Cyngor Llawn
18/08/2025 am 6:30 pm
Cofnodion:
Cyngor Tref Aberystwyth Town Council
Cofnodion cyfarfod y Cyngor Llawn a gynhaliwyd o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, Morfa Mawr
Meeting of the Full Council meeting held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, Queen’s Road
18.8.2025
|
COFNODION / MINUTES
|
|||
| 140 | Yn bresennol:
Cyng. Emlyn Jones (Cadeirydd) Cyng. Dylan Lewis-Rowlands Cyng. Kerry Ferguson Cyng. Talat Chaudhri Cyng. Glynis Somers Cyng. Julien Brun Cyng. Dani Thomas Cyng. Alun Williams Cyng. Mari Turner Cyng. Umer Aslam (Eitemau 140 i 152 yn unig) Cyng. Lucy Huws (Eitemau 140 i 150 yn unig) Cyng. Jeff Smith Cyng. Bryony Davies (Eitemau 149 i 158 yn unig)
Yn mynychu: Will Rowlands (Clerc) Catrin Morgan-Lewis (Swyddog Gweinyddol) Carol Thomas (Cyfieithydd)
|
Present:
Cllr. Emlyn Jones (Chair) Cllr. Dylan Lewis-Rowlands Cllr. Kerry Ferguson Cllr. Talat Chaudhri Cllr. Glynis Somers Cllr. Julien Brun Cllr. Dani Thomas Cllr. Alun Williams Cllr. Mari Turner Cllr. Umer Aslam (Items 140 to 152 only) Cllr. Lucy Huws (Items 140 to 150 only) Cllr. Jeff Smith Cllr. Bryony Davies (Items 149 to 158 only)
In attendance: Will Rowlands (Clerk) Catrin Morgan-Lewis (Administration Officer) Carol Thomas (Translator)
|
|
| 141 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb
Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr aelodau canlynol, a PHENDERFYNWYD cymeradwyo eu habsenoldeb: · Cyng. Brian Davies · Cyng. Maldwyn Pryse · Cyng. Carl Worrall
Yn absennol heb ymddiheuriadau: · Cyng. Mair Benjamin · Cyng. Mark Strong
|
Apologies and absence
Apologies had been received from the following members, and it was RESOLVED to approve their absence: · Cllr. Brian Davies · Cllr. Maldwyn Pryse · Cllr. Carl Worrall
Absent without apologies: · Cllr. Mair Benjamin · Cllr. Mark Strong |
|
| 142 | Datgan Diddordeb ar faterion yn codi o’r agenda
· 155 Cymeradwyo gwariant mis Awst: Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson fuddiant gan fod anfonebau gan gleientiaid eu busnes wedi’u cynnwys yn y gwariant. · 155 Cymeradwyo gwariant mis Awst: Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant gan fod anfonebau gan gleientiaid eu busnes wedi’u cynnwys yn y gwariant. · 155 Cymeradwyo gwariant mis Awst: Datganodd y Cyng. Jeff Smith fuddiant oherwydd anfoneb gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sef ei leoliad gwaith. · 156 Ymgynghoriad ar bolisi ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion: Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant oherwydd ei rôl fel Cynghorydd Sir. |
Declaration of Interest on Matters Arising from the agenda
· 155 To approve August expenditure: Cllr. Kerry Ferguson declared an interest as invoices from their business clients were included in the expenditure. · 155 To approve August expenditure: Cllr. Emlyn Jones declared an interest as invoices from their business clients were included in the expenditure · 155 To approve August expenditure: Cllr. Jeff Smith declared an interest due to an invoice from the National Library of Wales, his place of employment. · 156 Ceredigion County Council consultation on engagement policy: Cllr. Alun Williams declared an interest due to being a County Councillor.
|
|
| 143 | Cyfeiriadau Personol
· Estynnwyd cydymdeimladau i’r Cyng. Maldwyn Pryse yn dilyn marwolaeth ei dad. Bydd cerdyn yn cael ei anfon ar ran y Cyngor.
|
Personal References
· Condolences were extended to Cllr. Maldwyn Pryse following the passing of his father. A card would be sent on behalf of the Council.
|
Anfon cerdyn Send card |
| 144 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda
Nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol. |
Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda
There were no members of the public present.
|
|
| 145 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 146, oherwydd natur gyfreithiol sensitif y busnes i’w drafod
PENDERFYNWYD i wahardd y wasg a’r cyhoedd yn unol a Atodlen 12A (16) o’r Ddefdd Llywodraeth Leol 1972 |
To exclude the press & public for the duration of item 146 due to the legally sensitive nature of business to be discussed
It was RESOLVED to exclude the press & public in accordance with Schedule 12A (16) of the Local Government Act 1972.
|
|
| 146
|
Hawliad dadfeiliadau 11 Stryd y Popty
PENDERFYNWYD ceisio cyngor cyfreithiol pellach gan yr un cyfreithiwr a ymgynghorwyd yn flaenorol ar y mater. |
11 Baker Street dilapidations claim
It was RESOLVED to seek further legal advice from the same solicitor previously consulted on the matter.
|
|
| 147 | Hyfforddiant staff
|
Staff training | |
| 147.1
|
Hyfforddiant goruchwyliwr Gwaith Ffyrdd a Stryd Newydd
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant amcanfyfrifed o hyd at £1,200 i anfon y Rheolwr Asedau a Chyfleusterau ar gwrs hyfforddi goruchwyliwr Gwaith Ffyrdd a Stryd Newydd
Nodwyd y dylid trefnu hyfforddiant yn y dyfodol cyn i gymwysterau ddod i ben.
Nodwyd hefyd y byddai’r gwariant a gymeradwywyd o dan eitemau 147.1 a 147.2 yn arwain at orwariant o dan y bennawd cyllideb 1110 Treuliau Swyddogion (hyfforddiant, teithio ayyb.) o tua £1,000. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gorwariant hwn.
|
New Roads & Street Works supervisor training
It was RESOLVED to approve estimated expenditure of up to £1,200 to send the Assets & Facilities Manager on the New Roads & Street Works supervisor training course.
It was noted that in future training should be arranged to take place before qualifications expire.
It was further noted that expenditure approved under items 147.1 & 147.2 would together mean an overspend on the budget heading 1110 Officer Expenses (training, travel etc.) of around £1,000. It was RESOLVED to approve this over-expenditure. |
|
| 147.2 | Hyfforddiant arolygu offer chwarae
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o £1,190 i alluogi’r Rheolwr Asedau a Chyfleusterau a’r Cynorthwyydd Amgylcheddol i fynychu cyrsiau arolygu offer chwarae — arolygiadau gweithredol ac arolygiadau rheolaidd, yn y drefn honno.
Nodwyd y dylid trefnu hyfforddiant yn y dyfodol cyn i gymwysterau ddod i ben.
Nodwyd hefyd y byddai’r gwariant a gymeradwywyd o dan eitemau 147.1 a 147.2 yn arwain at orwariant o dan y bennawd cyllideb 1110 Treuliau Swyddogion (hyfforddiant, teithio ayyb.) o tua £1,000. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r gorwariant hwn.
|
Play equipment inspections training
It was RESOLVED to approve expenditure of £1,190 for the Assets & Facilities Manager and the Environmental Assistant to attend playground equipment operational inspections and routine inspections courses respectively.
It was noted that in future training should be arranged to take place before qualifications expire.
It was further noted that expenditure approved under items 147.1 & 147.2 would together mean an overspend on the budget heading 1110 Officer Expenses (training, travel etc.) of around £1,000. It was RESOLVED to approve this over-expenditure. |
|
| 148 | Golchi Strydoedd
Roedd adroddiad ysgrifenedig wedi’i gylchredeg ymlaen llaw yn amlinellu opsiynau ar gyfer golchi strydoedd yn Aberystwyth. Fodd bynnag, roedd sicrhau contractwr wedi profi’n anodd oherwydd maint a chost y gwaith, diffyg argaeledd lleol, a chyfyngiadau amser i osgoi tarfu.
PENDERFYNWYD dyrannu cyllid ar gyfer golchi strydoedd yn y gyllideb ddrafft ar gyfer 2026–27 a bwrw ymlaen â chynnal ymarfer tendro yn y Flwyddyn Newydd, gyda’r nod o gynnig contract aml-flwyddyn a fyddai’n galluogi rhaglen waith strwythuredig gyda darparwr ymrwymedig.
Cynhaliwyd treial o olchi mannau penodol ar rai strydoedd yn Aberystwyth yn gynharach yn yr Haf. Derbyniwyd hyn yn dda, gyda sylwadau cadarnhaol gan y cyhoedd am ymddangosiad gwell y dref. Yn unol â hynny, PENDERFYNWYD ymestyn y gwaith hwn i gynnwys golchi mannau penodol ar Y Stryd Fawr a Ffordd y Môr.
Trafododd y Cyngor gynllunio ar gyfer y dyfodol, a oedd yn cynnwys:
· Byddai busnesau’n cael eu cysylltu i nodi unrhyw drefniadau presennol, ac efallai y byddai’r amserlen golchi yn cael ei gynyddu y tu hwnt i ddwywaith y flwyddyn, gyda glanhau achlysurol yn ôl yr angen. · Byddai cyfarfod Balchder Bro yn cael ei drefnu i archwilio camau nesaf ac i wella ymgysylltiad â’r cyhoedd, gan gynnwys rhannu manylion y gwaith a’r costau.
|
Street Washing
A written report had been circulated prior outlining options for power washing streets in Aberystwyth. However, securing a contractor had proven difficult due to the scale and cost of the work, limited local availability, and timing constraints to avoid disruption.
It was RESOLVED to allocate funding for street washing in the 2026–27 draft budget and proceed with a tender exercise in the new year, to tender for a multi-year contract that would enable a structured programme of works with a committed provider.
A trial of spot washing had been carried out on selected streets in Aberystwyth earlier in the Summer. This had been well received, with positive feedback from the public on the improved appearance of the town. Accordingly, it was RESOLVED to extend this work to undertake additional spot washing on Y Stryd Fawr and Ffordd y Môr.
The Council discussed future planning which included:
· Businesses would be contacted to identify any existing arrangements, and the washing schedule may be increased beyond twice a year, with ad-hoc cleaning as needed. · A Civic Pride meeting would be arranged to explore next steps and improve public engagement, including sharing details of the work and its costs.
|
|
| 149 | Addurniadau Nadolig
Ymunodd y Cyng. Bryony Davies â’r cyfarfod.
Yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol i gael costau ar gyfer addurniadau polyn lamp ar Rhodfa’r Gogledd, Heol y Bont, Y Porth Bach, Trefechan a Phenparcau, cafwyd cost amcangyfrifedig gan ddeiliad contract goleuadau Nadolig presennol y Cyngor o tua £800 fesul polyn lamp.
Eglurwyd bod y gost hon mor uchel, gan ei bod yn cynnwys gosod cysylltiad trydanol newydd ar y polyn lamp, oherwydd bod y rhan fwyaf o’r colofnau yn yr ardaloedd hyn wedi cael eu disodli yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac felly nad oedd bellach ganddynt unrhyw socedi trydan.
Byddai angen caniatâd gan Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC) hefyd i wneud gwaith ar bolion lampau yn yr ardaloedd hyn (ar wahân i’r Porth Bach), a oedd wedi’i ofyn am ganiatâd ond heb ei dderbyn eto.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o hyd at £5,000 i brynu stoc newydd o oleuadau croesfan rhewlif, mewn lliw gwyn cynnes, i gymryd lle’r stoc bresennol. Roedd hyn yn cynnwys croesfannau ychwanegol ar Y Porth Bach, Heol y Wig a’r Stryd Newydd, fel y penderfynwyd yn 2024.
PENDERFYNWYD rhoi’r stoc bresennol o oleuadau croesfan rhewlif i grwpiau cymunedol ym Mhenparcau, gan gynnwys Fforwm Cymunedol Penparcau, Neuadd Goffa, Eglwys y Santes Anne, Clwb Pêl-droed Penparcau ac Ysgol Llwyn yr Eos.
PENDERFYNWYD ymhellach adleoli’r goeden Nadolig fetel o Faes y Frenhines i Benparcau, ar y lawnt y tu allan i Neuadd Goffa. Gofynnwyd i swyddogion archwilio lleoliad newydd ar gyfer y goeden Nadolig go iawn a brynir fel arfer ar gyfer Penparcau, ochr yn ochr ag opsiynau ar gyfer coeden lai (a gedwir mewn pot) yng Ngardd Goffa Rhoddwyr Organau.
Roedd angen ystyriaeth bellach o hyd i’r potensial ar gyfer addurniadau ychwanegol ar Stryd y Dollborth, yn unol â phenderfyniad y Cyngor ar 17 Mawrth 2025. I’w ystyried gan y Pwyllgor Rheolaeth Cyffredinol.
|
Christmas decorations
Cllr. Bryony Davies joined the meeting.
Following the General Management Committee’s resolution to obtain costings for lamppost decorations on Rhodfa’r Gogledd, Heol y Bont, Y Porth Bach, Trefechan & Penparcau, an estimated cost had been obtained from the Council’s existing Christmas lights contract-holder of around £800 per lamppost.
It was explained that this cost was so high, as it included the installation of a new electrical connection on the lamppost, due to the majority of columns in these areas having been replaced in recent years and no longer having any electrical outlets.
Permission for work to lampposts in these areas (apart from Y Porth Bach) would also require permission from the North and Mid Wales Trunk Road Agency (NMWTRA), which had been requested but not yet received.
It was RESOLVED to approve expenditure of up to £5,000 to purchase a new stock of icicle crossing lights, in warm white colour, to replace the existing stock. This included additional crossings on Y Porth Bach, Heol y Wig and Y Stryd Newydd, as was resolved in 2024. It was RESOLVED to donate the current stock of icicle crossing lights to community groups in Penparcau, including Penparcau Community Forum, Neuadd Goffa, St Anne’s Church, Penparcau Football Club and Ysgol Llwyn yr Eos.
It was further RESOLVED to relocate the metal Christmas tree from Maes y Frenhines to Penparcau, on the green outside Neuadd Goffa. Officers were asked to explore a new location for the real Christmas tree that was usually purchased for Penparcau, alongside options for a smaller (pot held) tree at the Organ Donor Memorial Garden.
Further consideration was still needed into the potential for additional decorations on Stryd y Dollborth, as per the Council’s resolution on 17 March 2025. To be considered by General Management Committee.
|
Agenda RhC GM Agenda |
| 150 | Glanhau Strydoedd ym Mhenparcau
Nodwyd bod un o Gynorthwywyr Amgylcheddol y Cyngor yn cynnal gwaith glanhau strydoedd yn Mhenparcau bob dydd Mercher. Cytunwyd y dylid rhoi cyhoeddusrwydd ehangach am hyn, ac awgrymwyd y dylid cynnwys y wybodaeth hon mewn unrhyw gylchlythyr cymunedol. |
Street Cleaning in Penparcau
It was noted that the one of Council’s Environmental Assistant, currently undertook street cleaning in Penparcau every Wednesday. It was agreed that this should be more widely publicised, and it was suggested that this information be included in any community newsletter.
|
|
| 151 | Blodau’r Gaeaf
Gadawodd y Cyng. Lucy Huws y cyfarfod.
Amlinellwyd cynnig i brynu blodau ychwanegol ar gyfer eu plannu mewn basgedi rhwystr dros y gaeaf, er mwyn atal eu bod yn wag yn ystod y misoedd oer. PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant o £1,598 i blannu’r 68 basgedi gyda Fiola, Eiddew a Hebe dros y gaeaf.
Awgrymwyd y dylai plannu gaeafol gynnwys mwy o blanhigion amryddynnol bytholwyrdd i gynnal diddordeb gweledol drwy gydol y misoedd oer, ac y dylid amrywio’r basgedi i sicrhau blodau parhaus, yn hytrach na phob planhigyn yn blodeuo ar yr un pryd.
|
Winter Flowers
Cllr. Lucy Huws left the meeting.
A proposal was outlined to purchase additional flowers for planting in barrier baskets over the winter, to prevent them being empty over the winter. It was RESOLVED to approve expenditure of £1,598 to plant the 68 baskets with Viola, Ivy & Hebe over the winter.
It was suggested that winter planting should include more evergreen perennials to maintain visual interest throughout the colder months, and that baskets be alternated to ensure continuous blooming, rather than all plants flowering at the same time.
|
|
| 152 | Awgrymiadau ar gyfer buddsoddiad cymunedol gan Aber Instruments
Roedd Aber Instruments wedi cysylltu â’r Cyngor Tref i ofyn am awgrymiadau ar gyfer mentrau buddsoddi cymunedol posibl. Roedd rhestr o syniadau cychwynnol wedi’i chylchredeg ymlaen llaw, gyda gwahoddiad i aelodau gyfrannu awgrymiadau pellach.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r rhestr ganlynol o syniadau ar gyfer ystyriaeth gan Aber Instruments:
· Planwyr a blodau · Hysbysfyrddau · Dodrefn stryd · Celf gyhoeddus a cherfluniau · Golchi strydoedd â phŵer · Gasebos · Addurniadau Nadolig · Diffibrilwyr · Celf stryd · Gardd gymunedol · Murlun gymunedol: wedi’i dylunio a’i phaentio gan artistiaid lleol neu blant ysgol i adlewyrchu treftadaeth, natur neu ddiwylliant y dref · Arddangosfeydd hanes lleol · Celf taflunio awyr agored (e.e. sioeau golau neu gelf fideo wedi’i daflunio ar adeiladau yn ystod digwyddiadau)
Nodwyd y byddai’r Cyngor yn croesawu trafodaeth bellach gydag Aber Instruments i symud ymlaen â’r opsiynau a ffefrir.
|
Suggestions for community investment by Aber Instruments
Aber Instruments had approached the Town Council for suggestions on potential community investment initiatives. A list of initial ideas had been circulated prior, with an invitation for members to contribute further suggestions.
It was RESOLVED to approve the following list of ideas for consideration by Aber Instruments:
· Planters and flowers · Noticeboards · Street Furniture · Public art & sculptures · Power washing · Gazebos · Christmas decorations · Defibrillators · Street art · Community garden · Community mural: Designed and painted by local artists or schoolchildren to reflect the town’s heritage, nature, or culture. · Local history displays · Outdoor projection art (e.g. light shows or video art projected onto buildings during events)
It was noted that the Council would welcome further discussion with Aber Instruments to progress preferred options.
|
|
| 153
|
2027 a dathliadau 750 mlwyddiant Aberystwyth
PENDERFYNWYD gwahodd y rhanddeiliaid allweddol canlynol i fynychu cyfarfod ddiwedd mis Medi i drafod a rhannu syniadau ar gyfer dathlu 750 mlwyddiant Aberystwyth yn 2027: · Prifysgol Aberystwyth · Cyngor Llyfrau Cymru · Cyngor Sir Ceredigion · Llyfrgell Genedlaethol Cymru
PENDERFYNWYD ymhellach i gynnal cyfarfod cyhoeddus ehangach i symud trefniadau ymlaen ym mis Hydref. |
2027 & Aberystwyth 750 year celebrations
It was RESOLVED to invite the following key stakeholders to attend a meeting at the end of September to discuss and share ideas for the celebration of Aberystwyth 750 year anniversary in 2027: · Aberystwyth University · Books Council of Wales · Ceredigion County Council · National Library of Wales
It was further RESOLVED to hold a wider public meeting to progress arrangements after this, in October.
|
Trefnu cyfarfod Arrange meeting |
| 154 | Plac Iris De Freitas
Cylchredwyd geiriad amgen. Gyda rhai gwelliannau pellach, PENDERFYNWYD cymeradwyo geiriad y plac. |
Iris De Freitas Plaque
An alternative wording was circulated. With some further amendments it was RESOLVED to approve the plaque wording.
|
|
| 155 | Cymeradwyo gwariant mis Awst
Datganodd y Cyng. Emlyn Jones fuddiant gan fod anfonebau gan gleientiaid ei fusnes wedi’u cynnwys yn y gwariant.
Datganodd y Cyng. Kerry Ferguson fuddiant gan fod anfonebau gan gleientiaid ei fusnes wedi’u cynnwys yn y gwariant.
Datganodd y Cyng. Jeff Smith fuddiant oherwydd anfoneb gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, sef ei leoliad gwaith.
Gadawodd y Cyng. Emlyn Jones y gadair, a chadeiriwyd y cyfarfod gan y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands am gyfnod yr eitem hon.
PENDERFYNWYD cymeradwyo gwariant mis Awst.
Codwyd y pwyntiau canlynol i’w ystyried ymhellach:
· Cafwyd cais i adolygu gwariant ar fannau gwyrdd, gyda’r Pwyllgor Cyllid i ystyried ymhellach. · Codwyd ymholiad ynghylch yr hysbyseb yn y Cambrian News, a oedd i’w chyhoeddi yn Cambrian News South, ac fe ofynnwyd a oedd hyn yn cynnwys ardal Aberystwyth.
Ymatalodd y Cyng. Emlyn Jones rhag pleidleisio. Ymatalodd y Cyng. Kerry Ferguson rhag pleidleisio. Ymatalodd y Cyng. Jeff Smith rhag pleidleisio.
|
To approve August expenditure
Cllr. Emlyn Jones and declared an interest as invoices from their business clients were included in the expenditure.
Cllr. Kerry Ferguson declared an interest as invoices from their business clients were included in the expenditure.
Cllr. Jeff Smith declared an interest due to an invoice from the National Library of Wales, his place of employment.
Cllr. Emlyn Jones vacated the chair, and Cllr. Dylan Lewis-Rowlands chaired the meeting for the duration of this item.
It was RESOLVED to approve the August expenditure.
The following points were raised for further consideration: · A request was made to review green space spending, with the Finance Committee to consider further. · A query was raised regarding the Cambrian News advert, which was to be published in the Cambrian News South, and it was questioned whether this covered the Aberystwyth area.
Cllr. Emlyn Jones abstained from voting. Cllr. Kerry Ferguson abstained from voting. Cllr. Jeff Smith abstained from voting.
|
|
| 156 | Ymgynghoriad ar bolisi ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion
Datganodd y Cyng. Alun Williams fuddiant am ei fod yn Gynghorydd Sir.
Cytunodd y Cyng. Dylan Lewis-Rowlands a’r Cyng. Jeff Smith i gydlynu ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor Tref, i’w ddrafftio a’i gylchredeg erbyn dydd Gwener 22 Medi 2025. Codwyd y pwyntiau canlynol a PHENDERFYNWYD eu cynnwys yn yr ymateb:
· Roedd ansawdd yr ymgynghoriadau wedi amrywio’n sylweddol; roedd rhai wedi’u rheoli’n dda, tra bod eraill yn gyfyng eu cwmpas ac wedi’u gweithredu’n wael. · Roedd angen mwy o ymgysylltu agored a rhagweithiol, gyda’r ymgynghoriad yn dechrau’n gynharach yn y broses o ddatblygu prosiectau arfaethedig. · Fel corff a etholwyd yn ddemocrataidd, mae’r Cyngor Tref yn cynrychioli’r gymuned leol a dylid parchu ei lais wrth wneud penderfyniadau. · Amlygwyd enghreifftiau o ymgynghori gwael, gan gynnwys yr ymgynghoriad ar Orchymyn Rheoleiddio Traffig (TRO), prosiect datblygu’r Promenâd Deheuol, a’r ymgynghoriad ar y dull pleidleisio a ddefnyddir mewn etholiadau’r Cyngor Sir. Ystyriwyd hefyd fod yr ymgynghoriad presennol ar y polisi ymgysylltu’n rhy gyfyng ei gwmpas. · Er bod y polisi ymgysylltu ei hun wedi’i ysgrifennu’n dda, roedd ei weithredu’n aml yn teimlo’n symbolaidd yn unig. Cydnabu’r Cyngor yr heriau sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â’r cyhoedd, ond pwysleisiodd yr angen i feithrin mwy o ymddiriedaeth rhwng y Cyngor Sir a rhanddeiliaid lleol. |
Ceredigion County Council consultation on engagement policy
Cllr. Alun Williams declared an interest due to being a County Councillor.
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands and Cllr. Jeff Smith agreed to coordinate a response to the consultation on behalf of the Town Council, to be drafted and circulated by Friday 22 September 2025. The following points were raised and it was RESOLVED to include them in the response:
· The quality of consultations had varied significantly; some were well-managed, while others were narrow in scope and poorly executed. · There was a need for more open and proactive engagement, with consultation beginning earlier in the process of proposed projects. · As a democratically elected body, the Town Council represents the local community and its voice should be respected in decision-making. · Examples of poor consultation were highlighted, including the Traffic Regulation Order (TRO) consultation and South Promenade development project, , and the consultation on the voting method used in County Council elections. The current engagement policy consultation was also considered too limited in scope. · While the engagement policy itself was well-written, its implementation often felt tokenistic. The Council acknowledged the challenges involved in public engagement, but emphasised the need for greater trust-building between the County Council and local stakeholders.
|
|
| 157
|
Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
. Cytunodd y Cynghorwyr Dylan Lewis-Rowlands a Jeff Smith i ddrafftio ymateb i’r ymgynghoriad ar ran y Cyngor Tref. Codwyd y pwyntiau canlynol a PENDERFYNWYD eu cynnwys yn yr ymateb:
· Roedd Aberystwyth dan anfantais oherwydd ei lleoliad ar ymyl ffin bwrdd iechyd Hywel Dda, gan fod Ysbyty Cyffredinol Bronglais yn gwasanaethu cleifion o dair bwrdd iechyd yn ddaearyddol. Awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru ddarparu goruchwyliaeth strategol i sicrhau darpariaeth deg o wasanaethau ar draws y rhanbarthau. · Cefnogodd y Cyngor safbwynt Amddiffyn Gwasanaethau Bronglais, er nodwyd y dylai’r ymateb ymdrin â’r ymgynghoriad ehangach, gyda ffocws ychwanegol yn cael ei roi ar y gostyngiad arfaethedig mewn gwasanaethau strôc. |
Hywel Dda University Health Board Clinical Services Plan Consultation
Cllr. Dylan Lewis-Rowlands and Cllr. Jeff Smith agreed to draft a response to the consultation on behalf of the Town Council. The following points were raised and it was RESOLVED to include them in the response:
· Aberystwyth was disadvantaged by its location on the edge of the Hywel Dda health board boundary, as Bronglais General Hospital actually served patients from across three health boards geographically. It was suggested that the Welsh Government should provide strategic oversight to ensure equitable service provision across regions. The Council supported the position of Protect Bronglais Services, though it was noted that the response should address the wider consultation, with extra focus given to the proposed reduction in stroke services. |
|
| 158 | Gohebiaeth
|
Correspondence | |
| 158.1 | Darlith Waldo 2025: Roedd Cymdeithas Waldo Williams a’r Adran Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnal Darlith Waldo 2025, a gyflwynwyd gan Jill Evans ar 26 Medi 2025, rhwng 4:00pm a 6:00pm ar Gampws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.
|
Waldo Lecture 2025: The Waldo Williams Society and the Department of Welsh and Celtic Studies at Aberystwyth University was hosting the Waldo Lecture 2025, delivered by Jill Evans on 26 September 2025, from 4:00pm to 6:00pm at the Penglais Campus, Aberystwyth University. | |
| 158.2 | Stori o’r Gorffennol: Gohebiaeth gan drefnwyr y prosiect celf sain-weledol o’r enw Stori o’r Gorffennol, a oedd yn anelu at ail-greu Aberystwyth yn ddigidol fel anheddiad o’r wythfed ganrif. Roedd y trefnwyr wedi cael gwahoddiad i gyflwyno i’r Pwyllgor Rheoli Cyffredinol.
|
A Tale of the Past: Correspondence from the organisers of the audio-visual art project titled A Tale of the Past , which aimed to digitally reconstruct Aberystwyth as an eighth-century settlement. The organisers had been invited to present to the General Management Committee. | Agenda RhC
GM Agenda |
| 158.3 | Gŵyl Ffilm WOW: Gohebiaeth gan Ŵyl Ffilm -Wales One World (WOW), yn edrych i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio cyn digwyddiadau sydd ar y gorwel, gan gynnwys rhaglen Ecosinema deuddydd ym mis Medi. | WOW film festival: Correspondence from the Wales One World (WOW) Film Festival, looking to explore opportunities for collaboration ahead of upcoming events, including a two-day Ecosinema programme in September and the main festival in March 2026. The organisers had been invited to present to the General Management Committee. | Agenda RhC
GM Agenda |
Daeth y cyfarfod i ben am 20:40 The meeting was closed at 20:40
Cofnodion:
Cyngor Tref ABERYSTWYTH Town Council
|
Ty’r Offeiriad / The Presbytery Neuadd Gwenfrewi Morfa Mawr / Queen’s Road Aberystwyth SY23 2HS |
01970 624761 |
Maer Aberystwyth Mayor: Y Cyng. / Cllr. Emlyn Jones
13.8.2025
Annwyl Gynghorydd / Dear Councillor
Fe’ch gelwir i fynychu cyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn, i’w gynnal o bell ac yn Nhŷ’r Offeiriad, Neuadd Gwenfrewi, ar Nos Lun, 18.8.2025 am 18:30.
You are summoned to attend an extraordinary meeting of the Full Council to be held remotely and at the Presbytery, Neuadd Gwenfrewi, on Monday 18.8.2025 at 18:30.
Agenda
| 140 | Presennol | Present |
| 141 | Ymddiheuriadau ac absenoldeb | Apologies and absences |
| 142 | Datganiadau diddordeb | Declarations of interest |
| 143 | Cyfeiriadau personol | Personal references |
| 144 | Sesiwn cyfranogiad cyhoeddus i aelodau’r cyhoedd sy’n bresennol i godi cwestiynau neu wneud sylwadau ar yr agenda | Public participation session for members of the public present to raise questions or make comments on the agenda |
| 145 | Gwahardd y wasg a’r cyhoedd am gyfnod eitem 146, oherwydd natur gyfreithiol sensitif y busnes i’w drafod | To exclude the press & public for the duration of item 146 due to the legally sensitive nature of business to be discussed |
| 146 | Hawliad dadfeiliadau 11 Stryd y Popty | 11 Baker Street dilapidations claim |
| 147 | Hyfforddiant staff | Staff training |
| 147.1 | Hyfforddiant goruchwyliwr Gwaith Ffyrdd a Stryd Newydd | New Roads & Street Works supervisor training |
| 147.2 | Hyfforddiant arolygu offer chwarae | Play equipment inspections training |
| 148 | Golchi Strydoedd | Street Washing |
| 149 | Addurniadau Nadolig | Christmas decorations |
| 150 | Glanhau Strydoedd ym Mhenparcau | Street Cleaning in Penparcau |
| 151 | Blodau’r Gaeaf | Winter Flowers |
| 152 | Awgrymiadau ar gyfer buddsoddiad cymunedol gan Aber Instruments | Suggestions for community investment by Aber Instruments |
| 153 | 2027 a dathliadau 750 mlwyddiant Aberystwyth | 2027 & Aberystwyth 750 year celebrations |
| 154 | Plac Iris De Freitas | Iris De Freitas Plaque |
| 155 | Cymeradwyo gwariant mis Awst | To approve August expenditure |
| 156 | Ymgynghoriad ar bolisi ymgysylltu Cyngor Sir Ceredigion | Ceredigion County Council consultation on engagement policy |
| 157 | Ymgynghoriad Cynllun Gwasanaethau Clinigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Hywel Dda University Health Board Clinical Services Plan Consultation |
| 158 | Gohebiaeth | Correspondence |
Yr eiddoch yn gywir/ Yours sincerely
Will Rowlands
Clerc Tref Aberystwyth Town Clerk
Gall y cyhoedd fynychu’r Cyngor trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Cyngor Tref am fanylion
01970 624761 / council@aberystwyth.gov.uk
Members of the public can attend the Council by contacting the Town Council Office for details