning Committee meeting held on Monday 3 February 2025, to confirm accuracy
318 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
319 Cofnodion o gyfarfod arbennig y Cyngor Llawn a gynhaliwyd ar nos Lun 10 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the extraordinary meeting of Full Council held on Monday 10 February 2025, to confirm accuracy
320 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
321 Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol a gynhaliwyd ar nos Lun 10 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the General Management Committee meeting held on Monday 10 February 2025, to confirm accuracy
322 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
323 Cofnodion o gyfarfod y Pwyllgor Cyllid a gynhaliwyd ar nos Lun 17 Chwefror 2025, i gadarnhau cywirdeb Minutes of the Finance Committee meeting held on Monday 17 February 2025, to confirm accuracy
324 Materion yn codi o’r cofnodion Matters arising from the minutes
325 Cymeradwyo gwariant mis Chwefror To approve February expenditure
326 Cymeradwyo cyfrifon mis Ionawr To approve January accounts
327 Cwestiynau sydd yn ymwneud â materion tu fewn cylch gorchwyl y Cyngor hwn YN UNIG Questions relating ONLY to matters in this Council’s remit
328 Adroddiadau YSGRIFENEDIG gan gynrychiolwyr ar gyrff allanol WRITTEN reports from representatives on outside bodies
329 Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 330 oherwydd natur gyfrinachol y busnes i’w drafod To exclude the press and public for the duration of item 330, due to the commercially sensitive nature of the business to be discussed
330 Ystyried a dyfarnu contractau ar gyfer y gwaith canlynol: To consider and award contracts for the following works:
330.1 Cynnal a chadw tiroedd Grounds maintenance
330.2 Gwagio biniau sbwriel Litter bin emptying
330.3 Cynnal a chadw gwelyau blodau a borderi llwyni Flower beds & shrub borders maintenance
330.4 Dyfrio gwelyau blodau a borderi llwyni Flower beds & shrub borders watering
330.5 Cynnal a chadw meysydd chwarae a dodrefn stryd Street furniture & playground equipment maintenance
330.6 Ffensio a chlirio tir Fencing & ground clearance
331 Trafnidiaeth Cyngor Tref: prynu cerbyd Town Council Transportation: Purchasing a Vehicle
332 Cytuno ar ddyddiad ar gyfer cyfarfod nesaf y gweithgor blodau Agree a date for the next flowers working group meeting
333 Ymgynghoriad cyhoeddus ar Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Canolbarth Cymru Mid Wales Regional Transport Plan public consultation
334 Prosiect Celf Sustrans Sustrans Art Project
335 Gwneud rhan o dir y Castell yn barth di-gŵn (Cyng. Umer Aslam) Making part of the Castle grounds a dog free zone (Cllr. Umer Aslam)
336 Cyflogi Cynorthwy-ydd Amgylcheddol tymhorol Employing a seasonal Environmental Assistant
337 Ymgynghoriad cyn-gynllunio: 8, 10 a 12 Stryd y Faenor Pre-planning application consultation: 8, 10 & 12 Stryd y Faenor
338 Ceisiadau Cynllunio Planning Applications
338.1 A250065: Oregon House, Stryd Powell A250065: Oregon House, Stryd Powell
338.2 A250076: It’s a Bargain, 44 Ffordd y Môr A250076: It’s a Bargain, 44 Ffordd y Môr
339 Gohebiaeth Correspondence

Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely

Will Rowlands

Clerc Tref  Aberystwyth Town Clerk

 

Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion

01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk

Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details